Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Afiechyd ddaeth i wywo'i gwedd A'if ysedd oerion am barn' wythnos," A'n Bronwen anwyl roed mewn bedd, Yn ddwy-ar-hugain oed i aros. Mae Bronwen Francis yn ei bedd! Nal 'i phabell egwan a roed yno, Mae Bronwen Francis wir mewn hedd, Yn canu'n beraidd "Diolch iddo Os collwyd hi o'r ddaear hon, Ba yn practiso am flynyddau I byncio mawl mewn nodau lion, Mae 'nawr yn seinio ar aur danau. Bu farw;" no., nid marw wnaeth, Ond myn'd am walk i'r ardal lonydd, Yr oedd mor addfed fel na ddaeth Yn ol i adrodd yr un newydd; Mae 'nawr yn canu'n lion ei lief Yn mhlith yr engyl mewn heirdd lanau, A phlethu moliant iddo Ef, Wrth wledda ar anfarwol ffrwytbau. Bu angel gobaith wrthi'n hir Yn tynu darlun o'i dyfodol. O'i blaen dangosai wybren glir Yn llawn o lwyddiant pur gwanwynol; Ar binacl dysg dangosai hi Yn chwifio baner wen anrhydedd, Ac ar ei phen mewn nefol fri Y gwisgai goron freiniol rhinwedd. Os na chawn mwy ei gwel'd yn d'od A myn'd ar hyd rhodfeydd y ddaear, « Angylion hedd a seinia 'i chlod Yn beraidd iawn ar delyn galar; Ei beddfaen hi fydd Buchedd Ian," Ac engyl coffa yn ei gwylio, Tra hithau fry yn ngwlad y gan Gan anfarwoldeb wedi 'i hurddo. Rieni tyner, cofiwch taw Am enyd fechan rhaid ffarwelio, Cewch fyned ati maes o law I'r nefoedd brydferth i gydrodio; Cydwylwn ddeigryn ar ei bedd, A chydanadlwn iddi Ffarwel, Nes cawn gydgwrdd yn mro yr hedd Yn berlau heirdd i'r nefol oriel. Owmrhydyceirw. MAXBYDDOO.

EISTEDDFOD BLAENAU GWENT,…

CYFARFOD DAU O'R GLOCH.

----CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR…

. DDAS— NEWID MANAGERS.

.----------EISTEDDFOD RESOLFEN.

CYFARFOD DAU O'R GLOCH.

A GYNGERDD.

YR ALCANWYR.

Advertising