Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

HEREWARD

News
Cite
Share

HEREWARD YR OLAF O'R SAESON. PENOD IV. Yr oedd glanau yr Iwerddon mewn sefyllfa heddychol yn nghanol yr unfed- ganrif-ar-ddeg. Nid oedd Ilongau Loghlin, y rhai a welid o bellder, C3 yn achosi fod y boblogaeth yn dianc yn ofnus i'r canolbarth. Nid oedd y Dan- iaid anwar bellach yn arfer creulonderau at fynachod er dyfod o hyd i'w haur, &c. Yr oedd y lladron Scandinavaidd wedi eu Cristioneiddio a'u gwareiddio, a hyny trwy eu hymwneud parhaus a chenhedloedd ereill, a'u gwareiddio hefyd yn fwy na'r Gwyddelod. Ac nid oedd hyny yn anhawdd, canys nid oedd gwareiddiad boreu y Gwyddelod ond gwareiddiad mynachod a chrefyddwyr, a phan gawsant eu gorchfygu yr oedd eu hanwariaeth oil ar ol. Yr oedd yr un gweithredoedd yn myned yn mlaen yn awr yn nwyreinbarth yr Iwerddon, ag a ddygwyd yn mlaen oes neu ddwy yn ddiweddarach yn nwyreinbarth Scot- land. Dechreuodd y Daniaid sefydlu i lawr yn boblogaeth heddychol a mas- nachol. Yi oedd yr Iwerddon yn dlawd, ac wedi i'r mynachod gael eu hysbeilio unwaith, nid oeddyut yn werth eu hys- boilio yr eilwaith. Yr oedd y Gwydd- elod yn neillduol am eu gwroldeb. Br eu bod yn ddiarf a hauer noethion, eto yr oeddynt yn neillduol fel ymladdwyr coedwigol, yn debyg i'r Maoriaid, ac er nad oedd eu harhu i'w cysta lu ag eiddo y Daniaid, eto yr oedd y Gwyddel y fath elyn fel nad oedd yn werth ymla Id ag ef os nad ellid ei ysbeilio wedi hyny. Yr oedd y Daniaid, fel eu hiliogaeth, yn ddynion cyfrwysgall, a llygad at hunan- lesiant, ac yn ymawyddu am ryw alw- edigaeth, os oedd modd, yn fwy proffid- iol nag ysbeilio a llofruddio. Ymsefydl- c' asant mewn canlyniad mewn porthladd- oedd ac afonydd mawrion, gan anfon eu llongau i'r holl foroedd gorllewinol o Dublin, Waterford, Wexford, Cork, neu Limerick. Mae pob porthladd yn yr Iwerddon yn ddyledus i'r gwroniaid masnachol hyn. Yn mhob un o'rporth- laddoedd sefydlasant fath o deyrnas fechan, y rhai a fodolasant hyd adeg gorchfygiad yr Iwerddon gan Harri II., a rhai o honynt wedi yr adeg hono. Ymgymysgasant yn y cvfnod hwn a'r Gwyddelod gwreiddiol. Yr oedd Brian Boru, er esiampl, mor gysylltiedig a'r Daniaid fel y mae yn amheus hyd heddyw a oedd dim gwaed Danaidd yn ei wythienau. Yr oedd y Brenin Sigtryg Silkbeard, yr hwn a ymladdodd yn ei erbyn ef yn Clontarf, yn lysfab iddo, ac felly hefyd, yn ol y croniclau Gwyddelig, yr oedd y Brenin Olaff Kvaran, yr hwn, hyd yn nod ar adeg brwydr Clontarf, oedd wedi priodi merch Brian Boru. Yr oedd dros ddeugain mlynedd wedi myned er brwydr Clontarf, ac er llof- ruddiad Ragnvald, Reginald, mab Sig- tryg gan Brian Boru. Ond er llwyr ddinystriad y gallu Danaidd yn yr Ynys Werdd, ymddang- osai Ranald, i lygaid dynion, i fod yn hen ryfelwr da, ac yn teyrnasu yn gyf- ansoddiadol dros Daniaid Waterford, am yr ofnai gael ei ddinoddi neu ei lof- ruddio os na fyddai yn ail i'w Ie. Ei allu oedd pnm' cant o ryfelwyr penoleu, y rhai a garient fwyell ddau finiog ar eu hysgwyddau, a chleddyfau dau finiog ar eu hochrau. Yr oedd ei longau yn gwneud masnach dda a Ffrainc a Spain mewn pysgod, ymenyn, mel, &c. Yr oedd ei weithwyr yn bathodi arian yn hen dwrcrwn Dundory, yr hwn a adeil- adwyd gan ei flaenorydd oddeutu y flwyddyn 1003, yr hwn a saif fel twr Reginald hyd y dydd hwn. Edrychai yn hen frenin gwrol, ac eisteddai yn ei dy mawr o goed o dan dwr Reginald, yn ymyl y mor, ac yn yfed gwinoedd Ffrancaeg ac Ysbaenaeg o gwpanau ifori ac aur; ac uwch ei ben y crogai bwyell dau finiog fawr, gyda'r hon, fel y dywedid, yr oedd efe wedi lladd Brian Boru, ac nid Brian Born ef. Yr oedd un Teague MacMurrough, bardd a thelynwr enwog yn y parthau byn, wedi cyfansoddi i'w delyn ef gan mewn cysylltiad a brwydr Clontarf, enwogrwydd yr hon a gyrhaeddodd glustiau Ranald, ac ni orphwysodd na dydd na nos nes ei ddal a'i ddwyn mewn rhwysg i Waterford. Yno y gor- fododd eie y telynor i ganu ei arwrgerdd iddo ef a'i amddiffynlu, a phan y daeth y telynor at orchfygiad a marwolaeth Ranald trwy ddwylaw Brian Boru, yna y chwarddodd efe nes colli dagrau, ac yn hytrach na rhoddi y bardd i f arwolaeth a'r cleddyf, rhoddodd iddo gwpanaid o win, gan ei wneud yn delynor iddo ei hun, gan orchymyn iddo anfon am ei wraig a'i blant, a chwareu iddo ef yn ddyddiol, yn enwedig arwrgerdd Clontarf, a'i farwolaeth ei hun. At yr hen frenin hwn, neu ynte at ei fab Sigtryg, mab maeth i Sigtryg Silk- beard, a chefnder iddo ei hun, y gwnaeth Hereward ei ffordd yn awr, ac yr ad- roddodd efe ei hanes, fel yr eisteddai y brenin yn ei neuadd, gan yfed wrth y tan. Yr oedd y tan coed yn nghanoI y neuadd, ac elai y mwg allan trwy dwll yn y nen. Ar un ochr yr oedd mainc hir, ac ar ganol yr ystafell, cadair uchel- gefn y brenin. Bob ochr iddo yr eis- teddai ei gyfeillion, y boneddigesau, a'i gadbeniaid morawl cyfoethog. Ar ei gyfer, yr ochr arall i'r tan, yr oedd mainc arall, yn nghanol yr hon yr eis- toddai ei brif swyddog milwrol, a phob ochr iddo yntau ei amddififynwyr teuluol. Yr oedd meinciau ereill o'r tu ol, ar y rhai yr eisteddai personau o lai pwys. Fel yr oeddvnt oil yn yfed diod, a ar- il wysid ganwasanaethferch i gorn mawr tarw, yr hwn a estynid o'r naill i'r llall, daeth Hereward i mewn, gan eistedd ar un pen i'r fainc bellaf oddiwrth y brenin, a safodd Martin y tu ol iddo yntau. Yn mhen ychydig fynydau dywedodd un o'r boneddigesau:— Pwy ydyw y dyeithrddyn ieuanc yna, yr hwn a eistedda y tu ol. Y mae yn edrych yn debyg i fab iarll, ac yn fwy cymhwys i eistedd yma gyda ni ar yr uchelfainc hon ?" Felly y mae yn edrych," ebai y Brenin Ranald. Deuwch yn mlaen, ddyn ieuanc, ac yfwch." Pan yr aeth Hereward yn mlaen, penderfynodd yr holl foneddigesau fod yn rhaid ei fod yn fab i iarll, canys yr oedd ganddo dorch aur fawr am ei wddf, a modrwyau aur am ei arddyrnau Yr oedd ganddo hefyd got borffor newydd am dano, wedi ei haddurno a braid aur, a phob peth arall yn cyfateb, a phe buasai ond pen yn dalach, barn pawb fuasai, na welsant harddach person. "Ha.! nid yw y fath berson a hwn yn dyfod yma i ddim. Yfa yn gyntaf, ddyn ieuanc, ac yna dywed dy neges." Yna estynodd y brenin y corn yfed i Hereward. Cymerodd Hereward y corn, ac a ganodd nifer o linellau i wrhydri Ran- ald fel liwncdestyn. Y mae dy lais mor feincd a dy blyf, ddyn, yf ef i gyd. Yr ydym ni yma yn yfed yr hyn sydd gymedrol, ond y mae croesaw i ddyeithrddyn yfed ei lawn unrhyw awr o'r dydd." Gorphenodd Hereward yfed cynwys y corn, ac ar amnaid Ranald, efe a eis- teddodd i lawr ar yr uchelfainc. Ni sylwodd Hereward, fel yr eisteddai efe, fod dwy foneddiges ieuanc hardd wedi sefyll o'r tu ol iddo. Yn awr, Syr Offeiriad," ebai y bren- in, ewch yn mlaen a'ch ystori." Yna cododd yr offeiriad, yr hwn oedd yn Wyddel yn ol pob arwydd, ac a eis- teddai ar yr uchelfainc, ac aeth rhagddo a'i ystori oedd wedi cael ei hatal D gan ymd'dangosiad Hereward. ZD Wedi i'r offeiriad eistedd i lawr, sylwyd fod Hereward yn gwenu chwerthin ar ei araeth. Paham yr ydych yn chwerthin, fon- eddwr ieuanc ? Y mae yr offeiriad yn ymdda.ngos i siarad yn gall, ac y mae yn un o'm gwahoddedigion, ac yn lysgen- adwr." ZD Yna cododd Hereward, gan ymostwng yn foesgar i'r brenin. "Y Brenin Ranald ap Sigtryg, nid o anfoesgarwch y darfu i mi chwerthin, canys dysgais foesau da yn hircyn dyfod yma, ond am fy mod yn cael dynion cyffelyb yn mhob man." Pa fodd?" Yn ddynion cyfrwys i guddio y gwirionedd ag areithiau bostfawr ac amleiriog. Nid wyf yn gwybod dim am y Brenin Ulixes, nac am ei lysgenadydd ychwaith. Ond clywais aderyn yn fy ngwlad fy hun yn rhoddi can wahanol iawn i lais ei fynwes a chynllwyn ei gyngor." Siarad yn mlaen. Nid yw y llanc hwn yn ffol i gyd." Yr oedd yn fy ngwlad i dair coed- wigfa fechan, 0 frenin, a phob un yn sefyll ar fryn. Yn un yr oedd nyth eryr, ar yr ail nyth cidyll, ac ar y tryd- ydd nyth bran. Yn awr daeth y cidyll at yr eryr, ac a ddywedodd; 'Tyred yn rhanog a mi, a lladdwn y fran, a chy- merwn eichoedinieinhunain.' 'Ha!' ebai yr eryr, gallaf ladd y fran heb dy gynorthwy di; modd bynag, meddyliaf am dano.' Pan y clywodd y fran hyny, daeth at yr eryr ei hun, gan ddweyd, Eryr frenin, paham yr ydych am fy lladd i, yr hon wyf yn byw ddeg milldir oddiwrthych, ac heb erioed ehedeg dros eich tiriogaeth ? Gwell o lawer i chwi ladd y cidyll cyfrwysddrwg sydd yn byw rhyngom, a phob amser yn barod i droseddu ar eich tiriogaeth ond i chwi droi eich cefn. Felly chwi gewch ei choedydd hi a'r eiddoch eich hunan.' 'Yr ydych yn fran gall,' ebai yr eryr, ac aeth allan ac a laddodd y cidyll, ac a gymerodd ei goedydd." Chwarddodd y Brenin Ranald allan, efe a'i gwmni. Da y dywedaist, ddyn ieuanc, cymerwn ninau y cidyll a gad- awn y fran." Ond," ebai Hereward, "clyweh ddi- wedd y chwedl. Wedi peth amser, daliodd yr eryr y fran hefyd yn chwil- ota yn nghoedwigfa y cidyll. 0!' ebai efe, gwelaf y gellwch chwi dros- eddu yn gystal a'r pig-gam a leddais ac felly lladdodd hithau hefyd." Ha ebai y fran wrth farw, y mae fy ngwaed ar fy mhen fy hun. Pe buaswn ond gadael y cidyll rhyngwyf a'r eryr hwn, buaswn yn ddyogel.' Ac felly cafodd yr eryr y dair goedwigfa, iddo ei hun.' t3 0 Chwarddodd y cwmni yn fwy fyth, a'r brenin yn llawn awydd am fwyta i fyny y tywysogion Gwyddelig y naill ar ol y llall, anfonodd yr ofteiriad yn ol (ond nid heb rodd i'w eglwys, am fod Ranald yn ddyn duwiolfrydig) i ddweyd wrth O'Brodar fawr, oni byddai iddo anfon i Waterford yn mhen yr wythnos dau ga.nt o ychain, cant o foch, cant pwys c id pur, a'r un faint o gwyr, na adawai i,ld cymaint a. pbarchell yn yn fyw yn Ivark.

CYFIEITHIAD O'R KORAN.

BE1RNIA D AETH C YF AN S0DD-IADAU…

0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICAN…

-----------------Y FFORDD…