Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

26 articles on this Page

YR' WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR' WYTHNOS. CAFODD lampwr perthynol i lofa Celynen, Abercarn, ei ddirwyo i bunt-a'r costau yr wythnos ddiweddaf am roddi allan lamp heb ei chloi. Y MAE yn cael ei hysbysu fod oddeutu pedwar cant o bersonau, o'r rhai yr oedd dau gant yn frodorion, wedi cael eu colli trwy y gorlifiadau a gymerasant le trwy ffrwydriad Llyn Peregaux, yn Algeria. Wrth archwilio yn ddiweddar hen ad- feilion Epidarus, yn Groeg, darganfydd- wyd chwareudy Esculapius, a rhyfedd- wyd pawb t9 herwydd ei fawredd. Mae ynddo ddigon o le i 30,000 o bobl i eis- tedd yn gysurus ac y mae y cerfwaith mewn marmor o'r fath oreu. Dy- wedir mai y cynllunydd oedd Polycletes, a bernir hefyd mai efe a gerfiodd y delwau ysblenydd ydynt mewn cadwr- ;aeth perffaith hyd y dydd heddyw. Y MAE Esgob Pabyddol Rochester, yn yr Unol Dalaethiau, wedi bod yn condemnio yn agored, a hyny mewn iaith gref, y Gwyddelod hyny a gynhyrf- ant yr Iwerddon ac America mewn cy- sylltiad a'r Land League. Y mae yn cael ei ddweyd mai dyna yw barn y rhan fwyaf o offeiriaid Pabyddol yr Unol Dalaetbiau. DYDD Mawrth diweddaf agorwyd yn ffurfiol reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr, ac yn y prydnawn cafwyd gwledd ar yr achlysur, yn yr hon yr oedd prif foneddigion Llanelli yn bre- senol. CYMEKODSB ffrwydriad gas le prydnawn dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, yn ngorsaf y Northern Railway, Vienna, pryd y lladdwyd y ddau brif swyddog yn y man, ac y niweidiwyd tri ereill yn fawr. Dinystriwyd hefyd holl ffenestri a drysau y lie gan nerth y ffrwydriad. YN Mwrdd Iechyd Rhoadda, yr hwn a gynaliwyd ddydd Gwener diweddaf, hysbyaai y meddyg, Mr James, fod 105 o farwolaetl a plant wedi cymeryd lie yn Nhachwcdd trwy glefydau heintus. CAFODD boneddiges Wyddelig o'r enw Miss Reynolds ei dedfrydu i fis o garchar am ddarbwyllo menyw o'r enw Cather- ine Murphy i beidio talu y rhent i'w meistr tir. NID yw masnach haiarn Glasgow wedi bod mor fywiog yr wythnos ddi- weddaf, ac o ganlyniad wedi gostwng i ryw raddau yn ei bris. Nid yw y gofyn tramor gystal ag y bu, eto credir nad yw y marweidd-dra ond am fyr amser, ac y ceir amser a masnach dda eto tua de- chreu y iwyddyn. BOREU dydd Llun diweddat, fel yr oedd tri o lowyr yn adgyweirio yr heol yn nglofay Maerdy, daeth cwymptrwm 1 lawr, a bu y dynion 4ruan o dan y garnMd afn T>edaTr õ öriau cyn eu cael allan. Y mae yn ofnus na bydd i un o fconynt wella, sef William Davies, 54 oed, ond. am y tri ereill y mae pob gobeithion yr adferir hwynt yn fuan. NID oes dim o bwys wedi ei gael yn nghylch yr awyren na Mr Powell oedd ynddi, er fod ymchwil yn parhau i gael ei wneud am danynt. YN ngorsaf reilffordd Penybont nos Sadwrn diweddaf, cymerodd damwain Ie, a fu yn achos i un Walter Howells, golli ei fywyd. Tra yn gwneud ymchwil ar olwynion y cerbyd, a bachgen yn cario box a gwer yn ei ymyl, daeth cer- bydres arall heibio, a tharawodd y box oedd yn Haw y bachgen gyda'r fath nerth nes iddo fyned yn erbyn Howells, a'i daraw yntau nes oedd ei ddwy goes ar draws y linell. Wrth dori ei goes aswy ymaith, bu yntau farw. Yr oedd ganddo wraig a phump o blant, a boreu dydd Sul rhoddodd enedigaeth i'r chweched. TORODD tan dychrynllyd allan yn New York nos Sadwrn diweddaf, mewn mas- Lachdy eang yn South Street. Cyfrifa rhai y golled yn ddwy filiwn o bunoedd. BOREU dydd Sadwrn diweddaf cafodd tri dyn eu mygu ar fwrdd y llong Bydall Fell, yn Glasgow. Yr oeddynt wedi bod yn cysgu mewn lie newydd gael ei baentio, a thrwy nad oedd yno awyriad cawsant eu mygu gan sawyr y paent. YN 1865, aid oedd yn y Taleithiau Unedig ond 34,000 o filldiroedd o reil- ffyrdd; eithr erb^n 1881, yr aeddynt wedi cynyidu i 94,000 o filldiroedd. Codwyd yn 1865 1,127,499,187 o fwsioli o ydau yn y Taleithiau Unedig ond yn 1881, codwyd 2,448,079,181 o fwsieli —cynydd o 1,320,579,994 o fwsieli. Y MAE morwr o'r enw Alfred Walton yn awr yn garcharor yn Manchester am y weithred o roddi vitriol ar ei gariad- ferch. Y mae y weithred yn un an- nheilwng o ddyn.

CAU TAFARNDAI AR Y SABBOTH…

MASNACH YR UNOL DAL-EITHIAU.

ETHOLIAD BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN.

DAU DDYN WEDI EI MYGU YN BLAENAFON.

. Y NYDD A'I GANLYNIADAU.

CYNGHERDDAU Y NADOLIG YN ABERDAR.

CYFFRO MEWN EGLWYS A CHOLLIAD…

MARW 0 ANGEN YN Y RHONDDA.

DYODDEFIADAU MORWYR.

MR POWELL A'R AWYREN.

WEDI 'BODDI.

TY YN CAEL EI CHWYTHU I LAWR.

[No title]

ICYFARFOD DOSBARTH Y GLO CAREG.

---_._---------CYFAREOD MISOL…

. CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR Y…

AT LOWYR CWM ABERDAR.

LLADRATA CORFF Y DIWEDDAR…

CWMPARC.

WAUNARLWYDD.

EISTEDDFOD FLYNYDDOL NEW TREDEGAR.I

EISTEDDFOD GWAUNCAEGURWBN.

[No title]

Quinine Bitters

DAMWAIN ANGEUOL YN CWM-IBARGOED.