Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

AT LOWYR SIR FYNWY A DEHEUDIR…

News
Cite
Share

AT LOWYR SIR FYNWY A DEHEUDIR CYMRU. | CYLCHLYTHYR AC APELIAD. Gydweithwyr,—Yr ydym yn ymwy- bodol fod yr achos. hwn yn ddigon hysbys i chwi, fel nad oes achos i ni ysgrif enu na myned i mewn 1 r manyl- ion o hono. Y mae yn wybyddus I B. T. Williams, Q.C., y Barnwr, o dan Ddeddf Cyfrifoldeb y Meistri, ddyfarnu iawn-dal i'r bachgen E. G. Wall i'r swm o 109p 4s. Y mae y cwmni, trwy Mr W. Simons, eu cyfreithiwr, wedi ymdrechu cael prawf newydd, ond y mae y barnwr, wedi ystyriaeth fanwl o'r ffeithiau, >.ac wedi gweled rhan isaf o'r hyn a alwai y swyddogion yn ddrws, wedi gwrthod caniatau prawf arall. 0 ganlyniad, gwnaethant gais am gael prawf newydd yn un o'r llysoedd uchaf, yr hyn a gan- iatawyd iddynt mewn cysylltiad a swm yr iawn yn unig. Yma, drachefn, methasant ar deilyngdod yr achos, ac yn awr yn myned yn mlaen ar y gwahan- iaeth bychan, feallai, a wna y Ilys hwn yn swm yr iawn-dal a ddyfarnwyd i fachgen y cyfaddefai yr arolygwr oedd yn cael tal rhy fychan pan yn gwasan- aethu wrth y drws. Nid hyn yn unig, ond os llwyddant, bydd iddo ddinystno gwerth y gradd y perthyn dyn iddo pe dygwyddai gyfarfod a damwain pan na fydd yn dilyn ei alwedigaeth arferol, fel yr oedd y bachgen hwn. Nid oes gan gyndynrwydd ac ystyfnig- rwydd cospiiol yr achos hwn ddim llai mewn golwg na gwasgu allan o'r gweith- wyr y meddylddrych anghysbell a gol- eddir ganddynt o gael cyfiawnder o dan Ddeddf Cyfrifioldeb y Meistri, a chodi i fyny ddwylaw yr holl feistri sydd yn esgeulus am ddyogelwch byw- ydau eu gweithwyr. Os drwy ychwanegu traul ar draul, yr hyn awyddant nas gallwn yn unigol ei gyf- arfod, y maent yn gobeithio gwneud y ddeddf hon yn llythyren farw, bydded i ni, trwy undeb gweithredol, ddangos nad ydym yn unig yn alluog, ond yn ewyllysio, fod y fath feddylddrych yn ofer a dirym. 0 ganlyniad, ac o dan nawdd cyfarfod diweddaf y cynrychiolwyr a gynaliwyd yn Aberdar, pryd y cytunwyd fod levy o geiniog y pen ar holl weithwyr glofeydd sir Fynwy a Deheudir Cymru i gael eu cyfranu er dwyn treuliau yr achos hwn, yr ydym yn awr yn dymuno argraffu ar eich raeddylittu y gwir angen o anfon y levy i fewn mor fuan ag y byddo yn ddichonadwy i chwi, mewn trefn i ddwyn yn mlaen y mater hwn yn llwvddianus, os yn bosibl; a chan fod yr achos i'w brofi yn Llundain, bydd y draul yn fawr, dim yn fyr o lOOp. Yr arian i gael eu hanfon i Josiah Edwards, Bute Arms, Aberdar. W. ABRAHAM. I D. MORGAN. ■■ • —p. JONES..• E. FRANCIS. V: D. MORGAN, Ysg.

ACHOSYBAOBGEN WALL.

Brad-Lofruddiaeth yn yr Iwerddon!

Y SENEDD A'R AMGYLCHIAD.

MOUNTAIN'ASH.'

DAMWAIN ANGEUOL YN DOWLAIS.i

EISTEDDFOD MOUNTAIN ASH.

CASTELLNEDD-URDDIAD.

ASSEMBLY HALL, FERNDALE.

AT LOWYR GLO TAI MYNWY A DEHEUDIR…

ILLADEATA PLENTYN.

EISTEDDFOD ABERCWMBOY.

Advertising

Quinine Bitters

EU GWEITHREDIAD.

GOFALED PAWB AM HYN.

YR WYTHNOS.

CYFARFOD Y GLOWYR YN MOUN-…

PETHAU OD GWAELODYGARTH. -…