Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
.... - . - lit WYTHNOS.
lit WYTHNOS. MAv yddau ddyn-Kirkwood a Philip — y rL i a gymerwyd i fyny dan y cy- o fod a llaw yn lladrata corif Tari! D necht, wedi eu rhyddhau, trwy oad oe id digon o brofion yn eu herbyn. DYDf Gwener diweddaf bu farw '••Hcl^ev.'o'r enw Henry Terry, wyth oed v byw ynNowlais, mewn canlyn- iz.d. fn jreidiau a dderbyniodd y dydd 0 i Mav. rt' blaenorol. Yr oedd y trancedig Yr s L riandy Cwmbargoed, yn pwyso, .dro j. ac yn edrych ar y peiriant yn fgwoith: gan ysgwyd ei goesau oddi- Cafodd cranc yr engine afael yn u. )'i draed, yr hon a dorwyd. yn tfdair. Cariwyd ef i glafdy Dowlais, lIe y i, rwyd ei gymal ymaith, ac y bu -• vniau i- rw mewn canlyniad. jri o dafarnwyr Abertawe wedi ur -'< fewn yr wythnos a aeth heibio, y rh*; oeddynt Mr Cummings, York Hotei Mr Baker, Albion Stores; a 1 Mr Mr ey, y Centre Hotel. Beth yw v rhesw-.n fod mwy o'rdosbarth hwn yn iviarw Ci-jg un dosbarth arall—dosbarth 1 nghanol digonedd o'r ddiod 1 llesiol i bob peth? dydd Sadwrn diweddaf cymer- odd diuu vvain ofidus le yn ngwaitbf alcan Afoarcarr: trwy yr hon y lladdwyd ? .• hgtui o'r enw Thomas Brooks, 15 i1 v ny gan motion shaft y cold rolls. -,do ddringo dros y fence oedd o y peiriant, canys yr oedd o'r :1 i: v. i pan y deuwyd o hyd iddo. Ca. ROBy 27ain, teiinlwyd ysgyd- ;vad dh .rgrynfaol cryf yn Bellmzona, CiivoM Switzerland, yr hwn a barha- < dd am Iros 20 eiliad. C 'i;:1, RTH hysbysiad sydd wedi ein cyrhaedd o Rufain, dywedir fod pump o vsheiivJ penffordd wedi ymosod ar coach v ). agos i Baltavuturc, ond gorfu i'Mynt noi rhag dau filwr oedd yn y -yj-ch,. hladdwyd y cerbydwr. V ",J:. Mr Gwilym Williams, ynad f; Dosbarth Pontypridd, wedi •v. iod holl droseddwyr Llantri- sant, ac hefyd y rhai hyny o'r ochr isaf Llw) n\ pia a Ferndale, i gael eu profi p hyr« all on, bob dydd Mercher yn Pont- > ypno.d, y it lie ar ddyddLlun yny Pentre. RODD tan le dydd Llun diweddaf vu I-rloy, a hyny trwy gwympiad faIr:, • 'ffin. Llosgwyd i'r llawr fas- >rwr gwallt o'r enw Cook. .< s ei chwaer hefyd i farwolaeth. '1, (JÏl chwaer yn y prydnawn, ac r awa wedi colli ei olygon trwy ,-i.
■ \: 1 IN MEWN MWNGLODDFA…
■ 1 IN MEWN MWNGLODDFA t 40 0 FYWYDAU. f1 br v ah v«byaiftdx> Tie/jna, dydd Sul diwedw' SpMfamwain 9 0 Vvb;' i .;ryd lie mer^sawiigloddfager 'Tej i yy syrthiad tarol dirfawr, trwy vr iollo-dd deugain eu bywydau.
.. {jr/- • .I Y CHANNEL MEWNI…
{jr/- • I Y CHANNEL MEWN I AWYREN. CWYMPO I'R MOR, &C. 0-Cii A nodd Colonel Brine a Mr Si (y rhai sydd wedi bod er vs W l; l yn darparu i groesi y channel ''jDO'A'ii awyren), o Canterbury, amhaner r Wr,11 11 o'r gloch boreu dydd Sad- mt,, me vn awyren, gan fwriadu croesi y came be rhyngom a Ffrainc. Cododd yr R.vvwn yn gyflym, ond arafodd y gwylit nfawr,fel yr ymddangosai yr awyrer; am beth amser i aros yn yr un mai welid hi o Canterbury am 13 1 "> gwneud yn union am y mor. Cy odd "Dover ei'byn 12.45, 9,0 fel ya 1 am Boulogne. Pan yn ymylu at v gwelid yr awyren fel yn ayrthin. tie oddeutu deg milldir o Dover, gyriiik a i'r mor. Credir iddi syrthio vr bwipasol, am ei bod yn gwneud ayfoniad rhy ddwyreiniol, a hyny o Lot 4py«' troad sydyn yn y gwynt. Dy^orvd yr awyren a'r ddau oedd ynddi i Lovi-i gan yr agerlong Calais. Wrtb .ddiagyn, ffofynai Mr Simmons i Colonel Biw- -e>, ydym ni yn ddynion meirw?' I I ,-itebodd yntau, 'Nac ydym.' Nid Y w Mr Simmons yn credn y bydd l-ido wueud anturiaeth o'r fath eto.
A ;. )S BEADLAUGH ETO.
A )S BEADLAUGH ETO. V jae personauhyny syedyn erbyn Mr B^aJiaugh i ddyfod yn aelod sen- fcdxlol VvCui llwyddo eto i'w gadw allan. Ond Jiid dd eu mwyafrif y tio hwn ond 15. Y yn fwy na thebylt erbyn hyn fnai jciil yn erbyn Mr. BrHdlaugh fel .SOfTyd-di • y mae y bobl hyn fwyaf, ond yn ei tni :n o herwydd y gwyddant mai .ei anir-a.- cyntaf wedi dyfod i'r Senedd fvdd gv; ud ymchwiliad i Pension List v dey' a'i chodi fel us o flaen gwynt yhoed^. Wedi i'r llefarydd Vi'ae'il yn hysbys i'r ty fod y pender- i'yniau a wnawd yn gwrtliod i Mr f.yjSradia'iii gymeryd y llw ary7fedo ? (jhsvr wedi myned yn ddirym, cod- T !>dd M 1 St afford Northc.oat a chynygiodd fod y> ::n penderfyniad i'w gadarnhau. ''Or. d S: dodd Mr Edward Marjori- yr aelod dros Swydd Berwick, X*,twns i b^wb ddyfod o'r dyryswch, trwy gyuy | v gallai aelodau gymeryd y llw, mu lyacio. Dysgwylid y buasai hyn T" cl a dymuniad y mwyafrif yn v • >.d erbyn ymranu, cafwyd dros 4r Marjoribanks, 242; tra y ic: odd 257 yn ei erbyn. Ond yr Jd mwyafrif Syr Stafford Northcote is yn gymaint arall neu fwy.
Y BACHGENYN WALL A CHWMNI…
Y BACHGENYN WALL A CHWMNI ABERGORCI. Yr ydym yn cael fod Mr B. T. Wil- liams, barnwr y County Court, o flaen yr hwn y bu prawf y bachgen Wall, o dan Gyfraith 'Cyfrifoldeb y Meistri, wedi rhoddi dedfryd o blaid y bachgen, a'i fod i dderbyn yr iawn o 109p. 4s., heb- law yr holl gostau. Fe gofir fod y bach- gen yn drysio yn nglofa Abergprci, ac iddo golli ei fraich tra yn cyflawni y cyfryw orchwyl, a gofynwyd am yr iawn o 150p. odan Gyfraith Cyfrifoldeb y Meistri. Mae yn dda genym ddeall, heblaw fod y bachgen hwn wedi cael yr iawn, fod bechgyn ereill eisioes wedi cael manteision oddiwrth y prawf, trwy leihau eu gwaith a'r peryglon trwy hyny. Cawn fod bechgyn yn gyfiredin, y rhai sydd yn drysio, yn gorfod hefyd cyflawni gorchwylion ereill yn ami.
YMGAIS AT FYWYD Y FRENHINES.
YMGAIS AT FYWYD Y FRENHINES. Y mae bellach yn wybyddus trwy yr holl wlad fod ymgais wedi ei wneud ddydd Iau diweddaf at fywyd ein Gras- usaf Frenhines. Gadawodd ei Mawr- hydi .Balas Buckingham am haner awr wedi pedwar prydnawn dydd Iau di- weddaf, a chyda hi y Dywysoges Beatrice, gan yru i lawr i orsaf Padding- ton, a chychwynodd y cwmni Brenhinol o'r orsaf am ddeg mynyd i bump mewn cerbydres neillduol, gan gyi^haedd i orsaf Windsor erbyn pum' mynyd i chwech. Yma cerddodd ei Mawrhydi ar draws yr orsaf, ac i ystafell sydd wedi ei neillduo at wasa-naeth y teulu brenhinol. Yr oedd amryw foneddigion fel arfer yn gweinyddu iddi. Wedi arosiad byr yn yr ystafell, aeth ei Mawrhydi i'w cherbyd oedd yn aros, hi a'i merch ieuangaf. Fel arfer, pan y mae un o'r teulu brenhinol yn pasio, ac yn enwedig ei Mawrhydi, yr oedd cryn lawer wedi ymgasglu yn nghyd o am- Z5 gylch yr orsaf. Nid oedd y cerbyd ond braidd wedi cychwyn ei ffordd tua'r castell cyn i ddyn o ganol yr edrychwyr dynu allan lawddryll, gan ei anelu at y cerbyd brenhinol a saethu. Achoswyd y cynhwrf mwyaf yn mhlith yr edrych- wyr, y rhai a ymdawelasant i" raddau wedi deall nad oedd neb o'r cwmni "StT "1al frtdio.- Ni fu v person eiliad cyn bod nifer o r dorf wedi cydio ynddo-ar y naill ochr a'r 11 all, i ond ni wnaeth un ymgais at ddianc. Yr unig drafferth a gafodd yr heddgeidwad oedd cadw y dorf rhag ei niweidio yn I gorfforol am. yr ymgais mileinig yr oedd efe wedi ei wneud. Cymerwyd ef i orsaf yr heddgeidwaid, lie y gwnawd ar- chwiliad arno, ac y cafwyd yn ei fedd- iant nifer o saethau i'w lawddryll, dwy bib, pwrs bychan yn cynwys ceiniog a dimau, crib, hen scarf, a manion ereill. Dywedodd mai ei enw oedd Roderick McLean, ac yn 28 oed. Ymddangosai yn hynod o dlawd, a dywedai mai Gwydd- elod oeddynt ei rieni, ond wedi ei eni yn Oxford Street, Llundain. Siaradai yn dawel a phwyllog. heb yr arwydd lleiaf o unrhyw goll ar ei synwyrau. Bernid ar y cyntaf nad oedd mewn gwirionedd wedi amcanu dim niwaid, ond yn unig cyflawni gweithred ag y byddai yn sicr o gael ei gymeryd i fyny a'i garcharu am dani; ond wedi cael yr holl dystiolaethau, y mae yn fwy na thebyg ei fod wedi amcanu at fywyd ei Mawrhydi, ond wedi methu.
---.-----AT LOWYR Y RHOS,…
AT LOWYR Y RHOS, Y PARC, CAERBRYN, A'R GILFACH, 0 DDOSBARTH Y GLO CAREG. GYFEILLION,—Bydded hysbys genych y bydd Mr W. Abraham (Mabon), ar ran y cyfarfod misol, yn dyfcd i anerch y cyfarfod yn neu gerllaw v Colliers' Arms, Sharon, am ddau o'r gloch dydd Sadwrn nesaf, yr lleg cyfisol. Bydd ganddo genadwri neillduol atoch. Ceis- iwcli gyfatfod ag ef mor gryno ag y bydd yn bosibl. Dros y cyfarfod, E. REES, Ysg. 0.
AT WEITHWYR Y WERNDDU, CAERFFILI.
AT WEITHWYR Y WERNDDU, CAERFFILI. FY ANWYL GYDWEITHWYR,—Yn gy- maint a bod y gwaith uchod wedi ei crv^bwvn yr ail waith, buddiol i chwi fyddai edrych mewn i'chplith{eichhunain a oes rhywbeth allan o'i le genych. Y mae lie i ofni fod. Y si sydd ar led yw hyn:-l. Yr headings o dan yr hyn a ddylent fod. 2. Nad ydych wedi cael y pump y cant codiad diweddaf Gyd- weithwyr, yr ydym yn taer ddymuno arnoch i anfon cenad i gyfarfod y dos- barth y tro nesaf, yr hwn a gynelir yn y Royal Oak, Bedwas, fel y gallom gael perffaith ddealltwriaeth pa fodd y saif pethau yn eich plith. Terfynaf gan obeithio y caiff y nodyn hwn y sylw dyladwy yn eich plith. Dros y pwyllgor, LOTO. DYDD Sadwrn diweddaf deuwyd o hyd i gorff plentyn newyddanedig mewn closet yn y Fochriw, ger Dowlais.
23 O DDIWRNODAU MEWN BAD AGORED.
23 O DDIWRNODAU MEWN BAD AGORED. Dichon mai nid annerbyniol fyddai gan eich lluaws ddarllenwyr yr hanes am y trueiniaid a fu cyhyd a 23 o ddydd- iau ar y mor mewn bad agored. Y mae genyf lythyr oddiwrth un o honynt o fy mlaen yn awr. Dywed:- It Cyrhaeddais yma, sef San Francisco, ar y 30ain o Ionawr, 1882, yn y llong Decking, perthynol i Greenock, yr hon a'n pigodd ni i fyny ar y mor, a'r hon a gyrhaedd- odd yma yn mhen pymtheg nos wedi ein pigo i fyny. Cynaerodd ein llong ni, sef y Milton, o Liverpool, dan, trwy yr hwn y llwyr ddinystriwyd hi, a hyny ddau ddiwrnod cyn y liadolig diweddaf, a buom yn y cwch hyd y 15fed o Ionawr, a hyny yn gwneud 23 o ddyddiau—tri o'r rhai hyny heb na thamaid na llym- aid, a phan y cymerwyd ni i fyny i'r llong Cocking, yr oeddem yn analluog i sefyll ar ein traed. Aeth tri cwch oddi- wrth y llong pan y cymerodd y tan le. Yr oedd saith o bersonau yn y cwch yr oeddwn i ynddo, yn cael eu gwneuthur i fyny gan y steward, pump o forwyr, a mi y Z, fy hun. Yr oedd naw yn nghwch y cadben, sef y cadben, ei wraig, dau o blant, pedair a dwy flwydd oed, y saer, yr ail fate, a thri morwr. Yn nghwch y mate yr oedd y mate, y cook, a phump morwr, a dyna sydd yn druenus, y mae y ddau gweh, sef eiddo y cadben a'r mate, yn eisieu o hyd. Pan gymerodd y llong dân yr oeddem 1,800 o filldiroedd oddiwrth dir. Yr oeddem yn y Lat 3-30. N., Long. 1-10. W., pan y cymer- wyd ni i fyny, yr oeddem yn y Lat. 21 N., Long. 122 W. Gwelwch fel y cur- wyd ni gan y tonau. Cadwodd y consul Prydeinig ni am wythnos, ond yr ydym ar ein traul ein hunain yn awr. Mae yma waith haiarn. Cymry sydd yn gweithio yma agos i gyd. Yr wyf wedi cael addewid o waith yma. Yr wyf yn gorfod talu pum' doler yr wythnos am fy mwrdd, heb na gblch na chyweirio, ac yn gorfod talu am hyny ar wahan. Yr eiddoch. G WILLIAMS." Mab ydyw George i James Williams, Mab ydyw George i James Williams, squeezerman, Ystalyfera, yr hwn sydd yno yn gweithio er ys pymtheg mlynedd 0 ar hugain. Wel, wyr Ystalyfera, beth pe buasech chwi yn dangos eich cy^ru> deinilad Tnewn at James Williams, yr hwn sydd yn eich plith er's cymaint o amser, trwy godi trysorfa, a'i lianfon i George er ei gy- northwyo yn ngwlad bellenig California. .P lp Y mae, yn ddiau, wedi colli y cwbl, ac yn awr mewn gwlad estronol. Cymer- wch y peth at eich ystyriaeth. Ymys- gydwch heb oedi. Chwithau hefyd, wyr Workington, y mae George Williams wedi bod yn gweithio blynyddoedd yn eich plith, deuwch allan fel un gwr i'w gynorthwyo. Bydd ei dad yn wir ddi- olchgar am bob rhodd er cynorthwyo ei unig fab yn y wlad bell, yr hwn, yn ddiau, sydd mewn eisieu. Beth pe byddai ei ewythr, Caleb Jones, yn gaf- aelyd yn y peth. Sicr yw y buasai y gwaith yn llwyddo yn Haw Caleb yn Ystalyfera. Beth bynag, os bydd ar galon gwyr Workington i wneuthur rhywbeth, y cyfeiriad yw James Wil- liams, squeezerman, at Robert Scott, Canal Row, Ystalyfera. Llanelli. IOAN YSTWYTH.
DARGANFYDDIAD HYNOD YN LIVERPOOL.
DARGANFYDDIAD HYNOD YN LIVERPOOL. Y mae daiganfyddiad hynod wedi cael ei wneud gan swyddogion plwyfol Liverpool. Yr oedd gweddw, o'r enw McKenna, 60 oed, yn ddiweddar o Glas- gow, wedi gwneud cais am gynorthwy, pryd y cynygiwyd iddi fyned i'r tlotdy, ond a wrthododd. Pan aeth swyddog y plwyf i'r seler lie yr oedd yn byw, cafodd y lie yn y fath gyflwr, fel y gorchymyn- odd ei symud ar unwaith i'r tlotdy. N id oedd ond carpiau aflan am dani, a'r rhai hyny yn llawn o bryfaid byw. Yr oedd ganddi hefyd glwyf ar ei gwyneb, yr hwn a wnawd gan gnoad llygoden tra yr oedd hi yn cysgu. Wedi gwneud ar-j chwiliad i'r seler, cafwyd yn mhlith pethau ereill, ei fod yn fyw o lygod. Yr oedd yno amryw gistiau deri, y rhai a gynwysent ddillad, a dillad gwely rhag- 0 tD orol, cwdaid mawr o bluf, oriawr a chadwen arian, peth Uestri arian, yn nghyda 120 o bunoedd mewn aur. Yr unig ddodrefnyn oedd hen esmwythfainc, ar yr hon yr arferai gysgu.
. LLIFOGYDD YN AMERICA— 12,000…
LLIFOGYDD YN AMERICA— 12,000 0 BERSONAU HEB DAI. Oddiwrth yr hysbysiadau diweddaraf sydd wedi cyrhaedd y wlad hon o New York, cawn fod y gorlifiadau yn cynyddu yn fawr dros ddyffryn y Mississippi Isaf. Dywedir hefyd fod pentrefi Rev- erton ac ereill wedi eu gorchuddio, amryw bersonau wedi boddi, ac ereill ar goll, a nifer fawr o'r boblogaeth yn dianc am noddfa. Bernir fod o leiaf 12,000 o bersonau wedi eu gwneud yn ddigartref, a bod 20,000 o dda wedi eu boddi yn Arkansas.
SAITH A DEUGAIN 0 BERSONAU…
SAITH A DEUGAIN 0 BERSONAU WEDI EU BODDI. Y dydd o'r blaen cyrhaeddodd ager- long lythyrgodol i Liverpool o West Coast, Affrica, yr hon a'n hysbysa fod bad yn Lagos wedi troi wyneb i waered tra yn croesi y Lagorn. Allan o'r 60 oedd use ei bwrdd collodd 47 eu bywydau.
. HAIARNWEITHWYR TREDEGAR.
HAIARNWEITHWYR TREDEGAR. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, cy- naliwyd cyfarfod gan weithwyr haiarn Tredegar yn y Globe Inn, a daeth nifer fawr yn nghyd. Wedi ethol llywydd, dechreuwyd siarad am y gyflog bresenol a delir yn Tredegar, am yr hon yr ach- wynir yn fawr, am ei bod islaw lleoedd ereill yn yr un sir. Y mae yn wybydd- us fod pydlers y Blaenau, Abertileri, Abercarn, Pontypwl, a Chwmbran, yn cael 8s. y dynell-pwysau byr-am yr un haiarn ag y mae yr un dosbarth yn Nhredegar yn ei weithio am 6s. a 6c. c bounty, ond os collir un heat yn yr wyth- nos, fe gollir y 6c. olaf. Y mae yr ail law yn cael 9c. o bounty, ond os bydd yn absenol am un dydd yn yr wythnos, fe gyll yntau ei 9c. Cafwyd adrodd- iadau o leoedd ereill, wedi yr hyn y penderfynwyd rhoddi mis o rybudd y dydd Mawrth presenol, os na chelid yr un bris a lleoedd ereill am yr un fath waith.
DAMWAIN ARSWYDUS YN GOWER…
DAMWAIN ARSWYDUS YN GOWER ROAD-AMAETHWR WEDI El DDARNIO. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, pan yt oedd cerbydres o gerbydau gweigi|n yn dychwelyd ar linell y Londoiji and North Western, o Bontar- ddulais i Abertawe, ac yn myned yn gyflym rhwng gorsafoedd Gorseinion a G ower Road, deallodd y peirianwr fod y peiriant wedi myned ar draws rhyw- beth ar y linell, ac ataliodd y peiriant. Yna cafodd gorff dyn wrth y lifeguard y peiriant, yr hwn oedd wedi ei ddryllio yn arswydus. Cymerwyd y corff i orsaf Gower Road, lie yr adnabyddwyd ef fel eiddo Mr Jenkin Jones, Coed Ceridwen, ger Llwchwr. Pan yr aeth yr heddgeid- 3 0 waid i chwilio ar y linell, cafodd heb a qhofc « trancedig heb eu cyffwrdd, ei driawr wed! el thori yn ysgyrion, ac amryw fathodau arian a phros yma a thraw. Yr oedd y corff wedi ei lusgo am gryn belldsr, trwy fod gwaed i'w weled yma a thraw ar hyd y linell. Yr oedd yn ddyn a gerid yn fawr, yn 28 oed, ac yn ddyn sengl.
MARWOLAETH MR. EDWIN JAMES.
MARWOLAETH MR. EDWIN JAMES. Y mae y dadleuydd cyfreithiol enwog, Mr Edwin James, wedi anadlu ei olaf er dydd Sul diweddaf. Y mae wedi bod am gryn amser yn gwaelu o ran ei iechyd, a dydd Sul diweddaf cafodd ei wraig ef wedi marw yn ei gadair. Bu unwaith yn cynrychioli Marylebone yn y Senedd, ac yn Tecorcler Brighton. Yn mhen amser, modd bynag, cododd rhyw amheuaeth am ei gyfrifon'* ariaiiol, a chollodd ei sedd yn y Senedd, a chafodd wedi hyny ei dori o gymdeithas y bar- gyfreithwyr. Pan yn ddadleuydd, nid oedd neb i'w gystadlu ag ef, ac yn gwneud o leiaf 12,000p. y flwyddyn. Wedi hyny, aeth ilr America, ac am beth amser bu yn ddadleuydd yn llysoedd uchaf yr Unol Dalaetliau, ond wedi hyny cafodd ei atal, fel nad oedd ganddo ond y llysoedd iselaf. Elfeithiodd ei ddarostyngiad yn fawr ar ei iechyd, ac aeth yn hynod diawd o ran ei amgylch- iadau.
II Y S&NEDD.
Y S&NEDD. Cyfeiriasom yn ein hanes Seneddol yr wytliiiOS ddiweddaf, fod Mr Gladstone wedi gofyn caniatad i ddwyn i sylw Ty y Cyff redin bleidlais geryddol ar Dy yr Arglwyddi am eu cynygiad annheg fel Arglwyddi, a'u penodiad o bwyllgor ymerodrol i chwIlio i mewn i weithrediadan y Ddeddf Dirol yu yr IwerudoD, ac iddo gael mwyafrif mawr i'w gefnogi i ddwyn ei gynygiad yn miaen. Gwnaetli hyny, a rhoddodd araeth gwertli ei hargraffu mewn llytliyrenau o aur, a gohiriwyd y ddadl. TY YR ARGL WYDDI,-Dytld Maurth. Dygodd larll Stanhope jynygiad ail dar- lleniad y Mesur er rheoleiddio hyd oriau maelfaoedd, ond wedi ychydig siarad dros ac yn erbyn hyuy, tynwyd y mefurynol. Ar gynygiad Iarll Dalhousie, ailbenodwyd y Pwyllgor tlioledig er ymchwilio i sef- yllfa y gyfraith mewn perthynas a dyogel- iad neu amddiffyiiiad mercliedienainc rhag dichellion i'w denn i arwain bywyd llygr- edig, ae iTr moddion i ddiwygioy cyfryw. TY Y CYFFREDIN.-Dydd Mawrth. Cyflwynodd Mr Stanley ddeiseb oddiwrth Fwrdd Ysgol Llundain yn erfyn ar fod ystorfeydd elusenol y ddinas, cyn belled ag yr oeddynt yn gyniwysiadol at addysg, i gael eu cymwjso or ychwanegn addysg, a sefydlu ysgoiion celfyddydol. Dywedai Syr C. Dilke, mewn atebiad i Mr J. Pease, nad oedd y trefniant mewn perthynas i Budd yr opium j cytunwyd arno yn aninhen- odol yn nghyuadledd Chefoo hyd eto wedi ei H gadarnhau, ond nad oedd yr un achwyniad wedi cael eiwnead gau Ly wodraeth China am yr oediad oedd wedi cymeryd lie er penderfynu y cwestiwn hwn. Dywedai Mr Gladstone, mewn atebiad i Syr Massey Lopes, nad oedd y Weinvddiaeth wedi bod yn ddisylw o'r ymrwymiad a wnaethpwyd a Thy y Cyffrediu yn yr eisteddiad di. weddaf ar y pwnc o waith swyddogol, yn beuigol mewn perthynas ag amaethydd- iaeth a thrafnidiaeth, ond nad ystyrient yn briod61 i hysbysu eu cynllun hyd oni ddynesai yr amser y gallent gael barn y Ty ar ba drafnidiaeth argyllidol y gallasai oblygu. Bu hefyd gryn dipyn o siarad ar etholiad Michael Davitt, yr aelod Seneddol dros Meath, yr hwn sydd yn bresenol yn garcharor dan ddedfryd o 15 mlynedd o wasanaeth penydiol, trwy i'r Cyfreithiwr Cyffredinol gynyg nad oedd Mr Davitt yn deilwng i eistedd a pbleidleisio yn Nhy y Cyffreain; a chynygiwyd gwelliant gan Mr McCarthy.—" Fod pwyllgor i gael ei benodi i chwilio i'r hwn gwestiwn," a chafwyd Dros welliant Mr McCarthy. 23 Yn ei erbyn. 242 Mwyafrif yn ei erbyn. 213 Rhoddwyd y cynygiad gwreiddiol o flaen y Ty, ac ymranwyd eilwaith, a chafwyd Dros y cynygiad. 208 Yn ei erbyn. 26 Mwyafrif drosto. 188
TY Y CYFFREDIN .-Dydti Iau.
TY Y CYFFREDIN .-Dydti Iau. Yn Nhy y Cyffredin heddyw yr oedd 47 o gwestiynau ar y papyr, ond ychydig o honynt oedd o bwys i'r cyhoedd. Ar y cwestiwn a gyfeiriwyd at yr Ysgrifenydd Cartrefol gan Mr Stanley Leighton, caf- wyd rhyw gymaint o ddadleu bywiog. Dymunai Mr Leighton gael gwybodlos oedd yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi ceisio gan awdurdodau Ileol sir Fflint i wneud ychwanegiad yn yr beddgeidwaid lleol mewn trefn i fforddio amddifiyniad anar- ferol i Brif Arglwydd y Trysorlys, ac os oedd y Llywodraeth wedi gwrthed talu y draul. Dywedai Syr W. Harcourt fod cyf- arwyddiadau cyffredinol, rhyw gymaint o amser yn ol, wedi cael eu hanfon allan i'r awdurdodau lleol drwy y wlad yn galw eu sylw at yr angenrbeidrwydd am ragofalon ychwanegol; beth oedd efe yn weled yn angenrheidiol, ac yn cael ei gyfiawnhau gan y cynygiad i chwythu yn deilchion y Mansion House yn Llundain, a'r Neuadd Drefol yn L'erpwl. Aeth y boneddwr an- rhydeddus yn mlaen i ddweyd ei gredin- iaeth nad oedd yr ysbryd yn yr bwn yr oedd y cwestiwn wedi ei ffurfio, yn cynrychioli gulygiadau trethdalwyr sir Fiimt, pryd y rhwystrwyd ef gan ysgrechfeydd a bloedd iadau oddiar y meinciau Toriaidd. Ym drechodd yr Ysgrifenydd Cartrefol am amser i ymlwybro yn erbyn wbiadau y Toriaid, ac a lwyddodd i raddau, ond ni orphenodd ei ateb. Mewn atebiad i gwest- iwn oddiwrth Mr Givan, dywedai y Prif Weinidog, nad oedd yn bwriadu mor gynar i ddwyn i mewn Fesur er gwellbau unrhyw ran o Ddeddf y Tir yn yr Iwerddon. Ad- gymerwyd i fyny y ddadl ar benderfyniad Mr Gladstone yn nghylch penderfyniad Ty yr Arglwyddi a Deddf Tir yr Iwerddon, gan Mr Sexton, yr hwn, mewn araeth hir- faith, a geisiodd brofi fod y ddeddf wedi troi yn fethiant oddiar yr olwg o du y deiladon. Dilynwyd ef gan Syr M. Hick- Beach, mewn araeth hirwyntiog Doriaidd, er cynyg dangos fod y ddeddf yn fethiant yn yr olwg oddiar ochr y meistri. Awgrym- ai y boneddwr anrhydeddus y dylasid gwneud rhywbeth dros y tirfeddianwyr- rhywbetb mewn ffordd o lavd bank, yr hwn ddylasai weithredu fel cyfryngaeth rhwng meistri a deiladon i warantu y j.urvha*e money mewn achosion yr ewyllysiai y deil- iaid brynu eu deiliadaeth. Dywedai Mr O'Shanyhnessy, mai ei farn ef oedd y byddai ymholiad yn bresenol i Ddeddf y Tir yn ystryw, ac yn llawn perygl i hedllwch yr Iwerddon. Tynodd Syr Henry Bruce ddarlun truenus o'r tirberchenog Gwydd- elig wedi ei yru i hinsoddau ereill; a Mr Dickson a ddywedai fod penodiad y pwyll- gor gan yr Arglwyddi yn cael edrych arno gan ffermwyr Ulster gydag ofn a braw. Dyfynodd Mr Dickson gofres hir o achos iou lie yr cedd gostyngiad o 20 i 25 y cant wedi cael ei ddwyn oddiamgylcli drwy setlo allan o'r llys drwy ymddyddanion cyfeillgar rhwng y tirfeddianydd a'i ddeil- iad. Siaradodd amryw ereill. a dilynwyd hwynt gan Gyfreithiwr Cyffredinol yr Iwerddon, a Mr Plunket: ac ar gynygiad Mr Russell gohiriwyd y ddadl. Mewn atebiad i Mr Ashmead-Bartlett, dywedai Syr C. Dilke fod y cytnndeb rhwng Rwsia a Persia, a wnaethpwyd yn Teheran yn necbreu Ionawr, yn darnodi y terfyn rhwng Persia a'r Turkestan Rwsiaidd i'r pwynt pellaf yn y Dwyrain. yn ngbylch 150 o filldiroedd o Sarakhs, ar hyd y ffordd. Nad oedd yr un hawldro^iad tu hwnt i'r pwynt hwn, neu yn cymeryd i fewn uu rhan o Keshef Kud wedi cael ei wneud i Rwsia. ac nad oedd gonym un sail i gredu y bydd unrhyw fynediad pellach gan y milwyr Rwsiaidd, fel y tyblr gan yr aelod anrhydeddus. Dywedai Mr Gladstone mewn atebiad i Mr O'Donnell, nad oedd y Llywodraeth wedi clywed am un g" eitl.1, rediad bwriadol o eiddo y ffermwyr Cy mreig yn erbyn incoming occupants o fferm- ydd ag yr oedd yr hen ddeiliaid yn parhau i honi yr un hawl foesol. Wedi ymdrafod a llawer o fan faterion ereill, darllenwyd y Mnncipal Corporations Bill yr ail waith, a'r Conpolidated Fund Bill (rhif 1) yr ail waith. Wedi i'r Ty ymffurfio yn bwyllgor, pasiodd Mesur Ffrwydriad Berwedyddion drwy y pwyllgor. Wedi ymholi ac ateb mewn perthynas i'r ymosodiad mileinig ar fywyd ein Grasusaf. Frenhines y diwrnod hwnw, gohiriwyd y Ty am ychydig wedi un o'r gloob boreu dydd Gwener.
Quinine Bitters
Quinine Bitters GWILYM EVANS. Y MAE hwn yn gymysg celfyddydgai a ffodus dros ben. Cynwysa Quinine Sarsaprilla, Srffron, Lauender, Dande- lion. Gentian, a Burdock, sef yr oil 0" darpariadau a nodasom, yn y fath gy. modedd fel ag i sicrhau cydweithrediad llwyddianus ar yr oil o elfenau gweith- gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyogelu y dybenion daionus mewn golwg wrth ei gyfansoddi. Cyfaddefir gan brif fedd- ygon y dydd fod Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyal hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneud o'r cyffeiriau uchod.
EU GWillTHREDIAD.
EU GWillTHREDIAD. Y maent yn cynorthwyo traul yr yrr • borth, yn gwellhaai a hwylusu y cylch. rediad, yn cryfhau y giau a'r cyhyran, ac yn puro a ffrwythloni y gwaed. Y mae y cymysglyn hwn yn gryfboir cyff- redinol, ac yn lanhaydd effeithiol. Nertha y rhanau eiddil yn y cyfansodd- iad, ac o herwydd hyny y rhai mwyal agored i anwydon a'u canlyniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adfywiochan y cyfansoddiad a'r tymherau, ac ar gyfril hyny y maent wedi enill iddynt eu hun- ain y gymeradwyaeth uckelaf ar gyfet pob math o wendidau, a sefyllfa isel, nychlyd, a marwaidd y corff. Pan yn galw sylw at y tystiolaethan canlynol, dymnnem adgoflo y darllenydd eu bod oil yn dyfod oddiwrth bersonau cyfrifol yn ngwahanol gylchoedd cym- deithas, yn dyfod trwy fferyllwyr (chemists), adnabyddus y rhan amlaf o honynt, o bob rhan o'r wlad, yn cynwya cyfeiriadau ac enwau y personau a'u preswylfod, ac yn tystioiaethu y gellir yn hawdd brofi au teilyngdod drwy anfon at y personau eu hunain. Nia gellir dweyd fel hyn am lawer o dvst- tiolaethau ereill. Nid oes nemawr i ddiwrnod yn myned heibio heb fod per- chenog y Bitters hyn yn derbyn cymer- adwyaethau i'w heffeithiolrwydd. Rose Cottage, Aberdar, Tachwedd lOfed, 1880. GAREDIG SYR,—Yr wyf yn awr wedi cael cyfleu i wneud prawf teg a gonest o'r Qui. nine Bitters cyfansoddedig genych chwi; ao yr wyf yn galhi tystio oddiar brofiad per. sonol a thystiolaetliau amryw I -ersonau i ba rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitters, en bod yn meddu yr elfenau, y nodweddau, a'r rhinweddau a hawliech iddynt. Yn y flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm &m wytli mis, ac y mae rliai o effeithiau v eye. tudd hwnw wedi aros gyda mi hyd heddyw. Bu yn aciiqs o ddychryn i mi ddyfod o'z llofft ar hyd'y grisiau i'r llawr rhag cwympo. Bu y cof, y cylla, a'r aelodau yn peidio gwneud eu gwaith ond mae y Bitters wedi gwneud llawer iawn er symud hyn oil Mae y cof yn Ilawer gv/ell, mae yr aelodau yn iach a ehryfion, tra mae y Bitters yn creo awyddam fwyd, ac yn holp mawr i dreulio yr hyn a dderbynir i'r cylla. Bu amser pan ag oedd dal yr ysgrifbin yn faich i mi, ond In yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigiyn fel yn y dy ddiau gynt, fei y gwelwch wrth y llythyr hwn. Nid oes genyf yn awr ond dymuno o galon llwyddiant i chwi i wasaiiaethu eich gwlad a'ch cenedl am fiyuydàau lawer 0 19 dd'od. Yr eiddoch, garedig Syr, yn wir serchog THOMAS PRICE, Baptist Minister, Llwynpia, Hydref 21, 1880. ANWYL SYR,—Wedi clywed llawer am eich Quinine Bitters, pend erfynais roddi prawt arnynt. Bum am rai misoedd yn cael fy mhoeni gan anhwylder cyffredinol, diffyg chwaeth at ddim, iselder ysbryd, ac ar brydiau poen angerddol rhwng fy ysgwydd- au, yn codi, yn ddiau, oddiar afiechyd y Liver. Ond da genyf eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr iach ad teiijilaf yn awr mor iach fy ngorff a bywiog fy ysbryd ag y teimlais nemawr erioeii, wedi derbyn a, honwyf y budd hwn trwy gymeryd eich. darpariaeth fyd-enwog. Mae dyledswydd yn fy ngorfodi i anfon y llinellau hyn, gan eich gosod at eich rhyddid i wnenthur y dciinydd o fynocli o honynt. Dyruunaf lohwi. bob llwydd i wasanaethu eich cenedl. Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES. Baptist Minister. Mjnuydd Cynffig SYR,—Bum yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, (tiffyg archwaeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blin-, der mawr. Prynais hotel aid 4s. 6c. oddi* wrth Mr. Richard Jenkins, Kenftig Hill, act ar ol i mi ei chymeryd, teimlais iy hun wedi fy adferu i'm iechyd arferoi, ac yn allnog i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf wedi eu eymeradwyo i eraiil, a thystiolaeth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn lies anrhaethol trwyddynt, a byddai yn teiinlo yn ddyledswydd arnat eu cadw bob amser fel trysor penaf y teulu. JOHN JLLWYD (loan Cynftig)"
GOFALED PA\^B AM HFN.
GOFALED PA\^B AM HFN. Gan fod amrywiolp ddarpariadan 0 Quinine i'w cael, megys Tincture of Quinine, Quinine Wine, Quinine Mix- ture, &c., y mae rhai ymdfynwyr am Quinine Bitters Mr. Gwilvm Evans yn cael eu twylJo a'r pethau hyn yn y modd mwyaf dideimiad a digvwilydd Wrth geisio hwn gar. yr Apothecary nid digon yw gofyn fel hyu. "Potelaida Bitters," "Potelaid o Quinine Bitters," nac ychwaith "Y Quinine yna," ond gofaler gofyn am "Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans," ac os na fydd yr enw Gwilym Evans, F.C.S.,M.P.S., wedi ei ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth ar bob potel, twyll a ffugiad ydynt. Pris y Potelau yw 2s. 9c. i 4s. 6c.; mewn blychau, 12s. 6c. yr un. Cynwysa Poteli 4s. 6c. ddau eymaint a rhai 2s. 9c., ac felly gall y prynwf arbed Is. wrth gymeryd y rhai mwvatj