Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
HEREW ARD
HEREW ARD YR OLAF O'R SAESGST. penod VL.^T r — Wedi iHe £ ewaTdTofyn airfgael myned ya. erbyn .y marchogidn, d;Kwe<|9$d Alrarf':— y » Gadewch i fy Viking fyned. Gad- awo 0 e,-kh i mi ei weled yn ymladd 1" fel pe bulBar yn gi nen geiliog. "E wc.h chwi, ebai Here ward- wrth ei aswy, a phan y gyraf fi y Ffranewyr i'r deaa, igvmewch ruthrfa anS'dani,'ac-ewchrhyngddynt aphorth y caStfell, a bydd i ni weled beth. a allwn ni ei wneud a'r fwyell Ddanaiddyn erbyn coelau y ceffylau." Sebardyfrodd. ei geffyl, gan waeddu, "Btaidd-t Maidd!" gan fyned rhagddo. Gwelodd yn agos i licUard ,j castell farchog uchetfU'^hredw'ar .'ereillo' i gwm- pa^'t&etlhyn en herbyn, gan en lladd ollf gan roddi yrim; areholledig argefn ei geffyl, gan ei arwain ar draws y cae, er rod y saKfthyddion yn safithii tuag ato oldTar y mar. Pan y marchogodd y marcbogion. ar ei ol, aeth. y" Daniaid 9 rhyhgddyat- a'r castell, gain wneud gwi-thsafiad yn eu herbyn. Marchogai yn y marchogion yn eu herbyn- yn wat- w arils gan ddweyd:— V- • 4 Y ikth. fodau ystyfnig aa hunanol- yn meddwl y gallant wrthsefyll march- ogion 0?mbath ni!" ODd ni wyddent hwybeth oedd meteij y Daniaid, y rhai a waeddasant. gyda'u gil|sM, Blaidd! blaidd gan drox eu: hatfaw yn erbyn eu: gelynion, gan daraw yioalfebc. ben-iva en c -P, ff v I iu k.'u bwyelli, a buasent yn gwneud-- yr un path &'u. inarchogion oni buasai i.Hereward gyf- ryrtgn ar eu Than. Marchxygddd yr holl fareb-ogion nad oeddent' wedi ea cymer- yd bob tin i'w ffordd, gan adael y maes. Yiioedd Arnulf bach mor falch a phe buasai wedi ei wneud ei hun, ad anfon- odd y Chatelain air ate Baldwin* nad uedd y nswydd-ddyfodiad yn wroo cyS- reriinj a'daeth calon Count Guisues fel *dwfr;-tra yr aehwynai ei farchogion, y rhai- oeddynt. garcharorion, a'r rhai rhy ldionr yn fawr yn herwydd y fath gynlluniad anfiiwrol a chwareuodd y Daniaid, ft hwy'—mileini%id ar draed yn meiddio cyfarfod a marcbogion, .ac hefyqL,( i'r llawr atydlr trwy'dcifi ytn, aitbbepau a choesau eu ceffylau. Dywododd Hereward ei fpd yn deall rhoolau: ymladd yn gystal a neb ohon". ynfc, grad- ei fod ef wedi" ei gyflogi i wnénd'i'rCount GuisrieEr' ir dalu i'w AiglwySd Baldwin—a hyny; a wnolai efe. X diwrnod canlynol dywedodd. vvrtb ei cjclynion am fod yn llonydd,-argadael iddo etweithredu ei hunan. Pigodd allan y marchog goreu. a welodd, a marchogodd i fyny ato, -gan ofyn iddo ddýfod a ebael ei ladd mewn gornest degV. Ij&rlij 'i'r' marcliog'/irie^ld y cron- iclau, yr bwn oedd fel Hew o .ran calon, ac yn cael-ei ystyried y milwr goreu yn y wlad,ac gweled nad oedd Here- ward ond dyn byr, ateb y buasai yn dda gailddo wneud ymgais am ei lardd ef. Ar hyn fn9xchóg<tsant o'r neilldu, gan hysb^r3u.,fod pawb i adael iddynt, gan ei bod yn ymla-ddfa anrhydeddus. SafasAnt wyneb yn wyneb, a dechreu- asant, garo cleddyfau, tra y safai yr oil yn edrychwyr. Yn mhen enyd tarawodd Hereward ei ddyn y tu ol i'r glust, fel y syrthiodd fel careg i'r llawr. "Credwyf," ebe Hereward, "y gallaf eich cario," a chan gydio ynddo, taflodd ef dros ei ysgwydd, gan fyned tuag at y dynion. "Blaiddl blaiddl" gwaeddent hwy gan cbwerthin am ben ystum Hereward a'i ysbail ar ei ysgwydd. Dylasai ladd ei ych cyn dechreu ei gario. Edrycbwch yna!" Yr oedd y marchog wedi dechreu slyfod ato ei hun, gan ymdrechu ym- jryddbau. Ond er mai Hereward oedd y lleiaf, eto efe oedd y cryfaf, a gwasgodd ef yn ei freichiau, ac aeth rhagddo yn dawel. H Farehogiol1, cynorthwywcht Mae n 0oibricht wedi ei gymeryd!" ebe pleid- Wyr Guisnes, gan gyflymu tuag ato. <4Blaidd! blaidd! ataffioll," gwaedd- Odd Hereward. Ac aeth y Daniaid oil tuag ato a u bwyyll yn eu dwylaw. Aeth marchogion Chatelain hefyd i fyny, a chariodd Hcreward ei garcharor yn ddyogel i'r wersyllfa. I A phwy ydych cbwi, farchog an- ?;Jsvdeddus," eb<?efe v/rtb ei garcharor. 1 "■ "icht, nai Count Guisnes." Cad* ef draed a dwylaw, ac gXHCTvwyd Hell Hereward, dau Martir. Y II Y d ?i-1YfWL" medd y cron- lolaa, "mewn IU/VmI ar ol c-5• an- tono«;I'l Count O-u'S .i "r hy.x oc > ddylètIU::i\ ,i'w d v yu rsguyda; ?i':o4dion eroili." I \.e foliy J" i-erfvnc, yr annealldwr- Jaetli Ti MUwin a Count Guineas. |
PEMC- r"rii. j
PEMC- r"rii. j Yr oedd y foneddigv. ■ a.?.rdd Torfrida yn eistedd mewn ystafell iby ei mam j yn St. Omer, yn edrych allan ac ar lvfr oedd yn ei Haw bob yn ail. Yn y iij yr oedd receipt at ddenu cariad unrhyw berson a chwenychid. Yn y dyddiau hyny yr oedd y fath swynyddiaeth yn cael ei chysylltu a rhifyddiaeth a ser- yddiaeth, ac felly dywedir fod Torfrida yn gelfydd mewn swynyddiaeth. Yr oedd y ferch ieuanc hon wedi cael eyfleusderau neillduol at ddysgu swyn- yddiaeth. Wedi cael ei gadael yn ieu-I anc yn ddidad, yr oedd wedi ei dwyn i fyny dan ofal ei mam ofergselus, ai hewythr dysgedig-Abad St. Bertin. Yr oedd efe wedi gobeithio y buasai yn troi allan yn grefyddol, a thrwy hyny adael ei holl gyfoeth i'r eglwysyn y gobaith %yny yr oedd wedi, ei haddysgu yn holl gyfrinion Ilyfra"U'.Za:hitha-u'hef-yd wedi cymeryd ei dysg yn rhagorol. Yr oedd wedi ayrthio i gariad mawr a'r antur- ia-ethus, ac yn hoff iawn o ddarllen hanes anturiaethau Charlemagne, gwr- oniaid Ttoy; Ai^u»ier a'i swyddog- -ion. Yn y. dyddiau hyny hefyd yr oqdcl yr eglwys ar rai prydiau yn gofyn- cynorth- wy dewinesaus pan ,y gwelent. nad oedd y saint.yn&wyddusiawn i gyaorthwyo. Yr oedd Eglwyswyr yn dysgu dirgelion swynyddiaeth a natur, ac yn cymysgu yr oil er ateb eu dyben -mewn unrhyw ddull, -7 £ Er y'credii fo^ y bydysa^d weai ei greu gan Dduw,"eto addefid znai. Satan oedd yn ,IIywodraethu, a bod gan fyrdd- iynau o ) sbrydion drwg a; dja, ryw ddy- lanwad -go'cuwchnaturTol, ar? y "bywyd llysieuol ac anileiiaidd, a'u bod yn dy- lanwadu ar 3 d.y(K)e'd0 ffynona,u.ystorm- c 'dau a ydd, msllfa tfiaranauj.clelydaiia beint- iau,. Yr oedd cyfoeth, anrhydedd bren- hiniajethol, a,'r oil o "(U>n. cfdylanwad Satan yn 01 eu tyb hwy. '¥r oedd. y Beibl i'r geucdj.aeth bono yr un potb y Beilyl ;r geaQ-.Ijaeth hono yr un P' nis gallai neb ei 'ddarllqn, ond credent at yr uti pryd fod teyrjfasoedd -y byda'u gogoniant/yn eiddo: dia-fol, ao mai ar •sawl.y mynai.y rhoddai efe y cyfryw^. !Yr oedd. yi^ ilyfrgell Abad St.-Bertin felly amry w, lyfraiu na.' fuasai' efe 1 yn rhoddi eu benthyg i fyoacliod cyffredin ei spfydliad,.tnac i TorMda, ycbwaifch^ onf'Was'ai0ei bod .wedi ei orchfygu. a'i dylanwadVr^Q -nis' ei gwrtnbd ;o ddim. V'' Yn y llyfrau, hyn yroeaa wedi darllen sut yr oedd y Pab Silvester II.yr 4WIl nad oedd ond wedi niarw oes cyn hyny, wedi dysgu hyd yn nod alw ysbrydion o ufferu at ei wasanaeth, heblaw pobpeth arall ag y ga-llai dyebymyg d^n feddwl amdano,- r? V ■ Yr oedd TcTrfrida.wedi darllen hyn oil, ac hefyd am gerffim Gerbert wedi ei hys^bysu y buasai efe yn Bab, 'ac na fuasai efe farw cýIj. cyflawni gwasanaeth yr offeren yn Jerusalem —yr oil o'r hyii ,oedd wedi dyfod yn wirionedd—er iddo gyflawni yr olaf mewn, cellwair, .canys tarawyd ef ag afiechyd marwol yil Rhll" fain", fel yr oedd efe yn cyflawni hyny mewn eglwys a elwid Jerusalem yn R'luCain, ac y bu farw yn druenus, g'aii rwygo ei hun yn'ddarnau. Felly yr oedd Torfrida yn barod i gyf- lawni unrhyw waitb ag y gallai ei dychymyg toreithiog a gwyllt ei gynyg iddi. r Yr oedd yn foneddiges ^dichlynaidd a gwrol, ac yn caru 'gwybodae.tb er ,ei fwyn ei hun. Chwarddai am ben. y drycbfeddwl o fyned yn- gaethe^ i sqf- | y y ydliad Pabyddol, a chwarddai hefyd ar y dychymyg o briodi marchog. Fe allasai ei hewythr a'r Marquis Baldwin ei gorfodi rhyngddynt, fel etifeddes am- ddifad, i briodi pwy a fynent; ond yr oedd hi hyd yn hyn wedi taflu pob cynygiad o'r fath yn mhell. Yr oedd cwerylon ac ymladdfeydd wedi cymeryd lie o barthed iddi, ond nid oedd hi wedi cefnogi neb namyn rhoddi awgrym i un marchog o'r enw Ascelin, marchog tal o St. Valeri, yrnladdwr penaf y lie, i'r hwn yr oedd wedi rhoddi darn o ruban, gan ei anog i'w gadw yn erbyn pawb. Yr oedd trwy hyn wedi rhoddi atalfa ar gynygion pawb ereill, tra nad oedd hi mewn modd yn y byd wedi rhoddi ei haddewid i hwn.
" .' BEIRNIADAETH AR Y BEDDARGRAFF
BEIRNIADAETH AR Y BEDDAR- GRAFF I'r diweddar Mr John Richards, Myn- yddgarnlwyd, hen athraw ffyddlon a duwiol perthynol i Ysgol Sul Tre- wyddfa, ger Abertawe. Yn gymaint a bod 36 o gyfansodd- iadau wedi eu danfon i'r gystadleuaeth, nid doeth a buddiol fyddai manylu ar bob un .o honynt, gan mai y cystadleu- wyr yn unig sydd yn a wyddu darllen peth felly, a gwna awgrym y tro i bob bardd call. Y mae'n well genyf siarad yn y rhif unigol bob amser nag yn y lluosog, yn enwedig pan yn cael ymgom a'r beirdd, ac y mae yma dorf o honynt. Yn wir, yr oeddwn yn dysgwyl gweled gem o Hir a Thoddaid am gini o wobr, a dylesid ei gael hefyd. Pa fodd bynag, yn mhlith yr 21 ddaethant i'r gystadleu- aeth y tro cyntaf methais cael fy moddio gan un o honynt. Cafwyd gwell yi ail dro, er y gallesid gwell eto. Y inae foddhaol genyf hysbysu i'r prif- fardd Cyted alw ar ddamwain gyda mi, ac ar fy :boddodd yntau ei farn ar ? t^vr Tcudei au, ac yr ydym yn holiol bnza.ni am ^oreuon ac nid oes ond rhyvv drwch lewyn rhyngom a'u t. ofnu yr un ia. r raddfa teilyngdod. D yn- a ddigon o rag aadrodd. Dechreuir a' r dObb.:ai. th i^r. 'B. M.— ? mae ciddo hwn yn gloff a gwab ",Ran farwol John Richard. Er hyn hyfryd Anfarwol gwynfyd; a'i weithredoedd da." Nid oes eisiau ychwanegu. 0 Gwlith Adgof.-Y mae gormod odlau yn llinell gyntaf hwn:—"Flodau rhin- iau." Apollo.—Cystraweniad gwallus yw dweyd A abl oedd gyda bias." Ac abl, ac nid A abl." Gustavus.—Y mae'r gwall a elwir rhy debyg yn nhrydedd llineil hwn, hob- law fod y synwyr yn anegiar.. Richelieu.—Y mae dull hwn yn ceisio cyrhaedd cynghanedd yn y llinell gan- lynol yn ddigon i beri i ddyn chwerthin hyd yn nod uwch ben bedd •.— "John Riclaards, hwn yw'r uwcha'-biblwr mawr." Jonadab.—Y mae'r odl ai wedi gyru hwn allan o sypwyr. rr»-r-; "Wir haeddhvyn i f)rewyddfai,—bn i'w w fedd," &c.. Llais Hiraeth.—-Y mae gwall cys- trawenol yn y llinell hon :— Ac yn lun ei draed canlyna—torf fawr." Nid goddefol yw gosod cynghanedd lusg yn y pedwerydd linell mewn Hir a Thoddaid. Awel o lany mor.—Y mae gwall cys- trawenol yn y llinell hon A bywyd yr hwn oedd byd o rinwedd." Corsen Ysigr—fir fr-gorsen -hon gy- nyrehu tri ehopi,(eto, ysig yw y naill a'r llall, hyny yw, HineiL ysig yw hon y naill a'r -lla,U :r, Ei bathraw eirddwys, a'itbwr urddasol." Llwch y Llawr.—Oychwyna bwn gyda'r bai o actio'r oifoiriad, trwy osod gwrywaidd a benywaidd ynnghyd:— Y cu faen hon," &c. H Y maen hwh sydd iawn. I • Idwalr— Y "inae gwall dyh'ghaneddol yno I gyrau'r aaial -ba'n g.wasgar rbinwedd." Wei dyna, nidges dim lie gan y naill na'r llall o'r deuddeg yna i achwyn eu bod wedi fcolli, am eu bod oil yil wallus.
.DOSBARTH YR AlL. !
DOSBARTH YR AlL. Orlando.—Gwna eiddo hwn y tro i nnrhyw Risiart crefyddol, yn unrhyw fan; ac felly, nid yw yn ddigon cyfeiriol at y gwrthddrych. Wylwr Bli-n.—Y maei'n anhawdd deall betb a feddylia yr awdwr. wrth hyf ledwr yn y linell hon :-— Yn hyf ledwr yr Ysgol gofleidiodd." rA gallwn ychwanegu mai: aneglur y gwelir unrhyw syniad yn. hon — O'i 'fyw ddoniau Trewyddfa a ddenodd." Y mae rhyw aneglurder drwy'r cyfan- soddiad. Awel o'r Ywen.Y mae'n amlwg y medr yr awdwr hwn gyfansoddi yn r llithrig, Ond y mae rhywbeth go chwithig wedi ymlusgo i'r llinellau hyn :■— Yr athraw diwyd mewn gwexyd gorwedd Yn hwyr ei einioes o dan wawr rhinwedd." Y syniadsydd yn cael ei gyfleu yma yw, ei fod yn gorwedd yn y gweryd cyn ter- fynu ei einioes, ac nid ar ol ei gorphen. Dysgybl.—Y mae hwn yn gyfansodd- iad lied dda fel beddargraff i unrhyw John mewn unrhyw ardal, os yn hen wr crefyddol, a llafurus fel athraw. Llais o barch yn Ilys y bedd.—Y mae hwn yn un cynwysfaiwr iawn,' er nad yw yn nodi maes llafur y gwrthddrych. Yr hyn syddyndinystrio nwn yw diwedd yr ail linell: Gollwyd o'i rwysgedd." Nid oes llawer o rwysg yn perthyn fel rheol i hen athraw duwiol. Adgof ddwys, ar bwys y bedd. -Di- wedd llinell ilaenaf hwn a gyflea a syn- iad mai ffoi o'r lie wnaeth John Richards, ac nid cael ei gymeryd ymaith gan angeu:— "John Richards auwyl! ein gwyldad giliodd." Y mae hwn yn Doddaid glew oni bai hynyna. Lief ei Goffa.—Ni chynwysa hwn yr enw, ond cyfeiria ato fel blaenor ac athraw, gan nodi mai Trewyddfa oedd maes ei lafur. Y mae'n dechreu yn dda, ond lied wan y terfyna. Yr un a Tan yr Allt.-Y prif ddiffyg yn hwn yw diffyg bod yn ddigon cyfeinadol at y gwrthddrych. Gwna'r tro arfedd- faen unrhyw Risiart o gymeriad da. Hen Gymydog. Cyfansoddiad lied dda, ond gwna y tro i ryw loan arall yn Hawn cystal ag i John Richards Mynyddgarnlwyd. Hen Ddysgybl Anwyl.—Y mae hwn yn diweddu yn wych iawn, ar ol dechreu dipyn yn eithafol. Y man gwan yn hwn yw diwedd y bedwaredd linell: Yu Nhrewyddfa ni wywa'n ddi- ddi-wo:ld." Y mae'r di-ddiwedd yna yn taro yn chwithig ar y glust. Arwyddfaen ei Orweddfa.—Y mae gan hwn Hir a Thoddaid gwych, yr hwn sy'n terfynu yn rhagorol. Gwna y tro mae'n wir i unrhyw John Richards, os yn grefyddol a llafurus. Modd bynag, nid wyf wedi gallu digymod a'r drydedd linell o gwbl:— Hwn oedd esgob fel Paul yn addysgu." Credwyf fod hynyna yn ormod am John Richards. Photographer.—Cyfansoddiad gwych a choeth eithaf addas i fod yn feddar- graff unrhyw loan o gymeriad crefyddol a llafurus yn yr Ysgol Sul; ond nid yw yn ddigon cyfeiriadol yn yr amgylchiad hwn. (l'w orphen yn ein nesaf.)
HANES CYNFRODORION YNYS PRYDAIN.
HANES CYNFRODORION YNYS PRYDAIN. ALLAN 0 HEN FISOLYN CYMREIG. Yr oedd yn rhaid bod ganddynt wy- bodaeth neillduol am yr amryfal Gelf- yddydau, a geiriau add as i eglurhau eu meddyliau y naill idd y llall ar y cyfayw gyiorein-weithoedd. Rhaid eu bod wedi prwyiaw Ofyddiaeth, Gallofyddiaeth, Trafnidiaeth, Pwyllyddiaeth, Cyfwled- wch, Natunaethau sylweddol gogyrfol a nwyol, Nwyon, Gwyon, Cyfanau, &c,, cyn y gallent ddesebiaethu adioynau, a gwneuthur y nwyddau crybwylledig. Ac nid dyna y cwbl, nid gwybodaethau celfyddydol yn unig oedd ganddynt; ond; gwydderit bethau duioinyddol yn dda hefyd:—Yr oedd ganddynt eu Hoffeir- iadau, sef y Derwyddou a'u dysgawd- wyr, sef y Beirdd a'r Ofyddion y cyf- ryw a ganmolir gymaint gan Diodorus Siculus, Strabo, Pomponius, Mela, Tacitus, Pliny, Plutarch, Diogenes, Marcellinus, &c. Y mae yn wir fod Suetonius, Caesar, a rhai ereill, wedi eyhuddo y Derwyddon, yn enwedig Derwyddon y Gelli (France) o amryw- iol bethau annynol o'r bron, megys offrymu eu cydgreaduriaid, &c.; and Diodorus Siculus a brofodd i'r gwrth- wyneb, ac a ddangosodd mai anaml iawn y cymerai y fath beth Ie, sef ar ryw achos neillduol tu hwnt i gyffredin: ac ar y cyfryw achosion, dryg-weithred- wyr yn fwyaf eyffredin a offrymid ac er hyny, yn ol yr hanes, ni offrymid cy- maint mewn nifer o'r eyfryw yn y dyddiau (tywyll, meddai rhai) hyny ag a wneir yn y dyddiau dedwydd, hedd- ychol, a chydymdeimladol presenol. Dywedir i Augustas a Thiberius ddi- ddymu yr arferiad o offrymu unrhyw ddyn yn y Gelli, a Chlaudiusyn Mhryd- ain. Dywedent fod yr arferiad yn resynus ac ofnadwy, (a dywedenty gwir i raddau); ond ar yr un amser, yn achlysur eu hunain i offrymu canoedd o'u cydgreaduriaid yn flynyddol. (Ni welent y gresynusrwydd yn hyny). Ond am y Derwyddon, hwy yn fynych a ruthrent rhwng y byddinoedd ymos- 'odol, a thrwy eu hymbiliau, a fyddent offerynol i heddychu a chymodi y pleid- iau; i roddi y picellau yn y wain, i atal tywallt gwaed, ac achub bywydau can- oedd. Dywedir gan yr haneswyr crybwyll- edig eu bod yn eu hysgolion yn dysgu yr holl Gelfyddydau eu bod yn myfyrio ar ac yn dysgu pethau o berthynas i'r greadigaeth, yn enwedig y ddaear a'u bod yn myfyrio llawer ar ryfeddodau dirgeledigaethol natur ar seryddiaeth, rhifyddiaeth, daearyddiaeth. Dywed- wyd gan Diodorus Siculus, y gallent, yn yr Ynys Hyperborean (yr hon a fedd- ylir gan y dysgedigion oedd Prydain), weled y lloer megys pe buasent agos ati, a bod mynyddoedd, a bryniau, &c., megys y ddaear, ar ei gwyneb. Yr oedd yn rhaid bod y Derwyddon yn ddynion dysgedig neillduol, (dywedir a fynir yn wrthwynebol), canys danfonid ieuenctyd oddiar y Cyfandir i gael eu dysgeidiaeth yn yr Ynys hon, ac nid oedd Derwyddon y Gelli yn cael eu cyf- rif yn berffaith nes y deuent i orphen eu dysgeidiaeth i Ysgolion Pryd- ain. Rhoddai rhai ugain mlynedd o'u hamser yn yr ysgolion hyn gan hyny, nid oedd modd eu bod yn annysgedig neillduol, nac yn drwsgl ac afreolaidd iawn yn eu hiaith. Na, y mae hyd y nod y rhai a ysgrifenasant yn eu her- byn, sef Cicero, Caesar, &d., yn rhoddi iddynt y parch o fod yn feddianol ar ddysgeidiaeth ddofn, gwerthfawr, &c. Hefyd, heblaw dysgeidiaeth, yr hyn sydd werthfawr bob amser, yn mhob rhyw le a sefyllfa, yr oedd ein henafiaid yn feddianol ar gyfoeth gweledig, sef aur. ac arian. Dywed rhai nad oedd ganddynt ond rhyw glytiau o ledr, &c.; I ond pe buasent felly, ofer a fuasai i'r Rhufeiniaid osod treth neu dascio v Cymry, yr hon oedd i gael ei t: alu yu flynyddol ag aur a'r hon a dalwyd felly yn rheolaidd dros hir amser gan y brenin Cynfelin, (yn nheyrnasiad pa un y ganed ein Hiachawdwr). Y mae am- rywiol ddarnau o arian yr Hen Frython wedi eu cael o amser i amser mewn am- ryfalfanau yn profi fod ganddynt ddarn- au cyfnewidiol o aur, arian, a phres, cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i'r Ynys. Hwy a ddefnyddient aur i ardderch- ogi eu gwisgoedd, ac amry wiol bethau ereill, yr hyn a brawf nad oedd prinder o hono, canys gwisgent dorchau pwysig o hono yn gyffredin, megys y dywedodd Aneurin yn y Gododin ar frwydr an- ffodus Cattraeth Gwyt aeth Gattraeth buont crefawd, Gwin a meddaur fu eu gwirawd, Biwyddyn yn erbyn wrdyn ddynawd, Try wyr a thriugaint a tlirichant cur- dorchawd. Dywedodd Llywarch Hen hefyd, yn ei alarnad ar ol ei feibion, yr hon a ysgrifenodd tua'r flwyddyn 560, fod gan- ddo ef unwaith bedicar ar ujcaint o feibion yn gwisgo torchau aur meddai efe :— Pedwar mab a'r ugaint a'm bu, Eurdorchawg tywysog llu, Oecld G lten goraud naddu. Gwelwn, oddiwrth y tystiolaetliclu hyn, ac amryw ereill a ellid enwi, fod ein henafiaid yn feddianol ar aur a gemau 0 gwerthfawr. Pa le yr ydoedd eu clodd- fcydu, lie y cloddient y cyfryw o'r ddaear, nid yw hysbys i ni y dyddiau presenol; ond dilys fod y fath yn rhyw ranau o'r Ynys y pryd hyny; a'r tarn fwyaf gyff- redin ydyw, iddynt eu cau, neu eu llenwi i fyny, ar ddyfoliad y Rhufeiniad yma, fel na byddai iddynt hwy, eu gelynion, gael y fael oddiwrthynt. Gan hyny, nid rhyw grwydriaid anweithgar, heb fedru cymaint a gwneuthur gwisgoedd i orwycliu eu cyrff, ac heb foddion i'w prynu, yn gorfod lliwio eu crwyn, a myned oddiamgylch yn finteioedd noeth- ion, gan ysbeilio y ffordd y cerddent, &c., fel yr haera rhai, oedd Cynfrodor- ion yr Ynys hon. Yr oedd ganddynt gyfreithian godidog hefyd i fyw wrthynt. Mae yn ddiau na ad^wodd Hu Gadarn ycyntefigiön heb rffil reolau a gosodedigaethau neill- duol ond fel yr dynolryw yn lluosc^i, ac yn amlhau, yr oedd eisiau ychw^negiadau at y cyfreithiau a'r gosodMigaethau cyntefig; efelly, wele Prydain ab Aedd Mawr (fel y crybwyll- wyd) yn cyweirioy cyfryw, ac ereill yn eu meithrin hyd ddyddiau y brenin clodwiw hwnw, Dyfnwal Moelmud, ab Clydno, Iarll Cerniw, yr hwn a gyfododd 441 o flynyddoedd cyn Cred, ac a fu frenin da, cyflawn, cadarn, ac amgeledd- gar am 40 mlynedd. Efe a sefydlodd 0 gyfraith o wneuthuriad ei hun, yn unol a dulliau pethau y dyddiau hyny efe a fesurckid hyd a lied yr Ynys, ei mynydd- oedd, ei phorthladdoedd, a'i haberoedd; ac a ranodd y wlad yn gymydau a chan- trefydd, gan wneuthur prif ffyrdd ar draws yr Ynys, ac adeiladu dinasodd,. a chaerydd, sefydlu pwysau, a mesurau, &c. Efe a wnaeth, ac a wisgoedd Goron Aur, a'r hon y coronwyd ef mewn rhwysg ac anrhydedd mawr. Efe yd- oedd yr 21 o freninoedd Ynys Prydain, (yn ol yr hanes cyffredin, ond y 44 yn ol tystiolaethau Samme, y rhai, yn ol fy nhyb i, sydd hynod gywir); ac efe a wnaeth fwy o anigeledd i'w genedl na neb arall. Hefyd, yn nghylch nawdeg mlynedd ar ei ol ef, y frenhines Mariar, n I gweddw y brenin Cyhylin, a chwaneg- odd at gyfreithiau Dyfnwal, (gwel Ralph Higden); pa rai yn nghyd a. ffurfiodd Gyfreithiau Lloegr; canys cyfieithwyd hwynt i'r- Saesonaeg gan Geraint Fardd Glas, trwy orchymyn y brenin Saeson- aidd Alfred. Gresynus fod y Cyfreith- iau cyntefig hyn wedi myned ar goll; yr I oeddynt ar gael yn amser Gildas, canys efe a'u cyfieithodd i'r Lladin, y cyfryw gyfieithad a ddygodd Geraint, nen Asser- D ius, i Alfred Fawr. Hefyd, yr oeddent ar gael yn liyfrgell yr Hengwrt yn y flwyddyn 1658 ond y mae ya debygol eu bod wedi eu llwyr golli yn bresenol. Rhoddwyd saith o benau, neu gynwys- iad saith dosbarth o'r Cyfreithiau hyn, yn ngwaith Count Parlatine, a sylwyd arnynt gan Mr Sheringham a Mr Selden. Y ma-ent yn profi fod doethineb a deall- dwriaeth neillduol yn eu cyfansoddydd, ac yn dangos dulliau pethau y dyddiau eu cyfansoddwyd, sef cyn i un gelyn droedio yr Ynys hon erioed. (Ond byddai yn rhy faith i mi sylwi arnynt yma). Hywel Dda hefyd a ddiwylliodd Gyf- reithiau y Cymry tua'r flwyddyn 940, ond y mae pawb yn adnabyddus o hanes ei gyfreithiau ef, fel mai afreidiol fyddai sylwi arnynt. Ond gwelwn, wrth yr hanesion blaenorol, fod ein henafiaid yn gelfyddgar, yn gyfoethog, ac yn rheol- aidd yn byw dan Gyfreithiau, pa rai a ufyddhaent; ac yn arddel crefydd, yr hon a garent, ac a barchent. Dywed rhai nad oeddent ond barbariaid hollol cyn dyfodiad y Rhufeiniaid yma, ond anwiredd ydyw hyny; y mae digonedd o awdwyr parchus a geirwir yn tystiol- aethu pethau gwell am danynt, ac yn dangos iddynt golli mwy nag a enillas- ant trwy ymweliad y Rhufeiniaid a hwynt; Feallai i rai. pethau gyfnewid er gwell trwy yr amgylchiad anffodus hwnw, ond bu ereill er- gwaeth lleiha- wyd a thywyllwyd eu nodweddiad cen- edlaethol-difawyd rhyddid ac anni- byniaeth y wlad—ysbeiliwyd hi o'i holl ieuenctyd a'i hoedogion, pa rai a alltud- iwyd i wasanaeth milwraidd gwledydd trainor; tra yr ydoedd yr hen a'r meth- edig yn gorfod gweithio megys caethion, yn y modd caletaf, ar y gweithoedd cyffredin, er budd eu gelynion! Gwan- ychwyd eu Cariad Gwladol, cyfnewid- iwyd eu harferion cyffredinol, a diddym- wyd pob teimlad cynhenid o'r eiddynt; fel, os enillwyd rhyw ychydig o ddulliau tramorol, &c., ycollwyd mwy o gyfoeth, a galluoedd mihvriaethol, &c. Gan hyny, gallaf fi ddywedyd o'm calon, gydag aw-lwr clodwiw y Cambrian Register, ar ol chwilio yn ofalus bob tu i'r pwnc, ei bod yn ymddangos yn ddilys ac eglur i'r Brython. golli m.wy nag a enill- asant trwy eu hymyraeth a'r Rhufein- iaid, ac i'r olaf adael yr Ynys hon mewn dull mwy annedwydd ac anmharchus nag y cawsant hi ar eu dyfodiad cyntaf Dywed rhai na fedrai y Brython ys- grifenu cyn dyfodiad y Rhufeiniaid; ond meddyliwyf fod amryw awduron di- weddar wedi gwrthddywedyd hyny i foddlonrwydd, a bod hyd yn nod Goel- bren y Beirdd yn ddigonol dystiolaeth o'u tu. Bellach, foneddigion, gan fod genym brawfiadau hanesyddol ein bod wedi hanu olwynau Gomer, ab Japheth, ab Noe, y mae yn ddilys fod ein Patri- eirch wedi cael addysgiadau da yn moreuddydd amser gan iddynt ddisgyn o'r mab hynaf, diau fod ye hon Noe wedi ei addysgu ef yn mhob peth arigenrheid- iol y dyddiau hyny; a chan eu bod wedi cael eu harwain i'r Ynys hon gan un mor wybodus ag y profir fod Hu Gadarn (pa un bynag ai Noe, ai arall, ydoedd efe), mae yn ddiddadl iddynt ddwyn amrywiol draddodiadau, arferion, a dullion gyda hwynt. Gan eu bod wedi lluosogi, a dyfod yn genedl gref, gystlyn- ol, ddysgedig, weithgar, waraidd, ac an- rhydeddus, pa fodd y gallwn, gyda chyf- iawnder, eu nodi megys barbariaid tywyll, anwybodus, ac anneallol ? Dy- ledswydd pob Cymro yn enwedig ydyw dywedyd y gwir, yn ol ei wybodaeth, am Gynfrodorion yr Ynys hon. Os na wyddom ddim o'u hanes, gwell i ni beidio dywedyd dim am danynt; ond cofiwn fod yn ddyledswydd arbenigol ar bob dyn i geisio cyrhaedd gwybodaeth yn hanesyddiaeth ei genedl ei hun. Nym a welwn, am genedl y Cymry mewn hanesion cenedlaethau ereill, yn eu cyfreithiau, eu harferion, ac hyd y nodeu campau chwareuyddol eu hunain, eu bod tu hwnt i'r cenedlaethau cyf- oesol trwy bob oes o'r byd mewn dysg- eidiaeth, cywreinrwydd, a chystlynedd. Gweler ein Diarebion, ein Trioedd, a'n Doetheiriau argraffedig onid ydynt yn llawn offraetbinebdoethgall, digymarol? Mae yn wir nad oes ond rhan o hanes- ion gweithredoedd grymus ein cyndadau wedi eu gadael gan amser a gelynion heb eu difa; ond meddyliwyf y dylem gredu hyny sydd yn hytrach na'u gwrthwynebu, a rhyfeddu fod cymaint, pan y meddyliom am ruthriadau gwaed- lyd ac ofnadwy y Rhufeiniaid, y caeth- iwed haiarnaidd am o gylch pum' can* mlynedd daneuhiau orthrymus hwy j bradwriaethau twyllodrus ac uffernol y Saesoniaid ac ereill, y modd y llabydd- iwyd ein pendefigion, ac y trywanwyd y cyffredinolion, y llosgwyd ein llyfrau, y chwalwyd ein carneddau, ac y difa- wyd moddion coffadwriaethol, &c. Y mae yn beth rhyfedd ein bod yn genedl hyd yn nod mewn enw hyd yr amser presenol; rhyfedd na buasai ein hiaith a n henw wedi eu difa er ys talm oddiar y ddaear ond nid allwyd hyny trwy yr holl fradwriaethau, canys wele ddisgynyddion Gomer eto yn cadw ei enw a'i iaith ef, gydag amrywiol ar- ferion ereill, yn Ynys Prydain, lie yr ar- weiniwyd hwynt gan Hu Gadarn er ys dros dair mil o flynyddoedd yn ol I I I Gan hyny, frodyr, gan i ni gadw ein hiaith a'n henw cyhyd, boed i ni yn wastadol barchu coffadwriaeth y cyfryw a ymegniasant yn eu cadwraeth trwy bob oes o'r byd hyd yn bresenol; boed i ni ddywedyd y gwir yn barchus am Gynfrodorion Ynys Prydain, ac ym- ffrostioyn yr anrhydedd o fod yn Gymry, ac o berthyn i genedl nad yw ei henw a'i nodweddiad yn anfri i neb a boed i ni oil ymdrechu peidio bod byth yn warth nac yn anfri i'r genedl. O: NEWYDDIADURON CYMREIG 7 AMERICANAIDD. MARWOLAETHAU. Mawrth 13, yn Beacon, Indiana, merch fach William a Mary Anne Roberts di. weddar o Dredegar, Deheudir Cymru. Yr oedd yr anwyl hon yn 2 flwydd oed. Cy. merwyd hi yn dost ar fwrdd y llong wrth ddyfod i'r America, a bu farw yr ail ddiwrnod ar ol cyrhaedd Beacon. Yn Columbus, Ohio, Chwefror 27, John Morris, yn 61 oed. Bu yn wael am chwech wythnos. Anhwyldeb yr arenau oedd ei afiechyd. Ganwyd ef mewn Ile o'r enw Casllwchwr, sir Forganwg. Priododd yn 1842, ac yn y flwyddyn 1851, ymfudodd ef a'i deuln i'r wlad hon. Bu yn byw am rai blynyddoedd yn Cincinnati, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn America yn ninas Columbus. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru eu called ar ei ol. Yr Arglwydd a baro i'r golled hon fod mewn ystyriaethau eraiil yn euill iddynt. Mawrth 13, yn Olyphant, Pennsylvania, ar ei gwelyfod, yn 28" mlwydd oed, Margaret, anwyl briod Mr. Edward Morris, gan adael ar ei hoi briod a thri o blant, yr un fechan yn bum diwrnod oed. Yr oedd yr ymad. awedig yn wraig hynod o ofalus am ei theulu, hyd yn nod yn ei horiau olaf. 'Ei dymuniad i'w pherthynasau oedd iddynt beidio wylo ar ei hoi. Yr oedd yn ferch i Evan a Jennet Miles, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon er's ugain mlynedd yn ol o Aberdar, lie mae amryw o berthynasau iddynt yn bresenol. Claddwyd yr ymad- awedig ar y 15fed, yn Prospect Hill Cem- etery, Peekville, pryd y gweinyddwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. Fitz Williams. Chwefror 28, yn Moosic, Pennsylvania, Willie D. Jones, anwyl fachgen John D. a Margaret Jones. Buasai. yn 17 oed yn mis Awst nesaf. Ganwyd ef yn Brynaman, sir Gaerfyrddin, yn mis Awst 1865; symudodd y teulu oddiyno i Gastellnedd, a daethant i'r wlad hon yn 1880. Ymsefydlasant yn Hyde Park, Pennsylvania, a daethant oddi- yno i Moosic yn Awst 1881. Daeth Willie i'w'ddiwedd mewn modd disymwth iawn. Yr oedd yn gweithio y nos fel gyrwr a thra yn aros i'r mwnwr lanw y car glo aeth yntau i'w gynorthwyo i gael glo, a thra yn gwneud hyny, syrthiodd tua haner tynell o lo a chareg ar ei ben, gan agos ei ladd yn y fan. Bu byw hyd brydnawn tranoeth, pan y rhoddodd angeu derfyn ar ei boenau. Chwefror 3, yn Coal Creek, Colorado, o'r asthma, David A. John, diweddar o New Cambria, Mahoni, yn 67 mlwydd oed. Ganwyd yr yrria.dawedig ger Maenclochog, a sir Benfro, ac yn y parthau hyny y treu- liodd o'r bron y 40ain mlynedd cyntaf o'i fywyd. Unwyd ef mewn priodas a Miss Amy John, o Lansilio, yn yr un sir, yn 1841. Ganwyd iddynt chwech o blant, o'r rhai y mae pump yn aros-dau yn Awstralia, un yn Idaho, un yn Colorado, a'r ferch ieuengaf. yn y pentref hwn. Taa dehddeg mlynedd yn ol, daeth Mr John drosodd i America, a'i deulu ryw amser ar ei ol, o Massteg, Deheu- dir Cymru, a sefydl isant yn NeWjGambria. Dylynai ef ei aiwedigaeth fel crydd, a chychwynodd fu«nes yma. Bliawyaef fwy neu lai gan yr asthma am 30 o flynyddoedd ond yr oedd yn gwaethygu yn barhaus. -1 Clywsai am ereill a d.lerbyniasant lawer o les trwy symud i awyr deneu lemmynydd- diroedd Colorado, a gobsithiai y profai hyny yn help iddo yntau, felly efe a symud- odd yno yn Medi diwoddaf, gan adael ei deulu ar ol gyda ni; ond ni wna.eth y cyf- newidiad y lleshad lleiaf iddo. Tebyg ei fod wedi aros yn rhy ddiweddar cyn gwneud y prawf.
DAMWAIN ANGEUOL YN IOWA.
DAMWAIN ANGEUOL YN IOWA. Cleveland, Iowa -Ar y 18fed o Fawrth, drwy ddamwain yn un o byllau glo Cleve- land, Iowa, bu farw Thomas Vaughan, yn mhen ychydig oriau wedi ei niweidio Mab ydoedd efe i Dafydd a Maria Vaughan, Cwmaman, ger Aberdar, Deheudir Cymru,