Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CLADDU DYN A HWNW YN FYW.

News
Cite
Share

CLADDU DYN A HWNW YN FYW. Y flwyddyn ddiweddaf, bu farw dyn o'r enw George Muck mewn lie o'r enw Datnall, ger Sheffield, yr hwn oherwydd ei fod heb adael ewyllys, trosglwyddwyd ei eiddo, yr hwn oedd yn fawr iawn, i'w neiaint. Yr oedd yn wybyddus fod ei nai henaf wedi myned allan i'r rhyfel oedd rhwng Rwsia a Thwrci, lie yr oedd yn gyflogedig fel meddyg. Credid ei fod well marw, ac yr oedd y nai ieuengaf yn gofyn am brawf o hyny. Yr unig ffordd i brofi ei farwolaeth oedd trwy gael tyst-lw gan Dr. Lamson, yr hwn a grogwyd am lofruddiaeth Wimbledon. Yr oedd Dr. Lamson wedi gweled y nai yn gorwedd yn ysbytty Sistova yn ber- yglus wael mewn canlyniad o gael ei glwyfo, a sicrhaodd fod y trywaniad yn un mor ddrwg, fel yr oedd gwella yn beth anmhosibl. Yn gyswllt a'r tyst-lw hwn yr oedd gwawl-lun (photograph), yr hwn a adnabyddodd Lamson fel llun y dyn Muck, a'r hwn a dybid ei fod wedi marw yn ysbytty Sistova Ar gefn y tyst Iw hwn, apeliwyd at y Court of Probate i arwyddo amserodd ei farwolaeth i'r dyben o ranu yr eiddo. Ar ol ystyried y mater yn fanwl a phwyllog, rhoddodd y Court yr archeb gofynol, gan nodi fod ei farwolaeth wedi cymeryd lie tua'r adeg a nodwyd gan Dr Lamson. Y diwrnod canlynol gwnaeth y nai colledig ei ymddangosiad yn swyddfa y cyfreithiwr ar ran yr erfyniwr. Yr oedd yn edrych yn hynod o wael ac yn neillduol o deneu, ac ym- ddengys ei fod wedi dyoddef poenau- annirnadwy oddiwrth ei niweidiau, y gwaethaf o'r oil oedd y clwyf yn ei ben. a achoswyd gan belen. Yn groes i bob dysgwyliad, yr oedd wedi gwella, ac ar olllawer o beryglon gwnaeth ei ffordd tua Lloegr, gan gyrhaedd yn mhen: diwrnod str ol cael ei gyhoeaidi gan y gyfraith ei fod wedi marw, Daeth mewn pryd i gael rhaB o'r fortune adawwyd iddo gan ei ewyrthr ymadawedig.

EISTEDDFOD HERMON, TREORCI.

TAMEIDIAU HYNOD A DYDDORUS.

Y CHWIL-LYS PABYDDOL.

. HEREWARD

| DARGANFYDDIAD rhyfedd.