Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU…

News
Cite
Share

BEIRNIADAETH CYFANSODDIAD- AU EISTEDDFOD CARMEL, TREHERHERT. Y Llythyrdy.- Y mae pump o draeth- odwyr wedi ymgeisio ar y testyn hwn. Dysgwyliem well cystadleuaeth, yn enw- edig wedi cael cystal cyfansoddiadau ar Pedr o'r blaen. Adorno.—Y mae traethawd Adorno wedi ei gymeryd i fyny yn hollol gan gyflead hanesyddol o sefydliad a sefydl- wyr, gwelliantau a gwelliantwyr y Llythyrdy o 1710 hyd Syr Rowland Hill. Yr unig allu a ddengys ei draethawd ydyw yn hanesyddol. Byddai yn fudd- iol iddo fyfyrio ystyr geiriau pan yn eu defnyddio, a dwyn amrywiaeth geiriol. Er enghraifft o'i wendid, wele ei frawddeg gyntaf 0 bob sefydliad rhinweddol a sefydlwyd yn ein byd erioed, credwn y gellir rhestru y Llyth- yrdy yn y rheb fiaenaf o honynt, drwy ei fod yn offerynol i ddwyn cysur a ded- wyddwch i'r teulu dynol mewn rhai ystyrion, er y gellir dweyd ei fod yn offerynol ar y llaw arall i hysbysu ad- noddau anghysur ac annedwyddwch, eto i gyd, nis gellir priodoli hyn yn fai ar y Llythyrdy, am fod y newyddion a drosglwyddwyd ganddo yn rhai anny- munol i'r teimlad, er hyny i gyd, y mae yn hawlio ei alw yn sefydliad rhin- weddol a da." Mae yn bryd i ni gael ein hanadlibellach. Dengys y dyfyniad uchod ar unwaith enghraifft o gymeriad clogyrnaidd y cyfansoddiad. Amlwg ydyw nad yw yr awdwr yn arfer cyfan- soddi. Dengys y traethawd duedd a phosibh-wydd y traethodwr. Rowland Hill.-Sylwedd rhagymad- rodd hwn ydyw defnyddioldeb y Llyth- yrdy fel cyfrwng trosglwyddiad gwybod- aeth; ac yn arbenig ei ddefnyddioldeb i'r bachgen estronol oddiwrth ei gariad, er ei alluogi i drosglwyddo i'w feinwen, ganiad yr arwydd hwn o gusan, sef x," meddai ef. Bydded i haneswyr dyfodol gofio hyn. Dosrana ei draeth- awd fel y canlyn 1. Y Llythyrdy yn ei ddyddiau bcreuol cyn ei ymddadblygiad. 2. Y dull o gludo llythyron cyn i reilffyrdd ddyfod mewn gweithrediad. 3. Y dull o gludo llythyron gan y rheil- ffyrdd. 4. Dull newydd posibl o ddyfod mewn gweithrediad i gario llythyron. 5. Y Swyddfa Gyffredinol. 6. Y gwaith a gyflawnir o fewn swyddfeydd y Llythyrdy. j7. Gwasanaeth Syr Rowland Hill i'r Llythyrdy. Ceir ar hyd y traethawd maith hwn lawer o wallau ieithyddol. Ond dengys olion llafur helaeth, ac y mae ynddo olwg eang iawn ar y Llythyrdy. 0 „ Cvmro.—Y mae y Cymro hwn yn Gymro, ac ysgntena ei araeuiicuwa mewu iaith ddillyn. Ceir ynddo lawer o ystad- egaeth a ffeithiau ond nid ydyw ei gyn- llun yn drefnus nac eglur. Un a'i Mynycha. Traethawd llithrig a barddonol yw hwn. Wele amlinelliad o'i gynllun. Y Llythyrdy fel ty. 1. Yn ei gysylltiad a'r Llywodraeth. 2. Yn ei gynwys. 3. Yn mherchenog- ion ei gynwys. 4. Yn ngofal perchenog- ion ei gynwys. 5. Yn ei breswylydd. 6. Yn ngwaith ei breswylydd. 7. Yn nghyfrifoldeb ei breswylydd. 8. Yn ei weithfaoedd fel ty. Dyna i ni dermau, eithr nid oes genym i'w hateb ond cyrff gwemion. Osea fab Nun.-Ceir yn y traethawd hwn wedd rhagymadrodd byr. 1. Y llythyr swyddfeydd cyntefig o'u dechreuad, a'u hanes hyd y flwyddyn 1839. 2. Sefydliad y llythyrdoll cein- iog; diwygiadau dylynol ac eangder gweithrediadau y swyddfa. 3. Ca- nghenauereillo'rgwasanaethcyhoeddus perthynol i'r sefydliad. Ceir ynddo hanesiaeth ac ystadegaeth fanwl. Ac fel y cyfaddefa, y mae yn ddyledus am hyn i raddau helaeth i'r National Encyclopedia a'r Postal Guide. FeUy, y mae amryw o'i gydymgeiswyr, er nas cydnabyddant hyny mor rhwydd a rhydd ag ef. Y mae y traethawd yn un cryno a darllenadwy. Wrth symio i fyny, gwelwn fod dau yn mynu ymgadw o flaen ein llygaid yn y dosbarth blaenaf, sef eiddo Rowland Hill ac Osea fab Nun. Mae cynllun Rowland Hill yn eangach a mwy hys- byddol, ond y mae Osea fab Nun, er yn ferach, mor gynwysfawr. Y mae Rowland Hill yn myned yn mhellach yn ol, ond y mae Osea fab Nun yn llawer diweddarach. Nis gallaf yn fy myw, er yn gas genyf, lai na rhanu y wobr rhwng y ddau. Marwnad i'r DiweddarJohn Richards, Treorci.—Daeth i'n llaw ar y testyn hwn ddim llai na 14 o farwnadau. Tra y ceir yn eu plith yr eiddil a'r cyffredin; ceir yma hefyd rai godidog a chyfoethog. Cymerwn hwynt fel y deuant i'n llaw. Hen Gyfaill yn ei Gofio.- Do, aeth tanbeidiol deyrn y dydd Ag ef fel gwlithyn yn ei gol, Oad blodau ei rinweddau sydd Yn perarogli ar ei ol," meddai y cyfaill hwn. Y mae rhyw dynerwch a thlysni gogleisiol yn y farw- nad hon. Po fwyaf y darllenwn hi, mwyaf i gyd o brydferthwch a gan- fyddwn ynddi. Llef un yn llefain.—Ymagora y farw- nad hon yn fawreddog, gan godi ein dys- tD In gwyliadau yn uchel, ond buan y disgyna y bkrdd i f6r sych cyffredinedd, a gad- awa ninau yn siomedig. Y mae ynddi rai tarawiadau barddonol; ond nid ydyw gymerawl ar ei hyd. Dagrau Hiraeth.- Y mae y farwnad hon mor ffres a llygad y dydd, ac mor bert a'r gwlithyn perlawg. Ei thyner- wch ydyw ei gogoniant. Rhagorol iawn, ac mor gywir am fy mrawd John Rich- ards ydyw,:— Diniweidrwydd oedd ei goron, Ni chai pryfyn ganddo loes, Byw yn heddweh Duw a dynion Oedd myfyrbwne pena'i oes, Mor ddidramgwydd fyth &'r oenig, 0 Ac mor wyl ar lili dlos, Gyda thymer fwyn fel miwsig Telyn aur yn nyfnder nos." Adsain o'r Glyn.- Dilyna y bardd hwn John Richards yn gywir a bardd- onol, ond nid ydyw yn gallu cyrhaedd mawreddusrwydd rhai na thynerwch ereill o'i gydgystadleuwyr. Y mae yn farwnad deilwng iawn. Wylwr hallt a'i wallt yn wyn.—Hy- trach yn ddyeithr i John Richards ydyw hwn yn y farwnad hon. Dylai un sydd a'i wallt yn wyn wybod erbyn hyn mai gwendid cyfansoddiad ydyw lluosogi ebychiadau, yn enwedig os na fydd yr ebychiadau hyny yn arwain at ryw agwedd o'r pwnc fydd yn ddyfnach a rhyfeddach na'i gilydd. Y mae gormod o Ah," O," Ow," yn ymddangos yn hwyl gwneud. Eto, er y gwendidau hyn, y mae yn y farwnad rai arwyddion o gryfder barddonol. SSS Hen Gyfaill yn ei Gofio (2).-Yr hwn sydd yn dechreu fel hyn:— Yn wylaidd af a mynwes lawn o deimlad, Ar deigr tel perlau gloewon yn fy llygad." Yn ymyl y cewri sydd yn y gystadleu- aeth hon, ymddengys y bardd hwn yn fychan. Ond na ddigaloned, os ieuane yw, myfyried weithiau ein prif feirjdd Cymreig, ac yn ngrym ei edmygedd o honynt, ac wedi ei gyffwrdd agwreichion oddiar eu hallorau, aed i gyfansoddi, ac yr ydym yn meddwl y gellir gwneud bardd o hono. Efallai na wyddai yr ymgeisydd hwn nad oes gan "gain Noddfa yn Nhreorci yr un fynwent. Ifor Hen.-Rhaid i Ifor Hen, er mor hen, gofio nad yw h byth i'w dwyn i mewn i'r gair mesur," eu mhesur sydd wallus. Eu mhesur na'i deall sydd wallus mewn rhif hefyd. Mae eu yn lluosog, a dylai na'u" fod yn lluosog hefyd. Cyfiawnder a bleid- iau" sydd anghywir. Nid ydyw hon yn mhob ystyr ond marwnad gyffredin iawn. Galarus.—Ymddengys Galarus yn berffaith gydnabyddus a gwrthrych ei Farwnad, ac mewn llawn gydymdeilad a'i gymeriad purwyn a dengar. Can- mo'adwy iawn. Edmygydd.—Y mae marwnad Ed- mygydd yn gyfansawdd o'r cynghan- tD a eddol a'r rhydd. Tyr gynllun eang a, llawn allan, ond nid ydyw yr adeiladyn deilwng o'r amlinelliad. Y mae rhanau v'<. (vvlokloitsl ja, ho.Ll, aiflar nid vw gyfartal felly drwyddo. Egyr ei farw- nad gyda barddoniaeth rydd. Y mae y rhan hon yn gyffredin iawn iawn; ac yn gymysglyd ei ffigyrau. Enghraifft "Yn foreu planwyd egwyddorion nef O'i fewa, nes aeth fel derwen hardd a chref, A daliodd ef trwy wamal ddyddiau llanc, Gair Duw fu'n aw mpawd idclo efhyd drane." -0 Dyna dderwen hardd a chref-y cy- sylltiad yn parhau y ffigwr-feHy, dyma dderwen yn dal trwy wamal ddyddi au llanc," ac yn union cyn cael ein hanadl, wele ni yn y m6r, Gair Duw yn gwmpawd." Beth yw "anhafal?" Bu yn ddyn da anhafal." Hafal," like similar. "An," negative not, not like. Ai gwir hyn ? Os ydyw ein dadansoddaeth o'r gair, fel y mae gan yr awdwr yn iawn. nodwedd y farwnad hon ydyw ei haneglurder. Salemfab.-Bydded i Salemfab ddeall y gwahaniaeth rhwng yw ac i'w cyn cyfansoddi eto Gan mor drymed i'w fy mron." Pan neidiaw," "byddau nefoedd," &c., a ddengys y gwallau. Rhy faledaidd ydyw hon. Ymdreched hwn feddwl, a chofied mai meddwl ydyw gogoniant barddoniaeth, ac nid odl na chynghan- y edd. Dafydd.—Dyma ni yn nghwmnibardd o feddwl cryf a beiddgar. Clywn swn ymddoleniad afon fawreddog athrylith yn ymlifo yn y farwnad. Y mae darllen barddoniaeth fel hyn yn feddwl-gy- nhyrfiol, ac yn ysbryd-daniol i ni. Wele ddail o'r blodeuglwua marwnadol yma. Pan yn son am Ragluniaeth Duw, ebai Dafydd Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef, cy Yn mhob man, ond yn awyr glir y nef." Gwelwch v ddaear wedi colli John Richards drwy lygad y bardd hwn:- Mae llai ar y ddaear o fywyd y nef, Er pan oddiarni i'w feddrod aeth ef, Llai persawr, o golli un ddeilen yw'r rhos, A thywyllach o fachlud un seren yw'r nos." Dyma ddarluniad gwir farddonol o fywyd John Richards:- Nid yr uchelaf bren bob amser sydd, Yn dw^p y mwyaf ffrwyth yn mhlith y gwydd, Rhyw fyrdwf lwyn feallai'n ngodreu'r cwm, Nou'n nghur yr ardd sy'n ffrwytho'n fwyaf trwm; Un felly oedd ein brawd-caedpreBau byw Oedd uch nag ef yn tyfu'n ngwinllan Duw, Ond ni chaed un a'i flodyn yn fwy bras, N en 'n ffrwytho mwy mewn rhinwedd, moes, a gras." Ond gwell ymatal. Y mae hon yn ardderchog drwyddi. Adsain Parch.-Dyma farwnad rag- orol eto. Cawn ynddi rai meddyl- ddrychau gwir farddonol. Yr ydym yn uno a'r bardd hwn i ffieiddio Ystryd- ebol ansoddeiriau," "chwyddedig eir- iau," a "ffugdraeth." Ond beth a olyga yma ?— "Nid wyf am gyiorthwylr I cWDlwJt" blodeu natur,' dagrau gwlith,' Ffiaidd a chymeriad gloyw yw cysylltu ffug a rhith." Mae y gosodiad yn wir. Ffiaidd ydyw cysylltu cymeriad gloyw & ffug a rhith. Ond beth am y "cwmwl," "blodeu natur," "dagrau gwlith," a ddyfyhir ganddo mewn dyfyniadau fel-ong-hr-eifft, iau o'r "ffug a'r rhith mae yh_gwrthod eu cynorthwy, a ydynt hwy yn ffug a rhith ? Pa ffug sydd yn y cwmwl ? Pa rith sydd yn mlodeu anian," ac yn nagrau y gwlith ?" 'Does dim ffug na rhith yma. Bydded y bardd ofalus a chlir yn ei waith. Marah.-Nid oes yn y farwnad hon unrhyw deilyngdod uchelradd. Cwynfron.—Nid ydyw eiddo Cwyn- fron chwaith yn ymgodi, nac yn cynyg ymdori uwchlaw arwynebedd mor cyff- redinedd. Rhaid iddo yntau ymgilio yn wylaidd a gorchfygedig o'r gystadleu- aeth hon. Costiodd i mi ddarllen y marwnadau hyn lawer gwaith drosodd. Ac yn ein barn ni, mae eiddo Dagrau Hiraeth, Hen Gyfaill yn ei Gofio, a Dafydd yn rhagori ar y lleill. Ond pa un o'r tri hyn syddd oreij yw y pwnc. Rhaid i ni edrych eto. Erbyn hyn, mae yr Hen Gyfaill yn myn'd. Yn awr, gadewir ni i ddewis rhwng marwnad dlos Dagrau Hiraeth a marwnad fawreddog a medd- ylddrychog Dafydd. Ond canlyniad an- ochelad\vy y mesur a'r pwyso ydyw, i Dafydd, pwy bynag ydyw, gael y gamp a'r wobr. Rhodder iddo. RHOSYNOG. 0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD. MARWOLAETHAU, Chwefror 13, yn ardal Brush Creek, New Cambria, Mahony, Mr. Samuel Samuel, yn 67 a chwe' mis oed. Ei afiechyd oedd yr asthma, oddiwrth yr hwn y bu yn dyoddef yn dawel ac amyneddgar am oddeutu wyth mlynedd. Ganwyd gwrthddrych y sylwadau hyn mewn lie o'r enw Bryn Galem, yn agos i Langeithio, sir Aberteifi. Enwau ei rieni oeddynt Daniel ac Ann Samuel. Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1835, ac ymsefydlodd yn Gallia County, Ohio, yn agos i ardal Ty'nrhos. Yn 1810, priododd gyda Miss Jane Jones, Cofadail, a bu iddynt wyth o blant— chwech o fechgyn a dwy o ferched, dau o'r rhai sydd wedi blaenu eu tad i'r byd tragywyddol. Bu y teulu hwn yn byw am ysbaid o amser yn Coalport. Ohio, ac oddiyno symudasant i New Cambria, Mahony, yn 1865. Gadawodd yr ym- adawedig weddw a chwech o blant i alaru eu colled ar ei ol. Y mae iddo frawd hefyd yn byw yn ardal Ty'nrhos, Ohio, ac un arall yn LaCrosse, Wis- consin, a chwaer yn Beacon, Iowa. Ymunodd gyda chrefydd er's tua deuddeng mlynedd yn ol, yn eglwys Brush Creek. Chwefror 21, yn nhy Mr. Thomas Griffiths, Erie, Weld County, Colorado, Mr. John Jenkins, a chladdwyd ef ar y 23ain yn nghladdfa y drcf. Gwelsom John lawer gwaith pan yn ddyn ieuanc yn dysgleirio yn danbaid yn y pwlpud, yn canu yn soniarus, ac yn areithio yn hyawdl ar faterion llenyddol. Ni chafodd wrteithiad addysg; ond yr oedd yn meddu ar alluoedd naturiol cryfion. Yr oedd yn gyfaill trwyadl, ac o ymar-1 weddiad teilwng pan yn codi i addfed- rwydd. Mab ydoedd i William a Mary Jenkins, gynt o Merthyr Tydfil, ond wedi hyny o Hirwaun, lie y ganwyd y nifer luosocaf, os nad yr oil o'r plant. Adwaenwn bump o frodyr heblaw John, sef William, David, Thomas, Edward, ac Anthony. Bu Edward farw lawer o flynyddau yn ol, yn Zanesville, Ohio; ond y mae Anthony yn fyw yn y wlad hon, am ddim a wyddom. Gweithwyr haiarn oeddynt oll-y tad a'r bechgyn. Bu John yn gweithio yn Duncansville yn amser Joseph Richards & Co. Wedi hyny bu yn melin rolio Zanesville, Ohio, dan ei ewythr Mr. W. W. Davies, tad T. W. Davies, Ysw., jRevenue Collector, Pittsburgh. Dywedir fod claims o fwn arian ac aur gwerthfawr ar ei ol ar y White River, Colorado, a dylai rhyw un o'i berthynasau edrych ar ol yr eiddo, a'i feddianu cyn y disgyna i ddwylaw dyeithriaid. Deallwyffod Mr. Griffiths wedi claddu ein cyfaill ar ei draul ei hun yn anrhydeddus, heblaw ei gynal, a gweini arno yn amser ei gystudd. Os gwel y perthynasau y llinelau hyn, byddai yn foneddigaidd ynddynt ddi- golledu Mr. Griffiths. Gohebant ag ef. Ei gyfeiriad yw Erie, Weld County, Colorado, Bu farw yn Youngstown, Ohio. Chwefror 14eg, Mrs. Rachel Evans, (priod Mr. David Evans), yn 45 mlwydd oed. Merch ydoedd i Mr. Evan Evans, saer, a'i briod Sarah. Ganwyd hi yn Rhymni, lie y bedyddiwyd hi hefyd yn y fl vyddyn 1859 gan y Parch. Thomas Lewis, Jerusalem. Priododd Mr David Evans yn 1856. Symudasant o Rymni yn y flwyddyn 1864, a sefydlasant yn Middlesboro', gogledd Lloegr, o'r hwn ley symudasant i Youngstown, Ohio, mis Tachwedd, 1881. Ei chlefyd angeuol ydoedd Pneumonia of the Lungs. Gwelir fod ein chwaer wedi ymuno ac arddel crefydd lesu Grist yn moreu ei dyddiau, a bu yn weithgar, diwyd, a oj ffyddlon yn y winllan o hyny hyd ei bedd. Gwelodd lawer o ymraniadaa eglwysig yn ei thymor, ond safodd hi yn ddiysgog gyda'r gwylwyr ar y mur. Er mai byr fu arosiad ein chwaer yn plith fel eglwys, eto teimlwn golled ar ei hoi, canys yr oedd yn grefydd-wraig round, fel y dywedir, a dyma'r rhai y mae Seion wan yn gruddfan o'u colli. Tri mis gafodd hi fwynhau o'r wlad newydd—America, ond aeth i wlad annhraethol well, sydd a'i hawyr yn burach, ei hawelon yn fwy balmaidd, a ) lie nad oes poen a chtwy, doluriau a phlaau yn deifio dedwyddwch ei phres- wylwyr. Gadawodd briod a chwech neu saith o blant i alaru o'i cholli^yn nyffryn adfyd. Duw a noddo ac a am- ddiffyno y teulu caredig hwn yn ei I amddifadrwydd o briod gofalus a izani dyner a ffyddlawn.

MARY JEFFREYS LEWIS.j

DYDDIAU MARI WAEDLYD.

r HE R £ W<D 1

Y RHAN DDYFROL O'R DDAEAR.