Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
"PETHAU DEDDFYDDOL.
PETHAU DEDDFYDDOL. Jttry. Dywedir fod 1.1 unwaith wedi ^t>od mewn penbleth i bsnderfynu ar swm l tldisrolledu dyn oedd wfdt cael mwaid "Wedi dadlen am oriau. rhoddasant bedwar slits o bapyr mewn Yet, ar ba ru yr oedd pedwar swm. 1. Ffyrlin?. 2. Hanercan punt. 3. Pedwar con punt. 4. Milobnnau. Cvtunwyd i'r foreman dynu un o honvnt Allan, ac i hwrw fod v swm yn y verdtct. !Tynodd yntan allan y slip ar ba un yr oeaa ■pedwar can punt. Cvfiawnder, neu an^hyi- j^-nder, trwy ddamwain, bid siwr, oedd y -ttriict.
PETHAU MEDDYGOL.
PETHAU MEDDYGOL. Tei-yqlon Oleifion meum Ysbvtdai(Ho^>ifals). "Dywedy Tancet frd lie i feddwl Bad yw y "feddyginiaeth a orchymvnir ac a bsrotoirgan feddygoh i'w roddi i'r cleifion yn yr hopp^ml, mewn llawer enghraifft, yn cael ei roddi ir cleifion, end yn cael ei daft" ymaith. A Tt>od y bwyd a'r stimulants a ordir gar.ddynt yn cael eu defnyddfo gan ereill. acnid y cleif- ion, y Thai a ddylai eu cael. Y canlyniad o liyn yw, fod y weddygon vn synu yn ami nid yw yr hyn a mddasprit fo\ prescription ddim wedi cael effaith ddysgwyliadwy. Rhydd "fcyn sisiem y nurses yn y clafdai uchod yn un y dylid edrycb ar ei bolau jryd* manyldra. Owneir angliyfiawnder barbaraidd, crenlawn a'r cleifion diamddiffyn. Siomir meddvgon irewn modd sydd yn eu gwnend yn gydmar- o] snalluog i wneud eu g waith yn nsrbolwg y bobJosmeth; a cbamgvmwysir rhoddion trnparedd at gynal v pefydlifldau uchod yn T fath fodd ag i beri iddynt derfynr. cyfrau- ladau dynion heeHonus mewn ffordd o dru- garedd yn y frurf hwn.
-PETHAU YSTADEGOL.
PETHAU YSTADEGOL. JEffeithiau marvxil Alcokol.-Dywed Dr. 'Morton, yn ngwyneb yr hyn a osodir yn Ughyfrifon y cofrestrydd cyffredinol. fod tnarwolaethau o dan ddylanwad alcohol fel y tanlyn Nifer y rhai a fuont feirw i gyd ynNghymru a Lloegr yn y flwyddyn ydynt dros 198,678. Cr rhai hyn, unig achos angau 14,710 o Itonynt oedd alcohol. Acbos rhanolmarwol- fteth 24,577 o rai ereill oedd alcohol. Cyfan- rif rr arwolaethau o herwydd alcohol 39,287. IT mae yr hanes uchod yn y Sanitary Re-.ord.
PETHAU MASNACHOL.
PETHAU MASNACHOL. f Esgidiau.—Rhaid i gryddion a chrefftwyr fneill mewn cysylltiad a lledr edrych ati. Y dae dyn yn Frankfort,'o'r enwHerr Schwahn, p. cyilenwi f wlad ag esgidiau 0 sort newydd. am y rhai y mae efe wedi cael patent. Y mae gwaelodion ei esgidiau ef yn cael eu gwnfjud o bren ffawydd, neu bren collen, •wedi ei ranu ar draws y eanol. Uoir y Thacau gwahanol a chydiad o bren, trwy ba xm y mae gwialen o haiarn yn pasio. Gos- odir darnau o haiarn yn nghyfeiriad hyd y gwadn. Gwneir y gwadnau felly yn ystwytb a hybledig. Tybir y bydd esgidiau o'r fath »ma yn debvg o ddyfod yn gyffiedinol o sevwydd eu bod yn rhadlon, parhaus, ac yn t}da at gadw oerfel a gwlybaniaeth oddiwrtb ytraed. Cedwiry rhanau uchaf o'r esgid 'b yn nghyd A eorews pres. Cuddir gwyneb y crsylltiadau a cht.t o retin i gadw damp aBan
fv PETHAU LLENYDDOL.
fv PETHAU LLENYDDOL. Y mae Messrs Longmans & Co. yn myned i fryhoeddi darlithiau Max Mullet ar the Origin and Growth of Religion. Dangoseg etifeddion am y rhai y mae hys- fcyaiadau wedi cael eu cyhoaddi am 150 o fipiyddau, ac heb eu cael eto. Y mae £ 70,000, OCC yn llys Chancery gogyfer a hwynt. Allen y eyhoeddwr. Enw y llyfr yw "Index to Seirs ct-law. Next of Kin," by Edward 'Preston. L- =
TRECYNON SEMINARY.
TRECYNON SEMINARY. Y mae yn ddywenydd genyf allu hysbysu fod y brodjrieuainc gobeithiol W. Reynolds, Heolyfelin, a D. Howells, Abernant, wedi pasio en harholiadan yn llwyddianus er cael mynediad i goleg y Bedyddwyr yn Maneein- Ion. Y mae fcd wyth wedi myned i'r gwa- tifinol golegau yn ystod y flwyddyn yma o'r jpsgol hon yn llefaru yn uchel am allu a medrvsrwydd y Parch. W. James, B.A., fel atfcTaw. Gobeithio y bydd iddo hir oes i wneud yr un daioni i lawer eto yn y dyfodol. Llwyddiant iddynt yw dymnniad liawer heb DABFAB.
CASTELL MUNROE.
CASTELL MUNROE. MM. GoL. Y mae bechgyn y castell yma Isti fy irhoeni o hyd am ysgrifenu gair neu thiau yn awr ac eilwaith i'r DAEIAN. Felly yr wyf yn cydsynio a'u cais am y tro cyntaf, gar obeitbio bydd y goods a ddanfonir o'r te-t0,!1 yn dderbyniol genych. Un o'r pethau tyntaf a gaiff ein sylw y tro hwn yw cam- 4ajciadau
ARGLWYDD BEACONSFIELD.
ARGLWYDD BEACONSFIELD. Bydd yr hen wr cyn y gwel hyn o linellau fileuni haul wedi byw 73 o flynyddan ar yr lien cdaear yma. Oedranmawr; eto i gyd y mae yn gwneud camsyniadau mawrion yn fwr adol neu yn anfwriadol, nis gallwn ddweyd. Y camsyniad y cyfeiriwn ato yw yr un a wnaeth yn Nhy yr Arglwyddi y nos o'r blaeo, pan yn cyfeirio at iselder masuach yn y wlad hon a gwledydd ereill, sef fod y gwaethaf wedi myned drosodd, a bod lie eryf i obeithio yr adfywia pethau yn faan iawn. Y mae geiriau fel yna yn dyfod oddiwrth awdurdod mor uchel, yn creu "llavrenydd yn ein calcnau. Ond a allwn mi eu coelio ? Wrth edrych ar rfgwedd bre- lIenol y wlad hon a gwledydd ereill, y mae yn aamnosibl eu coelio. Wrth ei ffrwyth f yr adnabyddir y pren." Ffrwythau drwg lawn sydd ar bren mashach y dyddiau pra- eenol-gwaeth, fe ddichon, nag a welwyd •an. neb sydd yn fwy ar y dd*ear yn awr. Kid oes braidd ddiwrnod yn myned heibio teb ein bod yn clywed am fethiant rhyw turiandy neu firm fawr yn rhywle neu gilydd -%cvn wir, y maent yn canlyn eu gilydd mor gyflym, fel nad yw'r wlad yn cael amser i adferyd ei hun ar ol uu ergyd cyn cael y Hall, tjes y maemasnach wedi myned fel pe iredi ei pharlysu. Yr wythnos ddiwedd- ♦f gwelsom mis am vsinding up gweithfeydd «ang Blaenafon. Dywedir foa 5,000 o ddyn- Ion yn cael eu cvflogi ran y C(* mni hyn, a'u fcod yn talu bob wythnos y swm o 4)000p., mft 16s. ar gyfer pob un. Enillion digon i u.riolig ar 1 CJfau. Nid ydym yn gwybod yswm y maeat yn dderbyn i fewn bob "Wythnoaoddiwrthkfury 5,000 hyn. Dywed- ir mai iselder masnach sydd wedi peri i'r ewmni fyned yn fetbdalwyr. Yn ngwyneb pethau fel hyn, a ydyw yn bosibl coelio yr hyn a ddywed ein Prif Weinidog? Sicr yw fod yr arian-feistri, a'r Weinyddiaeth Doriaidd, yn ein harwain i ddyryswehnad yn rhwydd y deuwn o hono, i foddhau eu mympwy, ac i gario allan eu "spirited force- ir g policy i'r llythyren. Hyn yn fyr y tro hv, x6 MUNROE.
Y CRWYS.
Y CRWYS. MASNACH.—Ar ol llawer o fisoedd segur braidd, y mae glowyr y He hwn yn awr yn gweithio yn gyson. Bychain ydyw'r huriau er hyty, ond y mae adfywiad yn amlwg. ETHOLIAD.—Yr lleg cyfisol, cafwyd try- dydd etholiad Bwrdd Ysgol Llanrhydiau Uchaf. Etholwyd y Parch. W D. Williams, (M.C.), Mr. R. Brasydog Roberts, y Parch. J. Ll. Jones, (A.), Mr. Henry Davies, a Mr. Beynon. LLYTHYBAU DiENW.—Y mae y gymydog- aeth dawel ac heddychol hon yn cael ei blino gan rywun neu rywrai yn anfon llythyrau dienw at hwn a'r llall yn achlysurol, ac yn iselhau cymeriadau eu cymydogion yn ddi- achos. Chwareu brwnt yw hyn, a thmeni nas gallesid dyfod o hyd i'r euog er ei gospi hyd eithaf y gyfraith. Gofaler, er hyny, na chyhudder y dieuog. ST CYNGHERDD.- Y mae trigolion y Crwys, fel pobl ereill, yn bwriadu cael gwledd cyn diwedd gwyliau y Nadolig, sef gwledd gerdd- orol y noson olaf yn y flwyddyn hon. Y prif ganwyr fydd Gwilym Cynon, Llew Tawe, ac Ehedydd Glan Tawe, yn cael eu cynorthwyo gan gor y lie, yn cynwys cor o leisiau cymysg -cor o wrywaid a chor o fenywaid. Peth newydd spon yn y, cylchoedd hyn, onide? Carem ofyn i Mr. Seth P. Jones, ysgolfeistr, sef yr arweinydd, ai y cor sydd i gynorthwyo yr artistes, yn ol y rhagdrefn, neu ynte yr aitites sydd i gynorthwyo y cor? Hefyd, onid oes gormod o'r elfen Seisnigaidd yn y rhagdrefn i foddio gwir Gymreigyddion 1 Rhaid maddeu hyn o fai, er hyny, gan y credwn y ceir iawn am dano yn nheilyngdod y canu. Y mae ein dysgwyliadau yn fawr. JBeiddiwn ragddweyd caiff |y canlynol go da: 'The Village Fair,' gan Gwilym Cynon 'I am a Roamer,' gan Llew Tawe; 'Esmerelda,' gan Ehedydd Glan Tawe; Comrades in Arms,' 'Cheer' up Companions,' a 'Rhyfel- gan y MyBcod,' gan y cor gwrywaidd. Mae y cor hwn i'w fawr ganmol am gefnogi talent cymydog, drwy ganu Cydgan y Rhwyfwyr,' gan y cyfansoddwr ieuBDc Gwilym Lon, Pen- clawdd. Da genym hysbysu fod rhagolygon tuhwnt i'r cynredin y ceir cyngherdd gwir deilwng.—G.
. NANTYMOEL.
NANTYMOEL. Cynaliwyd cyfarfodydd baner blynyddol yn eglwys Bethel, yn y lie uchod, dydd Sul, Rhagfyr 15fed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Evans, Pentre, a L. Jones, Tre- herbert. Y dydd Llun canlynol, cynaliwyd cyfarfod er sefydlu y Parch. J. A. Roberts, Pontkey, Ruabon, pryd y gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. Evans, Pentre; J. Jones, Newton Cottage; a W. Davies, Aberkenffig. Cafwyd cyfarfodydd neillduol o dda trwy y dydd. Gobeithio y bydd dyf- odiad a llafur Mr. Roberts i'r ardal, yn cael ei goroni a llwyddiant mawr. DAMWEINIAu.-Fel yr oedd bachgeno'r enw John Ashton, ddydd LIun yr wythnos ddiweddaf, yn gyru gyda haulier yn nglofa Davies a'i Gyf., syrthic.dd o dan y drams, a bu farw yn y man. Cynaliwyd trengholiad ar y corff dydd Iau, a'r ddedfryd oedd marw- olaeth cdamweinioL Dydd Mercher diweddaf, fel yr oedd dyn ieuanc o'r enw Evan Williams yn gweithio yn mhwll Davies a'i Gyf., syrthiodd darn anferth o lo arno, fel y bu rhaid ei gario adref. Nid oedd neb yn meddwl ei fod wedi ei niweidio yn ddrwg iawn, ond er syodod i bawb, hunodd yn yr angau boreu dydd lau. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr erys blynyddau, ac yn un a berchid gan bawb yn yr ardal. Gobeithio y bydd i ddynion ieuainc gymeryd hyn yn rhybudd, canys, Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau." J. D.
ABERAFON.
ABERAFON. Crefaf am ycbydig o ofod yn eich newydd- iadur poblogaidd a ryddgarol, i gofnodi ychydig o hanes hen dref henafol Aberafon. Cynaliwyd, gan eglwys parchus y Tabernacl, wyl de a chyngerdd arddarchog, am y pris resymol o swllt y pen, a bu o chwech 1 saith cant yn malu y bara brith, ac yn drachtio o ffrwyth y ddeilen Indiaidd, a chafodd pawb eu gwala a'n gweddill o dri hyd saith. Yn yr hwyr, am haner wedi saith. cynal- iwyd cyngherdd, pryd yr awd trwy y rhaglen dan arweiniad medrus Mr. Morgan Morgans, Gwarycaeau. Cawsom y pleser o wrando ar Mr. T. Orelius, Lansawel, yn chwareu darn ar yr harmonium. Yr cedd yn dda genym ei weled yn edrych cystal, a chael ar ddeall mai efe yw athraw y. ddau frawd gobeithiol, E. O. Jones, a J. A. Jones, dau fab Mr. G. Jones, relieving officer, AberafoD. Cymerwyd y gadair gan ein parchus weinid- og gynt, Rhydderch ab Morgan, Bethel, Aberdar. Y mae yn ddrwg genym i Ohebydd Aber- afon, mewn papyr arall, ddweyd fod yn dda ganddo weled yr hen weinidog a'i olynydd bwriadedig, sef Mr. Hughes, o Gcleg Caer- fyrddin, yn eistedd gyda'a gilydd. Nid yw yr eglwys wedi meddwl eto am neb; ac y mae hi yn meddwl aros ychydig heb neb. Gallai hyn'wneud.drwg i' Mr. Hughes rhag cael cynyg gan eglwysi ereill. Dylii y Gohebydd, pwy byoag ydyw) fod yn ofalus pm yn anfon i'r wasg. UN YN GWYBOD.
AT Y BEIRDD
AT Y BEIRDD Cyfeiried ein cyfeilion y Beirdd eu holl Gyfansodd- iadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad can- lynol THOS. WILLIAMS (Biynfab), Hencire Farm, Treforest, Pontypridd.
[No title]
Y ToRPEDOR-Diflygiol mewn cynghanedd. HYNODIIWYDD Duw.-Y mae yr odlau yn wallus lawn yn y dam hwn. Mynwch ddysgu oclli yn gelfydd a rheolaidd. CAETHIWED GWEITHWVR CnlRu. — Nid yw y DARIAN yn myned i chwareu second fiddle' i unrhyw Seren.' Heblaw hyny, mae yr odliad yn rhy wallus i ymddangos ar y DARIAN. Nid yw gryno' a nheimlad' na 'gweithwyr' a nheimlad' yn odli a'u gilydd. CLOOHDY LLANGYFELAOH.-Y mae trydydd linell yr englyn cyntaf yn ddiifygiol o synwyr, ac o'r braidd y cynghanedda. HYDKEP.—Drwg genym fod yn y cywydd hwn amryw wallau. Nid iawn yw gosod cynghanedd lusg mewn llinell olaf o gwbl, fel y gwneir yn hwn mewn amryw fanau, megys Yn glaf dan ei law afiach, Lie caled i'r ehedydd, &c. Gwallus hefyd ydynt, A'r fro ehang fawr hyfryd,' Mewn gwg ei bur gorn niTsjngn Hyf harddwch haf orwedda y tir- Daeth eto atalfa. Buasent yn gywirach fel hyn:— Ar wiwfro geinfaws hyfryd Y geinwychjlute fu'n ganu, Arwyddion haf orwedda, neu Y rhuddaur haf orwedda v y tir- Daeth taw ac atalfa. Dymu-NIAD, DYMA'R TELERAU, MARW'R IESu.- Y mae y rhai hyn yn wallus eto 0 ran cynghan- edd :— -gael y act Lie dyoddef yn anwn. Os fy rhyddid a roddaf. —y rhodiai'r Iacliawdwr Ei loes ar y groes heb gau Oedd gris yn lie personau. Da chwi, efrydwch y cynghaneddion. C, Eos TAF YN Ei FEDD.—Mesur anmhriodol iawn i osod allan deimlad hiraethus, tyner, a galarus ddewisasoch. Yr ydych yn ymwneud gormod a'r mesur hwn. Y mae yn rhy arwrol ei ysgog- iadau i ddadblygu teimlad calon ofidus. Y W IWER. Nid yw cynghaneddiad y linell gyntaf yn hollol gywir, o herwydd y w sydd yn y gair goedwid. LLINELLAU COFFADWRIAETHOL AM MISS B. M,— Drwg genym ein bod yn gorfod gwrthod penill- ion'o waith merch, oblegyd dylai Cymru fod yn falch fod ei merched yn dechreu dyfod allan yn gryf i'r maes llenyddol, Un peth yn erbyn y darn hwn yw y rhagymadrodd maith sydd yn blaenori y penillion. Peth arall, mae odliad y llinellau heb fod i fyny â'n rheol. Nid yw 'ad- gofion' a 'gymar' yn cydodli. Ail drefnwch nwynt. Y rhai canlynol i yinddaiigos yii eu tro:—Yr Ysgol Sabbothol, Y Golomen, Egwyddor, Cwympiad Llygaid Gleision fy Megan, Ffrwyth-flodau. Yr ydym yn anfon 'Nadolig' a 'Deigryn ar Fedd Islwyn' i'r swyddfa fel ygellir eu cyhoeddi allan o'u tro.
DEIGRYN AR FEDD ISLWYN.
DEIGRYN AR FEDD ISLWYN. At anwyl fedd ein Hislwyn, Yn nghwnini awen brudd, Dan faich o hiraeth nesu wnafr A deigryn ar fy ngrudd; Yn nghanol dwfn ddystawrwydd Y fynwent melns yw Cael cordio fy ngalarus gerdd A su yr awel wiw. 0! fynwent, nid yw'n rhyfedd Dy fod yn fan mor gu, 0 herwydd yn dy fonwes di Y mae'n gwroniaid ni; Gan it' gymeryd eto Ein Hislwyn fawr o'n plithy Y mae pob dam o'th oeraidd Iwch I ni'n anwylach fyth. Ein Hislwyn wedi marw! O! pwy all ddal yn awr Heb wylo deigryn gloew 0 serch ar fedd y cawr; Ein gwlad mor sydyn goUodd Ei phlentyn hoff 01i chol; Ah! hiraeth oesol erys Yn Nghymru ar ei ol. 0! fedd, os medraist ddeifio Ei eiddil babell ef, Fe saif ei wyrddion geinion Cyhyd a rhos y nef A'i dalent bur argraffodd Ei fri ar len ein gwlad, Na fedr Ilwydni henaint Fyth lygru'i dlysai mad. Cywir awenydd, a Ilyw coronog-, 0 sel i'n hynys, fu'n Hislwyn enwog, Gwiw, nefol duedd y gan flodeuog, Yn gu helaethai a'i ddoniau gwlithog; Ei holl weithau sy'n llwythog—i'r oesau 0 lan feddyliau y nef ddihalog. Cristionogaeth yn ei galar Dywallt firwd o ddagrau serch, Am ysbeilio'i thelyn ddengar 0 aur byrth ei gwleddoedd derdi; Er mor ber y canai yma 'Am y Gwaed an golcha'n Ian, Mil pereiddiach fry'n y wynfa Y gwna seiniol newydd gan. Wrth roi'n Hislwyn fwyn i'w fedd,—ah! gwelwodd Gwalia a'i gogonedd; I fro delaid hyfrydoledd Yr Iesu aeth, pwy leinwl sedd? A'i wisg wen, mewn pur lawenydd,—weithian Mae'r doeth Efengylydd; I fyd aur ffyrdd, iach wlad y dydd, Rhodia gyda'i Waredydd. Clydach. PERLLANce.
Y DIWEDDAR REES W. PRICE (EOS…
Y DIWEDDAR REES W. PRICE (EOS IRFON), DOWLAIS. Hen elyn mawr i ddynoliaeth—yw y Gwael ddarfodedigaeth; Duloes 'nawr i Dowlais wnaeth, Huliodd ein bwrdd ag alaeth. Ein Rhys hoff ddygodd o'i rwysedd-i'r bedd, Oer bau, i fawr waeledd; Diau aeth yn y diwedd I'r glyn oer a gwawJ ein hedd. Och! mae swn ei besychiad,—er fy ngloes, Ar fy nglyw yn wastad; Aros nnvy wna delw Rhys mad Yn nheml ddrylliog fy nheiinlad. Gwr hyfwyn oedd, roes i grefydd—ei ddawn Yn ddoniog iawn beunydd; I'r annoeth bu'n arweinydd, Cywir oedd ef, cawr ei ddydd. Ysgolor oedd 0 ddysg helaeth,—dringai Drwy ingoedd yn odiaeth Risiau dysg, er pob croesau daeth-ar g'oedd I feddu bydoedd o ufydd wybodaeth. Ai briwfwyd mAvy i biyfaid m4n—y bydd Y bucldiol lane eirian ? Ai dan glo fydd y dyn glan Yn hollol o hyn allan! Na, na, rhyw foreu daw'n rhycld i--YS hwylia I'r Gaersalem newydd Einioes hael fyth yno sydd, A gwiwhoen yn dragywyda. Ei enaid yn awr sydd yno,—yn hoew Ei awen ddigwyno; Mwyn a swynawl mae'n seinio Peraidd fawl y freiniawl fro. Aeth ein Rhys ar frys i fro—gogoniaat I gu ganu "Iddo;" Ei iugoedd aeth yn angho', Iach ei hwyl a gwych yw o. Rhys ánwyI, aros enyd,-dof finau I dy fynwes rywbryd; I'r nen glaer; ha! yno'11 glyd Cawn haf bn ac hoen hefyd. Llanelli. AR ELLI.
Advertising
THE ABERDARE Harmonium & Cheffionere Organ WORKS. BY STEAM POWER. '0 :¡;¡ laJ r Er- B. H. PHILLIPS, Harmonium Manufacturer and Inventor of the Cheffionere Organ, WISHES to inform the Public that he ▼ » has sold during the last 10 years, over 1,200 Harmoniums, Pianos, and Cheffionere Organs. Harmoniums from JM 4s. to j680. Cheffionere Organs from JB10 10s. to £ 6.0 Pianos from £16 to ;£66. Hiring System, List of Prices, and Testimonials on application. Not, the Address- 6, CANOtr STREET, and 6 & 7, GADLYB ROAD, ABB&DA&B. ——————————————————. GYHRTJ, DEWCB AT Y cnmol DYMUNA B. II. PHILLIPS HYSBYSU y Cyhoedd ei fod wedi agor yr YSTORFA HELAETHAF yn y Dref o bob math o DDODREFN TAI o wneuthuriad cartrefol, am y prisoedd rhataf. Dymuna hefyd hysbysu ei fod wedi prynu Stoc newydd}a helaeth o DDEFNYDDIAU COFFINAU, 881 Trimmings, am Brisoedd Rbad, a thrwy hyny ØALL WHEUTHUR COKPINAU TH RHAIACH VA NBB YN Y LIM. Cyfefrlad- B. H. PHILLIPS, 5, Canon St., and 6^-7, Gadlys Btl., Aberdare. Steam Works:—High Street, Aherdare. 5 llii = ø= tid p < rA tz o o = COFFINAU BRADI DYItVWA ISAAC THOMAS, UNDERTAKER, 24 a 25, Seymovr Streetf Aberdar, HYSBYSU y oyhoedd ei fod yn parban i gario yn mlaen yr alwedigaeth nchod fel arfer, sef Gwnend Coffinau yn Bhatach na neb yn y Dyvysogaetb, o'r quality goren, yn nghydag ymgymeryd a chladd- edigaethau yn gyfengwbl, sef rhodai gwasanaeth ei HEARSES A MOURNING COACHES YS- BLENYDD- Y QOBEUON YN NGHYMRU. Y mae yn barod i roddi gwasanaeth y cyfryw ye rhatach yn mhob man ag y byddo yn cael y contract o wneud y Cofflnan. Hefyd, y mae wedi dyfod i'r penderfyniad y gall Walio Beddan (Briek Graves) wedi en Mngalchu a'n monrnio yn hardd am y swm isel o 7p. 10a. Y mae Mr. Thomas wedi "irnend 16,000 o goffinan yn ystod y 16 mlynedd a basiodd, yr hyn sydd yn siarad yn achel am ei gymeriad fel Undertaker. CYHOEDDIADAU CYNALAW. YFFRAETHEBTDD: nen Oymborth I Chwer- JL thin: 86f cacgliad o Ff. aetbeban ao Ystorian difyras. Pris, mewn amlen hardd, lie.; lliain, Is. 60. Y I Cymhorth' hwn oymerth o-Di i dir Nad oes bosibl peidio Chwerthin I Wedi r trin tro, tro I'n batal 'Gymhorth' eto.— Wateyn Wyn. All argraffiad, pris 60, yn y ddan nodiant, CMRU, GWLAD EIN TADAU: Can a Chydgan, gyda geir- iau Cymraeg a Seisnaeg. Derbynia y Gan hon gan- moUaeth uchaf ein prif gerddcrioa. Can a Chydgan, pris 4o., HEN WALIA GWLAD Y GAN. Dywed un bardd-gerddor am hon, 'Pa le bynag y clywaf oi ohanu, y mae yn awyno fy ngbalon yn lan.- Y trydjdd argraaad, LLAWENYDD Y GWAN- WYN: Bhan-gan i T.T.B.B., ptis 4c.; Sol-ffa, 2o. Gan Proff. W. A. Williams (Gwilym Gwent).— Y mae y demyn hwn yn un rhagorol at wasanaetb ojngherddau ao eisteddfodau. DEWRION FILWYR IESU: Ymdeitbgan i'r Yagol Sul a'r Band of Hope, gjda geiriau Cymraeg, a Saesonaeg. Gan J. Peters (Alan Alaw.) Pris Ceiniog. Pob archebion i'w hanfon at- D. L. JONES (Cynalaw), Argraffydd a Liyfrwerthydd, Briton Ferry. D.S.—Argreffir pob math 0 waith i»m brisoedd gwir reeymol. TELYN Y CERDDOR," T. S. Ftk, YN cynwys wyth 0 ddarnau newyddion a gwreidd- iot gan D. Henry (Dewi Aman), Tirdeunaw, ger Abertawe. Piis 4o. Yr elw arferelllyfrwerth- wyr. Coflinaa BJaad J CofSnan Bhad!! DYMUNA MB. RICHABD BOWEW, builder ao undertaker, Glaia, ger Clydaob, hys- bysu y cyhoedd ei fod yn parhan I gario yn mlaen yr alwedigaeth uchod fel arter, act gwneud Coffinau yn hynod rad o'r fath oreu, a'i fod yn ymgymeryd ag atendio yr frBffladdau ei hun. Hefyd mae ganddo geffyl a thrap i gyrohu pob coffin pan fydd galw am danynt; ao y mae yn oynwyno ei ddiolchgarwch gwresooaf i'w gyfeillion am en oefnogaeth am gynifer o flynyddan. Hefyd dymuna hysbysu yn garedig el fod yn baroa ar y rhybudd lleiaf i dderbyn archebion (orders) am bob math 0 saerwaith, a fiorha waith da azn y prisoedd rhataf# ilL RICHASD Bowmr, Builder & Undertaker, Glais, Clydach, Swanaea. OYFANSODDIADAU CERDDOROL NEWYDDION GAN DR. JOSEPH CPARRY. Y mae y darnau oanlrnol allan o'r OPERA GYMREIG, 6BLODWEN, 2 Gan DB. JOSEPH PARRY, i'w cael ar wa- han, gyda geiriau Cymraeg a Seianeg. BH» Soprano Songs— 9. 'Un Blodeuglwm o Bleseren,' 33. 'Ol dywed, un awel y nefoedd.'— Blodwen. Contralto Songs. 2. «Syr Hywel, o'r Wyddfa.' 20. 1 'Bwy'n coflor adeg dtledwydd. Lady Maelor. Tenor Songs. 17. Can carwriaethol Syr Hywel i Blodwen, Tra byddo yr Helwyr yn hela.' 38. Syr Hywel's Farewell Song to Blod- wen in the Prison Scene,1 Fy 11100- wen. f' anwyljfd, fy mhob peth I- Syr Hywel. Bass Songs. 4. Beoit. a Air,' Ysprydion y Dewrion a'r Da.'—The Bard. 10. • Yn ngwyneb y Nef.'—The MoDk. 16. Mae Beren ofnadwy yn codibobhwvr. -The Bard. 28. Song (the Bard) and Chorus, Cysur- wch eich Blodwen.' 29. Atthnr's Dying SoDg.'—Arthur. 30. Maa'm mywyd bron a rhedg.-Arthur. 35. Mae seren wedi machlud.'—The Bard. 36. 1 Bu galed iawn y brwydto.'—The Bard. 41. The Prison Scene. Ai dyma'r Gell, Syr Hywel Wan ?'—Bhys Gwynn. Duetts. 5 a 6. Besit. a Duett, 1 0 gartref yr Eryr y daethom ein dau.'—Syr Hywel a Blodwen, S. a T. 13. Cydlawenhawn.'—Arthur ao Elen. S. a B. 17 a 18. Becit. a Duett, 'Hywel, bo' ti'n geisio yma f Syr Hywel a Blodwen. S. a T. 23. War duett, I Mae Cymru'n barod.'—ftor Hywel ao Arthur, T. a B. 25. Partmg duett, 'Ffarwel, Arthur.'— Blodwen ao Hywel, Elen ao Arthur. 39. Mae mil o ysbrydion.'—Lady Maelor er Bardcl, C. a B. Qnartett. 7. 4 'Bwy'n gwybod dy banes.—S.A.T.B. Solo (Soprano) a Chorus. 9. < Un Blodeuglwn.' Solo (Tenor) a Chorus. 14. Ewch at Harri.' Solo (Bass) a Chorus. 28. Cysurwch eioh Blodwen.' Soprano Solo, Qnartett, a Chorus. 31. Dead March, 'Taonwn lfodau ar y plon.' Quartett a Chorus. 40. 1 Cenwoh y Olychau' (Chorus behind the Scenes). Choruses. 8. Shown boor era (Obema lnhlnfl SUe Scenes). S.AT.B. 10. Wedding Walta, 4 Oydfloeddiwn, Oyd- ganwn, Hwre! 15. Hontamen's Chorus,'Talli Ho.' T.T.B.B. (with echo Qoartetts behind the Soenea). 14.. Soldiers Chorus, Mae swn rbyfel yn y gwy t.' T.T.B.B. 'T. Prisoners' Chorus. 40. 'Cenwoh y clyohan' (Chorus behind the Soenes) 42. Grand Finale, Molianwn y Nefoedd,' in fngae with Harlech. S.A.T.B. Full Series, in paper, 5s. Ditto, in cloth 7s. 6d. All orders must be accompanied with payment to- J. PARRY & SON, Aberystwyth. Hiraethgan Genedlaethol. Anthem er oof am y diweddar GOHEBTDD. At wasanaeth eisteddfodau a ohyngherdd- au ein gwlad. Yn y ddwliaith a'r ddau nodiant. Pris 4c. Pedair o Antheman i'r Gynulleidfa. Yn hollol syml ao yn yr hen arddull Gy- mreig. Yn y ddwy iaith a'r ddan nod- iant. Pris 60., neu 2c. yr un. 1. Ar lan Iorddonen ddofn.' 2. Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ao yn ouro.' 3. 1 Mi a godaf ao a af at fy Nhad.' 4. Ysbryd yw Duw.' Telyn yr Ysgol Sol. At wasanaeth yr Yisgol Sabbothol. Y geir- iau gan y Parch. Thomas Levi. Pris— Tonio, 4c.; Hen Nodiant, 6c. ANTHEM GYNULLEIDFAOL AR WAB- EDIGAETH Y GLOWYB: Kolwch yr Arglwydd. Y Drydedd Fil ar Ugain ar Werth.) Yn y Ddau Nodiant. Pris 4c. Requiem Gynulleidfao. Er Oof am y diweddar IEUAJr GWTLLI. ( Yr UgeinfedMlar Werth). Yn y Ddau Nodiant. Pris 4o. Y telerau goreu i lyfrwerthwyr. Pob aroheb, gyda blaen-dAl, at- JOSEPH PARRY & SON, Aberystwyth. BLAENLLECHAU! BLAENLLECHAUil dymuna MORRIS MORRIS, BUILDER AC UNDERTAKER 6, Dyffryn Terrace a Station Terraoc, TrrYBBYSUy oyhoedd ei fod yn barod i ■LL dderbyn archebion (orders) am Goffinan o bob math am y prisiau iselaf yn yr ardil, ao hefyd i ymgymeryd a phob manylion mewn oysylJtiad ag angladdan, megys brioio ? y bedd, gofaln am eloran, Ac. Hefyd y mae yn b.rJd i ymgymeryd a phob math o adeiladwaith a chyweiro tai, Ao, ao yn dymnno talu diolehgaroch gwres- ocaf i'r ardal am y gefnogaeth y mae wedi ei derbyn y blynydaau diweddaf. IBAISAMOFHONEYI -s Gwellhad meivn pum mynyd oddi- wrth Beswch ac Anwyd. OS ydych yn dyoddef nos a dydd oddiwrth beswch poenus, ac o'r braidd yn analluog i siarad, cerdded, neu anadlu, dylech ddefn- yddio WILLIAMS' BALSAM OF HONEY at Bes- wch, hen Anwyd, Byrder Anadl, Crygni, Poeri Gwaed, Croup, Influenza, Darfodedigaeth, &c. Y mae rhagoriaethau neillduol y Balsam yn ei effeithiau iachaol yn rhyddhau cryn- hoad yn y llwnc, yn galluogi y claf i boeri yn rhydd, ac i anadlu gyda rhwyddineb* tra yn gorwedd. Y mae yn gwellhau y doluriau a aeimlir bob amser yn y fynwes oddiwrth beswch parhaus a thrwm, ac wedi ei gymeryd bydd i'r dyoddefydd fwynhau bendithion cwsg esmwyth. Y mae yn rhoi gwaredigaeth lwyr o ddiffyg anadl, a rhyddhad o'r peswch sydd yn ei ganlyn. Rliagpeswch, anwyd, &c.» y mae y feddyginiaeth oreu, yn hawad el gymeryd, ac yn hynod am ei effeithiau iach- aol a buan. I blant yn dyoddef oddiwrth v •PAS, nid oes ei gyffelyb; y mae yn rhodcu gwellhad uniongyrchol. GWELLHAD RHYFEDDOL I BLENTYN. Gwnaeth un botelaid deh Balsam of Honey les mawr i fy mhlentyn chwe' mis oed, yr hwn oedd yn grug o'i enedigaeth, ac yn rhy wan braidd i anadlu. Y mae yn awr yn holl iach. CHARLES MATHEWS. Cwmdows, Colly, near Newbridge. GWELLHAD HYNOD O'R CROUP. Garedig Syr,-Da genyf allu dweyd i'ch Balsam of Honey aclinb bywyd fy mhlentyn, yr hon oedd ar y pryd yn dyoddef oddiwrth y Croup. Cafodd lawer o esmwythder drwy y ddos gyntaf, ac y mae eich meddyginiaeth wedi ei hollol iachau.—Yr eiddoch, &c., Llanelli. JOHN SHIPTON. GWELLHAD PWYSIG O'R PESWCH, HBN ANWYD, A CHRYGNI. Cefais lwyr wellhad o'r doluriau blaenorol trwy gymeryd eich meddyginiaeth werthfawv a rhinweddol, a adnabyddir wrth yr enw 'Williams' Balsam of Honey.' Dywedaf wrth ereill fyddo yn dyoddef felly, 'Dos a gwna yr un modd. Y r eiddoch yn serchog, Trealaw, Rhondda. PARCH. J. EVANS Ar werth mewn costrelau Is. 1ic., a 2s. 9c., gan bob Fferyllydd. Y mae cryn ar- bediad wrth brynu y costrelau mwyaf. Darparedig yn unig gan— D. WILLIAMS, Fferyllydd, GADLYS, ABERDAR, NEWYDD DA I GLEIFION CWM ABERDAR A RHONDDA. Anfona D. Williams, Chemist, Gadlys, Aberdar, ddwfr cleifiion i'w alalysio yn ddyddiol i T. Davies, M.Y.C.S., Conwil, Car- marthen. GOFYNIADAU AR EFENGYL MATTHEW. Yn rhifo dros 8 rail, yn f-nwl ar bob adnod, &0. ATEBION CRYNO I'R GOFYN- IADAU. PRISOEDD, Is. 6e. yr un. Cludiad, 110. yr oa. p Y ddau lyfr i'w csel gan yr airdwr yn unJg, ond am"n Stamps ir e)feiriso bV-D:- W. EDWAKBS, Cwmbaoh, St. Clears, South Wales. 0 7' OLLOWAY-S, 0 1 NTMENT. A Certain Cure for Bronchitis. Diphtheria, Sore Thro«rtv Asthma, &o. For coring sore throat, diphtheria, bronchitis, asthma, tigh'V Bess of the chest, and pain in the side-which instant treattBRUt alone prevents degenerating into more serious maladisk fCO Ointment has the same powers over chest complaints as a HSafeS? possesses, without causing pain or debility. Old asthmatta i&> ▼alids will derive marvellous ease from the use of this Ointmaaty which has brought round many such sufferers and re-establia&al health after every other means had signally failed. Bad Legs, Bad Breasts, Old Sore% and Ulcers. By rubbing the Ointment round the affected parts, It ptn&< trates to the tissues beneath, and exercises a wonderful pome an all the blood flowing to, and returning from, the dinmw part. The inflammation diminishes, the pain becomes 1MB Intolerable, the matter thicker, and a cure is soon effected. 18 all long-standing cases, Hollowav's Pills should also be t.abDe as they will thoroughly expel all depraved humours from the body. Gout, Rheumatism, Stiff Joiz^ Gout and Rheumatism arise from inflammation In the pariti affected. To effect a permanent cure, adopt a cooling diet, &iurf plenty of water, tako six of Ho lloway's Pills night and moraine^ and rub this Ointment most effectually twice &-day into thfl suffering parts; when used sim ultaneously, they drive allln1!ala> mation and depression from the system, subdue and remove d enlargement of the joints, and leave the sinews and xnusclea tag and unoontracted. Eruptions on the Skin. In this class of complaints, no matter-the age, the negu jg che place, or under what name the disease may be claI8UIëiIt"ll will be cured if this Ointment lie well rubbed into the system, and Holloway's Pills taken nijiht and morning to purify the blood. There is nothing deleterious in the composition of Holloway's Ointment, but, on the contrary, its ingredients pooSMC the most soothing, purifying, and strengthening qualities. The Ointment and Pins are sold at Professor HOLLOWXTlf Establishment, <53, Oxford Street, London; also by nearly every respectable Vendor of Medicine throughout thaCTrfHsai World, in Pots and Boxes, at Is. ljd., 2s. 9d., 4s. 8d., lis., 22II.t and 23s. each. The smallest Pot of Ointment contftina ml ounce; and the smallest Box of Pills foar dozen. Full printed directions are affixed to each Pot M<t Boti and can be had in ANY language, even in Turkish, JtfaMo, ANFM^HK — .» EWFILAP. or Ohlnew 11IM-R^V-