Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

ARGLWYDD BUTE, Y PABYDD, YN…

News
Cite
Share

ARGLWYDD BUTE, Y PABYDD, YN CEFNOGI ADDYSG. Un o'r pethau hynotaf yn hanes y byd yw gweled Pabyddion yn cefnogi addysg, gan ei fod yn ddeddf arbenig yn hanfod Pabyddiaeth i gefnogi anwybod- aeth. Hen arwyddair Pabyddiaeth yw, mai mamaeth duwioldeb yw anwybod- aeth." Y mae y Pabyddion trwy yr oesoedd yn cadw y Beibl o ddwylaw y werin, dan y pie eu bod yn rhy a.nwyb- odus i'w ddefnyddio..Nid oes un pie a all fod yn fwy ynfyd. Y mae pob dyn yn anwybodus o bob peth nes iddo gael ei ddysgu. Trwy chwilio a dysgu y mae pawb yn dyfod yn alluog i ddeall pethau. Ond nid yw y Babaeth am i'J werin ddysgu pethau o honynt eu hun- ) ain, na barnu dim am unrhyw fater c wybodaoth, heb iddynt gael eu cyfar wyddo gan yr orfeiriaid Pabaidd. Ym 1 ddyga yr oifoiiiaii tuag at bawb 0'1 dysgyb'ion fel pe byddaut yn fabano( I hyd ddiwedd eu hoes, i Hynod gan hyny, tu hwnt ifesur, fol ¡, Arglwydd Bute, ac efe yn Babydd, wedi cynyg rhoddi deng mil o bunau at Brif Ysgol yn Nghymru. Y mae hyn yn hynod dros ben, yn ngwyneb ei fod wedi gwrthod rhoddi tir yn Nghaer- dydd, i'r Bwrdd Ysgol osod ysgoldai arno. Bu y Bwrdd Ysgol dan rwymau i'w orfodi ef trwy gyfraith i roddi tir at adeiladu ysgoldai arno. Felly y tyst- iodd Mr Lewis William, gwr parchus yn Nghaerdydd, wrth y pwyllgor a apwyntiwyd i wneud ymchwiliadau yn nghyleh Addysg Uwchraddol yn Nghymru, cadeirydd pa un yw Arglwydd Aberdar. Yn ngwyneb y fath ffaith onid yw yn achos syndod nid bychan fod Arglwydd Bute wedi addaw rhoddi deng mil o bunau at goleg i oleuo y werin yn Nghymru ? Hynotach fyth yw hyn pan yr ystyr- iom fod pwyllyor Arglwydd Aberdar yn cynghori na byddo crefydd yn cael eu ddysgu yn y coleg. Gwyr pawb sydd yn deall pethau yn hanes yr Iwerddon, fod yr offeiriaid Pabaidd yno wedi bod yn melldithio colegau o'r fath fel rhai didduw, a hyny am flynyddau lawer. Os yw y fath golegau yn felldigedig yn yr Iwerddon, sut y gall coleg o'r un rhyw fod yn fendigedig yn Nghaerdydd, neu ryw fan arall yn Nghymru ? A ydyw Pabyddiaeth wedi newid ei hegwyddorion ? A yw yr hyn a arferai fod yn felldith wedi troi yn fendith ? Neu a ydyw Arglwydd Bute wedi ym- adael a Phabyddiaeth ? Neu a ydyw efe wedi edifathau ei fod wedi gwrthod rhoddi tir at adeiladu ysgoldai arno? A ydyw efe wedi cael ei ofidio gymaint trwy gael ei orfodi i roddi tir at adeiladu ysgoldai arno, fel y mae yn penderfynu o hyn allan i fod yn gyfeillgar a phleid- wyr addysg yn Nghaerdydd ? Nid ydym yn meddwl y gellir ateb y cwestiynau uchod yn gadarnhaol. Rhaid i ni gael esboniad ar addewid Arglwydd Bute o ryw gyfeiriad arall. Y mae ei Arglwydd- iaeth, efallai, wedi rhoddi ffordd i'w deimladau dyngarol heb ymgynghori a'r awdurdodau Pabaidd. Dywedir ei fod yn fonecldwr o deimladau tyner. Pwy wyr na adawodd efe i'w deimladau yn y diwedd drechu egwyddorion Pabydd- iaeth a dderbynia efe yn y gwersi a roddir iddo gan awdurdodau y Fatican ? Gellid meddwl fod rhyw beth tebyg i hyn wedi bod, oblegyd cyhoeddwyd un diwrnod mewn llythyrenau mawrion, ei fod wedi addaw deng mil o bunau at y Goieg, ond anfonwyd llythyr erbyn y diwrnod wedi hyny, yr hwn a ymddang- osodd yn y papyr, oddiwrth Mr W. T. Lewis, o swyddfa y Bute Mineral Estate Aberdar, yn datgan mai rhan o'r deng mil punoedd oedd i gael ei roddi at yr adeilad, bod rhan i gael ei roddi at ysgoloriaethau; a bod Arglwydd Bute yn myned i ystyried beth a wnae efe yn y mater hwn yn ngwyneb y cyn- llun a fyddai yn cael ei wneud gan y Senedd i reoieiddio y Coleg. Gellid meddwl wrth hyn fod ei Arglwyddiaeth wedi gweled rhai o awdurdodau y Bab- aeth wedi i'w deimladau haelfrydig dori allan y diwrnod blaenorol, a bod yr aw- durdodau hyny wedi ei addysgu i am- gylchu ei rodd a thelerau ffafriol i'r grefydd Babaidd. Neu efallai fod yr aw,lardodau hyny wedi rhoddi ar ddeall iddo cyn iddo gynyg rhoddi deng mil o bunoedd at yr adeilad, fod pwyllgor Arglwydd Aberdar wedi cynghori yn y llyfr glas, fod y Bwrdd a fyddai yn cael ei ffurfio i lywodraethu y Colegau yn Nghymru, i gynwys personau i gynrych- ioli y Goron, o' herwydd y byddant yn cael eu cynal ag arian y wlad. A chan fod y Llywodraeth bresenol wedi gosod Arglwydd Ripon, yr hwn sydd yn Bab- ydd, yn Is-lywydd yn India, y byddai cyfle i Babydd enwog, ac efallai Argl- 0 ;o wydd Bute ei hun, i fod yn un o lywvdd- ion y Coleg yn sir Forganwg, ond iddo ef roddi swm mawr o arian tuag at ei osod i fyny. Felllywydd y Coleg byddai ganddo gyfle i osod Pabyddion dysgedig 0 0 yn broffeswriaid i roddi addysg i'r ysgol- hei^ion, ac i wneud trefniadau a allent fod yn fanteisiol i Babyddiaeth. Ac er fod y Coleg yn un heb addysg grefyddol, ac y byddai yn briodol galw y fath Goleg yn yr Iwerddon yn un di-dduw, lie y mae y m wyafrif yn Babyddion, eto yn Nghymru, lie y mae Pabyddiaeth yn isel, y gellir nswid y gan, ac ymostwng i ddefnyddio Coleg heb grefydd ynddo, dan yr amgylchiadau, i ateb pwrpas y Pabyddion yn y pen draw. Y mae yn un o gynlluniau arbenig y Babaeth i wneud yr abwydyn i ateb i liw y dwfr. Cuddia ei hamcanion mewn cydffurf- iaeth allanol a'r hyn sydd yn boblog- aidd mewn ardal neu wlad, er mwvn arwain dynion i feddwi yn dda am dani, fel y gallo hi yn y diwedd wthio ei goods eilunaddolgar ar y boblogaeth. Ond rhag na fydd y Senedd yn derbyn y cynllun a gynygia pwyllgor Arglwydd Aberdar, a rhag y bydd y Bwrdd i lyw- odraethu y Coleg yn un a etholir gan y trethdalwyr, heb fod neb ynddo fel aelod yn cynrychioli y Goron, a rhas hefyd y bydd trefniadau yn cael eu gwn- eud gan y Senedit yn y gyfraith i lyw- odraethu y Coleg. na byddant yn gymer- adwy gan y Babaeth, y mae Arglwydc Bute wedi gosod yr amod fod yn rhak iddo ef weled y cynllun a fabwysiedi cyn v penderfyna efe pa fodd y gwna i rhaiD. o'r swm a addawodd efe. Aeth pwyllgor Arglwydd Aberdar allai L o'i ffordd i g vnghori fod y cnrychiolydd [ Goron yn aeh4 o'r Bwrdd i ly wodraethi y Coleg, o hovwydd fod yr arian at c i gynal mewn rhan yn cael eu derbyn Drysorlys y wlad. Nid oes un yn cys- rychioli y Goron mewn un Bwrdd Ysgol na Bwrdd Guardians y plwyf, er mai arian y wlad a drafodir gan y byrddau hyn. Paham na byddai yn ddigon at bwrpas y Goron, fod Inspector ac Auditor o dan awdurdod y Goron, yn cael eu hapwyntio i edr^ch ar ol Bwrdd y Coleg yn ei weithrediadau, fel y gwneir a Byrddau Ysgol ac a Byrddau ereill ? Ni bydd pobl Cymru yn dawel i'w Coleg hwy gael ei lywodraethu ond gan Fwrdd a etholir ganddynt hwy. Ac y mae yn keth diamheuol y byddai gwaith y Pabyddion trwy ddylanwad Arglwydd Bute, yn ymyraeth a llywodr- aethiad y Coleg, yjq sicr o wneud y Coleg. yn un anmhoblogaidd yn mhlith y Cymry. Gwyr pawb fod pobl Cymry yn wrthwynebol iawn i Pabyddiaeth. A gall pobl Caerdydd, y rhai ydynt wedi llawenhau fod Arglwydd Bute wedi rhoddi addewid i gyfranu deng mil o bunoedd at y Coleg, fod yn sicr mai un or pethau mwyaf anffodus a allasai gymeryd Ile i wneud y Coleg yn boblogaidd yn mhlith pobl Cymru, oedd, fod Arglwydd Bute wedi addaw rhoddi ceiniog tuag ato gan y bydd pawb yn credu na buasai efe byth yn addaw ceiniog heb fod ganddo dybiaeth y gallai y Coleg fod yn bwrpasol i ledu Pabydd- iaeth yn Nghymru. Yr ydym wedi rhy- buddio ein cydwladwyr yn nghyleh y Babaeth rhag iddynt syrthio i fagl.

MAERDY, GEU FERNDALE.

TREHERBERT.

1' BRITON FERRY,

ABERAMaJS—IUaa w u TH.

CILEY.

SEION, ABE 11' • AR.

| PONTLOTYN.

Advertising