Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
To PERSONS GOING ABROAD. General Passengers and Steam Ship Agent. J AMES BEES, 19, Union Street, Idverpool. (Late with Cymro Gwyllt.) ALL Infoimation given, and^ tt Lowest Bate, CABIN and STBBBAOB, par New YofkT Boston, Philadelphia, Montreal, Portland. Quebeck, Baltimore, Halifax, Rmrcs-iyrls, Chili, Cape of Good Hope Australia. anG all parts of the World. Passengers booked to all parts of America, Cali- Assisted Pas§aes to {Janada oi £ A 15s. Passes from America exchanged, ana Steamers Tickpt returned wSth ell Pattieolars. AH p«rsoB8 met on trrival, and seen to on board the Steamers, Tickets to get friends home at lowest prices. Cofier y Cyfeiriad— JAMiSS REES, 16, Union St., Liverpool. D.S.—Gellirymhdli yn Nghwm Rhondda a Ma. PHILLIPS, Griffin Inn. Pentre. CASTELLNEDD. CYNELIR EISTEDDFOD GERDDOROL, &c., yn y dref uchod, dydd Gwener y Groglith, Ebrill lleg, 1879. PRIF DDARNAU. "D;lt";d mae Ehwymau Caeth- iwed" (J. Thomas), i Gor o 60 ac ucbod,§wobr. — 10 0 0 A Cbadair i'r erwe'inydd. "Wells," Rhif 138, Llyfr Tonau Stephens a Jones, gwobr 2 0 0 rrFife B&nd a chwareuo oreu "Merch Megan" a "Gwyr Harlech," gwobr ••• ••• 1 0 0 Am y gweddill o'r testynau, yr amodau, &c., anfoner am y rhaglen at yr Ysgrifenydd, a chair hi am lg.; trwy y Post, Itc. EDWARD MORGANS, Ysg., Tramway Office, Neath. RHYBUDD EHIBUDD!! DYMUNA JAS. PEREGRINE, Llyfr- werthydd, Heol-y-boat, Llanelli, hys- bysu ei gyfeillion a'r cyhoedd yn gyffredinol, ei fod wedi symud i No. 11, MURRAY STREETS (Y Sbop lie bu Mr. Gough, Auctioneer, yn ddiweadar), lie y parha i gadw pob math o Lyfrau aNewyddiadnron Cymreig; hefyd, Stationery o bob math. Dymuna ar bawb sydd wedi bod mor gar- edig a'i gynorthwyo yn yr amser a aeth heibio i barhau i wneud hyny yn ei siop newydd. Gapel Seion, Wannarlwydd. CYNELlR EISTEDDFOD Flynyddol y Capel uchod, dydd Gwen8r y Groglith, Ebrill lleg, 1879, pryd y gwobrwyir yr ym- geiswyr llwyddianus. BeirnM,—PROFF. DAVIES, Llangollen. PRIF DESTYNAU. I'r Cor a.gano yn oreu "Datod mae Rhwymau Caethiwed" (John Thomas, gwobr. 8 0 0 Pr Cor a gano yn oreu "Y mae Gorphwysfa eto'n ol" (Pencerdd Gwynead), gwobr ••• 2 0 0 Ni chaniateir i unrhywarweinydd i arwain cfir os bydd wedi enill ugain punt o'r blaen. Y mae y programs i'w cael am y pris ar- ferol, gan MR. THOMAS JOHN, New Road, Waunarlwydd, Swansea. LLINELL TP ALLAN. AgflrfaingftH Llythyrgodol Breiniol. MAEyfinellhon yn oynyg manteision aeill- J[ duol, a dylai ymfadwyr i nnrhyw ran o Canada sieu yr Unol Dalaethan, os ydynt yn awyddus am pchnb arian ac amser, ymofyn a T. L. JONES, Swyddfagr Aberdare Tmes, Aberdar 3. W. JONES, Dilledydd, &o., 67, Oxford Street, MountainAeh; OWEN MORGAN, Siberia Villa, Llanwyno Road ALLA^ROTHERS AND CO., James Street, Liverpool. i BETHLEHEM, TREALAW. CYNELIR SisTEDDFOD yn y Capel nohod, C ar ddydd Gwener f Greglith, 1879, dan nawdd y beneddwyr urddasal, G. Wiuiama, MiBkin Manor; W. W. Hood, Yew., Llwynypia; E. Davies, Tew., Primrose Hill, Yattad; M. Rowlands, Yew., Peny- graig; Dr. H. N. Davies, Cymer; Dr. I. Davies, Ystrad; aoodan lywyddiaeth G. Williams, Yew.; pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr bnddngol mewn SLhyddiaeth, Barddoniaeth, Casiadaeth, Adrodd- ildaa, ao Araetnyddiaf.th. Beirniaid: Y Rhyddiaeth a'r Farddoniaeth, y Parch. E. Roberts, Pontypridd; Yr Adroddiadau, Owalob, Gilfach Gooh. Beirniad y Cann, D. ROSSBB, Yswain, Pontypridd. Pianists: Misses Mary Davies Ystrad, a Bessie Price, Penygraig. PBIF DBSTYNAV. Yjr Sal,' gan Gwilym Gwent, i gor heb fod o dan 40 o rif, gwobr 10 0.0 Traethawd, 'Haelioni Duw a gwastraff Dm,' gwobr 0 !5 0 Pryddest, 'Awdwr Natnr,' 150 llinell.. ,1 10. 0 Y Programs i'w oael ar ol y 15/ed o Ionawr, gan Sir. Daniel Thomas, Grocer, Tonypandy. Bethel, Abernant, Aberdar; rf^YNELIR EISTEDDFOD yn y Capel nchod prydnawn dydd Llun, Mawrth 17eg, 1879, pryd y gwobrwyir yr ymgeisfWyr buddugol mewn Canu, Adrodd, a Chyfan- soddi. Beirniaid y Canu, Mr. J. Thomas, Nazareth, Aberdar; yr Adrodd a', Cyfan- soddiadan, Mr. W. Thomas (Morfab), Aber- aman, Aberdar. I'r cor, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu "Yr Alarch" gan R. Stephen (Moelwynfab) 1 10 0 I'r Parti heb fod dros 12 mewn rhif a gano yn oreu The Hunter's Farewell," gan Mendelessohn 0 8 0 Y mae y programs yn barod, ac i'w cael am y pris arferol gan yr Y sgrifenydd.- MR. JOHN POWELL, « 2, Engineers' Row, Abernant, Aberdare. CASTELLNEDD. C. YMJELIR Y DRYDEDD EISTEDD- V FOD FLYNYDDOL yn y Farchnadle, dydcJQwener y Groglith, 1879. PRIF DDARNAU. I'r Cor heb fod dan 150 o nifer, a gano yn oreu "Hallelujah, Amen," o Arch y Cyfamod, gwobr 25 0 0 I't Cor heb fod dan 50 o nifer, a rio yn oreu Datod mae rhwym- caethiwed," J..Thomas 10 0 0 I'r Fife Band a chwareuo yn ereu dair o Alawon Cymreig (y bands i ddewis yr Alawon a fynont) gwdbr 2 0 0 Hysbysir enw y beirniad, <fec., yn mhen pythefnos. Ysgrifenyddion,— E. WILJJIAMS, 3, Albert St., Neath. J. WILWAMS, Grocer, Molincrytliap, r Darffanfyddiad Newydd!! WILLIAMS'S Compound Castor Oil Pills. YR nnig ffordd i iechyd naturiol ywtrwy gymeryd 'Williams' Castor Oil Pills. X maent yn cael eu gwneud o'r llyseuyn Castor, yn gynwysedig o'r prif lysiau a gydnabyddir y feddyginiaeth oreu i buro y gwaed; felly y mae y Peleni hyn yn tra rhagori ar ddim a geir o'r llysieuyn Castor ei hunan. Y maent y feddyginiaeth oreu allan, nid yn unig i buro y gwaed, ond hefyd er dadwreiddio pob math o gomwydion, clwyfau, ac ysfa yn ty cnawd. Y maent yn feddyginiaeth ragorol hefyd i leddfu anhwylderau yr afu, llosgfa yn y cylla, (Ulliousness), cur yn y pen, ac i symud ymaith wynt, chwyddiadau, curiad y galon, y piles a'r gravel, y dropsy, poen yn y cetn, dwfr-ataliad, bias annymunol yn y genau, a theimlad o orlawnder ar ol bwyta. Y maent yn feddyginiaeth anmhrisiadwy I fenywod, gan eu bod yr un yn eu heffeithiau a Chastor Oil, ond yn tra rhagori amo, ac yn liawer hawddach i'w cymeryd. Y maent yn gweith- redu mor esmwyth a diboen, fel y gellir eu cymeryd gyda dyogelwch gan bawb. Drwy hyny, gellir eu hystyried, nid yn unig y fedd- yginiaeth oreu at yr anhwylderau uchod, ond yn gaffaeliad anmhrisiadwy i'r cyhoedd. Gan fod rhai yn teimlo cryn anhawsdra i lyncu Peleni, y mae Williams wedi darganfod ffordd i'w gorchuddio a gwisg, yr hyn a'u gwnant yn hollol rwvdd i'w cymeryd gan y mwyaf tyner eu harchwaeth. TYSTIOLAETH PwYSIG ODDIWETHTEDDYG. Hynsycld i ardystio fy mod wedi archwilio Peleni 'Compound Castor Oil' Williams, ac yn cael eu bod yn cynwys y prif lysieuau at y doluriau hyny y maent wedi eu hameanu. Dylasent gael xefnogaeth gan bob teulu yn gyffredinof DR. BLAKE. Army and Naxy Hospital, Scutari. ETC O'R AMERICA.J Dyoddefais yn fawr oddiwrth y dropsy, piles, a'r gravel am fisoedd. Aethum or diwedd yn analluog i ddyfod o'r gwely gan maint y chwydd a'r poen. Gallaf sicrhan fod yr holl anhwylderau uchod wedi fy llwyr adael, ac oddiar amrywyn yr ardal hon, trwy gymeryd eich Compound Castar Oil Pills. Yr eiddoch yn dra diolchgar, MARY JANE DAVIES. Youngstown, Ohio. SYNIAD BARDD. Chwi gleifion gwywedig, yn fychain a mawr Mae iechyd yn agos os mynwch yn awr; Os ydyw y treuliad a'r 'stumog yn wan, Yr afu a'r galon yn methu eu rhan, Gwnewch roddi'r clefydau i gyd yny dWZ/«, Drwy gymeryd i'ch gwella y Castor Oil Pills. Prifysgol Glasgow. RHTJBDWAWR. GWELLHAD ODDIWRTH Y PILES A'R GRAVEL Drwy gymeryd eich Compound Castor Oil Pills cefais wellhad buan. Yr oeddwn yn methu cerdded cam braidd, ac yn methu eis- tedd o herwydd y Piles, a phoen yn rhan iselaf y cefn, cur yn y pen, a r cluniau yn wan. Hefyd trwy gymeryd yr un PiUs cef- ais lwyr wellhad.oddiwrth y Gravel, yr hwn oedd yn fy mlino yn barhaus. Dylai pawb wybod am y feddyginiaeth hon. Trecynon. MRS. THOMAS. GWELLHAD RHSTEDDOL o GLEFYD YR AFU A D&FRYG TRETJLIAD. Syr,—Mae yn llawen genyf hysbysu y gwellhad rhyfedd a gefais drwy gymeryd eich Compound Castor Oil Pills nodedig. Yr oeddwn wedi gwneud prawf o bob math o gyffeiriau, ond y cyfanynddieffaith. Dy- oddefais am flynyddau meithion oddiwrth glefyd yr afu a diffyg treuliad, gwrthwjmeb- iad at fwyd, yr hyn a'm hanalluogodd I dailyn fy ngalwedigaeth. Ar ol cymeryd dan flychaid o'ch peleni fe'm hadferwyd i gyflawn iechyd. Maent hefyd yn rhagorol mewn achosion o piles a gravel.—Yr eiddoch, Llanelli. CAPTAIN JOHN PATTISON. MODDION DOCTOR YN METHU, A PHILLS WILLIAMS YN lACHAU. Yn ddiolchgar yr hysbysaf chwi o'r gwell had gwyrthiol a gefais drwy gymeryd eich C Compound Castor Oil Pills' Bum mewn blinder mawr gan boen yn fy arenau, y stumog yn methu ei ran, poen yn fy nghefn, a gwaethaf oil, methu cysgu y nos; ac er cy- meryd llawero foddion doctor am amser maith, eto dim lies nes cael eich Pills chwi, y rhai yn bur fuan a'm gwellasant. Yn awr yr wyf yn holl iach. Y mae fy nghwellhad wedi peri syndod mawr yn y gymydogaeth hon. Yr wyf yn anfon hyn er budd i'r cy- hoedd.—Yr eiddoch, ANN EVANS, Maerdy, Ferndale. Er Dyogelwch, cofiwch ofyn yn eglur am Beleni Compound Castor Oil Williams, a gofalwch fod stamp y Llywodraeth ar bob blychaido hbnynt; heb hyn nid oes un yn frywir# SYLWCH.—Cofier fod arbediad wrth brynn y blychau mwyaf, sef 2s. 9c. Y maent yn cynwys tri o'r rhai Is. lie. Ar werth mewn blychau Is. lie. a 2s. 9c. yr un, gan bob Fferyllydd, neu trwy'r Post oddiwrth y perchenog, am 15 neu 34 o stamps.. „ Perchenog—DV 'WILLIAMS, Dispensing Chemist, Gadlys, Aberdare, Glam. GTVERTH SYLW PArVE! DYMUNA REES EVANS, Tailor & Draper, 45, Commercial-Street, Aberdare, HYSBYSU y cyhoedd ei fod wedi prynu -L"- Stoc o Frethynau o bob math gan Mr. John Price, Tailor & Draper, Canon-Street, (yr hwn sydd wedi rhoddi i fyny ei fusnes yn Aberdar), yn llawer is na phrisiad y farchnad yn bresenol; ac er mwyn eu gwaredu ar unwaith, bydd iddo eu gweithu yn hynod o rad. Er mwyn prawf, Deuwch, Gwelwch, a Barnwch drds eich liunain! Y MAENT YN NWYDDAU O'R FATH OREU. 26 Harmonium & Cheffionere Organ WORKS. BY STEAM POWER. B. H. PHILLIPS, Harmonium Manufacturer and Inventor of as Cheffionere Organ, WISHES to inform the Public that he VV has sold during the last 10 years, over 1,200 Harmoniums, Pianos and Cheffionere Organs. BWRDD Y GOLYGYDD. GWRANDAWR.—Yr ydych yn son am gyfar- fod a gynaliwyd Ebrill 3ydd. Os Ebrill 1878, yr ydych yn son am dano, y mae hwn yn rhy bell yn y gorphenol; ond os Ebrill, nesaf, y mae hwnw yebydig yn rhy bell ya mlaen yn y dyfodol. YSGRIFENWR CHWITHIG.—NI wyddis yn y byd oddiwrth eich ysgrif, pa le y dygwydd- odd y naill beth na'r liall y cyfeiriwch atynt. Fe allai msi yn y llellad, ac nid oes genym ddo&barthwr yno hyd yn hyn. CHWAREU TE&.—Nid ydym yn meddwl gwneud sylw o ysgrifau perffaith anwir- eddus a osodir i mewn o bwrpas i gadw y Dryblithlen rhag marw yn llwyr. Anfon- odd rhyw un gopi olir Dryblith at ysgrifen- ydd yr erthyglau arweiniol; ond y mae efe yn edrych gyda'r fath wawd ar y sothach anwireddus fel na agorodd efe y papyr i wastraffu moment o amser arno. ARCHWILIAD GLOFA TRIMSARAN.—Yr ydym wedi derbyn adroddiad o archwiliad y lofa uchod, wedi ei lawnodi gan David Rowlands a John Williams ond gan fod rhyw amheuaeth wedi ein taraw yn nghyleh ei ddilysrwydd, yr ydym yn oedi ei gyhoeddi nes y cawn sictwydd pellach. Os yw sefy lIfa y lofa fel y dywed yr ad- roddiad, Did ydym yn credu ei bod yn gymwys i ddyn nac anifail.
j IRHYDDFRYDWYR YN PAROTOI…
RHYDDFRYDWYR YN PAROTOI EU HARFAU. Y mae y rhagolygon am yr etholiad cyffredinol, fel dygwyddiad nad yw yn mhell yn y dyfodol, yn dechren gwefreiddio y blaid Ryddfrydol trwy y deyrnas. 0,- hoeddant ryfel yn erbyn Beaconsfield a'i blaid. Ymresymant yn glir, brwdfrydig, a thalentog, yn erbyn gweithrediadau y Toriaid, Diau fod y Toriaid yn rhyfeddn fod yr esgyrn sychion a dybiant hwy oedd wedi marw am byth, yn dechreu dangos arwydd- ion o fywyd. Y mae If swn, ae wele gy- nhwrf, a'r esgyrn yn dyfod yn nghyd asgwm at ei asgwrn. Cyfyd gian a chig arnynt. Gwisgant groen am danynt." Y cwbl sydd yn eisieu yw yr anadl. Desgrifio eefyllfa bolUical yr luddewon yn Babilon yr oedd Ezeciel. Siaradant fel y mae y blaid Ryddfrydol wedi bod yn siarad am amser. "Ein hesgym a wywasant a'n gobaith a gollodd. Torwyd ni ymaith o'n rhan ni." Yr unig wahaniaeth sydd rhwng y Rhyddfrydwyr, fel plaid, a'r Iuddewon yn Babilon, yw, fod ,y Rhyddfrydwyr yn mhell o gydnabod Uaw yr Arglwydd, Llywodraethwr y byd, mewn «m%enon g\viftuwriacinoi, rna reiijr |P :gwnai politicians goleuedigf yn mhlith y caethion luddewig. Edrychent hwy at Dduw am adferiad eu rhagorfreintiau gwladol. Dywedodd Duw Wrth: Ezeciel, A I Prophwydi, a dywed wrthynt: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; wele fi yn agor eich beddau chwi fy mhobl, codaf chwihefyd o'ch beddan, a dygaf chwi i dir Israel. A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan agoraf eich beddan, a phan gyfodwyf chwi i fyny o'ch beddau, fy mhobl ac y rhoddwyf fy Ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun. Yna y cewch wybod mai myfi yr Arglwydd a leferais, ac a wnaethnm hyn,medd yr Arglwydd." Ezec. xxxvii. Y mae Duw yn teyrnasu ar amgylch- iadau teyrnasoedd yn awr mor fanwl a gwirioneddol ag yn nyddiau Ezeciel. Y mae politics ein gwlad ni yn dwyn perth- ynasâ bywyd, meddianau, a heddwch dynion-pethau a berthynant i Dduw mor llwyr ag mewn un wlad erioed. Ac os yw y Toriaid wedi dwyn tlodi a newyh i'r wlad, wedi gosod beichiau trymion arrir i gario allan amcanion niweidiol i bawb ond iddynt ei hunain, ac wedi achosi. Bawer o dywallt gwaed mewn rhyfeloedd diangen- rheidiol, y mae Creawdwr, Llywodraethwr; a Barnwr mawr dynolryw, yn ol ei dragar- edd a'i gyfiawnder, yn cymeryd yr interest, uchaf yn yr hyna wneir gan wahanol bleid- iau yn y wlad hon, mewn ystyr wladWfri iaethol. Anffyddwyr mewn barn a gweithred, yw y bobl hyny nad ydynt yn credu fod yr Arglwydd yn teyrnasn yn awr yn ei s Ragluniaeth, ar bawb a phob peth. Ni buasai awdurdod gan Beaconsfield mwy Ea. chan Pharaoh, Nebuchodonozor, a Philat, oni buasai i'r Arglwydd ei rhoddi. Nid yw pechod yr offerynau a ddefnyddir ganddo efyn Uai am ei fod ef yn gwneud i'w cynddaredd ei foliann ef." Ac os yw Rhyddfrydwyr yn bleidiol i gyfiawnder, trugaredd, a rbyddid cyd- wybod yn addoliad Duw, gallant fod yn sicr o gefnogaeth Arglwydd y lluoedd. Y mae Ardalydd Hartington, blaenor y Rhyddfrydwyr yn Nhy y Uyffredin, wedi bod yn areithio i dorf o Ryddfrydwyr selog yn Liverpool, yr wythnos ddiweddaf. Yn-yr aR wythnos bu Mr. Grant Duff yn areithio i'r un blaid yn Winchester, Mr. Trevelyan yn Harwick, Mr. Kerschell a Mr. Pease yn Durh, a Mr. Massey a Syr George Young yn Plymouth. Yr oedd Arglwydd Hartington yn fanwl, gochelgar, ao ymreaymiadol. Yr oedd ei gyhuddiadan yn erbyn y Weinyddiaeth Doriaidd yn bwysig iawn. Nid yw efe yn, ymollwng i osod pethau ger bron mewn iaith reithegol. Ymfoddlona ar reswn teg a chryf, gan ganiatau pobpeth a ellir ganiatau. a.fyddai yn fanteisiol i'r Toriaid, yn y ddadl. Ond y mae Mr. Duff yn siarad yn ddoniol dros bee. Ao y mae mÜ1 ac awch ymresymiadau Mr. Trevelyan yn tori Toriaeth lawr yn ddidrugaredd. Cyhuddodd y Weinyddiaeth Doriaidd fel y canlyn Y mae hi wedi llwyddo i ysgubo i ddiddymdra surplus gogoneddns Mr. Gladstone, a gosod ceiniog yn ychwaneg o Income tax ar y trigolion. Y mae hefyd wedi chwanegu y ddyled sydd ar y deyrnas. Cymerwn 15 mlynedd o 1862 i 1876. Allan o'r pymtheg mlynedd hynyy Rhydd- frydwyr a feddianent y llywodraeth am un mlynedd ar ddeg. Yn ystod y blynydd- oedd hyny yr oedd trenlian y llywodraeth yn cael eu rheoli yn ol drychfeddyliau Mr. Gladstone. 0 dan ei arweiniad ef am yr un mlynedd ar ddeg hyny, lleihawyd .£35, 000,000 o drethoedd ywlad. Nid oedd y trethoedd a osodwyd ar y bobl yn JE6,000, 000. Chwanegwyd at gyfoeth y wlad trwy hyn £ 286,000,000. Pa fodd y mae pethau wedi bod yn ystod y pedair blyn- edd allan o'r pymtheg yn mha rai y mae y Toriaid wedi bod yn teyrnasn ? Goeod- asant S3,500,000 o drethoedd ychwanegol ar y wlad. Ni chyrhaeddodd y trethoedd a gymerasant ymaith £ 500,000. Yn He gwneud y wlad yn gyfoethocach4 gwnaeth- ant hi yn diotach o £ 30,000,000. Y mae y cyfrif hwn yn seiliedig ar ystadegau cy- hoeddus-ystadegau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Doriaidd. Os gwnaeth y Toriaid gymaint o ddrwg a hyn i'r wlad mewn pepair blynedd, faint o ddrwg a wnaethent pe mewn awdnrdod yn ystod yr oil o'r pymtheng mlynedd ? A pha faint o ddrwg a wnant os bydd yr awdurdod yn eu llaw yn y pymtheng mlynedd nesaf? Byddai pethan yn sicr o fyned o ddrwg i waeth. Ac nid oes gronyn o obaith y bywheir masnach nes y dychwel y blaid sydd o dan ddylanwad ysbryd Gladstone i swyddfeydd y llywodraeth." Y mae y ffeithiau nchod yn hen ddigon i wneud cyhuddiad yn erbyn Gweinydd- iaeth Doriaidd Beaconsfield a'i hyrddia o'r Trysorlys am byth. Yn ngwyneb y ffeithiau uchod, pa ryfedd yw, iod banciau yn tori, cwmnïau yn myned yn ddarnau, dynion mewn syfjllfaoedd uchel yn syrthio i'r llwcb, siopwyr yn tori yn fethdalwyr, gwerth meddianan yn Jleihan, gweith- feydd yn myned yn segur, miloedd lawer o weithwyr a'u teuluaidd yn gorfod tafln eu hunain ar elusengarweh eu cyd-ddynioc— y rhai eu hunain a gyflymir tua dinystr os na ddaw gwaredigaeth, canoedd o dlodion yn crwydro drwy y wlad i ochel marw o newyn, a miloedd yn tafln eu hnnain ar drethoedd y plwyfau yn y Work- houses ? Wrth ystyried pob peth, anmhosibl yw peidio priodoli rhan fawr, os nad y rban fwyaf o'r canlyniadau ofnadwy uchod, i gynlluniau y Toriaid mewn llawer o ffyrdd. Ond os lluosogir areithiau tebyg i nn Mr. f3 Traptyasr trwy j wlad, y mae tynged y Wwnyddiaeth Doriaidd yn sicr o fod mewn dinystr bytliol. Dywedodd Mr. Trevelyan ei fod efwedi sylwi yn y Senedd er ys amser beHach, fod gwynebau yr aelodau Rhyddfrydig yn gwisgo sirioldeb a gobaitb, yn nghyd a hyder cryf, ar ol bod am flynyddau yn wyneb-drist a diobaitb. Ond fod yr aelodau Toriaidd, rai o honynt, yn enwedig, yn ymddangos yn bryderus. Felly yr ym- ddengys y rhai sydd yn cynrychioli swyddi Lancaster, a York, a Durham, trigolion pa rai sydd yn dyoddef yn ddir- fawr o herwydd marweidd-dra masnach. Ni wna esgusodion y Toriaid, a'u twyll resymau, argyhoeddi y bobl sydd yn teimlo drygfyd yr amseroedd. Yn ol arwyddion yr amseran, barna Mr. Trevelyan y bydd mwyafrif o bedwar ugain gan y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf, a gadael allan yr Iwerdd- on. Y mae efe yn rhoddi y siroedd i'r Toriaid fel arferol yn y cyfrif hwn. Trueni blin yw fod Sir Fynwyyn medd- ianty Toriaid. Y mae ychydyg o lythyr- au wedi ymddangos yn un o papyrau Caerdydd oddiwrth bersonau heb fawr o ddylanwad ganddynt, yn galw sylw at y mater. Ond nid yw yn debyg y gwneir dim i ddifeddianu y Toriaid o gynrychioliad Sir Fynwy hyd nes y byddo rhyw ddyn o dalent, ac enwogrwydd, ac un yn meddn cyfoeth, yn dyfod allan i ymladd y frwydr Rydddfrydol, Dyfethwyd achos Rhydd- frydiaeth yn yr ymdrech a wnawd yn 1868, o herwydd fod cymaint o red tape yn teyrnasu. Y mae miloedd lawer o Ryddfrydwyr 'yn swydd Fynwy y rhai a wnaent orch- estibn mawr gydag ymgeisydd poblogaidd, ae un yn meddu egwyddorion Rhydd- frydol boddlonus i Ymneillduwyr. Ym- neillduwyr fyddai ei "Ironsides" et: Nid oes un dosbarth arall o Ryddfrydwyr mor llnosog ac mor unol a hwynt yn y Sir. Beth bynag, hyderwn y daw Rhydd- frydiaeth i feddiant o'r llywodraeth yn fuan.
I. MARWOLAETH SYDYN PRIOD…
MARWOLAETH SYDYN PRIOD MR. LEWIS WILLIAMS, TAI DRAW, ABERDAR. Ymddengys i Mrs. Williams fyned i Rymni i gladdu ei thad, yr hwn a fa yn pregethu gyda'r Bedyddwyr am flynyddau lawer. Cymerodd yr angladd le ddydd Llun, a dychwelodd Mr. Williams gartref ddydd Mawrth, gan ad&el ei wraig i ddy- ddanu ychydig ar ei mam oedranus oedd mewn awfn alar ar ol ei hanwyl briod. Bu yho hyd y dydd Sadwrn canlynol. Anfon- odd lythyr i hysbysu ei gwr ei bod wedi cael ychydig o anwyd yn nghorff yr wythnes, ond ni feddyliai neb fod dim perygl yn nglya & fiyny. Pa fodd bynag, rhwng pump a chwech or glooh bore Sadwrn dywedodd wrth ei mam am alw ar Silas, ei brawd, er mwyn iddo fyned i'r gwaith. Cododd yntau a chymerodd ei foreufwyd, ond er ei fawr syndod, yn yr adeg few hon yw oedd enaid ei IIlWyl chwaer wedi ehedeg i fyd yr ysbryd- oedd. Cludwyd ei gweddillion marwol i Aberdar, a'r dydd Mawrth canlynol, daeth torf luosogyn nghyd i hebrwng ei chorff i dy ei hir gartref yn Cemetery Aberdar. Gadawodd briod ac wyth o blant i alaru ar ei hoL Yr oedd yn wraig rinweddol, mam dyner, cymydoges garedig, ac yn aelod hardd a dif rycheulyd gyda'r Bedyddwyr yn Bethel, Abernant, ac ni a obeithiwn fod ymadawiaa ein chwaer er gwell iddi. Colled fawr yw colli priod, Colled fwy yw colli mam— Gadael wyth o blant amddifad [ 1 ■ Yn y byd mae rhai'n cael cam Pwy na theimla, pwy na theimla, Yn y tro galarus hwn ? GWRON DAR.
ABERDAR.
ABERDAR. Y mae ysgoldy bychan wedi el adeiladu gyferbyn a Cwm Cottage. Cangen ydyw o Carmel, capel y Methodistiaid Calfinaidd, Trecynon. Adeiladwyd hwn er mantais i dlodion y lie, ac y mae yn agos i gant o blant yn ymgynull yn nghyd ynddi ar y Sabboth. Y mae clod mawr yn ddyledus i Mr. John Howells, Oxford-street, am ei weithgarwch diflino oddiar ei gychwyniad.—DARFAB.
HIRWAUN.
HIRWAUN. Y mae glowyr glo ager yr Aberdar Mer- thyr wedi bod allan ar strike am bum'wyth- nos. Cynygiwyd iddynt ar y cyntaf 2s. y bunt o estyngiad, ac wedi hyny Is. 6e. y bunt; ond methwyd denu y gweithwyr i ddechreu ar hyny. Wedi hyny, boddlon- wyd i'r gweithwyr fyned i mewn ond iddynt roddi un twrn y mis i'r meistri; ond ni wnai ddim y tro ond myned i mewn ar yr hen bris. Y mae yn dda genyf allu hysbysu fod y strike ar ben, a'u bod wedi ail gychwyn ar yr hen delerau, yr hyn sydd i'w briodoli yn benaf i benderfynolrwydd y gweithwyr. Y mae tlodi mawr yn bodoli yn y He hwn y dyddiau hyn, a llawer yw y rhai sydd yn gorfod myned oddiaingylch i gardota. Y mae y boneddwr haelfrydig, D. E. Williams, Ysw., Y.H., wedi cyfranu yn helaeth at yr anghenus, ac wedi myned oddeutn er cael allan y rhai ag.oedd yn dyoddef eisieu. Y mae eglwys Nebo wedi llwyddo i gael dau dy gan Mr. Bedlington yn ddidal er cynal cyfarfodydd pr?gethu ac ysgol ar y Sabboth, a hyny er mantais i'r rhai sydd yn methu myned i un lie o addoliad o eisieu dillad. Y mae 129 o blant eisioes wedi eu casglu yn nghyd yno. Llwyddiant i'r brodyr fyned yn mlaen yn y gwaith da hwn.-A. C.
RHIGOS.
RHIGOS. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y lie hwn nos Iau, Chwefror y 6ed. Cafwyd anerchiad rhagorol gan y llywydd, Mr. Jeremiah Owen. Yna anerchiadau gan Mri. L. Lewis a W. Williams. Adroddwyd gan Miss M. Wil- liams, Miss M. Hughes, a Mr. J. Thomas. Cymerwyd rhae yn y canu ganMri. J. Ma- thias, B. Thomas, W. Price, J. W. Davies, J. T. Davies, a Glee Party Hirwaun, o dan ar- weiniad Mr. W. Davies (Alaw Cynlais), yr hwn sydd yn teilynga clod am ei ymdrech diflino. Canodd y parti amryw ddamau yn rhagorol.-D. AB DEWI.
"'.."""..'.<. > CYFARFOD ¥MADAWlAlC…
.<. > CYFARFOD ¥MADAWlAlC Nos Iau, yr 31ain cynfisol, yn yr Old Bunch of Grapes, Merthyr Tydfil, cynaliwyd cyfar- fod ymadawol Mr. Benjamin Price, mab Mr. D. Price, Georgetown, Merthyr. Gan fod Mr. B. Price yn bwriadu ymadael Ni ened- igol wlad er myned i California at ei frawd, penderfynodd rhai o'i gyfeillion gyflwyno an- rhegion iddo ar yr achlysur, sef Uyfrau budd- iol, yn mhlith y rhai yr oedd Beibi hardd a gwerthfawr. Cafwyd cyfarfod lluosog ac hynod o ddifyrus. Teimlai Mr. Price yn wir ddiolchgar i bawb am eu cyfeillgarwch a'r anrhegioD. Adroddwyd y liiaellau can- lynol: Yn Nghaliffornia, cofia, Ben, Am dy chwiorydd mâd, Ac am yr hwn sydd 'nawr yn hen, Dy anwyl, dyner dad; Pan fyddi'n mhell ar dir neu don, Yn hylon ar dy hynt, Rho iddynt linell ambell dro I gofio'r amser gynt. Hefyd yn yr un cyfarfod cafodd y cerddor ieuahc, Mr. C. Harris, ei enwi yn Eos Glyn. Boed Eos Glyn o hyn i mae3 Mewn ton a bias i ganu Caniadau Seion ptlr eu swyn, Er clod i'r addfwyn Iesu; Boed ef yn gerddor pur dinanv A'i duedd am dduwioldeb, Ac aed ei enaid at y cor Sy'n moli'r lor mewn purdeb. CYFAILL.
LLWYNYPIA.
LLWYNYPIA. Nes Iau diweddaf, traddodwyd darlith gan y Parch. J. R. Jones yn Jerusalem, ar Palas Dyn. Y mae poblogrwydd Mr. Jones fel pregethwr yn hysbys drwy Gymru; ac ond cymeryd y ddarlith hon fel esiampl, gellir dysgwyl iddo fod felly fel darlithiwr. Er fod y testyn yn eang, cafwyd ganddo grynodeb mawr o ffeithiau wedi eu gwisgo yn ddestlus. Yr oedd ei ddesgrifiad o'r mor yn hollol newydd a tharawiadol, ac nid Uai dyddorol oedd ei nodiadau athronyddol ar y dyferyn dwfr. Gellir dweyd am dani ei bod yn ddarlith ardderchog, wedi ei gwisgo gan y tyner, y tlws, y byw, a'r barddonol, a'r oil o honi yn dangos Duw, Awdwr y gread- igaeth, yn amlwg. Yn absenoldeb y cadeir- ydd apwyntiedig, cymerwyd y gadair gan 199 Mr. Howell Davies, Grocer. Ar ol y diolch- iadau arferol, ymadawodd pawb wedi eu boddloni yn fawr.—GWRT^DD.
.CWMPARC.
CWMPARC. Cynaliwyd cyngherdd yn nghapel Soar, Cwm pare, nos Iau, Ionawr 30ain. Gwasan- aethwyd gan Llinos Rhondda, Treorci; Miss Weeks, Treherbert; Miss Katie Harries, Cwmparc a Mr. D. Davies, Treherbert, yn cael eu cynorthwyo gan amryw ereill o gan- torion y Re, yn nghyd & pharti o Bethel. Canwyd darnau da dras ben, a gwnaeth pawb eu rhan yn ganmoladwy. Yr oedd y cyfeill- ionthyn yn uchel o'r blaen, ond mwy felly o hyn allan. Ni fydd rhaid ond eu henwi cyn sicrhau llawer o wrandawyr. Yr oedd y capel yn orlawn. Hir oes iddynt i wasan- aethu eu cenedl. Y mae hefyd darlleniadau ceiniog TO capl eu cynal yma oddiar ddechreu ygauof pre- senol yn festii y capel uchod, a thalentau yn dyfod i'r golwg nad oedd neb yn meddwl am danynt. Diau y bydd y cyfartodydd hyn yn fnddiol i lawer i ddyfod yn bebl wasanaeth- gar i'w cenedl.—HEJT LODGBB.
YSTRAD,RHONDDA.,-
YSTRAD,RHONDDA. Nos Wener diweddaf, cynaliwyd cyfarfod adloniadol yn f estri capel y Bedyddwyr yn y lie hwD. Cymerwyd y gadair gan Mr. Bees Howells (Alaw Cynon.) Gwasanaethwyd ac yr achlysur gan Alaw Cynon, Mri. James Davies, Gwilym Lloyd, Thomas Hopkins, J. Saunders, E. Jenkins, Lemuel Charles, B. Charles David Evans, Mis3 C. Davies, Miss M. A. Phillips, Mrs. Jones, Misses Polly Tho- mas, S. J. Williams, S. E. Parker, &c. Caf- wyd cynulliad lied dda, ac aeth pawb trwy eu gwaith yn ganmoladwy.—E. RHONDDA.
IFORIAETH-AGORIAD CYFRINFA-NEWYDD…
IFORIAETH-AGORIAD CYFRINFA NEWYDD YN Y MAERDY. Nos Sadwrn diweddaf, Chwef. 8fed, agor- wyd cyfrinfa newydd berthynol i ddosbarth Aberdar o Urdd y Gwir Iforiaid, yn y 11a uchod, a Maerdy" fydd enw y gyfrinfa. Saif y lie hwn mewn cwm cul, gwyUt, a rhamantus, oddeutu haner y ffordd rhwng Aberdar a Rhondda, a el wir Cwm Rhondda. Fach. Y mae y Maeriy oddeutu dws filldir yn u weh yn y cwm na Blaenllechau, achydneaiMordecai Jones, Ysw.,ynddi- weddar agor yma waith glo, ni chlywid yn tori ar ddystawrwydd unigol y lie ond bref- iadau y ddafad, iap y ci, a gwaedd y bugait Erbyn hyn y mae yma bentref, ac yn argoeli bod yn lie prydferth a chynyddol. Yn ddi- weddar,agorwydyma westdy helaeth a chyf- leus rbyfeddol gan Mr. J..Davies, gynt o Gwmaman, Aberdar, ac yno agorwyd y gyf- rinfa newydd. Ymffarfiodd aelodau cyfrinfa Blaenllechau (pa rai oeddynt yn cymeryd y cyfrifoldeb a'r drafferth o agor y gyfrinfa newydd) yn orymdaith reolaidd a lluosog, yn cael eu blaenori gan seindorf y lie, ac aethant i'r orsaf i gyfarfod swyddogion yr adran, ac oddiyno i'r Maerdy ynyrun drefn: ac er gwaethaf danedd Clerk y Tywydd, yr oedd all the world and his wife weidi dyfod allan yn Mlaenllechau i weled yr olygfa. Wedi cyrhaedd Gwestdy y Maerdy, a chael ychydig hamdden, awd yn mlaen a'h gorch- wylion. Yn absenoldeb y Llywydd AdranoL yr hwn a fethodd fod yn bresenol nes oedd y gweithrediadau wedi dschreu, etholwyd yr Islywydd i'r gadair, a chynorthwyid ef gan yr Ysgrifenydd Adranol, Mr. Thos. Wil1 ii-ms, a chan y Mri. J. Jones (Gwalch), J. TLLIOJUV Ysgrifenydd Cyfrinfa Blaenllechau, Dttuief Jones, E. Morgan, Eos Dâr, ac ereiii uud ydym yn cofio eu henwau. YmuLouUya agos i haner cant a'r gyfrinfa newydd y noson hono, a bernir y bydd yn ui o gyfrin- faoedd mwyaf lluosocaf yr Adran yn mhen ychydig amser. Teimla swyddogion y dosbarth eu bod yn ddyledswydd arbenig arnynt idalu y di- olchgarwch mwyaf gwresog i berchenogy gwestdy a'i wraig serchus, am y caredigrwyda mr anarferol a dderbyniasant oddiar eu dwylaw yn y Maerdy. YR ISLYWYDD. O.Y.—Byddai yr Is-Lywydd yn ddiolchgim iawn i'r brawd a gymerodd ei wmbrella (mewn camsynied yn ddiau) ond gan adael un arall gwaeth yn ei Ie, am ei anfon i Aberdar, y cyfle cyntaf, a cha ei eiddo ei hun yn ei Ie. Ni fyddai hyny ond yr hyn a allai un Ifor ddysgwyl oddiwith y llall, Mri. Gol.
AYRYWION 0 LAN&AMLETT "" r
AYRYWION 0 LAN&AMLETT r GWEITHFAOL—"Y aaey glofeydd yn myned yn fwy cyson yma yn awr nag y buont, a Uai o bobl yn segur trwy hyny; eto y mae lie i rai o honynt i wella. Y mae darpa*- iadau eang yn cael en gwneud yma gyferoyn a'r dyfodol gan gwmpeini y Foxhole Collienes ac ereill. Y mae y peiriant mawr a nerthol .yn parhau i weithio yn ddymunol a rheol- aidd, ac yn sugn-dynu y dyfroedd allan yn gyflym o'r hen weithiau, pa rai sydd yn segur er ys ugeiniau o flynyddau. Pan sychir y cyfryw, bydd yn ail fywyd mas- nachol yn y plwyf. Lion genyf hysbysu hefyd fod un o'r hen weithiau wedi dechren cael ei agor, ac y maent yn dra llwyddianus yno. DeDgys hyn fod gwawr gobeithiol i'w ddysgwyl yn y lie hwn. Dymunwn bob llwyadiant i bawb i gyrhaedd eu hamcanion daionus, er lies y meistri a chysur y gweith- wyr yn fuan deued tymhor llwyddianus ar fasnaeh trwy y byd yn gyffredinol. YR ACHOS GOREU.—Os yw masnach yn araf a marwaidd yma, y mae y gwaith da yn llewyrchus iawn gyda phob enwad yma, eglwys a chapelau newyddion yn cael eu hadeiladn, a phechaduriaid yn ymwrthod a'u hen ffyrdd, ac yn troi am neddfa yn mhlith y brodyr a'r chwiorydd. Nos Sabboth, Ion. 19eg, aethum i Adulam i weled y deml newydd, ac i glywed y gwein- idog newydd: a gwelais wyth o bersonau yn cael eu Dedyddio ganddo yn ngwydd llonaid capel o dystion. Barnwyf fod dyfod- ol gobeithiol o flaen y gweinidog ieuane a'r eglwys hon; Llwyddiant i bob enwad i ddiwygio eu cyfeillion a'u cymdeithion j a'u henill i ymwrthod a phechod, ac i rodio ffyrdd sancteiddrwydd, yw dymuniad DAFYDD JONES.
Family Notices
l' PRIODASAU. Dydd Sadwrn, Ionawr 25ain, yn ngwydd y Cofrestrydd, yn Merthyr Tydifl, Mr. J ohn Bowen, glowr, Cwmdar, Aberdar, a Miss Ann Hill, Trecynon, Aberdar. < Dydd Mawrth, Chwefror Mr. Wm. Hopkin (Gwilym Bryncerdin),- Mountain Ash, a Miss M. A. Williams, Prince of Wales Inn, Cap Coch. MARWOLAETH. Ion. 29, Mr. Enoch Howells, Bonymaen, Llansamlet, yn 45 oed. Yr oedd yn gymydog tawel a serchog, ac yn foneddwr caredig RC7 haelionus. Claddwyd ei ran farwol dydd Sadwrn canlynol. yn Mynwent Eglwys y plwyf, pan ddaeth torf fawr yn nghyd. Dar- llenodd a gweddiodd y Parch. W. Lewis, Whitland, a phregethodd y Parch. J. D. Harries, Adulam, yn y ty. Gwasanaethodd y Parch. P. Walters, D.D., yn yr Eglwys. Heddweh i'w lwch i huno yn dawel hyd udganiad yr udgorn. Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu.' T. GENEDIGAETHAU. Chwefror laf, priod Mr. Wm. J. Pryse, Pontbrynmtorgan, Cwmtwrch, ar ferch, a gelwit hi yn Sarah Ann. Bereu dydd Mawrth. Chwef. 4ydd, priod Mr. John M. Mathews, Trealaw, Pontypridd, ar fab, a gelwir ef yn Thomas John. Ionawr 29ain, priod Mr. Morgan Lewis (E. Glan Aman), ar fab, a gelwir ei enw yn Solomon.
[No title]
Y Mae yr amodau heddwoh rhwng Twroi 1 a Rwsia wedi en llawnodi yn derfynol ar ddydd Sadwrn diweddaf. Y mae milwyr Rwsia wedi dechreu gadael tiriogaetk Twrei er dydd Sol,