Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LIVERPOOL.

News
Cite
Share

LIVERPOOL. DIFYRWCH Y SAESON—CYFADDBF DBYGIONI —YSBRYDIAETH—DYDD GWYL ST. VALAN- TDiE-ETHOLIAD DIWEDDA9 YN PRESTON —Y RBYDDFRYDWYR A MR. GDADSTONE. Yr hyn sydd wedi difyru y Saeson yn benaf yma yr wythnos hon ydyw rhedeg- feydd own yn Waterloo, ac y mae hyny hefyd wedi tynu amryw o ddyeithriaid i'r ddinas. yn enwedig y dosbarth betyddol. Gan fod y tywydd wedi bod ychydig yn an- ffafriol rai o'r dyddiau, y mae yn ddiau fod amryw o'r rhai hyn wedi colli yn eu ham. canion, a myned adref a'u llogellau yn llawer ysgafnach. Pe byddai i'r Saeson fel gwerin o bobl feddwl mwy am addysg a diwylliant meddwl, dichoii y byddai gwell trefn ar ein gwlad. Yn lie hyn, y mae yn resyn meddwl, mae rhywgampau o ddifyr- wch ydyw dyddordeb nifer helaeth o'r boblogaeth; ie, gwaith mor annynol a'r gystadleuaeth saethu colomenod yma Saydd Mawrth diweidaf. Yr adar diniwed yna yn disgyn wrth yr ugeinian gan nerth pylor a drylliau, i ddim ond i foddio cyw- jreinrwydd a gweled pwy oedd y saethwr goreu, ac enill gwobr. 0 flaen yr ynadon ddydd Mawrth di- weddaf traddodwyd un William Shimmins i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf ar ei addefiad ei hun, ei fod wedi rhoddi ystorfa ar dan ddydd Sal, y 5ed, cyfisol. Yr oedd yr ystorfa yn perthyn l Gwmni Camlas Leeds a Liverpool, a difrodwyd gan y tan 1,000 o bales o gotwm, a 4,000 sachaid o wenith, yr oil yn werth tua £ 4,000. Yn mhen dau ddiwrnod wedi i'r tan gymeryd lie, darfu i'r dyhirin roddi ei hun i fyny i'r be,ddgeidwaid, a'r unig reswm aroddaidros gyflawni y weithred, oedd ei fod "wedi gwneud byny o gythreuldeb." Pawb am roddi y bai ar y cytbraul ar ol gwneud rhywbeth ond byddai yn dda i lawer ofyn iddynt eu hunain, ai nid bwy eu hunain ydyw y cythraul mwyaf ? Yr hen anian heb ei phuro trwy ras. Nid yn y Deheudir yn unig y mae ys. brydiaeth yn cael sylw llawer o bobl, a rhai mor benwan a cbredu yr oil a ddywedir am allu a phresenoldeb ysbrydion: Ond y mae Mr Stuart Cumberland wedi bod yn Hoyse Hall yma amryw o nosweithiau yr wythnos hon yn dynoethi twyll ysbrydol. iaeth. a Syr J. A. Picton yn llywyddu yn un o'r cyfarfodydd. Gwnaeth Mr Cumberland amryw o weithredoedd ag y mae rhai yn «u priodoli i ysbrydion, ac ar ol gwneud hyny unwaith, dangosai i'w gynulleidfa pa fodd yr oedd yn gwneuthur hyny, a dywed. ai mai ei allu of ei hun ydoedd, ac nid gallu ysbrydion. Beth pe byddai i chwi anfon am y boneddwr hwn i roddi taith trwy y Deheudir i ddangos y gwirionedd, ac egluro twyll rhai pobi ? Nid oes un man, y mae yn debyg, yn talu mwy o sylw i ddydd gwyl St. Valan- tine na Liverpool, na neb o blant Cupid yn rboddi mwy o waith i'r llythyr-gludwyr ar y dydd yma ag y mae trigolion y ddinas hon yn' ei roddi. Ymddengys oddiwrth adroddiad meistr ein prif lythyrfa yma, fod 123,317 ovalantilles wedi eu rhoddi yn y llythyrfa yma ar y 14eg o'r mis hwn, a bod 153.632 o'r cyfryw bethau wedi eu dos- barthu hyd y ddinas yma gan y llythyr gludwyr ar yr un dydd. Cynydd o 21,000 ar y flwydd) n o'r blaen. Y mae hyn eto, debygwn i, yn dangos sefyllfa y wlad yn well nag ydoedd pan oedd Toriaeth yn teyrnasu, gan fod gymaint yn ychwaneg:yn gallu gwario eu harian am y fath bethau a valantines. Dygwyd un o Doriaid Preston o flaen yr D 11 ynadon yn y dref hono ddydd Mercher diweddaf, am wneuthnr uiwaid i un o bleidwyr Mr Simpson ar ddydd yr etholiad a gymerodd le yno yn ddiweddar. Profwyd ef yn euog, er i'w gyfreithiwr wneud llawer o esgusodidn ar ei ran a dirwywyd ef yn drwm. Ymddengys befyd fod Mr Simpson, yr ymgeisydd aflwyddianus, am ddyfod ag un o aelodau Toriaidd y Cyngor Trefol yn Preston, i gvfraith am ryw gamwri a ddy- wedir ei fod wedi ei wneud ddydd yr ethol- "iad. Y mae yr achos i ddyfod yn mlaen yn fuan. Cynaliodd y GymdeithasRyddfrydol yma gyfarfod brwdfrydig alluosog nos Fawrth diweddaf, i ystyried gweithrediadau y Senedd-dymhor presenol, ac hefyd i'r am- can o gefuogi y Prif Weinidog yn ngwyneb y rhwvstrau mawrion sydd ar ei ffordd yn brdsenol i ddeddfwru er lies ei wlad. Yr oedd y cytarfodynun gwir ddylanwadol, Ac ar y llwyfan yr oedd amryw o wyr blaenllaw y ddinas yn yr achos Rhyddfryd- ol. Pasiwyd amryw o benderfyniadad gydag amcan y cyfarfod, gyda eu bod oil i'w hanfon i'r Prif Weinidog, ac ereill o aelodau y Weinyddiaeth. Bydd hyn yn sicr o fod yn galondii i Mr Gladstone i fyned yn mla.en yn y llwybr y mae wedi ei gymeryd i ddiwygioy wlad a'r Senedd-dy. Beth ydych chwi; Rbyddfrydwyr Morgan- wg, ac ereill o sirioedd y Deheudir, yn ei wneuthur ar hyn o bryd ? Yn sicr, y mae yn bryd i ddeffroi, pan y mae eisioes Twystrau yn dechreu cael eu taflu ar draws deddf mor briodol a cbyfraith Cau y Taf- arndai yn Nghymru. Deuwch allan yn eich nerth, a chefnogwch eich haelodau Seneddol yn mhcb amcan teilwng. Amryw bethau ar hyn o bryd yn galw am fy sylw, felly, amser a balla i mi ddweyd ychwaneg y tro hwn; gan hyny, rhaid gadael ar hyn yn bresenol, gydag addaw ychwaneg eto. Yr eiddoch, &c., J. D. PIERCE.

EISTEDDFOD LLWYNYPIA.

LLITH SCLEMIN.

YR ALCANWYR.

Y GLOWYR A'R GYMDEITHAS DDARBODAWL.

ART UNION PRIZE DRAWING, ABERDAR.

Advertising