Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
Arthur J. Williams, Grocer & Provision Merchant, 6, Commercial Street, Aberdare, next door to the Welsh Harp, respectfully solicit* »
BWRDD YSGOL LLANWONO A'R BEIBL.
BWRDD YSGOL LLANWONO A'R BEIBL. MRI. GOL.Caniatewch yohydig o'ch gofod yn y DARIAN glodwiw i mi wneud sylw bach neu ddau ar ysgrif a ymddangosodd yn y DARIAN am yr wythnos ddiweddaf yn nglyn a'r Bwrdd uchod gau un a oilw ei hun yn Drethdalwr Anfoddlon. Ymddengys mai baich achwyniad y boneddwr ydyw, aughysonderau y Bwrdd, a. diffyg gwroldeb dau o'r aelodau i wueud eu hymddangosiad pan ddaeth cwostiwn y Beibl i glawr. Dechreua. yr awdwr gyda'r cyffredinol. a daw at y neillduol. Wedi dwrdio y Bwrdd yn ei gyfanrwydd cyffredinol, disgyna ar aelodau unigol. Eiymresymiad ydyw oddi. wrth y mwyaf at y lleiaf. Canfyddir ar tmwaith mai yr anghysondeb y cyfeiria &to ydyw, gwaith y Bwrdd yn pasio pen- derfyniad i ddysgu y Beibl yn ei yegolion. Nid ydym yn teimlo yn ddigon oraffus i ganfod fod unrhyw arghysondab yn hyny. Nid oedd yr un penderfyniad ar y llyfrau i gau allan y Beibl. Nid oes dim yn Neddf Addysg y Llywodraeth yn gwahardd ei introducio i ysgolion y Byrddau. Heblaw hyny, nis gellir dweyd fod addysg plentyn yn orphenol hyd nes y byddo ei serchiadau, yr ewyllys, a'r gydwybod wedi eu diwallu. Y mae addysg, yn ngwir ystyr y gair, yn cymeryd i fewn natur foesol dyn, a'i gymeriad. Y Beibl yw yr unig lyfr sydd yn cyfarfod dyn yn yr agweddau yna. Dylai trethdalwyr gofio fod gwahaniaeth rhwng hyfforddiant ac addysg, rhwng instruction and education. Hefyd, onid yw mwyafrif Byrddau Lloegr, a lluaws o hon- yntyn Nghymru, yn arfer y Beibl yn eu hysgolion ? Heblaw hyny, gallwn fentro dweyd fod y rhan fwyaf o lawer o dreth. dalwyr plwyf Llanwono yn ffafr darllen y Beibl yn yr ysgolion. Pe yr elid o ddrws i ddrws i ofyn i'r tenluoedd ydynt yn fodd- Ion i gau allan lyfr Duw oddiwrth eu plant o'r ysgolion, caed yn fuan weled eu pleid- garweh i' frenin y llyfrau.' Nid ydym yn gweled fod yr byn a wnaeth Bwrdd Ysgol Llanwono yn ffafr y Beibl yn cyfreithloni Trethdalwr idd ei gyhuddo o anghysondeb, a'i alw yn Babel Gymysglyd.' Dyna ydyw anghysondeb, fod y gwr a ysgrifenodd yr erthyglachwyn- gar, surllyd, ac angharedig i'r DARIAN yn yr etholiad diweddaf, yn addaw i'r treth- dalwyr y gwnai gefnogi darllen y Beibl yn yr ysgolion os cai yr anrhydedd o'u cy- nrychioli ar y Bwrdd, a'r cyfle cyntaf a gafodd, y mae yn fotio i gau y Beibl allan yn hollol. Mi dybiwn y bydd ei anghyson- deb yn fyw yn nghof y trethdalwyr tua mis Mawrth nesaf, ac y caiff y gwr o'r Bryn ei adael yn y Porth. Nid rhyfedd os gwelir ef wedi newid ochr erbyn hyny eto. Hefyd, nis gwyddom pwy roddodd licence i'r Trethdalwr i farcie allan ddau o'r ael- odau, y Parchn. T. C. Phillips, Mountain Ash a T. P. Thomas, Gyfeillion, a'u cy. huddo o absenoli eu hunain o'r Bwrdd o ddi:ffyg gwrolder. Ai hwy oedd yr unig absenolion ? OrJÍd oes ymrwymiadau car- trefol, a dyledswyddau gweinidogaethol, megys galwadau, &c., yn lluddias rhai felly yn ami i adael cartref ? Hefyd, onid ydynt bwythau yn agored i anhwylderau a chys- tuddiau fel dynion ereill ? Deallwn fod y Parch T. P. Thomas mewn seini, ac ar ei glaf wely y dydd y eyfeirir ato, ac i'r Parch T. C Phillips fethu presenoli ei hun o herwydd amgylchiadau annysgwyliadwy. Nid ydym yn sicr pa beth ydyw syniadau y ddau foneddwr yma ar gwestiwn y Beibl, ond credwn eu bod yn ddigon gwrol i ddilyn eu convictions pa beth bynag fyddo y canlyniadau. Ymholed Trethdalwr am ffeithiau a gwirionedd cyn rhuthro i wneud haeriadau disail, a pheidied byth. mwy a mathru y nawfed gorchymyn ar draul dwyn camdystiolaeth yn erbyn ei gymydogion yn y papyr newydd. SHON CHWAREUTEG.
. AT BWYLLGOR EISTEDDFOD BETHLEHEM,…
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD BETHLEHEM, ABERCWMBOY. Anwyl Gyfeillion,—A fyddwch chwi mor garedig, os yw hyny yn eich gallu, i ohirio eich beisteddfod am wythnos neu bythefnosyu mhellach, gan fod achlysuron pwysig ereill ar yr un dyddiad ? ac os bydd i chwi ei ohirio, rydd hyny fantais i luaws o gystadleuwyr sydd yn bwriadu dyfod iddi. Ac, a fyddwch mor garedig, drwy gyfrwng y DARIAN, a rhoddi atebiad mor fuan ag y galloch ? ERYR.
- ----------GLOFA GARNGOCH…
GLOFA GARNGOCH A'R MEDDYGON. MRI. GOL.Y mae'n wybyddus i gan- oedd fod annealltwriaeth rhwng glowyr y glofa uchod a'u gilydd mewn cysylltiad a'r meddygon. Bu Dr Jones, Gower Road, yn ewasanaethu i'r glowyr uchod am tua Blwyddyn, ond oherwydd rhywbeth, y maent wedi colli eu ffydd a'u hymddiried ynddo, fel nad oes un geiniog yn cael ei chadw iddo yn y swyddfa. Gan fod Dr Staart Jenkins o'r un lie, wedi bod yno yn gwasanaethu ar rai damweiniau yn flaen- orol, pan nad oedd ef i'w gael, y mae Mr Jenkins yn sefyll dros gael ei ethol yno. Gwyddom fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr t)'i ochr, ondiddynt gael rbyddidi ddaogoa hyny. Gan fod Mr Jones yn cymeryd y rhyddid i gasglu y tuallan i'r swyddfa ar nos y pay, bydded hysbys i bawb y perthyn iddynt wybod, y bydd cynrychiolwyr Mr Jenkins yn casglu nos Wener nesaf wrth y swyddfa. Hyderwn y daw pawb allan i ddangos eu hochr heb ofni neb. Dylai pob glowr gael perffaith chwareuteg i bleid- leisio dros ei feddyg. CYNRYCHIOLYDD.
NODION 0 LANAU'R RHONDDA.
NODION 0 LANAU'R RHONDDA. YMADAWIAD MR RHYS T. WILLIAMS, TREHER. BERT, AM AMERICA. Fel yr awgrymasom yn y DARIAN ddi- weddaf, cynaliwyd cyfarfod ymadawol ein cyfaill adnabyddus R. T. Williams yn Car- mel, Treherbert, nos Fercher, Ebrill 26ain. Yr oedd y cynulliad yn lluosog iawn, ac etholwyd y Parch J. Rees, gweinidog Car. mel, yn gadeirydd, yr hwn a wnaeth araeth fer, ond bwrpasol, gwresog, a chymeradwy iawn. Cyfeiriodd mewn modd neillduol at gysylltiad agos Mr Williams ag eglwys Carmel, ei weithgarwch gyda'r Gobeithlu, yr Ysgol Sul, ac yn enwedig fel ysgrifenydd Eisteddfod flynyddol Carmel, Treherbert. Dilynwyd y cadeirydd mewn areithiau gwresog gan W. Davies, S. Jones, a M. Mor. gan, aelodau o eglwys Carmel. Yr oeddynt oil yn siarad yn gymeradwy iawn o allu- oedd, gwerth, a chymeriad Mr Williams. Buasai yn dda genym allu rhoddi crynhodeb o'r sylwadau, a buasem yn gwneud hyny oni buasai y byddai hyny yn cymeryd gormod o ofod y DARIAN i fyny. Er cael ychydig o amrywiaeth, dilynwyd yr areith- wyr uchod trwy gael can gan ein cyfaill Eos Hafod yn ei ddull gwcfreiddiol ei hun. Wedi hyny aeth Mr M. 0. Jones i fyny y llwyfan, a dywedodd ei fod wedi derbyn anercliiadau barddonol oddiwrth y beirdd adnabyddus canlynol :-Dyfed, Teganwy, a Chadifor, y rhai a ddarllenodd, a cbawsant gymeradwyaeth ueillduol gan y gynulleidfa. Wele yr anerchiadau :— Gair dwys, o gtiriad isel,-a gair bach Grea boen yw 'ffarwel,' Gair a dyn ddeigryn pan ddel I'r hawddgaraf rudd gwrel. Y mae Rhys yn ymryson—ymadael, Siomedig yw'n calon; Troi i dir tu hwnt i'r don A bair biraeth byw'r awr'on. Dyn ydyw a'i hynodion-yn glodus Dros ein gwlad a'i defion; A mawreddig ymroddion Y gwylia lwydd Gwalia Ion. Diniwed i'w wlad newydd-yr elo'n Swn carolau'r Werydd; Hen gefn yr aig a fo'n rhydd YmeBtyn fel Ilyn llonydd. Drwy ei oes, ar ol croesi-y m6r mawr Am nwch a gwell swyddi, Nef yn rhwydd a fo'n rhoddi Ei grasau teg i Rhys T .-DYFED. Rhys anwyl, os rhaidhwylio—i wlad bell, Ei golud byth i chwilio, Hyd yr aig daw am dro—adsain od 0 acen hynod ein cwyn heno. Cofres hirfaith ac hyfryd-o riniau Sy'n arianu'th fywyd, A chyfaill hoenwych hefyd Llawn o waitb, llawen o hyd. Ysgrifydd dedwydd a da,—i'n gwyliau Bu'n golofn tra yma; Swn ei glod yn hynod a Syn hwyliodd dros hen Walia. Ffarwel, gyfaill, ti a weli-ein bod Ni bawb yn dy hoffi; Duwdad a'th gadwodi—a'i fraich gref Hyd y wiwnef i wneud daioni. Hawdd iawn, 'nol cyrhaedd yno,-yw i ti Roddi taith at Jumbo, Ac yn swrth gwed wrtho,-y drygionus, Am ei hen Alice sydd yma'n wylo Ag wet'yn cerdd at Guiteau I'w fwrw i'r llawr yn farw, 'r llo. TEGANWY. Rhys T. Williams, rywsut, hwylia-o fysg Llu o feirdd a'i cara; 0! am ryw hint pa'm yr a Ar gil p awyr Gwalia. Os awenydd ga synio—fel a'r fel, Yr wyf fi yn tybio Nad awydd gwel'd dumb Jumbo Sy'n ferw dwys yn ei fryd o. Na newid byd yn n6d ban, Wel, yziorol am arian! Rhywfodd, bro Pat yw'r hafan—mwya' Am datws o bobman l dwt Hen Gymru gu am wir gan, Ac Amerig am arian. Wel, er ei gael, rhy' y goes,' Mi wnaf finau, myn f' einioes! Llifeiriant yr Atlantig-dawelo, A hudoledd diddig Fo'n llyfnhau ei donau dig Tra moriot i'r Amerig. Yn brudd gwelir beirdd Gwalia'n—troi i Tra elot ti allan [wylo Ond syn cei yn adsain c&n Beirdd oer, oer bro dda'r arian. Yno daw a. groesawiad I fwrdd ei long feirdd y wlad. Gwalch Ebrill o Gylch Abred I gwrdd a Rhys a'i gerdd rhed; A Gwydderig ddaw, hwyrach, I wresaw Rhys a i wiw wrach Ac Ap Madog enwog yr, A llu eraill o arwyr, • I wresawiad Rhys atynt, Fel un gwr o flaen y gwynt! Wel, Rhys anwyl, rhosynau-o fri llwydd Fo'r oil ar dy lwybrau, A bendith Duw y^uwiau 0 fewn dy gylch fo'n dy gau, 'Rol tynu'r heli tonog-i fwyniant A mawr ogoniant Amerig enwog! CADIFOR. Wedi darllen yr anerchiadau uchod, galwodd y cadeirydd ar Eos Cynlais yn mlaen i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth mewn dull difrifol a boddhaol iawn. Di- lynwyd Cyniais a chan gan Miss Jennie Ryan, Treorci. Yna darllenasom ninau y penillion a ganlyn:— Gyfeillion anwyl, beth sy'n bod ? Wel, dyma dro anniddig Yw gweled pob ryw ddyn o nod Am fyned i'r Amerig. Os coeliwch fi, rhyw'n credu'n wir Nad ydyw yn beth dibwys I weled dynion goreu'r tir Yn gadael gwlad nac eglwys. Y cyfaill hoff, os wyt yn myn'd, A gadael gwlad dy dadau, Pa beth a wnawn, fy anwyl ffrynd Yn myd yr eiateddfodau ? Ti fuost o wasanaeth mawr Ar faes y byd llenyddol; Dy enw sydd i'w wel'd yn awr Yn britho y gorphenol. Wel, Rhys, ar ol it' gyrhaedd draw I diroedd y Gorllewin, Yn nghyntaf peth gwna ysgwyd Haw A didwyll blant y Cenin." Mae mynwes Gwalia 'nawr yn brudd A'i grudd yn llaith gan ddagrau, Wrth weled un o gewri'r dydd Yn gadael Gwlad y Bryniau. Wedi hyny cafwyd ychydig eiriau gan Mr Williams ei hun, a diweddwyd y cyfar- fod trwy i un o ddysgyblion Mr Williams yn yr Ysgol Sul ddarllen anerchiad bardd- onol (yr hwn y methasom gael gafael ynddo), a chanu ton gynulleidfaol. Yr oedd Mr Williams yn hwylio o L'er- pwl yn yr agerlong Arizona, dydd Sadwrn diweddaf. Nid oedd ei deulu yn myned gydag ef yn awr bwriada anfon am dan- ynt yn mhen ychydig fisoedd. Wrth ym- adael ag ef, addawodd wrthym y buasaiyn anfon hanes ei daith i golofnau y DARIAN. Dymunwn iddo bob llwyddiant i ba le bynag yr el. LLEW NEDD.
HEN SILOH, GLANDWR.
HEN SILOH, GLANDWR. Cynaliwyd eisteddfod yn y lie uchod nos Sadwrn, Ebrill 29ain, 1882. Cadeir- ydd, Mr W. S. Jenkins, Penllwvn Villa. Beirniaid: y canu, Mr W. T. Samuel, Abertawe; y farddoniaeth, &c., Eurfryn, j Pentre Estyll. I ddccbreu cafwyd anerch- iad pwrpasol iawn gan y cadeirydd, ac auerchiadau barddonol gan Coch y Berllan, Treforis, ac Alfryn, Treboeth. Yua awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod fel y canlyn Canu 0 rest in the Lord;' pump yn cynyg- rhanwyd y wobr rhwng Eurfron a T. J. D., Cwmbwrla. Beirniadaetb ar yr englyn goreu i'r 'Bardd;' 11 yn cynyg-goreu, Cadifor, Dowlais. Solo Tenor, 'Wyt ti'n cofto'r Iloer yn codi;' 13 yn eynyg—goreu, John Evans, Waunwen. Soprano Solo, 'Rwyf yn cofio'r lloer yn codi;' chwech yn cynyg, a rhanwyd y wobr rhwng Miss H. Edwards, Cwmbwrla, a Miss M. Charles, Pentre Estyll. Beirniadaeth ar y 30 llinell goreu i'r I Boreu Olaf;' chwech yn cynyg- goren, Gwyrosydd, Treboeth. Canu "Arm, arm ye brave;' pump yn cynyg—goreu, Walter Cromby, Treforis. Adrodd I Y Meddwyn Gwallgof14 yn cynyg—rhan- wyd y wobr rhwng Ap Morgan, Cwmbwrla, a. F. Francis, Treforis. Yn nesaf deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef canu 'Marseil. laise Hymn; chwech parti yn oynyg, ae enillwyd y gadair a'r cwdyn gan barti'r Pentre, Pentre Estyll. Ymadawodd pawb yn heddychol, ac wedi eu llwyr boddloni. Trodd yr eisteddfod allan yn llwyddiant yn mhob ystyr.—YR YSGRIFENYDD.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Gwaeth yw pethau yn edrych bob dydd. Mae y Burrows, Llantrisant, Ynyspenllwch, Aberdar, Clun, Morlais, Tydu, &c., yn par. hau yn segur, yr hyn yw y prawf goreu nad yw y fasnach yn talu. Heddyw, eto, clywn fod Coatbridge yn troi yr unig felin ag oedd ganddynt yn gweithio llafnau alcan, i weithio sheets. Y mae yn syn gyda ni pa fodd y mae pethau wedi parhau i fyned cystal am gyliyd oamser. Ymayn Nghymru a Mynwy, cedwid arian gweithwyr am bob dim, tra na ckymerai ein cyfeillion yn Scotland mor drawbacks. Ond yma, lie mae y gwaith mawr wedi bod yn cael ei gyflawni, a gweithwyr wedi magu gelyn- iaeth y naill at y llall, mae cymaint o drawslywodraeth a fu yn hanes y fasnach erioed. A chan nad oes tebygolrwydd am welliant, hyderwn glywed fod gweithwyr pob gwaith mor onest fel ag y bydd iddynt leihau y gwaith yu mbob man ag y mae y cyflogwyr yn gwrthod. Yn awr yw yr adeg, weithwyr; bydd yn rhy ddiweddar i chwi ddweyd mai ni sydd yn ysgrifenu ac yn dweyd y gwir pan y bydd tafien gostyngiad cyflogau yn hongian uwch eich penau. Pe byddech yn cymeryd i ystyrireth gymeriad y gweithfaoedd bychain a'u gweithwyr. ie, sefyll yn ddiduedd nwchben eu hymddyg- iadau, gwelech drwy yr un llygad a ninan mai peth anmhosibl oedd i'w perchenogion allu sefyll. Byddem yn hwyrfrydig iawn yn galweich sylw at hyn oni b'ai mai dyma y gareg sydd wedi bod yn rhwystr i'r fas- nach hwylysu ei chamrau. Golyger fod y cwmni & digon o arian i adeiladu y muriau, a gosod to ar yr adeiladau hyny, byddai v gweithredosdd yn cael eu rhoddi dan ofal y bancer, neu rywun arall a roddai arian ar 16g, a thra bu y marchnadoedd yn rhesymol weigion caent enillian da ar ymgymeriad o'r fabh, yr hyn a'u galluogai i dalu uchel log perchenog yr arian, yn nghyda marchog mewn cerbydau gorwych, nes peri i'r byd oddiallan gredu mai cloddio aur y byddai perchenogion gweithfeydd alcan. Heblaw hyn, caent filiau am bedwar neu chwech o fisoedd am haiarn, alcan, glo, peirianau, &c., nes byddai eu nwyddau yn myned i'r farchnad fel i'w galluogi i daJu rhan o'r biliau a chael cool am ychwaneg. Wedi cael dwy felin byddai yn rhaid cael tair, er tori dash a thwyJlo marsiandwyr. Parha- odd petbau fel yna am dymhor; do, nes gorlenwyd y marchnadoedd, ac ynn. cyf- newidiodd yr olygfa yn gwbl. Gwasgai y marsiandwyr am gyflawni amodan y biliau, a hyny yw, dim llai na thaliad llawn ar ben y tymhor. Buwyd yn ceisio hwyhau yr amser, ond nidoedd dim yn tycio; rhaid oedd cau y dorau. Cr,edai y gweithwyr, a hyny yn erbyn pob goleuni a roddid iddynt ar y mater, fod yn bosibl i'w cyflogwyr gael ail gynyg, a gweithient yn erbyn pender- fyniadau cyfarfodydd nachyualiwyd erioed eu bath o'r blaen yn mhlith eu cydweithwyr. Gweithient chwech o oriau, gan gyflawni yr un nifer o flychau mewn chwech ag a arferid ei gyflawni mewn wyth cyn y cytun- deb yn y melinau, gan orfodi bechgyn y tin houses i glirio yr holl waith a wnaed, neu gael ychwaneg o ddwylaw i'r perwyl hyny a byddai hwn yn ddanteithiol esgus gan y trachwantus yn mhlith y dosbarth olaf, a chai plant ddysgu plant i wneuthur gwaith gwyr mewn oedran. Cawsom hyn i'n gwyneb ganwaith gan feistri na oddef- ent i'w gweithwyr gyflawni ffolinebau o'r fatb. Byddem ninau yn ysgrifenu, ac yn cyhoeddi hyn yn mliob man ag y byddem yn myned, !eto, caledu wnai eich gwaran, ac aech yn fwy presaidd eich gwynebau, nes i'r ymddiriedaeth ag y buoch yn ei feddu tuag at eich gilydd gael ei lwyr golli, ac i'r cyflogwyr fethu a pharhau i werthu hyd yn nod eich gwaith mawr, heb iddynt gael talu lldg trwm am yr anian a fenthyc- iwyd, cyflogau uchel i'w perthynasau a weinyddent swyddau na wyddent fwy am danynt na bwciod. a byddent dan orfod i dalu dynion profiadol am weinyddu y swyddau hyny yn briodol. Ie, wyr y gwaith mawr, dyma y lies a ddarfu i chwi wneuth- ur i'r fasnach; felly, teg yw i bob tad gael magu ei blentyn, a theg yw i chwithau gael gwybod mai yn achos eich hynfydrwydd chwi y mae y fasnach hon yn ei dagrau yn galaru heddyw; ac nid ychydig yw y nifer a fagwyd ynddi sydd wedi cerdded gwlad a gorwlad i edrych am waith er cynaliaeth eu teuluopdd, ac yn mhob man yn methu yn herwydd trychineb fel a nodwyd genym. Anwyl gydweithwyr, a geir gyda chwi ddarllen ein llithiau yn ddiduedd ? ac a gawn ni ofyn genych eu cofio a gweithredu yn eu hoi ? Ai dynol yw eich bod yn anghofio eich gilydd, ac yn goddef y naill y llall i'newynu ? Gwrandewch neddyw, a chyflawnweh weithredoedd ag y bydd yn dda gan eich plant golio am danynt. De- chreued y melinwyr. Beth yw yr hyn a glywn am Ysbitty heddyw-y gwaith i sefyll? Am beth ? Ai am fod y gweithwyr yn ewyllysio hyny ? 0, na. Rhaid, ynte, mai am fod y cyflog. wyr yn ewyllysio cadw eu hanrhydedd. Paham, weithwyr, na byddai i chwithau gadw eich hanrhydedd ? Dywedir ar awdurdod da, pe byddai i'r for/)eg sydd yn awr yn rhoddi haiarn ar goel i'r gweithiau bychain, ond haner gwybod eu sefyllfa, y byddai iddynt fod yn aclios o'u cau i fyny, a iachau y fasnach ar unwaith. Hyderwn y bydd i Benclawdd, Blaenau, Dowlais, &c., gymeryd yr hynt. Y mae gweithwyr haiarn Staffordshire eto ar eu traed yn deisebn eu cyflogwyr am well cyflogau. Penderfynwyd eu bod i aros cyflafareddiad Gogledd Lloegr, am yr hwn y prysur ddysgwyliwn ninau. Danfoned pawb o honoch eich dyledion i fewn i'r swyddfa, a gwnewch gofio ein cyfaill cystuddiol, David George. LEWYS AFAN.
---CWMTWRCH.
CWMTWRCH. MnI GOL.Yr wyf yn crefu arnoch am led llaw gwr ar ryw gongl o'r DARIAN glod. wiw, i fi gael rhoi tipyn o'r hanes wyf yn glywed wrth gerdded o dy i dy ar hyd a a Ued y wlad yma. Gwell i mi ddweyd wrth y darllenydd cyn myned yn mhellach, mai pacman wyf wrth fy ngalwedigaeth, ac nid oes arnaf gywilydd yciiwaith i arddel y trade, am fy mod yn cario fy mas- nach yn mlaen yn onest. Yr wyf yn prynu y brethynau goreu sydd yn Manchester a Birmingham, ac yn eu gwerthu am y pris. oedd iselaf, ac mi fentraf fy mac bob brathynen nad oes neb sydd wedi prynu genyf, yn bychanu y defnydd, nac ychwaith yn dweyd fy mod yn overchargo am danynt. Ond i fi gael traethu yr hyn a glywais wrth drafaelu drwy y lie uchod. Y mae y gwaith alcan sydd yma, yn gweithio yn bur dda ar hyn o bryd. Dygwyddais droi i mewn i un ty yn y lie, ac yr oedd yno dair neu bedair o fenywod yn dygwydd bod i mewn yr un amser a fi, ac yn wir mi gefais ymgom go ddoniol gyda hwy. Yr oeddent yn dweyd wrthyf fod y gweithiau glo yn myned yn mlaen yn lied gyson, ond mai bach iawn oedd yr enillion; dywedasant hefyd fod rhyw waith yn mlaen y cwm wedi stopio yn hollol o herwydd diffyg talu y gweithwyr, ond yr oeddent yn gobeithio gyda'u gilydd am i rywbeth ddyfod i'w ail gychwyn eto. Wrth siarad pobpeth ar draws fel hyn, daeth dan eu sylw rhyw waith glo a gwaith priddfeini, oedd, medd- ent, dipyn naill ochr yma yn rhywle. a gallaswn ni feddwl wrth eu triniaeth fod tipyn o gilwg ganddynt ary gweithiau hyn, am nad oedd dynion yn cael lie i enill fawr ynddynt, ac yn benaf oil am fod dynion yn gorfod bod megys caethion, a hyny mewn gwlad rhydd, ac o dan awdurdod ser dys- glaer yn ffurfafen crefydd. Dywedent ei bod yn berygl o dan boen ysgymundod i neb siarad dipyn yn blaen yno, nac i fyned yn gynrychiolydd i unrhyw gyfarfod un. debol. Yr oeddynt yn dweyd, rhyngddynt hwy a finau, fod rhyw haner dwsin, mwy neu lai o bersonau yn ystod y misoedd diweddaf yma, wedi gorfod dyoddef ben- dithion y deyrnwialcn sydd yn ysgwydedig yn Haw yr hen foy Pharaoh Nero, am dros- eddau byehain heb fod yn werth sylw i i/ommom sense da. Dywedodd un o'r cwmni fod rhai dynion yn y byd yma, ar ol iddynt gyrbaedd tipyn o gyfoeth, yn credu mai arian sydd yn gwneuthur dyn yn ddyn; 'does dim gwahaniaeth ganddynt pa fodd y cyrhaeddant ef, pa un ai drwy lafur eu dwylaw eu hunain, neu ynte drwy ddifa mcr esgyrn rhai ereill; gollyngant yn aogof bawb a phobpeth o'u hamgylch, heb ystyried am y graig o'r hon y naddwyd hwy; a cbeudod y ffos o'r hon y cloddwyd hwy allan. Clywais am ryw helynt ofnadwy sydd wedi bod yn ddiweddar yn nglyn a rhyw deml Bachus sydd yn y lie, ac am y petition gogoneddus wnawd gan rywrai digon ciaidd a maleisus, gyda'r amcan i daflu y diniwed o'i fasnachdy. Y tro nesaf, os caniatewch, Mri Gol.,ym- drechaf ddangos yn ngoleuni y gwirionedd yr egwyddorion sydd yu llywodraethu rhai crefyddwyr, y rbai, meddant, syddyn teimlo yn angherddol dros sobrwydd ac achub- iaeth eneidiau pechaduriaid. y lie. Yn ol fel yr wyf wedi clywed, y mae yr helynt hwn yn un ysmala dros ben. Ymdrecbaf gryrhoi yr hanes yn gyflawn erbyn rhyw dro eto. HEN BACMAN.
Advertising
YSTALYFERA ART UNION. IJYMUNIR hysbysu fod y Drawing uchod 6 wedi cael ei ohirio hyd dydd Llun, yr 22ain o'r mis hwn, a thaer erfynir ar bawb sydd heb ddychwelyd eu duplicates, i'w dychwelyd yn nghyd ar arian, erbyn y loeg cyfisol. Ymddangosa y uinniiif/ numbers yn y DARIAN yr wythnos ganlynol, ac yn y South Wales Daily Xtws, Mai 24ain. J H. G., Ysg. Temple Street Studio, Opposite the Glamorganshire Bank, Swansea. THE above Studio will be open on Whit- Monday from 8 a.m. till dusk. Intending patrons please call early to avoid waiting. J. HARRISON GOLDIE, (Late Chief Photographer to Mr. H. A. Chapman), 7, TEMPLE STREET, SWANSEA. GWEITHIAU CYMREIG Y DIWEDDAR Barch, John Mills, Llundain, Cyhoeddedig ac ar werth gan R. MILLS, LLANIDLOES. BUCHDRAETH Y PARCH. JOHN MILLS, F.R.G.S.,M.R.A.S., Llundain, gan Richard Mills a'r Parch. N. Cynhafal Jones. Mewn Ilian hardd, 3s 6c. DALESTINA: ssf Taith i ymweled ag P Iuddewon Gwlad Canaan. Llian, 7s; French Morocco hardd, 8s Gc. GRAMADEG CERDDORIAETH. Ped- werydd argraffiad. Llian, 3s. TTYFFORDDWR YR EFRYDYDD sef cyfarwyddyd i gyrhaedd dysg, gwy. bodaeth, a rhinwedd. Pris mewn llian, 3s. PERL YSGRYTHYBOL, neu agoriad -1- i wybod o'r Beibl, y 12fed fil, Is 6c. GEIRLYFR YSGRYTHYROL: trydydd argraffiad, yn cynwys eglurhad ar darddiad ac ystyr y geiriau a ddefnyddir yn y Beibl, Is 2c. DAEARYDDIAETH YSGRYTHYROL: D yn cynwys desgrifiad o holl wledydd y Beibl. Llian, 3s. IUDDEWON PRYDAIN: sef eglurhad ar I arferion teuluaidd, defodau crefyddol, ac agwedd cymdeithasol Iuddewon y deyrnas hon. Is. Y CANOR: set arweiniad i egwyddorion C. ac ymarferiad cerddoriaeth. Trydedd argraffiad. 6c. a hARLITH ar Gerddoriaeth Gymreig: sef ..LJ1 adolygiad ar hanes a nodweddion cerdd- oriaeth Genedlaethol y Cymry o amser y Derwyddon. 6e. y CERDDOR DIRWESTOL: yn cynwys Tonau ac Anthemau at wasanaeth Dirwest. 6c. a 1ERDDOR YR YSGOL SABBOTHOL V A'R BAND OF HOPE, gan R. Mills. Is. FkARLUNIADUR ANIANTDDOL: sef eglurhad manwl ar egwyddorion Ser- yddiaeth, Daearyddiaeth, a Daeareg; ac yn cynwys tua 80 o arluniau eglurhaol gan E. Mills. Llian, 5s. DA FODD I DDEWIS GWRAIG, wedi ei • gyfieithu o'r 4ydd argraffiad Saesoneg. 40. IJIM AMSER I'W GOLLI, gan y Parch. Dl. Rowlands, M.A., Bangor. 80. GelHr cael y llyfrau uchod yn retail nen yn wholesale gan Mri Mills a Lynch, Swyddfa'r Darian, Aberdar, am yr un pris a chan y cyhoeddwr. Now Ready, A History of England & Wales From the Roman to the Norman Conquest, by T. MORGAN OWEN, M.A., Gold Medallist, duff (Open University) Prizeman, etc. Price free by post, 3s. 3d. Orders received by J. Morris, Publisher, 30, High-street, Rhyl. PRIZE DRAWING Tabernacl, Capel y Bedyddwyr, DUKESTOWN, SIRHOWY. CYMER Y DRAWING uchod le yn y Foundry Cottage, Dukestown, Mehefin laf, 1882. Yr elw at y capel uchod. Owobrau fel y caltlyn Prize laf jglO 10 0 „ 2il 7 7 0 „ 3ydd Calendar Clock, gwerth 5 5 0 Gyda llawer o wobrwyon ereill. Bydd list o'r enillwyr i ymddangos yn y DARIAN a'r South Wales Daily News am y 5ed o Fehefin, 1882. Cadeirydd: Mr Wm. Miles, Dukestown. Trysorydd: Mr Rees Thomas, Tredegar. Pob cais am docynau i'w gwneud i Mr W. A. Davies, Ygrifenydd, 2, Second Row, George Town, Tredegar. Tocynau, 6ch. yr UIl, neu deuddeg am 5s. Aberdare Burial Board. To Contractors and others. "]YOTICE IS HEREBYGIVEN, that the 1.' Board invite and are prepared to accept TENDERS for Digging Graves and Vaults in their Cemetery for twelve months from the 15th day of May, 1882. Sealed Tenders, prepaid, and endorsed Tenders for Digging Graves," to be sent to me at or before 10 o'clock on Wednesday, the 3rd day of May next. The Board do not bind themselves to accept the lowest or any Tender. By order, H. P. LINTON, Clerk to the Board. 4, Canon Street, Aberdare. Bethlehem, Abercwmboye. BYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod yn y capel uchod dydd Llun, Mai 15fed, 1882. Beirniad y farddoniaeth a'r adrodd iadau, Mr Thomas Davies, 40, John-street, Abercwmboye. Beirniad y canu, Mr Thos. James (Iago Cynon). I'r cor heb fod dan 25 mewn nifer a gano yn oreu "Y Gwanwyn,' gan Miiller, gwobr .£1 5s. a 5s i'r arweinydd. Am y pedwar penill goreu i Dr. Leigh fel meddyg, gwobr 5s. w Y cyfansoddiadau i fod yn llaw y beirniad Mai 8fed. AM BOB MATH 0 YMBORTH a GROCERY RHADLAWN, A'R RHAI HYNY O'R MATHAU GOREU, EWCH AT F. W. MANDER, 42, COMMERCIAL STREET, ABERDARE. Yn awr yn y Wang, ac i'w chyhoeddi mewn wythnos new ddwy, Awdl Fuddugol Eisteddfod Abertawe. AWDWR:-DEWI WYN 0 ESSYLLT. TESTYNSYR ROWLAND HILL. Pob Archebion i'w hanfon at y Cy- hoeddwyr a'r Perchenogion, MILLS a. LYNCH, Aberdar. FEL enghrailft o'r dosbarth o feddygST laetbau y carem argymhell i sylw y Cymry. yn mhob man, dymunem gyfeirio at ddar. pariaeth ddiffuant, didwyll, ymddiriedol, a mwyaf gwerthfawr a llesiol ag y gwyddom am dani, sef Quinine Bitters GWILYM EVANS, Yr hwn sydd yn fath o Tonic llysieuol, ao yn hollol yr hyn y gosodir allan-ei fod yn gyfansodctedig o lysiau wedi ei ddarpara mewn dull gwyddonol, a chyda'r gofal mwyaf sydd ddichonadwy er sicrhau ei lwyddiant. Y cylla yw peiriant maWl treuliawl y corff, ac o hono ef y gwasgerir yr holl ranau maethlonol trwy y cylan- soddiad. Os na chedwir hwn mewn trefn, syrthia yr holl gorff i ddyryswch. Eifaith ac amcan penaf y Quinine Bitters yw cadw y cylia yn iachus, a phob organ yn gweithio yn hwylus ac yn eu He, a geilir yn deilwng ystyried y Bitters hyn y feddyginiaetb deuluaidd oreu y gwyddis am dani. Cy. meradwyir hi yn ddibetrus at annhreuliad yn ei gwahanol agweddau, ac afiechyd y ddwyfron a'r afu, yn nghydag anhwylderau. gewynol. Yr ydym am lawer o flynyddaa wedi edrych gyda gradd helaeth o ddrwg. dybiaeth ar feddyginiaethau hysbysiedig, a thueddid ni i wneud hyny a'r feddygin- iaeth hon, sef Quinine Bitters Gwiiym Evans, hyd nes y gwelsom y fath dystiol- < iaethau pwysig a dylanwadol oddiwrth ddynion a wyddent mor dda, ac a wnaethant gymaint o ymchwiliad i'w hansoddion. Dymunem yn neillinol rybuddio y ay. hoedd i fod yn ochelgar yn eu dethohad o gyiieiriau, a dyient iod yn gwybod rhyw- beth am ansawdd y darpariadau meddygol a fwriadant gymeryd cyn eupwrcasu; ao os, wedi ymchwiiiad, y boddlonir hwy am eu rhinweddau, dylent fod yn ewyllysgar i dalu pris teg am y cyfryw, a rhoddi iddo brawl teg a pharhaol, a pheidio cymeryd eu hudo i redeg a phwrcasu meddygin. iaethau iselbris, y rhaiyn fynych a brofanfe, nid yn unig yn ddiwerth, ond yn dra niweidiol. Oddiwrth ein gwybodaeth bersonol am y darparydd a'r perchenog, gwyddom ei fod yu ei broffeswriaeth wedi cyrhaedd yr an. rhydedd uwchaf yn y gangen Seryilol, ao yscyrir ef yn un o fferyUwy* mwyaf golea- edig ac addawol y dydd. FFEITHIAU AM QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Y maent yn cael eu cymeradwyo gan feddygon a lferyllwyr i'w cleifion ar ol i bob meddyginiaeth arall fethu. Y maent yn cael eu cymeryd gan hen ao ieaanc, cyfoethog a'r tlawd, a chan ddynion yn mhob sefyllfa ao o dan bob amgylchiad. Nid yn unig yn Nghymru y maent yn adnabyddus, ond derbynir orders am dan ynt o America, Canada, yr Aifft, Cyprus Awstralia, &c. Y mae pawb sydd wedi eu profi unwaith yn eu cymeradwyo i'w cyfeilhon, a thrwy hyn y mae y gofyn am danynt yn cynyddu yn helaeth o tlwyddyn i iiwyddyn. Y mae hyn yn brawf teg o'i helfeithioldebi canys paham y prynai neb y feddyginiaeth am yr ail a'r drydedd waith os na fuasent yn derbyn budd a lleahad oddiwrthynt ? I MEDDYGINIAETH HYNOTAF YR OES BBESBMOL YW Quinine Bitters Gwilym Evans Y mae ynddynt gymysgedd cywrain— chwerw a melus-lysiau, wedi eu haddas gydgymysgu mewn modd newydd, hapus, a dirgel, gan y dyfeisydd, Mr. Gwiiym Evans, F.C.S., M.P.S., fferyllydd, Llanelli. Y mae y gwahanoi lysiau wedi eu cymysgQ yn hynod o ffodus, a chynwysa y Quinine Bitters yn ddiamheuol y ddarpariaeth oreu er lies y corfE dynol. Eu DEFNYDDIOLDEB YN UN GYMYSGEDD. Hawdd iawn fyddai i unrhyw un bryna y meddyginiaethau uchod ar wahan, a hawdd fyddai gwneud rhyw gyhiysgiad o honynt, ond anhawdd iawn fyddai cael yr holl lysiau uchod at eu gilydd am arian rhesymol, ac anmhosibl fyddai eu cymysg yn y modd cyfrwys a medrus y gwneir gan Mr. Gwilym Evans, a chanddo ef yn nnig y mae y dirgelwch mawr o gymysgu y psthau hyn gyda y fath lwyddiant a'r fath effaith. Y maent wedi eu profi yn effeithiol i symud y doluriau a ganlyn:— DIFFYG TREULIAD A'I GANLYNIADAU. Sef poen yn yr ystumog, gwyntogrwydd, trymder anarferol ar ol bwyta, gwaelder cyn bwyd, diffyg archwaeth, bias an- nymunol yn y genau, gwres mawr yn y cylla yn achosi y corff i rwymo, yr anadl yn drwm, a'r genau yn sych, brathiadau poenus yn y frest a'r ochrau, a mynych bigiadau fel pe bae pryfedyn yn y cylla. Y mae un neu ychwaneg o'r poenau uchocl yn arwydd o ddiffyg treuHad, a goreu pa gyntaf y dechreuir ar gymeryd Quinine Bitters Gwiiym Evans. SYLWADAU CYFFREDINOL. Gallai rhaidybio ei bod yn anmhosibl i un feddyginiaeth effeithio Heshad mewn cyuifer o wahanol ddoluriau. Y mae yr ateb yn syml a pharod, sef (1), bod tystiol. aethau pwysig i'w cael unrhyw amser; (2), fod y feddyginiaeth ya cynwys cynifer o wahanol lysiau; (3), y mae y driniaeth yn un hollol resymol, sifl symud achos y dolor yn gyntaf trwy gryfhau y cyfansoddiad, ao felly amddiffyn y rhanau gwanaf a mwyaf agored i afiechyd. Ar bob amgylchiad doeth ydyw yn gyntaf chwilio achoa dolur. Cyfarwyddiadau i'w bwrmsu, Gofyner yn eglur am Quinine Bitters Gwilym Evans. Ar ol ei gael, edrycher yn fanwl ar y label, a sylwer ar stamp yLlyw- odraeth sydd ar wddf y botel, a myner gweled yr enw Gwilym Evans, F.C.S., M.P.S., wedi ei ysgrifenu yn Hawysgrif y perchenog. Gofaled pawb na chymeront eu twyllo, na derbyn cynghor i gymeryd unrhyw foddion arall o dan yr hen esgus ei fod yn llawn cystal ac yn rhatach. Esgus gwael a thwyllodrus yw hwna. Cofier bob amser fod efelvchiadau lawer i bob peth da, ac y mae lluaws mawr o efelychiadau i feddyginiaeth ardderchog a I dihafal Quinine Bitters Gwiiym Evans.
YR "HEN WR" A GWEITHFEYDD…
bymtheg o ddur am bob tynell o haiarn a osodwch i mewn. Er mwyn pob peth, ym- drechwch gael ganddo adeiladu ycbydig ffwrnesi i chwi; ond gan fod cymaint o alw am dano, ai nid yw yn bosibl iddo fod mewn rhagor nag un man ar yr un pryd, rhoddaf y secret i chwi fel yr wyf wedi ei weled yn gweitbio:- Gofalwch osod digon o dyllau yn y brick, work, a gofalwch eu bod wastad yn agored; dilynwch y plans yn fanwl, fel y maent yn cael en rhoddi gan Dr Siemens defnydd- iweh Wilsons' Gas Producers, a chofiwch ddechreu arllwys y dur o'r ladle cyn ei fod oil wedi rliedcg o'r ffwrnes. Un peth arall; gofalweh na. fydd y dor yn dwym iawn; os bydd, gwell yw aros iddo oeri ycbydig; bydd hyny yn sicr oberi i ychydig ganoedd o hono aros ar ol yn y ladle, ac nid oes dim yn fwy effeithiol er cadw y clai yn ei Ie. Dyna i chwi yn fyr y secret rhyfedd a ddarganfyddais yn gweithio yn Gwmbwrla, ac oud i chwi ddilyn yn fanwl yr awgrym- iadau uchod, yr wyf yn sicr y cyrhaedd web gyffelyb lwyddiant; ond os ydych am gael y secret yn ei berffeithrwydd, nis gell- wch wneuthur yn well na chael Mr Bevan yno i arolygu ei ddirgelwch ei hnnan. Oyda diolchgarwch gwresocaf i Hen Wr am ei sylw caredig, gorphwysaf, yr eiddoch, &c., HEN WEITHIWR DUR TLAWD.