Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DIRWEST-LLITH III.

News
Cite
Share

DIRWEST-LLITH III. Yn ngwyneb y ffaith alarus ag ydym eisiocs wedi ei chrybwyll, sef, fod oynifer (60,000) yn marw yn feddw ac yn herwydd meddwdod bob blwyddyn, y mae gofyniad yn hawlio lie yn einmeddwl; h.y., pa nifer yn llai eu rhif ydyw byddinoedd y meddwon heddyw nag oeddent bum' mlynedd i hedd. yw ? Y mae yn naturiol i ddysgwyl eu bod yn llawer iawn yn llai, gan fod tri chan' mil wedi en hunain.ddystrywio yn y cyfnod hwn. Wrth i ni dalu sylw manwl i ansawdd ein cymydogaethau, a darllen ystadegau a gyhoeddir gan ein llywodraetb, ni gawn fod y bylchau a'r rhwygiadau a wnaed yn eu rhengoedd am y blynyddoedd hyn wedi eu cyfanu, fel y mao yr oil mor gyflawn a pherffaith heddyw ag oeddent bum' mlyn. edd i heddyw. Ofnwyf y gellir dweyd am lawer cymyd- ogaeth yr un peth ag y dywedwyd am Mountain Ash, fod ei meddwon yn amlhau, a'r troseddau trwy hyny yn dyfod yn fwy amlwg bob wythnos. Er cywilydd i Gymru grefyddol yr ydym yn gorfod dweyd hyn. Y mae y ffaith ag ydym wedi ei chry- bwyll yn ein tueddu i wneud ymchwiliad i'r paham neu y pa fodd y mae pethau yn bod felly. Gan nad yw amser a gofod yn caniatau i ni wneud ymchwiliad i holl ranau cymdeithas, o ganlyniad, bydd yn rhaid i ni gyfyngu ein sylw at y dyngarol a'r cref vddol vn unig v tro hwn. Er ein galar a'n gofid yr ydym yn cael fod y mwyafrif o lawer o'r eglwysi yn hynod o ddifater am y pwnc hwn. Ad- waenom amryw o eglwysi yn Aberdar a glanau y Rhondda, yn rhifo canoedd o aelodau, etc, gallwn dystio ger bron y cy- hoedd nad oes gymaint ag un cynulliad wedi ei gyhoeddi er pleidio egwyddorion dirwest yn ystod y flwyddyn hon. 0 mor flin genym ddeall fod y mwyafrif eto o athrawon yr Ysgol Sabbothol, diaconiaid eglwysi, a gweinidogion yr efengyl, yn gynes gofleidio yr arferiad cyffredin o yfed y diodydd meddwol, ac ar yr un foment yn ymwybodol mai hyn sydd yn rhoddi bodol- aeth i'r bwystfil meddwdod. Y tri dosbarth uchod ydynt arweinyddion y byd crefyddol, ac y mae eu dylanwad fel rhaff dair cainc, yr hon ni thorir ar frys, yr hyn y cawn eto ei bron cyn gorphen y pwnc hwn. Y mae yn amlwg fod yr arferiad o yfed y diodydd meddwol fel diodydd cyffredin, j^di gweitkio ei ffordd i fysg pob cym- aeithas agos ar wyneb yr holl ddaear. Nid oes na phrynu na gwerthu, geni na chladdu, heb fod y rhai hyn mewn arferiad. Nid oes braidd unrhyw gymdeithas yn cael ei dwyn yn mlaen am flwyddyn gyfan heb fod y diodydd meddwol yncael eu defnydd- io mewn rhyw gysylltiadau. Y mae can- oedd o gymdeithasau dyngarol yn ein gwlad a'n cymydogaethau, a da iawn ydyw y rhai hyn. Mawr ydyw yr ymdrech sydd yn mysg y dosbarth gweithgar i osod eu plant yn aelodau o'r cymdeitbasau hyn mor fuan ag y byddo eu hoed, ac amgylch- iadau yn caniatau aelodaeth iddynt. Yr amcan mawr mewn golwg ydyw sicrhau budd y gymdeithas mewn afiechyd, ac at eu claddu. Y mae yn hysbys i'n darllen- wyr fod y cymdeithasau hyn, gan mwyaf, yn cael eu cynal mewn tafarndai, a'r ar- dreth gyffredin am yr vstafell fydd ychydig geiuiogau oddiwrth pob aelod i gael eu talu am ddiodydd meddwol. Yn y fan yma y ceir gweled y dysgybl a'r athraw yn cyd- gyfarfod; yma y bydd diaconiaid a'r aelod- au ac hefyd y bydd ambell i weinidog yn aclilysurol yn rhoddi ei bresenoldeb, ac yn ei roesawi y bydd degau o'i aelodau a'i wrandawyr; ac yma y bydd yr oil yn mwynhau cymdeithas eu gilydd, gan gario yn mlaen yr arferiad o yfed y diodydd meddwol. Nid wyf yn predu fod unrhyw waith mewn golwg mwy na gwneud y gym- deithas yn fwy cysurus, a bod yfed ychydig yn les i'w natur. Nid oes ynom yr awydd lleiaf i ddweyd un gair yn erbyn cymdeitbasau dyngarol ond dywedaf yn wyneb agored fod eu cynal yn y tafarndai, yn nghyda'r clybiau dyn- ion, a chynulliadau cyffelyb, mewn lleoedd o'r fath, yn rhoddi bodolaeth i ganoedd o feddwon bob blwyddyn. Y mae y dull hwn o yfed yn un goddefol iawn, a Uai niweiniol rywfodd yn marn y lluaws, eto cawn ei fod yn un dylanwadol a. gwir niweidiol i gysur deiliaid yr Ysgol Sabboth- ol, i rieni cyfrifol, i fesur, sydd yn ym- drechu gosod eu plant yn aelodau o'r cym. deithasau hyn. Mewn lleoedd o'r fa.th YillJ, y dechreuodd miloedd o ddeiliaid yr Ysgol Sabbothol i arfer yfed y diodydd meddwol. Buom yn dychymygu yn ddi- weddar, Mri. Gol., weJedyr Ysgoi Sabbothol fel mamaetli dirion, yn sefyll mewn syn- doi uwoliben y canoedd meibion, y rhai yr ymdrecmvyd yn egniol i'w dysgu a'u har- wain ar hyd Iwybrau rhinwedd, etc a iygrwyd trwy yr arferiad, nes syrthio o ddrwg i waeth, nes o'r diwedd fyned yn feddwon cyhoeddus; ac yn yr olwg arnynt. yu tori allanl wylo, gan arllwys ei theimi- ad allan yn ngeiriau y Proffwyd Esiaii, gan ddywedyd,—" Megais a meithrinais fbb ion, a kwy a wrtliryfelasant i'm kerbyn." Pan y mae y tyner a'r profiadol o'r athraw on yn teimlo parodrwydd i wylo yn her- wydd pechodau yr oes, a'r trueni sydd yn ei gorddiwes yn barhaus trwy y pcchod o feddwdod, cawn fod anit i frawd o gymed- rolwr brwdfrydig yn ddigon cryf i ofyn yn wyneb agored, Onid arnynt hwy y mae y bai am yfed gormod?" Pwy am fynyd a eiai i'r drafferth o geisio profi nad ydyw yn dweyd gwirioued 1 ? ond wedi'r cwbl, car em i'r cyfryw feddwl ac ystyried y mater hwn yn ddifrifol, a gofyn iddo ei bun fel y can- 'Iyii: I Ai wrtli a(ilrocl(I un gwirionedd fel hwn y ccir y meddwyn i adael yr arferiad o yfed i ormodedd ?"

I LLYTHYR O'R WLADFA GYMREIG.

ARHOLIAD YSGRYTHYROL YSGOL-ION…

! CYFEILIORNADAU ERCHYLL MORIEN.

0. ADOLYGIAD Y DRAETHGANj…

YSGRIF WYLIAU.