Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

o newyddiadueon cymreig AMERICAN…

News
Cite
Share

o newyddiadueon cymreig AMERICAN AIDD. MARWOLAETHAU. Mawrth 18, 1882, yn Bevier, Mahony, William X. Jones, genedigol o Clwydfag. wjt, ger Merthyr Tydfil, Deheudir Cymru. Mab-ydoedd iJohn Jones (Shon Tai Cypla). Gfcda<wodd 'Wra.ig a dau o blant, a llu o berthynasan a chyfeillion i alaru eu colled fel dyn tawel, diwyd, a gonest. Yr oeddyn fiyoddef er!s amser maith gan glefyd neu daohir pur beryglus; ond y typhoid malarta 6edd y cyfrwng a'i dygodd i ffordd yrJioil ddaear. Cafodd eithaf y meddygon goreu in y cylchoedd, a chafodd gladdedigaeth bachus iawn. Mawrth 9fed, 1882, yn Portage City, WM. oonsin, Mrs Sarah Evans, yn 56 mlwydd oed. Merch ydoedd i David R. a Sarah Jones. Ganwyd hi yn mhlwyf Llandysil, Aberteifi, Deheudir Cymru. Claddodd ei mam yn y Ue a enwyd, a daeth y tad a phump o blant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1842. a sefydlasant yn Harnson, Swydd Licking, Ohio, a bu Sarah yn gwemi yn Newark am ddwy flynedd, hyd nes i r teulu symud i Wisconsin yn 1844 Yn 1848 priododd â. Mr Edward R Evans, a gwnaeth ant Watertown yn lie eu preswyl- fod hyd ddydd marwolaeth Mr Evans yn Hydref diweddaf, a Mrs Evans ar y 9fed cyfisol. Y mae yn gadael chwech o blant mewn sefyllla gysurus-yr leuangaf yn 21 mlwydd oed. Dau frawd yn y wlad hon, a dwy chwaer yn yr Hen Wlad. Magwyd Mrs Evana yn yr eglwys, a bu yn aelod ffyddlon drwy ei hoes. Dynes deimladwy, aerchog, a chroesawus ydoedd, am ba achos enillodd lawer iawn o gyfeilliou mynwesol. Mawrth 21ain, 1882, yn ardal Bevier, Mahony, Moses Evans. Ei afiechyd oedd yi darfodedigaeth, oddiwrth yr hwn y bu yn dyoddef yn dawel ac amyneddgar am fisoedd lawer. Ganwyd gwrthddrych y sylwadau hyn yn Aberdar, Morganwg, Deheudir Cymru, Awst lOfed, 1852. Enwau ei rieni oeddynt Samuel ac Ann Evans, y rhai sydd yn aelodau o'r eglwys Gynulleid- faol Gymreig yn Bevier, Mahony. Cladd. wyd ei ran farwol y dydd Mercher canlynol yn mynwent Bevier, pryd y gwemyddwyd, yn apsenoldeb yr ysgrifenydd, gan y Parch Dr Parry. Gadawodd rieni a brodyr i alaru ar ei ol.. Yr Arglwydd fyddo yn nodded iddynt. Mawrth 16eg, 1882, yn 28 mlwydd oed, Edward itadcliff, ieuengaf, Conshohocken, Pennsylvania, ar ol cystudd o ddwy wyth- nos. Ganwyd ef yn Newton Nottage, ger Pontfaen, sir Forganwg Mab vdoedd i William a'r diweadar Mary Radcliff, o Newton. Daeth i'r wlad hon yn Awst, 1879, gan ymsefydlu yn Conshohocken, lie y bu yn cartrefu hyd ei farwolaeth, gyda r eithriad o'r ychydig fisoedd y bu yn aros yn Catasaaqua. Yr oedd yn un a geria gan bawb o'i gydnabod, a theimlir bwlch ar ei ol yn ei deulu a'r ardal yn gyffredinol. Claddwyd ef dydd Sul y 19eg gan gynull- tsidia luosog a pharchus, pryd y gwemydd- wyd gan y Parch Thomas Evans, gweinidog eglwys Fedyddiedig Balligomango. Clud- wyd ei weddillion i'w orphwysfan yn mynwent y Bedyddwyr, Cold Point.

. -.,.. ADOLYGIAD Y WASG.

TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF,…

Y " CREATION " YN NOWLAIS.

BUDD-GYNGERDD Eos LLYWEL.

EISTEDDFOD LLWYNYPIA—AT MR.…

Y WASG.

CYFARFOD MISOL GLOWYR DOS.…

I HANES MR. WILLIAM EDWARDS,:…