Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

LIVERPOOL.

News
Cite
Share

LIVERPOOL. Y GEOGLITH A'R PASC—YMADAWIAD GWEIN. IDOGION-Y TORIAID-Y RHYDDFRYDWYR —YMFUDIAETH. Daeth y Groglitk a'r Pasc i mewn eleni gydag awyr glir, a gwenau haul, a chyda hyn daeth amryw o drens rhad o wahanol ranau o'r deyrnas ag ymwelwyr lawer i'r ddinas i syllu ar ei rhyfeddodau, yn enwedig yn nglyn a'u llongau. Yr oedd yr ager- longau ar yr afon ar y dyddiau hyn yn gwneud masnach dda rhwng y dyeitLriaid, a'r nifer boblogaeth yma ag sydd wedi troi allan i fwynhau en hunain. Yr oedd hefyd amryw o drens rhad yn rbedeg oddiyma, ac aeth gyda hwynt nifer helaeth o bobl y ddinas, fel, rhwng y dyeithriaid ag oedd wedi dyfod yma, a'r rbai yn myned oddi- yma, yr oedd pob man i'w weled yn llawn bywyd, a Liverpool i raddau helaeth am yr &deg wedi newid poblogaeth, a phawb am fwynhad. Hyderwn fod hyny wedi cy- meryd lie mor bell ag oedd gwecldeidd-dra ynddo. Yr oedd gwasanaetlidydd Gwener y Groglith a Llun y Pasc bron yn mhob un o'r Eglwysi Sefydledig yma, a rhai o hon- ynt yn cael eu llenwi o gynulleidf aoedd da I gadw yn gu goliawdwriaeth o'r hyn a gymerodd le dros ddynolryw. Yn sicr, ni waeth beth a edrycha rhai ar wyliau fel hyn fel rhai Pabyddol, y mae rhywbeth ynddynt wedi y cyfan ag sydd yn dwyn i'n meddyliaji am rai dygwyddiadau pwysig ag y byddai yn lies i ni eu galw yn neilldu- ,nl i'r cof. Y mae yn rhaid addef fod ilglwys Loegr ar y blaen i'r Ymneillduwyr yn hyn. Y mae genym brawfion byw o fliyn eleni, wrth weled rhai Ymneillduwyr proffesedig ar y dyddiau uchod yn myned i ddifyru eu hunain i'r parciau, i'r wlad, ac am hwyl ar yr afon, tra yr oedd eglwys- wyr yn myned i addoli. Y mae cymanfa y Bedyddwyr Cymreig yn cael ei chynal yma yn flynyddol ar y Groglith, ac hyd nos Lttn y Pasc, a dyna yr unig wasanaeth crefyddol mewn cysylltiad ag Ymneilldu- aeth a gymerodd le yma ar ddydd Gwener y Groglith a Llun y Pasc. gyda'r eithriad o gyfarfod blynyddol y Wesley aid Cymreig yn Birkenhead, a dywedir fod y Gair wedi ei draddodi gyda nerth yn y cyfarfodydd I crybwylledig, gan amryw o weinidogion dyeithr. Wrth weled y fath nifer helaeth o gyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodol, cyngerddau, &c., a gyneiir y Nadolig, y Groglith, y Pasc, a gwyliau crefyddol ereill, yn sicr er cymaint o waed Cymreig sydd yn ein gwythienau, ac er cymaint ydym yn deimlo mewn ysbryd gwladgarol dros sefydliaiau ein cenedl, dylid ymholi yn ddifrifol ao ystyriol pa un ai llenyddol neu ynte crefyddol a ddylai nodweddu y dyddiau a nodwyd ? Y mae myned a dyfod yn ol o'r America wedi myned yn beth mor gyffredin y dydd- iau hyn, fel nad ydyw hyd yn nod gwein. idogion yr efengyl yn meddwl mwy am ymgymeryd a'r daith na rhyw fodau ereill. Pa fodd bynag, ddydd Mercher diweddaf, yn mhlith y teithwyr ar fwrdd yr agerlong Nevada, perthynol i'r Guion Line, yr oedd y Parchn John Jones (Vulcan), a Hugh Hughes, Birkinhead. Bwriadant ddy- chwelyd yn ol yn mhen tri mis, wedi gwneud taith drwy ranau helaeth o'r Unol Dalaethiau. I'w hebrwng i'r llong yr oedd llu o Gymry y ddinas, ao hefyd rai wedi dyfod yn bwrpasol o Gymru i ganu yn iach iddynt; yn eu plith yr oedd Dewi Mawrth, yr enwog Clwydfardd, ao ereill. Yr oedd amryw o Gymry wedi amlygu-yn enwedig rhai o Wesleyaid Gymru—eu hawydd i hwylio yn yr un agerlong. Gwnawd trefniadau i hyn, a gwelwyd hwynt yn ddyogel ar yr un bwrdd gan eich gohebydd. Eiddunwn iddynt oil fordaith dda, a llwyddiant yn ngwlad y Gorllewin. Ymwelwyd a'r ddinas yr wythnos hon gan arweinwyr y blaid Doriaidd, sef Iarll Salisbury, a Syr Stafford Northcote, ac yn eu canlyn yr oedd Due Abercorn, larll Llathom, Arglwydd Sandon, A S.; yr An- rhydeddns Algernon Egerton, Syr Massoy Lopes, A.S.; y Gwir Anrhydeddus Syr R. A. Cross, A.S. y fiwir Anrhydeddus H. Cecil Raikes, A.S., a llu o fanacb ser yn ffudafen Toriaeth, yn aelodau seneddol, ymgeiswyr am aelodaeth, arweinwyr cym- deithasau, &c. En gorchwyl oedd gosed conglfaen ar adeilad newydd y gymdeithas Doriaidd yma. Gwnaed hyny ddydd Mercher, ac o hyny hyd neithiwr (nos Weaer), yr oedd gwleddau a chyfarfodydd cyhoeddus yn oael eu cynal. Byddai sylwi ar yr areithiau yn fwy nagycaniatai gofod yn y DABIAX. Digon, hwyrach, ydyw dweyd eu bod oil, o'r arweinwyr i lawr, yn ceisio tori o dan Weinyddiaeth bresenol Mr Gladstone, gan briodoli pob drwg iddi, a dangos yn eu dull hwy mai Toriaeth sydd oreu i'r wlad, ac hefyd yr hyn y mae Toriaeth wedi ei wneud, ac y mae eto am ei wneud. Gan na ddarfu i'r un o honynt son am y rhyfeloedd, a'r tywallt gwaed, a'r bywydau a hyrddiwyd yn ddiachos i dragywyddoldeb, a'r treuliau yr aethpwyd iddynt, a'r marweidd-dra masnachol oedd yn ystod y chwe' mlynedd y buom o dan Lywodraeth Toriaidd, dichon eu bod wedi anghofio, neu ynte ofn son am y fath beth. Pa fodd bynag, y mae yn ffaith fod y deyrnas wedi dyoddef llawer odan ly wodr- aeth Iarll Beaconsfield. Yr oedd y trefn- iadau gan 3in Toriaid lleol ar gyfer yr achlysur yn bob peth a allesid ei ddysgwyl er cael arddangosiad allanol ardderchog. Pa faint o ychwanegiad at allu Toriaeth yn y lie a ddaw o'r oil, rhaid aros i amser esbonio. Tra yr oedd y Toriaid yn gorphen eu rhialtwch, yr oedd y Brif Gymdeithas Ryddfrydol yma yn cymeryd i ystyriaeth y cwestiwn o ymddiswyddiad ei llywydd, R. D. Holt, Ysw. Deallir mai mwy ogyfrifol- deb mewn masnach sydd yn peri hyny. Y mae Mr Holt wedi bod yn llywydd am chwe' mlynedd, ac wedi arwain yn dde. heuig i frwydrau o dan lawer amgylchiad. Teimlir colled ar ei ol fel arweinydd, ac mae yr ymddiswyddiad yn peri gofid. Mr William Crossfield, mae yn debyg, fydd y llywydd newydd. Mr Oulton, Islywydd y Bwrdd Ysgol, yn drysorydd, a Mr Holt yn mhlith y tri Islywyddion. Y mae hyn yn sicrwydd am weitbgarwch eto yn y rheng- au Ryddfrydol. Cyhoeddwyd ddoe gan y Bwrdd Mas- nach ystadegau ymfudiaeth oddiyma am fis Mawrth, ac y mae y ffigyrau yn dangos fod 20,410 wedi ymfudo yn ystod y mis. Cynydd o 5,931 ar fis Mawrth y flwyddyn ddiweddaf. Y mae diwedd Mawrth yn gwneud 1 fyny y chwarter cyntaf o'r flwyddyn, ac yn dangos fod 34,333 o ym- fudwyr wedi myned oddiyma. yn ystod y tri mis sydd newydd ddiweddu. O'u cyd- maru a'r 24,125 am yr un tymor y flwydd. yn o'r blaen, y maeut yn dangos cynydd o 10,208 ar y tri mis cyntaf yn 1881. Cynydd mawr chwi welwch, ond mae y peth yn ffaith. Gan fy mod eisioes wedi myned yn rhy faith, rhaid gadael ar hyn yn bresenol, gan addaw llythyr eto yr wythnos nesaf. Yr eiddoch, &c., J. D. PIERCE.

AT " TWM O'R NANT."

YR ALCANWYR.

Advertising

Quinine Bitters

FFEITHIAU AM QUININE BITTERS…

I DIFFYG TREULIAD A'I GANLYNIADAU.

Cyfarwyddiadau i'w bwrcasu,

MEDDYGINIAETH HYNOTAF YR OES…

Eu DEFNYDDIOLDEB YN UN GYMYSGEDD.…

SYLWADAU CYFFREDINOL.

IN RE JOHN JONES, YN Y DARIAN…