Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
LIVERPOOL.
LIVERPOOL. Y GEOGLITH A'R PASC—YMADAWIAD GWEIN. IDOGION-Y TORIAID-Y RHYDDFRYDWYR —YMFUDIAETH. Daeth y Groglitk a'r Pasc i mewn eleni gydag awyr glir, a gwenau haul, a chyda hyn daeth amryw o drens rhad o wahanol ranau o'r deyrnas ag ymwelwyr lawer i'r ddinas i syllu ar ei rhyfeddodau, yn enwedig yn nglyn a'u llongau. Yr oedd yr ager- longau ar yr afon ar y dyddiau hyn yn gwneud masnach dda rhwng y dyeitLriaid, a'r nifer boblogaeth yma ag sydd wedi troi allan i fwynhau en hunain. Yr oedd hefyd amryw o drens rhad yn rbedeg oddiyma, ac aeth gyda hwynt nifer helaeth o bobl y ddinas, fel, rhwng y dyeithriaid ag oedd wedi dyfod yma, a'r rbai yn myned oddi- yma, yr oedd pob man i'w weled yn llawn bywyd, a Liverpool i raddau helaeth am yr ° wedi newid poblogaeth, a phawb am fwynhad. Hyderwn fod hyny wedi cy- meryd lie mor bell ag oedd gwecldeidd-dra ynddo. Yr oedd gwasanaetlidydd Gwener y Groglith a Llun y Pasc bron yn mhob un o'r Eglwysi Sefydledig yma, a rhai o hon- ynt yn cael eu llenwi o gynulleidf aoedd da I gadw yn gu goliawdwriaeth o'r hyn a gymerodd le dros ddynolryw. Yn sicr, ni waeth beth a edrycha rhai ar wyliau fel hyn fel rhai Pabyddol, y mae rhywbeth ynddynt wedi y cyfan ag sydd yn dwyn i'n meddyliaji am rai dygwyddiadau pwysig ag y byddai yn lies i ni eu galw yn neilldu- ,nl i'r cof. Y mae yn rhaid addef fod ilglwys Loegr ar y blaen i'r Ymneillduwyr yn hyn. Y mae genym brawfion byw o fliyn eleni, wrth weled rhai Ymneillduwyr proffesedig ar y dyddiau uchod yn myned i ddifyru eu hunain i'r parciau, i'r wlad, ac am hwyl ar yr afon, tra yr oedd eglwys- wyr yn myned i addoli. Y mae cymanfa y Bedyddwyr Cymreig yn cael ei chynal yma yn flynyddol ar y Groglith, ac hyd nos Lttn y Pasc, a dyna yr unig wasanaeth crefyddol mewn cysylltiad ag Ymneilldu- aeth a gymerodd le yma ar ddydd Gwener y Groglith a Llun y Pasc. gyda'r eithriad o gyfarfod blynyddol y Wesley aid Cymreig yn Birkenhead, a dywedir fod y Gair wedi ei draddodi gyda nerth yn y cyfarfodydd I crybwylledig, gan amryw o weinidogion dyeithr. Wrth weled y fath nifer helaeth o gyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodol, cyngerddau, &c., a gyneiir y Nadolig, y Groglith, y Pasc, a gwyliau crefyddol ereill, yn sicr er cymaint o waed Cymreig sydd yn ein gwythienau, ac er cymaint ydym yn deimlo mewn ysbryd gwladgarol dros sefydliaiau ein cenedl, dylid ymholi yn ddifrifol ao ystyriol pa un ai llenyddol neu ynte crefyddol a ddylai nodweddu y dyddiau a nodwyd ? Y mae myned a dyfod yn ol o'r America wedi myned yn beth mor gyffredin y dydd- iau hyn, fel nad ydyw hyd yn nod gwein. idogion yr efengyl yn meddwl mwy am ymgymeryd a'r daith na rhyw fodau ereill. Pa fodd bynag, ddydd Mercher diweddaf, yn mhlith y teithwyr ar fwrdd yr agerlong Nevada, perthynol i'r Guion Line, yr oedd y Parchn John Jones (Vulcan), a Hugh Hughes, Birkinhead. Bwriadant ddy- chwelyd yn ol yn mhen tri mis, wedi gwneud taith drwy ranau helaeth o'r Unol Dalaethiau. I'w hebrwng i'r llong yr oedd llu o Gymry y ddinas, ao hefyd rai wedi dyfod yn bwrpasol o Gymru i ganu yn iach iddynt; yn eu plith yr oedd Dewi Mawrth, yr enwog Clwydfardd, ao ereill. Yr oedd amryw o Gymry wedi amlygu-yn enwedig rhai o Wesleyaid Gymru—eu hawydd i hwylio yn yr un agerlong. Gwnawd trefniadau i hyn, a gwelwyd hwynt yn ddyogel ar yr un bwrdd gan eich gohebydd. Eiddunwn iddynt oil fordaith dda, a llwyddiant yn ngwlad y Gorllewin. Ymwelwyd a'r ddinas yr wythnos hon gan arweinwyr y blaid Doriaidd, sef Iarll Salisbury, a Syr Stafford Northcote, ac yn eu canlyn yr oedd Due Abercorn, larll Llathom, Arglwydd Sandon, A S.; yr An- rhydeddns Algernon Egerton, Syr Massoy Lopes, A.S.; y Gwir Anrhydeddus Syr R. A. Cross, A.S. y fiwir Anrhydeddus H. Cecil Raikes, A.S., a llu o fanacb ser yn ffudafen Toriaeth, yn aelodau seneddol, ymgeiswyr am aelodaeth, arweinwyr cym- deithasau, &c. En gorchwyl oedd gosed conglfaen ar adeilad newydd y gymdeithas Doriaidd yma. Gwnaed hyny ddydd Mercher, ac o hyny hyd neithiwr (nos Weaer), yr oedd gwleddau a chyfarfodydd cyhoeddus yn oael eu cynal. Byddai sylwi ar yr areithiau yn fwy nagycaniatai gofod yn y DABIAX. Digon, hwyrach, ydyw dweyd eu bod oil, o'r arweinwyr i lawr, yn ceisio tori o dan Weinyddiaeth bresenol Mr Gladstone, gan briodoli pob drwg iddi, a dangos yn eu dull hwy mai Toriaeth sydd oreu i'r wlad, ac hefyd yr hyn y mae Toriaeth wedi ei wneud, ac y mae eto am ei wneud. Gan na ddarfu i'r un o honynt son am y rhyfeloedd, a'r tywallt gwaed, a'r bywydau a hyrddiwyd yn ddiachos i dragywyddoldeb, a'r treuliau yr aethpwyd iddynt, a'r marweidd-dra masnachol oedd yn ystod y chwe' mlynedd y buom o dan Lywodraeth Toriaidd, dichon eu bod wedi anghofio, neu ynte ofn son am y fath beth. Pa fodd bynag, y mae yn ffaith fod y deyrnas wedi dyoddef llawer odan ly wodr- aeth Iarll Beaconsfield. Yr oedd y trefn- iadau gan 3in Toriaid lleol ar gyfer yr achlysur yn bob peth a allesid ei ddysgwyl er cael arddangosiad allanol ardderchog. Pa faint o ychwanegiad at allu Toriaeth yn y lie a ddaw o'r oil, rhaid aros i amser esbonio. Tra yr oedd y Toriaid yn gorphen eu rhialtwch, yr oedd y Brif Gymdeithas Ryddfrydol yma yn cymeryd i ystyriaeth y cwestiwn o ymddiswyddiad ei llywydd, R. D. Holt, Ysw. Deallir mai mwy ogyfrifol- deb mewn masnach sydd yn peri hyny. Y mae Mr Holt wedi bod yn llywydd am chwe' mlynedd, ac wedi arwain yn dde. heuig i frwydrau o dan lawer amgylchiad. Teimlir colled ar ei ol fel arweinydd, ac mae yr ymddiswyddiad yn peri gofid. Mr William Crossfield, mae yn debyg, fydd y llywydd newydd. Mr Oulton, Islywydd y Bwrdd Ysgol, yn drysorydd, a Mr Holt yn mhlith y tri Islywyddion. Y mae hyn yn sicrwydd am weitbgarwch eto yn y rheng- au Ryddfrydol. Cyhoeddwyd ddoe gan y Bwrdd Mas- nach ystadegau ymfudiaeth oddiyma am fis Mawrth, ac y mae y ffigyrau yn dangos fod 20,410 wedi ymfudo yn ystod y mis. Cynydd o 5,931 ar fis Mawrth y flwyddyn ddiweddaf. Y mae diwedd Mawrth yn gwneud 1 fyny y chwarter cyntaf o'r flwyddyn, ac yn dangos fod 34,333 o ym- fudwyr wedi myned oddiyma. yn ystod y tri mis sydd newydd ddiweddu. O'u cyd- maru a'r 24,125 am yr un tymor y flwydd. yn o'r blaen, y maeut yn dangos cynydd o 10,208 ar y tri mis cyntaf yn 1881. Cynydd mawr chwi welwch, ond mae y peth yn ffaith. Gan fy mod eisioes wedi myned yn rhy faith, rhaid gadael ar hyn yn bresenol, gan addaw llythyr eto yr wythnos nesaf. Yr eiddoch, &c., J. D. PIERCE.
AT " TWM O'R NANT."
AT TWM O'R NANT." ANWSTL SYR,—Y mae genyf yr hyfrydwch o ateb eich gofyniadau i mi yn y DARIAN ddiweddaf fel y canlyn :— 1. "A ydyw yn ddyledswydd ar yr ysgol- feistr, yn unol a gofynion Deddf Addysg, i addysgu yr oil o'r pupil teachers yn ddi- wahaniaeth ?" Ydyw, yn yr amser apwyntiedig iddo i wneud hyny yn y Ddeddf, sef pump awr yn yr wythnos. Yn yr amser hwnw, o gwrs, dylai wneud ei oreu i'r naill fel y llall yn hollol ddiduedd a gonest. 2. A oes hawl ganddo i neillduo dwy noson (mwy neu lai fel yr ewyllysic) i addysgu rhai o'r pupil teachers, tra yn taflu pob diystyrwch ar y lleill ?" Oes. Gall wneud a fyno o'i amser ei hun wedi iddo yn rheolaidd wasanaethu ei swydd yn unol & gofynion Deddf Addysg. Ond nid oes ganddo hawl diystyru neb o'r pupil teachers. Y mae hyny yn anfoneddig- rwydd mewn unrhyw un, ac yn angharedig- rwydd y dylid rhoddi atalfa buan arno. 3. A oes hawl gan y cyfryw fyddo yn cael ei esgeuluso i apelio at y Bwrdd heb ofni cael ei niweidio gan yr ysgolfeistr ar ol hyny ?" u Oes, dylid ar bob cyfrif apelio yn ddi. oedi at y Bwrdd. Ond gofaler fod yr achos yn dda, a'r prawfion yn ddigonol. Gallaf eich sicrhau y rhydd y Bwrdd fel y cyfryw dderbyniad caredig, a gwrandawiad astuflf i'r neb a fyddo a chwynion o'r natur a nod- wch ganddo. Ni ddylid ofni y niwed a ddichon yr ysgolfeistr wneud. Dichon mai efe gaiff y gwaethaf os na fydd yn ym- ddwyn yn addas a theilwng. Uniawni pob camwedd, bod yn garedig i'n gilydd, heb ofni y naill a'r llall, yw y ffordd oreu i fyw. 4. A oes hawl gan ysgolfeistr i basio (neu arholi) plentyn ddwy waith yn yr un standard er mwyn elw personol ?" Nac oes, ac y mae hyny yn anmhosibl. Ofnwyf fod camsyniadau yn cael eu gwneud yn y cyfeiriad hwn. Un grant roddir i bob plentyn yn mhob safon. Y mae llygaid y Llywodraeth yn rhy graff i neb gael yr ail grant i'r un plentyn, heb fodtwyll mawr yn cael ei wneud. Troir plant yn mlaen ac yn ol yn fynych gan y Meistri; ond nid yn gymaint er mwyn elw personol iddynt eu hunain, a chyflawni gofynion y Ddeddf. Meddylier er enghraifft fod plentyn yn y III standard yn methu pasio ei arholiad yn llwyddianus. Dichon mai wedi methu mewn dau beth fyddai. Trueni fyddai ei gadw am flwyddyn gyfan yn y III standard hyd y pasiai. Gwna yr ysgolfeistr garedig. rwydd ag ef drwy ei weithio yn mlaen i'r, ac yn y IV standard. Ond, pan ddel yr arholiad, rhaid ei droi yn ol i'w examino yn y III er cael arno y grant a gollodd y flwyddyn flaenorol, felly, gwelir mai colled i'r ysgolfeistri yw y methiantau ac nid elw personol. Er prawf o'r uchod, nodaf un case am ysgol dan y Bwrdd peth amser yn ol. Ar- holwyd bachgen yn y IV standard, ac o gwrs, cafwyd grant arno. Dechreuodd y bachgen wedi hyny weithio, ac yn mhen cirwech neu wyth mis aeth i'r ysgol nos yn yr un lie. Erbyn hyn, yr oedd wedi anghofio llawer o'r gwersi, a gorfu iddo eilwaith lafnrio yn y IV. Stundord. Cafodd ei arholi ynddi fel night scholar. Pasiodd a chafwyd grant iddo. Dyna ail grant i'r un bachgen yn yr un safon, ie. Ond nid hir y bu y Llywodraeth cyn cael allan fod y bachgen hwn wedi cael grant yn y IV standard fel every day scholar, a'r canlyniad fu i'r Bwrdd orfod refando yr arian am yr ail grant. Gweler fod llymdra yn y gyfraith, a manylrwydd braidd dibendraw, fel y mae bron yn anmhosibl i'r un ysgolfeistr allu gwneud yr hyn a awgryma eich gofyniad. Ydwyf, yr eiddoch yn gywir, Gadlys. B. EVANS.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Cawsom gyfarfod rhagorol y Sadwrn di. weddaf gyda bechgyn Rhiwderyn, uweh. law Casnewyddar-Wysg. Er fod y rhai yma bob amser yn cyfranu yn baelionus at roidiau eu eydweithwyr yma pan mewn cyfyngder, ni fuont o'r blaen yn aelodau o gymdeithas yr alcanwyr. I'r gymdeithas hono a lywyddid gan yr ymdrechgar John Kane ag sydd yn awr dan ofal fy nghyfaill Edward Hood, o Darlington, y perthynent pan fuom ar ymweliad a hwy o'r blaen, ac er i ni gael dadl frwd 4 rhai o'r gorenon yn eu plith ar y priodoldeb i'r alcanwyr gael llywodraeth iddynt eu hunain, enillasom yno gyfeillion mynwesol, a chawsom brof- iad newydd y Sadwrn nad oedd y tan wedi diffodd na'r gwres un gronyn llai. Dichon eich bod yn cofio mai i Mri Edwin Phillips a Robert Nurse yn benaf y perthynai y gweithiau yma y pryd hwnw, a'u bod wedi myned am flynyddau yn llewyrchus iawn nes i'r cwmni ymhel 4 hen lofa, a hwythau heb brofiad am faults, &c., yr hyn a brofodd yn ddinystr i'w hamgylchiadau, ac yn ddi- ddadl yn achos bedd anamserol i Mr Nurse. Mae y gweithiau yn awr yn meddiant Mr Charles Morris, o Lansawel gynt, ond nid ydynt yn myned yn rhyw hwylus iawn. Mae yno bedwar melin yn gweithio, a cha'r gweithwyr ar gyfartaledd rhyw gant i chwech ugain o flychau yr un yn ystod wythnos. Beth debygech chwi, fechgyn y ddau gant a deucant a haner am hyn ? Dipyn yn afreolaidd yw hi mewn llawer man yn Mynwy, fel y clywsom. Yr oedd yn ofidus gan ein calon glywed adrodd am y Blaenau a'r trigolion. Os arbedir ein bywyd, dysgwylliwn gymhelliad i fyned gerllaw yno cyn hir, ac adroddwn i chwi y ffeithiau yn gywir. O'r braidd y gallwn gredu fod ein hen gyfaill sydd yno dros y melinau wedi edrych mor isel ar y fasnach alcanaidd fel ag i ddysgu pob math o weith- wyr er mwyn traislywodraeth arnynt. Os felly, nid yw efe y dyn ag y ffurfiasom farn am dano ugain mlynedd yn ol. Yn awr, rhag i mi anghofio cyn gadael Mynwy a'i thrigolion, bydd yn dda gau ein haiarn- weithwyr wybod fod David Harries, gaffer yr Express, Llwydarth, Western, Avan Vale, Aberdar, &c.,—rhy faith enwi pob man y mae Daff wedi bod-ei fod yn gaffer yn awr yn Rhiwderyn, ac mor boblogaidd ag erioed. Dilynwch ni yn awr, ddarllenwyr, at symudiadau pwysig yr wythnosau diweddaf yma. Gwyddoch yn dda, bawb o hnnoch, heb angen i neb ymesgusodi, fod y cyflog- wyr gydag unfrydedd neillduol wedi cyd- benderfynu ewtogi y gwaith a wneir. Onid yw hyn yn garedigrwydd a'r gweithiwr sydd wedi boddrwy y blynyddoedd fel bod afres- ymol yn dirladd ei gorff heb gyrhaedd yr un amcan, ond yn unig cael tyloty ar ddi- wedd ei daith, colli parch a chydymdeimlad pob bod rhesymol, a chael ei gladdu fel un heb arddeliad arno ar draul y plwyf y magwyd ef ynddo ? O alcanwyr, dylech fod o un galon yn diolch i'r cyflogwyr mai Heihau y gwaith ac nid lleihau y tal yw eu hamcan, a dylech heb rithyn o dwyll dd'od allan fel un gwr i'w cynorthwyo. Nid awn i ddanod yr hyn a welsom a'n llygaid ein hunainforeu cyntaf yr wythnos ddiweddaf, nid yn unig cyn y cynddydd^ ond ar haner nos nis gallwn anghofio yr olygfa. 0 dadau a mamau, beth all fod eich teimladau chwi pan yn goddef i'ch gwyryfon ieuainc i ymgymysgu a bechgynos ar yr awr dyner o rhwng deuddeg nos Sul ac un boreu Llun. Cofiwch nid wedi clywed na darllen am hyn yr ydym, ond gwelsom a'n llygaid yr hyn nad allai ein caion ei gredu heb i ni ei weled. Buom bron gwadu i ni ein hunain mai yn Nghymru yr oeddym; ehedai ein meddwl at wledydd pabyddol y Cyfandir; ac er y dadlu a fu, rhaid yw cyfaddef mai yn ain tref enedigol yr oeddym, ac yn orllewinol i Ben Isa'r Dre. Weithwyr, heb ewyllysio eich pardduo, goddefwch i ni yn ddifrifol ofyn eich cyd- weithrediad q blaid cadw cyflog rhesymol am ddiwrnod rhesymol o waith. Pender- fyniad y cyflogwyr yw lleihau am dymhor anmhenodol (blwyddyn neu fwy os bydd angen) 15 y cant. A dyma benderfyniad ein cyfarfod ninau ydoedd lleihau fel y byddai ein eyflogwyr yn gweled yn oreu, gan mai cadw pris rhesymol am y llafnau, a chyflog heb ei chyfnewid i'r gweithwyr yw eu hamcan Y mae bron yn anmhosibi i ni ddysgwyl perffaith unoliaeth yn hyn yn fwy na dim arall, oblegyd mewn nifer o ddeuddeg yr oedd yno un a'i enw Judas. Weithwyr, pa un o honoch a fyn ei enwi ar enw y bradwr hwnw. Holed pob un o honoch ei hunan ie, holwch eich gilydd, am mai digon priodol yw tybied na wel pawb o honoch yr ysgrif hon. Nid yw y gwrthddadleuon a gawn yn deilwng o'r ysgrifenwyr, am mai ffyddlon yr ydym wedi eu oael bob amser. 0 frodyr anwyl, deuweh, byddweh ffyddlon y waith hon etc. Y mae y cwbl a enillwyd yn y gor. phenol yn cael ei golli os dal yn gyndyn a wnewch chwi. Gwyddom, a cbawsom achos i wybod er ein gofid, i lawer syrthio i brofedigaeth dan daer gymhelliadau y cyflogwyr. Wedi i ni fod yn y dref yma, rhai canoedd o honom, a chael dynion profiadol o'r tu allan i'n cynorthwyo, er hyny mae y fasnach yn ei dagrau, llesiant ein teuluoedd, a'r pwys mawr o estyn y y fasnach i lawr i'r genedl a ddaw ar ein holau, yn uchel, uchel alw am gydweith- rediad pob un o honom. Cymerwn y cyfle hwn i'ch hysbysu ein bod yn ymrwymo gwneuthur ein goreu y tro hwn eto. Frodyr, a yw yn ormod i ni ofyn cynorthwywch ni ? Deuwch o unfryd calon. Lie mae y cyflog- wyr yn bwriadu marchog ereill drwy beidio cydymffurfio, deuwch chwi, weithwyr, i 'weithio. Gwnewch lai bob dydd, a buan y daw y troseddwyr diegwyddor i wybod mai ofer gwingo yn eich erbyn. A gawn ni lwyddo yn ein deisyfiad amser a ddengys. Ond cofied pawb a fydd yn anffyddlon mai eu cyhoeddi ar g'oedd byd a gânt-dim celu yr un o honynt, o na. Os dygwydd i blant yr oes nesaf ddarllen y nodiadau hyn, oant hefyd wybod enwau y troseddwyr. Nid yw ond gofid genym gyhoeddi neb; er hyny, ein dyledswydd fel eich annheilyngaf was yw gwneuthur pob peth yn ein gallu er eich lies bydded chwerw neu felus, yn ofid neu yn bleser, rhaid yw i ni ei gyflawni. Mae y bankers, marsiandwyr, cyflogwyr, a gweith- wyr yn penderfynu bod a u llygaid yn agored er gwylio pwy, fydd yn troseddu y pender- fyniad Nid ydym yn ewyllysio ysgrifenu yn fach am neb; mae y tylotaf mor gyfoethog a deg cant o honom ni; ond clywn ar ein teithiau fod yn mryd y rhai hyny sydd yn rhoddi arian ar 16g, i wyntylla y gweiniaid hyny a fyddant yn gwrthod lleihau, a digon tebyg y c&nt achos i wylo ar ol hyn, ac y cewch chwithau a weithiweh yno achos i edifarhau pan y bydd yn rhaid i'r dorau gael eu cau. Weithwyr, peidiwch ymgecru yn hwy am mai hwn yw y cyfle olaf a gewch. I'r lan, fechgyn, bydded ein arwyddair o hyn hyd byth Ys dywed yr hen Longfellow, y bardd Americanaidd y darllenasoch ei hanes yn y rhifyn ddiweddaf o'r ÐARIAN-' Excelsior! Nid annerbyniol efallai fyddai genych i ni roddi tro am unwaith eto i'r Iwerddon, nid y corff, cofiwch, er i ni gael ein bodd- hau yn y wlad a'i ansawdd, a'i thymeredd iachus, eithr gadewch i ni, heb rhagfarn, fwrw golwg dros ei hadnoddau mwnawl hi, a'r gost o'u toddi a'u dwyn i yst&d o ber- ffeithrwydd, a'u cyferbynu mewn cost i fanau ereill yn Nghymru a Lloegr. Y mae cyfalafwyr Prydeinig wedi gwastraffu mil- oedd o'u cyfoeth wrth anturio mewn gwledydd pellenig, tra y byddai yn bosibl iddynt, nid yn unig fod wedi cadw eu cyf- oeth er lies eu hunain, ond gallent, yn ddi- amheu, fod wedi bod yn foddion i wareidd- io Pat, a'i ddwyn i fod yn aeled defnyddiol o gymdeithas; ac oni fyddai hyn yn fen- dith—fod cenedl ag sydd heddyw yn ddir- mygedig, ac yn wir, nid heb ystyried fod ansicrwydd bywyd ei thrigolion, a'r difrod a'r cynhwrf parhaus sydd yno yn bodoli, yn gofyn ystyriaeth ddifrifol, nid yn unig 'iladstone, Forster, Bright, a'r rhelyw o'n deddfwneuthurwyr, ond pob un sydd gan- ddo deimlad yn ei galon dros yr hil ddynol. Y mae yno adnoddau mwnawl, a chawn ystadegau gan foneddwr sydd wedi bod yno yn ceisio cael ffordd newydd o hedd- ychu yr Ynys Werdd. Cawn mai lleihau mae nifer y gweithwyr yno yn barhaus. Rhwng 18G1 a 1871, nifer y personau yn gweithio a masnachu mewn haiarn a dur: y ffigyrau ydynt,—1861,26,728; 1871 23, 530, a'r un cyfartaledd mewn cangenau ereill o lafurwaith. Y mae y maes glo sydd yno yn cael ei gyfrif i gynwys 182, 280,000 o dynelli, eto y glofeydd a weith- ient yn 1880 oeddynt ond yn rhifo 49, ac yn gweithio 2,728 o dynelli yn flynyddol yr un, a chynydd y flwyddyn oedd 133,719 o dynelli. Allforiwyd yno o Loegr, Alban, a Chymru, yr un flwyddyn, 2,863,163 o dy- nelli, a gwnaeth Belfast, tref gyfagos yn ymyl y maes glo, gymeryd 882,182 e dy- nelli o'r swm yna. Ychydig iawn o dawdd- dai sydd drwy yr holl ynys. Yr oedd yno yn 1880, 135 o honynt, yn cyflogi 11,227 o ddwylaw, ac er mor lleied oeddynt, defn- yddieut lawer o big iron. Yn yr un flwydd. yn yr oedd yno 21 o fwnau, yn cynyrchu 239,325 o dynelli. Nid yw hyn ond y peth nesaf i ddim pan ystyriom fod y fath gyf. lawnder o fwn haiarn yn y wlad. Bu Syr J. Guest, o Dowlais yno yn gwneuthur prawf o'r mwn, a dywedai ei fod yn rhag- ol. 250 o flynyddau yn ol, yr oedd yno weithfeydd haiarn lawer, a chofiwn ni rai o'r hen deulu a fuont yn gweithio mewn alcan; ac y mae teuluoedd yr hen drigol- ion a ddaethant drosodd i Gymru gyda y rhai hyny yma. Y Bretts, enw anwyl i ni, y Kelly's, y Braughans, &c., a gyfar- fyddom yn ami ar ein teithiau. Un o'r hen Gymry a fu yno a gofi wn yn dda, oedd 'Newyrth Shon Robert, tad Mr Roberts, Melyncryddan, a thadcu Mrs Dr Morgans (Lleurwg). Y mae yr alcanwaith wedi darfod yno cyn cof gyda ni, ond am y maes glo, y mae yn galw am rywrai i'w weithio; a phe gallem deimlo ar ein calon i spario ein cyfaill Mabon, dia,u mai efe fyddai yr Home Ruler goreu er lies yr Iwerddon, drwy eu dysgu i weithio, a'u gwareiddio, gau eu dysgu i fod yn aelodau defnyddiol o gymdeithas fel y Cymry. Heb gellwair a'n cyfaill anwyl, y mae yn bryd gwneuthur rhywbeth, yn lie sefyll i edrych arnynt yn llofruddio ei gilydd. 0, ie, gall yr Iwerdd- on droi allan dynell o big iron ar gost o lp. 18s., tra nad all Cumberland gystadlu dan 2p. 11s. 2c. Bu Mabon yma yr wythnos o'r blaen yn nghwmni Mr John Davies, o'r Ystrad Rhondda, yr hwn a gyhuddid o fod wedi derbyn 9s. 6c. yn ormod fel newid mewn tafarz. Taflodd y Grand- Jury ei achos allata, a daeth Mr Davies adref a'i gymer- iad fel haul y goleuni. Dydd Iau diweddaf, gwysiwyd ninan 1 Lys y Manddyledion yn y dref am ddyled 1 aloanwyr ag y buom yn eu pleidio o dro i dro. Rhy ddrwg oedd i ni gael bod heb ein talu, yn ol y cytundeb, gan y cyfreith- iwr am ei ddysgu, a chan y bechgyn am en hamddiffyn, a chydunai y Barnwr Williams a ni, a thaflodd yr achos heibio fel peth ynfyd a ffol, a rhoddodd i ninau ein costan. Cofied pawb fod cyfarfod Abertawe wedi penderfynu fod pob gwaith i ddanfon 2s. 6c. y felin at ddilen dyIed y gymdeithas yn ddioedi, onide, dichon y tro nesaf y cawn achos mwy pwysig na'r diweddaf. Y mae pawb yn galw am eu harian. a ninau heb ddim i'w diwallu Deuwch, fechgyn er mwyn eich hanrhydedd fel corff o weithwyr, byddwch ffyddlawn. Y Stocks dechreu y mis hwn oeddent 450,648 o flychau, yn erbyn 500,000 ar y laf o Fawrth. Cofiwch y mae yn agos i 100,000 yn sir Fynwy, a gwyddom foi yn agos cymaint arall yn Morganwg a Chaer- fyrddin. Am hyny, fy mrodyr anwyl, ym- bwyllwch, ymbwyllwch, ymbwyllwch. Yr oedd yr allforion yn llai y mis diweddaf o 3,239 na'r un mis y llynedd. Y ffigyran ydynt,—1881,24,390; 1880,21,151 o dynelli; am hyny eto, dywedaf ymbwyllwch. LEWYIi AFAN.
Advertising
GWEITHIAU CYMREIG Y DIWEDBAR Barch, John Mills, Llundain, Cyhoeddedig ac ar werth gan R. MILLS, LLANIDLOES. BUCHDRAETH Y PARCH. JOHN MILLS, F.R.G.S..M.R.A.S., Llundain, gan Richard Mills a'r Parch. N. Cynhafal Jones. Mewn lliaa hardd, 3s 6c. PA.LESTINA: ssf Taith i ymweled ag Iaddewoa Gwlad Canaan. Llian, 78; French Morocco hardd, 8s 6c. p RAMADEG CERDDORIAETH. Ped- werydd argraffiad. Llian, 8s. HYFFORDDWR YR EFRYDYDD sef cyfarwyddyd i gyrhaedd dysg, gwy. bodaeth, a rhinwedd. Pris mewn llian, 3s. YPERL YSGRYTHYBOL. neu agoriad i wybod o'r Beibl, y 12fed fit, Is 6o. GEIRLYFR YSGRYTHYROL: trydydd argraffiad, yn cynwys eglurhad ar darddiad ac ystyr y geiriau a ddefnyddir yn y Beibl, Is 2c. DAEARYDDIAETH YSGRYTHYROL: yn cynwys desgrifiad o holl wledydd y Beibl. Llian, 8s. IUDDEWON PRYDAIN: sef eglurhad ar I arferion teuluaidd, defodau crefyddol, ac agwedd cymdeithasol Iuddewon y deyrnas hon. Is. YCANOR: sef arweiniad i egwyddorion ac ymarferiad cerddoriaeth. jjTrydedd argraffiad. 6c. DARLITH ar Gerddoriaeth Gymreig: sef adolygiad ar hanes a nodweddion cerdd- oriaeth Ganedlaethol y Cymry o amser y Derwyddon. 6c. YOERDDOR DIRWESTOL: yn cynwys Y Tonau ac Anthemau at wasanaeth Dirwest. 60. CERDDOR YR YSGOL SABBOTHOL A'R BA.ND OF HOPE, gan R. Mills. Is. DARLUNIADUR ANIANYDDOL: sef eglurhad manwl ar egwyddorion Ser- yddiaeth, Daearyddiaeth, a Daeareg; ac yn cynwys tua 80 o arluniau eglurhaol gan E. Mills. Llian, 5s. Pk FODD I DDEWIS GWRAIG, wedi ei gyfieithu o'r 4ydd argraffiad el 4c. DIM AMSER I'W GOLLI, gan y Parch. Dl. Rowlands, M.A., Bangor. J>3c. Gellir cael y llyfrau uchod yn retailorleu yn wholesale gan Mri Mills a. Lynch, Swyddfa'r Darian, Aberdar, am yr un pris a chan y cyhoeddwr. EIDDO BRAD t' EIDDO DA I'R GWEITHWYR MARKET YARD, ABERDAR. Dydd Iau, Ebrill yr 20fed, y dechreua yr arwerthydd enwog, H. HASSALL, Gynyg eiddo yn y lie uchod ar arwerthiad, a'u taraw i lawr am ba bris bynag a gaffo. Bydd yn cynyg yn mhlith pethau ereill, Oriaduron ac Awrleisiau o bob math, a hyny o'r gwneuthuriad goreu. C, Y mae H. Hassall yn hollol adnabyddus yn Neheudir Cymru, ac yn enwog am ei Oriaduron Saisnig rhagorol, y rhai y mae efe yn wneutliurwr cymaint o honynt. PRIZE DRAWING Tabernacl, Capel y Beiyddwyr, DUKESTOWN, SIRHOWY. /"tYMER Y DRAWING uchod le yn y Foundry Cottage, Dukestown, Mehefin laf, 1882. Yr elw at y capel uchod. Gicohrau fel y canlyn Prize laf -610 10 0 „ 2il 7 7 0 3ydd Calendar Clock, gwerth 5 5 0 Gyda llawer o wobrwyon ereill. Bydd list o'r enillwyr i ymddangos yn y DARIAN a'r South Wales Daily News am y 5ed o Fehefin, 1882. Cadeirydd: Mr Wm. Miles, Dukestown. Trysorydd Mr Rees Thomas, Tredegar. Pob cais am docynau i'w gwneud i Mr W. A Davies, Ygrifenydd, 2, Second Row, George Town, Tredegar Tocynau, 6ch. yr un, neu deuddeg am 5s. Aberdare Burial Board. To Oontractors and others. "V OTICE IS HEREBY GIVEN, that the Board invite and are prepared to accept TENDERS for Digging Graves and Vaults in their Cemetery for twelve months from the 15th day of May, 1882. Sealed Tenders, prepaid, and endorsed Tenders for Digging Graves," to be sent to me at or before 10 o'clock on Wednesday, the 3rd day of May next. The Board do not bind themselves to accept the lowest or any Tender. By order, H. P. LINTON, Clerk to the Board. 4, Canon Street, Aberdare. FEL enghraifft o'r dosbarth o feddygin. iaethau y carem argymhell i sylw y Cymry yn mhob man, dymunem gyfeirio at ddar. pariaeth ddiffuant, didwyfl, ymddiriedol, a mwyaf gwerthfawr a llesiol ag y gwyddom am dani, sef
Quinine Bitters
Quinine Bitters GWILYM EVANS, Yr hwn sydd yn fath o Tonic llysieuol, ao yn hollol yr hyn y gosodir allan—ei fod yn gyfansoddedig o 1/siau wedi ei ddarpara mewn dull gwyddonol, a chyda'r gofal mwya.f sydd ddichonadwy er sicrhau ei lwyddiant. Y cylla yw peiriant mawr treuliawl y corR, ac o hono ef y gwasgerir yr holl ranau maethlonol trwy y cyfan. soddiad. Os na chedwir hwn mewn trefn, syrthia yr holl gorff i ddyrysweh. Effaith ao amcan penaf y Quinine Bitters yw cadw y cylla yn iachus, a phob organ yn gweithio yn hwylus ac yn ea lie, a gellir yn deilwng ystyried y Bitters hyn y feddyginiaeth deuluaidd oreu y gwyddis am dani. Cy. meradwyir hi yn ddibetrus at annhreuliad yn ei gwahanol agweddau, ac afiechyd y ddwyfron a'rafu, yn nghydaganhwylderaa gewynol. Yr ydym am lawer o flynyddau wedi edrych gyda gradd helaeth o ddrwg. dybiaeth ar feddyginiaethau hysbysiedig, a thueddid ni i wneud hyny A'r feddygin- iaeth hon, sef Quinine Bitters Gwilym Evans, hyd nes y gwelsom y fath dystiol* iaethau pwysig a dylanwadcd oddiwrth ddynion a wyddent mor dda, ac a wnaethant gymaint o ymchwiliad i'w hansoddion. Dymunem yn neillluol rybuddio y ey. hoedd i fod yn ochelgar yn eu detholiad o gylieiriau, a dylent fod yn gwybod rhyw- beth am ansawdd y darpariadau meddygol a fwriadant gymeryd cyn eupwrcasu; ae os, wedi ymchwiliad, y boddlonir hwy am eu rhinweddau, dylent fod yn ewyllysgar i dalu pris teg am y cyfryw, a rhoddi iddo brawt teg a pharhaol, a pheidio cymeryd eu hudo i redeg a phwrcaau meddygin- iaethau iselbris, y rhai yn fynych a brofanti nid yn unig yn ddiwerth, ond yn dra niweldiol. Oddiwrth ein gwybodaeth bersonol am y darpafcydd a'r perchenog, gwyddom ei fod yn ei broffeswriaeth wedi cyrhaedd yr an- rhydedd uwohaf yn y gangen fferyliol, ao ystyrir ef yn un o fferyiiwyr mwyaf goleu. edig ao addawol y dydd.
FFEITHIAU AM QUININE BITTERS…
FFEITHIAU AM QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Y maent yn cael eu oymeradwyo gau feddygon a fferyiiwyr i'w cleifion ar ol i bob meddyginiaeth arall fethu. Y maent yn cael eu cymeryd gan hen ao iemanc, cyfoethog a'r tlawd, a chan ddynion yn mhob sefyllfa ac o dan bob amgylchiad. Nid yn unig yn Nghymru y maent yn adnabyddus, ond derbynir orders am dan ynt o America, Canada, yr Aifft, Cypros Awstralia, &c. Y mae pawb sydd wedi eu profi unwaith yn eu cymeradwyo i'w cyfeilhon, a thrwy hyn y mae y gofyn am danynt yn cynyddu yn helaeth o flwyddyn i flwyddyn. Y mae hyn yn brawf teg o'i heffeithioldeb. oanys paham y prynai neb y feddyginiaeth am yr ail a'r drydedd waith os na fuasent yn derbyn budd a lleshad oddiwrthynt 2
I DIFFYG TREULIAD A'I GANLYNIADAU.
DIFFYG TREULIAD A'I GANLYNIADAU. Sef peen yn yr ystumog, gwyntogrwydd, trymder anarferol ar ol bwyta, gwaelder cyn bwyd, diffyg archwaeth, bias an. nymunol yn y genau, gwres mawr yn y cylla yn achosi y corff i rwymo, yr anacu yn drwm, a'r genau yn sych, brathiadajd poenus yn y frest a'r ochrau, a mynyoh bigiadau fel pe bae pryfedyn yn y cylla. Y mae un neu ychwaneg o'r poenau uchod yn arwydd o ddiffyg treuliad, a goreu pa gyntaf y dechreuir ar gymeryd Quinine Bitters Gwilym Evans.
Cyfarwyddiadau i'w bwrcasu,
Cyfarwyddiadau i'w bwrcasu, Gofyner yn eglur am Quinine Bitters Gwilym Evans. Ar ol ei gael, edrycher yn fanwl ar y label, a sylwer ar stamp y Llyw- odraeth sydd ar wddf y botel, a myner gweled yr enw Gwilym Evans, F.C.S., M.P.S., wedi ei ysgrifenu yn llawysgrif y perchenog. Gofaled pawb na chymeront eu twyllo* na derbyn cynghor i gymeryd unrhyw foddion arall o dan yr hen esgus ei fod yn llawn cystal ac yn rhatach, Esgus gwael a thwyllodrus yw hwna. Cofier bob amser fod efelychiadau lawer i bob peth da, ac y mae lluaws mawr a efelychiadau i feddyginiaeth ardderchog a dihafal Quinine Bitters Gwilym Evans.
MEDDYGINIAETH HYNOTAF YR OES…
MEDDYGINIAETH HYNOTAF YR OES BRESENOL YW Quinine Bitters Gwilym Evans Y mae ynddynt gymysgedd cywrain— chwerw a melus-lysiau, wedi eu haddas gydgymysgu mewn modd newydd, hapus, a dirgel, gan y dyfeisydd, Mr. Gwilym Evans, F.C.S., M.P.S., fferyilydd, Llanelli. Y mae y gwahanol lysiau wedi eu cymysgu yn hynod o ffodus, a chynwysa y Quinine Bitters yn ddiamheuol y ddarpariaeth oreu er lies y corff dynol.
Eu DEFNYDDIOLDEB YN UN GYMYSGEDD.…
Eu DEFNYDDIOLDEB YN UN GYMYSGEDD. Hawdd iawn fyddai i unrhyw un bryna y meddyginiaethau uchod ar wahan, a hawdd fyddai gwneud rhyw gymysgiad o f honynt, ond anhawdd iawn fyddai cael yr holl lysiau uchod at eu gilydd am arian 1 rhesymol, ac anmhosibl fyddai eu cymysg yn y modd cyfrwys a medrus y gwneir gan Mr. Gwilym Evans, a chanddo ef yn unig y mae y dirgelwch mawr o gymysgu y p9thau hyn gyda y fath lwyddiant a'r fath effaith. Y maent wedi eu profi yn effeithiol i symud y doluriau a ganlyn:—
SYLWADAU CYFFREDINOL.
SYLWADAU CYFFREDINOL. Gallai rhaidybio ei bod yn anmhosibl i un feddyginiaeth effeithio lleshad mewn cynifer o wahanol ddoluriau. Y mae yr ateb yn syml a pharod, sef (1), bod tystiol- aethau pwysig i'w cael unrhyw amser; (2), fod y feddyginiaeth ya cyaw/3 cynifer o wahanol lysiau; (3), y mae y driniaeth yn un hollol resymol, sef symud achos y dolur yn gyntaf trwy gryfhau y cyfansoddiad, ao felly amddiffyn y rhanau gwanaf a mwyaf = agored i afiechyd. Ar bob amgylchiad £ doeth ydyw yn gyntaf chwilio achos 11 dolur.
IN RE JOHN JONES, YN Y DARIAN…
T..A & —— eu rhyddid i foddhau eu hunain mwy nw yr amheir rhyddid y bydolddyn l borthi a rhodio yn ol ei chwantau ond oeryadir yr olaf gan y blaenaf am y cyfryw beth, ac y mae y blaenaf yn sefyll ar yr un platform yntau. Y mae dirwest yn hawlio ar- weinwyr y bobl i fod yn arweinwyr iddo yntan hefyd; byddai yn ddoeth l r gwyr hyn beidio caledu eu gwarau, rhag y dryllir hwynt yn ddisymwtli, ac na bydd medd yginiaeth Pe buasai i'r clic santaidd adael yn ddisylw y nodyn oddiwrth I Un o Nhw,' buasai pob peth erbyn hyn yn dawel; ond gwnaeth un dyn ei hunanyn glir wrth brotestio yn gyhoeddus o flaen ei gynulleidfa nad oedd efe yn gyfranog o'r Paddy's Eye Water, a chredodd y bobloedd; ond mae y boneddwr o Albert- street yn bygwth ac yn chwythu celanedd yn echryd. us; ond efallai ei fod wedi breuddwydio pan ddeallodd na allai ffynn i ffurfio case yn eebyn yr ysgrifenydd, I Un o Nhw,' naco yn erbyn yr awdurdodau. Hyd yma yr ai ac nid yn mhellach. Dymunwn ddweyd wrth y John Jones hwn, ac wrth bob John, Jack, a Shoni arall yn Ferndale a chastell nos, nad y ft, Tibbot, neu fel y silleba John Jones (Tea- pot), yw awdwr y script a arwyddwyd gan Un o Nhw' yn y DAMAN am Ebriil 5ed. Nid wyf wedi ysgrifio un lythyren o hono, use wedi breuddwydio, am nad wyf yn byw yn Albert-street, am ysgrifenu dernyn o'r cyffelyb erioed, ac ni fwriadwyf ysgrifio yn ddienw mewn unrhyw newyddiadur, am nad oes arnaf ofn gwyneb yr un dyn yn fyw. Dylwn ddweyd hefyd mewn cyfiawn- der i John Jones a'i glic, na welais i yr un O honynt erioeJ mown tafarndy, am nad wyf yn myned yno fy hunan, ac na chlyw. ais, hyd nes ymddangosiad erthygl ben digedig John Jones, am Ebriil 12fed, ei fod wadi cyfranoai o'r Paddy's Eye Water. ,Dyna'r tro cyntaf i mi ddysgu fod osai (Whisky) yn ddwfr llygad y Gwyddel. Digrif, onido ? I Un gair am yr enw Tibbot. Ymcldengys, Mri. Gol., fod yr enw yn ddyeithr i'r an wybodua yn yr ardal hon, ac yn enwedig i Jdhn Jones, eithr mae yr enw teapot yn wybyddus iawn yn Ferndale a*r gymydog- nefch. Yn wir, dylent ei barchu yn fawr, am en bod yn sugno o hono dair neu bedair gwtiith y dydd, ac yn rhoddi cysur a chy- nallu,eth i holl dylwythau y wlad a'r deyrnas. Er na allant ei hebgor, eto ewawdiant y teapot sydd yn rhoddi bywyd iddynt. Nid yw yn foneddigaidd derbyn a dwrdio y gerdod; parchwn nen gadawn yn llonydd yr hyn sydd yn cadw ein cyrff ni mewn gwell hwyl na Phaddy's Eye Water, ac yn cynyg byd sobr yn lie bywyd meddw. Nid oes un bwthyn nac anedd, na phalas, b@b y teapot hwu y mae John Jones yn ei ddirmygu, a buasai yn well i lawer John a Jack gyfyngu ei hunan yn fwy i'r teapot, a boddloni ar hyny. Ond i symud ffwrdd o Shibboleth John Jones a Die Sion Daf- ydd unwaith am byth yr anwybodaeth yn nghylch yr enw teapot mewn cydmariaeth a Tibbot; y mae un yn enw ar nwydd a llestr, a'r llall yn enw ar ddyn. Yr olaf a roes fy nhad arnaf, yr hwn hefyd ddewisaf gadw tra fyddwyf. Yr oedd efe yn fab i'r Parch Abraham Tibbot, Llanuwchlyn, mab i'r Parch John John Tibbot, Esgairdawe, sir Gaerfyrddin, brawd i'r Parch Richard Tibbot, Llanbrynmair, meibion Moses Tib. bot, Llanbrynmair, &c. Am ddau cant o flynyddoedd y mae eu hanes genyf yn gywir, ac yn o dda am gan' mlynedd yn flaenorol i hyny. Bu yr enw yn destyn ymchwiliad genyf am flynyddoedd, a chef. ais mai dyna oedd Cymry y Theobolds Almaen, yn Firancaeg Thibaut, yn y Sans. crit Tibbo, yn y Saesneg Talbot, ac yn Gymraeg Tibbot. Os bydd i John Jones fod cystal a darllen ysgrifeniadau adeiladol y Parch Azariah Shadrach, o Aberystwyth darllen hefyd yn ngweithiau Annibynwyr dysgedicaf Cymru, a chofnodion yn hanes- iaeth Methodistiaeth Calfinaidd Cymru, ac yn enwedig yn Hanes Eglwysi Annibynol, gan Thomas Rees, D.D., Abertawe, yna caiff wybod nad oes i mi gywilydd wrth yr enw Tibbot, wrth yr hwn hefyd y dewisaf gael fy ngalw ar byd fy oes, ac na byddaf yn taflu anfri ar fy nghyndadau, ond eu dal i fyny hyd y mae ynwyf, tra bydd Tibbot a theapot mewn bod. ABRAHAM TIBBOT, Ysgrifenydd mudiad y Rhuban Glas, yn Ferndale.