Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

HEREW ARD

News
Cite
Share

HEREW ARD YR OLAF O'R SAESON; PENOD VI. "Eiddoch chwi, eich arglwyddiaeth, yw y llong," ebai Hereward. "Dylech 0 adeiladu ugain ereill o'r un fath, a rhoddi arnynt nifer o'r bechgyn hyn, ac oy yna myned i lawr i Ysbaen gyfoethog, fel y darfu i'ch ewythr o'ch blaen." Chwi allwch chwi, wyr y mor, farch- Ogaeth cystal a morio." "Gallwn, a buan y dysgem ehedeg hefyd, pe byddai yn y cymylau uwch ein penau ryw ysbail i'w gael." Dystawodd Hereward wedi hyn, wrth weled y tir oedd o'i amgylch mor debyg i'w gart-ef ei hun. Daeth drosto liir- aeth am gartref, a meddyliai y buasai byw yn heddychol yn y fath Ie, priodi, a magu i fyuy fechgyn nerthol i am- aethu y tiroedd wedi iddo ef fethu yn lawer gwell na bod fel yr oedd, yn af- lonydd, yn ddigartref, a diamcan. Ond yn awr wedi meddwl myned tuag adref, i weled hen le ei enedigaeth, hen wyn- ebau, ac efallai wneud i fyny a'i fam a'i frenin, aeth y tonau yn ei erbyn, gan ei daflu o ilaen y gwynt i ddechreu byd o newydd, a hyny i ymladd na waeth ganddo gyda phwy. "Paham." ebai y bachgen wrth yr Abad, y mae yn ymddangos yn ddyn call, gadewch iddo ateb drosto ei hun." "Lencvn ieuanc," ebe Here ward, fel pe yn dadebvu 0 gwsg. "Os ydych yn -etifedil gwlad mor ragorol a hon, diolch- weh i Dduw am hyny, teyrnaswch mewn lieddwch a doethineb, fel y mae -eich tad a'ch taid wedi gwneud, gan adael ymladd i'w wneud i'r rhai hyny nad oes ganddynt na thad na mam, gwraig na thir, gan fyw fel creadur y goedwig o'r naill ymborthiad i'r llall." Yna marchogodd yn mlaen yn ddys- taw, nes ei fod wedi croesi y bont oedd yn arwain i St. Bertin, gan fyned i'r hen gadarnfa enwog, y lie oedd mor g&darn fel yr oedd yn ddyogelfa holl dr. -,orau y wlad ar adeg o ryfeloedd, ac mor ddirgelaidd fel nad oedd un fenyw -byw na marw-yn cael ei halogi a'i phresenoldeb, canys pan y dymunodd gwraig Baldwin yr Hyf, un o hynafiaid Arnulf, gael gorwedd wrth ochr ei gwr marw, gorfuwyd symud ei gorff o St. Bertin i Abatdy Blandigni. Aeth y morladron i mewn yn hane" ofnus, tra yr oedd y mynachod yno hefyd yn teimlo braidd yn wylaidd, rhag y buasant yn dyfod i ddeall gor- mod, a'u bod mor ddiamddiffyn. Llaw- enychwyd calonau y mynachod, modd by nag, pan y deallasant fod yr ymwel- wyr yn Gristionogion, a bod y rhan fwyaf o honynt wedi eu bedyddio. Cy- merodd y prif Abad galon, gan ganiatau rhyddid iddynt fyned oddiamgylch, ond gwasgodd yn ddwys ar eu meddyliau y trueni a allent ddysgwyl os buasent yn Cymeryd hyd yn nod hoelen o feddianau y seintiau. Adroddodd wrthynt hefyd hanes pedwar o filwyr oeddynt wedi eu taro yn ddall o herwydd iddynt ysbeilio yr allor, wedi derbyn y rhybuddion arferol. Nododd hefyd restr f awr o weithredoedd gwrhydrol a gwyrthiol ag oeddynt wedi eu cyflawni o fewn ac o gwmpas y muriau. Mewn canlyniad i'r bregeth a dder- byniasant, nid oedd gan y Norsemen ond gwneud llygaid chwenychgar ar yr -aur a'r trysorau ereill wrth fyned i'r gwasanaeth. Wedi i'r Abad ddyfod ato' ei hun yn mhellach, sicrhaodd Hereward a'i wyr eu bod wedi eu hachub o ddyfrllyd fedd trwy gymwynasgarwch St. Bertin. Ni Cheisiodd Hereward na"i wyr i wadu nad oeddynt wedi eu hachub yn wyrth- 101 trwy offerynolioeth St. Bertin, canys yn ddiau efe oedd arglwydd y fro hono, a,c ychydig o gwmpas. Dywedodd Hereward nad oedd efe yn ineddwl bwyta bara St. Bertin, nac yohwaith dderbyn un ffafr oddiwrtho heb dalu yn onest am y cyfryw; ac wedi y gwasanaeth, efe a gymerodd oddiar ei ysgwyddau fantell sidan hardd, yr unig un oedd ganddo, yr hon oedd yn cael ei byclu a bwel aur gwerthfawr, ac a ddymunodd ar y swyddogion i'w rhoddi dros gerflun St. Bertin oedd yn Vr eglwys. Cafodd y sant marw ei foddloni gymaint yn yr anrheg, fel y noson hono yr ymddangosodd i un o'r mynachod, ac a ddywedodd wrtho, os byddai i Hereward a'i wyr barhau i'w barchu ef a'i fynachod, y byddai iddo yntau ei ad-dalu trwy ei lwyddo yn mhob brwydr ar dir a mor. Arosodd Hereward am rai dyddiau yn dawel, a mynai Arnulf ieuanc, er gwaethaf ymdrech yr Abad i'w atal, yr holl hanes oedd gan Hereward a'i wyr i'w roddi iddo.

PENOD VII.

HANES CYNFRODORION YNYS PBYDAIN.

EISTEDDFOD CASTELLNEDD Y NADOLIG.

0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD.