Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
TRIOEDD 0 LANSAMLET.
TRIOEDD 0 LANSAMLET. Tri photh yn cael rhy fach o sylw yn y lie: Mudiad y coffinau rhad, y Bwrdd Cymodol, a Chyfraith y Mwngloddiau. Tri pheth yn eisiau yn y lie y Llwynog a gollwyd yn ddisymwtb, tair punt a deg swllt a gollodd Tafarnwr, a mwy o DARIAN Y GWEITHIWR. Tri pheth mae rhai yn eu hofni Gwr y got fenthyg, Inspector of Mines, a'r Llwynog. Tri pheth diflas gan lowyr y Park: clirio Rubbish am ddim, grwgnachrwyddvy gnffers, a Billy Fairplay yn cropo eu trams. Tri pheth gwrthun gan weithwyr y Spel- ters: y mwg tew, gweithio ar y Sabotn, a gostyngiad pris. Tri pheth anhyfryd i'w gweled: cynifer o weithw yr yn segur, gwragedd yn meddwi, a bwmbeiliaid o dy i dy. Tri pheth mae gweithwyr Tan y Sraig yn achwyn arnynt: taflu eu glo yn ol am ddim. gweithio mewn dwfr, a gorfod ton tair tynell o lo mewn chwech modfedd o drweh. Tri pheth anghyfiawn cyflog fechan am weithio 11 galed, cyflogau mawrion am segnr- dod, a'r gaffers yn niger-drivers gormesol Tri pheth y dymunir eu gweled eto yn fuan: Gladstone yn Brif Weinidog, mas- nach yn bywhau, a Disraeli yn Iuddew Crwydrol yn lie bod yn Brif Weinidog. Tri pheth g v'arthus Iuddew yn arwain y wlad I ryfel, saethu at Victoria, a pheidio talti am y DARTAN. Tri pheth yn cynyddu yn gyflym yn • § 'nmru me'hdalwyr, a chylchred- lad TARIAN Y GWEITHIWR. ■p,. ,? enwogion wedi colli eu dylanwad: LMsr.iea, Mabonwyson, a Gwladwr 'Berdar. in pheth yn amlhau yn y lie: Shopian newyddion, gwerth wyr te o dy i dy, a segur- Tri pheth Uuosog yn y lie: Tafarnwyr. Heulanciau, a gormod o gaffers. Tri o enwogion y lie: Doctor pobpeth. apostol Mormonaidd, a M. Rees fel comie singer. Tri am enwogi euhunain m)wn rhyfel- oedd: D:zzi mewn rhyfel a rhyw w!ad, Mabonwyson a beirdd y Bont, a Die Shon Dafydd a Golygwyr y DARIAN. Tri pheth ar derfynu eu hoes: Y flwyddynj gwydd dew yr hen Domas, a'r Gwladwr* cenfigenllyd.—COFNODWB.
Y PARCH. JOHN ELIAS.
Y PARCH. JOHN ELIAS. "I III. Fel aelod o elwys Gristionogol. Ymdrechwch i weithredu heb roddi tram- gwydd i Iuddewon na chenhedloedd, nac i Eglwys Dduw. Byddweh yn ostyng- edig, gwyliadwrus, a heddychol, ac yn garedig tuag at yr holl frawdoliaeth, gan ymegnio i I ddilyn yr Oen' yn mhob peth Edrychwch ar fod eich holl ymddygiad yn* anrhydedd i'r efengyl, gan rodio mewn doethintb tnag aty rhai sydd oddiallan; yn dirion 8C yn ymostyrgar tuag at bob brawd a chwaer, hyd y nod y tlotaf yn y gynull- eidfa. Ymhyfrydweh mewn ymddyddan a'r gwragedd henaf, y rhai sydd yn fwyaf hynod yn eu gras, ddyfnaf yn eu profiad, ac nwchaf yn eu dnwioldeb. Ymdrech- wch i wuend eich cartref yn yr eglwys yn Machynlleth, a gochelwch feio os na bydd pob peth yn cael ei gario yn mlaen yr un ffordd ag yn Bethesda. Gwnewch bob ymdiech, gan eich bod wedi cael eich symud yno yn ol t-efn Rhaglnniaeth, i gymodi eich hnn a'r cyfoewidiad. Os na wnewch hyny, caiff eich ysbryd ei niweidio. Cofiwch fi yn garedig at eich gwr. Y mae fy ngwraig yn dymuno coflo atoch eich dan." Yn y flwyddyn ganlynol, Chwef. 10, 1832, ysgiifenodd Elias y llythyr canlynol at ei ferch ar Ddiwygiad Crefyddol. Y mae y newyddion sydd genyf i'w hanfon yn hyfryd a chysurlawn, yn en- wedig yn yr amseroedd drwg, peryglus hyn; a phan y mae cynifer o newyddion drwg yn dyfod o bob barth o'r byd. Y mae yn dda genyf eich hysbysu fod diwyg- iad mawr iawn yn Nebo, yn agos i Amlwch. Y mae rhagor na 50 wedi cael eu chwanegn at yr eglwJs yno mewn ychydig amser. Y mae y dynion mwyaf annuwiol yn y gymydogaeth wedi cael en dychrynn a'a sobreiddio. Y mae colofnau teyrnas Satan wedi cael eu taflu lawr, a'u chwil- frywio, nid gan yr haint, ond trwy yr efengyl. Yn awr, yn lie y chwerthin a'r siarad ofer yn nghomelau y capel, ochen- eidiau yr edifeiriol, a gruddfanau yr ar- ghoeddedig, a glywir. Ie, y mae ygweddi- au taeraf, mwyaf difrifol, a'r diolchgarwch gwresocaf yn esgyn i'r nefoedd. O! hyfrydaf gyfnewidiad. O! bydded iddo gynyddu ao ymledu *trwy yr holl Dywys- ogaeth. Y mae gwaith gogoneddus gias yn troi pechaduriaid yn myned yn mlaen mewn manan ereill. Chwanegwyd enaid- iau at eglwysi y Pare, Gorslwyd, a Phen- Gorphwysfa, a derbyniwyd llawer yn Bethesda, a rhai yn Llanfechell. Bu gorfoledd mawr nn noswaith yn nhy W. Parry, Llanfechell, pan y pregethodd Mr. W. Roberts, Llanerchymedd yno. Ymun- odd W. Morris ac Ellen, gynt o'r hen siop, a'r eglwys. Y mae diwygiadau nerthol S myned yn mlaen yn sir Gaernarfon, yn any stand wy, Brynengan, a manan eraill. Bydd yn both hynod i G-ymru gael ei ffafrio a gweithrediadau graslawn fel y rhai hyn, yn lie y barnau ofnadwy sydd yn trallodi llawer o wledyd :|y dyddiau hyn. O! bydded i ni hiraethu yn gryfach, ac yn wresocach, am ymweliadan graslawn yr Arglwydd a'n gwlad a*n cymydogaeth- au, ond yn enwedig a'n heneidiau ein hunain. Gobeithio, fy Phoebe anwyl, nad ydych chwi, fy mhlentyn anwyl, yn am- ddifad o'r ymweliadaa hyfryd hyn o'r nef- oedd y dyddiau yma. Bydded i'r Ar- glwydd lefaru wrth eich enaid gwerth- fawr pan yr ydych yn darllen ei air ef, a phan yr ydych yn gwrando pregethiad yr efengyl. Bydded i chwi nesau ato fel Tad trwy waed Crist. Ie, bydded i chwi ddyfod yn hyderus at orseddfaino y gras, i dderbyn gras a thrngaredd, a chymorth cyfam&eiol—eymhorth pan fo ei eisiau, yn ol amgylchiadau ac anghenion, ac yn gyf. amserol; y mae hyny yn ddigon. Nid oes eisiau rhagor. Nid oes dim yn fwy buddiol na chymeryd pob treial a baich at yr Arglwydd, i osod o'i flaen ef eich holl anghysnron, ac i fwrw eich holl ofal arno ef, oblegyd y mae efe yn gofaln am danom yn dra chariadus a thirion. Gallwn, gyda diogelwch, ymddiried iddo efholl faterion ein OJ rft a'n heneidiau, a'n holl ddedwydd- wch am amser a thragwyddoldeb. Da a thosturiol iawn yw efe, a pharod i'n gwrando yn nghylch achosion gwahanol ein gofidiau. Y mae yn abl i ddwyn ein holl feichiau, cyflenwi ein holl anghenion, ao y mae yn ddoeth i'n harwain ni trwy yr anialwch dyrus yn ddyogel i ben ein taith." Mewn llythyr arall at ei ferch, yn mhen oddentn blwyddyn ar ol yr un nohod, dywed Elias, "Y mae pob ystorom sydd yn ein gyru ni yn nes at Dduw, yn dda a buddiol. Ond y mae llwyddiant ao esmwythdra bydol yn gwneud niwed mawr i'r meddwl, os byddant yn peri i ni ymddyeithro oddi- wrth Ddnw. Trwy ymddibynu ar Grist fel pechadnriaia trnenus, ni gawn nerth i gyflawni pob dyledswydd, i gario pob croes, ac i ddyoddef pob oystudd, a bod yn ddiolchgar am dano. Bydd yn dda genyf glywed eich bod wedi cael lleshad trwy bob trallod, fod genych ras i ogoneddn Duw ynddynt, a'ch bod wedi cael eich pnro yn ffwrnes cystudd. Nid yw amser gofid ond byr. Dylai fod ein pryder mwy- af i feddiann gras i fyw yn dduwiol yn y byd. Byddwn yn cael ein galw allan o hono yn fuan." Mewn llythyr arall y flwyddyn ganlynol, wedi i'w ferch symud i Lundain, dywed- odd, « Llawen genyf eich bod mewn sefyllfa fwy cysnrns. Da genyf eich bod wedi cael eich cynorthwyo i edrych fyny at Jjyvoodraethwr mawr y byd. Y mae efe yn dda a doeth. Ni adawa efe y rhai a a ymddiriedant ynddo. Y mae ei lywodr- aeth ar bob peth a phob dygwyddiad. Nid oes dim yn anhawdd i'w wneud gan- ddo ef. Yr wyf yn llawenhau eich bod yn cael pleser with ddarllen y Beibl. Y Beibl yw y pren, sydd, o dan fendith Duw, yn melysn dyfroedd Marah. Y mae y cysur sydd i'w gael yu yr ysgrythyrau yn llawer rhagorach nag un arall. Y mae yn ffynori o lawenydd nad yw yn darfod fel ereill. Ymdrechwch i edrych i fyny at Grist, trwy ddarllen y Beibl, gwrando pregethau, ac mewn gweddi. Rhedweh fel y penaf o bechaduriaid ato ef." Mewn llythyr arall a anfonodd efe yn y flwyddyn ganlynol at ei ferch, wedi iddi gymeryd y sefyllfa o fod yn athrawes Gymraeg i ferch boneddiges, dywedodd, Da genyf i chwi fod gyda Lady Emma. Boneddiges dduwiol iawn yw hi. Ond y mae hi yn gystuddiedig yn awr. Os byddweh yn parhau i fyned ati, gobeithio y cewch lawer o ddoethineb i ymddwyn yn ostyngedig a pharchns tnag ati hi, a'i thealu ienanc. Os bydd Lidy Emma yn dneddol i ymddyddan a chwi am beth- au crefydd, gadewch iddi gael y blaen bob amser. Gellwch ddweyd gair weithiau gyda gwylder a pharohedig ofn. Os bydd- weh chwi yn parhan i ymweled a hi, bydd yn bosibl i chwi, yn raddol, ddweyd ychydig yn rhagor, os bydd hi yn rhoddi anogaeth i chwi. Gofalwch beidio dweyd dim fyddo yn tueddu i ddyrchafu plaid ond ameanweh ddyrchafu Crist." Mewn lljthyr arall yn y flwyddyn gan- lynol, dywedottd Y mae llawer o fy hen gyfeillion wedi cael en symud y flwyddyn hon o'r byd. Mrs. Haghes, Bangor; Mr. Roberts, Taner; Mr. G. Owen, Caergybi; a Mrs. Griffiths, Penybont, Llangefni. Yr oedd profion cryf yn eu marwolaethau, yn gystal ag yn eu bywyd, fod en crefydd yn dda, ac o ganlyniad fod marw yn elw iddynt. Dedwydd iawn yw bod yn barod i ymadael; fod ein serch ar y pethau sydd uchod, a'n hymarweddiad yn y nefoedd. Mor wynfydedig yw meddwl yn y fathag- wedd. Fel hyn y gallwn fyned trwy y byd yn fwy oysurns. Dylai fod ein sylw a'n llafur penaf i feddn nerth i fyw yn fwy duwiol, dilyn Criat yn fwy llwyr, ac amcanu yn fwy at ogoneddu Duw yn mhob peth. Nid oes dim yn fwy angenrbeidiol a gwerthfawr na hyn. Nid oes genyf lawer i'w ddweyd am lwyddiant crefydd yn y wlad hon, (sef sir Fon). Y mae profiadau Cristionogion i raddau yn isel a thlawd, ao y mae yr eg- lwysi yn ddioglyd a marw. Eto nid oes dim yn allanol yn anghysnrus na gwarad- wyddus. Y mae undeb a brawdgarwch yn ein plith ni. Da genyf eich bod yn parhau i fyned at Miss Pennant, a bod Lady Emma Pen- nant yn well. Yr wyf yn meddwl y gellir ei galw hi, fel yr enwodd loan un yn ei amser ef, *yr etholedig arglwyddes.' Os gwelwch chwi J. Jones, y Llyfr- werthwr. dywedwch wrtho fy mod wedi cael fy siomi heddyw, fel y oefais lawer dydd Sadwrn o'r blaen, gan na dderbyn- iais y papyr newydd-y Record. Y mae yn fwy o siomedigaeth ddydd Sadwrn nag un dydd arall, oblegyd ty mod eisien ei weled cyn cychwyn ar fy nhaith oddicar- tref i bregethu." > Papyr y blaid Efengylaidd yn Eglwys Loegr yw y Record. Yr oedd gan Elias lawer iawn o barch i'r blaid hono yr yr Eglwys, o herwydd ei Phrotestaniaeth brwdfrydig. Ni roddodd efe ystyiiaeth i egwyddor y cysylltiad rhwng yr Eglwys a'r wladwriaeth, fel nn owbl anghyson a hanfod Protestaniaeth, sef fod pob dyn i addoli Duw yn ol ei gydwybod personol ei hun, ac nid yn ol gorohymynion dynion trwy gefnogaeth cyfraith gwlad. Yr oedd Elias wedi caeleilyncn i fyny gymaint gan faterion crefyddol, fel na chymerodd amser na phwyll, i ystyried y modd y mae Eglwys Sefydledig, mewn egwyddor, yn gwbl anghyson a'r egwyddor Brotestan- aidd yn nghylch hawl dyn i farnn drosto ei hun' ar faterion crefyddol rhyngddo a DIlW, mewn modd nad oes gan gyfraith gwlad nn hawl i ymyraeth agef yn hyny.
BARDDONIAETH Y CYMRY.
BARDDONIAETH Y CYMRY. "Paradwys y bardd," "Hoff drigfanau y prydydd," a Nef plant yr awen" ydyut rai o'r cymeriadau cyntaf ar ddalenau fy nghof, yn mha rai y mawrygwn, yr adnabyddwn, ac yr haner addolwn "Hen Walia fy Ngwlad," ac yr oedd gwrandaw ar furmur miwsigol ei rhuthrol raiadrau, syllu ar fawredd rhamant- us ei thalfrig fynyddau, a theithio ar hyd llawrleni melfedaidd ei harddwisgawl ddy- ffrynoedd,-i gyd yn peri fod y syniad uchel oedd genyf am dani yn tyfu gyda'm tyfiant, a chryfhau gyda'm cryfder. O'r braidd y darllenwn yr un newyddiadur, y mynychwn yr un cyfarfod llenyddol, nac y gwrandawn ar unrhyw araeth neu ddarlith yn un man rhwng ei broydd a'i bryniau, nad oedd rhyw frawddeg, rhyw gan, neu ryw sylw newydd ynddynt a fuasai yn mawrhau y syniad fod' Tylodi a phrinder yn well gyda Chymru Na llawnder y byd ari ogoniant oil hebddi.' Ond er nad yw y syniad yna am Gymru, Cymry, a Chymraeg ddim wedi derbyn nn- rhyw gollfarniad o herwydd ei fod yn anghy- wir er pan ei Surnwyd, eto y mae wedi gor- fodgostwng ei ben lawergwaith panlyn rhodio meusyddj ar y rhai yr oedd yn ymwylltu am gyhoeddi barddoniaeth y Cymry yn specimen o flaenffrwyth yr awen; ond nis beiddiai a hyny nid am nas gallai, ond am fod gwerth- fawredd gwisg barddoniaeth Gymreig yn an- adnabyddus i rhan fwyaf ond i'r Cymry eu hunain. Lawer gwaitn y bum yn gofyn mewn sjmdod prudd a hiraethlawn paham na < chaem weled rhai o hen gewri barddonol y j Cymry yn cael feu rhestri weithiau yn mhlith < prif feirdd y byd. Nid am nad ydynt wedi i cyfansoddi caniadau a ddeil gydmaviaeth a'r i farddoniaeth aruchelaf oeiddo unrhyw fardd, ] ond o herwydd fod y darnau hyny wedi gorfod aros ar hyd y blynyiddoedd yn anghyf- ieithedig, ac felly yn anadnabyddus i'r byd. Y mae yn wir fod Gododin," Canwyll y Cymry," il Cantre y Gwaelod," &c., i'w cael mewn gwisg Seisneg, ac fod eu cyhoeddiad wedi cyfodi syniad y byd yn uwch am deil- yngdod barddoniaeth y Cymry nag y bu erioed o'rblaen. Ond eto, credwn fod darn- au rhagorol a fedd yr iaith yn gyfryw ar ms gellir byth canfod eu teilyugdod mewn un gwisg ond yn eu gwisg Gymraag, o herwydd eu bod wedi cael eu cyfansoddi ary "mesurau caethion." Y mae llawer wedi cynyg cyf- ieithu Cywydd y Farn," ond yr oil wedi troi yn fethiant yn yr ystyr o wneud chwareu teg a gwir arucheledd y darn. Yr un peth ellir ei ddweyd am bob cywydd neu awdl ragorol arall. Onid yw hyn yn peii i ni waeddi brysied y dydd pan yn darllen y llin- ellau canlynol o eiddo Isl wyn Fe enir bardd rhyw ddydd a wawdia ddeddfau, A limia'r gan yn ol rhyw ddwyfol reddfauj Maluria Babilon y cynghaneddion, A'i anghydlllarolIwydd ddilea ddeddfau caeth- ion." Hefyd credaf fod gwyleidd dra y Cymry yn un rheswm neillduol na byddai eu beirdd yn fwy byd-adnabyddus. Y maent, rywfodd, fel pe nas gwaeth ganddynt i neb gael gwybod eu bod yn feirdd heblaw eu cenedl eu hunain. Beth pe byddai rhai o honynt yn cymeryd calon a rhoddi Gweinidog Crist," "Caniadau Islwyn," "Y Dydd Hwnw," &c., &c., mewn diwyg Seisneg, mentraf ddweyd y byddai brawddegau fel y canlynol yn britho y reviews Seisneg yn llawer amlach nag ydynt yn bresenol:— "The buoyant and elastic temper of the Frenchttrouveur is:spiritualized in the Welsh singers by a more refined poetic feeling.' II Everywhere here is an Oriental profusion of gorgeous imagery, but the gorgeousness is seldom oppressive. The sensibility of the Celtic temper, so quick to perceive beauty, so eager in its thirst for life, its emotions, its adventures, its sorrows, its joys is tempered by a passionate melan- choly that expresses its revolt against the impossible, by an instinct of what is noble, by a sentiment that discovers the weird charm of nature. Some graceful play of pure fancy, some tender note of feeling, some magical touch of beauty, relieves its worse extravagances." Pe buasai pawb fel y Cymry, ychydigiawn fuasai heddyw yn gwybod am yr'^neid, yr Iliad, y Divina Comedia, Jerusalem, ac ereill.^ A phe buasai y Cymry fel ereill, buasai enwau rhai o'u beirdd hwythau mor adnabyddus a Homer,IDante, Tasso, Milton, &c. Wel, ynte, pa hyd y mae pethau i aros yn eu dull presenol? A yw y "mesurau caethion byth i fod yn guddlen dros fardd- oniaeth' y Cymry 2 A yw y Saeson i gael parhau yn eu rhyddid i'n galw yn "Ballad- mongers heb fod neb yn rhoddi rhwystr o brawf anwrthwynebol ar eu ffordd i'w har- gyhoeddi o'u ffolineb f Neu ynte, a oes yna ddim rhywrai a deuparth o ysbryd Ab Ithel, T. J. Llewelyn Pritchard, Taliesin Williams, &c., yn ein plith, a holl awyddf ryd eu henaid i gyfodi y Cymry a'u barddoniaeth i'r safle uchel y mae eu talentau yn eu teilyngu i sefyll arni yn ngolwg y byd ? Neuadd-y Meudwy. ELWYN.
CHWAREU TEG I MR. GLADSTONE.
CHWAREU TEG I MR. GLADSTONE. EETHYOL III. Nid oes dim yn fwy cyffredin na'r 'cyfeil- iornad rhesymegol fod rhyw ragoriaeth mewn dyn yn sicrhau fed pob rhagoriaeth pwysig arall yn perthyn iddo. Y mae pob awdwr ar resymeg (logic), yn dangos hyn. Ac y mae yn ddigon amlwg i bob dyn a roddo ystyriaeth resymol ar waith. Gwyr pob bardd, fel enghraiffit, y gall dyn fod ya ysgol- haig clagurol, mesuionol, ac athronyddol, heb ei fod yn meddu mwy o allu i wneud ecglyn na phe byddai yn bagan. Gwyr pawb hefyd y gall dyn wneud englyn, awdl, neu ryw beth arall, fel bardd, yn gampus, heb ei fod yn gwybod mwy am Euclid na thwrch daear. Felly y dylem ystyried y gwirionedd yn nghylch Mr. Gladstone, neu unrhyw ddyn arall. Y mae pawb yn gwybod nad oes un areith- iwr i'w gystacttu ag ef yn yr holl fyd, a chy- meryd i ystyriaeth bob elfen hanfodol mewn araeth, igynyrchu argyhoeddiad' yn neall pob dyn c feddwl gwrteithiedig. O'r ochr arall, nid oes nob a'i hystyria yn ben areith- iwr, hyd yn > od yn y wlad hon, yn ol safon deddfau swynion areithyddiaeth, fel celfydd- yd ar ei pben ei hun. Yn hyny y mae Mr. Bright yn uwch nag ef o lawer, a diau fod Gambetta yn Ffrainc, a Castelar yn Spain, yn uwch tiag ef. Ynfyd yr ystyrid y dyn hwnw a sathrai dan ei draed holl ddeddfau v gelfyddydareithyddol ermwyn gogoneddu Mr. Gladstone. Yn mhellacb, nid oes neb ar wyneb daear ynawr wedi dangos cymaint o allu a medr a Mr. Gladstoue i feistroli manylion busnes arianol teyrnas, er mwyn lleihau pwysau trethoedd ar y boblogaeth, ac er mwyn symud oddiar y ffordd bob peth a allai rwystro llwyddiant masnach. Ac yr ydym yn Uwyr [gredu pe byddai Mr. Glad- stone yn cael ei osod yn Brif Weinidog yfory, y symudid yr hunllef trwm sydd ar fasnach cyn pen mis, i raddau anhygoel. Cofied Rhyddfrydwyr hyn, nad yw y ffaith hwn i'w briodoli gymaint i unrhyw blaid boliticaidd, fel y cyfryw. Pan yr oedd y Whigiaid mewn awdurdod dros ddeugain mlynedd yn ol. yr oeddynt yn bonglera materion arianol y deyrnas nes dyfetha ymddiried masnachwyr. Byddai gwaith Syr Robe it Peel yn ymaflyd yn awenau y llywodraeth, yn creu ymddiried trwy y wlad, a roddai fywyd mewn masnach. Disgybl i Peel yw Gladstone. Ond yr oedd y ddau y pryd hwnw yn perthyn i'r blaid Doriaidd O dan ddylanwad Cobden, Bright, ac ereill, mewn cysylltiad a deddfau yr yd, y daeth cynhildeb yn egwyddor fawr Kyddfrydol. Yr oedd y Whigiaid a'r Tori- aid yn eu herbyn hwy ar y dechreu. Ni chawsant fwy o sarhad gan neb na chan Palneraton, un o wroniaid y Reform Bill yn 1832. Ond argyhoeddwyd pawb mai hwy oedd yn iawn cyn 1850, oddeithr rhyw ychydig o Doriaid penboeth a arweiniwyd gan Disraeli. Mewn cysylltiad a'r chwil- droad yn achos deddfau yr yd, y newidiodd Gladstone ei ochr, ac y daeth yn Rhyddfryd- wr. Gan fod yr hen Whigiaid yn Eglwys- wyr selog, nid oedd eisieu i Gladstone newid iim ar ei olygiadau Eglwysyddol i ymuno a iwynt, fel y blaid Ryddfrydol. Befyllfa o )ddefiad oead sefyllfa grefyadol Ymdeilldu- vy* o dan nawdd y Whigiaid, mor bell a hyn, iad oeddynt i wneud dim i niweidio yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yr Ymneilldu- wyr yn ddiolchgar am yr ychydig friwsioa a syrthiai iddynt oddiar fwrdd yr arglwyddi Whigaidd. Digiodd y Whigs yn ddirfawr wrth yr Ymneillduwyr am beidio canmol eu mesur addysg hwy ddeugain mlynedd yn ol, er fod y mesur hwnw, mewn arian ac egwydd or, yn rhoddi y lion's share i'r Eglwys Sefydl- edig. Gwrthwynebwyd y cynllun yn egniol gan Ymneillduwyr yn gyffredinol trwy y deyrnas, er mai cynllun y Weinyddiaeth Rhyddfrydol oedd, am fod y cynllun yn sathru egwyddor rhyddid cydwybod mewn crefydd. Y mae gwybodaeth am bethau fel hyn yn dyfiant graddol blynyddoedd o sylw, ac ym- chwiliad i egwyddorion, a dylanwad mesurau ar egwyddorion, y rhai nas gellir eu hystyr- ied yn ail i ddim sydd mewn cymdeithas. Nid yw dyn sydd wedi dechreu agor ei lygaid ar bethau ychydig flynyddau yn ol, yn feim- iad cymwys ar fater y mae ei wrthwynebydd yn ei wybod fel A B C trwy brofiad a sylw, am dros ddeng mlynedd ar hugain. Un o wallau a llygredigaethau yr oes hon, yw honiadaeth dynion i eistedd mewn barn ar faterion, yn nghylch pa rai y mae eu gwyb- odaeth cydmarol yn fabanaidd ac yn gwbl anmherffaith. Yr oedd Ymneillduwyr yn barod i gyd- nabod y gwasanaeth mawr a wnaeth Lord Russell iddynt, ond pan y cynlluniodd efe fesur addysg, yr hwn nas gallent eu gymer- adwyo, heb wadu eu crefydd, gwrthwyneb- asant ef. Ac y mae pob dyn hyddysg 3m hanes boliticaidd y wlad hon yn gwybod hyny. Y canlyniad ymresymiadol yw hyn,—cyn y gellir edrych ar Ryddfrydigrwydd gwladol yn unig fel pob peth, ac egwyddorion cyd- wybod grefyddol yn ddim, rhaid i Ymneill- duwyr daflu eu crefydd i'r domen, a bod yn ddisgyblion ufydd, slafaidd, i Ryddfrydiaeth bolitical ddigrefydd, neu droi yn Eglwyswyr selog fel Mr. Gladstone. Rhagrith yw bod yn Ymneillduwr, a thaflu egwyddor hanfod- ol Ymneill duaeth i'r domen er mwyn un aaigafwyd" a eftir gael gan Ryddfrydwr sydd yn Eglwyswr i'r back-lone. Y mae yr holl ymresymiad yn troi ar y gwerth cydmarol a rydd dyn ar y tipyn crefydd sydd ganddo fel Ymneillduwr. Os gesyd efe werth enaid anfarwol mewn cysyllt- iad a'i ryddid i fwynhau breintiau cretyddol ac i gyfiawni dyledswyddau crefyddol—per- sonol a chymdeithasol—nis gall edrych ar Ryddfrydiaeth wladwriaethol yn unig, pe byddai Gabriel yn ei reoli, yn ddim mwy na gwegi mewn cydmariaeth i'w ryddid crefydd- ol. Os mater capel yn unig yw ei grefydd ef, nid rhyfedd iddo ei gwerthu hi er mwyn sicrhau manteision gwladwriaethol. Heblaw hyny, y mae y cwestiwn yn y wedd hon yn myned yn llawer dyfnach na'r ddadl pa un a wrthwynebwydMr. Gladstone, "yn enwedig gan yr Ymneillduwyr," yn 1870, o herwydd y Mesur Addysg, ai peidio. Y mae yn disgyn lawr i haeddianany Mesur ei hun, a'i famu wrth safon egwyddor rhydd- id cydwybod, fel y mae yn gyson a Phrotest- aniaeth Ymneillduol. Yn gyson a'r mesur hwn, ac ar ei awdurdod ef y mae arian y wlad yn awr yn cael eu rhoddi at addysgu crefyddau gwahanol y deyrnas. Y mae y rhan fwyaf o'r canoedd byrddau ysgol yn y deyrnas yn dysgu crefydd yn yr ysgolion dan eu gofal ar draul cyllid y deyrnas, ac ar .draal trethi y plwyfau. Fel y dywedwyd flynyddau yn ol, ehurch rate y w > school rate ynlQhots plwyf yn mha un y dysgir crefydd o dan awdurdod y Bwrdd Yagol. Ao os yw yn -fewn i dalu arian y dreth blwyfol a Y I" threth y wlad at ddysgu crefydd yn yr ysgol, y mae yn iawn talu y degwm at ddysgu crefydd yn Eglwys Lloegr. Nid yw fod Ymneillduwyr yn cael share o arian y wlad o dan y Bwrdd Ysgol, yn gwneud un gronyn 0 wahaniaeth yn y ddadl, oblegyd os yw yn groes i egwyddorion rhyddid cydwybod, fod Presbyteriad yn cael ei orfodi i dalu at ledu Esgobyddiaeth yn y degwm, y mae hefyd yn groes i Bresbyteriad orfodi Esgobyddwr i dalu treth blwyfol neu wladol at ledu Presbyter- iaeth, neu unrhyw aeth arall. Nid yw chwaith yn gwella dim ar y pwnc mai ychydig o grefydd a ddysgir yn yr yegol. Os yw hi mor Ueied peth fel nad oes prin ei lliw hi yn yr addysg, nid yw yn weith i'r blaid sydd am dani i ymladd drosti. Ni byddai dyn selog am ymborth da crefydd, ya selog hefyd am lasdwr o dan ei henw hi. Ond os yw crefydd yn werth talu am ei dysgu hi, rhaid iddi fod yn meddu athraw- iaethau pendant y rhai a'i rhoddant hi yn yr ysgol. A chan fod athrawiaethau pendant un blaid yn heresiau yn ngolwg y blaid arall, nis gall beidio bod yn ormes ar gydwybod y dyn a orfodir i dalu at yr hyn a dybia efe yn heresi dinystriol i eneidiau. Gan ei fod dan rwymau i wneud ei oreu i symud gwen- wyn y fath heresiau o'r wlad, nis gall gytuno a deddf a gyfreithlona ledaeniad y fath heresiau ar draul y wlad. Ond deddf o'r fath yw deddf addysg Mr. Gladstone, yn ei gweithrediadau yn awr1. Y mae y Bye-laws mewn cysylltiad a compulsory attendance yn gorfedi dynion i anfon eu plant i ysgolion lie y dysgir hwynt i fod yn Babyddion Ac os bydd digon o le i blant yr ardal yn ysgol y Pabyddion, ni chaniata y llywodraeth i'r plwyfolion adeiladu ysgoldy i blant y Protestaniaid, yn unig am mai plant Protest- aniaid ydynt. Y mae hyn wedi cael ei brofi. Wrth edrych i mewn i angen adeiladau cyf- artal i nifer y plant mewn ardal yn swydd Fynwy, cyfeiriodd y IIlywodraeth at y lie oedd i'w gael yn ysgol y Pabyddion, ac ni chaniataodd le yn yr ysgoldy newydd, ond yn ol yr hyn oedd eisieu tu hwnt i'r nifer a gynwysai ysgoldy y Pabyddion. Buasai hyn o'r goreu pe na buasai unrhyw grefydd yn cael ei dyegu yn yr ysgolion a dderbyniant arian y llywodraeth, ond gan fod Gladstone trwy help y Toriaid wedi gwneud y gyfraith fel y mae hi dysgir pob math o grefydd ar draul y wlad. Ac 03 nad yw Ymneillduwyr yn gwrthod egwyddor y fath gyfraith, y maent yn gwadu eu hegwyddorion pr ffesed- ig eu htinain, ac yn pleidio system sydd yn sicr o fod yn felldith, mewn yótyr grefyddoi, i'r oes sydd yn cyfodi. Lie y mae Ymneill- duwyr, fel yn Bedwellty, yn y Bwrdd Ysgol, wedi llwyddo i gadw crefydd allan or addysg ar draul y dreth, y maent Wedl. gwneud yr hyn a allant i wrthweithio drygioni y gyf- raith. Ond y mae y Pabyddion yn derbyn arian y llywodraeth at eu hysgolion hwy yn y plwyf. A phe bae gorfodaethi wneud i'r plant fyned i r yegolion wedi cael ei osod ar droed, byddai yr orfodaeth hyny yn gyru plant y Pabyddion i gael en gwenwyno gan Babyddiaetn yn yr ysgolion. Heb 1 hyny fod, gallent fod dan ryw ddylanwad 1 rwystro rhai 9 honynt i gael en gwenwyno. Yn ngwyneb yr ymresymiad uchod, y mae yn eithaf amlwg y dylasai yr Ymneillduwyr wrthwynebu Gladstone yn 1870. A chin nad yw efe wedi newid ei olygiadau gyda golwg ar yr hyn a wnaeth y pryd hwnw, yr ydym yn dweyd yn ddibetrus fod golygiadau crefyddol Mr. Gladstone fel Gwleidiadwr, yn gwbl wrthwynebol i hawliau cydwybo 1au deiliiid y llywodraeth, ac felly yn fwy peryglus gan' myrddiwn o weithiau i ddyn- lon, fel dynion anfarwol yn eu eyfrifoldeb i Dduw, La dim afiunieiddweh politicaidd daearol a ddichon fod. Os yw ein cyfaill gwrthwynebol yn edrych ar grefydd, a hawl- iau eydwybod grefyddol, fel gwegi; yn y clorianau, mewn cydmariaeth i ragoriaethau politicaidd Gladstone, mewn pethau tymhor- ol, yr ydym yn dymuno pe:dio cael ein temtio byth i edrych ar grefydd yn beth mor ysgafn ag efe. Ond gyda golwg ar wrthwynebiad Ym- neillduwyr i Mr. Gladstone o herwydd y Mesut Addysg yn 1870, y mae profion o hyny genym yn ddigon i lanw llawer o golofnau y DARIAN. Y mae yr ymresymiad yn yr erthygl hon wedi myned a gormod o ofod i ni roddi profion ychwanegol yr wyth- nos hon. Ceisiwn eu rhoddi yr wythnos nesaf.
BRIWFWYD Y GWYDDON.
BRIWFWYD Y GWYDDON. Yr ydym yn ami yn ffeindio y pethau yr ydym yn ofni fwyaf, a'r lleiaf o berygl ynddynt. Y mae hapusrwydd yn ami wrth ein hochr, ac yr ydym yn pasio heibio iddo yn ddisylw. Y mae anffodion yny pellder, acyrydym yn rhuthre i'w cyfarfod. Nid oes ond ychydig o ddynion, os oes un- rhyw un, yn caru drygioni o'i ran ei hunan, ond yn hytrach am y difyr wch amserol a geir ynddo. Nid ydyw y dyn hwnw yn deilwng o'r enw bardd, yr hwn na fuasai yn well ganddo i'w waith gael ei ddarllen gant o weithiau gan yr un darllenydd, nac unwaith gan gant. Cyfrinachau nas gallwn gadw ein hunain, nid ydynt o dclim gwerth i ereill idd eu cadw. Nid ydyw yr hwn nad ywyn boddhau neb yn wrthddrych cymaint o dosturi a'r hwn nas gall neb ei foddhau. Plant rhybuddiol sydd fel pob peth byw- iog arall,—yn fuan drosodd. Er i ddyn ddyfod yn ddysgedig trwy ddysgeidiaeth un arall, nis gall byth fod yn ddoeth ond trwy ei wybodaeth ei hun. Yr ydym yn ami yn cymyegu rhinwedd a chrefydd. Fe all ddyn feddianu y ddau, ag fe all feddianu y naill heb y llall. Y mae dynion tal yn hoff iawn o fenywod byrion faint bynag o wyr sydd yn hyny, y mae yn ffaith mai anaml iawn y ceir meny woa yn hoff o ddynion byr—o arian. Y mae newydd da iddynolryw mor angen- rheidiol ag anadlu awyr pur. Y mae cariad yn ymyfrydu mewn pethau bychain arddangosir ef yn fwyaf eglur yn y gweithredoedd bychain hyny o garedig- rwydd sydd yn ffurfio llawenydd bywyd. Y mae yn well goddef na byw mewn ofn, oblegyd y mae terfyniad i ddyoddefaint, ac nid oes i ofn. Hapns y w y dyn ag y mae ei amgylchiad- au yn ateb i'w dymer, ond mwy ffodus yw y dyn a all gyfateb ei dymer i unrhyw am- gylchiadau. Nid oes amser yn mywyd un dyn pryd y bydd yn ddyogel i fod yn esgeulus; ond yn ol fy mam i y mae yn well cadw un llygad yn naner agored hyd vn ncd 5m ein cwsg. Y mae Uafurio a bod yn foddlawnar yr hyn sydd gan ddyn, yn dwytl iddo fywjd dedwydd. Gormod o lwyddiant a wna i ddyn anghof- io ei fod yn farwoL Cyfeiliornu a ddengys y dynol, oncJ. maddau y dwyfol. Y mae cariad yn gystal a rinwedd yn meddu y fantais hon, sef gallu ein gwobr- wyo am bob &berth a wnawn erddynt. Y mae dyn doeth yn fwy penodol o ba nod y bydd ei gyfeillion, nag o ba nifer. Pe byddai i'r rhai hyny oil nad ydynt yn cyrhaedd eu dymuniadau farw o siomedig- aeth, pwy a fyddai bywar y ddaear ? Byddweh ddiolchgar, a chwi a fyddwch yn ddedwydd. Y mae y ffordd i ddinvstr bob amser 3m cael ei chadw mewn sefyllfa dda, ac y mae y teithwyr ar hyd-ddi yn talu y draul. Botas din ydyw y peth mwyaf dideimlad a hwn i am dano. Ni allwn gyd-ddyoddef ag ereill yn eu trallod mewn gwell bias nag y gallwn lawen- hau gyda hwynt yn eu llwyddiant bydoL Ond i chwi groesholi yn fanwl y rhai sydd yn ffieiddio cyfoeth, chwi ddeuwch i'r pen- derfyniad eu bod yn gwneud hyny o herwydd iddynt fethu ei feddianu. Y mae o gwmpas cant a phedwar hugain 0 ffyrdd i gyrhaedd teyrnas nefoedd trwy erthyglau ffydd, ond nid oes ond un ffordd trwy dduwioldeb. Y mae yn hawddach gweled beiau bych- ain na gweithredoedd mawrion. Y ffordd oreu i gadw dyn marw ydyw ei osod mewn gwirod, a'r ffordd oreu i ladd un byw ydyw gosod gwirod o'i fewn. Yr eiadoch,—SHON WYN O FAKGAM.
ADGOF AM MR. DAVID DAVIES,…
ADGOF AM MR. DAVID DAVIES, PANTEG, CWMFELIN. Mae angau wedi cipio Yr ieuinc hardd ei wedd,. Ac hawdd yw tywallt deigryn mawr Uwchben ei ddystaw fedd; Ni awn i'r fynwent diwel I blanu blodyn byw, Yn gysgod o'r un arall sydi o fewn y bedd yn wyw Panteg oedd fel ei enw, Yn deg heb awel groes, Ond angau ar y boreu hwn Yn chwerw iawn a'i troes; Ond delw siriol Dafydd Sy'n fyw o'n blaen o hyd, A llewyrch diniweidrwydd pur Yn chwareu ar ei wrid. Y pentref a dristaodd, Dan bwys y uewydd prudd, A gwelwyd llawer gwlitnyn gian Ar rosyn llawer grudd Naturiol oedd i'r newydd Effeithio galar trwm, 'Roedd serch a chalon fawr y lie Wrth D .fyJd huffyn nghlwm. Gair uniawn y gwirionedd Oedd ei aiweinydd ef, Ao ar ei feusyddd sanctaidd bu Yn casglu blodau'r nef;) Blodeuglwm nefol gariodd Hyd angau yn ei law, Nes cael mynediad helaeth iawn I'r deg baradwys draw. E. R.
LLANIDLOES-CLADDEDIGAETH DR.…
LLANIDLOES-CLADDEDIGAETH DR. CHARLES. Cafodd Dr. Charles ei gladdu yn y llè yaa ddydd Ian diweddaf. Daeth ei gorff yma gyda'r trfin, a lluaws o weinidogion a blaen- oriaid o sir Feirionydd gydag ef, ac aeftb canoedd o'r dref hon, ac o'r wlad oddiam- gylch, i gyfarfod y tten lleg, ac ymffnrfiodd y dorf fawr yn orymdaith o'r 'station' i fynwent capel y Methodistiaid. lie y cladd- esid merch iddo, a'i dad a'i ram-yn-nghyf- raith. Ar ol darllen rhan o'r l5fed benod o 1 Cor., gan y Parch. E. Peters, :Bala, ac i'* Parch. Joseph Thomas, Carno, weddio, aetk y rhan fwyaf o'r dorf i'r capeL lie cymerwyd y gadair gan y Parch. N. C. Jones, y gwem- idog. Canwyd emyn priodol, ac anerchwyi y gynulleidfa gan y cadeirydd, y Parens. Roger Edwards, Wyddgrug; Dr. Edwarda; ÐolA; Thos. Bees. Merthyr; G. Parry, a T. Levi, Aberystwyth J. Thomas, Carno, a Mr. Roberts, Bala. Diweddwyd trwy weddi gan y Parchl J. H. Simmonds, Towyn. Y* J. gan y Parchl J. H. Simmonds, Towyn. Y* oedd yn un o'r cyfarfodydd mwyaf difrifel ac effeithiol o'r natur y bum ynddo erioed.
ALBAN ARTHAN YN PONTYPRIDD.
ALBAN ARTHAN YN PONTYPRIDD. Cynaliwyd cyfarfod dydd Sul diweddaf gan ddUynwyr Dr. Myfyr M organwg ar j Maen Chwyf. Yr oedd yr arch-dderwydd ei hun yn abseno), a methodd amryw ddysgyblion gyrhaedd y deml henafol 0 herwydd y rhew.
ABERDAR.
ABERDAR. Nos Ian, y 12fed cynfisol, traddodwyd dar- lith ar 'Freinlen Cymdeithas Gyfeillgar U rdtl yr Hen Frytaniaid,' ymgynulledig yn y Gol- den Lion, Heolyfelin, yn nghapei y Bedydd- wyr, Heolyfelin, gan y Parch. L. Jones, Tr«- cynon. Cafwyd eglurhad neillduol ar y freis* len hon, yr hyn a ymddangosai i raddau ya dywyll i lawer cyn hyny. Teimlwn yn ddi- olchgar iawn i Mr. Jones am ei lafur ai egni o blaid Urdd yr Hen Frytaniaid, a charem i'r cyfrinfacpdd yn gyffredinol gael elywed y ddarlith ardderchog hon. Cadeir- iwyd gan y Parch. W. Harris, yr hyn a wnaeth i foddlonrwydd mawr. Yr elw tuag at drya- orfa gynorthwyol y gymdeithas uchod.—I.. R.
ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. Y FRYTHONES: At wasanaeth Merched a Gwragedd Cymru, dan olygiaeth Cranog- wen. Llanelli: argraffwyd a chyhoeddwyd gan D. Williams a'i Fab. Y mae y rhifyn cyntaf o'r misoljnj hwn ya awr o'n blaenau, ac wrth edrych drosto, 11 ydym yn rhwym o ddweyd ei fod ynwix deilwng o'r olygyddes, y cyhoeddwyr, a'r ar- graffwyr. Y mae y cynwysiad yn hynod chwaethus, ac yn mhlith pethau ereill y mae Elizabeth Fry (gyda darlun), y dyn Crist Iesu, y Doethion, y ddwy Chwaer. Brendd- wydion (gyda aarlun), lechyd a Phryd- ferthweh, Hyn a'r LlaH».y Teulu, <fec. Ni ddylai un ferch na gwwg sydd. yn gall* Cymreig fod heb Y 1 rythones.
[No title]
Y mae y wythien tair troedfedd wedi ei chyrhaedd yn Ng'ofa newydd Llwyngareg, ger Mynwent y Crynwyr, yr hon a brawf 1 fod o ansawdd rhagoro). Nid oes amhen- aeth bellach na ch5 raeddir y pedair. „
Advertising
rffj- TNFANTS' POWDERS.-MarveUou» W» the effects cf the "EURBO^A LIT* PRESERVERS upon the Iirftot SYSTEM^ They are not enly the VERY BEST and Safesm Medicine mothers can AFRO their little daring the anxions period OF Teething, BA^L they aot AS A CERTAIN Specific tor FIU, flammation, Bronchitis, DIARASEA. SMAJLJ pox, Scarlatina, Measles, Ac., Ac. Soldb* most Ohemists, in packets, at la. L^D. a&A 2s. 9d.; or from the Proprietor, B. AI George, Pentre, Pontypridd. NOTX.—Bead the important and interest ng teftimonials around each packet,