Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF,…

News
Cite
Share

TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF, AC ODDIYNO I ST. ELMO, COLORADO. Mai 22ain.—Wele eto un Sabboth wedi gwawrio; y mae yn hollol fel pob diwrnod arall-un i'w faes ac arall i'w fasnach. Cyn ei bod yn eithaf goleu y boreu hwn, yr oedd y gwragedd a'r plant mewn gyda ni yn y tiien yn gwerthu llacth, Howls, bara, a gwahanol deisienau. Yn mlaen cyn canoi dydd; yn gweled yr amaethwyr allan yn aredig gyda'u hanifeiliaid, yr hyn sydd yn eglur ddangos uad ydyw y Beibl yn cael y sylw dyiadwy yn y man hon o'r ddaear. Yn y prydnawn, yn gweled am- ryw o buyittos yn pori gyda'r gwartheg. Erbyn hyn y mae y dydd yn agoshau at ei deriyn, a goiygfeydd anian yn myned o'n golwg, drwy fod lleni'r nos yn cuddio yr hyn sydd brydferth ar y ddaear oddi- ^YSin.—Yn cyrhaedd tref Sydney am bump o'r gloch y boreu yn cael amser i gymeryd boreufwyd; yn ymadael wedi caellluniaeth. Wedi ein myned ychydig ffordd oddiyma yn canfod canoedd lawer o dda, ceffylau, deiaid, a moch. Codi an- ifeiliaid yw prif gynyrch y dalaeth y ffordd hon. Y mae y tir yn dywodlyd yn y parth hwn er fod yma wastadedd mor belled ag a ellir weled, eto y mae yn rhy sychlyd i'w laiurio. Yn myned i dref Oheyanne am un o'r gloch canol dydd, yr hon sydd ar gyffiniau De-Ddwyrain talaeth Wyo- ming. Cychwynasom oddiyma tua Denver am chwarter wedi dau y prydnawn gyda'r Denver Pacific. Nid hir y buom cyn dyfod i dir Gogleddol Colorado, yr hwn sydd am y 40 milldir cyntaf yn dywodlyd anghyff- redin; ar ol hyny, y mae afonydd bycliain yn rhedeg yn agos i'w gilydd, ac amrai amaethdai yma thraw, a ffosydd o'r afon- ydd hyn er dyfrhau y tir. Buom wrth eu gweled, bron a chredu ein bod gyda'r brodyr yn Mhatagonia. Y mae edrych ar y mynyddoedd creigiog yn y pellder draw yn ein swyno i edrych arnynt wedi eu gwisgo yn eu manteiii gwynion, a'r cymyl- au o amryw liwiau megys rbwymynau o amgylch eu penau,a'r clogwyni talaf fel pe yn cyvulyddio o dan gysgod eu hadenydd. Cyrhaeddasom Denver am saith yn yr hwyr, a mawr y drafferth gawsom yn yr orsaf, heb wybod pa le i fyned yn herwydd ein bod yn cael gormod o gynygion ar le- oedd i letya. Cawsom, le hollol gysurus a chydmarol rad. Y 24ain.-Y boreu hwn, ar ol boreu- fwyd, aethom i dy Mr James Thomas, Practical Watchmaker & Jeweller, 431), Larimes Street, Denver. Brawd ydyw i Mr D. Thomas, Jeweller, Aberdar. Ac os ewch i siop Mr Thomas yn Denver, cewch yno ddyn yn ngwir ystyr y gair. Bu mor garedig a gadati ei fasnach er dyfod allan am oriau gyda ni or dangos prif leoedd y dref, y rhai sydd yn ardderchog. Mae ei hadeiladau o chwaeth gelfyddydol, mewn trefnusrwydd, maint, a harddweh. Diau nad yw yn un o'r trcfydd mwyaf cynyddol yn Colorado. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1870 ond 4,570, ond erbyn 1880 yr oedd yn rhifo 35,030. Y mae chwech o reilffyrdd JB rhedeg iddi o wahanol fanau. Y mae saith o fanciau, pedwar o ba rai sydd yn National; 11 o ysgoldai, a rhai 0 honynt wedi costio 75,000 o ddoleri; pedair o brif- ysgolion, 28 o gapeli yn perthyn i'r enwad- au canlynol :-Baptist, Catholic, Christian Congregational, Jewish, Episcopal, Metho- dist Presbyterian, Reform and Unitarian. Yr ydym wedi eu henwi fel y maent yn cael eu galw yma. Denver yw prifddinas y dalaeth. Nid oes amser i wneud rhagor o nodiadau ar y lie hwn, am fod y dydd ar ddarfod a'r amser i ymadael yn neshau. Am salth o'r gloch cychwynasom er myned tua gorsaf Denver de Rio Grande. Am wyth yr oedd y tren i ymadael, ond yr oedd yn nos dywyll cyn hyny, o herwydd ei bod yn fellt a tharanau. Yr ydym yn son am ddramas a gwahanol olygfeydd, ond dyma y ddrama ryfeddaf a all dyn ei weled yn ei fywyd. Nid yw y taranau i'w clywed gan drwst y tren yn myned gyda'r fath gyflymdra, ond y mae y nefoedd yn un mam o oleuni-y rnellt mor danbaid yn gwau drwy eu gilydd yn eu haimyw liwiau, I ac yn ymdori ar gopáau y mynyddoedd, gan ddawnsio ar garpet gwyn o eira. Par. haodd felly am ddwy awr. Nid rhyfedd i'r Arglwydd ofyn i Job)—lt A ddanfonidi fellt allan, fel yr elont, ac y dywedant wrthyt wele ni ?" Na, nid oedd yn gallu rhoddi ateb iddo, ond apelio at ei hollallu- aw^rwydd,—" Efe a wnaeth ffordd i fellt y taranau." Y mae edrych ar yr olygfa ryfedd hon yn peri i ni ei hedmygu, a myned heibio i'r gweledig at yr anweledig, oddiwrth yr achosion at yr achosydd mawr ei hunan, ao yn barod i ddweyd gyda r Salmydd,—" Deuwch, addolwn, ac ym- grymwn. Gostyngwn ar ein giumau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr. Pan drof fy llygaid, O fy Nuw, I wel'd dy ryfedd waith, Ymgolli'r wyf mewu syndod dwfn, Ni fedda 'nghalon iaith." Y 25ain.—Yr ydym wedi cyrhaedd tref o'r enw Canon City erbyn pedwar o'r gloch y borou hwn, ac er ein mawr siomedigaeth nid oes tren i'w gael cyn haner awr wedi pedwar y prydnawn i fyned i Silver Cliff Wedi i ni aros yn yr orsaf hyd chwech, aethom yn groes i'r rheilffordd ar gyfcr yr orsaf i dy ag oedd bwyd i'w gael unrbyw amser, ac wedi ymolchi, a chael boreu- fwyd, yr oeddem yn teimlo yn gysurus, gan ein bod wedi mwynhau ein hunain mor dda. Wedi hyny, aethom allan er gweled. y dref. Y mae yn sefyll ar lan Ogleddol afon Arkansas, i'r De-Ddwyrain i'r rhestr o'r mynyddoedd creigiog, y rhai a elwir yr Arkansas Hills, ac yn 161 mill- dir i'r De Orllewin o Denver. Y mae wedi ei hadeiladu o geryg a phriddfoini, a rhai o gryn faintioli, a cboed wedi eu planu ar hyd ocbrau yr heo ydd er mwyn bod yn gysgod rhag y gwres. Y mae yma lawer o erddi rhagorol er codi amrywiol ffrwythau. Yma mae carchar y dalaeth. Uwchlaw iddo y mae y soda springs, yr hwu sydd yn union yr un lias a'r sodalrater sydd mewn potelau yn Nghyniru. Y mae yma ddwy ffrwd yn byrlymu fyny refder gardawrn dyn yn ei faintioli, a hwnw mor oered a r ia. Yn uwch i fyny wed'yn, ar yr ochr arall i'r afon, y mae hot sprirujs, y rhai sydd yn gynes, bron yn naws y gwaed. Rhyfedd mor drefnus y mae Awdwr natur wedi darparu ar gyfer dedwyddwch ei greaduriaid—dwfr i yfed fan yma, ac yn y fan draw dwfr at faddo. Y mae yma laweroodd wedi cael iachad ag oeddynt a tharddiad yn y croen, a hwnw yn cael ei achosi yn herwydd aftechyd yn y gwaed; Y mae yr amser i ymadael wedi dyfod i ben. Cychwynasom am haner awr wedi pedwar o Canon City. Pedair milldir uwchlaw i'r dref, wele ni yn ngenau y Grape Creek Canon. Dyma le rhyfedd ydyw hwn i feddwl am i'r tren rhedeg drwyddo. Trwy hwn hefyd y mae afon fechan a elwir Grape Creek yn rhedeg Saif y creigiau yn syth ar bob llaw, o fil a haner i ddwy fil o droedfeddi o uchder, eu hyd o ddeg i ddeuddeg milldir. Y mae mor gul mewn llaweroedd o fanau, fel nad oes ondIle i'r rbeilffordd a'r afon yn unig. Gyda theimladau odd, heb lawer o ofn, yr aethom drwy y lie rhyfedd hwn, gan ein bod yn canfod olion henafiaeth ar y oreig- iau, fel y mae henaint wedi rhychio eu harwynebedd. Y mae yr agerbeiriant yn gwneud swn dyeithr iawn ar rai prydiau, nes oedd yn adseinio am bellder mawr o ffordd. Pan yn meddwl ein bod yn myned yn erbyn danedd y graig y mae y ffordd yn agor o'n blaenau. Nid yw y man mwy. af unionsyth, yn ol fel yr ydym yn gallu barnu, ond tua dau gant o latheni i'w gan- fod o'n blaenau. Yn dro ar ol tro, awd drwyddo o'r diwedd. Yr oedd yn hawdd- ach o lawer gofyn paham a pha fodd am y lie, na rhoddi ateb bodclbaol iddynt. Cyr- haeddasom Silver Cliff erbyn wyth o'r gloch yn yr hwyr. Gan na wyddem yn iawn pa le i fyned, darfu i ni letya yn y Powell House. (I'w barhau.)

"PARCH I'R HWN Y MAE PARCH…

AT MR LEWIS MORGAN, YNYS-GEINON.

ARWYDDION YR AMSERAU.

BYR EBION 0 ABERDAR.

---AT Y BEIRDD.

CYMDEITHAS GERDDOROL CAERDYDD—EI…

MERTHYR A DOWLAIS.

MARWOLAETH SYDYN YN CABLE,…

MEDDYG I LANSAMLET.

YR "HEN WR" A GWEITHFEYDD…

EISTDDDFOD CASTELLNEDD Y NADOLIG.