Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

" WELSH JOURNALISM AND VULGARITY.

News
Cite
Share

LT/TTH SCLEMIN. w Yr oeddwn ar gongl yr heol yn y Pentre yr wythnos ddiweddaf oddeutu wyth o'r gloch yn yr hwyr. Safai—ddim yn mhell oddiwrth y Court House—dri dyn da yr olwg, ond gwahanol iawn yn eu manners. Yr oedd un o honynt yn meddu ar fol go fawr (arwyddion amlwg ei fod wedi talu mwy o sylw i'r rhan anifeilaidd o hono ei hun nag i'r rhan a ystyrir sydd yn cyfan- soddi y dyn, sef y meddwl. The mind is the man.") Yr oedd y Hall yn hollol wa- hanol. Dyn truenus yr olwg arno. Ar- wyddion fod cytandeb wedi ei wneud eyd. rhwng asgwrn ei gefn a'i fol i uno mewn priodas, a hyny heb fod yn hir iawn. Pob arwyddion ei fod ar hyd ei oes wedi talu sylw manwl i'r rhan cldynol o hono ei hun, sef ei feddwl, tra yr ymddangosai ei anifail fel creadur wedi ei esgeuluso yn druenus. Gwynebpryd gwelw, esgyrn ei wyneb yn cusanu croen ei fochgernau, a braidd heb ddigon o groen i gadw ei lygaid mawrion yn eu lleoedd priodol. Arwyddion myfyrdod dwys, a phobpeth o'i gwmpas yn arwyddo no danger here. Penderfynais y mynwn wybod beth oedd testyn yr ymddyddan. Aethum yn ddigon agos i fedru deallpob gair. Yr oedd liefer- ydd un o honynt yn profi mai Cardi oedd, a lleferydd y llall yn dangos ei fod yn ened- igol o un o siroedd y Gogledd. Testyn y siarad rhycgddynt oedd, Pwy ydyw y Sclemin, yn nghyd a'i lith olaf, a'i sylw- adau ar y gwahanol fyrddau, yn neillduol ei sylwadau ar orders medical officer of health Bwrdd Ystradyfodwg, a ehau y capeli yn Ftrudale. Ymdrechai y gwr boliog ber- swadio y Hail mai boneddwr o safle go uchel ydwyf fi. Ei amcan wrth hyn, gellir yn ddigon rhwydd deall, ydoedd codi rhag- farn yn erbyn y cyfryw tuag at y boneddwr a enwodd. Druan bach dwl, meddwn yn- wyf fy hun, yr wyt yn camsynied yn ddir- fawr. Yr wyt yn euog o feddwl a thaenu drwg cbwedlau am dy gymydcg, ac yntau yn trigo yn ddiniwed yn dy ymyl. Ust I y ffol dal dy dafod enllibus, rhag dy gywil- ydd oedd y meddyliau a redeut drwy fy nghalon. Wn i ddim, wrth gwrs, pwy yw y naill na'r Hall o'r personau hyn, ond gwn yn eithaf da fod y Penfach Bolfawr yn ddigon pell o wybod pwy ydyw y Sclemin. Pe adroddwn yr hyn a basiodd rhyngddypt yn eu tafodiaith briodol eu hunain, byddai yn ddigon hawdd i bobl y Pentre eu de. tectio; a chan nad oedd y gwr broliog yn gwneud dim ond a arfera am a thuag at y person a enwodd, a'i fod fel y bydd bob amser yn dweyd yr hyn na wyr, a'r hyn na ddaw byth i'w wybod, gadawaf iddo fwyn- hau ei enaid yn ei anwybodaeth. A welodd rhywun o ddarllenwyr y DAR- IAN y sylw a wnawd yn un o wythnosolion talentog y Bont ? Ceir ynddo a ganlyn :— WELSH JOURNALISM AND VULGARITY. A DISCLAIMER.—BY AWSTIN. Having being told that certain people in Pontyprydd have rushed to the conclusion that I am the author of some vulgar effu- sions emanating from the pen of Sclemin of the TERIAN, on the Pontypridd Chamber of Trade," &c, Ymddengys fod y gohebydd wedi cymeryd ei arwain i ysgrifenu y geiriau "some vulgar ■effusions gan rywrai a ewyllysiant wneud ifwl o hono. Ac yn wir, llwyddasant i gyr. haedd eu hamcan, oblegyd dywed, "I have not seen the scurrilous epistle which I am reputed by sharp' folks to be the author of." Druan o hono, os na welodd yr ysgrif a eilw yn vulga)- effusions, ac yn scurrilous epistle, ar ba dir y defnyddia y fath ansodd- eiriau am ei chynwysiad ? Daued a gwel a oes rhywbeth yn yr ysgrif y cyfeiria ati sydd yn cyfreithloni i lenor (?) o'i safle.ef i ddefn- yddio y fath dermau ? Good gracious ebe fe, making fun of men's infirmities I Nid y Sclemin yn sicr; oblegyd pe gwybu- asai y gohebydd hwn, a lluaws ereill, pwy yw Sclemin, cawsent allan nad yw ef ei hun nepell o fod yn infirm. Darllened yr ysgrif, ao yna ysgritened ei feddwl wedi hyny am dani. ;Bostia .hefyd "I am not guilty of supplying the TARIAN or its Sclemin with its vulgar twaddle, I say so distinctly. Y bach bach! pe buaset yn cynyg dy supply i'r DARIAN a'r Sclemin, gan ddirmygu, dir. mygasent dy stwff; oblegyd cyn y cymer scleminod nwyddau i'w tai, rhaid iddynt fod & gwell defnyddiau ynddynt nag sydd yn y disclaimer hwn o'th eiddo. Nid ysgrif- enu yr hyn a ddywedwyd wrtho wua y Sclemin, ond yr hyn a welodd a'r hyn a glywodd ac ni dderbynia Sclemin, fel y gwna Awstin, i'w beirniadu ysgrifau y dy- wed am danynt. I have not seen," and Iprobably would have known nothing about it had not a candid friend told me." But if, instead of scorn, &c., vulgarity is indul- ged in, as I AM TOLD," ie, ie, I AM TOLD Na, pwy bynag wyt, ni chymerai Sclemin ddim pethau wedi eu berwi ddwy a thair gwaith drosodd, hyd yn nod pe cynygid eu gwerthu iddo am geiniog y llinell. Cymer gyngor bach gan Sclemin. Cyn ysgrifenu beirniadaeth ar ysgrifau Sclemin, darllen hwynt, ac os wyt yn ystyried dy hun yn lienor rhy goethedig i wneud hyny, bydd yn ddigon gonest i beidio traethu y fath gabledd gyda golwg arnynt. Yn sicr ddigon mae llenorion y dyddiail hyn yn greaduriaid penwan, penweigion, hawdd iawn i'w harwain ar gyfeiliorn. Cy- merant bob peth yn ganiataol. Ni edrych- ant, ac ni chwiliant ddim braidd drostynt eu hunain. Gormod ydyw y drafferth iddynt gyfansoddi englyn, ond chwiliotant gyfansoddiadau ereill am englyn neu g&n ar y testyn; yna, heb ddim gwrid na chywilydd, ysgrifenant ef ac anfonant i'r eisteddfod, a hawliant y gwobrwyon fel eu beiddo eu hunain. Heria Sclemin unrhyw Ohebydd i brofi. fod dim yn ei ysgrifau yn dangos diffyg manners nac yn vulgar. Dy- wedaf fwy. Heriaf unrhyw un o'r ddau sydd wedi sylwi ar fy nghynyrchion i ddangos ysgrifau o'r eiddynt hwy sydd yn cynwys haner cymaint o wybodaeth fudd- iol ac awgrymiadau, a chynghorion y byddai yn dda i'r byd feddwl am danynt, ag sydd yn ysgrifau y Sclemin. Heriaf hwynt i brofi fod fy llith ar y Pontypridd Chamber of Trade, yn vulgamevL scurrilous, yn common neu yn low. Gyda golwg ar hanes apwyntiad y trysorydd a'r hyn a ganlynodd, profed Awstin os gall na chy- merodd yr hyn a gofnodais Ie. Onid yw yn deg i'r gweithiwr drwy gyfrwng ei DARIAN gael gwybod sut yr ymsymuda y gwahanol fyrddau yn ein gwlad, llawn cystal a thrwy oraclau y Bont. SCLEMIN. O.Y.-Da genyf ddeall fod y scarlatina, yn lleihau yn y Cwm, a bod y meddygon wedi recomendio a'r Board wedi adobtio y pethau canlynol fel moddion effeithiol er atal iledaeniad y clefyd. A gobeithio y gwna pawb drwy y wlad dalu sylw manwl iddynt,— 1st. That every house in the Board dis- trict, as it gets untenanted, be fumigated and whitelimed. 2nd. That a list including all the names of scarlatina patients, be sent weekly to all the schoolmasters in the district with a recommendation that no inmate of an infected house be allowed to attend school, and that the patient be not readmitted without a medical certificates of his or her complete recovery. 8rd. That the Local Government Board be asked for powers to prohibit in infected houses, and to prevent the inmates of the same from attending public meetings. 4th. That the sanitary inspector be sup- plied with suitable boxes o'r bags to con- vey disinjectants. Dyna y dulliau y penododd y Board arnynt. Gobeithio y gwna pawb gyd- weithio a'r Medical Officer of Health ac a'r Board, er cael gwared o'r haint peryglus hwn i blan t. Ac os caniata y Local Board yr hyn a ofyna y Bwrdd yn y tryclydd adran, hyderaf na fydd angen byth ei osod mewn gweithrediad. Dylai synwyr cyff- redin pawb eu dysgu i beidio mynychu lie oedd y byddont yn debyg o gael a thros- gluyddo haint mor beryglus a'r scarlet fever, &c. Gwn y gwna holl ddarllenwyr y DARIAN eu goreu yn y cyfeiriad hwn eto.- S.

YR ALCANWYR.

EISTEDDFOD LLWYNYPIA—AT "…

. -.... LIVERPOOL.

---UNDEB CERDDOROL A CHYNULL-EIDFAOL…

Advertising

AT ETHOLWYR PLWYF LLANGIWC.