Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

HER EDWARD

News
Cite
Share

HER EDWARD YR OLAF O'R SAESON. PENOD III. F Pan yn garcharorion yn y capel, dy- wedodd Martin, "Gadewch i ni fwyta ac yfed, ac wedi hyny, fy arglwydd, gallwch chwi gysgu ymaith eich blinder a'ch clwyfau, tra y bydd i mi wylio. Nid oes genyf rhyw awydd mawr i'r creaduriaid hyn ein cymeryd tra yn cysgu." Gorweddodd Martin yn ddystaw ar draws y drws nes iddi fyned yn hwyr, yn gwrandaw ar bob symudiad, nes i'r allwedd ddechreu troi yr ailwaith yn y drws. Cyffrodd wrth y swn, a chan gy- meryd gafael yn y person wrth ei wddf, efe a ddywedodd, "Os siaradwch un ga.irbyddwch farw I" "Na wnewch niwaid i mi," ebai llais erynedig a menywaidd, ac er ei syndod cafodd Martin ei fod wedi ymaflyd laewn merch ieuanc. "Myfi ydyw y dywysoges," ebai hi, "gadewch i mi ddyfod i mewn." "Ymwelyddes groesawgar iawn i mi," eba.i Martin wrtho ei hun; a chan ym- aflyd yn yr allwedd, efe a glodd y drws oddimewn. "Cymerwch fi at eich meistr," ebai hi, ac arweiniodd Martin hi yn mlaen, gan ryfeddu, ond yn dysgwyl rhyw gan- lyniedydd arall. 0 Y mae genych chwi fidog yn eich Uaw," ebe efe, gan gydio yn ei harddwrn. Oes. Ond pe buaswn wedi meddwl ei ddefnyddio, buaswn wedi gwneud hyny atoeh chwi i ddechreu. Cymerwch ef, os dewiswch." Prysurodd i fyny at Hereward, yr hwn a gysgai ar risiau yr allor; ymos- i tyngodd ar ei gluniau wrth ei ochr, gan ymaflyd yn ei ddwylaw, a'i alw ei gwar- edwr. "Nid wyf yn llawn effro eto," ebai efe, ac nis gwn yn iawn nad breu- ddwydio yr ydwyf. Y mae yr hyn a welaf ac a glywaf yn anhygoel." "Nid yw yn un breuddwyd. Yr wyf bob amser wedi bod yn ffyddlon i chwi. Onid ydwyf wedi rhoddi fy hun yn eich tneddiant ? ac wedi dyfod yma i'ch gwaredu, fy ngwaredwr." Y mae y dagrau a gollasoch dros o ri gorff eich cawr wedi ymddangos i sychu yn gyflym." Pa beth arall a allaswn ei wneud; dywsoch ef yn dweyd wrth yr anwar- iaid o'i gwmpas fy mod wedi cymeryd ei gleddyf. Ni fuasai fy mywyd i na bywyd fy nhad yn ddyogel oni buaswn wedi rhagrithio fel hyny." Ghwychwi, ddynion, sydd yn gallu llywio y byd gydag arfau, oni wyddoch chwi nad oes genym ni ond un arf a'r hwn i amddiifyn ein hunain a'n heiddo, sef cyfrwysder ac yn cael ein gvru genych chwi yn ddyddiol i ddweyd yr hyn nad ydym yn meddwl, ïe, yn gas genym." "Yna chwi a ladratasoch ei gleddyf?" "Do, ac mi a'i cuddiais ef yma er eich mwyn chwi!" a thynodd yr arf o'r tu ol i'r allor. "Cymerwch ef. Yr eiddoch chwi yw ef yn awr. Y mae rhyw swyn yn perthyn iddo. Pwy bynag a darawo, ni fydd eisieu ei daraw mwyach. Yn frys- iog yn awr, y mae yn rhaid i chwi fyned. Ond addawch un peth cyn yr ewch." H Os bydd i mi adael y tir hwn yn ddyogel, mi addawaf ei wneud, beth foyrmg a fydd. Paham na ddeuwch gyda mi, foneddiges, a gweled ei fod yn cael ei wneud?" Hi a chwarddodd. I- 0! fachgen ysmala, a ydych chwi yn meddwl fy mod yn eich caru yn ddigonol i hyny?" Yr wyf wedi eich enill, a phaham na ddylwn i eich cadw?" ebe Hereward dan wenu. el A ydych chwi ddim yn gwybod fy mod wedi fy nyweddio i'ch perthynas, ac, er nad ydych chwi yn gwybod fy mod ya caru hwnw ?" It Felly, mi pia yr ymladd ac yntau yr ysbail." Ysbail, yn wir chwi bia y clod -y cleddyf-ac yn fwy na thebyg, os bydd l chwi gymeryd fy nghyngor, bydd i chwi gael eich gajw gan bob boneddiges yn farchog gwirioneddol, yr hwn nad ystyria ei bleser ei hun, ond yn hytrach gweithredoedd o wroldeb. Ewch at yr hwn yr wyf wedi fy nyweddio iddo, i Waterford dros y mor. Cymerwch iddo y fodrwy hon, a dywedwch wrtho am ddyfod yn fuan i'm ymofyn, rhag y bydd iddo fy ngholli yr ail waith, a'm tolli yr adeg hoiao am byth. Y mae yn galed arnaf yma, a phe na byddai er mwyn fy nhad, gallai y byddwa yn ddigon gwan, er pob peth a ddywedai dynion, i rhedeg gyda chwi at eich per- thynas dros y mor," Ymddiriedwch ynof, a deuwch," ebai Hereward, gwaed yr hwn a dde- ehreuodd ferwi o'i fewn. Ymddiried- wch ynof, ac ymddygaf tuag atech fel fy ehwaer-fel fy Barenhines. Tyngaf i'r mefoedd i fod yn gywir tuag atoch." Yr ydwyf yn ymddiried ynoch, ond nid all hyny fod. Dyma arian i chwi ddigonedd, os oes arnoch ei angen; ac nid yw yn un cywilyddi chwi ei gymer- yd oddiarnaf fi. Ac un peth arall, dyma l chwi raffau—rhaid i chwi sicrhau iraed a dwylaw yr hen offeirred y tu mewn, ac y mae yn rhaid i chwi rwymo fy rhai inau hefyd." Dim byth," ebai Hereward. Y mae yn rhaid ei wneud; pa fedd fclb kyny y gallai & esboaio y modd y daethoch i feddiant o'r; allwedd? Gwnaethum iddynt roddi i mi yr allwedd fel yr un oedd a'r rheswm mwyaf i'ch cashau a'ch eadw yh ddyogel, a phan y deuant yn y boreu, dywedaf wrthynt y modd y daethum yma i'ch trywanu &'m dwylaw fy hun-y mae yn rhaid i'r bidog gael ei gosod wrth fy ochr—a pha fodd y darfu i chwi a'ch gwasan- aethwr ymosod arnom a'n rhwymo, ac yna ddianc. O! Mair ein mam!" ychwanegai y foneddiges gydag ochen- aid, pa bryd y daw yr amser na fydd raid i ni y menywod, druain, ddywedyd an wireddau ?" Gorweddodd i lawr, ac er gofid iddo ei hun, ymgymerodd Hereward a rhwymo ei dwylaw a'i thraed, gan eu cusanu ar yr un pryd." I I Gwnaf yn dda yma hyd y boreu," ebai hi. "Pa beth yn well a allwn ei wneud na gorwedd ar risiau yr allor yn gweddio?" Ymostyngodd yr hen offeiriad yn ddystaw i'r un dynged, ac ymaith yr aeth Hereward a Martin yn lladradaidd gan gloi y drws, ond gadael yr allwedd o'r tu allan. Yr oedd myned dros yr hen wrthgloddiau tywyrch yn waith hawdd, ac mewn ychydig fynydau yr oeddynt yn prysuro i lawr y gwastad- edd tua'r mor, a'r gwynt o'r tu ol iddynt yn chwythu o'r goglodd. Oni ddywedais i wrthych, fy argl- wydd," ebe Martin, am i chwi gadw eich melldithion nes i chwi weled pen draw y drafodaeth hon ?" Yr oedd Hereward yn ddystaw. Yr oedd ei feddwl yn gynhyrfus, a'i galon yn isel. Yr oedd meddwl am y perygl yr oedd wedi bod ynddo wedi effeithio yn fawr arno, a braidd nad oedd yn edifarhau ei fod wedi ymfalchio yn nghwymp gelyn gorchfygedig. Yr oedd yn amIwg fod rhyw ddylanwad a daioni wedi effeithio arno, ond beth fyddai y canlyniad nid oedd neb ar y pryd yn gwybod. Cyrhaeddasant y llong, ac adroddas- ant eu helynt, ac er nad oeddynt wedi llwytho yr alcan, cynygiodd Hereward dalu iddynt y gwahaniaeth os byddai iddynt gychwyn ar unwaith. Felly y bu, a phenderfynasant fyned yn union- syth i Waterford i gyflawni eu llwyth. Ond yr oedd y llanw allan, ac nis gall- ent gychwyn am o leiaf dair awr. Bu y tair awr yn wylio a gwedclio-raai yn gweddio na wnaethant hyny erioed o'r blaen, rhag ofn i'r Cerniwiaid ddyfod a'u llabyddio oil.

CYFIEITHIAD O'R KORAN.

NODIADAU.

0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD.

Y DEGWM MORMONAIDD.

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD Y…

Y FFORDD FWYAF LWYDI;; V I…