Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

.:YR WYTHNO S.

News
Cite
Share

YR WYTHNO S. BOREU dydd Llun yr wythnos ddi- weddaf, rhwng 12 ac 1 o'r gloch, cyfar- 4yddodd bachgenyn o'r enw Johny Jones, rhwng chwech a saith mlwydd oed, mab i John Jones, glowr, Cardiff Boad, Aberaman, a damwain pan yn chwareu a rhod ddwfr ger y gwaith nwy, Aberaman, yr hyn a achosodd ei "farwolaeth. Claddwyd ei weddillion marwol y dydd Ian canlynol, pryd yr rvmgynnllodd yn nghyd ei gyfoedion yn yr-ysgol ddyddiol, ac hefyd luaws o gyfeillion y rhieni trallodus. BOREU dydd Sadwrn diweddaf cy- merodd dygwyddiad angeuol le l fenyw oddeutu 40 mlwydd oed, yn agos i orsaf rheilffordd y Great Western yn Mhont- ypwl. Yr oedd yn myned rhagddi ar hyd y linell yn nghyfeiriad Pontypwl Road, pryd y daeth peiriant i fyny, gan ei tharaw ar ei phen fel y bu farw ar unwaith. Y mae yn ymddangos ei bod yn fenyw ddyeithr yn y lie. Yr oedd yn ei llogell, heblaw llyfr perthynol i gymdeithas adeiladu Coleford, 5s 6c mewn arian. Yr enw ar y llyfr oedd Williams. DYDD Mercher yr wythnos ddiweddaf daeth bachgen o'r enw James Thomas Evans, yn mhentref Llanbethery, ger Penmarc, i ddiwedd rhyfedd. Daeth ar ymwel'ad a'r teulu un ar gefn pony, yr hwn a rwymwyd wrth brerf yn yr ardd. Y mae yn ymddangos i'r baehgen fyned a gyru y pony o gwmpas y pren, a daeth trwy ryw anffawd o fewn i gylch y rhaff, a'r hon y cylymwyd yr anifail, ac fel yr oedd y creadur yn troi o amgylch daeth y bachgen hefyd yn rhwym, a thynhiiodd y pony y cordyn mor dyn fel y bu farw y bachgen yn y man heb i neb ddyfod i wybod am dano. CYMERODD ffrwydriad le ar fwrdd yr agerlong Marion, ar yr afon Wateree, South Carolina, ddydd Sadwrn diweddaf, trwy yr hyn y collodd naw eu bywydau. Y MAE ymgais wedi ei wneud gan ryw bersonau anhysbys, at fywydau Mri Yanderbilt a Cyrus Field, yn New York, a hyny trwy anfon peirianau iSrwydrol trwy y llythyrdy. Tra ar ei daith ffrwydrodd un o'r peirianau yn y llythyrgod, ac erbyn gwneud archwiliad yr oedd un arall yn y llythyrdy. CYMERODD dwy ddamwain angeuol le yn Nhreorei ddydd Iau diweddaf. Y fyntaf i fachgen 14 oed, o r enw lenry Davies, mab i Mr W. Davies, swyddog yn mhwll y Pare, Cwmparc. Y mae yn debyg fod y bachgen yn cyf- lawni rhyw orchwyl ar un o'r tips, yn ymyl pwll y Pare, a phan y daeth dwy ddram lawn i fyny, credir i'r bachgen geisio neidio ar y rhaff o flaen y drams, ac iddo golli ei droed, a syrthio i'rllawr, pryd yr aeth y ddwy dram drosto, gan ei ladd yn y man. Yn fuan wedi hyny, lladdwyd plentyn o'r enw Margaret John, merch fechan i D. John, Bute Street, Treorci, trwy i gert perthynol i Mr W. Phillips, grocer, fyned drosti. Y mae cydymdeimlad mawr a rhieni y plant anffodus. DYWED bryshysbysiad o New York ddydd Mercher diweddaf, fod yr Indiaid wedi llosgi tref Guallcysville, Arizona, ac wedi lladd 35 o bobl wynion. Y MAE y Ddirprwyaeth apwyntiedig gan y Llywodvaeth er chwilio i mewn i achos damweiniau mewn glofeydd, wedi fcrefnu ail ymweled â Deheudir Cymru ar yr 8fed o'r mis presenol, ac i aros am wythnos. DYWED hysbysiad fod y Hong Gleam, o Abertawe, wedi myned yn ddrylliau yn Port Nolloth. Achubwyd rhan o'r dwy law, ond bod pump o honynt wedi eu colli. Y DYDD o'r blaen, rhuthrodd buwch at un Mrs Jarret, yn Castellnedd, gan ei gwthio yn erbyn mur breswyldy yn ymyl, a dywedir y buasai y fuwch wedi ei chornio oni buasai i ddyn yn ymyl ei hachub. Y MAE strike yn awr yn mhlith mwn- wyr Karpitz yn Awstria. Ymgyfarfydd- asant nos Sul, a phenderfynasant ymuno a strike mwnwyr y Dux. Y maent yn gofyn am godiad yn eu eyflogau. Y maent yn derbyn yn awr o 3s. i 3s. 6c. y dydd. Y maent yn gofyn hefyd am wneud i ffordd a dirwyon. Y mae y menywod, wedi eu harfogi a choed, yn cerdded yr heolydd, ac yn rhwystro pawb nad ymunant a'r strike i weithio. 0 FLAEN ynadon Bow Street, dydd Sadwrn diweddaf, cyhuddid bachgen ieuanc o'r enw Albert Young, telegraph clerk, yn byw yn Spotborough, Don- caster, o anfon Ilythyr bygythiol at y Frenhines. Y-mae ei brawf wedi ei ohirio. ODDIWRTH don areithiau glowyr Gogledd Cymru y dyddiau diweddaf, y mae yn fwy na thebyg y bydd iddynt ail ymaflyd yn eu gwaith yn gynar yr wythnos hon. Nid ydynt yn gweled un priodoldeb i barhau y strike a newynu eu teuluoedd. BOREU dydd Gwener diweddaf cyfar- fyddodd glowr o'r enw William Price a'i ddiwedd yn dra disymwth trwy gwymp cloden yn un o lofeydd Ferndale. Mae y trancedig yn gadael gweddw a phed- war o amddifaid, heb unrhyw ddarpar- iaeth ar eu cyfer. MAE mudiad ar droed yn mhlith morwyr Liverpool er cael ychwaneg o gyflog. Y mae y llongwyr yn ymddang- os yn ystyfnig yn ngwyneb y cais, er fod codiad wedi cael ei roddi mewn amgylch- iad neu ddau. DiDD Llun diweddaf, yn ystod yr ystorm o fellt a tharanau, lladdwyd dau geffyl gwerthfawr yn agos i'r Ddinas, Cwm Rhondda, gan fellten. Ni adawyd unrhyw ol ar y cyrff. CAFODD dyn o'r enw John Keene ei lofruddio nos Sul diweddaf yn King William's Town, swydd Cork. Y mae dau ddyn, o'r enwau Timothy a Michael Keeffe wedi eu eymeryd i fyny o ddrwg- dybiaeth o fod a law yn y gwaith.

LLOFRUDDIO GWRAIG

CAETHWASAETHYN LAGOS.

CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH…

DYODDEFIADAU YR IUDDEWONI…

AT LOWYR Y GLO TAI.

- AT Y PEIRIANWYR.

PWYLLGOR SLIDING SCALE Y GLOWYR.

[ CYFARFOD Y SLIDING SCALE…

ABEEDAR-HÙN ANLADDIAD.

CYFNEWIDIADAU YN Y LLYWODRAETH.

ACHOS IAWNOL Y BACHGEN WALL.

r CASTELLNEDD.

BRITON FERRY.

MOUNTAINIASH.

LLWYDCOED, ABERDAR.

EISTEDDFOD UNDEBOL MOUNTAIN…

CYFARFOD Y BOREU.

CYFARFOD Y PBYDNAWN.

--CELF A MASNACH.

ABEBTAWE.

Advertising

BWRDD YSGOL ABERDAR.