Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
28 articles on this Page
::,,"--,,I'.,f,';-:-J! ; YR…
,I' f,' J YR WYTHNOS. Y MAE tfin mawr wedi cymeryd lleyn Richmond, Virginia, gan ddiystrio ponfc reilffordd, a meddianau ereill. Collodd tri o bersonau eu bywydau. -1 1 DYDD Mawrth, yr wythnos ddiweddaf cymerodd daeargryn le yn Chio. Yn cofio am y dinystr a gymerodd le yn Ebrill diweddaf, rhuthrodd y trigolion allan o'u preswyldai newyddion, ac i'r jfiaeisydd agored. > ÐYPD Llun, yr wythnos ddiweddaf, cafodd dyn o'r enw Davies, ocldeutu 40 oed, ei ddwy goes wedi eu tori yn nglofa y Ddinas. Cymerwyd ef IW gattref mewn ceri, ond bu farw yn fuan m'ftwn canlyniad i'r* niweidiau a dder- byniodd a'rgwaeda gollodd. "BOREU dydd Mawrth cafwyd dyn o'r enw Edward Sparrow, oddeutu 35 oed, ac yn frodor o'r Trallwm, yn farw ar incline Dowlais, yn agos i Ferthyr. Yr oedd wedi bod o dan gwmni Dowlais fel tiviekeeper am oddeutu tair wythnos. Bernir iddo gael eu daraw i lawr a'i ladd gan teiriant. BOREU dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddai; cyfarfyddodd dyn sengl o'r onw Edward Richards, 29 oed, ac yn byw yn Sand Street, Dowlais, a dam- wain angeuol. l«lilwr we^i ei ryddhau ydoeddi, ac yni:cyflawm y swydd o bwyswi o dan y cwmni. Cafodd ei ddal rhwng y buffers, ac a laddwyd yn y fan. o X GYPEIFON y Trysorlys o Ebrill y laf, y flwyddyn ddiweddaf, hyd Mawrth y 18fed, y flwyddyn hon, oeddynt fel y canlyn :—Derb^niadau, 82,281,957p; trenlion, 79,424,826p; yn ngweddill, 8,151>135p. Am yr un tymor y flwyddyn dSiweddaf :Derbyniadau, 80,827,667p; treulion, 76,943,248; yn ngweddill, 10,368,116^). jjw6ii^ diweddaf cyfarfyddodd .4,r,q*w, es, glowr .leuanc a'r eiiw Coles, 17 oed, a'i ddiwedd naewn modd disynrvyth tra ar 4 a ei ffordd adrei o'r gwaith. Ar ei-ffordd adref aeth ar. un o'r cerbydau caleh a garia y ceryg i'r ffwrnesi bl&st..Mithrodd ei ldroed, a syrthiodd yntau o dan y cerbydau, a lladdwyd ef yn y fan, a hyny yn agos i dyei dad. Ychydig amser yn ol, dywedir dqlarfqd i-fferyllydd Awstriaidd ddyfeisio cysgbar newydd, gweithrediad yr hwn sydd mpr gyflym a nerthol fel y gwna ychydig ddif- erynau o hono, wedi au taenellu ar y pen a'r gwyneb, ddyn yn hollol ddideimlad a diamddiffyn. Bandiger oedd yr eriw a roddwyd ar y nwydd peryglus hwn, a chynygiodd ei ddyfeisydd werthu y gyl- rinach o'i barotoi i'r Llywodraeth Awstri- aidd. Ond nid yn unig gwrthododd y Llywodraeth ei bwrcasu. eithr gor- chymynodd i'r heddgeidwad rybuddio y beidio parhau ei arbrawfion, ap i ymatal yn gyfatfgwbl rhag eiddefn-- ydaic mewnunrhyw fodd, a'idaadguddio i ereill o dan boen eael ei gospi fel tros- eddwr. Y DYDD o'r blaen, yn Itali, hysbys- wyd y buasai elephant yn chwareu ton ar y berdoneg. Daeth tyrfa fawr yn nghyd, fel y gorfuwyd pallu arian wrth y drysau. Daeth yr elephant yn mhen tipyn i mewn, ac i fyny at y berdoneg, ac a dderbyniwyd gyda banllefau o gy- meradwyaeth, ond trodd yn ddisymwth oddiwrth y berdoneg, a cherddodd ym- aith. Ni ellid er dim ei gael i edrych ar y berdoneg, a dechreuodd y gynulleidfa feddwl eu bod wedi eu twyllo. Erbyn hyny daeth y goruchwyliwr yn mlaen, gan ddweyd fod y creadur wedi adnabod danedd ei fam ar y key-board, ac yn pallu er dim chwareu arnynt. Derbyn- iodd yr Italiaid yr esboniad yn gymer- adwypl. Nos Iau diweddaf cynygiodd Mr Gladstone a" fod 10,000p yn cael eu rhoddi ynflynyddoli'rTywysog Leopold, Due Albany, ar ei briodas, yn ychwan- egol at y 15,000p y mae eisioes yn eu cael, ac hefyd fod 6,000p yn cael eu sicrhau i'w briod am ei hoes. Siarad- odd amryw aelodau yn erbyn y gwadd- oliad, a hyny mewn iaith gref, ac hefyd yn erbyn gwaddoliadau ereill a wneir. Erbyn i'r Ty ymranu, cafwyd fod 387 gyda y cynygiad, ac ond 42 yn ei erbyn. Yn mhlith y rhai a bleidleisiasant gyda y Ueiafrif, ac yn erbyn y gwaddoliad, y mae yn dda genym weled enwau Mr Henry Richard a Mr Dillwyn, tra y cerddodd y Postfeistr CyfIredinol-Mr Fawcett, a'r Is-Ysgrifenydd—Syr C. Dilke, allan o'r Ty yn hytrach na phlbidleisio.
AT LOWYR DOSBARTH Y GLO CAREG.
AT LOWYR DOSBARTH Y GLO CAREG. Erodyr,—Y mae genyf i'ch hysbysuy cynelir y cyfarfod misol dydd Sadwrn nesaf, yn y lie arferol yn Mrynaman, ac i ddechreu am ddeg o'r gloch y boreu. Byddwch ffyddlon. Yr eiddoch, E. REES, Ysg.
CYFREITHIWR YN CAEL EI LADD…
CYFREITHIWR YN CAEL EI LADD TRWY FFRWYDRIAD DYNAMITE. Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, cyfarfyddodd Mr S. J. Mitchell, cyf- reithiwr, a'i ddiwedd mewn dull tra di- symwth ac anrtysgwyliadwy. Yr oedd efe a chyfeillion ereill yn edrych ar effeithiau dynamite gyda y gorchwyl o •chwythu i fyny wreiddiau coed mawrion a chwythwyd i lawr rhai misoedd yn ol. Yr oedd y labrwyr wedi gosod cyfanswm o'r defnydd ffrwydrol o dan wreiddiau inawrioii, tra yr oedd y trancedig yn sefyll rhyw helider o'r lie, yn gwylio y canlyniad. Yan y taniwyd yr ergyd tasgodd peth o'r gwreiddiau i bob cyf- eiriad, un o ba rai a darawodd Mr Michell yn ei ben, gan eiladdyn yman. Yr oedd y trencedig yn fab i ddyfeisydd y steel pens, a chyfarfyddodd a'i angeu ar estate Mr Gillott, yr hwn, a ddaeth a'r dyfeisiad i'r fath berffeithrwydd ag ydyw. Yr oedd yn foneddwr tra adna- byddus yn holl gylch Birmingham.
TAN YN NGLOFA BODRINGALLT…
TAN YN NGLOFA BODRINGALLT -12 0 GEFFYLAU WEDI EU MYGU. Cymerodd damwain golledus iawn le yn nglofa Bpdringallt nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, yr hon lofa a berthyna i'r boneddigipn haelfrydig Mri Davis, Maesyffynon, Aberdar, a Brynderwen, Ferndale. Y mae yr ystablau o dan y ddaear, yn y rhai y mae nifer o geffylau yn cael eu cadw. Am oddeutu wyth o'r gloch gadawodd Alfred Gill, yr ostler, yr ystabl, pryd yr oedd pob peth yn iawn. Oanol nos aeth Bees Morris i lawr, y goruchwyl- iwr nosawl, a chafodd fod y lie yn llawn mwgr— cymaint felly fel nad allai fyned yn agos i'r ystablau. Galwoddar brif oruchwyliwr y lofa, yr hwn a achos- odd i fwy o awyr i fyned i'r ystablau, fel y gallwyd mewn ycbydig amser eu cyr- haedd. Erbyn chwilio cafwyd fpd rhan o goedwaitH yr ystablau ar dan. a char- iwyd dwfr er ei roddi allan,'ond yr oedd I y deuddeg o geffylau rhagorol—gwerth 500p. wedi eu mygu. Yr oedd y cefFyl agosaf at y tan wedi tori y strap aT rhwymai, ac wedi myned vaUan o'r ystabl, ac felly achubei fywyd. Yr oedd oddeutu 12 o bersonau ar y pryd yn y lofa, ond ni effeithiodd y ddamwain ddim arnynt hwy, nac ychWaith beryglu eu sefyllfa, ond aethant yn mlaen nes, gorphen eu noson. '} ç' :1.'°'" .I ¡ 'd: t' r ".L J .(i
,ABEBTAWB."',
ABEBTAWB. Mae masnach y porthladd hwn am yr wythnos a aeth heibio wedigwella yn fawr mewn dadforion ac allforion.
CASNEWYDD.
CASNEWYDD. Er fod marweidd-dra lied gyffredin wedi cymeryd lie yn ystod yr wythnosau a aethant heibio, eto y mae pethau fel i raddau yn gwella, a llonglwythwyr y porthladd yn cael eu cadw a bron digon owaith.
DAMWAIN AR REILFFORDD YN AMERICA—WYTH…
DAMWAIN AR REILFFORDD YN AMERICA—WYTH WEDI EU LLADD, A 22 WEDI EU NIWEIDIO. Cymerodd damwain le ar y rheilffordd yn agos i Bismarck, ddydd Mawrth yr wythnoi3 ddiweddaf. Aeth y gerbydres yn yfflpn, a lladdwyd wyth o bersonau, a niweidiwyd 22.
. TAN MAWR YN HIGHAM FERRARS.
TAN MAWR YN HIGHAM FERRARS. Yr ydym yn cael fod tan dychrynllyd wedi cymeryd lie yn Higham Ferrars, tref rhyw 16 o filldiroedd o North- ampton. Y mae rhyw 25 o dai wedi eu llwyr ddinystrio, a 100 o bersonau wedi eu gwneud yn ddigartref. Ofnid un- waith y buasai yr holl dref wedi myned yn aberth i'r ffiamiau.
ANNEALLDWRIAETH GLOFA BLAENCLYDACH.
ANNEALLDWRIAETH GLOFA BLAENCLYDACH. Y mae annealldwriaeth yn y lofa hon er ys cryn amser, a hyny mewn canlyn- iad i fod y meistri, y nmarn y gweithwyr, yn ymddwyn yn annheg tuag atynt. Y mae y pwnc wedi ei anfon i ystyriaeth pwyllgor y Sliding Scale amryw weith- iau, ond wedi ei ohirio y naill dro ar ol y llall. Yn nghyfarfod olaf y cyfryw bwyllgor, a gynaliwyd Chwefror y 27ain, penderfynwyd fod i ddau o'r meistri a dau o gynrychiolwyr y glowyr i gyfarfod er penderfynu y mater. Dydd Llun diweddaf ymgyfarfyddodd y pleidiau, yn nghyda dau weithiwr o'r lofa, ond er mawr siomedigaeth, wedi aros am amser mawr, cafwyd allan nad oedd yno neb i roddi tystiolaeth o blaid y meistri, ac felly, nad ellid ei benderfynu. Yn awr, gydweithwyr, y mae yn amlwg nad allwn ymddibynu dim ar y meistri yn y peth hwn, ac y mae yn ymddangos i mi nad ydynt ond yn taflu llwch i'n llygaid wrth daflu y mater o bryd i bryd, ac yr ydym yn ystyried ei fod yn rhy ddrwg i gael ymddwyn tuag atom fel hyn wedi aros yn amyneddgar am gyhyd o amser. UN O'R CYNRYCHIOLWYR.
CYFARFOD GLOWYR Y GLO TAI.
CYFARFOD GLOWYR Y GLO TAI. Y mae dymuniad i hysbysu y cymer cyfarfod pwysig mewn cysylltiad a glo- wyr glo tai Rhondda le dydd Llun nesaf yn y Gelligaled Inn, Heolfach, pryd y gofynir i'r cynrychiolwyr ddyfod a Scale o'r hyn a delir yn y gwahanol lofeydd, a hyny o herwydd fod ymgais yn rhai lleoedd i ostwng prisiau ar rai pethau.
MUDIAD Y RHUBAN GLAS YN ABERDAR.
MUDIAD Y RHUBAN GLAS YN ABERDAR. Y mae rhestr c gyfarfodydd wedi eu cynal yr wythnos ddiweddaf mewn cysyllt- iad A'r mudiad hwn, y rhai sydd wedi bod yn hynod boblogaidd a llwyddianus. Y mae y neuadd eang wedi bod yn orlawn bob nos, ac i fyny hyd nos Lun, yr oedd dros ddwy fil o enwau wedi eu rhestru fel ymunwyr y fyddin. Y mae y cyfarfodydd i'w cynal bob nos yr wythnos hon eto. Cynelir cyfarfod gweddi bob dydd er diolch am y ilwyddiant, a gofyn am wenau yr Arglwydd yn y dyfodol. Barn pawb sydd wedi bod yn y cyfarfodydd yw mai Duw sydd yn gwneud hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg. Y mae yn wir fod yma, fel mewn lleoedd ereill, wrthwynebwyr a gwawdwyr, ond y mae lie cryf i gredu er hyny y bydd i les mawr gael ei wneud. Y mae nifer da 6 weinidogion yr efengyl hefyd wedi dyfod i'w lleoedd priodol yn y mudiad, ond yr ydym yn ofni fod bron cymaint yn cadw. draw. Yn mhlith y gweinidogion sydd wedi bod yn weithgar gallwn enwi y Parchedigion T. Selby Jones, Bethel; W. Edwards, Ebenezer; T. Jones, Carmel; R. Morgan, Llwydcoed; J. M. Owen, Sion; E. Williams, M.A., Trinity; T. Rowlands, Aberdar; L. J. Harvey, Bethesda; H. R. Johnson, Eglwyswr W. James, Bethania; E. A. Campbell, Eglwyswr; D. Silyn Evans, Siloa H. Davies, Moriah Aman J. Jones, Brynseion H. E. Thursby, Eglwyswr. «
CWMTWRCH.
CWMTWRCH. Deuwyd o hyd i'r ddau lane a ysgrifen- odd y Nhw" yn ddiweddar i'r DARIAN drwy hunangyfaddefiad, fel y rhyddhawyd llawer ag oedd yn cael eu condemnio ar gam.—Yr eiddoch, J. M. MORGAN.
BRITON FERRY.
BRITON FERRY. BuDD GYNCrERDD.—Nos Sadwrn diweddaf, yn nghapel y Bedyddwyr Saesneg, cynal- iwyd cyngerdd er budd Mr Isaac Coslett, yr hwn sydd newydd fyned yn ddall. Cymerodd y cantorion canlynol ran yn y gyngerdd :—Mrs Rees (Eos Meudwy) Miss Annie Williams, Miss James (Eos Fach), a Miss Monger; Mri W. Williams, S. Wil- liams, B. Griffiths, ac Absalom Phillips, Castellnedd, yn nghyda dau Glee Party, dan arweiniaid Mri J. Griffiths a J. Parry. Cyfeiliwyd gan Mr H. Davies. Cafwyd cyngerdd ragorol ac elw da.
GOFALED PAWB AM HYN.
GOFALED PAWB AM HYN. Gan fod amrywiol o ddarpariadau 0 Quinine i'w cael, megys Tincture of Quinine, Quinine Wine, Quinine Mix- ture, &c., y mae rhai ymofynwyr am Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans yn cael eu twyllo i'r pethau hyn yn y modd mwyaf dideimlad a digywilydd Wrth geisio hwn gan yr Apothecarl, nid digon yw gofyn fel hyn, "Potelaid o Bitters," "Potelaid o Quinine Bitters," nac ychwaith "Y Quinine yna," ond gofaler gofyn am "Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans," ac os na fydd yr enw Gwilym Evans, F.C.S.,M.P.S., wedi -6i ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth ar bob potel, twyll a ffugiad ydynt. PriB y Potelau yw 2s. 9c. i 4s. 6c.; mewn blychau, 12s. 6c. yr un. Cynwysa Poteli 4s. 6c. ddau cymaint a rhai 2s. 9c., ac felly gall y prynwl arbed Is. wrth gymeryd y rhai mwyaij|
CELF A MASNACH. :
CELF A MASNACH. CAERDYDD. Y mae y marweidd-dra sydd wedi meddianu masnach lp y porthladd yn parhau, a'r aqhwyniadau bron yn fwy nag eriped. Maeynofnus, os parha y- fasnach fel y mae yn bresenplj y daw pris y glp gpreu i lawr p'r man y mae yn bresenol. Yr oedd yr allforion am yr wythnos yn 25,000 o dynelli yn llai na chyfartaledd y flwyddyn bresefiol.
JUMBO AR EI DAITH.
JUMBO AR EI DAITH. Mae y cawrfil Jumbo, yr hwn a symudwyd o erddi Regents', Park, yn awr ar ei daith i'r America yn yr ager- long Assyrian Monarch. Mae preswylfa Jumbo yn hollol ar wahan oddiwrth y teithwyr a'r dwylaw, ac os dygwydda fod dipyn yn aflonydd, nid oes perygl. Cychwynodd prydnawn dydd Sadwrn.
- DAMWAIN ECHRYDUS YN DOWLAIS.
DAMWAIN ECHRYDUS YN DOWLAIS. Boreu dydd Mercher diweddaf cyfar- fyddodd Gwyddel o'r enw James Crow- ley, 50 oed, Mary-street, Merthyr, a'i ddiwedd mewn modd truenus. Yr oedd y trancedig yn labrwr yn ngweithiau dur Dowlais; ond wedi gweithio chwar- ter twrn, gomeddodd fyned yn mlaen yn mhellach, ac aeth i geisio ei arian. Wedi derbyn ei amser, dechreuodd ei ffordd allan, a cherddai o flaen ager- beiriant, yr hon a symudai yn mlaen yn araf. Tarawyd ef i lawr gan y peiriant, gan achosi ei farwolaeth.
DARGANFYDDIAD HYNOD YN BRYSTE.
DARGANFYDDIAD HYNOD YN BRYSTE. Mae naw o goffiniau mawrion Nor- manaidd wedi eu darganfod o dan lawr rhan o Eglwys Gadeiriol Bryste. Mae y gelfyddydwaith ar rai o honynt yn neillduol ddyddorol. Bernir fod yr hynaf yn 700 mlwydd oed.
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH…
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH CASTELLNEDD. Cynaliwyd y cyfarfod uchod dydd Sadwrn, y 18fed cyfisol, yn y Vale of Neath Arms, Castellnedd. Llywydd- wyd gan Mr Samuel Griffiths, llywydd y gymdeithas. Ysgrifenydd, Mr Isaac Evans. Y peth cyntaf ddaeth gerbron fydoedd achos Samuel Bryant, Court- clierbert. Nid oes achos gwneud rhagor lia nodi hwn, oblegyd y mae wedi ei iafterfynu yn foddhaol. Dylasem nodi |nai rhif y cynrychiolwyr oedd 18, yn iynrychioli 1,500. Yr oedd yn ddrwg gan y cyfarfod pan yn cael ar ddeall fod y meistri wedi gwrthod dirprwyaeth Oddiwrth y gweithwyr, yr hon a bender- fynwyd yn Birmingham, ar y cwestiwn o godi y glo yn y farchnad, fel ag i gael codiad cyffredinol i'r gweithwyr. Wedi ychydig siarad ac ystyriaeth bellach, gwelwyd i raddau helaeth yr achos o'u gwrthodiad. Cafodd amryw o'r meistri, ac hyd yn nod dri o aelodau bwrdd y meistri eu siomi yn fawr wrth adroddiad yr archwilwyr diweddaf. Yr oeddynt wedi dysgwyl, ac hefyd mewn ffordd, o bterwydd pris y glo yn y farchnad, i roddi pump y cant ar ben y tymhor, ond oblegyd fod ereill sydd yn nghym- deithas y meistri yn gwerthu eu glo o dan bris, a'u gweithwyr, wrth gwrs, yn ^reithip iddynt am bris cyfatebol, a'r cwbl yn cael ei ddwyn i gyfartaledd, y Jiae y meistri hyny sydd yn alluog, ac wedi dysgwyl rhoddi y pump y cant yn eW eu cadw iddynt eu hunain. Mae ytf syn, ar un olwg, fod cymdeithas undebol ein.meistri yn caniatau i'r naill werthu ei lo o gyffelyb ansawdd o dan y llall. Ar yr olwg arall gwelir mai eu mantais ydyw, oblegyd y maent fel yna yn cadw y cwbl iddynt eu hunain. Barn ujifrydpl y cyfarfod yw, fod yn rhaid cael IDWY o undeb a chydweithrediad yn ein piith fel glowyr cyn y gellir gwella ein sefyllfa. Cwynai cynrychiolydd Bryn- dewi yn arw nad pedd undeb y peth y dylai fpd yn eu plith hwy. Dywedodd fod un person yn neillduol yn eu plith, nic|yn unig ei fod yn drygu ei hun, ond ei wd yn gwneud ei oreu i gael ereill i'r uxwordd ag ef. Yr oedd efe hefyd am gdj £ gair o gyfarwyddyd gan y cyfartod i fjped yn ol i'r lofa. Cafodd y cynrych- iol^yr y fantais o siarad yn olynol ar y cwestiwn hwn, pryd y cafwyd fod y cyffelyb i'w cael tua Glandwr, Mynydd Newydd, a Chwmylone, ond yn gymaint a'ui bod hwy o dan firm y Dynefor, a'r meistri yn caniatau undeb yn eu plith, y gwyddent y peth goreu i wneud o'r cyfryw. Y mae yn gofus genym am berson unwaith yn beio ei simne am ei bod yn taflu mwg. Dywedodd y buasai yn maddeu iddi pe na buasai yn taflu ond ei mwg ei hunan, ond ei bod yn tynu mwg yr holl gymydogaeth i lawr drwyddi. Mae y simne uchod yn ddar- lun perffaith o luaws o bersonau sydd yn ein glofeydd yn bresenol, y rhai sydd yn achos i dynu eu hunain i lawr, a'u cydweithwyr i lawr gyda hwy. Yn nesaf daeth o flaen y cyfarfod y gweithio nos Sul. Cafwyd ar ddeall fod hyn yn myned yn mlaen tua Glan- dwr, Pwll y Cwm, a'r Emmily, ond fod gweithwyr y diweddaf wedi gwneud cais am wneud ymaith fig ef, a dymun- iad y cyfarfod yw, am i bawb sydd yn gweithio nos Sul i wneud yr un fel, ac hefyd am weithio oriau rhesymol am ddiwrnod o waith. Bydd y cyfarfod nesaf i'w gynal yn y Landore Inn, Glandwr, am bedwar o'r gloch prydnawn Sadwrn, Ebrill yr 15fed. Dysgwylir i bob cynrychiolydd ddyfod a dimai am bob un a gynrych- iolwyd yn y cyfarfod diweddaf. IOAN AB GRUFFYDD.
CYFARFOD MISOL GLOWYR CWM…
CYFARFOD MISOL GLOWYR CWM ABERDAR. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn y Masons' Arms, Aberaman, pan y cy- nrychiolwyd amryw filoedd o lowyr. Etholwyd Mr Thos. James, Aberaman, yn gadeirydd. Yna, wedi cael adrodd- iad cyffredinol o sefyllfa y dosbarth gan Mr D. Morgan, Mountain Ash, pasiwyd y penderfyniadau canlynol:— 1. Ar ol clywed y teimlad cyffredinol a ddatguddiwyd o deimladau y gweith- wyr yn y dosbarth yn erbyn gosod standard y pumed yn safon addysgiadol i'r crots yn yr ysgolion dyddiol, cyn eu bod yn cael dechreu gweithio, fod y cyfarfod o'r farn nad yw yr Educational Department yn gwybod yn briodol angen- rheidiau addysgiadol plant y glowyr, a'r modd i gyrhaedd y cyfryw. Yr ydym ni, o ganlyniad, yn trosglwyddo y mater pwysig hwn i ymdiin ag ef yn y cyfarfod cyffredinol nesaf o gynrychiol- wyr cyffredinol glowyr Deheudir Cymru. 2. Fod y cyfarfod hwn yn cwympo i fewn i ddymuniad y goruchwyliwr, sef, fod y cynrychiolwyr sydd yn cael eu neillduo i gynrychioli yn y cyfarfod misol i barhau yn y cyfryw swydd am chwe' mis. 3. Fod y rheolau a gymeradwywyd yn y cyfarfod hwn er rheoleiddio y dosbarth i'w hargraffu yn ddioed. 4. Fod y cyfarfod hwn yn anghymer- adwyo Ty yr Arglwyddi am ei ymddyg- iad yn neillduo pwyllgor i edrych i fewn i weithrediadau Cyfraith Tir yr Iwerddon cyn ei bod yn cael chwareu teg i ddangos beth yw ei heffaith mewn gwirionedd; a'u bod yn cymeradwyo Mr Gladstone a'i gefnogwyr yn pasio y penderfyniad yn Nhy y Cyffredin yn erbyn y lath ymddygiad. 5. Fod y cyfarfod hwnw yn mawr gymeradwyo cynygiadau Mr Gladstone, y rhai a fwriedir er cael gwell trefn yn rheoleiddiad Ty y Cyffredin; a bod y penderfyniadau uchod i'w gadael yn llaw Mr D. Moraan, er eu trosglwyddo i'r Weinyddiaeth. Cynelir y cyfarfod nesaf yn y Bute Arms, Aberdar.
GLOFEYDD YR OCEAN.
GLOFEYDD YR OCEAN. Ymddengys fod Mr W. Jenkins, gor- uchwyliwr y glofeydd uchod, o'r diwedd wedi anfon hysbysrwydd ei fod yn barod i gyfarfod a dirprwyaeth o'r gweithwyr ar gwestiwn y Sliding Scale. Cyflwynwyd yr hysbysiad i'r pwyllgor gohiriedig a gynaliwyd yn y Stag Hotel, Treorci, nos Sadwrn diweddaf. Y mae ,i'w gofio fod yr ymdriniaeth 'A'r mater wedi methu yn flaenorol, yn herwydd i Mr Jenkins wrthod dadleu y cwestiwn Ó ostwng safpn y Scale o 10s i 9s, yr hyn a ystyria y gweithwyr, ac yn ber- ffaith iawn, fod yn anhebgorol iddynt ei gael cyn y bydd i'r Scale ddyfodol, yn fwy na'r flaenorol, roddi cyfiawnder iddynt. Gawn fod y pwyllgor yn dra amheus ar fod yr hysbysiad yn dal allan obeithion am gytundeb heddychol, yn gymaint ag nad oedd yn dweyd ei fpd yn barpd i ddadleu y cwestiwn p ostwng y safon. Modd bynag, pender- fynodd y pwyllgor, er mwyn boneddig- eiddrwydd, i anfon dirprwyaeth i'w gyfarfod. Deallwn fod y parotoadau angenrheidiol er rhoddi rhybudd i der- fynu y Scale wedi eu gwneud, os na fydd canlyniadau y ddirprwyaeth yn foddhapl. Diau fod y goruchwyliwr yn teimlo y dylai y gweithwyr fod yn ddiolchgar am fan drugareddau, a'i fod yn ormod mesur i roddi iddynt atebiad llawn..Pa hyd y bydd gweithwyr heb sylweddoli yr anfantais o fyw ar wahan? Beth fydd yn lluddias cwmni yr Ocean, os gorfodant y gweithwyr i roddi y rhybudd angenrheidiol i derfynu y Scale, i uno ag undeb y meistri eto, os nad ydynt ynddo yn barod, ac yn mhen y chwe' mis i fod yn aelodau rhyddion yn yr undeb hwnw, a chanddynt nerth yr undeb y tu cefn iddynt, pe byddai yr annealldwriaeth hwn yn troi allan yn annymunol rhyngddynt? Rhyfedd na fyddai gweithwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gweled fod gan eu meistri gleddyf dau finiog yn eu dwylaw wrth eu cadw hwy ar wahan a'u gilydd.
AT LOWYR DOSBARTH Y RHONDDA.
AT LOWYR DOSBARTH Y RHONDDA. Gyfeillion,—Bydded hysbys genych y cynelir y cyfarfod misol dydd Llun nesaf, Ebrill y 3ydd, yn y Maerdy Hotel, Maerdy, ger Blaenllechau. Y cyfarfod i ddechreu am haner awr wedi deg. W. ABRAHAM.
JjLONGDDRYLLIAD A CHOLLIAD…
JjLONGDDRYLLIAD A CHOLLIAD BYWYDAU. Yr ydym yn cael oddiwrth ohebydd o Trefdraeth fod y llestr Orline, perthynol i Copenhagen, wedi myned yn ddrylliau yno boreu dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf. Collwyd y dwylaw hefyd -pump mewn nifer. Llwyddwyd i daflu rhaff ar y bwrdd, ond methwyd ei defnyddio gan y dwylaw. Yr oedd y bywydfad hefyd allan trwy y nos, ond methwyd yn lan a chyrhaedd y llong. Cymerodd y drylliad le yn agos i Gwm- dewi, a boddodd yr oil yn ngolwg Iluaws oedd yn awyddus i roddi cynorthwy, ond a fethent o eisieu bywydfad priodol. Ceisiodd dau a honynt wneud am y lan, ond a fethasant.
,CLYDACH.
CLYDACH. Nid oes fawr bywyd yn y lie yma wedi i waith alcan Ynyspenllwch sefyll. Y mae yn wir fod yma ddau waith alcan arall, ond nid yw'r ddau gyda'u gilydd yn talu haner yr arian yn fisol ag a delid yn Ynyspen- llwch. Yr oeddem yn byw ar delerau hedd- ychol A'n meistri bob amser, a'r prawf goreu o hyny oedd i ni oddef ein harian yn eu dwylaw am saith wythnos yn lie mis, ac yr ydym heb gael ond eyfran o honynt eto, ac oni baasai fod cynifer o honom wedi llwyddo i fael gwaith mewn manau ereill, tlawd y byddai arnom. Y mae yma son wedi dyfod i'r lie fod llywydd yr alcanwyr, sef Lewys Afan, yn ymgymeryd a chodi yr arian i gyd, a mawr yw ein llawenydd. Y mae lluaws yn dymuno ei lwyddiant, a chan fod cymaint o wenau o'i du, gobeith- iwn o'n calon y bydd iddo lwyddo. GWKITHIWR TLAWD.
HAULIERS CWM ABERDAR AC EISIEU…
HAULIERS CWM ABERDAR AC EISIEU DRYSWYR. Gwelais nodyn yn y DARIAN am yr wyth. nos ddiweddaf gan un o hauliers cwm Aberdar yn crybwyll fod rhywrai yn y cwm yn halio heb yr un dryswr, ac yn bygwth cyhoeddi enwau y cyfryw os nad ymatalient eu hymddygiad. I ofyna hefyd beth yw fy marn i ar y pwnc. Fy atebiad yn fyr ydyw, nad wyf yn cydsynio i'r haul- iers halio heb yr un dryswr os bydd drws yn y lie y bydd y cyfryw yn halio. Ond yn wir, y mae yn rhaid cydnabod fod swydd- ogion y glofeydd mewn anbawsder mawr yn bresenol i gael dryswyr, gan fod cymaint o blant yn cael eu hatal i weithio gan y Bwrdd Ysgol. Felly mae y dryswyr yn brin iawn, pan ar yr un pryd mae rhieni y plant yn gwaeddi am eu help. Beth a wneir fel meddyginiaeth nid wyf mown sefyllfa i ymhelaethu ar y pwuc yn bre- senol, ond bydd i- mi gynyg eto pan gaf gyfle priodol. Mountain Ash. D. MORGAN.
ABERDAR—HADAU!
ABERDAR—HADAU! Dymunir alw sylw y rhai sydd ganddyct erddi at hadau digyffelyb Mr Thos. Whitty Evans, fferyllydd, Commercial street, Aber. dar, am y rhai y gwelir hysbysiad am dan- yut mewn colofn arall. Y mac had an Mr Evans wedi derbyn canmoliaeth uche] an. arferol yn ystod y blynyddau a aetharst heibio fel rhai i gynyrchu cnwd toreithiog. Cynghorir pawb i'w pwroasu yn ddioed. i
- Quinine Betters
Quinine Betters GWILYM EVANS. Y MAE hwn yn gymysg celfyddydgeg a ffodus dros ben. Cynwysa Quinine Sarsaprilla, Seffron, Lauender, Dande- lion. Gentian, a Burdock, sef yr oil o'f darpariadau a nodasom, yn y fath gy. modedd fel ag i sicrhau cydweithrediad llwyddianus ar yr oil o elfenau gweitb- gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyogela y dybenion daionus mewn golwg wrth ei gyfansoddi. Cyfaddefir gan brif fedd- ygon y dydd fod Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyal hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneud o'r cyffeiriau uchod.
EU GWEITHREDIAD.
EU GWEITHREDIAD. Y maent yn cynorthwyo traul yr ym3 borth, yn gwellhasu a hwylusu y cylchf rediad, yn cryfhau y giau a'r cyhyran. ac yn puro a ffrwythloni y gwaed. X mae y cymysglyn hwn yn gryfboir cytJ. redinol, ac yn lanhaydd effeithioL Nertha y rhanau eiddil yn y cyfansodd- iad, ac o herwydd hyny y rhai mwyat agored i anwydon a'u canlyniadau. U maent yn adnerthu ac yn adfywiochanJ cyfansoddiad a'r tymherau, ac ar gylril hyny y maent wedi enill iddynt eu hun- am y gymeradwyaeth uchelaf ar gyfal pob math o wendidau, a sefyllfa iseI, nychlyd, a marwaidd y corff. Pan yn galw sylw at y tystiolaethaa canlynol, dymnnem adgofio y darllenydfl eu bod oil yn dyfod oddiwrth bersonau cyfrifol yn ngwahanol gylchoedd cym. deithas, yn dyfod trwy fferyllwyi (chemists), adnabyddus y rhan umlirf a honynt, o bob rhan o'r wlad, yn cynwys I cyfeiriadau ac enwau y personau a'U preswylfod, ac yn tystioiaethu y gellir yn hawdd brofi eu teilyngdod drwJ: anfon at y personau eu hunain. Nil gellir dweyd fel hyn am lawer o dyst. tiolaethau ereill. Nid oes nemawr I ddiwrnod yn. myned heibio heb fod per- chenog y Bitters hyn yn derbyn cymer- adwyaethau i'w heneithiolrwydd. i Rose Cottage, Aberdar, Tachwedd lOfed, 1880. GAREDIG SYR,—Yr wyf yn awr wedi oaei cyfleu i wneud prawf teg a gonest o'r Qui. nine Bitters cyfansoddedig genych chwi, he yr wyf yn gallu tystio oddiar brofiad per- sonol a thystiolaethau amryw bersonau i bt rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitters, 811 bod yn meddu yr elfenau, y nodweddau, a'i rhinweddau a hawliech iddynt. Yn J flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm am wyth mis, ac y mae rhai o effeithiau y eye. tudd hwnw wedi aros gyda mi hyd heddyw. Bu yn achos 0 ddychryn i mi ddyfod o'i llofft ar hyd y grisiau i'r lla wr rhag cwympo. Bu y cof, y cylla, a'r aelodau yn peidio gwneud eu gwaith; ond mae y Bitters wedi gwneud llawer iawn er symud hyn oil Mae y cof yn llawer gwell, mae yr aelodau yn iach a chryfion, tra mae y Bitters yn creu awydd am fwyd, ac yn help mawr i dreulio yr hyn a dderbynir i'r cylla. Bu amser pan ag oedd dal yr ysgrifbin yn faich i mi, ond yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fel yn f dyddiau gynt, fel y gwelwch wrth y llythys hwn. Nid oes genyf yn awr ond dymuno O galon ilwyddiant i chwi i wasanaethu eiol) ^wlad a'ch cenedl am flynyddau lawevj Yr eiddoch, garedig Syr, yn wir wAmhng THOMAS PRICE, Baptist Minister. Llwynpia, Hydref 21, 1880. ANWYL SYR,—Wedi clywed llawer am FTIFTFI Quinine Bitters, penderfynais roddi prawf arnynt. Bum am rai misoedd yn cael fy mhoeni gan anliwylder cyffredinol, diffyg chwaeth at ddim, iselder ysbryd, ao an. brydiau poen angerddol rhwng fy ysgwydd- au, yn codi, yn ddiau, oddiar ajiechyd y Liver. Ond da genyf eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr iachad; teimlaf yn awr mot iach fy ngorff a bywiog fy ysbryd ag y teimlais nemawr erioed, wedi derbya 0 honwyf y budd hwn trwy gymeryd darpariaeth fyd-enwog. Mae dyledswydd yn fy ngorfodi i anfon y llinellau hyn, gan eich gosod at eich rhyddid i wneuthur y defnydd o fynoch o honynt. Dymunaf i ohwi bob llwydd i wasanaethu eich cenedl. Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES, Baptist Minister. Mynydd Cynffig, SYR,—Bum yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, diffyg archwaeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blin- der mawr. Prynais botelaid 4s. 6c. oddi- wrth Mr. Richard Jenkins, Kenffig Hill, ao ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi fy adferu i'm iechyd arferol, ac yn allu<Mt i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf we<S eu cymeradwyo i eraill, a thystiolaeth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn Ilea anrhaethol trwyddynt, a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amsez fel trysor penaf y teulu. JOHN LLWYD (loan Cynffig),