Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

ADOLYGIAD Y WASG.

News
Cite
Share

ADOLYGIAD Y WASG. JOSUA Goresgyniad Canaan. (Testynyn^Eis- teddfod Genedlaethol Birkenhead, 1878.) Gan y Parch. J. GWRHYD LEWIS, Bar- goed. Pris 6c. Merthyr Argraffwyd gan JOSEPH WILLIAMS. Rhestrai un o'r beirniaid (Dr. Edwards, Bala), yr arwrgerdd hon yn ail oreu allan o ddeuddeg o ym(?eiswyr, a chlywsom fod un arall wedi rhoddi lddi yr un safle yn y gystadleuaeth, a hyny heb ei darllen 11 Y mae i'w obeithio fod Dr. Edwards wedi syl- faenu ei feirniadaeth ar dir mwy cadarn, onide ni fuasai yn werth udganu llawer am ei safle yn y gystadleuaeth. Y, mae Gwrhyd i'w ganmol am gyhoeddi ei atwrgerdd; pe gwcelid rhago, o hyn, sc i'n pwyllgorau wneud eu dyledswydd gyda'r cyfansoddiadau buddugol, byddai lie i ddysgwyl 1 wvr gael yr hyn sydd yn ddyledus iddynt cyfii1 wr der. Darllenasom fod ychydig gan- oedd o bunau yn weddill gan bwyllgor Bir- kenhead, a'u bod wedi eu rhanu rhwng gwahanol sefydliadau. Pe buasent yn defn- yddio cyfran o honynt l argraffu y cyfan- soddiadau buddugol, a'u troi allan 1 r gen edl am bris rhesymol, buasent wedi troedio llwybr eu dy'edswydd. Yr oedd yn dda genym glywed Mynyddwr, un o baf ysgog- Y Eisteddfod T.effynon 1879, yn dweyd os y buasai elw oddiwrth yr Eisteddfod hono, y buasid yn gyntaf yn gofalu am i r cyfansoddiadau buddugol gael gweled goleu dydd. Yn bresenol nid ywy wlad yn cael mwyn^au hufen yr Eisteddfod. Cyfansodd- iadau ail a thrydydd oreu yw em rhan ni, a'i rhai hyny yn dyfod i oleum ar gost yr awdwyr yt yd.m ya dweyd ar gost yr awdwyr am y gwyddom mai busnes goUedus d&o^ydyw cyhoedai Uyft.u yn ami. Mae yn ddigon hawdd ond cael y ptes xm pvfnewid v» y pwno. Wei, nid oes genym ond gobeithio y caiff ein cyfaill Gwrhydei ddigolledu beth bynag yn yr anturiaeth hon a phe byddai iddo wneud ei ffortun o honi, credwn n;id oes neb a genfigenai wrtho. Ond beth am yr Arwrgerdd ? Adwaenem Gwrhyd fel bardi swynol lawn ei s blyn- vddau ond prin y buasem vn credu neb fod ei awen yn ddigon cryf ac hir-anadlog l vmaflyd yn y gorchwyl o gyfansoddi arwr- |Sdd Modd bynag, yr ydym wedi cael ein aiomi a hvny yn yr ochr oreu. Piofa y gerdd'hon fod ei hawdwr yn feistr ar ei laith ac nad yw yn wiw l nebyn y Deheu- dir feddwl ei lorio yn h vwdd ar fassyr arwrgerdd. Mesura y gerdd hon 'y^letua 2,400 o linellau a phan y dywedwn ei bod yn dechreu, canoli, a diweddu yn dda, y mae In ddweyd mawr. Darllenasom hi drwyddi cyn ei gollwng o'n dwylaw mae hyn bron cystal I sicrwydd ei bad yfc meddu ar deil- yigdod uchel. Pe buasai heb fod felly, buasem wedi cysgu cyn darllen ei haner. Mae un elfen hanfodol l wneud cyfansodd- iad bla3us, yn amlwg iawn ynddi, hyny yw, ei ilxthrigrwydd. Oedwir.at y.mesur -yn hynod o ffyddlon; ac m cheir nemawr enghraifft ynddi o gorfanau wedi cicio eu crimoeau Rhagoriaeth amlwg arall ynddi ei hodlau. Cedwir at yr odl moi■ gaeft Jpherffaith a phe buasai ysbryd Dafydd ab Edmwnd with benelin yr awdwr pan yn ei chyfansoddi. Pe buasem am gondemmo ihvwbeth yn y gerdd hon, dywedem nad vdym yn hoffi dull yr awdwr o gano y me^wl o'r naill linell i'r UaU mor ysmala. Er enghraifft :— Heddyw mae y fwyn gyfeillach Sydd rhyngom er ys llawer blwyddyn bellach, Yn cael ei thori, hyd y dyddcawn gwrddyd Ar fryniau gwlad sydd well, heb boen na blrnfyd I'n haflonyddu byth. 'Rwyf fi yn gorphen Fy niwrnod gwaith. Ond mae y ddofn Iorddonen I'w chroesi mae'r orphwysfa addawedig I'w henill; ac mae'r Canaaneaid fiyrmg I'w hymlid ymaith genyt ti, fy anwyl Olynydd, cyn y cai fwynhau dy noswyL Nid yw yr awdwr yn manylu dim ar fywyd boreuol Josua. Dechreua gydag ef pan yn dringo gyda Mosea i ben Nebo; ond yn nes yn mlaen cawn yr awdwr yn gosod Moses l fyned tros ddygwyddiadau boreuol ei oes wrth ei galonogi pan yn canu yn iach iddo, megys ar ymyl y bedd anhysbys." Mae ystlys-ganau y gerdd yn lluosog, a'r cymeriadau sydd ynddi yn ami ac amrywiog, ond mae yr awdwr wedi gofalu fod Josua yn y golwg trwy y cwbl, a phrif bwynt y gerdd —goresgyniad Canaan, yn llinell amlwg t|wy chanol. Wrth ganu ar destyn Ysgrythyrol eang fel hwn, yr oedd perygl mawr i'r bardd ddilyn yr hanes yn rhy gaeth, a thrwy hyny syrthio yn ami i gymydegaeth y rhyddieithol, Ond mae yr awdwr wedi llwyddo i gadw oddiwrth yr amryfusedd hwn trwy dynu llinell uniawn trwy ganol ei destyn, ac yna plethu ei gerdd am dani fel iorwg am y goeden. Mown cyfansoddiad math fel hwn, mae yn anhawdd iawn gwybod o ba le y mae difynu ond i ddangos ychydig o'i theilyng- dod, rhoddwn ychydig enghreifftiau. Caleb yn anerch y bobl wedi i Josua ddyfod yn ol heb Moses i wastadedd Moab Mae'r milwyr grymus A'n liarweiniasant gynt i'n taith flinderus, Yn awr trwy'r anial yn garneddau meirwon, Fel cofgolofnau o'n crwydriadau meithion. Mae Miriam Ion, fu'n arllwys ei cherddoriaeth Fel eos ber ar ddydd ein gwaredigaeth, jfn oer a mud dan gloiau'r glyn anghynes, Gerllaw i'r fan y caed dwfr cynhen Cades,' &c. Y golofn niwl:— Ymlithrai'r golofn dros y gwastad-diroedd, A'i brig gyrhaeddai hyd yn entrych nefoedd; Pob cwmwl arall ddeuai ar ei ymdaith, 1 Ymwasgai 'n wylaidd o'i chyfeiriad yiuaith." Y noson gyntaf heb y golofn dan :— Machludodd teyrn y dydd tuhwnt i'r bryniau, A nos ymdaenodd dros y didref lwythau. Hynotaf nos o nosau 'r deugain mlynedd, Heb golofn dan warcheidiol mewn unigedd: Heb ddim ond awyr las yn toi y gwersvll, A lloer a ser yn canu 'r dyffryn tywyll." Gwahanial yr Iorddonen Dyfnleisiol seiniau'r cenllif ddiflanasaiit, A'r dyfroedd enbyd yn eu dychryn ffoisant; Prysurai rhai i lawr i'r Pyglyn Marw, I fyth ymgladdu yn eigionau hwnw: A dringai ereill dros y creigiog risiau,- Yn ol i chwilio am eu cudd darddellau, &c." Gosod y deuddeg careg yn yr Iorddonen :— Ar sodlau'r olaf reng prysurai deuddeg 0 gryfion wyr bob un a. thromfawr gareg Yn gwyro 1 ysgwydd— careg a galasai 0 waelod yr iselaf gwys dorasai Llifeiriant ami dymorau, i adeilo Yn enw 'i Iwyth gofgolofn i gyfeirio Meddyliau oesau dirif y dyfodol I wel'd y dydd a'r waredigaeth Ddwyfol. Mawlgan y llwythau wedi croesi yr Ior- ddonen I Pa beth a ddarfu it', 0 for, pan giliaist ? Tithau, Iorddonen, pa'm yn ol y troaist ? Paham, fynyddoedd, gwnaech fel hyrddod neidio < A ch^ithau, fryniau, megys Wyn ymbrancio > Tydi, 0 ddaear, ofna rhag yr Arglwydd— Rhag Duw ein tadan, a'n Gwaredwr ebrwydd, Yr hwn a'i drem sy'n troi y graig yn llynoedd, A'r callestr danllyd vn ffynonou dyfroedd. Seithfed dydd" amgylchiad Jericho :— Efory,' Jesel, seithfed dydd' y llwythau, Ddechreuodd droi y gwyll oddiar y bryniau, Cychwynodd Israel oil i'w taith fel arfer, Ond yn fwy ffyddiog yn eu grasol Wiwner, Chwe' tro'n olynol oddiamgylch aethant, Ond muriau Jericho nid ysgogasant Y seithfed dro fesurwyd bron i'w derfyn, Heb eto arwydd llwyddiant. Ond yn sydyn Y torodd llef Josua'r dwfn dawelwch— [iwcb.' Hirllaes fo'r sain. Yn awr, gan floeddio, bloedd- Yna bloeddiasant oil, nes oedd eu crochwaedd Braidd trwy fyddardod prudd y beddau'n cyrhaedd. Y caerau i fyny o'u sylfeini neidient, A'u twrf fel rhu taranau, yniollyugent Yn haen ar ymyl haen i'r ddinas fawrfn, Gan daro fllamiau tan o'u celyd feini. Y miloedd oddiar eu llydain frigau A hyrddient i'w hanagoredig feddau A'r tyrau trymion syrthient ar y gladdfa, Fel bedd-golofnau barn fr wawdlyd dyrfa. Gwasanaethed yr uchod i ddangos ansawdd y gemau a geir yn yr Arwrgerdd hon. Bydded i bawb sydd1 yn hoff o wledd fardd- onol anfon am dani ar unwaith, a rhoddwn ein gair na cha neb ei siomi. Gan nad yw ein cyfaill Gwrhyd eo ond ieuanc, mae genym le cryf i ddysgwyl ei weled yn gwneud gwrhydri eto ar ryw faes arwrol neu gilydd. Ond rhodder iddo gefnogaeth mewn cysyllt- iad &'i ymgyrch gyntaf; os na cha hyn, anogaeth wan a fydd iddo in hanrhegu a cherdd o'r fath eto.

CHWAREU TEG I MR. GLADSTONE.…

TYSTEB LEWYS AFAN.

CYMANFA GERDDOROL GWENT A…

AT MR, JAMES REYNOLDS, CYMLA,…

LLITH "PUBLIC OPINION."

AT MR. R. P. JONES, DILLEDYDD,…

TREFORIS.

Y GENHADAETH GRISTIONOGOL.