Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

HEBE WARD

News
Cite
Share

HEBE WARD Ya OLAF o'r. SAESON. Wedi i Hereward ddweyd wrth Ys- gafndroed y marchogai efe ymaith gan ei adael ar ol os na ddywedai efe wrtho ei gyfrinion, dywedodd yntau Nid mor hawdded fy arglwydd. LIe yr a y ceffyl yna, gall Martin Ys- gafndroed ganlyn. Ond mi ddywedaf i chwi un gyfrinach nad dywedais wrth unrhyw un o'r blaen, gallaf ddarllen ac ysgrifenu fel offeiriad." Tydi ddarllen ac ysgrifenu ?" Ie, a Lladin a Gwyddelig yn ddigon da hefyd. Ac yn awr, gan fy mod 0 yn eich caru, ac yn benderfynol o'ch gwas- anaethu, boddlon neu beidio, dywedaf wrthych yr holl gyfrinion sydd genyf, cyhyd ag y deil fy anadl, canys y mae fy nhafod braidd yn stiff. Cefais fy ngenu yn yr Iwerddon, yn nhref Water- ford. Yr oedd fy maID yn gaethes Saes- onig, un o'r rhai hyny yr arferai gwraig larll Godwin-nid yr un bresenol, Gyda, end yr hen un—cliwaer y brenin Canute, eu gwerthu o Loegr wrth yr ugeiniau, 0 ZD wedi eu cylymu yn nghyd â. rhaffau, bechgyn a merched, o Briste. Blinodd ei meistr, sef fy nhad, arni-(bydd i mi ei adwaen eto), a cheisiodd gael ei gwared trwy ei rhoddi i un o'i amddi- ffynlu. Ni fjnii hi hyny felly efe a'i crogodd hi i fyny, dwylaw a thraed, a llabyddiodd hi nes ei bod yn farw. Yr oedd Abat-dy yn yr ymyl, a gofynodd yr eglwys ar iddo fy rhoddi i'r mynachod, pryd nad oeddwn ond saith mlwydd oed. Tyfais i fyny yn yr Abat-dy hwnw, a dysgasant i mi fy fa, fa mi fa ond yr oedd yn well gen' i glywed canu baledi a chlywed hanesion am ysbi'ydion a swynwyr, y rhai yr arferwn en dywed d wrthych chwi. Dywedaf wrthrych ddi- gon eto o'r cyfryw pan y byddwch yn flinedig. Yna gwnaent i mi weithio, yr hyn oedd yn gas beth genyf. Yna. cur- ent fi, yr hyn oedd yn gasach fyth genyf; ond bob amser yr oeddwn wrth fy llyfrau, am fy mod yn deall fod gwybod- aeth yn nerth, canys dyna ydyw y dir- gelwch fod y mynachol yn feistri, am eu bod hwy yn gallu darllen ac ysgrifenu, a chwithau yr ymladdwyr yn ddim. Yna syrthiais mewn cariad (fel y mae tuedd ieuenctyd gwaedboeth) a merch Wyddelig, pan yr oeddwn yn 17 oed; ond pan y deallasant hyny, daliasant fi i lawr yn erbyn y llawr a churasant fi nes yr oeddwn bron yn farw. Rhodd- asant fi yn ngharch am fis, a thrwy y bara dwr, a'r tywyllwcb, bron nad aethym yn wallgof. Gollyngasant fi allan, gan farnu nad allaswn wneud niwed i na dyn na llancJs; a phan ddeallais mor broffidiol yr oedd gwirion- deb, yn wirion y parheas, hyny yn mor wirion ag y meddylias oedd ddoeth. Ond un noson aethum i eglwys yr abad- dy, ac ysbeiliais oddiyno yr hyn sydd gefiyf yn awr, ac a gaiff eich gwasan- aethu chwi a minau ZD eto. Aethum ar fwrdd llong, ac ymaith i for Norway. Ond wedi mordaith neu ddwy, aeth yt Ilongddrylliad arnom, a chardotais ffordd nes cyfarfod a'ch tad chwi, hwn a wasanaethas fel y gwasanaetha. chwi eto." Yn awr, both sydd wedi gwneud i ti fynu fy ngwasanaethu?" 0 "0 herwydd mai chwi ydych chwi." H Na ddod i mi ddim o'th ddywediadau tywyll a pharablaidd. ond siarad allan fel dyn. Both wyt ti yn weled ynwyf, dy fod yn foddlon cymsryd dy siawns gydag outlaw o'm bath? Yr wyf wedi rhedeg o fynachdy, felly chwithau; y mae yn gas genyf y mynachod, felly chwithau; yr wyf yn caru dweyd ehwedlcuon-ac wedi i ni ddeall mai gwell oedd bod yn ddystaw wrth y byd odtiiatlan, arferwn eu dweyd wrthyf fy hun trwy y dydd, ac weithiau trwy y nos hefyd; a phan y deallais eich bod chwi yn caru eu clywed, cerais chwi yn fwy. Yna, dywedasant wrtbyf am beidio siarad a chwi, a deliais fy nhafod. Gwyddwn y buaseoh yn cael eich dinoddi ryw ddiwrnod, a gwyddwn y buasech yn troi allan i ladd cewri a swynwyr, ac enill i chwi eich' hunan anrhydedd a gogoniant, a gwyddwn y buaswn yn caelfy rhan o hono. Gwydd- wn y buasai arnoch fy angen rhyw ddi- wrnod; ac y mae arnoch fy angen yn awr, a dyma fi, ac os ceisiweh fy nhori i lawr gyda'ch cleddyf, bydd i mi eich dodgo, a'ch canlyn, a'ch cloclgo drachefn, nes y gorfodaf chwi i'm caniatau i fod yn was i chwi, canys gyda chwi y mynaf fyw a marw. Nis gallaf siarad dim yn ychwaneg." A chyda mi y cei di fyw a marw, ebe Hereward, gan atal ei geffyl, ac estyn ei law i'w gydymaith newydd. Cymerodd Martin Ysgafndroed afael yn ei law, gan oi chusanu a'i llyfu bron fel y gwnelai ci. "Myfi yw eich dyn," e a L I etai efe, "a phrofd: yn ddyn gwirion- eddol i chwi cs byddweh feUy i mi." Yna aeth y tu ol i geffyl Hereward, fel pe byddai busnes ei fywyd wedi ei benderfynu, a'i f-rldwl wedi tawelu. "Mae un tebygolrwydd arall rhyng- om," ebai Hereward, wedi ychydig fynydau o ddystawrwydd; "os ydwyf fi wedi ysbeilio eglwys, yr ydwyt tithau hefyd. Beth ydyw yr ysbail sydd genyt sydd yn ddigon i'ch wasanaethu di a minau?" Tynodd Martin allan o dan ei grys a'i wregys fwyell ryfel fechan, gan ei hestyn i fyny at Hereward. Yr oedd yn offeryn yr oedd Heroward wedi gweled yn iyn- ych ei bath o ran llun, ond nid erioed o ran tlysineb. Yr oedd ei choes yn rhyw bymtheg troedfedd o hyd, wedi ei gwneud o whalebone du, ac wedi ei rhwymo ag arian ac ivory. Yr oedd yn amlwg ei bod o wneuthuriad celfyddydwr hen- afol. Ond pwy oedd wedi gwneud ei phen ? Yr oedd yn rhyw wyth mod- fedd o hyd, a. min da ar un ochr, a bach pigfain ar y llall. Yr oedd o'r dur goreu, wedi ei haddurno ag aur pur- wedi ei gwneud y mae yn debyg gan ryw Circasiad, Tartariad, neu Bersiad. Edrychwch arni," ebai Ysgafndroed "y mae swyn ynddi. Mae yn rhaid iddi ddwyn ffawd i ni. Mae yn sicr o ladd bob amser yr amcenir gwneud hyny a hi; gwasanaetha yn lie unrhyw allwedd i agor cloion o bob math. Peid- iwch a'i thrafod ormod, canys y mae cythraul ynddi, a'ch gorfoda chwi i'm lladd i, canys bob tro y trafodaf fi hi, yr wyf yn awyddu am ryw ddyn i'w ladd. Rhoddwch hi yn ol, fy arglwydd, rhag i'r cythraul fyned trwy ei choes i'ch Haw, a'ch meddianu." Chwarddodd Hereward, a rhoddodd yn ol y fwyell, eto yr oedd yn credu yn ei gallu bron gymaint a Martin ei hun. Swyn neu beidio, ni fydd rhaid i ti daraw dyn ddwywaith i'w ladd a hona, Martin, fy machgen i. Felly, yr ydym ein dau wedi ein harfogi yn dda, tra nad oes genym na gwraig na phlentyn, tir na meddianau i'w colli. Dylem fod i fynyag unrhyw chwech o ddynion gonest a allai fod ag eiddugedd tuag atom, a rhesyma.u da yn eu cartrefi i redeg ym- aith oddiwrthym. 0 Felly yn Ogleddol y teithiasant, ac ni welwyd hwynt yn y gororau hyny am flynyddau lawer.

IPENOD II.

WEDI EI GLADDU YN Y MOR.

CASGLIAD 0 LINELLAU CYNGHAN.

PHARAOH ETO AR GAEL.

,HANES BRYSTE:

----------------BEIRNIADAETH…