Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
DYDDIAU MARI WAEDLYD.
DYDDIAU MARI WAEDLYD. PENOD II. Y Pabydd creulawn Gardiner a gynllun- iodd bob dyfais i Mari briodi brenin Pab. yddol Spain, yr hwn a elwid Philip. Yr oedd Philip yn fab i'r Ymerawdwr Charles V., sef Ymerawdwr Germain. Coronwyd Charles V. gan y Pab, yn 1530. Dien- yddiodd Charles V., mewn modd crea- lawn, 26 o drefedigion Ghent yn Flanders, am iddynt geisio taflu iau ei lywodraeth orthrymus ef oddiar eu gwarau. Ymladd- odd yn erbyn tywysogion Protestanaidd Germani. Ymgynghreiriodd y tywysogion hyny a'u gilydd, a gorchfygasant ef. Trwy hyny y cawsant ryddid i addoli Duw yn eu tiriogaethau hwy yn ol y Beibl, heb fod y Pabydd ar yr orsedd Ymerodrol yn beiddio eu rhwystro. O'i flaen ef y bu Luther yn y Diet of Worms, pryd y bu y ddadl fawr rhwng Luther a'r bwystfil o Rufain, pan yr oedd bywyd Luther mewn perygl. Efe a wnaeth ddeddf yn awdurdodi unrhyw un i ladd Luther ar ol hyn a hyn o ddyddiau. Amcanodd, fel Napoleon 1., i fod yn Ymer- awdwr cyffredinol, ac oblegyd hyny yr oedd efe yn tueddu i ymladd yn barbaus a brenhinoedd teyrnasoedd Ewrop. Ondcaf- odd ei siomi mor fawr fel y rhoddodd yr orsedd i fyny i'w fab. Ciliodd yntau i dreulio gweddill ei ddyddiau mewn mynach- dy, lie y pbenwyd ef yn ddirfawr gan y gQut. Yr oedd ei feddwl yn grebachog ac ofergoelus, yn nghanoltywyllwchygrefydd Babaidd, heb fedru cael cysur na phleser mewn dim. Fflangellodd ei hun yn ofn- adwy am ei bechodau yn ddirgel, a chwip, yr hon a gafwyd wedi ei lliwio a gwaed wedi iddo farw. Amlwg yw na chafodd Olwg ar iawn y groes. Ond er yr holl fflangelli ni chafodd lonydd na chysur. Mynodd gael ei osod mewn coffin ae amdo o'i amgylch, ac i'r Pabyddion oedd yn ei wasanaethu fyned trwy seremoniau claddu fel pe buasai wedi marw Ymunodd ag ereill i weddio dros ei enaid, fel pe buasai ei enaid wedi ymadael a'igbrff ef. Effeith. iodd y sereraoni yn ddirfawr arno. Y dydd canlynol ymaflodd twymyn ynddo, yr hwn a roddodd derfyn buan ar ei hoedl ef pan nad oedd ond ychydig yn rhagor na 58 mlwydd oed, wedi bod bedair blynedd yn y mynachdy. Mab i hwn a briododd Mari Waedlvd, brenbines Lloegr. Gelwid ef Philip II. Pan ddychwelodd efe i Spain wedi bod yn rhyfela llawer, tagodd a llosgodd ddeu- gain o ddynion am ddal golygiadau croes i Babyddiaeth. Dywedodd ei fod yn barod i'w llosgi hwynt a'i ddwylaw ei hun, pe na byddai neb arall i'w gael i wneud hyny. I Crogodd a llosgodd ugeiniau heblaw y rhai uchod am eu bod yn Brotestaniaid. Hwn oedd dewis wr Mari Waedlyd. Hwn a anfonodd lynges fawr i ddifetba Lloegr, yr hon a elwid "The Spanish Armada," yn fiinser brenhines Elizabeth. Difethwyd ei ongau ef gan storom fawr ar y m6r. Dy- wedodd nad aeth efe allan yn erbyn y gwynt. Ond wedi teyrnasu yn greulawn dros ddeugain mlynedd, gosododd Duw arno afiechyd trwm. Yr oedd ei ddoctoriaid ef o dan adylanwad petrusder i'w waedu ef, pan yr ymddangosai hyny yn beth angen- rheidiol. Dywedodd yntau wrthynt, "Beth! a, ydych chwi yn ofni tynu ychydig ddifer- enau o waed o wythenau brenin, yr hwn sydd wedi peri i afonydd o waea redeg o wythenau hereticiaid ?" Bu farw fel Herod ym cael ei ysu gan bryfed. Haid o lau mawrion a fwytasant ei fywyd ef allan. Pan y daeth efe i'r wlad hon i briodi Mari 'Waedlyd oddeutu deugain mlynedd cyn ei farwolaeth, yr oedd efe y pryd hwnw yn 27 mlwydd oed, ac yn llawn sel Babyddol yn erbyn Protestaniaeth. Daeth yma Gor-" phenaf 20, 1554. Fel y glaniodd efe yn Southampton, cariodd gleddyf noeth yn ei law, i ddangos ei fod yn myned "i deyrnasu trwy y cleddyf. Yn mhen pum' diwrDod wedi byny, ymbriododd & Mari yn mhrif eglwys Caerwynt (Winchester) Hysbys- ■wjyd yn fnan wedi hyny i'r bolldeyri)asfod Philip a Mari i lywodraethu Lloegr, Ffrainc, Naples, Jerusalem, a'r Iwerddon, ynnghyd a Spain, a gwledydd ereill. Yn ol arfer y Pabyddion, bu rhwysg mawr yn amser priodas Mari. Gwnawd delwau ardderehogo ryw wrtliddrychau hynod, a gosodwyd hwynt i fyny mewn gwahanol fanau, arhodd- ion i'r brenin a'r frenhines yn eu dwy- law. Delw y duw Orpheus oedd un. Gosodwyd pobl Lloegr allan fel ani feiliaid gwylltion yn dilyn Orpheus a'i delyn, ac yn dawnsio ar ol sain pibeli Philip y brenin. Yr oedd y Pahydd creulon Bonner, esgob Llundain, yn gwneud ei oreu i gael digon o rwysg eroesawus i Philip a Mari. Ymddangosai Philip yn rliy &t:ff i foddloni chwaeth pobl Lloegr. Ond rhodd odd lawer o arian iddynt, a pha un y pryn- odd efe hwynt, wrth y miloedd, i droioddi- wrth Brotestaniaetli at Babyddiaeth. Cyr. rj^ngodd efe i gadw Elizabeth yn' fyw. Nid oedd hyny yn boddioni y bwystfil cig- yddol Gardiner. Gwelodd Philip wedi byny, yn ngwyneb nad oedd Mari yn cael plant, y byddai yn bosibl iddo gael rhyw fantais os deuai Elizabeth i'r orsedd, ac efallai y priodai efe hi os byddai i Mari farw. Felly y dywed Fox; Wedi i Mari farw dychwelodd Philip i Spain. Nid oedd efe yn dangos fawr o gariad tuag ati. Yr oedd ei obeithion ef hefyd wedi cael eu taflu i'r llawr trwy eu bod hi heb gael plant. Yr oedd ei oerfelgarwch ef tuag ati yn effeithio yn ddwfn ar ei liysbryd hi. Y mae y teyrnfardd Tennyson, wedi cy- hoedd, pryddest gampus ar Mari Waedlyd, yn yr hon y desgrifia. efe siomedigaeth y Pabyddion nad oedd Mari yn planta. Gwna efe hyny mewn drychfeddyliau ar dan. Gesyd efe ei gobaith hi am blentyn mewn geiriau cryfion a ddychymygai efe idfli hi defnyddio pan yr oedd hi yn cael ei llon- gyfarqh gan genadwr y Pab, yn ngwyneb fod chwydd yn ymddangos yn ei chorff Desgrifia hi yn dweyd wrtho fod eneiniog Spaen wedi deffro yn ei chroth. 0 Philip fy ngwr! yn awr ti am ceri. Todda dy oer- felgarwch tuag ataf. Y mae fy seren yn cyfodi. Edrycha Elizabeth falch yn welw gyda ei holl gefnogwyr, wrth weled fod fy seren i yn cyfodi. Cyll ysbrydion Luther a Zuinglius eu lliw wrth weled fy seren i. Chwi byrth tragywyddol! Y mae y brenin yma. Gwyrth I Gwyrth! medd y Pabydd- ion. Caned y clychau Caner y Te Deum! Y mae y frenhines yn teimlo y baban yn ei chroth." Ymddengys fod y Pabyddion y pryd hwnw yn dangos rhyw orfoledd rhyf- edd wrth weled arwyddion y ceflid etifedd i r orsedd a fuasai yn difetha hawl Elizabeth i eistedd arni. Yr oedd gobeith- ion dysgyblion y Pab yn cael eu dangos mewn llawer ffordd. Ond yr oedd rhyw ohiriad annedwydd yn cymeryd lie bob wythnos o'r enedigaeth, yr hwn oedd i achosi haulwen ar Babyddiaetb. Siaradai. y torfeydd yn Llundain bethau chwerthin- gar. Dropsi, y mae yn debyg, oedd yn nghorff Mari. Daeth hyny yn ffaith amlwg I er mawr drallod iddi hi a'r Pabyddion. Oerodd Philip fwy nag erioed tuag ati. Ni charodd mo honi erioed. Ffieiddiodd hi pan y deallodd mai dropsi oedd yn ei chorff. Torodd hyny, a cholli Calais, ei chalon, a bu farw Tach. 7, 1558, yn 43 mlwydd oed, wedi bod yn teyrnasn pum' mlynedd, ped- war mis. ac un diwrnod ar ddeg. Yr oedd ei theyrnasiad Pabyddol creulawn y fath fel yr oedd y nefoedd wedi penderfynu ei chymeryd hi oddiar y ffordd. Ond er mwyn argyhoeddi ein darllenwyr o ddrygedd P&byddiaeth, rhaid i ni roddi hanes manylion pellach yn nghylch ei theyrnasiad. Dygwyd y pethau gwaethaf yn mlaen mewn modd cyfrwys yn fuan wedi iddi hi ddechreu teyrnasu gan Gar. diner, Esgob Caerwynt, yr hwn a,, pwynt- iodd hi i fod yn Arglwydd Ganghellydd ac yn Brif Weinidog. Hanes da iawn yw hanes y dyn annuw- iol hwn. Plentyn ordderch oedd Gardiner i Esgob Pabyddol Caercaradog (Salisbury), brawd brenhines Edward IV. Wedi cael addysg yn Craergrawnt bu Gardiner yn ys- grifenydd i Cardinal Wolsey. Dangosodd ei fod yn barod i wneud unrhyw beth er mwyn dyrchafu ei| hun yn amser Harri VIII., trwy fyned gydag Edward Fcx at y Pab, i geisio ganddo gyfreithloni ysgariad Catherine oddiwrth Harri VIII. Wedi hyny trodd i wasanaethu Mari Waedlyd.
! GOHEBIAETH 0 AMERICA.
GOHEBIAETH 0 AMERICA. GAN D. E. RICHARDS (IBUAN FARDD). Wilkesbarre, Ion. 27ain, 1882. Nadolig yn nghyd a'i rwysgfawredd wedi myned heibio unwaith eto, a'r flwyddyn '81 a'i holl helyntion, &c., wedi eu rhifo gyda y pethau a fu; ond yr hyn sydd bwysig, fe fydd dylanwad ei chylchdro yn gadael ei argraff, i raddau mwy neu lai, ar y byd, a mwy na hynyna, fe fydd ei argraff ar gymeriadau am dragywyddoldeb. Dygwyddiadau pur bwysig wedi cymeryd lie yn ystod ei arosiad, o ba rai nid y lleiaf ydoedd bradlofruddiad Ymerawdwr Rwsia, ac Arlywydd yr Unol Dalaethiau; ac erbyn hyn y mae achos y dyhirin Guiteau wedi ei benderfynu, ac y mae i gael ei grogi, yr hyn sydd wedi rhoddi vent i deimladau y byd, y rhai oeddynt wedi eu syfrdanu gan ddygiad oeraidd yr achos yn inlaen. Sicr yw, pe buasai wedi cymeryd lie yn Mhrydain, buasai y dyhiryn wedi ei grogi er ys llawer dydd yn He hyny, y mae ei achos wedi costio i'r llywodraeth hon rhyw haner miliwn o ddoleri-enghraifft fechan. Y mae y rheithwyr yn unig wedi costio 5.352 o ddoleri, felly gwelir nad anhawdd ydoedd i'r haner miliwn gael eu gwario mewn amser mor fyr. Credir gan lawer yn Nghymru, a lleoedd ereill, wrth ddarllen hanes yr achos uchod, nad oes cyfreithiau yn America yn werth ffauen o'u cydmaru a'r eiddo Prydain ond hyn sydd sicr, nid ydyw y gwahaniaeth rhwng y gyfraith mewn achosion o'r fath a llawer ereill, yn ddim braidd, a saif y dy- ogelwch i'r rhai hyny sydd wedi bod yn pendromi ac yn dyfalu paham na chawsai Guiteau ei grogi er ys amser, yn hyn, sef nad ydyw y gyfraitb yn cael ei chario yn mlaen mpr bendant i'r llythyren ag ydyw yn Mhrydain, eto mewn rhai cyfeiriadau air yn fwy penodol felly; y gwir yw, nid ydyw gwareiddiad Cristionogol i'w ganfod mor eglur ar y cyfreithiau yma ac yna,— mae gogwyddiad meddySol y werin yn America yn ahedeg rhywsut. i gyfeiriad hollol wahanol i'r hyn ydyw yn Nghymru yma. er enghraifft, os yfa crefyddwr dipyn, yn enwedig ar y mwyaf, ystyrir ef yn bechod anfaddeu«l braidd, ond os gall wneud hyny heb yn wybod i neb, pob peth yn dda; ac os gall dwyllo y llywodraeth o gwpwl o filoedd o ddoleri, ystyrir ef yn fachgen smart.
y FLWYDDYN 1882
y FLWYDDYN 1882 Wedi dyfod ac ymddangos ar chwareu- fwrdd amser mewn gwisg gymharol ddysg I laer, a'i rhagolygon,mewn yttyr fasnachol, yu bur lewyrcbus ar y cyfan, a gobaith am foddion cynhaliaeth i bawb dros y byd. lihago'ygon masnach yn Nghymru yn gy=>t- al ag yu America, yn dda hyderir yn ngliorff y flwyddyn bon y gellir r hocldi archebiou trymion i Gymry am reiliau haiarn a. dur. Sonir gan gwwni o Lundain am godi y gwaith haiarn a dur mwyaf yn y byd i lawr yn Ucah, a Chymru, os geliir cytuno, i gymeryd y sole maiutjiemcnl; ac hyderir y rhoddir y contract o siij-plio y cyfryw & gwlaneni i Ieuan Ddu, PrcN o City, Utah felly credir y daw maes ym- Ïudolnewpld i Gymry draw yn y far West. Y gwir am dani, gorllewinbarth America ydywy lie i ymfudo, ac nid Pennsylvauia. Y mae cymaint wedi ac yn parhau i ym- fudo i diriogaethau y gweithfeydd, fel y mae wedi myned mor anhawdd i ddyn mae wedi myned mor anhawdd i ddyn gael cynawn dal am ei waith ag ydyw yn unman yn Nghymru.. Fel yr ydys wedi ysgrifenu lawer gwaith o'r blaen, y mae syniadau y werin yn Mhrydain am America yn hollol anghywir, a'r drwg yw, ni chredant yn wahanol hyd nes y cant bron y gwahaniaeth, yr hyn sydd yn dorcalon i amryw. Ymiudwyr i America ydyw amaethwyr, &c.; i'r rhai hyn y mae yn talu-yn mhen ychydig flynyddoedd deuant yn freeholders eu hun- ain. Y ma-ent yn freeholders ar eu hunion unwaith y cymerant dyddyn, ond hyny yn ystyr belaethaf y gair ydym "yn feddwl wrth ddweyd ychydig flynyddau. Addewais yn fy llith diweddaf, os ydych yn cofio, Mri. Gol., i wnead rhai sylwadau cyfeiriedig i ferched Cymru. Wel, i gael bod yn un a'm haddewid, caiff y testyn fod-
YMFUDIAETH YN MHLITH MERCHED…
YMFUDIAETH YN MHLITH MERCHED CYMRU. Os ydwyf yn cono yn dda, pan ddaeth cyfrif y boblogaeth (Cencus) yn Mhrydain allan yn Ebrill y flwyddynt ddiweddaf, yr oedd yr ystadegau yn dangos fod tua chwech mil yn fwy o ferched yn Nghymru nag oedd o fechgyn ac yn awr, yn wyneb hyn, priodol y gofyniad o eiddo yr anfarwol Telynog,—" Pa beth sydd i'w wneud o'r hen ferched ?" Ie, bid sicr, y rhai hyn yn gyntaf, oblegyd rhaid mynt d o Gymru i gael gwyr iddynt, a'r unig waredigaeth 0 sydd i'w gael iddynt, yn fy nhyb i, ydyw ymfudo. Gorchymyna y Gair,—" Llenwch yr holl ddaear," a'r unig ffordd i gyfarfod a'r gorchymyn yna ydyw trwy ymfudo. Cawn fod ymfudiaeth ar raddfa fechan wedi dechreu mor foreu ag amser Twr Babel, ac o hyny hyd yn awr y mae wedi cynyddu, ac ar gynydd y mae yn myned. Merched fy ngwlad, deuwch allan i America, Ile mae eich hangen, a pheidiwch llochesu dim yn hwy dan draed eich gor- meswyr. Meithrinwch wroldeb, dyma sydd yn ol ynocb, a gweithiwch eich hun- ain allan i dir ryddid, lie y cewch ddigon o leoedd i wasanaethu, ac i gael eich parchu, yn nghyda thai da am eich llafur ond cofiwch, ni wna segurwyr mo'r tro yn America y rhai hyny allant wneutliur pob math o waith ty, am dani, y mae yma ddigon o le i chwi oil—ni fydd eisieu i chw fyned yn mhellacb na New York cyn y bydd yno ddigon o alwadau am danoch i fyned i bob rhan o'r wlad ac os na fydd genych arian, cewch aros yno hyd nes cewch leoedd, y mae yno gymdeithas bwr- pasol i ofalu am y cyfryw, &c. Y mae mwyafrif y gwrywod yn y wlad bon yn brawf fod eisieu mwy o fenywod yma na all Cymru fforddio i'w roddi. Cymerer er enghraifft San Francisco, prif dref California, y mae yno 22,000 yn fwy o wrywod nag sydd o fenywod, mewn un dref, cofiwch; ac y mae yna yn gyfrif ar gyfartaledd o lawer o leoedd ereill drwy y wlad. Unrbyw un a deimla gael rhyw hyfforddiant yn nglyn a rhywbeth a allaf roddi yn y cyfeiriad uchod, byddaf bob amser yn barod i wneud yr hyn a allaf i'r rhai hyny a ysgrifenant ataf.
EISTEDDFOD MERTHYR.
EISTEDDFOD MERTHYR. Drwg genyf weled papyrau Cymru yn frith gan ryfeloedd bychain papyrol wedi yr eisteddfod uchod; ond ymddengys nad rbyfel fach fydd yn nglyn a'r Gantawd, a diamheu y bydd yn niweidiol i'r hen sefydl- iad gogoneddus, yr hyn a achosa frath i galon pob Cymro Cymreig. Gobeithio y try pethau allan yn well na'n dysgwyliad. Diolch yn fawr i'R cyfaill, Thalamus am ei nodiadau pwrpasol ar yr eisteddfod uchod, yn enwedig ar yr awdl, yn y Drych. Dymunaf, cyn tier fynu, fy nghono yn serchog at bawb o'm hen gyfeillion; a gofynaf oes rhai o honynt a deimlant mer gynhes tuag ataf fel ag i anfon awdl fudd- ugol Merthyr i mi ? anfonaf finau rywbeth yn gydwerth yn ol, ond nodi hyny. E. J. Thomas, Alltwen gynt, anfon nodyn ataf, fel y gallwyf gael dy gyfeiriad, y mae genyf stor o bethau i'w trosglwyddo i ti mewn ystyr hanesol, ♦
Y WLADFA.
Y WLADFA. MRI GOL, Y mae y Wladfa wedi myned trwy lawer cyfnewidiad er pan diriodd y fintai gyntaf ar draethell Porthmadryn, ar yr 28ain o fis Gorphenaf, 1865 ae nis gellir meddwl am well gyferbyniad na'r olwg ar y gwron cenedlgarol o'r Bala yn ei drafferth yn cychwy,n y fintai o L'erpwl, a'i greesaw. iad yn y Wladfa pan y cyrhaedda (yn fuan gobeithio). Gresyn fuasai i'r fath weithiwr ffyddlon fyned i'w fedd cyn cael golwg ar ei waith yn llwyddo yr ochr arall i'r mor, canys nid oes ei gyffelyb yn ein gwlad er cystal gwyr sydd genym. Yr wyf yn cyfarfod a llawer heb ddeall amcan myned iad Mri Jones a Rhys allan i'r Wladfa, neu yn hytrach i Buenos Ayres. Ychydig amser yn ol daeth cais oddiwrth brif swyddog ymfudiaeth y Weriniaeth Arianin at Mr Jones, eisieu iddo ddyfod trwodd er trefnu i gael yr ymfudwyr yn unionsyth i'r Wladfa, yn lie eu glanio yn Buenos Ayres, fel y gwneir yn bresenol, er anghyfleusdra mawr i'r ymfudwyr, a chostau anferth i'r llywodraeth, i'w cadw a'u danfon i lawr i'r Wladfa. Ac wrth weled yr ymfudiaeth Gymreig yn cynyddu, teimla yr awdurdodau fod yn well iddynt gynorthwyo i gael yr ymfudwyr allac yn y Rerdd fwyaf diymdroi a digest iddynt, a dymuniad a gweddi pob cenedlgarwr yw, am i'r Arglwydd lwyddo cenadaeth y ddau wr di-hunangar hyn, y rhai sydd a'u calon ar wneud daioni i'w cydgenedl. Da fydd gan bawb sydd yn teimlo dydd- ordeb yn symudiadau y Proff. Jones, na fydd i'r athrofa sydd mor agos at ei galon, yr hon a wasanaethodd am 27 o flynyddau, nid fel gwas cyflog, nac a llygad wasanaeth fel boddloywyr dynion, ond fel uu a rydd gyfrif i Dduw, Y mae gwasanaetli y gwr profiadol o Ddyfed, Parcli J. Davei, Glan- <hvr, a/I Proff. Bees, yr athraw cynorih- wyol, yn ddigon o sicrwydd na fydd y myfyrwyr ar eu colled, a gall yr eglwysi sydd wedi bod mor ffyddlon ymddiried y gwaith yn Haw y gwyr hyn. Sicrheir fod y Proff. Rees yn un o'r atbrawon goreu, ac yn hen adnabyddus a'i waith, ac o ran ei allucedd yn eithaf cymwys i fod yn athraw unrhyw nn o'n hathrofeydd. Dysgwylir y prif athra w i ddychwelyd, os ohut rwydd- ineb, yn mhen oddeutu pedwar mis. Un peth arall yr hoffwn alw sylw ato, ar gais cyfeillion o'r Wladfa, er amlldiffyniad i'w cymeriadau:—Flwyddyn yn ol yr oedd yma amrai gyfeillion wedi dyfod ar ymwel- iad a'r hen wlad, y rhai a ddychwelasant yn niwedd mis Ebrill. Yr un pryd a'r rhai hyn yr aetb David Thomas, Ffactri, Llan carfau, yr hwn a gymerodd ymaith werth cauoedd lawer o bun au o wahanol nwyddau, t iddo gwahanol fasnachwyr, o wahanol ran- au o'r wlad, ae un o'i goelwyr mwyaf oedd Cymro yn Morganwg (yr hwn a wrthododd arwyddo ei enw er atafaelu yr eiddo, ond gobeithio y bydd D. T. yn ddigon gonest i'w dalu pan y gall). Gosodai Dafydd Thomas ei hunan allan i'r cyfeillion o'r Wladfa fel agent yn arfer prynu a gwerthu dros wahanol firms, ac y gallai gael y pethau oedd arnynt eu heisieu yn rhatach nag y gallent hwy. Ac i'r tai masnachol, gosodai ei hunan allan fel gwr oedd yn prynu i ereill, ac yn agor maes newydd. Ond wedi cael y nwyddau, aeth ymaith yn liechwraidd heb wybod i neb o'i goelwyr nes oedd y ilong vedicychwyn; dangosai ei lytbyron atynt fare post L'er- pwl yn mhen dau ddiwrnod wedi i'r Ilong gychwyn i'r m6r. Yn mysg y nwyddau hyn yr oedd pethau wedi eu hanfon i L'erpwl i ofal eu broker (nid yr un arferol i'r Wladfa), yn enwau gwahanol bersonau, ac yn eu mysg rai o'r cyfeillion oedd yn dychwelyd, yr hyn wrth ei gydmaru a llythyrau D. Thomas pan yn erchi y nwyddau, oedd yn taflu amheuaeth ar onestrwydd yr holl gwmni, neu eu bod wedi cael eu gwneud dan eu llygaid gan un dyn. Wedi gweled trwy un o'r masnach- wyr pa fodd yr oedd pethau yn sefyll, a chyfeiriadau yn rhai o'r papyrau at y dyn wedi ymadael heb gofio talu am bob peth oedd wedi gael, anfonais i'r Wladfa ar un- waith i edrych a oedd yn bosibl gwneud rhywbeth er cael yr arian neu afael yn yr eiddo, ond gwelais wedi hyny fod y nwydd. au, y rhan fwyaf, wedi eu hatafaelu yn Buenos Ayres dan warrant Maer Bryste, yr hon a ddatganai D. Thomas yn absconded bankrupt. (Ymddangosodd yr hanes hwnw yn y Western Mail er ys misoedd yn ol). Wedi hyn derbyniais lythyrau o'r Wladfa yn dangos yn eglur (a gwelais un oddiwrth D. Thomas yn dweyd nad oedd a fyno neb ond ef ei hun a'r peth). Ynddiweddarach, dyma awdurdod swyddogol ar y mater i'm Haw, wedi ei arwyddo a sel Ynadaeth y Wladfa, gau yr ynad, David Lloyd Jones, a David Thomas ei hun, yn ngwydd dau dyst, Tach. lleg, 1881. A ganlyn sydd gopi cywir At baicb y pertlLyn iddynt wybod. Mae David Thomas, diweddar o Lan- carfan, Sir Forganwg, drwy hyn yn dy- muno gwneud yn hysbys, gan nad pa esbon- iad roddir ar ei weithrediadau masnachol cyn ymfudo i Batagonia, nad oedd dim a fyno y Bonwyr James Harries, William Richards, na Griffith Williams, a'r mater, ond yn unig fel cwsmeriaid wedi ymddir- ied iddo brynu nwyddau iddynt. Mae yn ddrwg iawn, ganddo os oes rhywrai yn eu beio hwy o'i achos ef." Yr wyf wedi dangos y gwreiddiol i'r neb y perthyn yn benaf iddo wybod, a gall y neb a fyno ei weled genyf os yn ewyllysio galw. Da iawn genyf fod cymeriadau fy nhri c'hyfaill gwladfaol yn cael eu dangos yn lan, fel y credwn o'r decbreu eu bod, er y mynai rhai ddadleu i mi fel arall. Hefyd, y mae rhai sydd yn hoffach o chwilio gwallau na dim arall, ae nad oes dim Gwladfaol wrth eu bodd ond beiau, wedi ceisio taflu i'n gwynebau fod y Wladfa yn myned yn noddfa troseddwyr o bob math. Ond gwelir mai lie gwacl sydd yno iddynt ym-. guddio, ac nis gall fod yn ddymunol iawn iddynt aros mewn lie y gorfodir hwy, gan ddylanwad cymdeithasol, i arwyddo eu henwau, fel y gwnaeth y dyn hwn. Hyberaf, Mri. Gol., y byddweh mor gar- edig a chyhoeddi yr uchod, fel y gwelo pawb y perthyn iddynt ei weled. Yr eiddoch yn wladgar, L. P. HUMPHREYS. Abercanaid, Merthyr, Chwef. 7fed.
RHIF YR ENWADAU YN AMERICA.
RHIF YR ENWADAU YN AMERICA. FONEDDIGION,— Gan fod rhai brodyr yn lied boff o gyfeirio at eu lluosogcwydd a'u 11 cryfder, yn enwedig yn America, hwyrach y gwnai les i rai o honynt, ac i'r wlad yn gyffredinol, i ddarllen yr ystadegau can- lynol o nifer holl enwadau crefyddol America, fel eu cyhoeddwyd yn ddiwedd- ar ;—Methodistiaid Wesleyaidd (pob cang. en)-aelodau, 3,328,165 gweinidogion, 22, 808 Bedyddwyr — aelodau, 2,821,726 gweinidogion, 22 377; Presbyteriaid-aelod- au, 1,158,919; gweinidogion, 9,769; Cynull- eidfaolwyr -aelodau, 384,332; gweinidog- ion, a,577; Lutheriaid—aeledau, 738,302; gweinidogion, 8,299 Esgobyddion—aelod- au, 349,580 gweinidogion, 3,466. Gwelir mai y Methodistiaid Wesleyaidd sydd ar y blaen yn America, a hyny nid o ychydig. Er mai Wesleyaeth yw yr eglwys wanaf mewn un ystyr yn Neheudir Cymru, ym- ddengys yn ddiamheuol er hyny mai gwir y ffaith gyhoeddwyd gan Dr Osborn yn y gynadledd gyffredinol ddiweddaf o eiddo yr enwad yn Llundain,—mai yr Eglwys Wesleyaidd yw y corff Protestanaidd mwy. af yn yr holl fyd. ALITHBIA.
y GENADAETH DDIRWESTOL EFENGYLAIDD.
y GENADAETH DDIRWESTOL EFENGYLAIDD. Yn ol yr adroddiadau a geir yn y gwa- hanol newyddiaduron, y mtie yn ddywen- ydd genym gofnodi fod dylanwad y genadaeth yn ymledaenu, ac yn chwilio allan y manau mwyaf dinod ae anghysbell, yn ogystal a'r lleoedd mwyaf poblogaidd yn ein gwlad. Cerddwn heolydd ein dinasoedd, ein trefi, a'n cymoedd; llwybrau ein bryniau, a'n mynyddoedd, a'n meusydd; pla(jorms ein gorsafoedd, ae o fewn i furiau ein swydd- feydd; ie, hyd yn nod o fewn muriau ein police staiions, yn mhlith ein heddgeidwaid; [ ac yn mhob man cawn weled y dernyn ysnodyn glas byclian yn addurno dwyfron y bachgeuyu llygadlon, y gwr ieu wc hoenus, a'r henafgwr parchus, neu yntfi un o'r rhyw deg, fel arwydd o'a credo mewn egwyddorion dirwestol, a'u hymlyniad wrth y liu ardystiol. Pan y mae argoelion sobrwyud fel hyn yn ymledu ar draws y wiad, nid rhyfedd fod Publicanod yn ymddychrynu, ac yu edrych tua chyfeiriad St. Stephan am gynorthwy mewn cyfyngder. Ond dylasai ffawd y Welsh Sunday Closing Bill fod wedi dysgn gwers iddynt erbyn hyn. Er cryfed eu gobaith, ac er cymaint eu hymdrecb, i atal y mesur hwn i gael ei restri gyda chyf- reitbiau ein gwlad, bu llafar y werin yn drech na hwynt. Nid gwiw iddyntjwiugo yn erbyn y symbylau, a sicr yw, na fydd i da- farnwyr y dyfodol fyw byd da yn helaeth- wych bennydd fel tafarnwyr y gorphenol. Prif chwarenyddion drama fawr bywyd yr oes nesaf fydd y becbgyn a'r genethod ieu- aine sydd yn mowldio eu cymeriadau ar yr aelwyd gartref, yn ngwasanaeth y cysegr, ac yn ysgolion ein gwlad y dyddiau pre-* senol. Hyffordda blentyn yn mhen ei ffordd, a plian heneiddia nid ymedy efe a hi," sydd reol euraidd, cyn hyned a Sol- omon ei hunan; ae y mae yr eifen bwysig hono yn nghyfansoddiad cymeriad moesol y d6 ieuanc, set y Band of Hope, yn un nas gellir ffurfio barn gymhwys am ei phwysig- rwydd nes byddo plant y dyddiau hyn yn llenwi lie eu tadau yn amryfal safleoedd bywyd. Elfen bwysig arall ydyw addysg. Po fwyaf a ddiwallir ar ofyniadau y rhauan uchaf, urddasolaf, o'r natur ddynol, sef y meddyliol, bydd llai o sylw, mewn cydmar- iaetb, i ofyniadau y rhanau isaf, sef yr ani- feilaidd, faint llai y trachwantau. Ceir enghreifftiau o hyn yn mywyd rhai o gewri meddyliol ein gwlad. Llenwir eu meddyl- iau gymaint gan eu hefrydiau, fel yr esgeu- lusant i eithafion y "dyn" oddifewn ac oddiallan. Ond nid hyn yn unig; cymharer sefyllfa yr hwn na fedr fyned trwy y wyddor ag hyd yn nod y llafurwr tlotaf sydd yn medru darllen ei newyddiadur. Y mae y blaenaf, ar ol gorphen ei ddiwrnod gwaith, yn orfodol o eistedd i lawr i ben- dry mu ac i hepian, neu, os bydd yn un o'r henpecked husbands, ffy o fewn muriau y tafaindy, er mwyn bod allan o gyrhaedd gorchymynion arglwyddes y ty. Ond am yr olaf, y mae ganddo ei newyddiadur, yr hwn sydd o fewn cyrhaedd y dosbarth tlotaf o ddynion bron" ac mewn trefi y mae y frte libraries yn ei osod o fewn cyrhaedd pawb yn rhad ao am ddim. Y mae ereill drachefn, tuag at y rhai y mae ffawd dipyn fwy ffafriol, yn gallu mwynhau cymdeithas, ac yn dal cymundeb 4 meddyliau coethaf yr oesau trwy gyfrwng y llyfrau ardderchog sydd yn dylifo allan o'r wasg, ao a werthir am brisiau anhygoel o isel. Felly, y mae y dA sydd y.n codi, trwy fwynhau gwell addysg, yn gallu trwytho eu meddyliau A gwybodaeth-yn gallu am- gyffred yn fwy sylweddol y modd y dys- gwylir iddynt weithredu fel bodau moesol, ac i lenwi yn briodol eu safleoedd mewn cymdeithas. Heblaw hyn, y mae gwasanaeth gwerth. fawr y wasgyn eu galluogi i ymgydnabyddu a ffeithiau ymarferol bywyd-pa fodd y mae eu cyfoedion mewn gwahanol ranau o'r byd yn byw-pa bethau sydd yn dwyn dedwyddwch a llwyddiant i'w rhan, a'r dinystt a'r trueni sydd yn gysylltiedig a hanes y diodydd meddwol yn mhob oes o'r byd. Y mae ffeithian fel hyn yn ein tueddu i gredu fod y diwygiad dirwestol presenol yn un trwyadl a pharhaol, er y gobeithia masuachwyr mewn diodydd meddwol nad yw ond math o sport, gan i mi glywed un e honynt yn ddiweddar yn dweyd gyda chryn foddhad ei fod yn cofio am "dwrw dir westol" tuag ugain mlynedd yn ol, effeith- iau yr hwn, meddai ef, oedd wedi diflanu o'r tir er's amser maith. Ond beth bynag ydyw barn y doethion (?) hyn y mae eu rhagolygon am y dyfodol yn ddigalon dros ben, a phe buasai yn bosibl iddynt lwgr- wobrwyo Mr Booth, talasai y ffordd iddynt danysgrifio swm helaeth iddo am atal ei leferydd. Y mae yr adroddiadau diwedd- araf am Mr Booth a'i waith yn galonogol dros ben i ni fel dirwestwyr, ac y mae yn ymddangos fod ei boblogrwydd yn myned ar gynydd yn barhaus. a llwyddiant anar- ferol yn ei ddilyn. Yn ystod y deuddeng noswaith y bu yn Bryste, yr oedd yr adeil- ad ardderchog, Colston Hall (yr adeilad eangaf yn y ddinas), yn orlawn y naill noson ar ol y llall; ac fel mewn pob man arall, gorfodwyd canoed di droiyn eu holau, wedi methu cael mynediad i mewn, a chymerwyd y Rhuban Glas gan 36,328 o bersonau yno -ugain mil c honynt yn recruits newyddion. Abertawe ydyw y nesaf ar y list; gan fod y nifer sydd wedi ymrestru yno o'r amser y dechreuodd Mr Booth ar ei waith yn y dref, Tachwedd y 17eg, 1881, hyd ddiwedd y mis diweddaf, yn 23,229. Nid oes genym gyfrifon lleoedd ereill y bu ynddynt, megys Caerdydd, Casnewydd, Gloucester, end gwyddom nad ydynt yn mhell ar ol y manau a nodwyd, tra mae lleoedd ereiir nes atom, megys Pontypridd, Porth, Llwyn- ypia, Ystrad, &c., yn dechreu rhifo eu nifer wrth y miloedd. Y mae cyffeiriau cryf fel y Blue Ribbon Movement a Local Option Syr Wilfrid Lawson yn sicr o effeithio er gwaeth ar gyfansoddiad Bachus druan. Llantrisant. DAFYDD AP I AGO.
ARCHWILIAD PWLL CANOL Y DINAS.
ARCHWILIAD PWLL CANOL Y DINAS. Gwnaethom ni sydd a'n henwau isod, yn unol k Rheol Gyffredinol rhif 30, arohwiliad manwl o'r pwll uchod, Ohwefror yr 2il, a cliawsom yr oil yn y cyflwr a ganlyn:- Y pwll, neu y shaft, mewn sefyllfa dda. Yr headings, neu y levels, yr un modd, ae yn rhydd oddiwrth nwy. Y talcenau hefyd heb eithrio'r un heb yr arwydd lleiaf o nwy. Y drift mews cyflwr hynod dda. Y ffyrdd awyr mewn sefyllfa ragorol, ac yn rhydd oddiwrth nwy. Y peirianau awyr- awl mewn cyflwr campus, yr holl hen weithfaoedd yn rhydd oddiwrth nwy, a'r peirianau ereill cysylltiedig a'r adran hon o'r gwaith mewn cyflwr rhagorol o dda. A phriodol yw hysbysu y cyhoedd fod y perchenog, Mr D. Thomas, yn brysur agor yr hen waith, lie y dygwyddodd y danchwa, a'r fan mae cynifer o gyrff yn gorwedd. Ond mae ein gobaith yn cryfhau am ddyfed o hyd i'r cyrff, wrth weled cymaint o yni ac awydd yn y perchenog i fyned trwy I rwystrau anghredadwy er agor yr hen waith. Dymuniad pob calon yma yw, ar i'r perchenog gael llwyddiant i ganlyn ei ymdrechiadau, er ceisio cael y trueiniaid allan o'i beddau tanddaearol. Arwyddwydj—AVID JENKINS, DAVID HOWELLS. PRIODAS CAERONWY. Dacw'r bynod Caeronwy—wedi myn'd Am ei oes na chwmpwy Fe neidiodd fewn i adwy Na ddaw i maes yn hawdd mwy. Ond cri enaid Cacron wy- wedi bod Yw peidio byw'n feudwy Am ei gariad bu'n ofnadwy- Any amount o honi mwy! Ei lwydd weiodd o alaeth-ei galon, A gwaeledd gelyniaeth; Yma'n wir, y cwlwm wnaeth Oedd gwlwm buddityoliaeth. Nid bach oedd—beth dybiwch chwi ?—i'r Enwog yn ei gyni, [hen Gaer Allu enill ei Winnie Lwys, a dwyn ei X s. d. Ond nid aur, ond nodau hon- a'i denodd 0 dan gwlwm weithion; Duw Serch i'r briodas hon Ro'dd gwlwm a'r ddwy galon. Croewi anian Caeronwy-yn chwanog Wnewch Winnie glodadwy Er yn fardd 'nawr, â'n fyrdd mwy Wrth eich nerth a chynorthwy. Haf heb auaf fo'u bywyd,—a swyn tes Yn eu ty hyd weryd Gwel'd llon'd eu cartref hefyd O'u bechgyn bach—gwyn eu byd T CADIFOR, 1 Be' sy' 'nawr o bwys i ni-y beirdd ? Beth yw hyn o ddifri ? Wele frawd barddol o fri A redodd i briodi. Y cawr hynod Caeronwy-dan edyn Hudol serch fe'i denwyd Do, ein brawd hwn briodwyd, Yn ei wrils aeth mewn i'r rhwyd. Caeronwy'r cawr awenydd,—a'i fun ef Wnaeth fargen rhyw hwyrddydd; Heddyw rhwym yw'r ddau oedd rhydd. Wir dodwyd hwy'n b&r dedwydd. Yr awenydd drwy'i riniau—da a rhoed I reng y mil punau; Mewn lion hwyl mae'n llawenbau. Yn ogoniant eu gwenau. Wel, hir oes a barddol hwre!—ni ro'wn Mewn rhwysg i'r p&r llawen Goludog wawl Duw a gwên-rhaglun- iaeth Iddynt yn helaebh-Ilwycldiant yn heul- wen. MAESYDDOG. Henffych well! ffowch allan—o'ch an- Cewch newydd -deb;—taran [edd-dai A rhu torf, pylor, tan, Saethu, taflu rice weithian. Hynod! ceir bod cerbydau—yn wyllt tatt Yn melltenu'r bryniau; 01 euraid(I hynt- cludo'r ddau-'in ddi. I ddilysedd hael oes o ddiliau. [ffael Yr enwog ran o Gaeronwy,—tlos ferch I'r tlysfardd blodadwy; Dywedir fod ei haur yn dodwy, Yn ol count myrdd, fll cant a mwy.. Mwy o fawredd myfyriol—wedi hyn Dania'th nwyf farddonol; A'th awen byth yn obeithioJ, Dyma 'i 'nawr—'does dim yn ol. Heb boen a cherub yn ch warau-rhan Rai o 'r nesaf ddyddiau [oes Ac euro 'i ddull ceir y ddau Yn gywrain am y gorau. ERYR EMLYN. Hip hwre! hwre o hyd!—Ohoi, boys, Gwrandewch, bawb, mewn mynyd; Ein Caeronwy mwy yn myd—mel a llaeth, Wawdia unoliaeth gyda'i anwylyd. Gwe'ld y bardd yn gildo bys Y siiiol fun Miss Harris, Dania'r beirdd a doniau'r byd I'w banerch hwy mewn mynyd. Yn hir bu'n canu ei unawd,-a byn Oedd groes i'w anianawd Hon olraint dania'n hen frawd O'r diwedd i ganu'r deuaud. Aeth i'r box heb fawr o gocso,—'roedd y A rhodd o wraig 'IJ ei ddotio; [ring Ei Winne ddoetli a'i denodd o-rhyw. A hi a'i daliodd ef draed a dwylo. [fodd Eitba' stroke oedd hon heb jocan,-sut y Wyddost ti beth, bachan, [bu ? Rho wersi i fi yn y fan-am bill Sut mae enill un suita'm hunan. E leiciwn i fod mor lweus-a chael Merch hardd fel Miss Harries, Rhedwn yn llanc cariadus I brynu ring at Brown a Rees. Byddwn ffals, ro'th fedals iii-am fis, Neu am fwy os gelu, A betiaf yr enillaf i Ar ei hunion ryw Winnie. Priodas dda-paradwys ddoed-i chwi Chwenychaf yn ddioed; A cheisiaf fwy-eich hoes foed Yn gwynu hyd yn ganoed. TEGANWY.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Hyn sydd i hysbysu pawb o'r beirdd sydd yn ymholi, ac a berthyn iddynt wybod, fod y ffugenwau a ganlyn wedi eu derbyn ar y Toddaid Bedsdargraff i'r diweddar Mr J. Richards, Mynyddgarnlwyd Awel o lam y m6r, Anadl Einioes, Branfardd, Gwylofus, Delweddwr, Bane Craig Garfod, Tan yr Allt, Richelien, Gustavus, Un yn y Glyn, Hen Ddysgybl Anwyl, Gwlith Adgof, Awel o'r Ywen, Llais Hiraeth, B. M., ac Amddi- fad-16. Y ma.e y beirciad. Dafydd Morganwg, wedi addaw danfon y feirniadaeth i'r DAR. IAN, ond nis gallaf ddweyd gyda sicrwydd pa bryd; gobeithio y cymer hyny ie yr wythnos nesaf. Dymunaf sylw Morganwg at hyn. D. DAVIES, (Briallog) Ysg.
Advertising
E WCH i Swyddfa'r DARIAN os ydych am oJ Argraffu; gwneir pob math o waith gyda'r buandra mwN af, a'r prisoedd mwyaf rhesymol. Swyddfa'r DARIAN am bob math 0 Stationery, &c., megys Envelopes Casglu am 2s. y fil; Envelopes (gwyn neu Ms), ceiniog Packet-25.
Y FFORDD FWYAF LWYDI;; V I…
ydyw lluaws o'r damweiniau ofnadwy sydd yn dygwydd yn nyfnder nos. Credwn mat y prif reswm sydd dros gyflogi y dynion yma ydyw eu bod i'w cael fel gweithwyr yn rhad. Ond y mae y syniad yn hollol o'i Ie. Byddai yn well i'r meistr yn y pen draw roddi cyflog resymol dda i weithwyr cyfarwydd a galluog i gyflawni y gwaith yn ddyogel. Ni ddylai personau anmhrona-dol ar un cyfrif gael eu eyflogi yri y steam coal, hyny yw, yn y gweithiau hyny y mae yn rhaid defnyddio goleuni cudd. Di- chon y teimlir ein bod yn rhyfela yn erbyn rhyddid ac iawnderau y meistri i'r cyfryw bersonau yn y modd uchod. Ond nid ydym yn eyfyngu ar hawliau y naill na'r Hall o honynt, ond yn unig yn gosod dyogelwch bywyd neu fywydau y mwyafrif o'r gweithwyr ar safonteilwng yn wyneb ymddygiadau rbai person au yn ein gwahanol weitbfeyddtanddaearol, sydd hyd yn hyn y rhaid eu gweithio wrth oleuni cudd; felly y mae yneithaf cyfiawn i gau allan y cyfryw, gan fod I digon o fanau ereill i'w cael er iddynt ddyfod yn ymarferol i raddau mwy neu lai. Dywed rhai, fe ddichon, yn ol y cynllun uchod, na bjdd&i modd digon o Jowyr profiadol i gyfarfod ag angen mas- nach ein gwlad ond yr ateb eto yw, y byddai y bechgyn a godir i fynyyn y eyf- ryw lofeydd o dan ofal tadau a pberthyn- asau ereill yn ddigon. Ac heblaw hyny, y mae canoedd o lowyr profiadol a weith- iaat ac a orlanwant fanau a weithir wrth oleuni aoeth, a fyddent ar un- waith i'w cael yn w'eithwyr y glofeydd yma pe byddai y rheol hon yn cael ei gweithredu. Ond a chaniatau y byddai y rheol ychydig yn erbyn amldra glowyr, credwn y byddai hyny yn fendith i feistri a gweithwyr ein gwlad yn y pen draw.