Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

--YMFUDIAETH.

News
Cite
Share

YMFUDIAETH. GAN MABON. Y mae yn amlwg bellach i bob meddwl sylwgar mai yr egwyddor lywodraethol, neu y rheol fawr ar ba un yr ymddibyna lies a llwyddiant corfforol y miliynau, ydyw deddf fawr cyflenwad a galwad, fel y mae yn gyn- wysedig at farchnad Ilafur; neu mewn geir- iau ereill, cyfartaliad priodol o nifer y gweith- wyr a'r gwaith i'w wneud-nifer y genauau a'r dwylaw a geisiant waith ac ymborth yn gydmarol a'r drysorfa barotoedig er digom y cyfryw ofynion. Hyn yn ddiau yw sefyllfa pethau mewn gwledydd bir-sefydledig ae aml-boblogedig, yn neilldual yn Mhrydam, yn ystad o leiaf y ganrif bresenol. Bob tro y troseddir y ddeddf, y mae hefyd gyda sicr- wydd diwyro wedi dwyn ei pbenyd. Di- nystrier y cydbwysiad rhwng cyflenwad a galwad a llafur gormodol, ymae dyoddofaint ac angsn yn ganlyniadau anocheladwy. Nid ce3 eithriad na diangfa or caniyniad heb symud yr achos. Nid oes amheuaeth nad dwyn y penyd naturiol i droseddiad y ddeddf hon y mae mwyafrif gweithwyr ein gwlad yn bresenol. Fel enghlafft, wele ein dosbarth ni -,yr glo- wyr. Y mae ein cynyrch glo yn cynyddu blwyddyn aT ol blwyddyn, a hyny gymaint fel y mae yn anmhosibl i alwad iachiis gyd- gynyddu ag af. Cymerwyd i fewn i'n glo- feydd, o'r flwyddyn 1871 i'r flwyddyn 1874, 150,000 o weithwyr. Y cinlymad fa, i'r cydbwysiad gael ei ddinystrio, ac yr ydym oil, hen lowyr a glowyrnewyddion, yn dwyn y penyd. Codwyd y flwyddyn cyn y ddiw- eddaf 3,000.000 o dynelli o lo mwy nag a ddefnyddiwyd; a thra y parhao y sefyllfa 11 f hon ar bethau, nid oes gobaith am ddiangfa. Diau fod rhanau o'r wlad yn troseddu y ddeddf mewn o leiaf ddwy ffordd. Cynvrchir mewn rhai mauau, lie y ceiry faritais fwy na y mae diwsnod teg o waith yn ei gan- iatau. Ond prif ffynonell ein hadfyd yw gor-gynyrch, yn horwydd gorlawnder llaftir- wyr. Felly, os yw em gos,idial yn iawn, a chredwn ei f d, y casgliad naturiol ydyw, nad oes gwiredigaeth o'r drygfyd pressnol heb yn gyntaf gael rhyw gynllun effeithiol i symnd rhelyw llafurwyr diangan presenol i ryw faes arall lie y mae llafuiwyi yn angen- rheidiol, yn fwyaf neillduol i gynyrchu moddion cynaliaeth, ac felly esgor ar ddau beth daionus, sef enill bywioliaeth ac anni- byniaeth iddynt eu hunain, ac ymborth rVpfacb iV ? ar 1. fsdayliei* ein bad yn gosod It) fm J gylasfod drygivJ ■. hyn otcl 'ir^y yaifado credwn loJ ,-hia- wcldiu ..d eu hiawn-arfor, a aymudai acho3 y naill, a'r aogenrheidrwydd am y llall. Ond credwn hefyd, mai moddion i osgoi penydiau deddfau troseddedig fyddii arfetiad rhinweddau, ac nid moddion i'n gwaredu o'r canlyniadau ar ol iddynt dclygwydd. Er, a siarad yn fanwl, na ellir gwidu na fyddai iddynt dueddiaduniongyrchol i wella a gware'du • ond byddai y waredigaeth mor araf, fel y byddai y miloadd dyoddefwyr yn meirw tra yn aros withi Felly, gan y credwn mai dwyn penyd troseddiad y ddeddf fawr yr ydym yn bresenol, ein dyled- swydi yw chwilio allaa am y waredigaeth effeithiolaf i hyrwyddo symudiad buan olr effaithiau tsa ar yr un pryd beidio ag esgeuluso anog ymarferiad neilldnol y rhin- weddau angenrhoidiol er dealt y deddfau, ac osgai eu troseddu yn y dyfodol. Credwn fod angenoctid a thlodi presenol y wlad, sydd yn achosi angenrheidrwydd am sefydliad relief committees, soup kitchens, &c., er cynorthwyo y miloedd dynion sydd yn foddlon gweithio, ond heb waith i'w gael am unrhyw hur, yn pyofi ein gosod- iad, ac yn cadarnhau mai cael rhyw gynllun doeth ac effeithiol i symud rhelyw llafur y wlad hon i ryw wlad arall, lie y gallont gael manteision teg i gynyrchu iddynt eu hunain adnoddau bywyd, fydd yr unig waredigaeth amserol a'r moddion effeithiolaf i liniaru loesion ac effeithiau y prinder ymborth a fydd yn sicr o fodoli hyd nes y byddo y cyd- bwysiad rhwng y "galwad a'r cyflenwad" wedi ei adsefydlu. Felly, y mae ymfudiaoth i wlad or-boblog- edig, yr hyn yw caffell dyogelwch (ssfety valve) i ferwedydd. Tra y mae yr ager ag sydd yn dianc drwy y caffell yn ddangoseg amlwg o-sefyllfa fewnol gynhyrfua y berw- edydd, eto yn rhoddi mantais i'r unrhyw ddianp, yn bytrach nag aros i ddinystrio defnyddioldeb ei breswylfa. Felly hefyd, pan fyddo ymfudiaeth yn d'od yn angen- rheidrwydd ar drigolion unrhyw wlad, ac nid yn codi oddiar eu tueddiadau naturiol, dengys yn amlwg fod sefyllfa fewnol y wlad hono yr hyn na ddylai fod, cyn y byddai miloedd yn wirfoddol alltudio en hunain o wlad eu genedigaeth eto, yn rhoddi agoriad drws dyogel iddynt, yn hytrach nag aros i fVyta bara en gilydd. Modd bynag, y ma9 yn perthyn i ymfud- iaeth, o dan wahanol amgylchiadau, amryw bethau cymeradwyol a chanmoladwy, a byddai i'r neb, mewn ysbryd cariadus, elus- eDGar, a'u gosodai o fewn cyrhaedd y dos- barthiadau pobl nad ydynt yn alluog i wneud hyny eu hunain, yn fendithiol a theilwng o barch. Sylweddola ychwaneg na mawl-gitn y Bardd, oblegyd y mae yn driphlyg fendith- iol-bendithia nid yn unig y pleidiau union- gyrchol a ymadawant, ond hefyd y wlad orlenwedig a ryddheir gan en hymadawiad, yn nghyel wlad yr aent iddi, ac a fyddo mewn angen am eu llafnr. Felly, bydded i bob rhwyddineb gael ei roddi i'r cyfryw anturiaeth ganmoladwy. Eto, na fydded i gwestiwn mawr dadansoddiad diffygion ein sefyllfa gymdeithasol i ymddibynu ar ym- fudiaeth. Dylasai fod ein hathrawiaeth o'r trefniadau fod yn gyflawn, heb osod ein hunain o dan yr angenrheidrwydd beunydd- iol i symud o'r naill wlad i'r llall. [Yr Undeb Ymfudol yn ein nesaf — (ioL.J

LLYTHYR 0 BATAGONIA.

CHW AREU TEG I MR. GLADSTONE.

FY NHAITH I ABERTAWY.

DRIFTON, PENNSYLVANIA.

EISTEDDFOD NADOLIG ABE RT…