Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
GWEDDW Y DIWEDDAR ARLYWYDD…
GWEDDW Y DIWEDDAR ARLYWYDD LINCOLN. .Yn ol newyddiaduron diwedddaf o Springfield, Illinois, nad oes sail i'r adroddiad a gyhoeddwyd fod gweddw y diweddar Arlywydd Abram Lincoln mewn tlodi; a chan ei bod hi ei hun yn haeru hyny, a hithau wedi cynilo pum mil o ddoleri, er pan ddychwelodd o Ewrop, cradir fod ei synwyrau yn ddyrys- lyd. Bernir fod ei synwyrau wedi cymylu llawer yn ystod y cynwrf mewn cysylltiad a. llofruddiaeth y cyn-Ar- lywydd Garfield; ac y mae y swm anferth o arian a. godwyd i Mrs. Garfield wedi ei chynhyrfu i haeru ei bod hithau yn teilyngu yr un faint o arian.
YSGRIF WYLIAU.
YSGRIF WYLIAU. Wrth ddarllen llyfr rhagorol Mr Spnrgeoi* a elwir John Ploughmans Talk," wedi fl* gyfieithn gan y Parch T. Morgan, caer- salem, Dowlais, tybiais nad annerbyniol genych fuasai cyfieithiad o wirebau yr bev Richard Dlawd, fal y byddai Dr Benjamm Franklin yn galw ei hun. Cyhoeddwyd Y rhai hyn mewn almanaciau o'i eiddo yn y flwyddyn 1732. Bu farw Franklin yn 1790. Y sawl sydd yn hoff o ddarllen a cboticJ gwirebau fel yma, cynghorwn hwy i bryØ1J y llyfr nchod. LEWYS AFAK. Y ffordd i olud, fel y dangoswyd yn eglor ar ddalen arweiniol hen almanac a gyhoedd* wyd yn Pennsylvania, America, Dlawd," wedi ei ddiwygio, a gan Dr. Franklin. Ddarllenydd hynaws,-Clywais nad oedd dim yn rhoddi cymaint boddhad i awlwt na bod yr hyn ysgrifenwyd ganddo yn caef ei ddyfynu gan ereill. Bernwch, gan øyny. pa faint.raid fod y boddhad yn yr hanesj* canlynol a draetbaf i chwi :—" Disgyn^ oddiar fy nghefEyl yn ddiweddar lie yr tyrfa fawr o bobl wedi ymcrynull i arwertbf* nwyddau marsiandwr. Nid oedd awr y* arwerthiant i fyny; ymddyddanai y rbO oeddynt yn bresenol yn rhydd ar dlodi y* amseroedd, ac un o'r cwmni a alwodd hen wr gl&n yr olwg, ond a'i farf yn VTYf" ac yn hollol ddirodres. Atolwg, dad Abdr ham, beth a dyblwch chwi am yr amS6* oedd? Oni fydd i'r trethoedd trynai^ lwyr ddiny strio'r wlad ? Pa fodd y bydd, ni allu eu talu ? Beth gynghorweh chwi i'w wneuthur ? Cododd y tad Abraha^J2 ei drae l, ac atebodd,—os rhaid i chwi fy nghyngor i, mi a'i rhoddaf i chwi "T fyr, oblegyd mae gair, i gall yn ddigO" Cydunent i gyd i ofyn iddo roddi alia** w feddwl, ac wedi iddynt grynhoi o iddo, dechreuodd fel a ganlyn :—Gyfeilb^ ebe fe, y mae y trethoedd yn wir yn dr^5 iawn, a phe buasai y rhai hyny a arnom gan y Uywodiraeth yr nnig
. HEREWARD
HEREWARD Yn OLAF O'R SAESON. "Beth sydd a fyucch ti, ddyn dy- eithr," ebai y. foneddiges, yn ddyryslyd a haner cyffrous "a pha fodd y daeth- ost ti i wybod beth sydd yn y llythyr hwn?" "Pwy nad yw yn gwybod? Dinas wedi ei gosod ar fryn, ni ellir ei ch'uddio. Ar y pedwerydd diwrnod o hyn y byddaf fi yn fy ol." Cododd Ysgafndroed, a chan roddi y 0 llythyr yn y god oedd yn ei wregys, saethodd ymaith trwy y drws, gan rincian ei ddanedd, ac ymddangos fel un yn rhwym o gyflawni gorchwyl oedd yn gas ganddo. Rhedodd yn gyflym i'r neuadd allanol, o gwmpas bord yn yr hon yr oedd Hereward a'i amddi- ffynwyr yn bwyta, yn yfed, ac yn gloddesta; ac wrth fyned heibio i'w arglwydd ieuanc, taflodd olwg awgrym- iadol arno, yr hwn, er na ddeallodd ei feistr ieuanc ef, a gafodd effaith arno am foment. Ystyriodd am fynyd beth oedd oreu i'w wneud, a gwaeddodd allan, Gafaelwch ynddo." Ond trodd Ysgafndroed ato, a chan roddi ei law ar eienau, efe a ddywedodd dan wenu, Yr ydych wedi addaw I" a chan gymeryd torth oddiar y ford, aeth ymaith fel llysywen oddi rhwng eu dwylaw, ac allan i'r does fel saeth. Canlynasant ef at y glwyd fawr, ac yna arosasant, rhai yn rhegu, ac ereill yn chwerthin. Wedi rhoddi llathen yn mlaen i Martin, nid oedd gobaith mwy- ach ei ddal. Galwai rhai am fwa er ei gwympo, ond ni chaniateid hyny gan Hereward, ac arosodd yn edrych ar ei ol nes ei fod allan o'r golwg yn y pellder coedwigol deheuol. "Ynawr, fechgyn," ebai Hereward,- "dychwelwch adref oil, a gwnewch i fyny a'ch tadau. Yn y ty hwn ni yfwch ddiod byth mwyach." Edrychasant arno yn syn. "Yr ydych yn rhyddion, fy amddi- ffynwyr gwrol. Mor belled ag y gallais gymeryd o feddiant dynion ereill, gall- aswn eich porthi fel tywysogion; ond yn awr y mae yn rhaid i mi borthu fy hun; ac nid oes ar gi eisieu cwmni pan yn pigo ei asgwrn. Bydd i mi gael fy nhori ymaith gan gyfraith cyn diwedd yr wythnos; ac os na ddewiswch chwi- thau fod yn gyffelyb, ufyddhewch i'r gorchymyn, ac ewch adref." Bydd i ni eich canlyn i bendraw y byd," ebai rhai. Hyd bendraw y rhaff, fechgyn; dyna y cwbl a gewch yn fy nghwmni i. Ewch tua thref, a'r rhai hyny sydd yn teimlo eu bod yn cael eu galw, ewch yn fynachod, a'r rhai na elwir, cydiwch yn yr aradr a'r 6g, a byddwch yn amaeth- wyr da. Nos dawch." Ac aeth i mewn, gan gau y glwyd fawr ar ei ol, a'u gadael hwynt mewn syndod. Nid oedd cymeryd ei gyngor a dy- chwelyd adref ond peth hawdd. Ond cafodd rhai o honynt eu haner lofruddio gan eu tadau, fel yr haeddent, tra y cuddiwyd ereill o honynt gan eu mamau nes yr aeth digofaiut eu tadau drosodd. Ond ni throdd ond un o honynt yn fynach, a hwnw oedd Leofric yr An- fiodus, mab maeth i'r larll mawr, a bardd y cwmni. Y boreu canlynol, cymerodd Here- ward ei geffyl goreu, arfogodd ei hun yn dda, ac aeth i Peterborough. Pan yr aeth at yr Abbatdy, tarawodd y ddor a bSn waewffon yn y fath fodd nes oedd y porthor yn rhincian ef ddanedd .gan ofn. "Gadewch i mi ddyfod i mewn," ebai efe. Myfi ydyw Hereward, ac y mae yn rhaid i mi weled ^fctoythr Brand." "0! fy arglwydd grasusol," ebai y porthor, gan estyn ei ben allan trwy agoriad bychan, "beth yw hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud i'n stiward ni?" "Y degwm o'r hyn a wnaf os nad agorwch y porth." u O! fy arglwydd," ebai y porthor, fel yr agorai efe y portb, "pe byddai ein Mair Fendigaid a St. Pedr yn cymeryd trugaredd ar eich gwyneb hardd, ac ar- gyhoeddi eich enaid i ofni Duw a dyn "Byddwn yn gymaint o ddwlyn, a chwi. Ewch i geisio fy ewythr, y Prior." Ufyddhaodd y porthor. Yr oedd mab yr Iarll Leofric fel Hew yn mhlith wyn yn y parthau hyn, ac ni feiddiai ond ychydig ddweyd na, yn enwedig y mynachod. Hefyd yr oedd y porthor- fel pawb ereill nad oedd Hereward wedi eu hysbeilio neu eu- darn ladd-yn hoff neillduol o hono. Allan y daeth Brand, yr hwn oedd yn fwy addas i fod yn farchog nag yn fynach, Edrychodd yn graff ar Here- ward. Yr ydwyf wedi prynu doethineb yn ddrud, ac yn awr yn cychwyn allan i Weled y byd, fy ewythr." "O! fachgen drwg, drwg. Pe celem ni di yma am wythnos eto, ni gymerem y gwaed brwd yna allan o honot, ac yna dy anfon adref yn dy iawn bwyll." "Dygwch y wialen yma ynte, a llabyddiweh fi. Ceisiwch eich meddyg- iniaeth. Y mae pawb arall wedi cael ei oiawns, a dyma ganlyniad eu llafur." "Qnd cadwynau St. Pedr," ebai y mynach, "dyna yr hyn sydd yn angen amat. Dy roddi ar gefn ynfyd-ddyn, dy rwymo i fyny, a'th fflangellu yn dda, nes y celet gywilydd. Ni byddai ym- cy ddwyn tuag atat fel dyn ond dy wneud ",J -j' \=-; Hi. yn fwy o asyn gwyntiog nag ydwyt yn bresenol. "Y mae yr oil yn wir, fy ewythr doeth. Ac felly y mae fy rhieni yn myned i ymddwyn tuag ataf fel dyn, ac yn myned i'm hanfon allan i'r byd i wneud fy ffortiwn." "Beth?" "Y maent yn myned i brofi pa mor drwyadl y maent yn gallu ymddiried ynof, trwy fy nihawlio. Onid yw hyny yn anrhydedd, ac yn brawf nad ydwyf wedi ymddwyn yn ffwl?" "Eich dihawlio? O! fy machgen, fy anwylyd, a fy malchder, dewch i lawr oddiar gefn eich ceffyl, a pheidiwch eistedd yna a'ch llaw ar eich ochr, yn ymddangos fel un yn herfeiddio Duw a dyn; ond deuwch i lawr a siaradwch reswm a mi, er mwyn St. Pedr a'r saint." Daeth Hereward oddiar ei geffyl, a thaflodd ei freichiau am wddf ei ewythr. "Pw I yn awr, fy ewythr, peidiwch wylo, pa beth bynag a wnewch, peid- iwch wylo, neu byddaf yn gorfod wylo gyda chwi. Cynorthwywch fi i fod yn ddyn tra byddaf fyw, hyd yn nod os af i'r lie tywyll wedi marw." "Ni chaiff fod! A gwnaeth y mynach lw i holl bethau cysegredig y mynachdy. Y mae yn rhaid iddo fod. Fe gaiff fod. Y mae yn dda genyf gael fy ni- hawlio. Y mae yn gwneud i un deimlo fel dyn. Nid oes iarll yn Mhrydain, ond eithrio fy nhad, yr hwn nad yw wedi ei ddihawfio yn ei amser. Bydd i fy mrawd Alfgar gael ei ddihawlio cyn y bydd farw, os oes ysbryd dyn ynddo. Dyna. yw y ffasiwn, fy ewythr, a rhaid i minau ei chanlyn. Yr oil yr wyf yn geisio genych, fy ewythr, ydyw benthyg haner can' ceiniog arian." Myfi? Ni roddwn fenthyg un i ti pe byddai genyf y fath beth,. ond nid oes. Ac eto, hen ffwl fel yr wyf, yr wyf yn credu y gwnawn." "Mi dy dalaf di yn ol yn onest, a hyny ar ei burned." Beth y mae y mab Belial hwn yn ei geisio yma," ebai llais awdurdodol. "O! Abad Leofric, fy arglwydd daionus. Yr wyf wedi dyfod i ofyn am ychydig letygarwch oddiar eich Haw am dri diwrnod. Erbyn hyny byddaf yn ben blaidd, ac allan o gyfraith; ac yna, os rhoddwch i mi ddeng mynyd o flaen, gallwch roddi eich gwaedgwn ar fy ol, a gweled pa un ai hwy ynte mi a reda gyflymaf. Yr ydych chwi yn foneddwr' ac yn ddyn o anrhydedd, ac felly ym- ddiriedaf y bydd i chwi borthi fy ngheffyl am yr amser hwn, a gweled na wenwyna eich mynachod fi." Ysgafnhaodd gwynebpryd yr Abad. Ceisiodd edrych mor sobr ag y gallai, ond torodd allan i chwerthin yn uchel, a, gwnaeth lw gyda hyny. Y matf digywilydd-dra y Hanc hwn tuhwnt i holl wyrthiau y saint! Ys- beilia St. Pedr ar y ffordd fawr, fe dora Vi fynachdy, heria ef yn ei wyneb, at; yna gofyna iddo am ei letya, a-" "Ac fe'i ca," ychwanegai Hereward. Beth sydd i'w wneud ag ef, fy nghyfaill Brand ? Os trown ef allan—" Yr hyn nas gallwn wneud," ebai Brand, gan edrych ar y llanc yn Ilawn arfau, heb alw i mewn haner dwsin o'n gwyr arfog." Trwy hyny byddai gwaed yn cael ei dywallt, a dianrhydedd yn cael ei daflu ar y lie santaidd." "A dim wedi ei enill, canys ni roddai efe i fyny nes ei lleddid yn farw, yr hyn na ato Duw iddo gael ei wneud." "Amen. Ac os arosa yma, feallai y darbwyllir ef i edifarhau." "A'i adferi." Ond," ebai Hereward, gan neidio ar gefn ei geffyl, a throi ei ben at y glwyd, rhag iddi gael ei chau o'r tu oliddo, os bydd i un o honoch roddi beuthyg un geiniog ar bymtheg mewn arian i mi, bydd i mi eu talu yn ol i chwi a St. Pedr cyn y byddaf farw, gyda llog digon i fpddloni unrhyw Iuddew, a hyny ox air boneddwr a mab i iarll." Chwarddodd yr Abad drachefn, a dywedodd, Tyred i mewn, ti adyn diras, ac edrychwn ar dy ol di a dy ge'ffyl, a gweddiwn hefyd ar St. Pedr ar dy ran; nid wyf yn amheu na chymer efe drugaredd arnat, canys y mae yn drugarog iawn. Hefyd y mae dy rieni wedi bod yn dda wrthym, ac y mae trugareddau y tadau yn gystal a'u han- wireddau yn cael eu cyfrif i'r plant ar droion. "Cymerwch ofal o un peth," ebai Hereward, fel yr oedd yn dyfod yr ail waith oddiar gefn ei geffyl, ac y gwaeddai ar wasanaethwr i gymeryd ei ofal, "peidiwch a gadael i mi weled gwyneb yr Herluin yna." "Paham hyny? Yr ydych wedi ei niweidio ef, ond yn ddiau bydd iddo faddeu i chwi, fel Cristion da, yr hyn hefyd yw." "Y mae hyny yn perthyn iddo ef. Ond os gwelaf fi ef, bydd ei ben ymaith. Fel y gwyr fy ewythr Brand, yr wyf yn cysgu bob amser a'm cleddyf o dan fy ngobenydd." 0! fod y fath fam wedi rhoddi bod i'r fath blentyn," ebai yr Abad dan ocheneidio. Ar y pumed dydd deth Martin Ysgafn- droed, ac a gafodd Hereward yn nghell bersonol y Prior Brand.
[No title]
Gellir cael mil o Envelopes Casglu am 2s., trwy y Post, 2s. 6c.; wedi ei num- bero, neu argraffu enw y capel arnynt, am 3s. 6c., trwy y Post, 4s., yn Swyddfa TABIAN Y GWEITHIWB.
HANES BRYSTE:
HANES BRYSTE: Yn ei Hynafiaethau, ei Masnach, ei Pherthynas a Deheudir Cymru, ac a Methodistiaeth. GAN Y PAKCH. E. THOMAS, PENLAN, ABERTAWE.. PENOD XII. Broad Mead yn ei gysylltiad a Meth- odistiaeth Galfinaidd. Yn Broad Meady tynwyd enaid Ben- jamin Rees o grafanc y Hew, ac y gos- odwyd ef yn nghol gynes y Bugail Da, fel yr aeth y gwr oedd yn ddiarhebol trwy y ddinas am ei annuwioldeb, i fod o hyny allan yn enwog am ei dduwiol- deb a'i ddefnyddioldeb hyd ddiwedd ei daith. Aeth yn weinidog i dref Chip- penham, ac yno bu yn offerynol i ddyr- chafu yr achos o'r dyfnder i ben y bryn. Ychydig amser cyn ei farwolaeth daeth i gyfarfod gweddi yn Broad Mead, gan weddio yn y eyfarfod gyda thaerni a theimlad mawr. Wedi gorphen y gwas- anaeth, eyfeiriodd gyda dagrau diolch- garwch at y fan ar yr oriel lie yr eis- teddai pan y symudwyd ef o bechod i ras. Cyflwynodd amryw o lyfrau yn anrheg i lyfrgell Broad Mead. Brodor ydoedd o Lanstephan, sir Gaerfyrddin. Ymwelai yn achlysurol a chymanfaoedd y Methodistiaid yn Neheudir Cymru. Yn Broad Mead y gwelodd y diweddar Barch Edward Jones, Aberystwyth, ogoniant yr Iesu gyntaf, ac yn ei eiriau ef ei hnn,—" Ym harweiniwyd o niwl tywyllwch i oleuni yr haul." Yr oedd yntau yn cofio am y sedd lie yr eis- teddai pan lewyrchodd goleuni o'r nef i'w galon, a thalai ei hardreth flynyddol gydag hyfrydwch o hyny allan. Teimlai hefyd barch i gofiadwriaeth Meurig Morgan, yr hwn a'i denodd i'r cyfarfod y prydnawn Sul hwnw. Yr oedd Mr Jones wedi bod yn Llundain yn dysgu ei gelfyddyd, ac yn awr yn aros y cyfryw Sul yn Bryste, ar ei ffordd gartref i Gymru, pan y daeth Meurig Morgan i gyffyrddiad dedwydd ag ef. Y mae caritor crefyddol Meurig yn un anhawdd iawn i'w benderfynu am ei fod yn rhyw gymysg o ddrwg a da. Gwnaeth ddaioni a drygioni hefyd i'r achos yn Broad Mead. Yn Mai, 1822, daeth y Parch John Elias yma i gyman- fa. Ar ddiwedd y cyfarfod eglwysig ynddi, dywedodd Meurig, "Y mae un peth yma ag eisieu cael sylw arno." Atebodd Mr Jenkins, y blaenor, "Nis gwn am ddim," a chadarnhaoddy lleill ei dystiolaeth. Oes y mae," meddai Meurig, "Beth ydyw?" medd Mr Jenkins. Y mae eisieu cymodi —— Daniel a Mr Jenkins a'u gilydd," ebai Meurig. Nid oedd hyn ond ei ddyfais ef yn gwneud defnydd o Daniel i ym- osod ar Mr Jenkins, am iddo lefaru ychydig eiriau ceryddol wrth forwyn anynad a gwynai yn dost ar ei lie a'i llywodroethwyr, pan oedd y morwynion a'i rhagflaenent ynddo yn ei ganmol yn £ aw £ Taflodd Meurig ei d§w;y £ tan i'r pylor, ondmethodddanio. Ynagwnaeth ail gynyg, trwy awgrymiadau cyffrous at Mr Jenkins, gan fethu drachefn. Adnabu Mr Elias ysbryd y gwr, a cher- yddodd ef yn ei ddawn a'i ddull digy- ffelyb ei hun. Atebodd Meurig ef, "Nid wyf fi yn haeddu cerydd; yr wyf fi wedi gwneuthur llawer o ddaioni i'r achos yma, ac wedi dwyn amryw bobl i fod yn aelodauo'reglwyshon." "Felly, yn siwr," meddai Mr Elias, "eich pobl chwi ydynt, a'ch delw chwi sydd arnynt." Yn fuan wedi hyn aeth y blaenoriaid grib-yn-nghad a'u gilydd, o herwydd fod Meurig yn llunio chwedlau drwg a chelwyddog, a'u rhoddi yn ngenau Daniel iswasaidd i'w cludo i un blaenor, gan eu tadogi bob gair i'w gydflaenor. Yna lluniai gyhuddiadau celwyddog ar y blaenaf gan osod yr olaf fel pe tae yn awdwr o honynt, a Daniel cydrhyngddynt fel dyn gwall- gofus yn cario pentewynion, neu wreich- ion tan, saethau, ac arfau marwolaeth. 0 ganlyniad, y mae yn hawdd dyfalu nad oedd y teimladau goreu yn bodoli rhwng y blaenoriaid a'u gilydd. Heblaw hyn, gwnai Meurig yn ddvvfn-gyfrwys hau ymrysonau rhwng yr aelodau a'r blaenoriaid. Pob aelod newydd a ddelai atynt yn y cyfamser, gofalai Meurig fod yn cydeistedd yn -yr un gadair a hwy, a chan eu bod yn gadeiriau dwfn, yr oedd ef yn cael mantais i ddystaw-ddiraddio y blaenoriaid,—"Edrych arno fe," am un blaenor, "mae fel spaniel. Ac y mae yntau fel dwrgi." Yna yn myned trwy seremoni lyrnodiwr, trwy chwyrn- ellu ei ddyrnau y naill o amgylch y Hall fel sidell, gan sisial a rhygnu ei ddanedd, O! na baent o hyd cyrhaedd i'r rhai hyn hwy gaent banfa." O'r diwedd, fel y gellid dysgwyl, wrth bar- hau i daflu picellau tanllyd y fall, cy- neuodd tan, yr hwn a gynyrchodd fwg, aeth y mwg yn fflam. Dygwyddodd fod y diweddar Barch John Morgan, Penybont, yn bresenol ar yr adeg. Yr oedd Meurig y noson hono yn ym- ddangos. yn ei ddillad ei hun, a. Daniel a'i grys crwn wedi ei ddiosg. Yno yr oedd yn ei liw Satanaidd yn cyfiawni gwaith Satan, trwy ddefnyddio cabledd- eiriau celwyddog, y rhai nad yw weddus i'w hadrodd ar y blaenoriaid. Cynyrch- odd y cyfryw eiriau y fath effeithiau, fel yr aeth eneidiau bagad ar dan, eu nwydau ar dan, a'u gwaed ar dan, nes i un o gampau Olympus gael cynyg ami, ond ei bod yn fwy difrifol. Diweddodd y ffrwgwd trwy i 12 aelod ymadael a'r eglwys y noson hono-tri blaenor, dau ymgeisydd am y weinidogaejbh, chwech aelod cyftredin, a. Meurig. Cyfarfu y fintai ymadawedig yn Baker's Hall, hen nyth y Methodistiaid, lie yr ymffurfias- ant yn gynulleidfa o Annibynwyr. Dyma y modd y cychwynodd yr Anni- bynwyr Cymreig yn Bryste, y rhai sydd er ys blynyddoedd lawer yn cydym- gynull yn Nhy Cwrdd Castleditch. Gan fod Meurig yn mhlith y fintai ymadaw- edig, cyflawnai ef ran cas-ddyn at ei hen gartref, trwy ei diraddio i forwyr a dyeithriaid, er peri iddynt gadw draw oddiyno, a dyfod i'w gartref newydd ef. Blinodd amryw o honynt yn fuan ar eu cartref newydd, gan geisio nythu dra- chefn yn eu hen gartref yn Broad Mead, ac yn eu plith y ddau bregethwr ieuainc —John Steadman a Daniel Evans. Gwr o Gaerfyrddin oedd y diweddaf (yn briod a chwaer y Parch Morgan Howell), ac o gyneddfau rhagorol. 0 herwydd cyfarfod ag helbulon teuluaidd, claddu ei wraig, &c., nid aeth yn ei flaen gyda y weinidogaeth, ac ymfudodd i Aw- stralia. Am y bla na,, yr oedd yn ad- naoyddus i lawer fei un a bregethai yr athrawiaeth Galfinaidd yn groew, ond yn parhau i draethu yn hir wedi i'r gallu i'w wrando derfynu, am, y parhaai yn yr ymadrodd hyd haner nos, neu o'r boreu hyd yr hwyr. 0 herwydd rhyw ffrwgwd yn nghylch haiarn man main (nad oedd yn werth sylw gan ddyn o synwyr cyffredin), wrth adeiladu ty cwrdd yn Nghymru, ymgiliodd at yr Annibynwyr. Gallasai, pan gyda hwy, ddefnyddio y geiriau hyny, a defnydd- iodd hwynt yn fynych mewn actau hefyd, Af a dychwelaf at fy ngwr cyntaf, canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon." Seiri coed oedd y ddau bregethwr ieuainc, y rhai a. ddod- refnasant yn yr adeg a grybwyllwyd, Dy Cwrdd Broad Mead a chadeiriau, am mai meinciau oedd ynddo pan brynwyd ef. Gwnaeth y seiri eu gwaith ar y cadeiriau yh ddifefl, fel y maent yn esiampl i holl seiri tai cyrddau yn mhob man, am ffurfder a. harddwch celfyddyd. Fel yr awgrymwyd, dychwelodd y ddau bregethwyr a.'r tri blaenor i Broad Mead, ond amod eu derbyniad oedd fod i bob un o honynt fyned o dan y wialen, a'u gosod yn noethlymyn fel yn y dydd y'u ganed, heb na gwisg blaenor na phregethwr am yr un o honynt, 8aith y mab afradlon wrth ddychwelyd o'r wlad bell yn eu geneuau. Plygasant, a derbyniwyd hwynt. Er hyn oil, parha- odd rhyw dan dan ludw yn y swydd ddiaconol-nid yn y diaconiaid am eu bod fel dynion ereill cyn myned i swydd—yr hwn dan a godai y rwan ac yn y man yn fwg, o dybio eu hunain yn gallach, yn dduwiolach, neu yn meddu ryw awdurdod dramor o linell yr olyn- iaeth ddiaconaidd,' gan anghofio fod y swydd a'i sylfaen yn ewyllys yr eglwys. Gweithicdd rhai o honynt yn rhagorol gyda holl ranah yr achos er ei hyrwyddo, ond o herwydd eu bod fel Neptune, yn byw yn mhell oddiwrth yr haul, ac nid fel Mercher yn ymgolli ynddo, yr oedd- ent heb fod yn helaeth yn y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu, ac am hyny heb feddu yr all weddau hyny sydd yn agor dorau calon Duw a dynion. Gellir gofyn yn nghanol y cwbl gyda chyfeiriad at gorff yr eglwys, "Y defaid hyn, pa beth a wnaethant a hwy?" Dyoddef yn dawel, a gweithio yn ddiwyd a difost, fel y mae eu cyfran- iadau i gynal yr efengyl yn helaethach na neb arall yn y Corff-dyfod ar bob math o dywydd, ar hyd ffyrdd unig, maith, a pheryglus, a dyoddef eu by chanu yn y Ty Cwrdd-o Ffistla, Ynys, Banc-y-felin, Llaauwchlyn, a phlant bychain Brychan. Boed bendith ar goryn gwr Aberarth am ollwng allan y fath gyflawnder o ddyfroedd, nes nofio hen arch Gaerdibi. Ond dyoddefodd y frawdoliaeth yn Broad Mead yn mych- ander ei rhif, eu lie, yn Fethodistiaid ac yn Gymry, gan eu brodyr mwythus ac anwybodus. Gobeithio fod calon eu chwiorydd yn y Dywysogaeth yn fwy ystyriol.
» 0 NEWYDDIADURON AMERICA
» 0 NEWYDDIADURON AMERICA DAMWAIN ANGEUOL YN SODOM, OHIO. Ar y chweched dydd o Hydref di- weddyf, cafodd Cymro o'r enw William Dakin ei ladd yn y Garfield shaft, trwy gwympo i lawr i'r shaft pan yn cael ei godi i fyny mewn bucket. Ar y pryd yr oedd rhan o'r engine wedi tori, fel nad ellid codi y gweithwyr yn y ffordd ar- ferol, a. thebyg iddo gael ofn a cholli ei afael o'r shaft. Pan y codwyd ef i fyny, yr oedd yn farw ac wedi tori ei wddf, ei fraich chwith, a'i ysgwydd dde. Brodor ydoedd o Llanidloes, swydd Drefaldwyn -mab i Edward a Jane Dakin, Green Isaf. Ei oed oedd 31 mlwydd. Gad- awodd weddw a phump o blant bychain ar ei ol.
BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU…
BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD BLAENLLECHAU, RHAGFYR Y 5ED, 1881. GAN BRYNFAB. Penillion i "D. ac L. Davis, Yswein- iaid, am eu haelioni tuag at achosion crefyddol." Fugenwau yr ymgeiswyr ar y testyn hwn ydynt:—Bachgen o Lanymddyfri, Timotheus, Edmygydd (1), Edmygwr Haelioni, Eu Hedmygydd, ac Edmyg- ydd (2). Bachgen o Llanymddyfri.—Can gyff- redin iawn sydd gan y bachgen hwn. Mae ganddo dir lawer i'w feddiann cyn y daw yn alluog i gynyrchu can dda. Timotheus.-Penillion byrion. Ped- air llinell sydd gan y bardd hwn. Lied ryddiaethol yw y syniadau. Y gel- fyddyd yn lied dda ar y cyfan. Y mae y penillion yn rhy fyrion hefyd; ond feallai eu bod yn ateb hyd anadl yr awdwr. Edmygydd (1).—Gan fod yma ddau neu dri Edmygydd, cystal nodi fod yr Edmygydd hwn yn dechreu ei gan fel hyn:- Gwir haelioni ydyw'r rhinwedd." Y mae ei mydryddiaeth yn lied ddifai; ond cyffredin yw ei hansawdd fardd- onol. Y mae gormod o'r elfen rydd- iaethol ynddi i hawlio gwobr dda mewn cystadleuaeth gymharol wych. Edmygwr Haelioni.-Ceir can lithrig gan y bardd hwn. Y mae ynddi lawer drychfeddwl tlws. Ond prin y mae yn cadw at y testyn. Cana ar y Davis- iaid mewn ystyr gyffredinol, ac nid yn ol geiriad y testyn, sef eu haelioni at achosion crefyddol." Eu Hedmygydd.-CAn dda yw eiddo yr edmygydd hwn. Nid oes dim i'w ddweyd yn ei herbyn. Er hyny, mae yma un gan sydd yn well na hi Edmygydd (2).—Dyma y bardd goreu o'r haner dwsin. Y mae ganddo benill- ion gwychion iawn, ac yn dal yn ffydd- Ion at eiriad y testyn. Maent yn fardd- Onol trwyddynt, a'r drychfeddyliau yn eglur a dirodres. Maent yn rhagori llawer ar y lleill mewn ystyr farddonol, ac nid ydynt" yn ol i un o'r caneuon ereill mewn llithigrwydd. Yn ddibetrusder, Edmygydd (2), yw y goreu. Dechreua ei gan fel hyn :— "Os haedda llywyddion byddinoedd dder- chafiad." Can i'r diweddar D. Davis, Ysw. Dwy gan dderbyniwyd ar y testyn hwn, wedi eu harwyddnodi gan Syml ac Hanesfardd. Y mae cerdd Syml fel ei ffugenw. Symlder a llithrigrwydd yw y ddwy elfen amlycaf ynddi. Dilyna y testyn yn ffyddlon o'r dechreu i'r di- wedd. Ni cheir ynddi lawer o ehediadau barddonol uchel; ac ni cheir ynddi ychwaith nemawr o benillion cyffredin. Pe na buasai ei gwell genym, cawsai y wobr yn ddibryder. Y mae, cerdd Hanesfardd yn gwneud i ni de^znlo ar unwaith-ein bod yn, taflu-y llinyn mesur am Hercwlff o fardd. Y mae nodwedd hanesyddol y testyn yn tueddu i gaeth- iwo yr awen. Y mae Hanesfardd yn ein harwain trwy holl olygfeydd hanes- yddol y testyn, ac yn desgrifio y prif dygwyddiadau gyda manylder. Yr oedd yn anmhosibl i'r awdwr wisgo llawer o ffeithiau sychion mewn. gwisgoedd gor- farddonoL Ond pan mae yr awen yn cael ei gollwng i'w helfen ei hun ganddo, y mae yn esgyn i binaclau mwyaf der- chafedig Pamasus. Mae gan yr awdwr un gwall daearyddol pwysig yn yr ail benill ar y chweched tudalen, a dyna yr oil o bwys sydd yn anurddo y gerdd. Dyfynwn ychydig i ddangos ansawdd y gerdd:— "Ond mcddai ef ysbryd oedd gryf fel llifeiriant, Pa.n ruthra drwy'r ceunant i lawr tua'r mor; Os canai llaw llwyddiant ei byrth yn ei erbyn, Fe fyddai llaw gobaith yn agor ei dor." Yn y penilllIe y cyfeiria at y llafur hir- faith a'r anhawsderau dirfawr a fu ac a gyfarfyddwyd cyn cael y telpyn cyntaf o lo i fynyo bwllBlaenllechau, dywed:— Deng mlynedd o lafur a tliraul cyn cyfodi, Un dernyn o'r trysor cuddiedig i'r lan, Oedd digen i yru amynedd a gobaith, I droi'n hunanleiddiaid ill dwy yn y fan Ond ef oedd gedrwydden nas drylliau'r ys- tormydd, Diystyr oedd ganddo aflwyddiant a chnr, Ei yspryd anhyblyg a wnaed o elfenan, Oedd wydnach na'r haiarn, a chleiach na'r dur!" Eto, ei gyfeiriad at barhad coffadwr- iaeth Mr Davis :— "Yn nhwrf ysgogiadol pob ermig trwy'r lofa, Yn nhrwst pob cerbydres wrth fyn'd ac wrth dd'od; Yn swn yr awelon wrth groesi'r mynyddoedd, A thonan y moroedd mi glywaf ei glod; Lie byaag yr hwylia'r agerlong Brydeinig, Lie bynag dadlwythir un dernyn o'n glo; A thra bo'r lofarchnad Gymreig mewn bod- olaeth, Ca Davis ail-fyw mewn darfelydd a cho\ Terfyna y gerdd yn hapus iawn. Rhaid bellach ei adael yn naear neilldu- aeth, Yn llan yr hen Eglwys mhlwyf Aber- dar; Ac er yn ei feddrod er's bymtheg o flwyddi, Nid oerach yw calon v 1 a'i car Yn iach i'r brawd anwvi' h iddo bell- ach, Requieseat in P(tee 'g ysed mewn hedd; Ar yspryd oedd ddewraùh -sr fryd oedd nnionach, A chalon oedd bnrach ni ehauodd y bedd." Ystyriwn y gerdd hon yn ueilwng o'r gwrthddrych, yr eisteddfod, ac o'r wobr. — —■— Gan hyny, gwobrwyer Hanesfardd yn llawen. Can—"Helgwn y Glog.Dwy hel- gan a ddaeth i'r gystadleuaeth. Gor- l chwyl anhawdd iawn i fardd da yw cyfansoddi helgan boblogaidd. Wrth gyfansoddi helgan, dylid cadw mewn golwg pa ddosbarth o ganwyr fydd yn ei chanu, ac yn mha le y bydd yn cael ei chanu fynychaf. Dylid cofio mai nid cantorion ein cyngherddan a'n heistedd- fodau fydd yn ei chanu. Ac mai nid yn ein capeli a'n Music Halls, y bydd yn cael ei chanu. Dylid hefyd gadw mewn golwg pwy yw y rhai fydd yn debyg o fod yn wrandawyr. Ac mewn pa fath. hwyl y bydd yr helwyr ar achlysur can- iad yr helgan. Nid yw yn ofynol i hel- gan fod yn farddonol, nac ychwaith yn rhy ymlynol wrth iaith bur. Elfenatt hanfodol helgan ydynt, llithrigrwydd mesur, iaith gyffredin ac arferedig, ffraethineb, ac ymlyniad ffyddlon wrth ddeddfau a thermau helwriaeth. Heb gyfuniad o'r hanfodion hyn, ni lwyddir byth i wndud helgan boblogaidd. Gyda hyna o ragymadrodd, deuwn at y can- euon. Dwy gan ddaeth i law, sef eiddo Tom Moore, a Mynyddwr. Y mae can Tom Moore ar y d6n Robin yn Swil," ond ynanffodus, maeyr awdwr wedi anghofio gwneud byrdwn i'w gan; a gwyr y cantorion na ellir canu Robin yn Swil" heb chorus, Y mae y gan o ran defnyddiau, yn dda mewn ystyr fardd- onol. Ond mae yn ymddangos fod yr" awdwr yn llawer gwell bardd nag ydyw o heliwr. Profa y gan nad yw yr awdwr yn gyfarwydd â. helgwn y Glog. ac nad ydyw yn hyddjsg yn neddfati heliwriaath. Er enghraifft, dywed fod yr heliwr yn bloeddio "Si-Ho" pan gyfyd y llwynog! Gwyr pob heliwr mai "Si-Ho" a floeddir pan welir ys- gyfarnog yn ei gwâl. Ac mai How- arno" a floeddir pan gyfyd y Uwynog. Diffyg adnabyddiaeth o'r difyrweh hel- wriaethol yw colled Tom Moore. • Ceir gan Mynyddwr helgan o'r iawn ryw. Cyfunir ynddi holl anhebgorion y testyn. Ac ymddengys yr awdwr ei fod vn gyfarwydd a nodweddion helwyr ft helgwn y Glog. Y mesur a ddewisodd ydyw, Gyda'r Wawr It-a chanodd arno yn Ilithrig dros ben. Nid oes ynom y petrusder lleiaf i gyhoeddi Mynyddwr yn oreu, ac y bydd ei gin yn sier o ddyfod yn boblogaidd yn mhlith helwyr anrhydeddus Llanwono. Traethawd.—" Yr anghenrheidrwydd i ddynion ieuainc i ymegnio i fod yn hyddysg yn neddfau y Celfau a'r Gwydd- oran. Dau draethawd dderbyniwyd ar y testyn eang ac amserol hwn, sef eiddo Dyddgarol a Gwyddon. Yr oedd traeth- awd Dyddgarol bedwar diwrnod yn rhy ddiweddar yn dyfod i law, ac felly, maa allan o'r gystadleuaeth. Ond pe buasai wedi dyfod i law yn brydlon, ni fuasai yn cipio y wobr. Y mae yn draethawd da iawn ar y cyfan. Lled dywyll yw llawer o'i frawddegau. Ymdrinia a'r testyn mewn arddull rhy farwaidd sychlyd, ac nid yw yn dal yn ddigoii agos iddo bob amser. Er hyn, gallasai fod yn Uwyddianus mewn cystadleuaeth heb fod yn uchelgeisiol iawn. Ceir gan Gwyddon draethawd rhag- orol. Y mae yn ymwneud a'r testyn yn ei holl agweddion. A phrofa hefyd fod yr awdwr yn hyddysg yn ngweithiau yr awdwyr diweddaraf ar y Celfau a'r Gwyddorau. Ceir rhai darnau o'r traethawd yn dwyn olion brys, yn y ffurf o ambell frawddeg aneglur, ac ant- bell h heb ei lleoli yn gywir. Ond er yr ychydig frychau hyn, mae y traeth- awd yn glod i'r awdwr, ac yn llawi* deilyngu y wobr. Ar air a chydwybod, yr eiddoch, BRYNFAB. ■ »