Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. F.RODYR AWENYDDOL,-A wyddochpa fodcT y gallaf gael hyd i Farwoad Dragwydclol 11 yr athrylithgar a'r eneiniol fardd Onllwyn Brace ? Clywais rywun yn dweyd ei bod ar werth mown rhai leoedd. Dylai pob beirciad eisteddfodol ei roeddu er ei adeil adaeth cyn decl.reu beirniadu bob amser. A oes modd ei chael allan yn ngholofnau y DARIAN? Gadawfr i ci ei chael. Yr eiddoch, &c,,—JOHN JONES. O'r Lleuad.
Y DADGYSYLLTIAD. LLYTHYR II.
Y DADGYSYLLTIAD. LLYTHYR II. Dyma bwnc y dydd Yn ddiamhenol y mae yn un o'r pynciau pwysicaf y gellir galw sylw eich darllenwyr ato. Dylai pob teimlad sectol gael ei alltudio o'r fynwes, o herwydd nJd ein hamcau ydyw dyogelu gornchafiaeth sectol, ond rhyddid llwyr a hollol i'r amrywiol syniadau Cristionogol. Dylai yr Ymneulduwyr, os yn ddichon- adwy, anghrfio eu haDes a'u dyoddefiadau blaenorol., Y mae yn wir mai gwers an. hawdd ei dysgu ydyw hon,-anghofio y caledu, y gwasgfeuon, yr erlidiau, y car- charn fu ar ein tadau am ddilyn llais ac ar. eyhoeddiad cydwybod. 6Eintadaualafur. iasant, ninau a aethom i fewn i'w llafur hwynt.' Diau fod Cristionogaeth yn ei natur a'i hamcan yn gwarafun pob ymyriad o eiddo y Llywodraeth i ymddwyn ati fel creadui unrhyw Lywodraeth Wladol. Nid yw Cristionogaeth yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn rhyddid barn, neu yn erbyn ymchwil- iad o natur gelfyddydol, ac nid ydyw mewn unrhyw amgylchiad yn galw am wasanaeth deddf wladol i osod i lawII y naill na'r llall. Y cwbl a geisia yr Ymneillduwyr ydyw per. ffaith ryddid i gredoau crefyddol. Hona yr Ymneillduwyr eu bod yn ddinas- yddion, ac y maent yn gofyn beth ddarfu iddynt wnet d, fel y mae un blaid grefyddol yn mwynhau rhagoriaeth gymdeithasol drostynt yn rhinwedd trefniad politicaidd o onestrwydd amheus, Y cwbl a geisia yr Ymneillduwyr ydyw, fod y Llywodraeth yn ymddwyn ar delerau o gydraddoldeb per. ffaith. A oes rhywbeth yn afresymol yn y caiP? Nid ydym yn ceisio ffafr, ond cyf- iawnder. Yr ydym wedi ei hen geisio a i hir ddysgwyl. Y mae yn wir ein bod yn ei gael yn ddognau bychain yn awr ac eilwaith, yn debyg fel bydd y fam yn rhoddi cyffeir- lau meddygol i'w baban anwyl. Y mae y Llywodraeth yn hynod ofalus am danom ni yr Ymneillduwyr—gofalant beidio rhoddi dognau mawrion ar y tto rhag ein niweidio! Ni chlybuwyd erioed fod gweinidog Ymneillduol wedi amlygu dymuniad i fod yn Archesgob Canterbury. Gwarchod pawb, dim o'r fath beth! Dylai cydnabod bodol- aeth Cristionogaeth ysbrydol yn Eglwys Loegr, ond yr ydym yn ei hanghymeradwyo fel corfforiaeth grefyddol boliticaidd-wedi derbyn ei bodolaeth a chael ei ategu gan ddeddf wladol. Gwir ein bod oil erbyn hyn agos a bod ar dir cyfartal yn ngolwg y gyfraith, end ni ddylid anghofio y brwydrau poethion a ym- laadwyd cyn cyrbaedd o honom ein safle bresenol. Nid ydym et o wedi llwyr anghofio yr atalfaelu fu ar feddianau yr Ymneilldu. wyr ar hyd a lied ein gwlad i dalu y dreth Eglwys. 'Gwir fod yr ysgymunbeth hwn wedi ei gladdu ya y plwyf hwn er ys amryw flynyddoedd, ond nid felly yn mhob plwyf, Ychydig amser yn ol bu ffrwgwd annym- unol yn Coventry, ond daeth yr Ymneilldu wyr allan, a chyfranasant yn anrhydeddus a gwirfoddol yr arian. Y mae y ffieiddbeth hwn yn gwneud ei ymddangosiad yma a thraw ar adegau, ond rhaid addef fod yr ysgerbwd agos a'i gladdu. Hoffai Eglwys. wyr mwyaf goleuedig a chrefyddol i'r anghenfil hwn gael claddedigaeth fythol. Y mae lluaws o bethau beiadwy yn nghlyn &'r cysylltiad heblaw hyn. Pa reswm ellir roddi dros fod yr esgobion yn eistedd yn Nhy yr. Arglwyddi i ddeddfu i bob plaid arall ? Yr esgobion hyn mewn gwirionedd ydyw yr Ymneillduwyr politicaidd gwirion- eddol. Gallent fod o wasanaeth pe yr ewyllysient i roddi hyfforddiadan ysbrydol i'r arglwyddi tymhorol. Ond a ydynt yn gwneud hyny ? Pwy erioed a glywodd am esgob yn gwasgar traethodau yn mysg yr arglwyddi tymhorol—neu arfer ei ddylan- wad moesol yn erbyn rhyfel? Na, na, gadawant y gorchwyl hwn i ereill i'w gyf lawni. Y mae yn wir ddrwg genyf addef fod y rhan fwyaf o lawer o'n hesgobion ys, brydol yn ffafriol i ryfel a thywallt gwaed Gallem ni feddwl fod hyn yn groes i ysbryd ac esiampl Tywysog Tangnefedd. Y mae yn ddigon poeibl y dywedir mai diffyg addysg a gwybodaeth sydd yn peri fy mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt yn y mater hwn Ond un peth a wn i, fod pres- enoldeb a phleidleisiau yr esgobior yn Nhy yr Arglwyddi wedi lluddias llawer mesur pwysig rhag dyfod yn ddeddf Byddai yn fendith fawr i'r Wladwriaeth pe buasent yn cael eu troi allan, modd y gallasent dreulio mwy o amser at achosion ysbrydol y praidd. Ychydig yw y gwaith a gyftawnirganddynt yn yr ystyr hwn, pan ystyriom y t&l enfawr a dderbynir ganddynt. Bydd i mi ddy chwelyd at y tal mewn rhifynau dyfodol. Y mae cynydd, gallu, a dylanwad Ymneill duaeth, a lledaeniad cyfryngau addysg, wedi addfedu y wlad am ysgariad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Y mae yr adeg wedi dyfod, pan y dylid ac y rhaid ysgaru y naill oddiwrth y llall, ac i'r naill fyw fel y Hall ar ei aduoddau ei bun. Yr ydym yn dweyd fod yr amser hwn yn nes hau, ac o ddedwydd awr, pa pryd y daw ? Cyn gorphen y llythyr hwn, caniateir i mi gyfeirio at y sylw hwnw a geir yn Bisbop Wilberforce's Life.' Ymddangos- odd y gyfrol drwy y wasg y flwyddyn ddi weddaf. Fe ganiateir i mi egluro yr am gylchiadau. Cyfeiriad sydd yma at yr byn a gymerodd le pan oedd Disraeli a'r fre- rihines wrth y gorchwyl o wneud archesgob Disraeli rede the Protestant horse one day then got frightened that it gone too far, and was inquiring the County Elections j >i- jje BO otjjer thought than the votes of the moment. He showed an ignoranc about all Church matters, men and opionions that was astounding.' Y mae yn wir nad oes dim yn hynod na dim yn newydd yn byn, ac eto y mae yn cynwys un pctb g sydd yn fy synu yn fawr, sef fod yr esgobion yn barhaus yn amyia- eddgar i addef y fath gyfundrefn iselwael a darostyngo.. Om bai fod tal da yn ngblyn d'r swydd, aid yw yn debygol y goddefid y fath sarbad- Y t&l sydd yn melysu yr holl gwpaneidiau chwerwon a estynir iddynt gan ddwylaw budron ein prif seneddwyr politicaidd I Trecynon. J. W.
TAITH 0 FERNDALE I BRISBANE,…
TAITH 0 FERNDALE I BRISBANE, AWSTRALIA. Mercher y 25ain.—Cychwyn oddiyma eto wedi arcs yma ddiwrnod a noswaith. Iau y 26ain,—Gweled coryn ambell i fyn- ydd uchel yn y 1 pellder prudd.' Gwener y 27ain-Pasio heibio nifer o fan ynysoedd. Dim neillduol i'w weled arnynt ond ambell i fwthyn yn nghanol y coed. Mor swynol ydoedd datganu y llin- 0 ellau Cymreig hyny, 1Y bwthyn yn nghanol y wlad,' wrth syllu arno. Sadwrn yr 28ain.—Dygodd y dydd bwn broiedigacth lem i fynwes tad a mam. trwy farwolaeth plentyn iddynt. Ei daflu i'r dyfrllyd fedd' cyn y nos. Bydded addew- idion Duw yn engyl ymgeleddol iddynt yn mhroddaidd ddunos adfydr. Cewch eto gwrdd pan rydd y m6r ei feirw i fyny- Sul y 29ain.-Tir yn ein hamlinelii o hyd. Llun y 30ain.-Dim neillduolion. Mawrth yr 31ain.-Colli ein golwg ar bob darn o dir. Yr bin yn boetb o hyd. Tacbwedd y laf Cawod o wlaw ireidd. iol yn y boreu. Yr hin dipyn yn oerach heddyw. Iau yr ail.—Dim neillduol. Gwener y trydydd —Thursday Island yn y golwg am wyth yn yr hwyr. Angori fan yma hyd y boreu er mwyn cael goleuni dydd i fyned i fewn. Sadwrn y 4ydd.—Cyrhaedd y He am naw yn y boreu. Ynys fechanydyw hon ynnghyd- iad y gogledd o Zueensland. Yr oedd rhan o'r llwyth yn cael ei adael yma. Sul y 5ed.-Gadael y lie hwn eto am bump yn y boreu. Morio trwy le cu heddyw rhwng dwy ynys, y rhai oedd fel rbyw Pihairoth a Balsephon o bob tu i ni. Yr oeddem yn gorfod angori yn y manau hyn dros y nos, oblegyd y mae yn rhy beryglus i deithio yma y nos. Llun y 6fed.—Y gogledd o Queensland yn y golwg o byd. Mawrth y 7fed.—Mordwyo yn lied agos i'r tir heddyw. Cyrhaedd Cookstown yn y prydnawn. Aeth deg allan yma. Y mae yma ddigon o waith i ddyn ac anifail. Mercher yr 8fed.—Cychwyn eto rhag ein blaen yn gysurus. Iau y 9fed.—Cyrhaedd Townsville am naw yn y nos. Gwener y lOfed.—Darfu i gant a deg fyned allan yma, ac yn ei plith Thomas Thomas, Llansamlet, a'i gyfaill; G. Thomas, Treorci, a T. Davies, Dowlais. Sadwrn yr lleg.—Gadael y lie am bed war y prydnawn. Sul y 12fed.-Cyrbaedd Rowen am bump yn y boreu. Aeth pump allan yma eto. Wedi aros yma dair awr, yn cychwyn eto ac yh cyrhaedd Mackey am saith yn yr hwyr. Aeth 26 allan yma, Llun y 13eg.—Cychwyn eto ac yn cyr. haedd Rockamton am saith yn yr hwyr. Mawrh y 14eg.—Yn aros yma drwy y dydd. Darfu 1 52 ymadael yma eto. Gadael y lie am bump y prydnawn. Mercher y 15ed.—Cael golwg ar wlad yr addewid,' sef Brisbane, am un o'r gloch y prydnawn. Pawb ar y bwrdd a'u golygon yn hoeliedig arni. Yn cyrhaedd iddi am ddau. Cael ein traed I ar diroedd aur dorog' Awstralia, ar ol mordaith o naw wythnos ac un diwrnod Yr oedd Oompta wedi colli naw diwrnod o'i hamser arferol. Wel dyma ni, beth bynag, er gwaetha'r tonau trochionog a chynddaredd tymhestloedd, yn golofnau byw o ddaioni yr Hwn sydd a ffrewyll pob elfen yn ei alluog law. Y cyntaf a ddaeth i'n cyfarfod oedd ein hanwyl chwaer Mrs Paradice Davies, yr hon sydd yma er's blynyddau, a hen wr coryn eira,' genedigol o sir Aber. teifi, a'i wallt almonaidd yn ymdoni yn yr esmwyth awelon, yn foneddwr trwyadl mewn dwy ystyr. Ni all darfelydd na phwyntel fyth a darlunio ein teimladau ar ain cydgyfarfyddiad. Wel, y mae yn rhaid sychu ein hysgrifell rhag eich blino a meithder, gan obeithio, os gwena Rhagluniaeth a ffawd, y cawn eto gydgyfarfod ar hyd lethrau bryniau'r hen wlad.—Yr eiddoch yn gywir, JOHN ac EDWARD LEWIS.
COFGOLOFN ISLWYN.
COFGOLOFN ISLWYN. Cynaliwyd cyfarfod gan bwyllgor Cof. golofn y diweddar fardd Islwyn, ddydd Mercher diweddaf, yn nhyy Parch Jeremiah Davies, Tredegar Junction. Yr oedd yn bresenol y Parch J. Griffiths, ficar Mynydd Islwyn; Titus Lewis, Ysw., Pontfaen; E. Beddoe, Ysw., Llancaiach Parch Rees Evans, Mertbyr; Mr W. Morgan, Pant; Mr Lewis, Machen; Mr T. Evans, Hirwaun; Dyfed, &c. Cymerwyd y gadair gan Mr Evans, Hir- waun. Agorwyd y cyfarfod gan Dyfed, yr hwn a ddywedodd fod y pwyllgor wedi meddwl dwyn yr amcan i ben erbyn diwedd y mis diweddaf, neu o bellaf erbyn y cyfar- fod hwn, ond fod rhwystrau wedi cyfodi, a hyny mewn rhai achosion o gyfeiriadau na ddysgwylid cael rhwystrau o honynt; ond er Lyny, mai yn mlaen yr oedd yr amcan yn myned, a hyny gyda chryn rwyddwch; fod amryw lyfrau wedi dyfod i mewn, ond fod eto rai allan. Yn nesaf, darllenwyd llythyron oddiwrth Dewi Wyn (fel cyn ysgrifenydd y mudiad) at y pwyllgor, ac at Dyfed fel yr ysgrifen. ydd presenol. Yr oedd yno un oddiwrth gyfreithiwr Dewi yn gcfyn 20p. gan y pwyllgor am waith yr oedd efe wedi ei wneud yn nglyn a'r dysteb, ac un arall yn gofyn 20p. o iawn oddiwrth Dyfed am awgrymu, ar ran y pwyllgor, fod Dewi wedi derbyn arian ar ran y dysteb, y rhai nad oeddynt wedi eu trosglwyddo i'r trysorydd. Cafwyd ar ddeall mai swm yr arian a anfonwyd i Dewi Wyn gan Miss Rowlands, Tonyrefail, ydoedd 5p 3s.; fod yn ei law hefyd lp. 5s. oddiwrth Calfin, Llanelli. yn nghyda 3s. 6c. a 2s. 6c. ereill, y rhai a gydnabyddodd yn un o erthyglau ar. weiniol y Gwladgarwr flynyddoedd yn ol. Gofidiau y pwyllgor fod teimlad anhapus wedi codi mewn cysylltiad a'r symiau bych- ain hyn, ac nad oedd dim wedi ei anfon at y naill ond a anfonwyd at ereill ag y gwyddid oedd ag arian at y dysteb, er eu cael oil i mewn a gwneud y defnydd priodol o honynt. Penderfynwyd fod list o'r boll danysgrif- iadau oedd wedi dyfod i'r trysorydd i'w gyhoeddi a'i anfon at bawb oedd wedi cyf- ranu yr hatling leiaf, fel y celai pawb y boddlonrwydd fod eu harian wedi eu rhoddi at yr amcan eu cyfranwyd. Fod y pwyllgor yn dymuno ar bawb oedd yn bwriadu gwneud rhywbetb gyda y dysteb yn mhellach, wneud hyny fel y byddai yr oil i mewn erbyn dydd Iau, yr 2lain o'r mis hwn, ac y gellid ei derfynu a I rhodi archeb am y Gofgolofn. j Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn nby G. Beddoe, Y&w., Llancaiach, dydd Iau, Chwefror 21am, am baner awr wedi un o'r gloch. Ymddyddanwyd a rhai pynciau ereill, a phasiwyd ,befyd benderfyniadau ereill na feddyliwyd yn oreu en cyhoeddi ar hyn o bryd. Pan yr oedd Mr Titus Lewis yn ymadael a'r pwyilgor er myned gyda'r gerbydres. dywejodo fodyn dda ganddo fod yn mhlith cyfeiilion oedd yo ymgeisio at beth mor deilwng. ac os byddai iddo gyrhaedd yr ochr lira w at y mwyafrif oflaen y cyfeillion oedd yn bresenol y byddai iddo ddweyd yr hanes wrtb y cyfaill Islwyn. Fod amryw yn edrych ar farw yn amgylchiad hynod— ac felly yr oedd yn ei gysylltiad a'r byd hwn—ond mewn cysylltiad & bywyd nad oedd ond yn daliad lleiaf yn y frawddeg fach gynwysedig yn y geiriau bywyd traygwyddol. H
IALLTWEN.
ALLTWEN. Cynaliodd Cymdeithas Gydweithredol y lie uchod ei chyfarfod chwarterol nos Fercher, Chwefror y 7fed, yn ystafell hel. aeth a chyfleus y Gwyn Arms. Cymerwyd y gadair gan gadeirydd y Pwyllgor Gweith- redol, ac wedi cael araeth fer a pbwrpasol ganddo, darllenwyd y report am y chwarter, yr hwn a ddangosai fod y gymdeithas yn parhau i lwyddo a myned ar gynydd tra boddhaol, Derbyniwyd am nwyddau a werthwyd yn ystod y chwarter 2,049p. 4s 7-2!c.; ac yr oedd yr elw clir wedi talu pob traul yn 150p. 12s. 2-le., yr hyn a ranwyd fel y can- 4 lyn :-Dividend i'r aelodau yn ol 2s 6c. yn y bunt mewn cyfartaledd i gyfanswm eu pryniadau, 83p. 13a, 6c. Cwtlhawyd dileu yr oil owertbyreiddo sefydlog, 35p. 10s. 11c, a lleibawyd yr hen ddyledion, 3lp. 7s. 9tc. Heblaw hyn talwyd 52p. o arian benthyg iedig yn ol. Y mae gan y gymdeithas ar ddiwedd y chwarter mewn llaw ac yn y banc 196p. 15s. 10c., yr ben ddyled er cyf uwch aeth yn dyfod i lawr yn raddol, ac y. mae 919p. 16s. 9c. yn y reserve fund. Y mae hyn yn ddiau yn werth ei gyhoeddi yn mhob Gath ac Ascelon drwy y Dywysog aeth. Rhif yr aelodau yn bresenol ydynf 208, a cbyfanBwm y cyfranan (thares) yw 513p. 12s. 11-c.; ond hyderir gyda gwell 2 tro ar fyd y treblir hyn cyn hir. Y mae y gymdeithas yn saith mlwydd oed. Ac megys cymdeithasau ereill, nid yw wedi tyfu i'w hoedran a'i nerth presenol heb arafferth, gofal, a gwyliadwriaeth fanol drosti, nac heb i rywrai gymeryd dyddor- deb neillduol ynddi, fel ag i wneud yr oil yn eu gallu tuag at sicrhau iddi y manteis- ion angedrheidiol. tuag at fyw, cynyddu, a gwneuthur ei hun yn un o anhebgorion cysur a gorfoledd y dosbarth gweitbgar. Nid gwaith pleserus yw ceisio darbwyllo thai i gredu y byddant yn sicr o gamfarnu os Da theimlant yn iawn; ac nid gwaith hawdd yw llwyr argyhoeddi pawb fod pob peth mewn perthynas i'r management yn cael ei wneud yn y modd goreu er lies y gymdeithas yn gyffredinol; ond y mae fod amser yn eaboniwr mor dda, y daioni mae wedi ei wneud yn y lie yn barod, yn nghyd a'r wedd lewyrohus sydd arni yn bresenol, yn peri i'r Pwyllgor Gweithredol deimlo eu hunain dan rwymau i weithredu fel y maent yn y dyfodol, a hyny ar gyfrif amryw resymau ereill, gan hyderu fod y gym deitbas bellach wedi gorfucheddu gwrth- wynebiadau pob gau broffwyd, wedi tyfu i ddigon o oedran a dylanWad i lefaru yn yla groew drosti ei hun, ac nad yw ei sefyllfa bresenol, er cystled yw, ond bychan mewn cymhariaeth i'r hyn a fydd yn fuan iawn. Nis gall neb, debygwn, gau ei lygaid ar y ffaith fod y gymdeithas eisioes yn ganolfan bywiogrwydd masnachol yn y lie, a bod gwasgariad cyson y cyfryw ddylanwad yn rhwym o fod yn cynyrchu cysur ac yn effeithio daioni mawr drwy yr holl gymyd. ogaeth. Cyngborem bawb sydd a thuedd ynddynt i ymuno a'r mudiad i geisio un o'r. balance sheets gan y manager, a'i darllen a" myfyrio drostynt eu hunain, a chredu yr ydym y gwelant wedi hyny y priodoldeb o roddi i'r gymdeithaa bob cefnogaeth yn eu gallu.—Eos WYN.
YMOSODIAD YN NHREFFOREST.
YMOSODIAD YN NHREFFOREST. Nos Sul, y 4ydd o'r mis hwn, rhwng naw a deg o'r gloch, darfu i wraig ddyeithr o Gaerdydd wneud ei hymddangosiad yn y lie. Nid oes sicrwydd eto beth oedd ei ceges, gan fod cymaint o bethau yn cael eu dweyd o b&rthed i'r achos. Ond beth bynag am hyny, daeth y wraig i fyny o Gaerdydd mewn cerbyd yn nghwmni dyn o Drefforest, yn nghyda'r gyrwr. Wedi cyrbaedd y lIe disgynodd y dyn o'r cerbyd ac aeth i ffwrdd, gan adael y wraig ar ol. Addawodd wrthi hi y buasai yn dychwelyd drachefn, end ni ddaeth. Wedi hir ddysgwyl penderfynodd fyned i chwilio am y cyfryw un. Wedi cael gafael yn y ty a churo wrth y drws, cafodd ei gwthio ymaith gan y forwyn, a chauodd y drws ar ei bol. Ar yr adeg yma daeth nifer o bersonau i'r fan gan ymosod arni, rhai o honynt yn ddynion priod, ereill yn fechgyn ieuainc. Yr oedd yr ymosodiad yn un cywilyddus, ond ui ddefnyddiwyd yr un offeryn o gwbl ond dwylaw yn unig Yr oedd ganddi wisg am dani yn werth JIawer iawn o arian, a chafodd y cwbl eu daicie yn ddarnau. Derbyniodd rhainiweid iau ar ei chorff, ac yn yr ymrafael ymosod- asant ar ei bysedd gyda'r amcan o gael ei modiwyau, yr un modd ar ei chlustiau wrth geisio cael ei chlustdlysau allan. Curasant hi yn ei gwyneb nes y mae un o'i llygaidyn beryglus. Cymerwyd hi i dy un o'r cymyd- ogion lie y bu meddygon o Bontypridd yn gweini arni. Dydd Mercher canlynol dyg. wyd y prawf yn mlaen yn Mhontypridd, ond gan fod yr amser mor fyr i gael gafael yn yr holl weitkredwyr, gobiriwyd y prawf hyd ddydd Mercher, y 14eg. Y mae yn lied debyg y deuant o hyd iddynt oil erbyn hyny, oblegyd mae y swyddogion ar waith. S i3 J ^raiS yn byw yn Nghaerdydd, ac yn lied debyg o fod o safle uchel, Ceir clywed y manylion eto yn y dyfodol.
PRIODAS BRYNFAB.
PRIODAS BRYNFAB. Anerchiadau 110ngyfarchiadol ar ymuniad y bardd a'r Hen Glwb.' Brain f'o Brynfab o'r henfyd- y daethost Ditbau i gylch gwynfyd; Rhywfodd yu ddifyi hefyd, Hynod bwnc oedd newid byd. Ha! mun isel a'i mynwesodd,—i fri Yr hen Fryn symndodd, Yu y rhedyn fe'i rhwydodd A'i haraeth fer-wrth ei fodd. Cydymaith Nicodemus,—y doethawr, Ar dy deithiau ofnus [gwyll Buost, wyddost yn weddus,—drwy y Yn lloni'r mentyll yn wr rhamantus. Ar randir I pererindod '—y deliaist Hanfodolion gwedddod, Yu ddifai, ni fynai fod < Yn min awyr menywod. Dr wy fwyneiddiol drefn addas-egwyddor Argyboeddwyd Thomas; Nid oedd gelyn cyndyu cas A wnai lwyddo i'w luddias. Geiriau teg Margaret hygar-ddenodd Yni y bardd hawddgar Ar ei hoi, rhagorol gar Ddiwg edmyg ddau gydmar. Y gwydn fardd awenogwadnau-deimlodd Dwymlif gorff a 'scidiau Am roi'r wys gan gymysg wau 0 fuddiolaf feddyliau. Yr hen r6g yn ddyogel,—sy' weddus Addurn deyrn aruchel; Ei rian deg ar droion del Gollyngai asgell angel! Hwre! rhwymwyd. dodwyd yn dyn— A'r wenferch f&d ddillyn; [Brynfab Bywyd hapus heb dipyn 0 ofid chwith i'r gwenith gwyn. Hir einioes lawn o riniau—a dreuliont Yn drylwyr hyd angau A gwlawied nef ei chedau Nos a dydd i.r ddedwydd ddau. Cwmtwrch, DEWI GLAN TWRCB. A
[No title]
Heulog swyn amlwg sy'n ymlid—dynion I gadwynau'u gwendid; Ha I pwy yw'r hwn wna gynllun prid I osgoi hapus we' Cupid ? Nid y Bryn. ydyw y brawd—mae e'-a 'Nawr, heb un esgusawd; [rhwym Swn clic y bont' sy'n clecio bawd, A chrio henffych i'r anffawd. Y tyner fardd, ai tyna'r fel-y darfu Ei dirf ieuenctyd tawel ? Drwy chwys bu yn ymdrechu spel A thwymyn hirfaith mewn oerfel. Diddim ydoedd y madyo-wedi myn'd Maingc ei galon wed'yn; Yn rhyw bridd oer—bu wir i ddyn Bron rbydo'n y brwyn a'r rhedyn 1' Ond, hold!. mae wedi ildio,—a'i gariad Dan gur wedi'i glwyfo; I'r pared daeth ei dynged o, Pwy wyr ei ffaeledd, poor fellow J Cusan ei feinir siriOl—enynodd Ynddo dan mynwesol; A'i wres yn wyllt eiriasa'in ol I ddifa'i duedd feudwyol. Ysig aeth, a llesg weithian—anadlodd Hoedl ei weddwdod allan; 'Nawr troai at ei rian Tan ei gur fel plentyn gwan. Y fun ddiail fynodd eli-iddo, A rhwydd gwnaeth ei noddi; Rheidiol oedd ei chordial hi I droi hwa o'i drueni. Mae'n holliach mwy, o hyn allan-y bardd Fydd byw gyda'i rian; Ac hefyd prydydd cyfan Ydyw y rôg mwy—nid rhan. Mae'r ddau heddyw mor ddyddan—yn Mawr effaith y cusan; [hoffi Mor addas yw'r ymddyddan, Swyna eu hoes yn A. N. Dull anwyl bywyd lloniach-urddo faes Y bardd a'i fun mwyach; Yn ddiball y ddau bellach Wobrwyo'n byd 4 Bryniau bach. Troed heddyw tualr tyddyn-araul Benaduriaid melyn, A hadu yno wed'yn Eppil aur i'r cwpwl hyn. NATHAN TWRCH.
CYFARFOD LLENYDDOL CWMAMAN,…
CYFARFOD LLENYDDOL CWMAMAN, ABERDAR. Derbyniwyd cyfansoddiadau yn dwyn y ffugenwau canlynol:— Marwnad Mrs Rees, Aman-st.-Alltud, Awel yn mrig yr Ywen, Galarfab, Llais Ingol, Cathlydd Hiraeth, Galarwr Diffnant, Galarwr, Anadl Adgof, Deigrynfab, ac Adolpbus Bach. Penillion i Gladstone.—Un o feib y Cwm, Madog, Bright, Young, Othello, a Llais y Wlad. Cyfrinfa Telyn Cymru.—Telynor a Swyddog. Llythyr Caru.—Gomer. I Dewi Mabon y dylasai anfon ei lythyr.—HYWEL CYNON.
OWMAMAN, ABERDAR.
OWMAMAN, ABERDAR. DARLLEN FA.—Yn ystod y blynyddoedd diweddaf yr ydym wedi bod A rhyw enw- o ddarllenfa mewn ty bychan; ïe, rhy fychan o un synwyr i gadw darllenfa ynddo i gyf. ateb pentref cymaint ac mor fYWlOg a Chwmaman. Mawr y siarad a'r bygwth sydd wedi bod am hir amser am gael lie gwell, helaethach, a mwy cyfleus. a'r cwbl yn dibenu o hyd mewn siarad a bygwth yn unig. Bellacb, wedi llwyddø i gasglu swm go lew o arian at yr achos, a ninau fel gweithwyr i ddeffroi ychydig at y gwaith, yr ydym wedi symud i le hynod o helaeth a chyfaddas—yn cyfateb i'r dim i wneud dar. llenfa dda i'r gymydogaeth, Yr unig wrthwynebiad, a hwnw yn an hynod ddibwys, a ellir ei ddwyn yn erbyn yr adeilad presenol yw, ei fod dipyn yn ormodol i un pen i'r pentref—yn rhy uchel i'r lan. Ond hyd nes y gellir cael lie cyf- addas mewn ysmotyn mwy canolog, mentrwn ddweyd y bydd i bawb sydd yn hoff o sefydliad o'r fath, ae yn ymhyfrydu mewn manteision mor werthfawr i ni fel gweithwyr, wneud y goreu o hono yn y fan lie y mae, a theimlo yn llawen a <3iolcbgar am y gwelliai t gwerthfawr sydd wedi cy meryd lie Ni fydd ychydig o latheni o wahaniaeth yn y pellder i gerdded i ddar llenfa sydd gymaint yn fwy cyfaddas a helaeth na'r un flaenorol yn rhwystr i un gwir ddarllenwr i ddyfod iddi, ac yn sicr, ni fydd yn rhwystr i neb sydd yn ymfalchio ein gweled ni fel gweithwyr yn dyfod o hyd i fanteision fel hyn. Os bydd ychydig bellder fel hyn yn dramgwydd i rywrai, rhaid i ni eu hesgusodi fel dynion yn brin o chwaeth dda, ac yn fwy o wrthddrychau tosturi na dim arall. Y mae rhai personau yn ddigon parod i'n beio a'n ceryddu ni fel gweithwyr am wneud rhai petbau, a myned i leoedd na ddylem; ond ni ddylent feio a cberyddu liawer heb yn gyntaf ddarparu gwell lie i ni dreulio ein horiau hamddenol. Yn y gorphenol nis gallasem wabodd y dosbarth oedd yn mynychu y tafarndai a lleoedd I ereill, i dreulio eu horiau hamddenol mewn darllenfa, &c.Ile sydd â thuedd ynddo i gymhwyso dyn i droi mewn gwahanol gylch. j oedd cymdeithas, ac i'w gymhwyso i fyned trwy y byd yn debyg i'r modd y dylai dyn fyned. Nid oedd geuym le i'w gwabodcL Yr oedd yr ychydig oeddynt yn aelodatt yno eisioes yn methu cael lie eu hunain. Yn bresenol yr ydym yn gwahodd ein cyd- weithwyr yn y gymydogaeth i wneud y defnydd priodol o'r manteision sydd yn eu gafael. Nid yw y till ond ychydig, ond y mae y budd a ddeillia i ddyn wrth fynychu lie o'r fath yn anmbrisiadwy. Gwnewch brawf o hyn, a mentrwn ddweyd na chewch achos i e&farhau.-CYMYDOG.
CWMAFON.
CWMAFON. Chwefror y 3ydd, cynaliwyd cyfarfod dyddorol mewn cysylltiad a Byddin yr Ysnoden Las. Cafwyd adroddiadau, can- euon, a dadleuoa, gan Obeitblu Bethania, o dan lywyddiaeth Mr R. John. Cafwyd caneuon hefyd gan Mri H. Lewis, Tbomaa Morgan, a Miss Davies. Ar ganol y cyfar- fod cafwyd anerchlad gan Mr Rees Price, am yr hon y derbyniodd gymeradwyaeth mawr. Cafwyd anerchiadau a chynghorioa da gan Mri W. Williams a W. John Y cad- eirydd oedd Mr T. Lowes. Ar ddiwedd y cyfarfod ymunodd amryw a'r fyddin.-ux OEDD YNO.
TYSTEB MR THOMAS WALTERS.
TYSTEB MR THOMAS WALTERS. Cyfarfyddodd pwyllgor y dysteb uchod ar y 7fed cyfisol, yn y Butchers' Arms, Aberdar, pryd yr oedd lluaws yn bresenol yn cynrychioli gwahanol alwedigaethan. Penderfynwyd yn unfrydol i ddarparu y cwbl a fydd yn angenrheidiol er myned a'r gwaith yn mlaen o hyn hyd y cyfarfod nesaf, yr hwn a gynelir yn'y Corner House, Margaret street, Trecynon, ar y 15fed cy- fisol. Yr ydym fel pwyllgor yn taer ddy- muno ar bawb a allant i fod yn bresenbl, oblegyd byddwn yn r: m y llyfrau i bawb a deimlant ddyddordeb yn yr acbos uchod, XT 7 yn gallu casglu lie y mynont. Mefya, byddwn yn dosranu y dosbarthiadau rhwng ycasglyddion. aç oberwydd eaneder ymaes, bydd yn angenrheidiol cael llawer 0 gasglyddion. Am hyny, deued pawb sydd yn cydnabod teilyhgdod yr achos. Ydym, dros y pwyllgor, EZER GRIFFITHS, Cadeirydd. WILLIAM THOMAS, Trysorydd. THOMAS HOPKINJ Ysg. •
,PENYCAE
PENYCAE Blin genym hysbysu fod Mr T. nno is ysgolfeistriaid ysgol y Bwrdd, wedi ymadael a'r lie hwn i gymeryd gofal ysgal yn Hednesford. Y mae wedi boa yma dros 18 mis, yn mba amser y mae wedi rbpddi y boddlonrwydd mwyaf i'r rhieni a'r yegoleiii- ion yn gyffredinol. Anerchwyd y .'PlaDt dydd Mercher diweddaf gan Mr Lewitt, yc ysgolfeistr, a dywedodd fod yn flin iawa ganddo fod Mr Owens yn ymadael, ac fod yr amser mor fyr fel nad allent ddangos ea parch iddo mewn modd sylweddol Rhodd- odd y plant three cheers iddo nes oedd yt adeilad yn diaspedain, ac yna ymadawodd gyda dymuniadau da ei gyd athrawon a'i ffryndiau.—EWYLLYSIWR DA.
Advertising
IS" Gellir cael Envelopes yn Swyddfa'r '.Darian am geiniog y packet—25.
ACHOS Y CHECK WEIGHER, CWX…
ACHOS Y CHECK WEIGHER, CWX RHONDDA, A D. MORGAN. MOUNTAIN ASH. MRI, GOL.,—Drwg genyf fy mod eto dan orfod mabwysiadu yr ysgrifbin er amddiffyn fy hun yn ngwyneb ymosodiadau angbyf- iawn. Gwelais yn y DARIAN yr wythnoa ddiweddaf banes cwrdd misol glowyr Cwm Rhondda, ac yn y cyfryw gwelais fod ym. osodiad anghyfiawn wedi cael ei wneud arnaf, ac hefyd fod rhan o'r gwirionedd wedi ymddangos yn y DARIAN, ac nid yr hoU wirionedd, yn nglyn &'m hatebiad ar bwno y checkweigher yn y Ddinas, ac o ganlyniad yn debyg o gael argraff ar feddyliau y glo- wyr nad oes genyf ond ychydig neu ddim o gydymdeimlad A'r checkweigher, beth bynag am y cyfarfod; ond nid wyf yn credu y bydd y glowyr yn debyg o fabwysiadu y fath feddwl ar ol i mi egluro fy rhesyman a'r holl wirionedd. Dechreuaf gydag ym- osodiad anghyfiawn y cadeirydd, pan y dywed mai dyna oedd egwyddor D. M organ, Mountain Ash, sef gadael i ddosbarth y Rhondda weithio yn nglyn a'r achos hwn (y eheckweigher), ac i minau (D. Morgan) dderbyn y budd yn ol Haw. Yr wyf yn baxod, i gyfarfod a'r coward hwn, a phrofi iddo ef ar gyhoedd gwlad nad oea neb yn mhlith glowyr y Deheudir wedi gwneud mwy o waith am ddim er eu buddiant bwy na mi. Yr wyf am i'r cadeirydd hwn wy bod fod gyda mi reswm dros ddweyd y dylasai dosbarth Rhondda garie y trenliau yn achos y cheekweigher, ac nid apelio am gymorth cyffredinol mor ami ag y gwna dosbarth y Rhondda. Wrth reswm, nid wyf yn credu y dylai dosbarth Rhondda fod ar ei ben ei hun dan bob gormes, ond credwyf na ddyl- asai ddyfod o flaen glowyr y Deheudir mor ami am gynorthwy. Yn nghyfarfod diweddaf y cynrychiolwyr gofynwyd am gynorthwy arianol oddiwrth holl lowyr y Deheudir er cynorthwyo i roddi tysteb i Mr Thomas, Dinas, ond erbyn hyn mae y dyn hwnw wedi gweled yn ddoeth i roddi y cwd i'r chcc/eueigher. Fy nghynghor i chwi, lowyr Cwm Rhoddda, ydyw fod i chwi ddefnyddio yr arian a gasglasoch er gwneud ty&teb i'r dyn ucbod at dalu treuliau eich cyfraith yn hytrach na'i anrhegu ef & hwynt, a dyweded yr yr holl fobl Amen. Peth arall hefyd, bydded hysbys i'r cadeirydd hwn ei fod yn ddyledswydd arnaf i wrthwynebu fod dos. barth Aberdar i gael ei drethu yn fwy na'r hyn sydd yn gyfiawn. C(,fier fod dosbarth Aberdar wedi cyfranu at dreuliau y Sliding. Scale yn agos cymaint a'r oil y tu allan i'r dosbarth hwn hyd at yr audit cyntaf, a cboiier hefyd ei bod wedi cyfranu tua £ 50 yn fwy na dosbarth Rhondda erbyn yr audit diweddaf, ac fod dosbarth Aberclar wedi cyfranu mwy at achos Wall nag a wnaeth ei ddosbartb ef ei bun, set y Rhondda. Nid pleserus i mi ydyw dweyd petbau fel hya ond gan fod rhai pert-onau o'r Rhondda yn dewis fy erlid, aiigenrhaid a osodwyd arnaf i dynu y cleddyf. Yn nglyn h,'r hyn a ddy. wedodd Mabon, fod yr oil o'r cynrychiolwyr ar y Slidivg Scale wedi myned yn ffafriol i godi cost, y checktceigher iel mater cyffredinol, gyda'r eithriad o D. Morgan, Mountain Ash, yr wyf yn dewis sylwi fod rhan o'r gwir- ionedd wedi ymddangos ar fy atebiad, ac nid y gwirionedd i gyd, ac o ganlynind, braidd yn gosod allan nad oedd genyf yr un cydymdeimlad a'r atalbwyswyr yn eu bad. fyd. Nid wyf yn sicr pwy sydd i'w feio am beth fel hyn, ond teg yw i mi ddangos yr atebiad i Mabon yn y lliw priodol, sef i wi j osod mater yr atalbwyswr o flaen ein pwyll. gor gweithiol, ac iddynt hwy a minau
0 NEWYDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD.
l ac amryw wyrion-tair merch yn briod ac un mab wedi tyfu i fyny yn ddyn ieuanc. ROBEIaTs.-Ionswr 2, yn Streator, Illinois, Mrs Jane Roberts, anwyl briod J. R. Roberts, ar ol pedair blynedd a thri mis o gystudd caled iawn ar rai amserau, er ei bod yn alluog i fyned oddiamgylch weithiau. Methai y medd- ygon goreu fyned at wraidd ei hafiechyd. Merch ydoedd i John Jones, Llechryd, Rhymni'; bu ei mam farw ar ei genedig- aeth hi. Mae y teulu wedi byw yn y dref hon er 1867, ac eithrio rhyw naw mis, pan aeth ei phriod a hithau i Penn- sylvania, gan feddwl y buasai newid awyr o fawr les iddi. Gadawodd briod a dwy ferch fach i alaru ar ei hol-yr hynaf o'r merched, yn 12 mlwydd oed, a'r Hall yn 10 oed. Yr oedd iddi ddau frawd a dwy chwaer. Mae Solomon Jones ei brawd hynaf, yn Cariboo, British Columbia, a'r brawd arall yu California. Mae un chwaer yn yr Hen Wlad, a'r llall yn Pennsylvania. Uaddwyd Cymro o'r enw William Evans, arolygy<M tu fewnol glofa Caynga, Scranton, Pennsylvania, mewn amrantiad ddydd Sadwrn, Ionawr 13. "Ewch a mynegwch i fy mam" oeddynt eiriau diweddaf bachgen ieuanc o swydd Gaernarfon, pan wedi syrthio dros fwrdd y Hong wrth fyned heibio i Benrhyn Gobaith Da, a dyma fel y cana un bardd ar y testyn toddedig:— Ewch a mynegwch i fy mam Mai hyn fu nhyngedd i, Dywedwch i mi gwrdd fy medd Yn mynwes laith y lli; Yn marw 'rwyf yn mraich y don, Yn mbell o Walia Wen, Heb neb i sychu'm holaf chwys, Na llaw i ddalfy mben. Ewch a mynegwch i fy mam, Er dyfned fydd y clwy, Nas gallaf fi o'r fordaith hon Ddychwelwydatimwy; •Rwyn myn'd i mewn i'r Hafan glydi O gyrhaedd byd a'i boen, Caf yno gwrdd y teulu gl&n, A gwledda gyda'r Oen. Ewch a mynegwch i fy mam Fu'n anwyl iawn i mi, Fy mod ar drotbwy arall fyd, A'm gwaedd am dani hi: I'th law, 0 I Dad, gorch'mynaf hon, Na oddef iddi gam, •Rwyn suddo 'nawr i waelod m6r, Ffarwel, ffarwel fy mam. GWABEIDDIAD HENAFOL AMBRICA. Hewn araeth ddiweddar yn Brooklyn, ar Wareiddiad Henafol America.' adroddodd Proff. J S. Newberry, o Columbia College, hanes clawdd. adeiladwyr dyffryn y Missis aippi, mor bell ag y gellid ei olrbain oddi. wrth eu symudiadau, yn nghyda hanes preswylwyr clogwyni y De orllewin, Mexico, a chanolbarth America. Pan laniodd y bobl wynion gyntaf yn America, dywedai v Proff eswr iddynt gael y wlad yn orchuddiedig gan goedwigoedd anfertb, ac yn cael ei phoblogi gan yr Indiaid Cochion. Am am. aer maith oredid fod America yn I fyd newydd,' ac mai yr Indiaid oeddynt y pres- wylwyr gwreiddioi; eithr ymwthiodd y dynion gwynion yn mlaen gan aredig a hau yr hyn a ymddangosai yn dir newydd, a gadael o'u hoi dai, pentreft a dinasoedd, nes y croeswyd mynyddoedd yr Alleghany, ac y cyrbaeddwyd gwely yr afon Ohio. Yno oawsant diroedd breision digyffelyb Can. fuasant befyd olion cenedl amaethyddol, fuasai yn trigianu yno ganoedd, os nad mil oedd o flynyddoedd yn flaenorol. Cyn hyn Snwthiasai yr Yspaemaid yn mlaen byd exico, a chanfuasant yno ddinasoedd, y rhai a oleuid yn y cos, a amddiffynid gan heddgeidwaid, a gynwysent balasai, ysgol- ion cyfreithiol, meddygol a cherddorol. a lie y eitbd mewn aur, arian, a meteloedd ereill. Erbyn hyn yr oedd cynrychiolwyr pobl y dinasoedd hyn, ac amaethwyr hedd- ychol y tir o'u hamgylch bran wedi eu cwbl ddyfetha oddiar wyneb y ddaear. trwy wancusrwydd y gormeswyr Ewropeaidd. Parth yr olion a adewsid gan y clawdd. adeiladwyr, cyfrifai y Proffeswr nad oedd dim llai na 10.000 yn Ohio yn unig; a cveid hwy yn fwvaf Iluosog, lie bynag yr oedd y tir yn fwyaf addas i amaethyddiaeth. Ym. ddengys eu bob yn bobl bedoychlawn, boff o amaetbyddiaeth, yn gydnabyddus a gwn- eutburiad priddlestr, yn anwybodus o ddef- nyddiad haiarn, ond yn gydnabyddus a chopr, yr hwn a gloddid ganddynt ar lanau llyn Superior, fel y prond gan yr arwydd ion o arian a geir yn eu hofferynau copr. Y mae y mwngloddiau copr henafol hyn yn rhagori mewn maintioli ar unrhyw fwn- gloddiau diwtddar. Nid oeddynt fytb yn cloddio yn ddyfnach nag ugain neu ddeg ar ugain o droedfeddi, a defnyddient goed gyda rhanau o'r cangbenau yn nglyn & hwy fel ysgolion. Er yn bollol amddifad o was. anaeth glo a haiarn, cawn eu bod yn gweithio mwngloddiau mica yn North Caroline, mwn. gloddiau soapstone yn Virginia. mwnglodd- iau plwm yn Kentv cky, a cbloddiasant ffynonau olew befyd yn Pennsylvania. Ar. wydda Y, tyflant o goed dros y mwngloddiau plwm ger Lexington. Kentucky, fod o leiaf bum' cant o flynyddoedd er pan adawyd hwy. Deuwyd o hyd i ddarnau o frethyn wedi eu cadw yn ddilwgr drwy ddylanwaa halenau copr, yr hyn a brawf fod y bobl yn gydnabyddus a'r gelfyedyd o wan. Gyda golwg ar eu diflaniad, bernir iddynt fypc^ yn aberth i gynddaredd haid o anwariaid gogleddol cyffelyb i'r byn a gymerodd le yn Ewrop.