Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

- 1 R WYTHNOS.I

News
Cite
Share

1 R WYTHNOS. MAE sefydlijid llinell o agerlongau < hwng Milford ac America bellach yn sicr, y rhai a ddechreuant redeg yn fuan. Y MAE dyddiad priodas y Due o Albany a'r Dywysoges Helena o Wal- ,deck-Pyrmont, wedi ei benderfynu, ac i gymeryd lie ar yr 20fed o Ebrill-y seremoni i'w chyflawni yn nghapel St George, Windsor. MAE Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Merthyr, dydd Sadwrn diweddaf, wedi penderfynu rkoddi codiad o 5p. y flwyddyn yn nghyflogau releiving officers yr undeb. Rhyfedd y fath ysfa sydd wedi meddianu rhai o aelodau ein byrddau am godi cyflogau y gwahanol swyddogion. Ai tybed nad yw ein trethoedd eisioes ^n ddigon uchel, tra y gellid cael cystal dynion a hwythau i gyflawni eu gwaith am 5p. yn y flwyddyn yn llai o gyflog. Mor hael y mae rhai pobl ar arian y cyhoedd. DYWED gohebydd o Athens nad oes y fath auaf caled wedi bod yno yn yr oes bresenol. Ychydig filldiroedd o'r dref, y mae yr eira yn chwe' troedfedd o ddyfnder, ac yn Athens ei hun am rai dyddiau y mae yr eira wedi bod yn dair troedfedd o drweh. Y diwrnod cyn iddo ddisgyn, yr oeddid yn gorfod gwlychu yr heolydd o herwrdd y Ilwoh, Y MAE y ddau amaethwr o Stafford- shire, Johnson a Clowes, y rhai a all- tudiwyd ar gam^ ac a ryddhawy yn. ddiweddar wedi derbyn bobo 500p. oddiwrth y Llywodraeth fel iawnam^ y cam a dderbyniasant. Y mae Clowes, gan yr hwn y mae gwraig ac wyth o ■ blant, yn bwriadu cymeryd fferm, fel cynt, tra y mae Johnson, yr hwn sydd yn hyn, a neb ond gwraig, yn bwriadu prynu fferm fechan, a sefydlu i lawr am weddill ei oes yn ddystaw. Y mae amryw danysgrifiadau yn cael eu derbyn iddynt oddiwrth bersonau sydd yn teimlo yn herwydd yr anghyfiawnder a dderbyniasant. DYDD Sadwrn diweddaf cnowyd dau gi yn nghymydogaeth Cwmparc gan gi defaid a fernir oedd yn gynddeiriog. Lladdwyd y own a gnowyd, ac erlidiwyd ar ol y ci defaid, ond collwyd ef yn Dghyfeiriad Cwm Ogwy. DYWEDIR fod Amerawdwr Rwsia wedi penderfynu, os na ddaw pethau yn fwy heddychol yno erbyn adeg ei goromad, y bydd iddo roddi y goron i fyny 1 wfab henaf, yr hwn a garia y gorchwyl yn mlaen dan gyfarwyddyd tri o bersonau o ddewisiad y teulu amerodrol. CAFODD halier perthynol i un o lo- feydd Ferndale, o'r enw George Sullivan, ei ddirwyo i 40s. a chostau, neu ddau fis o garchar gyda llafur caled, am geisio tanio ei bib a'i lamp.

CYFLAFAREDDIAD YN NGHWM RHONDDA.

CYFARFOD MISOL GLOWYR Y RHONDDA.

CYFARFOD Y SLIDING SCALE.

AT LOWYR CASTELLNEDD A GLANDWR.

---'-----.-TANCHWA LOFAOL…

TANCHWA LOFAOL YN AWSTRIA.

CYFARFOD MISOL GLOWYR CWM…

AT LOWYR Y GLO CAREG. I

YSBEILIAD CORFF IARLL BALCARRES.

DAMWAIN LOFAOL YN NGHWMPARC—PEDWAR…

CYHUDDIAD PWYSIG YN ERBYN…

CYNADLEDD O'R CYFRINGYNGOR…

Y SKNEDD

TY Y CYFFREDIN-DYDD IAU.

TY Y CYFFREDIN-DYDD LLUN.

YMLADD YN HERZEGOVINA.

HUNANLADDIAD TYBIEDIG OFFEIRIAD.

YSTRADFELLTE.

Quinine Bjitters

EU GWEITHREDIAD.

GOFALED PAWB AM HYN.