Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

HEREWARD

News
Cite
Share

HEREWARD > "x YR OLAF O'R SABSON. PENOD XXXI. Dywedwch wrthyf yn nghylch Tor- frida," ebe y Brenin William. Dywedodd Ascelin wrtho yn ei chylch, heb anghofio ei hysbysu o'r hyn y mae y croaiclau yn dweyd am dani, sef ei bod yn gallu denu Hereward a'i swyn- yddiaeth. Arferai a swynyddiaeth," meddai, yn ddirgelaidd gyda'i meistres Bichilda o HaJnault. Yr oedd pob dyn yn ei wybod. Yr oedd Arnoul, mab Richilda, fel brawd iddi. Yr oedd cyf- eillgarwch neillduol rhyngddi a'r teulu bob amser." "Y mae hi felly yn ddewines o hynod- rwydd," ebe yr ysgrifenydd. "Y mae yn ymddangos felly," ebe William, gan edrych yn ddifrifol. Ond y mae Hereward yn farchog rhagorol a gwirioneddol ?" "Nid oes amheuaeth. Hyd yn nod pan y cyflawnodd efe y weithriad ysgeler hono yn Peterborough, efe a wnaeth lyeithred ganmoladwy." Ac adroddodd Ascelin pa fodd yr achubodd efe Alf- truda, ac yn lie ei chymeryd fel gwystl, y iftodd yr anfonodd efe hi yn ddyogel at Gilbert. 41 Gweithred ragorol, a dylai gael ei wobrwyo am dani." Paham na losgwch chwi y ddewines, 4 rhoddi iddo Alftruda yn ei lie, gan fod eich mawrhydi yn y fath dymher rasol tuag ato ?" ebe Ivo. 11 Alftruda? Pwy ydyw hi? Yr ydwyf yn awr yn cofio. Gwraig Dolfin ieuanc. Pa 'm, y mae ganddi hi wr eisioes." I u Ond fe fyddai i'w Santeiddrwydd o Eufain wneud hyny oil yn iawn. Pa beth sydd nad all efe ei uniawni?" Ymae terfynau hyd yn nod i'w allu el, onid oes, offeiriad ?" II Y mae ei allu fel cynrychiolydd Duw ar y ddaear yn annherfynol, ond y mae efe, fel Duw ei hun, yn defnyddio y c.)fryw allu er llesiant dynion, ac nid er drwg; fel mai pob daioni a ellir ddysgwyl oddiwrtho, ac nid digofaint a adysgwyl oddiwrtho, ac nid digofaint a gwae." Y mae yn drugarog, ac y mae arnom rwymau mawrion iddo bawb o honom," ebe Ivo, gan na wyddai efe yn amgen nad allai y Pab ei daraw yn farw a. mellten, ond fod ei dynerwch yn ei atal. I I Eto, gallai efe feddwl am hyn; ganys dywed- Snt fod y foneddiges yn hen gyfeilles i Hereward, ac heb fod yn orhofl o'i gwr presenol." Yr ydwyf yn gwybod hyny yn dda," •be William. "Gall fod yn wrthddrych iddo ei dymuno—hi a'i holl diroedd i Mydain. Yn awr, gwnewch hyn ar fy archiad. Anfonwch fynach ag y gellir ymddiried ynddo i Ely, a dyweded wrth y mynachod ein bod wedi penderfynu cymeryd meddiant o'u holl diroedd, os na fvdd iddynt roddi eu hunain i fyny yn mben yr wythnos; a dyweded wrth Hereward, yn enw William o Normandy, os bydd iddo roddi ei hun i fyny i'm tru- garedd i, y bydd iddo gael ei diroedd yn Bourne, a phardwn hefyd iddo ei hun a'i gyfeillion." Uiyddhaodd y dynion, er yn erbyn eu hewyllys, ac aethant ar eu neges. ° Yr ydych wedi chwareu tric gwael 6 mi," ebe Ascelin wrth Ivo, trwy anog y Brenin i roddi Alftruda, i Here- ward." Beth! a oedd arnoch chwi ei heisieu eich hunan ? Ar fy ngair, ni wyddwn i hyny. Ond caffed amynedd ei waith, chwi a'i cewch hi eto, yn nghyda i holl diroedd." Ond yr ydych ar ei rhoddi i Here- ward?" "Gwrandewch arnaf. Y mae yn rbaid i mi ladd yr Hereward hwn. Yr ydwyf yn ei gashau. Nis gallaf fwyta fy ym- porth gan feddwl am dauo. Ei ladd a raid i mi." Nis gallai Ascelin lai na chydsynio. Yn awr, y mae yn rhaid i ni anfon cenadwri y Brenin; ond y mae yn rhaid ychwanegu ato." Y mae hyny yn beryglus." II Felly hefyd y mae rhyfel; felly y mae bwyta ac yfed; felly y mae pob peth. Ond y mae yn rhaid i ni beidio gadael Hereward i ddyfod i mewa. Y mae yn rhaid ei yru i anobaith. Ni raid i'r genad vchwanegu ond un gair-fod y Brenin yn eithrio un yn unig, sef Torfrida, a hyny ar gyfnf e1 bod yn- Gallwch chwi ei rcFldi mewn iaith fwy ysgolheigaidd na mi." II Ar gyfrif ei gallu nodedig fel dewines, a bod yn rhaid ei rhoddi hi i fyny ar unwaith i'r awdurdodau eglwysig, fel y byddo iddi gael ei barnu yn ol ei liaedd- iant," Dyna fe. Ac yna am lwyth o gyrs 0 Haddenham Fen i'w llosgi yn fyw." Y nefoedd a'i hamddiffyno," ebe Ascelin, yr hwn unwaith oedd wedi bod yn ei charu. A wnai carchariad am ei hoes mo'r tro?" "Beth waeth gen' i, pwnc yr eglwys ydyw hwnw, ac nid fy un i. Ond y mae arnaf ofn na chawn hi, ac y bydd i Here- ward ffoi gyda hi-feallai i Flanders neu Denmark. Gall efe ddianc trwy dwll ilygoden os myn efe. Ac yna byddwn mewn heddwch. Byddai yn well genyf fi ei ladd, a chael ei wared; ond allan O'r ffordd y mae yn rhaid ei roddi." Felly, aufonasant y mynach 4'r neges, gan ei rybuddio am ddweyd yr erthygl yn nghylch y foneddiges Torfrida, nid yn unig wrth Hereward, ond wrth yr abad .'r mynachod oil. Daeth y genadwri yn ol, a hono yn un fer a miniog, nid oddiwrth Hereward, ond oddiwrth Torfrida ei hun—nad oedd William o Normandy yn farchog ei hun, neu ni buasai yn cynyg i farchog ei fywyd ar yr amod fod ei foneddiges i'w Uosgi. Aeth William o'i bwyll. "Beth yw hyn oil?" Dywedasant yr hyn a fynent. Yr oedd yn ddigofus iawn. Pwy oedd Ivo Taillebois i ychwanegu at ei genadwri ef ? Efe oedd wedi ychwanegu fod Tor- frida i'w llosgi. Erbyn hyn yr oedd Ivo yn gryf, wedi enill yr ysgrifenydd o'i blaid. Nid oedd yntau wedi dweyd dim am losgi, dim ond wedi ychwanegu yr hyn yr oedd y Brenin wedi ei anghofio. Nis gallai y fenyw, fel y gwyddai yr ysgrifenydd- pob parch i'r Brenin—gael ei chynwys yn yr amod. Yr oedd hi yn agored i ddedfryd grefyddol. Gallai William arfer ei ddylanwad arnynt hwy yn mhob dull cyfreithlawn, ac wedi hyny, cyf- newid ei ddedfryd, a hyny hyd yn nod estyn pardwn hollol iddi, os gwelai hyny yn oreu. Ond beth yn well y gallasai efe fod wedi ei wneud nag adgoffa mynachod Ely mai dewines ydoedd, ei bod wedi cyflawni troseddau enfawr, ac yn agored i gosp, a hwythau hefyd am ei goddef a'i Hochesu ? Yr hyn y ceisiai efe oedd cael y mynachod yn ufydd, a. chredai efe fod y genadwri wedi effeitbio i raddau yn y cyfeiriad hwnw. Am Here- ward, nid gwiw i'r Brenin feddwl y byddai iddo ef byth ddyfod i mewn yn fyw. Ac felly y gorphenodd y mater.

TAMEIDIAU HYNOD A DY-DDORUS.

Y CHWIL-LYS PABYDDOL.

---.--.----0 NEWYDDIADURON…

DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO.

EISTEDDFOD TREFORIS, NADOLIG.

¡, Y STRIKE YN FOREST OF T<…