Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
CHILI A PERU.
CHILI A PERU. Ymae yn ymddangos fod Chili, sefGwer- iniaeth fywiog ar ochr orllewinol America Ddeheuol, wedi penderfynu profi i'r byd ei bod hi yn credu mai i'r buddugoly perth- yn yr ysbail;" gan hyny, y mae yr iawn a ofyna oddiwrth Peru yn hollol afresymol ac anghynawn. Gofyna am yr oil o Peru i'r de o Camarones Quelralda; yn ail, hawlia rhyddid i feddianu tiriogaethau Arica a Tacna am 10 mlynedd ac wrth eu rhoddi yn ol rhaid i Peru dalu iddi 20,000,000 o ddol- eri. Yn drydedd, rhaid i Chili gael medd; iant o Ynysoedd Lobos, a derbyn yr holl elw oddiwrth y guano arnynt. Dyweeur os bydd i Peru ganiatau yr hawliau, y rhaid iddi foddloni o hyn allan i fod yn gaethes i Chili. •' Rhyw ddeng mlynedd ar hugam yn ol, sylwodd dyn tyner-galon o'r enw. James Green, Sais Lloegr, ar hen wr salw ei ddillad yn edrych am eisteddle yn y capel yn New York, a rhoddodd le iddo yn ei sedd ef, gan rodc]i iddo lyfr hymnau. Ar Sdiwedd y moddion dioichodd yr hen wr i Mr. Green, gan ofyn ei enw; eithr ni welodd ef ond ychydig o droion ar ol hyny, ac anfofiodd y cwbl. Yn ddiweddar, der- byniodd Mr. Green lythyr oddiwrth yr awdurdodau, yn ei hysbysu fod boneddwr O'r enw Mr. J. Wilkinson wodi gadael iddo yn ei ewyllys bymtheg mil ar hugain o ddoleri am y caredigrwydd a ddangosodd iddo, drwy ei wahodd i'w sedd yn y capel! Dyn dibriod ydoedd Mr. Wilkinson, heb berthynasau agos, a barnodd mai Mr. Green oedd y mwyaf teilwng i dderbyn ei eiddo.
., , f . DYDDIAU MARI WAEDLYD.
f DYDDIAU MARI WAEDLYD. PENOD x. Offeryn y Babaetli i droi trigolion y ddaear i fod yn ufydd i'r Pab yw creulondeb barbaraidd. Fel dynion yn unig ildiai pobl i fygythion yr ellyllon Pabaidd, rhag iddynt orfod dyoddef yn eu cyrff ac yn eu hamgylchiadau. Nid oedd neb ond gwir gredinwyr a "ddewisent" fel Moses i "ddyoddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwyniant pechod dros amser." Eto cyfododd II cwmwl 0 dystion" merthyrol yn amser Mari Waedlyd sydd .yn sefyll yn awyr lianes Prydain hyd heddyw, cwmwl ag sydd yn llawn o rybudd i'r holl drigolion i beidio rhoddi cartref i'r sarff Babyddol. Wedi i'r Senedd adferu yr hen ddeddfau erledigaethus yn erbyn pawb na phlygenfc y glun i'r Pab, dadgorfforwyd y Senedd ar yr 16 o Ionawr, 1555. Penderfynodd y dyhiryn Gardiner a'i gyd-ufftrnolion i weithredu yn ol tuedd farbaraidd Mari Waedlyd. Wedi cael awdurdod y Senedd yr oeddynt yn gallu siarad am ffyddlondeb i Ddnw yn Nghrist a'i air, felanufydd-dod i awdurdod y goron. Yr oedd y gweinidogion mwyaf duwiol a gweitbgar, y rbai a lynent wrth y Beibl, ac • "With Grist, wedi cael eu carcharu eisioes, o herwydd gwahanol esgusodion a roddai Gardiner a'i giwed uffernol dros y fath far- bariaeth. Cadwasant y gweinydogion hyny mewn carchar o'r amser y dechreuodd Mari deyrnasu, heb fod un treial wedi bod ar eu hachos, nes i amgylchiadau addfedu yn ffafriol i amcanion y gethern Babyddol. Wedi i'r deddfau creulon gael eu pasio, barnodd y gethern fod pob peth wedi addfedu, fel y gallent drochi eu dwylaw yn ngwaed dynion duwiol, heb ofni canlyn- iadaa. Yr oeddynt wedi nodi yr esgob duwiol Hooper fel un penodol i gael ei aberthu. Dygwyd amryw weinidogion o flaen yr anghenfil Gardiner ac ereill, yn ei balas ef, y pedwerydd dydd ar ol i'r Senedd gael ei dadgorffori. Gofynwyd i'r gwein- idogion a droent hwy at Babyddiaeth a derbyn pardwn y frenhines, neu a oeddynt yn penderfynu glynu wrth yr athrawiaeth- au a bregetliasant o'r blaen, a dyoddef y canlyniadau o hyny. Ymostyngodd un, yr hwn oedd yn ddinesydd perthynol i Lundain, a chafodd ei ryddhau. render- fynodd y lleill i fod yn ffyddlon weision i Grist, er gorfod ymadael a bywyd wrth yr ystanc er mwyn ei enw ef. Ar yr 28 o Ionawr, 1555, dygwyd Rogers, Ficer Eglwys St. Sepulchre, Llundain, ac Esgob Hooper, o flaen y dyhiryn Gardiner. Yr oedd Rogers wedi rhoddi llawer o help i ddwyn allan o'r wasg gyfieithad Saesonaeg y Beibl, er budd i'r werin uniaith. Pygwyd uu o'r enw Cardmakf r, corberigJor Egiwys GBdeiriol WeHs, yr un amser o fiaen yr eliyll Gardiner. Jvleddyliodd y Pabydd- lon y buasai efe yn piygu y glun i Baal y Babaeth, end gwrtliododd wneud hyny, ac anfonwyd ef yn ol i garcbar. Condemniodd yr ellyll Gardiner Hoopoj; a Rogers yn ddirgeifel hereticiaid i gael ei llosgi yn fyw At y pwrpas hyny gosodwyd hwynt yn ngharchar Newgate yn Llundain. Ionawr 80, condemniwyd tri o. we inidogion ereill, Taylor, Saunders a Bradford i gael eu llosgi. Dywed un banesydd nad oedd Mari Waedlyd yn cymeredwyo mesitrau creu- lawn Gardiner, yr ellyll Pabyddol. Ond pan yr awgrymodd Roger,?, yn ei dreial nad oedd efe yn meddwl tod Mari yn dueddol i gario allan, eriedigaeth greulawn, atebodd yr ellylJ'Gardiner ef, trwy ddweyd, "fod Mari y frenhines yn fwy blaenllaw nag efe yn y rnesuralT a osododd efe ar droed mai hi oedd wedi eu hysgogi hwynt." Er yn ddiau nad oedd gan Gardiner fwy o gyd. wybod na Satan ei dad i'w rwystro i ddweyd celwydd ar Mari, amlwg yw ei bod hi yn cwbl gydsynio &'i weithrediadau uffernol ef, oblegyd trwy ei llaw-nodiad hi yr oedd awdurdod i gario allan waith Gardiner, i beri llosgi pobl yr Arglwydd yn fyw, nes i'w cyrff fyned yn lludw. Pan yr oedd Rogers o flaen Gardiner cafodd ei holi gan yr anghenfil hwnw, yr hwn a ofynodd iddo:— A ydych chwi yn foddlon ymuno a ffydd yr eglwys gyfredinol fel y mae hi yn awr yn Lloegr? ROGERS.—"Nid ymneillduais i erioed oddiwrth yr eglwys gyffredinol." GARDINER.—"Yr wyf fi yn dweyd am yr eglwys sydd yn derbyn y Pab yn ben uwchafol." ROGERS.—"Nid wyf fi yn gwybod am un pen ar yr eglwys gyffredinol ond Crist. Ac nid wyf yn eydnabod fod gan esgob Rhufain fwy o awdnrdod, yn ol gair Duw, na rhyw esgob araU. Nid oes hanes, am bedwar cant o flynyddau wedi genedigaeth Crist fod yr eglwys gyffredinol yn cyd- nabod uwchafiaeth y Pab." GARDINER.—" Paham y gwnaethost ti gyd nabod Harri VIII. yn ben uwchafol i'r eglwys, os Crist yw yr unig ben?" ROGERS.—"Ni chydnabyddais i erioed o'i uwchafiaeth ef mewn pethau ysbrydol, megys maddeuant pechodau, rhoddiad yr Ysbryd Glan, neu awdurdod i farnu, uwch- law gair Duw" GARDINER.—" A wyt ti yr ildio i fod yn aelod o'r eglwys gatholig fel y mae hi yn y wlad hon yn awr?" ROGERS.—"Nid wyf fi yn credu eich bod chwi yn eich calon yn cydnabod fod gan y Pab awdurdod uwcbafol i faddeu pechodan, oblegyd yr ydych chwi wedi pregethu ac ysgrifenu yn erbyn bynyi a'r Senedd wedi cytuno a ehwi" GARDINER —" Pw! Mewn creulendeb mawr gorfododd y Senedd ni i ddileu uwchafiaeth esgob Rhufain." ROGERS.—"Mewn creulondeb! Paham ynte, yr ydych chwi yn defnyddio creulon- deb wrth geisio troi cydwybodau dynion. Oblegyd ymddengys yn awr na argyhoedd- odd y creulonderau hyny mo eich cydwy- bodau chwi; Paham gan hyny yr ydych chwi yn ceisio perswadio ein cydwybodau ni trwy greulondeb ?" Ni fedrodd yr ellyll Gardiner ateb y cwestiynau a ofynodd Rogers iddo ond trwy redeg naill ochr mewn dyrysweh. Gofyuodd Rogers am bin, inc, a llyfrau. i osod ei olygiadau gerbron yr awdurdodau, fel y gallent ei ateb ef, os medrent mewn ysgrifen. Gardiner a ddywedodd wrtho, "Na, ni cliei di y fath bethau. Dyma ddau beth, trugaredd a chyfiawnder. Os gwrthodi di drugaredd y frenhines yn awr, yna fe wein- yddir cyfiawnder tuag atat ti. Os na dderbyni di esgob Rhufain fel pen uchaf yr eglwys gyffredinol, ni chei drugaredd byth, gelli fod yn sicr." ROGERS.—"Rhaid i mi gael ei uwchaf. iaeth ef yn gyntaf yn yr Ysgrythyr, a'l weled yn cael ei brofi o'r Ysgrythyr, cyn y gallaf fi dderbyn y Pab fel pen uwchafol yr eglwys gyffredinol. A all hwnw fod yn ben uwchafol i'r eglwys gyffredinol, yr hwn sydd yn dysgu y fath nifer fawr o athraw- iaethau, y rhai ydynt mor eglur yn wrth- wynebol uniongyrchol i Air Duw ? Nid yw hyny yn bosibl." GARDINER.—"Dangosa di un o honynt— un r Gad i mi gael clywed am UN I" ROGERS.—"Mae esgob Rhufain a'i eglwys yn dweyd, yn darllen, yn canu y cwbl yn eu cynulleidfaoedd yn yr iaith Lladin, yr hyn sydd yn eglur ac yn uniongyrchol yn erbyn 1 Cor. xiv." Eglurodd Rogers o'r Beibl ei ble, nes y cynhyrfodd yr holl Babyddion oedd yn bresenol, ac y gwaeddasant yn ddigofus, nes boddi yr hyn a ddywedai efe. Dywed- odd un wrtbo na losgai efe o blaid y fath olygiadau. Cyfododd yntau ei olygon tua'r nefoedd, ac atebodd, "Syr, nid wyf yn gwybod. Ond gan ymddiried yn yr Argl- wydd fy Nuw, dywedaf, gwnaf." Acb-wynasant arno ei fod wedi priodi, ac yntau yn offeiriad. Ebe yntau, Priod- ais i am ei fod yn gyfreithlon. Y mae genyf wraig ac wyth o blant. Nid yw yr eglwys gyffredinol wedi gwarafun i offeir- iad nac i un dyn arall briodi." Dwrdiodd yr ellyll Gardiner ef, a dywed- odd nad oedd efe yn deall golygiadau yr eglwys gyffredinol. Ond plentyn y tywyll- wcli ar bethau o'r fath oedd Gardiner. Gosodwyd Rogers yn ol yn y carchar. Ceir gweled eto beth a ddaeth o hono.
TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF,…
TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF, AC ODDIYNO I ST. ELMO, COLORAEO. Mai lleg.—Y mae yn wlyb ac yn lledoer heddyw, fel mae gwell yw aros yn y ty na myned allan i wlycbu a chael anwyd. Gorfodaeth oedd aros i fewn, o herwydd yr oeddem wedi penderfynu gweled y rhan fwyaf o'r dref yn ystod yr amser y buasem yn aros yma. Y 12fed.-Y mae heddyw yn ddiwrnod iachus ac adfywiol fel yr ydym yn gallu myned allan i weled y rhanau uchaf o'r dref, adeiladau y rhai sydd yn arorywiol yn eu gwneuthuriad—yn goed, priddfeini, a cheryg, a rhai o faintioli anferth, a'r olwg arnynt yn hardd iawn. Y mae llawer o honynt a. u toion yn wastad, a phan y gwelsom bwynt, daeth i'n cof am Pedr yn Joppa ar nen y ty yn( gweddio. Nid oes ond ycliydig wedi eu; toi a llechau fel sydd yna, a'r rheswm am hyny yw, am nad yw y llechau yn dal y rhew. gan ei bod yn rhewi mor gadarn yma. Yr hen adeiladau sydd yma, coed y w eu toion, o bedwar i wyth roodfedd o led, a deuddeg o hyd; ond y mae y tai mwyaf newyddwedieu toi o alcan yn fan ddarnau, fel coed wedi eu paectio o wabanol liwiau pan fyddo yr haul yn tywynu arnynt Y maent yn edrych mor ddysglaer, fel y mae yn ddigon i ddalln y llysaid cryfaf wrth syliu arnynt. Y mae yma brifysgol newydd. ac y mae yn un o'r rhai mwyaf bardd a welsom erioed. Nid ydym yn c'ofio yn sicr pa faint fydd ei gwerth pan fydd yn barod. Y mae wedi ei hadeiiadu ar yr yemotyn iaclvasaf yn y dref, Y 13eg.—Heddyw eto y mae yr haul yn ei haelirydedd yn gwasgaru ei belydrau, fel y galluogwyd ui i deitlijo heibio iJawer o'r adeiladau s-sdd ar yr ochr Ogleddol ar hyd y gwastadedd. Hen adeiladau sydd fwyaf yn y rhan hou, gydag ambell un newydd lied fawr, a rhai eglwysi o faintioli anferth, gan mwyaf yn perthyn i'r grefydd Babaidd. Ar y De-ddwyrain y mae dau dy marchnad, a marchnad yn cael ei chynal ynddynt ddwy waith yr wythnos, dydd Mawrth a Sadwrn. Y mae y prisoedd am ymborth o bob math yn hynod r&d. Nid yw yr heolydd ar y cyfan ond culion ac afreolaidd, oddigerth y rhan sydd wedi ei adeiladu ddiweddaraf, ac nid ydynt yn cari eu cadw fel y dylesid—y maent yn fudr iawn ar dywydd gwlyb. Quebec ydyw prif eisteddle masnach Canada. Er fod yma law weithfeyddpwysigyn gwneud sebon, canwyllau, lledr, papyr, ac yn y blaen, ac amryw longau mawrion yn cael eu hadeiladu yn flynyddol, eto, masnach goed yw prif fywyd y lie. Y Meg.—Y mae yn hyfryd i fyned allan heddyw i'r awyr iachus. Aethom i fyny y boreu hwn i'r Pyramun, yr hwn sydd yn sefyll ar golofnau mawrion. Byrddau o goed yw y llawr, a railings haiarn yr ochr at yr afon iddo, ac eisteddleoedd ar hyd- ddo, fel y geUir mwynhau ein hunain yn yr awyr agored, ac amryw o bbitforms a thoi arnynt wedi eu gosod ar fan golofnau, fel y gellir eistedd yma os yn wlyb, neu pan y mae yn rhy boeth i fod allan. Y mae <vedi ei godi tua 160 troedfedd uwchlaw gwyneb yr afon, ar le serth, ac un pen iddo ar y graig sydd dan y barracks. Y mae tua haner milldir o hyd, ac o 60 i 80 llath o led. Y tu ol iddo, ar lethr hyfryd, y saif cofgolofn hardd i'r enwog Wolfe, (yr ydym wedi methu cofio enw yr enwog arall sydd ar y cofgolofn), am y fuddngoliaeth enill- wyd pan ddaeth Quebec i feddiant y Prydeinwyr yn 1759, ac yn feddiant pa rai y mae hyd heddyw. Y mae tua thair ran o bedair o'i thrigolion yn Ffrancoed, a'r Ffrancaeg a siaredir fwyaf. Ei phoblog- aeth, meddir, yw 60,000. Y 15fed.-Aethom y boreu hwn i edrych am eglwys yn pertbyn i'r Bedyddwyr, ac wedi cerdded am agos i awr, cawsom ein gcsod ar y ffordd i'r lie oeddem yn ymofyn, ond wedi i ni fyned i fewn, er ein mawr siomedigaeth, beth oedd yno ond offeiriad yn ei wn gwyn ond chwareuteg i'r gwisg- oedd a'r defodau, ychydig iawn o honynt basiodd y boreu hwn. Pregethodd oddiar loan xvi. a'r 12fed adnod,—" Y mae genyf eto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awrhon." Yr oedd ei nodiadau yn wir dda, ac yn siarad fel yr oedd yn hawdd ei ddeall, er mai Seisnig oedd. Ar ol ciniaw, aeth yn wlyb ac yn oer iawn, fel y lluddiwyd ni i fyned allan, ond galluogwyd ni i ddarllen rhanau o'r hen lyfr bendigedig, yr hwn sydd yn ei flas bob amser, ac yn holl amgylchiadau bywyd. Yr 16eg.—Wedi treulio wythnos fel yma yn Quebec, prif ddinas Canada Ddwyrein 10I, ar y llaw ddeheu i afon St. Lawrance, 160 milldir i'r Gogledd.ddwyrain o Mont- real, wele ni y boreu hwn yn cychwyn am haner awr wedi wyth o'r gloch tua'r ferry boat er croesi yr afon, yr hon sydd tua dwy filldir o led, er cael y tren yn Point Levi. Yn dechreu ar ein hail daith tua Colorado am ddeg o'r gloch gyda rheil- ffordd y Grand Trunk. Yn tcithio drwy fforestydd am lawer o ffordd, yn cyrhaedd tref fechan o'r enw Richmond erbyn haner awr wedi tri y prydnawn, ac yn aros yma am ddwy awr. Yn newid y tren er myned i fyny tua Montreal, ac erbyn cyrhaedd yma yr oedd wedi deg o'r gloch y nos; ac wedi aros am awr a haner, yn cael tren i fyned i ffwrdd. Yr ydym wedi ein ham- ddifadu o'r golygfeydd sydd yn y dref hon a'r cylchoedd, gan i ni fyned i mewn ac allan yn y nos. Y 17eg,—Y mae golwg brydferth yn y ffordd hyn; nid oes yr un mynydd na bryn i'w weled yn un man—dim ond yr awyr las yn d6 uwch y cyfan; y fforest- ydd mawrion a'u coed talgryf. Rhyw ddull rhyfedd iawn sydd gan y trigolion yma i SYIL ud a difa y coed oddiar eu tir; y maent yn eu gosod ar dan, ac nid ydynt yn ail dyfu ar ol y tan, ond yn pydru gydag amser. Y mae llawer i amaethwr yn aredig, yn hau, ac yn llyfnu rhwng y bon- cyffion, ac nid oes Ilawer o raen ar ei waith ond y mae ambell un wedi eu difa yn llwyr oddiar ei feusydd, ac y mae golwg hardd anghyffredin ar feusydd y cyfryw rai. Yr ydym yn cael ambell i gipolwg ar afon St. Lawrance drwy y bylcbau sydd yn y coed. Yn cyrhaedd Brookville erbyn wyth o'r gloch y boreu hwn. Tref fechan yn swydd Leeds, yn Canada Orllewinol, ar yr ochr Ogledd- orllewin i afon St. Law- rance. Y mae yn dref brydferth, wedi ei hadeiladu o galch-feini, ar wely o ba un y mae ei sylfaen. Y mae yr ystrydoedd yn drefnus a rheolaidd, yn dyrchafu i fyny y naill uwchlaw y llall. Wedi i ni aros yma am awr, cychwynwyd er myned yn mlaen ar ein taith. Y mae y ddaear yn y parth I hwu yn gwisgo gwyrddlesni o bob tu, a'r coed dan eu coronau o flodau amryliw, a meusydd yr amatthwyr a'u hyd yn ymdonu i gan yr awelon. Erbyn y prydnawn, yr ydym ar lan llyn Ontario, a'i donau yn golchi ar draws ochr y rheilffordd. Y mae i'r Gogledd i dalaeth Efrog newydd, gan ffurfio rban o'r terfynau rhwng yr Unol Dalaethiau a Clianada. Y mae yn 180 milldir o hyd, wrth 50 milldir o led, a thua 480 milldir o amgylcLedd, ac yn for dwyol ar bob tymor, a chan faint ei dyi'n der, yr hyn sydd mewn rhai lleoedd dros 600 troedfedd, nid yw braidd byth yn rhewi. Y mae yr haul wedi machlud, a llenu y nos yn cuddio y cyfan o'n golwg, (I'w barhau.)
EISTEDDFOD LLANON, SIR GAERFYRDDIN.
EISTEDDFOD LLANON, SIR GAER- FYRDDIN. Cynaliwyd yr eisteddfod uchod dydd Owener y Groglith Llywyddwyd ac ar- weiniwyd gan Mr W. Harries, Cross Inn. Beirniad y ganiadaeth oedd Mr C. Davies (Alaw Vteudwy), Llanelli; y farddoniaeth, &c., Parch D. Morgans (Mathryfardd), Cross Hands, Llanelli. Wedi cael anerch- iad gan y llywydd, awd yn mlaen yn y dreln ganlynol:—Adsodd Cwyn y cystadl- euwr ailwyddianus;' chwech yn cynyg— goreu, Daniel Peregrine, Dyffryn Canu 4 Hei^ gadair wag y teulu,' (Afan Alaw); chwecli yn cynyg-goreu, D. Francis. Llanedi. Canu Clycliau aur Glynceiriog;' tri pharti yn cynyg- rhanwyd y wobr rhwng S. Jones, Cross Hands, a'i gyfeill- es, a J. Morgans, Llanelli, a'i gyfeilles. Canu Ti wyddost beth ddywed fy nghal on chwech parti yn ymgeisio-goreu, Eos Fferws a'i barti. Canu ton ar y pryd deg yn cynyg-goreu, G. Rees, Felinfoel Beirniadaeth yr englynion i'r Gog tri i fewn—rhanwyd y wobr rhwng Dyffryn. fardd, Llanybie, a Gwilidon, Felinfoel. Canu 1 Fe ddawLlewelyn eto'n ol;' tair yn cynyg-goreu, Mrs. Mary Jones, Cross Hands. Canu yr unawd i fass o r anthem I Arnat ti y llefais;' saith yn ymgeisio— goreu, W. Jones, Cross Hands Canny deuawd 'Y gareg atebdau barti yn cynyg—rhanwyd y wobr rhwng Eos Fferws a'i gyfeillion, a G. Rees, Felinfoel a'i gyf- eillion. Adrodd Y Ddauwynebog;' pump yn cynyg—goreu, Daniel Thomas, Medel- fyw, Llanelli. Canu 10! Gymru Anwylaf,' (J ohn Thomas); chwech côr yn ymgeISlO- goreu, cor yr Hendre, dan arweiniad J. Jones. Canu "PebyllyrArglwydd,'(Dr Parry); chwech cor yn cystadlu, ond y goreu oedd cor Brynfferws, dan arweiniad W. Lewis (Alaw Fferws.) Beirniadaeth y ponillioni'r I Groglith;' triifewn—rhanwyd y wobr rhwng Dyffrynfardd, a J. Williams, Ty'r Adar, Cross Inn. Yn nesaf deuwyd at y prif ddarn corawl, sef I Y-Blodeuyn Olaf,' (Ambrose Lloyd); pedwar cdr ddaeth yn mlaen, a chawsom ddatganiad rhagorol o'r darn ganddynt oil, ond y goreu o ddigon, medd y beirniad, oedd c6r Bryn- fferws, dan arweiniad Alaw Fferws. Der- byniwyd y newydd gyda banllefau o gy- meradwyaeth. Cynaliwyd cyngerdd yn yr hwyr i dorf luosog, pryd y gwasanaethwyd gan y beirniad cerddorol, ac amryw enwogion ereill, ac aeth pawb trwy eu gwaith yn ardderchog. Trodd yr eisteddfod a'r gyngerdd allan yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr. EISTEDDFODWR.
TAITH YR HEN WR.
TAITH YR HEN WR. MRI. GOL.Fe ddichon eich bod chwi a'ch lluosog ddarllenwyr wedi credu bod yr Hen Wr wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ond trwy drugaredd nid felly y mae; yr wyf yn fyw ac iach, ac yn mwyn- hau iechyd rhagorol ac ystyried fy oedran. Marwaidd iawn ydyw hi tua gwar Llan- deilo yma o hyd-dim gwaith i'w gael os na weithiwn ni am rywbeth neu ddim i'r ffarmwyr calon galed sydd yma. Yr wyf fi a Dai bach, hen was Llwynyrhebog, wedi bod yn llosgi calch oddiar mis Medi diweddaf; ond yn sydyn, ar ryw foreu, daeth y syniad i'n penau ein bod yn ddigon o fechgyn i fyncd i weitbio i'r gweithfeydd tan, fel y.dywedir, am ein bod wedi ymar fer ychydig a than yr odynau calch. Ffwrdd a ni ar ben borou cyrhaedd tref henafol Llandeilo. Yr oedd Dai bach am fyned i Dowlais, a minau am gyfeirio fy nghamrau tuag Abertawe felly y bu, a'r lie olaf gafodd fod yn center point. Dyma ni yn Mhontardulais; aethom i mewn i waith alcan gofyn am waith, ond dim i'w gael. Dywedodd un hen wr wrthyf, yr hwn oedd yn dwyn berfa yn llawn o lo, 0 Jba le yr ydych yn dyfod ? Atebais ef mai o war Llandeilo. 0 I ebe efe, buasai cystal i chwi aros yno, o herwydd y mae y son ar led mai dim ond pedwar twrn yr wythnos sydd i fod yma o hyn allan, o achos yr hen ffolied, y melinwyr yma. Paham ? Pa beth y mae nhw wedi ei wneud? 0, ebe, efe, y gwaith mawr— gwneuthur gwaith dau ddiwrnod mewn un, a thrwy hyny yn llanw y farchnad o alcan, ac mor wired a hyny, hwy a wnant waith chwech twrn mewn pedwar eto, fel y darfu iddynt ei wneud o'r blaen, a thrwy hyny hwy a enillant yr un faint o arian ag o'r blaen ond y ni, y gwyr hur yma, sydd yn gorfod syffro gweithio gwaith chwecb, a chael ein talu am bedwar. Too bad, too bad, ebe fi. Ydyw, ebe yr hen frawd, y mae yn three. bad. Ffwrdd a ni oddivno tua Llangenech, gofyn am waith, ond dim gwell. Myned rhag ein blaen eto tua Chasllwchwr ar hyd y gledrffordd i'r Bynea, ac i lawr tua'r gwaith. Cyfarfod ag un o'r Rest ar yr heol, gofyn iddo sut yr oedd pethau yn ym- ddangos yn Nghasllwchwr? Tlawd iawn oedd yr atebiad; y mae y gwryna sydd a'r ddwy glun chwith yn gwneud cymaint o waith, ac ereill yn treio ei ganlyn, nes.y mae wedi myned yn draed moch yma. Wel, wel, ebe Dai bach, buasai yn well i ni aros gartref gyda'r odynau cilch. Paid a rhoddi i fyny yr ysbryd, Dai, dere i ni gael cychwyn dros gefn mynydd Garngoch tuag Abertawe. Pallodd Dai a chydsynio, a ffwrdd ag ef tua Llanelli, a minau i'r gwrthwyneb, dros y mynydd, a'm gwyneb tuag Abertawe. Gofyn am waith yn y gweithfeydd glo yn Fforest Fach, ond methu llwyddo. Yr oeddwn erbyn hyn wedi myned yn wangalon iawn. Penderfynais peidio troi yn ol, ond rhag blaen a mi, nes cyrhaedd Cwmbwrla. Dyma waith wedi cynyddu oddiar pan y bu yr Hen Wr y ffordd yma o'r blaen, oddeutu wyth mlynedd yn ol. Y mae yma waith dur eang yn awr, a dwy ffwrnes ardderchog wedi eu hadeiladu yma, y rhai sydd yn rhagori ar holl ffwrnesi Cymru a Lloegr, canys y mae y dur y maent yn ei wneud yma yn ddigon o brawf o hyny. Y perchenog ydyw John Jones Jenkins, A.S. Y gwneuthurwr oedd Mr Wm. Bevan, gynt o Gasllwchwr, yr hwn sydd wedi enwogi ei bun fel adeiladydd ac arolygwr gweithfeydd dur; ac y mae llawer yn sychedig am y secret sydd gan- ddo mown cysylltiad y hwy, fel y dywed- odd dau ddyeithrddyn, y rhai oeddynt wedi ymguddio yn agos i'r ffwrnesi, yr ydym yn boiqid o gael allan secret y gwr o Gasllwlhwr. Wel, trwy drugaredd, dyma'r Hen Wr wedi cael gwaith o'r diwedd yn y gwaith dur ae, 0 mam anwyl. beth oedd y tam. aid tan oedd yn yr odynau calch gyda ni obry, at y tan tanbaid sydd yn y ffwrnesi dur yma ac y mae yn ofynol iddynt gael gwyuran ar eu llygaid cyn y gallant edrych i mewn iddynt. Yr wyf yn sicr bod Dai bach wedi odifarhau erbyn hyn na buasai yn dyfod gyda mi. Yr wyf yn erfyn llyth- yr odaiwrtho bob dydd, a phan y derbyn- iaf ef, anfonaf ef i chwi, Mri. Gol, ar un. waith, fel y gailom gael ychydig o hanes Llanelli. Yr eiddoch byth, HEN WR.
EISTEDDFOD CWMTILLERY.
EISTEDDFOD CWMTILLERY. Cynaliwyd yr eisteddfod uchod dydd Llun y Pasc, ar agoriad y Workman's Hall, neuadd eang a phrydferth, a He cyf- leus i 800 o bobl i eistedd yn gysurus.* Y llywydd oedd II Phillips, Ysw., Aber- tileri. Beirniad y farddoniaeth a'r adrodd- iadau, y Parch E. Davies y traetbodau, H. Phillips, Ysw.; y ganiadaeth, Thomas Stephens (Telorydd), Ton, Ystrad, Awd yn mlaen fel y canlyn :—Adrodd 4 The .r Railroad,' i fechgyn dan 12 oed; dau yn cystadlu—goreti, Signor Foli, a rhoddwyd 2s. 6c. i'r llall., Canu gan fechgyn dan 12 oed Watching for Pa 14 yn eystadln- goreu, Johnny, bachgen bychan o'r Cwm Y deg penill goreu ar I Fywyd y Glowr a enillwyd gan John Jenkins. Canu 4 Ah! he kissed me;' deg yn cystadlu—goreu, Miss Martha Samuel, Abertileri. Adrodd r d^ddan y meddwyn a'i wraig;' goreu, John Davies a'i chwaer. Canu 4 I know that my Redeemer liveth;' goreu, Miss Soudmore. Araeth fyrfyfyr; 17 yn cys- tadlu--goreuf Joseph Morgan. Unawd i denor I Blodwen, my darling; deg yn cys- tadlu—rhanwyd y wobr rhwng William Richards, a D. Davies,. Ebbw Vale. Cor plant y Bedyddwyr Seisnig, Cwmtillery, allan 0 an, emllodd y wobr o £ 110s., a chromaticpitchy Ipe gwerth 5s. i'r ar weinydd, am ganu 'Washed in the blood of the Lamb.' Traethawd ar • Y fantais o oleu noeth yn nglofeydd y South Wales; gwobr £ 2 10s. Rhoddwyd £ 1 10s. i Dd. Charles, a £ 1 i Wm.Kelson. Deuawd 4 Martial Spirit. jrhanwyd y wobr rhwng E. J. Wil- liams a'i gyfaiil, a M. Stephen a'i gyfaill. Y goreu ar y deg penill ar Gwmtillery,' oedd David Charles. Unawd ifass I Arm, arm ye brave goreu o ddeg, J,*P. Davies, Blaanau, Gwent. Traethäwd ar I Awyriad Tanddaearol;' gwobr £ 2 10s.—goreu, J. Davies,pitman, a rhoddwyd cymeradwy- aeth uchel i eiddo Augustus. Deuawd 4 Howell, Howell;' goreu, Miss Francis, a Mr E. J.Williams. t)adl fyrfyfyr; wyth parti yn cystadlu—goreu, Joseph Morgan a'i gyfaiil. Y parti gwrywaidd goreu o dri ar I Cheer up Companions,' oedd Blaenau, Gwent, dan arweiniad E. J. Williams. Cystadleuodd pump o gorau ar ganu I Oh! Father whose Almighty powergwobr i;10, a silver mounted baton gwerth ^1 i'r arweinydd. Wedi cael beirniadaeth fanwl gan y beirniad, rhanwyd y wobr rhwng cor Blaenau, Gwent, dan arweiniad Mr James Gunter, a chor Primitive Methodist, dan arweiniad Mr T. Preece. Yn yr hwyr cynaliwyd, cyngerdd ar- dderchog, pryd y cymerwyd rhan gan Telorydd, Mri E. J. Williams, Beaufort M. Stephens, a Mrs Stephens (Llinos Dar). Digon yw dweyd fod yr eisteddfod a'r gyngerdd wedi troi allah yn llwyddiant perSaith. Da genym hysbysu fod yr wyl hon i'w chynal yn flynyddol.—EISTEDDFODWR.
• ~ 1 • • sir'. : ."r'T ;…
1 • • sir'. "r'T Y WASG: ,L'f: AWDL CARIAD. Gan Tafolog. Treffynori: Argraffwyd gan P. M. Evans & Son. Pris chwecheiniog. ( Parhad). Y mae y bardd yn fanwl iawn yn ei ddes- grifiad o gariad ein hen dad Adda, o'r pryd y teimlodd y cynhyrfiad cyntaf hyd nes iddo gael ei hun yn nghymdeithas Efa. Rhywfodd, lied lac y teimlir y darn hwn. A oes esboniad i'w gael ar hyn ? Ai hen lane yw Tafolog ? Mae lie i gasglu hyny, am ei fod yn canu yn ofnadwy o dda ar ein hen rieni wedi y cwymp. Gwrandawer arno:— 44 Aeth yn niwlog byth yn aelwyd Teulu Eden—Ow! tylodwyd Y ddau ieuainc—eu hedd wywyd, Cariad yno'n y cryd wanwyd. Clywaf swn ei gyflafan Yn 44 y wraig roddaist i'm rhan." Tine aflafar angbariad-rodd Adda Ar ddydd yr ymchwiliad I'w drosedd—d'ai ar asiad Ein teulu cu frwnt lacâd. Dau gerub i gadw agoriad Eden wen, rhag dyn a'i had, A welaf ar y wal ferth Amgaera'r Wynfa wenferth; A'u llosg gleddyfau'n eu llaw, Trwy awch hyf yn ter chwifiaw, A throellau y llafnau llym- Llathr danlliw uthr dywynllym, Yn profi mai pan rhyfel Wedi'r Bai yw daear bel. Enbyd dyrch o danbaid wawl Oil wneir o'r lien awyrawl; Fel ysgrifen lythyrenog Y ceir hwynt yn arwydd crog, Fod cariad wedi 'i fradu—'n mhorth amser A Ilid a'i faner danllyd i fyny! Ffrydiau'r serchiadau o chwith Drow'd yn fallder dan felldith; Organ serch garegai'n syn Yn ngwaed Adda rhwng deuddyn." Yn vr ail ran y mae y bardd yn cael gafael eto mewn cariad wedi ei buro-yn yr Ymgnawdoliad 44 Corffoliad o Gariad, gwel Mewn preseb—man pur isel; Rhyw gryd oer i gariad yw; Atom wed'yn twymo ydyw Gwaed-guriad serch.deimlad Ion, Ys tery ei fynwes dirion; Yr ergydion sy'n toni Bywyd y nef i'n byd ni. Gwaed y frenbinwisg waeda 'i fron union Er hyn ei gariad ddreiniai y goron; Cariad drwy belynt curiad yr hoelion, Yn drymach gurai, ac hoeliai 'i galon Yno i ddal oriau—aneiddil wron- Hyd y "Gorphenwyd "-agorai ffynon Gras goludoedd y kiroes i'w gwaelodion, Yr hon sydd gyflawn o ddawn y ddynion Z, A neint hael faddeuant Iôn,-drwy'r clwyf, Lanba galonau euog elynion. [au, n Os i lawr, isel wyro—wnai'n Ladail Yn Eden, drwy ddringo," Iesu Grist i fynwes gro.-ddlsgyna. Dau wawd, i'w gariad ein hadgyweirio Rhyw ail wneud wrth reol y nen,—i'w fawl, Fawredd eneidiawl o furddyn Eden." Buom bron gwneud cam a Tafolog wrth awgrymu nad yw yn gwybocl beth yw swyn try dan serch. Mae yn dyfod at y pwnc gyda hwyl a gwres tua chanol yr awdl:- Gwel ddeuduyn gwylaidd heddyw Yn troi o berth antur byw, I Acw i'r byd ag arab wen 0 tan amoit tyn Hymen Cariad i'w hedryciiiad rydd Swyn urddas hoen v wawrddydd, A gwaed serch yn ergydio sydd I'w calon ieuanc hwyl newydd. Ond hawdd i gariad heddyw, A chadarn iraich, ddwyn baich byw, Heb wanhau mewn bun ieuanc, A marw'n llwfr yn mron llanc. Poethwregys hysbys fyd serch,—yw'r Ar ei heulog lanerch [aelwyd; a Cnydir oesau-cawn draserch't i/j Yn tynu mab at wen merch. r^ Yn ei thas cymdeithasol,—hoen egyr Y planigion dynol; Fel y msld fiodeua d61,— ercb -gynyrcli Rydd hudol lewyrch i'r ardd deuiuol." Cariad mam:— (. 44 Dacw ef i'w theimlad cua. Hr 0 anwyledd yn eilun, u Yn nesu—gwasgu i gol nVa'vW Hynawsedd fyth-gynhesol, Gan roi sugn i aer ei serch, C Ei thrysor yn ei thraserch, '• j. Wasga fal at ei chalon; Yntau ei glust at glo ho* A drydd fel clustfeinydd, dro, Ar dine cariad yn carol |/ £ :0 Cariad tad at ei fab afradlon:- Dilyna mewn dy lanwad -edef aur v Adferol rin cariad En hynt hir o galon tad I galon eu gwrthgiliad. ■ 'nvcvo-,3 A dwg yr afradlawn o'i daith-. ka?et, A Wedi'r orwydro hirfaith; Daw o'r aelwyd wawr eilwaith. -i'r euog, Gwena 'i ser gwibiog yn asur gobaith." (I'w barhau).
———————————- AY. o ft' .f…
———————————- AY. o ft' .f MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS MARY T. WILLIAMS, OXFORD STREET, GADLYS, ABERDAR. Fel yr hysbyswyd yn y DARIAN yr wyth. nos ddiweddaf, bu farw y chwaer dduwiol ac anwyl uchod, Ebrill yr 8fed, wedi cys. tudd byr o'r bronchitis. Cymerodd afael ar grefydd er yn foreu iawn, a dilynoddyn ffyddlawn byd y diwedd. Yr oedd yn un o'r rhai a ollyngwyd o eglwys Calfaria, i gychwyn yr achos yn y Gadlys. Yr oedd ei phrydlondeb yn mynychu moddion gras yn hynod. Meddai barch didwyll i wein. idogion a phregethwyr y Gair, a chafodd lawer o honynt nodded dan ei chronglwyd. Bu farw fel ag y bu fyw, a'i phwys, a* Hanwylyd. Gadawodd ddau fab i alaru eu colled ar ei hoi, un o ba rai ydyw ein hanwyl frawd, y Parch W. T. Williams, Maerdy. Prydnawn dydd Mercher c&n- lynol, hebryngwyd ei gweddillion marwol i Cemetery Aberdar, pryd y daeth .Jorf barchus yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd gan y Parchn B. Evans, Gadlys; Dr Price, W. 'Harries, Heolyfelin J Mills, Abernant, a Ð1 Jones, Liwydcoed. Heddwch i'w llwch, a nawdd Duw fyddo ar y teulu gaiarus—DAKFAB,
-.')íw. .MEDDYG I LANS A M…
') w. MEDDYG I LANS A M LE T," MRI. GOL.A ydyw ddim yn bosibl i chwi berswadio y bobl weithiol yn Llan. samlet i gydweithredu gyda golwg ar gael meddyg i fyw yn y lie ? Y mae yma am- ryw o weithfeydd, a phoblogaetb o dros wyth mil-8,392-beb un meddyg. o gwbl yn y lie. Y mae amryw o feddygon mewn 9 cysylltiad a'r gweithfeydd, ond y maent oil yn byw y tu allan i'r plwyf, a pha bryd bynag y byddo taro, nid oes yr un meddyg o hyd cyrhaedd rhesymol. Y dydd y ddoe ddiweddaf, fe dorodd bachgenyn ei glun, a'r tad yn 'ofidus yn cbwilio am feddyg i Y9 IL osod y glun yn ei lie, ond yn m; thu cael yr un. Pe cytunai y gweitbwyr a'u gilydd i dalu i'r un meddyg, yn lie talu i saith neu wyth o honynt, fel yn bresenol, sicrbaent feddyg medrus i fyw mewn lie canolog yn y plwyf, heb fyned dros bob terfynau i chwilio am un. Credwyf, pe byddai y mater yn cael ei osod yn deg a phwyllog o flaen y gweithwyr, y cymerai gyfnewidiad buan Ie; ac er mwyn y gweithwyr eu hun- ain, mi garwn pe byddech chwi mor hyn- aws a galw eu sylw dwys at yr angen o gytundeb a chydweithrediad ar y pwnc 0 gael meddyg arosol i breswylio yn eu plith rhywle yn y plwyf. Yr eiddoch yn garedig, Ebrill 13eg. THOMAS WALTERS. [Gwel y darllenydd y llythyr uchod oddiwrth Dr Walters, ficer parchedig Llan- samlet, yn gosod ger bron y cyhoedd res- ymau a ffeithiau o blaid cael meddyg i breswylio mewn lie canolog yn mhlwyf Llansamlet. Os yw y ffaith fel y gosoda y ficer ef o'n blaen, fod 8,392 o drigolion heb fod meddyg yn ddigon agos atynt i rag- flaenu canlyniadau marwol damweiniau mewn gweithfeydd, diau y dylai y gweith. wyr, ac yn wir yr holl drigolion o bob gradd, ar unwaith geisio sicrbau fod meddyg yn agos atynt. Nid ydym yn ddigon cydnabyddus a manylion i roddi barn o honom ein hunain ar y mater ond yr ydym am alw sylw darllenwyr lluosog y DABIAN yn mhlwyf Llansamlet at lythyr Dr Walters, yr hwn a ddengys yn amlwg, yn ol yr hyn a ddywed efe, fod eisieu meddyg i fyw yn nghanol plwyf Llansam- let.—GOL.] t'
CWMLLYNFELL.
CWMLLYNFELL. Yn y capel uchod, nos Lun y Pasc, y lOfed cyfisol, traddododd y Parch T. E. Davies, Cross Inn, ei ddarlith benigamp ar W. E. Gladstone,' i gynulleidfa iuosog. Ni fyddai ond gwaith ofer i ni ddeclireu camnol Mr Davies fel darlithiwr, ac nid ydym yn teimlo ein hunain yn gymwys i wneud hyny chwaitb, ond rhaid i ni gael dweyd cymaint a hyn, sef fod gwrthddrych ei destyn yn deilwng o ddarlitb, a darlith Mr Davies yn deilwng o wrtliddrych y testyn. Amcan y brodyr wrth gael Mr Daviek'i ddarlithio oedd, cael ychydig gynorthwy i'r brawd William Griffiths (Llynfell) i ymbarotoi ar gyier y weinidogaeth, a da gepym allu dweyd iddynt Iwyddo i raddau pell yn eu hamcan ac y mae y ffaith i Mr Davies draddodi ei ddarlitb yn rhad wedi creu awydd yn yr eglwys a'r gymydogaeth i dalu y diolchgarwoh gwresocaf iddo. Felly, yr ydym ar ran >r eglwys a'r brawd William Griffiths, yn cyfhvyno i Mr Davies ar gyhoedd gwlad yn y ino-d yma three cheers! am ei weithred ganmoiadwy. LIBERAL. R
IN RE JOHN JONES, YN Y DARIAN…
IN RE JOHN JONES, YN Y DARIAN EBIULL 12FED. Ymddengys fod y dyn Lwn yu cyfeirio ataf fi yn fwyaf neiliiino! yn ei script o Ferndalr. Y mae wedi caiwyu ei edau i ben, ac eto heb wybod pwy yw awdwr rliyw dderDyc bach an. raio weinidogion y lie yn yfed iechyd UK i'w gilydd trwy lyncu Paddy's Eye IVu/tr I'wv bynag yw yr awdwr, y mae t\e<u achosi storm yn nghynteddoedd y clic neiildiiCiyma, y rhai a safant hyd eto fel V eroz yn ffordd y di wygiad dirwestbl. Ntd t ps neb yB'-amTteu
DAMWAIN ANGEUOL YN IOWA.
Ganwyd ef yn Hirwaun, plwyf Penderyn, yn y flwyddyn 1850. Pe cawsai fyw i weled y 10fed o Fai nesaf, buasai yn 32 mlwydd oed. Pan yn saith oed symudodd eyda'i rieni o Hirwaun i Gwmaman, lie y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Yn ei flyn- yddau diweddaf yn yr hen wlad bu fyw yn yr Ystrad a'r Portb, Cwm Rhondda. in y lie blaenaf y priododd yr bon sydd wedi ei gadael yn weddw i alaru ar ei ol; ac o r lie Olaf yr ymfudodd i America tuag un mis arddegyn ol. Claddwyd ef y dydd dilynol i'w farwolaeth yn nghladdfa Cleveland; ac os deallais yn gywir, yr oedd ei angladd ar yr un dydd o'r mis ag y cychwynodd o r hen wlad am y wlad hon. Daeth ei 8Y genedl yn y lie, yn nghyd a chenedloedd ereill, allan yn llu mawr i dalu y gy- mwynas olaf o barch i'w weddillion, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd. Duw pob dyddanwch a gynorthwyo ei fam oed- ranus yn ei tbrallod, ei weddw ieuanc ofidus a'i. dau blentyn bach, ei chwaer a i ddau frawd, yn nghyd a i boll berthynasau, i droi ato Ef yn eu cyfyngder presenol, ac i obeithio ynddo. "Gwyliwch gan hyny, am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn."