Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

TAITH O ABERDAB I SU-VifiK…

News
Cite
Share

TAITH O ABERDAB I SU-VifiK ULiiU AC ODDIYNO I ST. ELMO, COLORADO. Mai laf.—Sabboth rhyfedd yw hwn i m; ar y bwrdd cyn chwech o'r gloch. Y mae y gwynt o'r Goglodd orllewin, a thrwy hyny codwyd dwy o'r hwyliau i fyny, ao felly yn cadw y llong yn fwy sefydlog na ddoe. (Cofier foi cyfeiriad y llong erbyn heddyw yn fwy i'r De orilewin nag arfer). Cadwyd gwasanaeth Seisnig ar yr ail fwrd«, ond dewisais i ymneillduo er dar- llen rhanau o'r Salmau. Mor lluosog yw dy weithredoedd, 0 1 Arglwydd; gwnaeth- ost hwynt oil mewn doethineb; llawn yw y ddaear o'th gyfoeth. Felly y mae y m6r mawr llydan; yno y mae ymlus^iaid heb rifedi, bwystfiloa bychain a mawnon yno yr & y llongan." Gallesid meddwl wrth ddarllen y geiriau hyn a'u tebyg yn y fan yma fod y Sabnydd yn sefyll ar le o'r fath nan yn oyfansoddi rhanan o'r gwirionedd Dwyfol. Nis gwn pa fodd y medr yr nn anffyddivrr groesi y Werydd heb gydnabod bodolaeth yr un maw* sydd wedi gosod yr un rhyfedd hwn i orweda yn ei wely; ie, y Bod Hollalluog sydd yn dal eiddyfroedd 69 yn ei ddwrn," yr hwn a ddywedodd wrth ei donau cynhyrras u Hyd yma yr & ac nid yn mhellach, ac yma yr atelir ymchwydd ay donau." Yn y prydnawn, darllenwyd genyf hanes mordaith Paul i Rufain. Yn yr hwyr,' cafwyd pregeth Seisnig gan bre- gethwr yn pertnyn i'r Presbyteriaid, ar y geiriau 11 Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell ni." Yr oedd y sylwadau yn gyff- redin iawn ar deetyn mor rhagorol. Wadi myned i lawr o'r oyfarfod hwn yr oedd y Swediaid yn cadw gwasanaeth drwy ddar. llen a gweddio. Nid oeddwn yn medru deall p un gait o honynt, ond yt oedd yma wers I ni fel Cymry i'w dysga yn eu hadd- oliad, sef difrifoldeb a gwedaeiad-dra. Yr 2il.-Ar y bwrdd am chwech o'r gloch. Nid ydyw Dafydd Jones yn edryob eystal heddyw; y mae felipe wedi ei gynhyrfu yn fwy nag arfer. Y gwynt yn ein herbyn, gan fygwth mordaith arw i ni. Ar ol haner dydd, methodd y gwas mawr a bod yn llonydd, ys y dywed yr hen batriarch 9 Ffynonhenry, It Yn dechreu gwaeddi arno i ddyhuno, gan ei gymenu a'i chwipio, a chwythu yn ei lygaid nes oedd yn gyn. ddeiriog." Y Mae Dafydd Jones, fel am. bell i ddyn, yn hir cyn ei gynhyrfn, ond wedi y oynhyrfir ef, nid yn rhwydd y daw o'i dymerau drwg. Ond, ohwarenteg iddo, ymddygodd yn 11awer gwell ua'i fygythiad we(u,x C,Yfan. Y 3ydd.—Yn codi am haner awr wedi chwech. Nid oes awydd ar neb i fyned i'r bwrdd heddyw, o herwydd y mae ambell i don yn oael ei lluchio ar hyd ddo o'r pen blaen i'r pen ol, ;aa wrth aroa i fyny yr ydym- yn agored i gael traed gwlybion. Bum i'r'lan amryw weithiau. Yr oedd Sefyll ar y pen ol i edrych ar y llong yn taro ei phen blaen e dan ambell i don yn ddyddorol iawn, fel pe buasai yn dweyd yn ei hiaith fod yn well myned odditano nag arno. Pan yn oeisio cerdded, yr ydym fel pe bnasem wedi cymeryd gormodedd o'r pethau meddwol, ac wrth eistedd i lawr yr ydym ar rai adegan mewn perygl i golli ein sedd drwy gael ein taflu oddiar* nynt. Y gwely jW y He goreu heno eto, ond anhawdd yw oysgn gyda'r fath drwst ag y mae olwynion y -poirianau yn wneud pan yn colli eu gafael ar y dyfroedd; y maent yn troi gyda'r fath gyflymdra nes peri i ni gredu ar brydiau eu bod yn myned yn ddamao. Y4ydd.-Ar ddihnn heddyw yn mhell cyn, bod y wawr wedi tori. Wedi iddi ddyfod yn ddigon goleu aethum i fyny i'r bwrdd. Y Mae Dafydd Jonès ynedrych yn gilwgns ofnadwy, y mae fel pe wedi gwallgofi. Yn canfod Hong hwyliau yn mhell oddiwrthym mown helbul anghyff redin, ac yn rhwyfo yn erbyn y gwynt. Ar ol canol dydd daeth ychydig yn well. Yr oedd y gwas mawr wedi arafu path ar ei natur ddrwg. Awd i orphwys yn weddol gynar heno. Y 5ed.—Tua dan o'r gloch y boreu yr oedd y llong yn cael ei thaflu fel plnen ar frig y tonan. Methwyd a chysgu yr un mymryn gan drwst y gwahanol bethau oedd yn cael eu taflu ar draws en gilydd,- a bunks rhai yn rhoddi ffordd. Yr oeddem wedi credu mai ystorm oedd i fod mewn gwirionedd. Yr oeddem yn dweyd weith- iau wrth rai o'r dwylaw,—" Y mae yn arw iawn,heddyw, onid yw?" U Y mae yn -rholio ychydig" oedd yr ateb. Y mae yr hin yn QÐJr, ac y mae yn bwrw ychydig eira, yr hyn sydd yn rheswm ,cryf dros ein bod yn neshan at y Banks. Tua'r hwyr yr oedd yr hyn a fygythiwyd yn y boreu wedi ei symud, drwy fod arwyddion tawel- wch yn teyrnasn o'n cwmpas. Yr oedd y gwas mawr erbyn hyn wedi dyfod i'w iawn bwvl Y 6ed.—Ar y bwrdd am haner awr wedi pump o'r gloch. Y mae Dafydd Jones heddyw wedi dyfod o'i bangfeydd, a'r olwg arno fel pe na fuasai wedi bod erioed a gwg ar ei wyneb-yn edrych mor siriol ag un bachgen ienanc ugain oed yn myw llygaid ei gariad. Y boreu hwn yr oedd i& ar y bwrdd yn wythfed o fodfedd o drwch. Yr awel yn oer iawn, ac yn siarad yn nohel ei bod yn dyfod dros leoedd oer anghyff redin. Felly yr oedd. Yn y pryd- nawn yr ceddem yn canfod eira ar y myn- yddoedd. Yr oedd gweled tir heddyw yn creu llawenydd yn nghalonau y rhan fwyaf e honom, o herwydd yr oeddem wedi bod am yn agos i wythnos heb weled tir ac er mai daear Ag eira arno ydoedd, y mae yn llawer mwy dymunol na chefnfor o ddyfroedd, heb yr un lan i'w weled, yn enwedig felly i Gymro heb fod arno o'r blaen o olwg mwg y simnai. Y peth oedd yn rhyfedd i ni heddyw ydoedd gweled pysg yn ehedeg. Yr ydym yn gorfod morio yr ochr ddeheuol i'r Banks of New- foundland yn herwydd ein bod yn ofni myned yr ochr ogledaol rhag dygwydd fod yr i& wedi toddi, so ymollwng oddiwrth y tir a dyfod allan i'w m6r, canys y Mae llongau wedi on dal yno am wythnosau lawer rhWllg talpiau o iA, y rhai sydd, meddent, fel mynyddau yn nofio ar wyneb y »6r, ac wrth hyny yn gorfod myned tua thri ehant o filldiroedd yn mhellaeh. Gwell yw myned o'r ffordd er gochelyd y drwg na myned i'w gyfarfod, 08 gellil bod yn ddyogel wrth hyny. Ynys fawr yw Newfoundland yn Mcr y Werydd, perthynel i Canada. Saif yn ngenan oainaf6r (gulph) St. Lawrance; ei hyd mwyaf o'r Gogledd i'r De yw 350 mill. dir, ei lied ar gyfartaledd 139 milldir, ei harwynebedd 57,600 milldir ysgwar. Y mae yr olwg ami yn fynyddig a ohreigiog iawn. Dywedir, er hyny, nad yw y myn- ydd uwchaf ddim mwy na 1,500 troedfedd o uchder. Prif greigiau yr ynys ydynt wenithfaen a'r llechfaen o wahanol hwiau. Yn mhlith y mwnau ceir glo, copr, plwm a haiarn. Y mae yr hinsawdd, er ei bod yn dra oer, yn iachus. Y mae llawer o rawn Ewropeaidd ac Americanaidd yn cynyrchu yn rhagorol yma, etc. y mae y tir a'r hin. sawdd yn fwy ffafriol i borthiant anifeil- iaid nag i godi yd. Prif alwedigaeth y trigolion yw pysgota. Tybir iddi gael ei darganfod gan y Normaniaid tua'r ddegfed ganrif. Os felly, ail ddarganfyddwyd hi gan John Cabotar, ar y 24ain o Fehefin, 1497, pan y cymerodd feddiant ffurfiol o honi, ac yn yr hon, mewn canlyniad, y ffurfiwyd trefedigaeth Bortuguaidd, yr hon, wedi hyny, a ymlidiwyd ymaith gan Syr Francis Drake yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth. Yn olynol i hyny ffurfiwyd yma luaws o drefedigaethau Seisnig ar hyd y gororau Dwyreiniol, a threfedigae^hau Ffrengig ar hyd y gororau Deheuol; ond drwy gytnndeb Utucht, yn 1713, cyhoedd- wyd Newfoundland, a'i dibyniaethau, yn perthyn yn gyfangwbl i Brydain Fawr, ond fod hawl gan y Ffrancod i bysgota mewn rhanan o honi. Prifddinas yr ynys yw St. John. Dywedir ei bod wedi ei hadeiladu yn lied afreolaidd, ond fod yma amryw o dai a siopiau gwychion, a'i bod yn cael ei chadw yn fudr'dros ben. Y mae ei mas- nach yn gynwysedig, gan mwyaf, mewn cyflenwi y pysgotwyr A bwyd, dillad, ac anhebgorion ereill. (I'w barhau).

A REVIEW OF BOOKS.

[No title]

AT DRETHDALWYR RHAN UCHAF…

PETHAU CHWITHIG.

RHUBAN GLAS YN FERNDALE.

PELENI I'R PRUDDGLWYFUS. -

ADOLYGIAD Y WASG.

LLYTHYR DYDDOROL O'R WLADFA…

•V | ' RYMNI. ''' .,L':-.,"

GAIR AT GERDDORION ABERAMAN^…

DYDDIAU MARI WAEDLYD.