Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

PENOD 0 AMERICA.

News
Cite
Share

PENOD 0 AMERICA. ODDIWRTH WILLIAM Glwysfrvn EVANS. MRI GOL.,—Gan fy mod yn hoff iawn o anarch fy ngbydgenedl yn ngwlad Jonathan, a phob gwlad arall o ran byny, anturiaf y waith hon i anerch Cymry I GWBlia Lan Gwlad y G&n.' Gan fy mod yn y wlad er's denddeg mlynedd bellach, ac wedi bod yn gweithio yn y gwabanol Dalaethau, y mae genyf well mantais i farnu pethau ac i araethu y gwirionedd nag sydd gan y mil- oedd a ddaethant yma yn ddiweddarach. Nid yw cyflogau y dosbarth gweithiol Cystal ar hyn o bryd ag y gwelwyd bwy rai misoedd yn ol, gan fod masnach yngyffred- inol yn arafu i raddau yn y gauaf bob amser, ond nid oes He i gwyno llawer wedi y cyfan. Gan fod y Cymru fel pob cenedl arall yn ymfodo wrth y miloedd i'r America, carwn adgpeyd gair neu ddau wrthynt yn y fan yma. Anwyl Gymry, y chwi sydd &'ch bwriad ar ddyfod drosodd yma i'r dyben o Wella eich amgylchiadaa, cymerwch y cynghorion canlynol oddiwrth Gymro o waed coch eyfan-un sydd yn caru ei gen. edl, ei iaith, a'i wlad, o eigion ei galon. Gofidus genyf orfod dweyd fod canoedd, os rtad miloedd o Gymry. wedi dyfod drosodd i'r America y blynyddoedd diweddaf, rhai oeddynt yn ddynion cyfrifol a chymeradwy gyda phob achos daionas yn Nghymru, yn wabanol iawn wedi y delont yma. Rhai oeddynt gyd i chrefyddyn Nghymru, ondyn ddigrefydd yma Rhai oeddynt yn ddynion Bobr a diwyd yna, yn feddwon cywilyddus y tu yma i'r mor. Gwell fyddai i'r cyfryw. aros gartref. Dynion sobr a diwyd sydd yn enill y gamp yn America, a diolch i'r nefoedd, y mae genym fel cenedl y cyfryw rai yn y Talaethau Unedig. Oes yn wir, ac y mae llwyddiant yn en dilynbob amser —yn dymorol ac yn ysbrydol. Ychwaneg o'r cyfryw rai sydd eisieu yn America, ac arosed y meddwon gartref am dymor nes y deuant yn llwyrymwrthodwyr,f yna bydd- ant yn addas i symud yn mhlith eu eyd. genedl a chenedloedd ereill yn ngwlad fawr y Gorllewin. Heb sobrwydda diwydrwydd, gwell i bob dyn a dynes aros gartref. Nid oes dim i'w gael yma ond trwy lafur caled, diwydrwydd, a phenderfyniad didroi yn ol. Y mae lluaws mawr yn dyfod yma yn bar hans o wahanol wledydd y byd, gan dybied y byddanti yn bobl gyfoethog yn fuan iawn ar ol glanio yn America, ond i'r gwrth wyneb y try pethau yn gyffredin. Nid yw America yn wyn i gyd, eto i gyd y mae yn tra rhagori ar luaws o wledydd y byd a wyddom ni am danynt Gall y dosbarth gweithiol yn y cyfiredin, fel y dywedais yn barod, trwy ddiwydrwydd, sobrwydd, a dyfalbarhad, enill iddynt eu hunain gartrefi cysurus yn y wlad yma. C&s beth gan ddinasyddion teilwng yr UDol Dalaethau yw meddwod, felly, fy anwyl gydgenedl, os yw yn eich bwriad i ddyfod drosodd yma, Uwyrymwrthodwch &'r hylif meddwol, yn hen ac yn ieuanc, yn wryw a benyw; ac os na wnewch hyn, yn sicr i chwi, bydd eich diwedd yn llawer gwaeth na'r dechreuad yn y wlad hon. Canys y gelyn hwn yn y cyffredin sydd yn baeddu ein cenedl ni, ac yn Uadd eu dylanwad yn mhlith gwahanol gocedloedd y byd y rhan fynychaf. Os pregethu Crist yr oeddech yn Nghymru, pregethu Crist a ddylech hefyd yn America; 08 yn ddiacon yna, yn ddiacon y dyiech fod yma hefyd. Na chladder eioh crefydd yn y mdr, dewch a hi gyda chwi yn gyfan, canys addorn y byd yw crefydd Iesu Grist. Y mae crefydd yn bar lewyrchus yn y Talaethau yn gyffredinol, ac y mae gradd o lwyddiant ar achos Duw yn bresenol drwy yr boll wlad. Duw a fendithio ei weision anwyl gyda'r gorchwyl o efengyleiddio a sobreiddio y byd yn gyffredinol. Y mae pwnc y Tariff yn tynu sylw y wlad yn gyffredinol. Y maent wedi gwneud cyfnewidiadau mawrion eisioes yn mhob cangen o fasEacb, ond nid ydynt eto wedi cyffwrdd a'r haiarn; felly, y mae ein gweith feydd haiarn mewn cyflwr dymnnol-par haed felly yw dymuniad pob Gwerinwr Ajnericanaidd Terfynaf y benod hon gan ddymuno llwyddiant i bob Cymro a Chym- raes. Fy nghofion mwyaf cynes at bawb o'm cydnabod, yn mhell ac agos, a fy mherthynasau anwyl tua chymydogaeth Cwmafon, sef William Jones, Mary ei wraig a'r plant; a John Evans y gof a'i deulu hefyd D. Michael (Dewi Afan) a LI. Griffiths -Yr eiddoch, WILLIAM GLWYSFRYN EVANS, Catasauqna, Lehigh County, Pa. O.Y.—Dipyn yn fer yw y benod hon, ond 08 derbyniol hi, cewch ei rhagorach y tro nesaf mewn hanesiaeth gyffredinol,

BWRDD YSGOL ABERDAR A MR BWRDD…

YCHYDIG NODION AM AMERICA-YR…

--.-------EISTEDDFOD BERTHLWYD,…

EISTEDDFOD BETHEL, NANTYMOEL,…

EISTEDDFOD TRE\LAW.

Advertising

FFEITHIAU AM QUININE B I'…

MEDDYGINIAETH HYNOTAF ya OSfI…

Eu DEFNYDDIOLDBB YN UN GYMY…

"--'-"-AT DAFYDD O'R NANT.