Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
B Wi T.H JJ O 3. '2'."",\,(-:.,...
B Wi T.H JJ O 3. '2'. ,( -iJMCB&kvm- bryder yn ugh:dch "Yr agt r vg Titanda, yr hon ^a; -v :V am .Dtiu4ee ,fr y 4p: <■■■ -feti/ wfedr bod ar ei tbiiisii afc* V/ •> lyddiau* H|ae ei "dwyifttv Vix £ xv •;• 8u| 4i& Yn I/feme! F, flriawiid^dGhsene* iiiwadda!, ca,fw yd 'od. un T&oinaa Mentis) gwsiihiwr atcan, wedi myned-ar goll. Y lime- yn yuidd-aigos iddo ysgrifenu 'ivtivyi: cyn yimui si, yn dweyd y byddai yrtifodaf ( «vyd ei gorff prydnawn dy<td Siwixvii v- gos i Lacharn. y I" f M U: Iwaid Hull yn awr yn ■■twnehJ -s-us: ,1(\ ;1,h,unangyfatidefiad o! btruddio I adfejdwad yn 1880. Bemid fir y pi i fo3 y francedig weii J.-+ -ayrtkia yn. ddauweiniol -i t, docks, ond- y > ioia6 g'Tf/Tvts ? oysgotwr yn Sarhprough, o^ci > Vv yt adeg bono yn Hull, yn -.t (■-■■ ■" ^vr> yr hwnsydd yn awr 4 W^v wetdicyladdef mai efea'i f). hyny am ,ei for wadi ) vareudy. diweddaf, cymerodd u lrynllyd Le yft. ItftQl* ijc '"trffc Cafwyd garddwr -w < w > r William Prater, yn toy w • yn £ ay$t>n Road, ar draws y tan, ac wedi ei buhl i farwolaetli. Bernir kld.o Hyrthio lUeWD., flit. 1 y^a arswydus a bodd- u le ddydd Gwener di- v ombe, Devon. Pan yr ( •: otwyr a bachgen yn v -vr odd eu ewch a'i wyneb <r .mderymor arypryd. ,v n ymladd am eu byw- v yn y bad ar brydiaut ac sio m6r draehefn. Ceisiodd r, 3.. i y lan, ond cafodd fod y r. K)\Y wvv\ Cwympasant un aroll i],i i codi mwy, y rhai a wylid h, vdet^'s ar y lan, ond methwyd w.n 1 iddynt. Achubwyd y u.. 0 y tnae ei adfariad yn' ■ s. i' Hj 1 b li aewyddiaduron o'r Am- a, ei tots v- fwy na thebyg fod corff V a irkcdii- lai Crawford wedi dyfod i'r Tool tk C, i a hyny gan dri o Ital- Pywedir yn mhellach fod tri o v" 1i ce-ilyn-y corff i swydd Aber- y.i r rhai sydd wedi ac yn hwiliad am dano ydyw, !> U laclrata gan Italiaid, ac w: ■. a: ■ i: i'r America. ,n\ v lydd Mercher yr wythnos d" vU ? yr oedd Sergeant Best, "U myned a charcharores < c Ishton, o garchar North- all r ¡ lepool, yn y gerbydres, .• i 1; -•«! Yarm, agorodd ddrws y t v ddisymwth, a neidiodd 4de .•i-.a l u gafagrarin ar y lffiaell, •v- a vb i glafdy Hartlepool. Nid v i "i a i a dderbypiodd yn rhai "p".v y-?'g < > • ar diweddaf, ar ben Llan- d.; v. martb, cyfarfyddodd un Sao no! Gra 60 oed, a damwain nr ?cuol Y ,ae yn ymddangos iddo i v :?d yst-Jol i roddi bwyd i'r pony, -.f hyny dechreu glanhau allan y c M-vid 1" tag, pan y deuwyd o hyd v ,(E 'vedi ei gicio a'i anafu yn 2. y vo :y o amgylch ei ben. Yr aveajm ar un ochr hefyd wedi j (j a"; i odd ymgripian mor belled ft dy, lie y clywyd ei rudd- i ci raig, ond bu farw er pob. p vt/id' s iygol am oddeutu dau o'r Hooh • > dd Iau. V ■. odydd blynyddol y tafarn- wyd yn Nghaer yr wyth- \t ymgynullodd cynrychiol- v rv ,c, da yn Nghymru, rhyw SUr.s,.r v. va y cynulliad cyffredinol, < r -iV-rfjo i.i teithas iOgledd aDeheudir v .■ erwyd y gadair gan Mr Dr Caerdydd, yr hwn, yn ystod • 1 -v. .chiad, a gondemniodd y y Tafarnau ar y Sabboth, u ei bod yn debyg o fod yn < yn flynyddol iddo ef ei >td ai yn dafarnwr os oes /ddol o broiffd oddiwrth y ygiad crefyddol pwysig yn r aen yn eglwysi Methodist- fcti, Ohio. Yn ystod dwy lydd diwygiadol yn eglwys i unodd 200 o bersonau a y mae y cyfrifon o eglwysi vyddd y nifer i 400. Ceir i yffelyb hefyd yn Morrow a '"a. o. 1 1 dydd Mercher diweddaf, yn I cymerodd ftrwydriad dau rnol Ie. Y mae yn ym- y ddau amgylchiad, fod v di eu hanfon i breswyldai, i-. reswylyddion geisio agor y frwydriadau gymeryd lie. amryw bersonau yn y ddau i: Y mae yr heddgeidwad yn I gv;rr"u < ) hwiliad fr achos. I I: • y mis presenol diangodd r enw Williams o garchar >■•> o gan nofio drcs afon Wysg vn a erlidiai ar ei ol. Caf- v dad yn wlybion yn nhy ei f 1 a gymerwyd i fyny dan y 1, ladrata y cyfryw. Meth- ,'M T y cyhuddiad yn ei herbyn, a chafodd ei rhyddhau. 1 i I YDDFA'R DARIAN am bob ath o argraffwa-ith rhad, Pa*> ifenu, Envelopes, Account Bco ob math 0 Stationery.
ITANOHWA DDYGHRYNLLYD ETO…
TANOHWA DDYGHRYNLLYD ETO —J 3 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI. Yn ein rhifyn diweddaf cofnodasom fanylion tanchwa ddinystriol yn nglofa y Coedcae, cwm Rhondda, pryd y coll- wyd, mewn modd dychrynllyd, chweeh 0 fywydau. Yr wythnos hon tynir ein sylw at alanas ddychrynllyd a cliolHad 73 o fywydau sydd wecii o-vifteryd lIe yn) nglofa Trimdon Grange, Burbam. Cy- merodd le prydnawn ay did Iauyr wyth- nos ddiweddaf. Suddwyd y pwll hwn oddeutu deg mTynedd yn ol, at; a bwi- caswyd yn 1880 gati Mr Walter Scott, Newcastle. QehHr- f jwytliWaai. "a weithir ymayr Harvey mYTbtfrr yhM,' ac yn y blafenaf, yr hon hefyd ydyw y ddyfnaf, y cymerodd y danchwa 1.. Dywedir fod yn agos i 160*yn gweit^Jo yn y lofa ar yr un pryd, yrhai a hewida: dair gwaith yn ystod y 24 oriau. Cymerodd y dcmehwA le oddeutu dau o'r ^dch, yr hon a 'glywyd yn y gym- yddgaeth yn gyffredinol. Trwy fod y cage wedi myned yn rhwvm yn y pwll rhyw bellder o'r gwaelod, yn nghyda rhwystrau ereill, methodd yr ymchwil- wyr ddechreu ar eu gwaith mor gynted a.g y dymunid. Modd bynag, gallwyd myned i lawr i bwll glofa Killae, rhyw ddwy filldir o bellder, yr hon lofa a berchenogir gan yr un boneddwr, a mynedfa o'r naill i'r Hall. O'r rhai a aethant i lawr, gyntaf, collodd pump eu by^ydau, ac yn eu plith oruchwyliwr y lofa, yn nglofaKillae, trwy y tagnwy. Llwyddodd ymchwilwyr ereill i wneud eu ffordd, a chafwyd dau lowr ganddynt yn fyw. Deuwyd o hyd yr un noson i luaws o gyrff.
COLLIAD AGERLONG . PERTHYNOL…
COLLIAD AGERLONG PERTHYNOL I GAERDYDD. Boreu dydd Iau diweddaf derbyniodd Cadben Rowe, Caerdydd, fryshysbysiad fod un o'i agerlongau-y Rosebuit- wedi dyfod i wrthdarawiad, ac wedi ei suddo gan yr agerlong Lady Olive, ar dueddau Longship. Dywedir yn mhell- ach fod pedwar o ddwylaw y Rosebud wedi eu colli. <»■
PRYNU CORFF GUITEAU.
PRYNU CORFF GUITEAU. 1 ^ffmsoir yn. pl, pan daen-vryd^- son fod rhyw ddyn yn cynyg mil o ddol- ori am gorff Guiteau ar ol iddo gael ei grogi, nid oedd 11awer o bobl yn credu y dywediad. Ond yn awr, y mae sicr- J wydd fod boneddwr yn Philadelphia yn cynyg pum' mil o ddoleri am dano, gyda'r amcan o fyned ag ef i'w ar- ddangos drwy y wlad. Oynygia hefyd ran o'r arian a dderbynir oddiwrth yr edrychwyr i berthyna.sau y llofrudd a dywed ei fod yn sier y deillia i'r perth- ynasau hyn ddeugain mil o ddoleri. Dywedir yn mhellach yn y newyddiad- uron fod y mater dan ystyriaeth Scoville a Guiteau, a'u bod yn edrych yn ffafriol ar y cynygiad, gan y byddant drwy hyny yn alluog i dalu holl ddyledion y llofrudd -ei fwrdd-dal, gofynion ei gyfreithwyr, &c. Hysbysir fod Guiteau yn ymgysuro uwch y ffaith y gall fyned i'r tragyw- yddolfyd heb arno un cent o ddyled i neb yn y byd hwn. Hawlia y prynwr fod ganddo gynllun i gadw y corff marw mewn cyflwr priodol i fyned ag ef am fisoedd o le i Ie.
HUNANLADDIAD YN ABERTAWE.
HUNANLADDIAD YN ABERTAWE. Nos Lun diweddaf, yn Abertawe, eyflawnodd masna6hwr o'r enw Daniel Evans, grocer, New Oxford Street, hunanladdiad, a hyny o dan amgylch- iadau hynod. Gadawodd ei dy ychydig wedi pump o'r gloch er gwneud rhyw fasnach yn y dref, ond oddeutu chwarter i saith cafwyd ef yn Anchor-court, Wind Street, yn marw, wedi ei saethu trwy ei ben. Clywyd yr ergyd gan yr hedd- geidwad, yr hwn a aeth yn mlaen, ac a gafodd Mr. Evans yn y sefyllfa a nod- wyd. Yr oedd yn gorwedd ar y llawr yn fyw, ond a fu farw cyn y gallwyd ei gario i'r masnachdy agosaf. Dywedir fod Mr Evans fel arferol pan wrth de, ac ni wyddus hyd yn hyn beth a gafodd i gyfiawni y fath weithred.
CELF A MASNACH.
CELF A MASNACH. CAEBDYDD. Nid oes dim yn neillduol i'w nodi mewn cysylltiad a masnach y porthladd hwn am yr wythnos ddiweddaf. Y mae y fasnach yn dra boddhaol er's rhai wythnosau. Y mae yn wir fod yr all- forion o'r porthladd am yr wythnos wedi bod yn llai o 17,000 o dynelli na'r wythnos ddiweddaf, ond yr oedd cyfan- swm yr allforion er hyny yn dda. Y mae y llongau a ddaethant i mewn i'r porthladd hefyd yn foddhaol o ran nifer. Y pris am lo cyffredin da, wedi ei scrinio yn y lofa, ydyw 10s. 6e. y dynell.
ABERTAWE.
ABERTAWE. Y mae masnach y porthladd hwn am yr wythnos a aeth heibio wedi gwella ychydig, ond eto y mae cryn le i wella yma.
-].... .Ebbw VAL*. * .
-]. Ebbw VAL*. Y mae gweithfeydd haiarn y gymyd- ogaeth hon yn ymddangos i fod mewn llawn. waitb y dyddiau presenol^ a'r gweithiau dur yn gweithio ameer llawn ar yr ar^ela- drefedigaethol a ddarbyn- iwyd yi^E> Amser yn <4.
800 0 BEBSONAUWEDI EU - DARNIO.'
800 0 BEBSONAUWEDI EU DARNIO. 0 Bnetios Aytes, dyddiedig Ionawr y 24ain, yr ydyi^ yn cael y many lion yn nghylch UofruddiJfceth trigolion porth- ladd Pisco, filwyr Peruaidd. Y avicencio, ac wedi if rhai hyn enciKo, ymbsododd Mas -ar dref Pisoo. Rhodd- wyd gwin yn helaeth ir milwyr, y rhai a osodasaat y tai ar dàn, ae a lofmdd- iasant y trigolion. Ymgasglodd pedwar cant o dramorwyr er gwneud gwrthsaf- iad a gwrthdystiad yh erbyn y creulon- waith, ond torwyd hwy yn ddarnau, a lladdwyd 300 yn y man. Y mae holl nifer y lladdedigion yn y dref a'r gymyd- ogaeth yn dros 1,000, a'r cynrychiolydd FfreDgig yn eu plith.
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH…
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH CASTELLNEDD. Cynaliwyd y cyfarfod uchod prydnawn dydd Sadwrn, y 18fed cyfisol, yn y Joiners' Arms, Llangyfelach. Yn absen- oldeb Mr Samuel Griffiiths, llywydd y gymdeithas, etholwyd Mr Evan Bevan i lywyddu y cyfarfod; yr ysgrifenydd, Mr Isaac Evans, Sciwen. Cawsom ein beio yn fawr, Mr Gol., am na buasem yn eyhoeddi ein eyfarfod misol blaen- oroJy yr hwn a gynaliwyd yn y Landore Inn, Glandwr. Y cyfarfod goreu o ddigoa ydoedd hwn. Yr oedd ystafell eang y Landore Inn yn orlawn o lowyr -yn ddvniou ieuainc, canol oed, ac hen bobl. Yr oedd sirioldeb ac hawddgar- wch yn ganfyddadwy ar eu gwedd, ac yn arilwys eu teimladau mewn modd mor effeithiol, fel yr oedd yn anmhosibl methu cydymdeimlo a hwy. Yr oedd y croesawiad a'r diolchgarwch cynhes a gawsom gan y Glandwriaid am dalu ymweliad a hwy yn haeddu cyhoeddus- fisry&i fw» wgiyb^^ABiAlf^ ^eg hMy^ yw nodi foa yr holl dorf, yn ugeiniau mewn nifer, ^edi arwyddo ac ymrwymo i fod yn undebwyr egwyddorol o hyny allan, ac hyd eu beddau, a bod tair cangen undebol wedi cychwyn yn Glan- dwr eisioes. I fyned at y cyfarfod diweddaf, galw- odd yr ysgrifenydd lechres y glofeydd, y rhai oeddynt 16 mewn rsifer, yn cy- nrychÍolir1,375, Y peth cyntaf a ddaeth ger bron oedd achos glowyr y Knoll, y rhai sydd ar strike er ys mis, o herwydd fod y meistri yn nacau y pump y cant sydd yn ddy- ledus iddynt er ys dwy flynedd. Y mae eu hachos yn fyr fel y canlyn :—Rhyw ddwy flynedd yn ol, sef pan y ffurfiwyd y Sliding Scale ddiweddaf, cafwyd y pump y cant bonus gan y meistri un- debol. Aeth glowyr y Knoll i ofyn am y pump y cant fel dynion ereill, pryd y dywedodd y manager withynt nad oedd y farchnad yn caniatau ar hyny o bryd; ac os buasai y fasnach yn gwella o hyny i ddiwedd y flwyddyn, y buasent yn ei gael. Cofier nad oedd perchenogion y Knoll yn perthyn i undeb y meistri y pryd hwnw, a bod y manager a roddodd yr addewid wedi ymadael, ac arall yn ei Ie, ac yn y cyfamser y perchenogion wedi ymuno ag undeb y meistri, ac yn gymaint ag nad oedd cytundeb ysgrifen- edig rhyngddynt a'r cy 11-fanager, y mae y Bwrdd wedi rhoddi dyfarniad yn eu herbyn, o dan y ffug-esgus eu bod bellach o dan y Sliding Scale. Fe wel y dar- llenydd diragfarn fod y glowyr hyn yn cael cam, a gallwn sicrhau y cyhoedd nad oes neb yn fwy teilwng o'r pump y cant hwn na glowyr y Knoll. Y maent bellach ar y maes, ac yn methu cael diwrnod. o waith yn un man, ac os dygwydd iddynt gael gwaith, cant eu hatal yn union. Yn ngwyneb hyn mae y cyfarfod wedi penderfynu yn unfrydol nad ydynt i gael marw ar yr heol, a'u bod i gael cynorthwy cyhyd ag y parhao y perchenogion hyn yn ystyfnig; ac i'r perwyl hyny penderfynwyd foa pob cy- nrychiolydd i fod yn gyfrifol am 3c. yr wythnos oddiwrthynt hwy a'u cyd- weithwyr cyhyd ag y byddant allan, a'u danfon ar unwaith i Mr Llewellyn Richards, Hill, Sciwen, Near Neath. Bydd y cyfarfod yn ddiolchgar i bawb am y rodd leiaf y tu allan i ni ein hunain. Y peth nesaf oedd y gweithio nos Sul a'r gweithio croes, a hyny yn ddidal. Cafwyd ar ddeall fod y ddau beth anny- mvinol hyn yn cymeryd lie yn nglofeydd Mr Glasbrook, ac nid yn unig hyny, ond eu bod yn gweithio headings am y tal o gael gweithio; ac hefyd eu bod yn gweithio twrn a chwarter, twrn Planer, a myned i'r gwaith bob amser y gelwir arnynt. Bu cryn ddadleu ar y cwestiwn hwn, sef eu bod yn gweithio chwech twrn nos/ a chael ond chwech, pan oedd meistri ereill yn gorfod talu chwech, pan yn gweithio pump y nos. Y cytoghor oifrifol a gawsarrt oedd am iddynt ymuno a'u gilydd yn ddioedi, a gweithio oriau rhesymol fel dynion ereill, sA hefvd .gofyn yn ostyngedig i'w meistri am roddi y twrn nos Sul heibio, a ohael tal eh^ech am bump pan yn gweithio -y nos, fel y gallo meistri ereill sj^d yn yr nn gymdeithaa gystadlu A-Rwy yn y farchnad sydd yn gwneud felly. Bydd- wda Wrth hyn yn arbed llawer iawn o ddanodiad i ni, a lies mawr i chwi eich hunain, ac hefyd gyfiownder eydrhwng meistri a meistri, j Cofitae-helyd au- radw y cyf^rfod o'ch' dull presenol o weithio. Yn drydydd cawsom adroddiad byr a chynwysfa.wr o gyfarfod y cynrychiol-! wyr yn Llanfabon, y 13eg cyfisol, gan Mr Thomas Davies, Birchgrove. Syn- wyd y cyfarfod yn fawr fod David Jones, Caerffili, yn dal ei sedd ar y Bwrdd, ac yntau yn daldf swydd o overman, a dy- muniad y cyfarfod yn unfrydol yw, er mwyn ei anrhydedd ei hun, am iddo roddi y naill swydd neu y Hall i fyny, yn gymaint ag nas gan wasanaethu dau arglwydd. I ddiweddu cawsom adroddiad gan Isaac Evans o'r gynrychiolaeth a fu gyda'r Ysgrifenydd Cartrefol mewn perthynas a'r gwelliantau angenrheidiol yn Rheoleiddiad y Mwngloddiau, yr hyn a gymeradwywyd yn unfrydol. Bydd y cyfarfod nesaf i'w gynal dydd Sadwrn, Mawrth y 18fed, am 12 o'r gloch, yn y Vale of Neath, Castellnedd. Yr oedd dysgwyliad am gynrychiolaeth o'r Fforest Fach yn y cyfarfod diweddaf, ond yn gymaint ag nad oeddem wedi cyhoeddi cyfarfod Glandwr, yr oeddent yn esgusodol; ac hefyd yr ydym wedi dyfod a'r cyfarfod nesaf i le canolog er mwyn glowyr Mr Bevan, ac i'r Ian trwy Gwm Nedd, yn enwedig y rhai hyny sydd yn gorfod aros am au harian ar Sadwrn y pay hyd nes y byddo tren. y farchnad wedi pasio, fel y byddo eu harian yn rhwym o fyned i'r siop lie y mae y manager a'r siopwr yn gyfeillion. Hefyd, yr ydym am roddi cyfleusdra i lowyr Cwmafon, Fforest, a Llansawel, y rhai sydd ar gyfeiliorn er's taim. lOAN AP GnUFFYDD.
AT LOWYR Y GLO CAREG.
AT LOWYR Y GLO CAREG. GYFEILLION,—Yn herwydd amgylch- iadau sydd yn dwyn perthynas a budd- ianau cyffredinol y glowyr, ni fyddaf yn alluog i ddyfod i Brynaman dydd Sad- wrn nesaf, fel yr oeddech yn gofyn. Am hyny, gohirir y cyfarfod hyd dydd Sadwrn, Mawrth y 4ydd, pryd y go- beithiwn y byddwn yn alluog i roddi i chwi newyddion o bwys.
AT LOWYR Y RHONDDA.
AT LOWYR Y RHONDDA. GYFEILLION, — Y mae amgylchiad neillduol yn peri fod yn angenrheidiol cynal y cyfarfod misol wythnos yn gypt na'r amser apwyntiedig. Felly, dymun- wn i chwi sylwi y bydd yn cael ei gynal yn yr Ifor Hael Hotel, Llwynypia, dydd Llun nesaf, y 27ain cyfisol, ac i dde- chreu am 11 o'r gloch. W. HOWELL, Cad. W. ABRAHAM, Gor.
AT LOWYR CWM ABERDAR.
AT LOWYR CWM ABERDAR. Bydded wybyddus y cynelir y Cyfar- fod Misol nesaf yn y Mount Pleasant Inn, Cwmaman, dydd Llun, Chwefror 27ain, am 11 o'r gloch y boreu.
FFRWYDRIAD YN PENN SYLVANIA-15…
FFRWYDRIAD YN PENN SYLVANIA-15 0 BERSONAU WEDI EU LLADD. Y mae ffrwydriad wedi cymeryd lie mewn gweithfa pyrotechnic, yn Chester, Pennsylvania, lie y lladdwyd pymtheg o bersonau.
Y SENEDD.
Y SENEDD. MR GLADSTONE A CHYNYG YR ARGLWYDDI. Bydd yn dda gan garwyr Rhyddid weled na chollodd Mr Gladstone amser nes cyfarfod a'r penderfyniad a basiwyd gan yr Arglwyddi, mewn cysylltiad a Deddf Dirol yr Iwerddon. Y mae yn wir mai o'u hanfodd y gorfu iddynt basio y ddeddf hono, ond o'r braidd y mae y ddeddf wedi dechreu cael gweithredu, nes eu bod yn pasio penderfyniad yn ap- wyntio dirprwyaeth i edrych i mewn i ganlyniad eu gweithrediadau. Gwrth- dystiodd y llywodraeth yn erbyn y fath benderfyniad, gan ddadleu y byddai i'r fath ymchwiliad effeithio yn niweidiol; ond ni wrandawyd, canys nid rheswm sydd yn angen ar greaduriaid o'r fath. Cael y ddeddf wedi ei dileu ydyw amcan y Toriaid, y rhai sydd a mwyafrif yn Nhv yr Arglwyddi, ac o ganlyniad, pas- iwyd y penderfyniad. Mewn canlyniad y mae Mr Gladstone wedi rhoddi rhy- budd, yn nghanol banllefau o gymerad- wyaeth, y bydd iddo ef gynyg pender- fyniad nos Lun nesaf, y byddai i ym- chwiliad seneddol i weithrediadau Deddf Dirol yr Ivverddbn; yn marn y Ty, du- eddu i ladd dylanwad ac amcanion y ddeddf, ac yn niweidiol i reoleiddiad a thsefn yn yr Iwerddon. Y mae yn dyfo4 yn anjlyc^ch y naill flwyddyn ar ol y llall nad ywy Ty xichaf ond magi a. irhwystr ar ffordd deddwrfa reolaidd a chyfreithlon y wlad, a bod yr amser yn agoehau, y bydd yn rhaid iddynt gael deall maf trech gwlad nac arglwydd; ac nad'pethau i'w gwneud un flwyddyn, a'u diddymu y flwyddyn ganlynol ydyw deddfau gwladol.
TANCHWA TTIMDON QBAXGB.
TANCHWA TTIMDON QBAXGB. Yn y senedd, nos Lun diweddaf, dy- wedpcw i Mr Broadhurst, ei fod wedi ifedttft cyf- arwyddiadau ar fod i ymchwiliad neill- duol gael ei wneud ar ran y Llywodraeth i helyntion tanchwa glofa Trifadon Grange.
Y RHEOIoAU ER LLYWODBAETHIAD…
Y RHEOIoAU ER LLYWODBAETHIAD TY Y CYFFREDIN. Nos Lun diweddaf darfu i Mr Glad- stone, mewn araeth faith a galluog, gynyg y rheolau hyn, amcan y rhai ydyw rhoddi atalfa ar rwystrau a deflir ar ffordd y senedd gan glymbleidiau Gwyddelig ac ereill pan y bydd rhyw- beth o flaen y Ty na fydd yn dygymod a'u harchwaetfcjpkwy.
TREHERBERT.'
TREHERBERT. CYNGHKRDDAU BLYNYDDOL YR YSGOL FRY. TANAlDD.-Nos Ian a nos Sadwrn diweddaf ydoedd yr adeg apwyntiedig i gynal y cy- ngherddau uchod, ond erbyn yr ail Boson cafwyd altan fod yn rhaid cael tri chyuyg at hyny, ac felly cynaliwyd y trydydd nos Lun diiynol. Clywais un o'r pwyllgor yn dweyd fod tua phedair mil o bobl wedi bod yn gwrando y plant y tro hwn yn ystod y tair noson. Yr oedd y neuadd bob nos, gydag eithriad o'r un olaf, yn llawer rhy fychan, fel yr oedd ugeiniau yn gorfod troi adref yn siomedig. Dygwyddodd i mi fod yn un o'r rhai siomedig nos Iau felly nos Sadwrn y cefais y pleser o fod yn inhlith y dyrfa luosog yn gwrando, trwy oialu bod yno agos awr o amser cyn adeg dechreu y gyngherdd. Yn absenoldeb Walter H. Mor- gan, Ysw., Pontypridd, cymerwyd y gadair gan David Gibbon, Ysw., gornchwyliwr glofa Blaenrhondda, a chariodd allan y oyf- arfod yn ddeheuig a dyddorol yn ei ddull arferol ei hun. Tua saith o'r gloch, de- chreuodd y plant esgyn i'r esgynlawr, a chj a mn deg mynyd yr oedd yn agos i bump cant o honyat yn eistedd o'm blaen, wedi en gwisgo yn brydferth, gyda gwynebau siriol a swynol yr olwg arnynt. Uwch eu penau yr oedd y muriau wedi eu gwisgo & banerau amryliw ac a changenau bythol- wyrdd, gyda brawddegau tarawiadol, nes oedd yr olygfa rhwng y cwbl yn swynol neiilduol i'r llygad. Aethpwyd trwy bro gram maith a chwaethus, a digon yw dweyd i bawb wneud eu rhan yn ganmoladwy. Cynygiodd T. Curnew, Ysw., bleidlais o ddiolchgarwch i Mr a Mrs Jones am y fath dreat, ac eiliwyd ef gan luaws o'r dorf, a dangoswyd hyny yn wresog gan bawb trwy guro dwylaw. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Mr D. O. Jones, mab yr uchod. yr hwn a wnaeth ei ran yn deilwng o hono ei hun. :,Ip THOMAS.
CLADDEDIGAETH Y PARCH LEWIS…
CLADDEDIGAETH Y PARCH LEWIS JONES, TREHERBERT. Cymerodd angladd y Parch Lewis Jones, Libanus, Treherbert, (marwolaeth yr hwn a hysbyswyd yn ein rhifyn diweddaf), le dydd Mawrth diweddaf, y 14eg cyfisol, Cyn i'r angladd gymeryd lie, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Libanus, pryd y darllenodd ac y gweddiodd y Parch N. Thomas, Caer. dydd, a thraddododd y Parch J. W. Maurice, Blaenycwm, bregeth angladdol yn alluog ac effeithiol iawn. Wedi i'r cyfarfod derfynu, ffurfiwyd y dyrfa anferth oedd wedi dyfod yn nghyd yn orymdaith fawreddog, pa un oedd fel y canlyn :—Gweinidogion a phre- gethwyr o bob enwad, uwchlaw 50 o ba rai oedd yn bresenol; aelodau eglwys Libanus, (yr oedd y diaconiaid yn trefnu yr angladd); aelodau urdd yr "Hen Gymra," o ba urdd yr oedd yr ymadawedig yn aelod yr elor gerbyd y perthynasau yna y cyhoedd yn gyffredinol. Yr oedd yr orymdaith yn agos i filltir o hyd, a bernir fod oddeutu 4,000 o bob] yn bresenol. Cyrhaeddwyd y cemetery, Treorky, erbyn haner awr wedi tri. Siar- adwyd ar lan y bedd gan y Parchn. W Morris, Treorky; a E. Roberts, D.D., Pont- ypridd. Teimlir hiraeth dwys a chyffred- inol yn eglwys Libanus ar ol eu gweinidog hanwyl, lie y bu yn gwasanaethu yn hynoa o lwyddianus am yr ysbaid o 14 o nynyddau. Dygwyd traul yr angladd yn gyfangwbl gan yr eglwys. Dymunwn ar iddynt gael olynydd teilwng iddo. Heddwch i'w lwch. LLEW NEDD.
YR IWERDDON.
YR IWERDDON. Hysbysa gohebydd o Galway fod heddgeidwad o'r enw Ravemagh, wedi ei saethu yn farw o fewn ychydig lath- enii ddrws y milwrdy yn Letterfreck, ger Clifder, am haner awr wedi deg o'r gloch nos Fercher yr wythnos ddi- weddaf.
Advertising
Ooffiniau Rhad!! DYMUNA DAVID HARRIS, Carpenters' U Arms, Trecynon, hysbysu y cyhoedd yn gyffredinol ei fod yn awr mewn ffordd i wneud pob math o goffiniau am y prisoedu iselaf. Hefyd fod ganddo bod math o Trimmings, &c., ar law. Cofier y cyfeiriad,— D. HARRIS, Carpenters' Arms, Trecynon, Aberdar. Quinine Bjittera
Quinine Bjittera
GrWILYM EVANS. Y mae hwn yn gymysg celfyddydgat a flodus dros ben. Cynwysa Quinine SarsaprilTa, SefB-on, Lauender, Damde- lion. Gentian* a. Burdock, sef yr oU 0% darpariadau a nodasom, yn y fath gy» modedd fel ag i sicrhau cydweithredAiJ llwyddiattus ar yr oil o elfenau gweith> gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyogehl y dybenion daionus mewn golwg wdIi ei gjlansoddi. Cyfaddefir gan brif fedd. ygon y dydd fod Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyai hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneud o'r cyffeiriau uchod. BU GWEITHBBDIAD.
" BU GWEITHBBDIAD.
Y maent yn cynoithwyo traul yr yirS borth, yn gwellhau a. hwylusu y cylcb* rediad, .yn cryfhau y giau a'r cyhyraa. ac yn puro a ffrwythloni y gwaed. I mae y cymyaglyn hwn yn gryfboir cyff- redinol, ac yn aydd effeith<A Nertha y rhanau eiddil yn y cyfansoid^" iad, ac o herwydd hyny y rhai mwyai agored i anwydon a*e canlyniadau., Y wipetthi ac yaadfywibchanj cyfansoddi&d a'r tymherau, ae ar gyfrif b^ny y maent wedi enill iddynt eu hun- 8,111 y gymeradwyaeth uckelaf ar gyfcr ° wendidau, a sefyllfa iself nychlyft, a marwaidd y corff. Pan yn galw sylw at y tystiolaethao canlynol, dymnnem adgofio y darllenydd eu bod oil yn dyfod oddiwrth bersofiAO cyfrifol yn ngwahanol gylchoedd cym- deithas, yn dyfod trwy fferyllwy* (chemists), adnabyddus y rhan amlaf « honynt, o bob rhan o'r wlad, yn cynwya cyfeiriadau ac enwau y personau at. preswylfod, ac yn tystioiaethu y gelSl yn hawdd brofi eu teilyngdod drwy anfon at y personau eu hunain. N'II gellir dweyd fel hyn am lawer o dysto- tiolaethau ereill. Nid oes nemawr i ddiwrnod yn myned heibio heb fod per- chenog y Bitters hyn yn derbyn cymer. adwyaethau i'w heffeithiblrwydd. Rose Cottage, Aberdar, Tachwedd lOfed, 18bO. GAREDIG SYR,—Yr wyf yn awr wedi c8181 cyfleu i wneud prawf teg a gonest o'r Qui- nine Bitters cyfansoddedig genych chwi, as yr wyf yn gallu tystio oddi-ar brofi ad per. sonol a thystiolaethau amryw bersonau i ba rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitters, ea bod yn meddu yr elfenau, y nodweJdau, ala rhinweddau a hawliech iddynt. Yn y flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm am wyth mis, ac y mae rhai o effeitliiau y cYB- tudd hwnw wedi aros gyda rui hyd heddyw. Bu yn achos o ddychryn i mi ddyfod olle llofft ar hyd y grisiau i'r llawr rhag cwympo. Bu y cof, y cylla, a'r aelodau yn peidio gwneud eu gwaith; ond mae y Bitters wedi gwneud llawer iawn er symud hyn oil Mae y cof yn llawer gwell, mae yr aelodau yn lach a chrynon, tra mae y Bitters yn crog awydd am fwyd, ac yn help mawr i dreulio yr hyn a dderbynir i'r cylla. Bu amser pan ag oedd dal yrysgrifbinyn-faich i mi, ond yn awr gallaf ysgrifenu,yn ddigryn fel yn y dyddiau gynt, fel y gwelwch wrth y llythyr hwn. Nid oes genyf yn awr ond dymnno a galon llwyddiant i chwi i wasanaethu eich gwlad a'ch cenedl am flynvddau lawer dd'od. Yr eiddoch, garedig Syr, yn wir serchog THOMAS PRICE, Baptist Minister. Llwynpia, Hydref 21, 1880. ANWYL SYR,—Wedi clywed llawer am eich Quinine Bitters, penderfynais roddi prawf arnynt. Bum am rai misoedd yn cael fy mhoeni gan anliwylder cyffredinol, difEyg chwaeth at ddim, iselder ysbryd, ac an brydiau poon angerddol rhwng fy ysgwydd. au, yn codi, yn ddiau, oddiar afiechyd y Liver. Ond da genyf eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr iachad; teimlaf yn awr mov iach fy ngorff a bywiog fy ysbryd ag y teimlais nemawr erioed, wedi derbyn o honwyf y budd hwn trwy gymeryd eicb darpariaeth fyd-enwog. Mae dyledswydd yn fy ngorfodi i anfon y llinellau hyn, gan eich gosod at eich rhyddid i wneuthur y defnydd o fvnoch o honynt. Dymunaf i chwi bob llwydd i wasanaethu eich cenedl. Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES, Baptist Minister* Mynydd Cynffig., SYR,—Bum yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, dinyg archwaeth at fwjr<?, ac ar ol ei fwyta, blin. der mawr. Prynais botelaid 4s. 60. oddi. wrth Mr. Richard Jenkins, Kenffig Hill, ao ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi fy adferu i'm iechyd arferol, ac yn alfriog i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf weal eu cymeradwyo i eraill, a thystiolaeth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn lies anrhaethol trwyddynt, a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amser fel trysor penaf y teulu. JOHN LLWYD (loan Cynffig),
GOFALED PAWB AM HYN.
GOFALED PAWB AM HYN. Gan fod amrywiol o ddarpariadau 0 Quinine i'w cael, megys Tincture of Quinine, Quinine Wine, Quinine Mix- ture, &c., y mae rhai ymofynwyr am Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans yn cael eu twyllo a'r pethau hyn yn y modd mwyaf dideimlad a digywilydd Wrth geisio hwn gan yr Apothecari, nid digon yw gofyn fel hyn, "Potelaido Bitters," "Potelaid o Quinine Bitters," nac ychwaith "Y Quinine yna," ond gofaler gofyn am "Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans," ac os na fydd yr enw Gwilym Evans, F.C.S.,M.P.S., wedi ei ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth ar bob potel, twyll a ffugiad ydynt. Prig y Potelau yw 2s. 9c. i 4s. 6c.; mewn blychau, 12s. 6c. yr un. Cynwysa Poteli 4s. 6c. ddau cymainl a rhai 2s. 9c., ac felly gall y prynwtf arbed Is. wrth gymeryd y rhai QlWVal 4