Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

DYDDIAU MARI WAEDLYD.

News
Cite
Share

DYDDIAU MARI WAEDLYD. PENOD III. Pan y daeth y peth yn wybyddus trwy y deyrnas fod Mari yn myned i briodi brenin Spain, cyfododd anfoddlonrwydd cyffredinol Cyffrowyd Tv y Cyffredin. Anfonasant o'r Ty an or ch i act at y freahines yn deisyf arni beidio priodi dyeithr-ddyn. Y canlyniad o hyny fu iddi hi dori y Senedd i fyny. Gyr- oad yr aelodau tuag adref. Yr oedd hyny yn brawf nas gall Pabyddiaeth gydfyw a rhyddid gwladwriaetbol. Gormesdeyrn yw yr unig ffurf o lywodraetliu sydd yn ateb i daedd Pabyddiaeth. Difotha y dyn gorff ac enaid, a'i wneud yn gerpyn dienaid, slafaidd at amcanion y Babaeth, yw elfen hanfodol Egiwys Rhufaic. Ond er i'r Senedd gael ei datod, yr oedd y Prif Weinidog drwg, Gardiner, yn gweled fod elfenau perygius i'w amcanion ef yn y v4ad. Gan hyny, efe a anfonoda at yr Yfnerawdwr Charles V. nas gellid sicrhau Eriodas Mari a'i fab ef, sef brenin Spain, eb lwgr-wobrwyo dynion dylanwadol a Ilawer o arian. At yr amcan hwnw ben- Gwelir •' wrth hyn fod y Babylon Rufeinig yn barod i geisio cario eu hamcanion hi allan, trwy fQddloni eliwantau cybyddlyd dynion am arian. Felly, trwy gynyrchu y pechod o atluiaaddoJiaeth yn nghalopau dynion,- oblegyd dywod y Beibl mai eiiunaddoliaeth yw cybydd.dcd,-y mae y Babaeth yn gosod i fyny ei mawiedd a'i dylanwad uffernol. Cyfarfu cynadiedd yr offeiriaid y pryd hwnw. Dewiswyd y creulon-ddyn hwnw a elwid esgob Bonner i fod yn llywydd y gynadledd. Gosododd Mari ef yn esgob Llundain. Ac mor gynted ag y cafodd awdurdod fel esgob, trodd bob offeiriad a feddai wraig briod o'i fywioliaeth. Gosod. odd yr offeren i fyny yn eglwys St. Paul yn Llundain. Cawn weled rhagllaw, os yr Arglwydd a'i myn, pa greulonderau tuag at Brotestaniaid y bu y dyhiryn hwn yn euog o honynt. Pregethodd ei gaplan ef yn nechreu cynadiedd yr offeiriaid oddiar Barnwyr v. 7, 8. Pan y mae offeiriaid Pab- aidd yn defnyddio adnodau y Beibl eu harfer yw eu gwyrdroi allan o'u hystyr priodol. Felly y gwnaeth y caplan uchod. Y geir- iau yn yr adnodau uchod ydynt fel y can. lyn :—" Y maesdrefi addarfuant yn Israel; darfuant nes i mi Deborah gyfodi; nesi mi gyfodi yn fam yn Israel. Dewisasant dduwiau newyddion yna rhyfel oedd yn y pyrtli; a welwyd tarian ria gwaywffon ym mysg deugain mil yn Israel ?" Fel y can- lyn y gwyrdrodd y Pabydd y geiriau uchod: Darfu crefydd yn Lloegr. Gorphwysodd nes y cyfododd Mari. Cyfododd gwyryf yn Lloegr. Yr Arglwydd a ddewisodd rhyfel- oedd newydd." Byddai yn anmhosibl gwyrdroi geiriau y Beibl yn fwy llwyr at bwrpas llygredig y Babaeth. Pwy ond Pabydd o dan lywodraeth y diafol fuasai yn meddwl gosod y sarff wenwynig Man Waedlyd yn rh^gtr proffwydesau duwiol- frydig ysbrydoledig fel Deborah? Ond gadawodd y Pabydd allan y geiriau dewis. asant dduwiau newyddion." Y mae y Pab. yddion yn pasio heibio geiriau y Beibl yn erbyn eilunaddoliaeth mewn modd shy iawn. Ymddengys fod eu cydwybodau yn cyfodi yn eu herbyn pan welant eiriau yn ngair Duw yn dangos drygedd eilunaddol. iaeth. Yr oedd Deborah dduwiol yn erbyn eilunaddoliaeth. Ond gwyddent hwy fod Mari Waedlyd yn aiddoli delwau creaduriaid. Ceisiodd y Pabydd uchod ddiraddio y dywysoges Elizabeth, gan gydmaru Mari Waedlyd i -Mair, chwaer Lazarus. Yr un peth fuasai dweyd fod Beelzebub yn angel glan fel Gabriel a dweyd hyny. Dywedodd fod Mari Waedlyd wedi "dewis y rhan oreu," gan goffhau geiriau Crist yn ol y cyfieithad Pabyddol, "rhan oreu" yn lie rhan dda," y rhai oedd y geiriau a ddefn- yddiodd Crist yn nghylch dewisiad Mair t, chwaer Lazarus, yn ol yr iaitli wreiddiol on Groeg. Diiyn dynion y mae y Pabyddion mewn cyfieithadau, syniadau, ac arferion, ac nid dilyn Ysbryd Duw. Ond er fod y Pabydd wedi coffhau fod Mari wedi "dewis y rhan oreu," ni ddywedodd yr hon ni ddygir oddiarni." Nid oedd yn gallu mentro hyny. Oblegyd pe buasai efe yn dweyd hyny, ni allasai ei wrandawyr gredu mai yr Eglwys Babaidd, i deyrnasu yn Lloegr, oedd y rhan, oblegyd nid oedd sicrwydd na buasai gwaith ac awdurdod Mari Waedlyd yn sefydlu Pabyddiaeth yn Lloegr yn cael ei gymeryd oddiarni. Hyny a gymerodd le mewn ychydig flynyddoedd. Wrth wneud rhan Mari Waedlyd yn un ddaearol, ni allai y Pabydd sicrhau parhad yn ei meddiant o honi. Dangosodd y Pabydd wrth hyny ei fod yn camddefiayddio geiriau Crist, oblegyd yr oedd "rhan" Mair, chwaer Lazarus, yn un na ellid ei chymeryd oddiarni. Yr oedd y rhan hono, gan hyny, o angenrheidrwydd yn un ysbrydol, gan fod pob rhan ddaearol yn ansicr. Yn nghynadledd yr offeiriaid. a agorwyd yn y bregeth annuwiol uchod, melldithiwyd y Brotestaniaeth a osododd Edward VI yn yr Eglwys Sefydledig. Dywedodd Philpot, un o'r chwe' offeiriaid Protestan- aidd oedd yn y gynadledd, nad oedd yn iawn myned yn ol at hen draddodiadau yn h) trach na gair Duw. Ond yr oedd y mwyafrif yn y gynadleddd o blaid Pab- yddiaeth. Ac er fod y gwirionedd yn cael ei ddweyd wrth y Pabyddion oedd yno, mewn ffordd nas gallent ei wrthwynebu a rheswm, aeth eu cynddeiriogrwydd mor gryf fel y gorchymynasant i'r Protestaniaid fod yn ddystaw. Yr oedd y Pabyddion yn rhuo fel anifeiliaid gwylltion. Dywedodd un Pabydd ffyrnig oedd mewn awdurdod, wrth Philpot, Y mae y gair genych chwi, ond y mae y cleddyf genym ni." Ar y cleddyf, nid ar y gwirionedd, y mae yr Egiwys Babaidd yn ymddibynu. Y Pab- yddion oedd wedi herio y Protestaniaid i ddadleu a hwynt; ond wedi ffaelu troi yn 01 awch y gwirionedd, rhoddasant derfyn ar y ddadl. Dechreuodd yr offeiriaid Pabaidd osod delwau i fyny yn yr eglwysi. Gosodasant arferion Pabyddol ar droed yn yr ysgolion. Dechreuodd hefyd y blaidd o Rufain ddangos ei ddanedd tuag at ddefaid Crist. Yr oedd gweinidog parchus Protestanaidd o'r enw Mr Mountain yn gwasanaethu mewn eglwys yn ninas Llundain. Rhyw Sabboth pan yr oedd efe yn gweinyddu Swper yr Arglwydd, yn ol y dull Protestan. aidd, yr oedd gweision yr anghenfil Gardi- ner, Esgob Caerwynt, yn bresenol, ac yn ei ddwrdio ef yn gyhoeddus. Yr oeddynt wedi cael eu hanfon .fel yspiwyr i wylied Mr Mountain. Gwysiwyd ef dranoeth i ymddangos o flaen Gardiner. Ysgrechiodd hwnw yn ffyrnig tuag at Mr Mountain, a dywedodd, Tydi, heretic I Pa fodd y beiddiaist ti barhau i fod mor hyf a defn. yddio y gwasanaeth sismaticaidd yna, gan dy fod yn gweled fod Duw wedi rhoddi i ni frenhines Babyddol ? Cei di wybod beth yw pris yr hyn a wnaethost os byddaf fi byw." Atebodd yr Efengylwr ffyddlon ef, gan ddweyd, "Fy arglwydd, nid wyf yn heretic, oblegyd yn y ffordd a elwch chwi yn heresi yr ydym ni yn addoli y Duw byw, fel y gwnaeth ein tadau ac y credas- ant. Yr wyf yn golygu Abraham, Isaac, a Jacob, y proffwydi, a'r apostolion sant- aidd. Fel hwynt yr wyf yu credu er mwyn bod yn gadwedig. Nid wyf yn defnyddio moddion arall at hyny." TorodA Gardiner allan ar hyny mewn cynddeiriogrwydd dieflig, a rhegodd wr Duw mewn llifoiriant o eiriau aflan. Cyhuddodd ef o deyrnfrad- wriaeth, a gorchymynodd iddo gael ei osod yn y carchar, gan floedriio dyma un o'ch newydd-goeg frodyr, y rhai sydd yn llefaru yn erbyn gweithredoedd da." Atebodd Mr Mountain ef, a dywedodd, Fy arglwydd, ni phregethais, ac ni ddywedais ddim erioed yn erbyn y gweithredoedd da a orcliymynodd Duw, oblegyd yn y rhai hyny y dylai pob Cristion ymarfer ei hun holl ddyddiau ei fywyd, ac er hyny, heb feddwl ei fod yn cael ei gyfiawnhau trwyddynt, ond edrych arno ei hun fel gwas anfuddiol wedi iddo wneud ei oreu o fewn ei allu." Ebe Gardiner, Gwir, y mae eich brawd- olaeth chwi yn bollol anfuddiol yn mlieb 03S, Xid ydych yn werth dim ond i dan." Rhaid i ni roddi y gweddill o'r ymgom hon yn ein rhifyn nesaf. 0

LLANELLI.

CYNGOR I YMFUDWYR.'

LLITH 0 MAESTEG.

YCHYDIG 0 OFYNIADAU I MR.…

AT Y BEIRDD.

EISTEDDFOD DEWI SANT, ABER.…

PENGARNDDU, DOWLAIS.

Y CODIADAU DIWEDDAR YN EU…

-----------------Y FFORDD…