Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

"1',,,;. ,-YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

"1' YR WYTHNOS. BOREU dydd Sadwrn diweddaf, yn Stockport, torodd tfin allan mewn ty bychan lie y preswyliai amryw bersonau. Yr oedd y tan wedi cydio yn yr adeilad fel nad allai y rhai oeddynt yn y gwely- • au ddyfod i lawr y steiriau. Tafloddun wraig ieuanc ei maban pedwar mis oed tlrwy y ffenestr, yr hwn a dderbymwyd can bersonau oddiallan. Neidioddhithau wedi hyny, a thorodd ei choes wrth ddisgyn. Achubwyd y lleill trwy y ffenastri. Yr oedd yr olygfa yn un ddy- chrynllyd. Y MAB Madame Patti a'i chwmni wedi dychwelyd adref i Graig y Nos wedi ei thaith hirfaith yn America. MAE bachgen 15 oed, o'r enw John Prircher, wedi ei drosglwyddo i sefyll ei brawf gan ynadon Sedgeley, am don ffenestr swyddfa glo-berchenog, ac ysbeilio 20p. mewn arian. Y DYDD o'r blaen cyhuddwyd merch ieuanc o'r enw Alice Mill, 26 oed, yr hon a ddywedai nad oedd ganddi gartref, gan ynadon Clerkenwell o ladrata bach- genyn pedair oed, o'r enw Thomas Bates. Cymerwyd y ferch 1 fyny gan heddgeidwad, o herwydd iddo ei gweled yn cadw y plentyn allan yn hwyr iawn, a daeth y tad ac a'i perchenogodd. Mewn atebiad, dywedodd y garcharores y gallent roddi iddi ugain mlynedd os carent, gan nad oedd yn waeth ganddi pa hyd. DEALLWN fod eiddo gan reil- ffordd y Great Western wedi ei hagor yn Nghwmaman, Aberdar, yr hyn fydd yn gaffaeliad mawr i faanachwyr, ac o ganlyniad, i bawb yn gyffredinol. YR ydym yn cael mewn bryshysbys- iad o Now York;. fod y Hong Novara, o Lundain a Newcastle am San Francisco, wedi ei llwyr ddinystrio gan dan ar y 15fed cynfiaol. Y mae y oadben, a dau swyddog arall, a 17 o ddwylaw, ar goll. Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Caerdydd dydd Sadwrn diweddaf, buont yn ym- gynghori yn ddirgel yn nghylch hysbys- lad a wnawd gan ferch ieuanc o barth tad ei phlentyn, yr hon sydd yn aw* yn nhlotdy Caerdydd. Dywed^ hi mw gweinidog anghydffurfiol yn Caerdydd yw y tad. Penderfynodd y gwarcheid- waid roddi y mater i gyfreithiwr. Y MAE yn dda. genym gael ar ddeall, ar dystiolaeth safadwy, fod pob lie i gredu fod gweithiau haiarn Cyfarthfa yn debyg o gael eu hail gychwyn yn fuan nifer o ddynion eisioes wedi eu cy- meryd i mewn. DYDD Mawrth yr wythnos ddiweddaf ail-agorwyd hen Eglwys St. Idloes, yr hon a adeiladwyd yn gynar yn y 6ed ganrif. Y mae yn awr wedi ei hail-ad- eiladu, ac, o gwrs, wedi colli ei dyddor- deb hynanaethol. CAFODD dyn ieuanc o'r enw Watkin Rogers ei ladd yn nglofa y Cymer dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, tra wrth ei waith trwy i gwymp trwm syrthio arno.

LLOFRUDDIAETH A CHYFADDEFIAD…

AT LOWYR UNDEBOL CYMDEITHAS…

Advertising

- Y WLADYCHFA BATAGONAIDD.

CYFLOGAU SBGUBWYB.

MASNACH LO Y DEHEUDIR A CHYFLENWAD…

CODIAD CYFLOGAU GLOWYR YR…

CYNLLWYN AT FRADLOFRUDDIO…

AT LOWYB MYNWY A DEHEUDIR…

AT LOWYR Y GLO CAREG.

EISTEDDFOD DDIWEDDAF MERTHYR.

TREDEGAR.

PELmfI I'B PRUDDGLWYFUS.

GWEITHRED GWERTH EI CHOF.…

ABERDAR-FESTRI.

--EISTEDDFOD UNDEEOL MOUNTAIN…

MOUNTAIN ASH.

90PALED PAWB AM HYN, *

Advertising

BU QWHrTHRBDIAD.