Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

HEREWARD

News
Cite
Share

HEREWARD YR OLAF o'r. SAESON. PEXOD IX. Pan y cyieiriodd Hereward at Arnulf ieuanc fei ei arglwydd, cododd gwrid eiddigeddus i wyneb Robert. Nid oedd deddf y cyntafanedig yn nhy na theulu Baldwin fel y mae yn bresenol yn y wlad hou, ac awenau pob llywodraetli yn disgyn i feddiant yr y 0 henaf, pe byddai hwnw yn llo o ran ei alluoedd na, yn nhy Baldwin, fel gyda golwg ar lywyddiaeth yn Israel gynt, yn disgyn i'r cymhwysaf o rELn ysbryd, fel yn esiampl Dafydd a Solomon. Felly yn Flanders, yn y canol oesoedd- rhoddai y tad y gorchwyl o lywyddu- canys gorchwyl caled oedd llywyddu yn yr oesoedd hyny—i'r cymhwysaf i wneud hyny; ac felly, fel y dywed un hasesydd ar yr achos, y mab a fodd- lonai y tad yn fwyaf yn nheulu Count Baldwin a gymerai enw y tad, ac a lyw- yddai ar holl Flanders, tra yr arweiniai yr holl frodyr ereill fywyd o ufydd-dod iddo ef. Ond y mae yn rhaid cofio yr arweiniai hyny i lawer o wrthryfel a thywallt gwaed. Gallasai Robert fod o gynorth- wy mawr i'w frawd, pe buasai heb ddeall nad oedd efe yn ddim, a bod ei frawd yn bobpeth. Pe buasai efe yn rhagweled i ba le y buasai ei eiddigedd yn ei arwain -yn rhagweled Chwefror yr 22ain, 1071, ac yn gweled y bacligen hwn yn rholian mewn gwaed a llaid—buasai yn tagu y wiber ddigllawn oedd yn ei fynwes. Ond yn awr trodd at Arnulf ieuanc, a dywedodd:— Dyro i mi dy ddyn, fachgen." Pwdodd Arnulf. Yr oedd efe eisieu cadw ei Viking iddo ei hun, a dywedodd hyny. "Y mae 1m dysgu 1 arwain, fel y geilw y Norsemen ef, fel chwi." Chwarddodd Robert, canys yr oedd cyfeirio at ei ystranciau ysbeilgar yn cynyrehu rhyw foddlonrwydd ynddo. "Dyro ei fenthyg ynte i mi am fis neu ddau, nes y bydd iddo goncro y llyffaint Frieslandaidd i mi; ae yna cai fyned i arwain gydag ef." Gan obeithio na ddeuwch byth yn ol," ebe Robert ynddo ei hun, ond nid mewn geiriau. "Gadawer i'r marchog fyned," ebe Baldwin. "Gadawer i mi fyned gydag ef, ynte." Na, yn enw yr holl saint, nid allaf fforddio i ti gael dy drywanu a bidogau y Frieslandiaid." Pwdodd Arnulf drachefn. Abad, beth yr wyt ti wedi bod yn ddysgu i'r bachgen? Nid yw yn meddwl ond am ymladd a gwaed, yn hytrach nag am lyfrau a gweddiau." Y mae wedi myned yn ddwl ar ol hwn— y marchog yma." "Y mae yr Abad," ebe Hereward, II yn gwybod fy mod i wedi ceisio ganddo ymdawelu gartref, a llywyddu mewn heddwch fel ei dad a chwithau. Dywedodd yr Abad yn onest beth cedd wedi cymeryd lie rhwng Hereward a'r llanc am y ffordd i St. Bertin. Gofynodd Baldwin i Hereward fyned gydag ef i ystafell. "Eisteddwch i Iawr wrth fy ochr i." Y mae yn ormod o anrhydedd." Gwiriondeb i gyd, ddyn. Os ydwyf yr hwn ydwyf, gwn hefyd nad yw yn un cywilydd i mi i'ch cael chwi i eistedd ar yr un fainc. Eisteddwch i lawr." Ufyddhaodd Hereward. Dywed wch wrthyf pwy ydych." Edrychodd Hereward arno dan wenu, eto yn gythryblus. "Dywedwch wrth Robert a minau I' pwy ydych, a dyna ef ar ben. Meddyl- iwyf fy mod yn gwybod eisioes. Yr wyf wedi bod yn ymholi yn fanwl a masnachwyr, marchogion teithiol, a II morladron fel chwi eich hunan." morladron fel chwi eich hunan." Ac yr ydyeh wedi cael mai morleidr ydwyf?" Daethum o hyd i forleidr a'ch cyf- arfyddodd yn yr Iwerddon dair blynedd yn ol, yr hwn a gymer ei lw, os oes genych un llygad glasac un llwyd" Fel sydd genych," ebai Robert. "Fy mod yn ben blaidd, ysbsilydd offeiriaid, yn Esau ar wyneb y ddaear, a'i law yn erbyn pawb, a phawb a'i law yn ei erbyn yutau." "Eich bod yn fab i fy hen gyfaill Leofric o Gaer, ac yn un o'r creaduriaid mwyaf twymgalon, hirben, dwrn-caled, sydd yn teithio moroedd y Gogledd. A'ch bod wedi lladd blaidd Gilbert o Ghenul cefnder Siward Digre. Peidiwch gwadu." "Pcidiwch a'm crogi na'm hanfon at wyrth-wneuthurwr Westminster i'm crogi, a bydd i mi gyfaddef." "Myn? Y mae i bob dyn groesaw yma, os daw a chalon gywir a Haw gadarn. Noddfa y digartref' y galw- ant Flanders, a hyny, y mae yn debyg, am fy mod yn rhy dda fy natur i droi ysbeil wyr ymaith. Felly, os na wnewch ddrwg i'm he iddo i, ni chaiff fy eiddo inau eich niweidio chwithau." Yr oedd geiriau Baldwin yn wirion- edd. Rh jddodd le i bawb, cynorthwv- odd bawb yn erbyn pawb, ac eto heb gwervla a neb, trwy ei natur dda, a bendithfawr yw y dyn a'i meddo. Feily aeth Hereward ymaith i gospi yr Hollanders drygionus, ac i ddial cam Countess Gertrude.

PENOD X.

DY DDI A CI MARl WAEDLYD,

HANES Y BECHGYN JAMES-I LLADRON…

EISTDDDFOD CASTELLNEDD Y NADOLIG.