Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

-IR WYTHNOS.

News
Cite
Share

IR WYTHNOS. BOREQ dydd Llun diweddaf, yn Man- chester, dienyddwyd Robert Templeton, am lofruddio Betty .Scott, Ionawr 3ydd, ger Burnley. Marwood oedd y dien- yddwr. MAE Barnwr Llys Manddyledion Stamford wedi penderfyau nad yw col- omenod yn eiddo i neb pan yn ehedeg, canys y mae wedi gwrthod unrhyw iawn i berchenog pedair o golomenod a laddwyd pan yn hofran trwy yr awyr. YN Mwrdd y Gwarcheidwaid, Mer- thyr, dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, pasiwyd penderfyniad yn unfrydol bod deiseb i gael ei hanfon i'r senedd, yn gofyn am ddeddf i orfodi pawb sydd yn derbyn ground rent i dalu at drethoedd lleol. YN llys heddgeidwaid Bow Street, Llundain, cyhuddid un John Gilbert o ladrata port manteau, ac yn werth ÖOp., o orsaf Charing Cross. Cariwyd ef i'r llys, o herwydd ei fod wedi cymeryd ei goes gore ymaith, ac wedi gomedd ei rhoddi yn ol. YN Mlaenafon, prydnawn dydd Llun diweddaf, cafodd dyn ieuanc o'r enw George Hiball, brodor o Herefordshire, ei daraw i lawr gan gerbydau ar siding perthynol i gwmui gwaith Blaenafon, ac aeuh y peiriant drosto, gan wahanu ei ben oddiwrth ei gorif. CYNALIWYD trengholiad yn Manches- ter, ddydd Gwener diweddaf, ar gyrff y ddau blentyn John a James Bouch, 10 a 7 mlwvdd oed. Oddiwrth y tystiol- aethau a. roddwyd, profwyd fod eu tad, Benjamin Bouch, wedi eu taflu i'r Rochdale Canal. Cyhaddwyd ef o lof- ruddiaeth wirfoddol. YN eisteddfod y Pentre, ddydd Na- dolig diweddaf, enillodd y Parch On- llwyn Brace ar yr alargan i'r ddiweddar Mrs Dr Jaines, yr hon sydd gyfansodd- iad gwir ragorol. Y mae yn sicr y carai lluaws edinygwyr Mrs James yn y Pentre a Threorci gael gafael a darllen y cyfryw farwnad, yr hon sydd i'w chael gan Mr David Thomas, glocer, Pentre. 0 YR wythnos ddiweddaf cyfarfyddodd amaethwr o'r enw John Bowen, 33 oed, o'r Cwm. yn mhlwyf Trelech-ar-Betws, a damwain angeuol pan yn dychwelyd gyda'i geffyl a'i gert o St. Clears. Pan o fewn haner milldir i'w dv, trodd y I gert ar ei hochr, ac yntau o dan ochr y ceffyl. Cafwyd ef yn farw mewn oddeutu awr a haner wedi y ddamwain. YN Dublin, ddydd Gwener diweddaf, Cafodd yr ynadon achos hynod o greulon- deb yn erbyn mam. Gwelwyd hi yn cymeryd ei phleutyn i fyny gerfydd ei goesau, ac yn ei daraw yn erbyn y chimney-piece. Wedi hyny taflodd y plentyn ar y llawr, ga.n geisio ei sathru dan ei thraed, ac ar yr un pryd yn dweydy lladdai hi ef, ac ynay celai 40s. gan y gymdeithas. Bu farw y plentyn wedi hyny yn y clafdy. Yn ydym yn cael fod y gynrychiolaeth ar ran gweithwyr tanddaearol y wlad hon, a fu yn ymweled a'r Ysgrifenydd Cartrefol y dydd o'r blaen, wedi ysgrif- enu ato wedi hyny, yn ei hysbysu fodei atebiad wedi derbyn anghymeradwyaeth cyffredinol y desbarth lluosog hwn o weithwyr, a'u bod yn dysgwyl, yn ngwyneb colliad cymaint o fywydau, a bod cynifer o ddamweiniau yn cymeryd lie, y buasid yn addaw gwneud rhyw- beth, os oedd modd, tuag at leihau y qyfryw. Mewn canlyniad i hyny, y mae yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi addaw rhoddi ystyriaeth i'w cais.

PEIRIANWYR Y WEST.

LLOFRUDDIAETH DDWBL GAN FAM.'

TANCHWA ETO, A CHOLLIAD CHWECH…

YSTADEGAU CYDMAROL Y GLO.

PRISOEDD Y GLO.

DAU FACHGEN WEDI EU LLOFRUDDIO…

CODIAD CYFLOGAU HAIARN-WEITHWYR.

MARCHNAD HAIARN BARROW.

YR IWERDDON.

GLOWYR Y GLO TAI A'R SLIDING…

Y SisNEDD.

RHBOLAU NEWYDDION Y SENEDD.

PARSELI TRWY Y LLYTHYRDY.

Y GYFBAITH DRWYDDEDOL.

ABERDAR.

TREFORIS.

ABERDAR-MUDIAD Y RHBBAN GLAS.

BARGOED.

Advertising