Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ALFRED; YR ARWR IEUANC.

News
Cite
Share

ALFRED; YR ARWR IEUANC. PENOD XVII. Yr oedd yn hwyr yn y prydnawn pan gyrhaeddodd y Due a'i gydyaiaith y castell; ac wedi iddynt giniawa a siarad yn nghylch amrywiol bethan, dyweiodd Alfred nas gallai feddwl am gychwyn tua thre' cyn y boren.' Ni ellwch,' ebai Casimer; I Gwen i chwi aros yma heno, a chewch fyned tua thre' yfory. Ni fydd eich mam yn gofidio llawer.' Os gwna,' atebai'r dyn ieuanc, teimla y llawenydd yn fwy pan gyferfydd a mi. 0 dan yr amgylchiadau, gwelaf mai gwell i mi afos,, Trefnwyd iddi fod felly, a thra yr seth y Doc i edrych ar ol rhyw oruchwylion, aeth Alired a'hn, a chyfarfyddodd a chadben y mHwyr, yr hwn a'i derbyniodd yn roesawoar. Rhyfeddai ein barwr ar y cyntaf at ddull caredig a boneddigaidd y eadbe- ord go'enwyd ei feddwl yn to an. Nid o-vid wedi cerdded yn mhell Des y dywedodd Nicolas, Alfred, a ydyw yr hyn a glywsi* am danoch mewn cysylltiad a gweision y iywyeog yn wirionedd ?' Y mae hyny yn ymddibynu ar beth a glywsocb,' ebai Alfred. Cl/wais bethan ryfedd,' ebai'r cadben. Dywedir e:ch bod wedi gorchfygu Baptisti a Goliath.' y mae hvny yn wirio^edd.' I Mevn ymladdfa agorei ?' 'Ie.' Pa fodd yr oedd ? Carwn yn fawr pe bnss"ch yn adrod i yr ystori.' I Nid wyf yn gwybod pmn a d lylwn ei hadrodd i gyd ai peidio,' ebai Alfred, gan betruso ond gan eich bod chwi yn swyddog nnbel o dan y Due, ac wedi clywed cymaint yn barod, rhoddaf y prif bwyntiau i chwi.' Yea aeth Alfred yn mlaen, ac adrodd- odd yr oil o'i hanes yn nghlyn a'i an- tnriaethau, o'r pryd y cychwynodd i ar- wain y rhai a dybiai efe yn bererinion, hyd e; ddyfo<iad i'r castell. Tra yr oedd ein cyfeillion yn ymddydd- an a'n gilydd, yr oedd y Due wedi myned i'w ystafell i ypgrifenu llythyr, ac erbyn ei fod wediei gwblhau, yr oedd Rosaline wrth ei ocbr, yn aros i gael siarad ag ef. Yr ydych wedi gweled y mynyddwr ieuanc, ac wedi bod yn siarad ag ef,' ebai bj, pan drodd ei thad tuag ati. 'Beth ydych yn feddwl am dano ?' Dy wedaf fy meddwl yn eglur wrthycb, ty mblentyn. Nid oedd d?m sail i'r hyn oeddwn yn gredu. Y mae Alfred yn fachgen dewr, a'i eiriau yn gywir. Rhaid i ni ei wobrwyo.' Pa fodd ? Pa wobr ellwch ei roddi am y fath wasanaeth ag y mae wedi ei gyf- lawni r' < 0, y mae byny yn ddigon rhwydd i'w Wneud,' afebai y Dnc. Y mae y bach- gen yn dlawd, a gall arian wnend llawer o lea iddo.' Yn enw trugaredd I-Da, na,' llefai Rosaline, gan gydio yn mraich ei thad, peidiwch a cbynyg y fath beth.' Beth yw eich meddwl ? A fyddai yn rhywbeth allan o le i gynyg arian i ddyn tlawd, yr hwn sydd wedi eu henill yn anrhydeddns.' ,Eu henill!' ebai y ferch. I A ydyw wedi gweithio fel labrwr am ei gyflog ? En henill. A ellir gwnend y fath weith- redoedd a hyn am yr arian ag y mae'r meistr yn daln i'w was ?' 'Ond, Rosaline—a siaradai y Due mewn ton isel a charedig onid yw y gwaith yn teilyngn gwobr ?' Ni atebodd y ferch yr un gair. A gaiff y cyfaill hwn fyned ymaith heb roddi rhywbeth iddo ?' Na chaiff, na chaiff.' 1 Pa beth a roddech 2hwi iddo, ynte ?' Eisteddodd Rosaline i lawr ar gadair, fel y gallai grynhoi ei meddyliao) yn Jlghyds chnddio ei gwyneb ar y fynyd heno. Yn mhen ychydig atebodd, Gwn beth yw ei deimladau balch a bor eddigaidd ef, a gwn pa fath wobr a'i boddionai. Gadewch iddo gael gair yn sicr- hau cyfeillgarwch y Due o Bonnes, abydd yn foddloB.' 1 ODi fyddai yn well ychwanegu yr un peth hefyd oddiwrth y foneddiges o Rennes ?' Byddai, os nad yw wedi derbyn^ yny yn barod.' A ydych chwi wedi roddi eich gair, ynte V Arosodd Rosaline am ychydig—nid i fyfyrio am ateb, ond i alw i got yr hyn oedd wedi pasio rhyngddi a'i hamddiffyn- ydd. O'r diwedd cododd, a gosododd ei llaw ar ysgwydd ei thad, a dywedodd, Nis gallaf alw i gof yn awr bob gair o ddiolchgarwch a ddj wedais wrth Alfred, ond gwn fy mod wedi dweyd digon; a cfichon fy mod, wedi bradychu mwy o'm teimlad nag wyf wedi siarad. Ond, syr, nid cea un gair wedi myned dros fy sgwefasan nad oeddynt yn briodol i ferch i Dduc ei siarad, ao nid yw Alfred wedi yngan yr un gair, na sill, nad allasai y tlotaf yn y deyrnas ei ddweyd wrth fren- hines.' Cydiodd Caslmer yn Haw ei ferch, a di- olchodd iddi am ei goneatrwydd. Gwydd- ai ei bod yn meddwl dweyd y gwir, ond eto yr oedd ei lygad cjflym wedi darganfod mwy nag oedd hi wedi dweyd ac, efallai, mwy nag y gwyddai hi hefyd. Yr oedd wedi gweled Alfred, ac wedi bod yn ym- ddyddan ag ef, a gwyddai rhywbeth am y dylanwad a gaffai y fath natur ar deimlad- au merch dyner, rinweddol, a chamaidd o'r fath ag oedd Rosaline, yn enwedig 0 dan y fath amgylchiadan oeddynt wedi cymeryd lie rhwng y ddan hyn. Yn mhen ychydig dywedodd, Y chwi sydd yn iawn, Rosaline. Ni chynygiaf arian iddo. Oynygiat fy nghyf- tillgarwch iddo.' Yr oedd edrychiad y ferch yn ddigon ao wedi iddi fyned, dywedodd y Due wrtho ei bun, Uoog y palas mor rhwydd a'r bwthyn, os gosoder tan ynddo. Y mae holl galon- an'r byd wedi en llunio ar yr un ddull- wedd dragywyddol, ac nis gall sefyllfa uchel nac isel eyfuewid en enriadau dirg«U* I Yna cododd, ac a aeth allan trwy'r drws, a chyfarfyddodd a Nicolas ac Alfred. Anerchodd y Duo ein harwr yn garedig, ac yna aeth ymaith gyda'r cadben i drefnu rhyw faterion perthynol i'r castell. Gobeithiai Alfred y caff4i weled Rosa- lice cyn yr elai i orphwys, gan y dymunai wybod snt yr oedd hi yn teimlo ar ol ei hanturiaethan diweddar. Nid oeid yn meddwl y carai ei gweled hi er mwyn dim arall. Gallasai ofyn i'w thad pa todd yr ydoedd, neu holi rhai o'r morwynion ond ni feiddiai ddangos ei demladan o flaen neb o honynt. Rhaid fod rhyw deimladau rbyfedd yn ei fynwes; a ragor na hyny, rhaid ei fod yntau yn gwyboi am danynt. Aeth i'w wely yn gynar, ac wedi iddo osod ei ben ar ei obenydd, addefodd wrtho ei hun mewn geiriau, yr hyn nad all 4 ei galon gadw yn hwy. A'i dyma beth ydyw cariad,' ebai, a'i ddwflaw yn blethedig ar ei fynwes. 0 na faasai yr an gyles lan yn rhyw forwyn fynyddig, fel y gallaswn gynyg fy llaw am calon iddi.' Dyhnnwyd ef yn foreu o'i gwsg wrth glywed y gloch yn cann, ac ni fa yn hir cyn gwisgo, a gosod ei hun yn barod am ei foreutwyd. Eistsddai Nicolas a haner dwsin o filwyr wrth y bwrdd, ac wedi iddo eistedd, deallodd eu bod i fod yn gym- deithion iddo mor belled a Mauron. Yr oeddynt yn myned i Vannes. Wedi idd- ynt gymeryd eu boreufwyd, cododd y cad- ben, ac bysbysodd fod y ceffylau yn barod, a'n bod i gychwyn yn fuan. Pan yn myned allan, cyfarfyddodd Alfred a'r Due a Rosaline. Nid oedd y foneddiges yn edrych fel pe buasai yn dyoddef oddi- wrth ei threial diweddar. Daeth yn mlaen at ein harwr, ac estynodd ei llaw iddo. Nid oedd y geiriau a siaradodd mor ddwfn yn eu hystyr a'i hedrychiad hapus a Uawen. Alfred,' ebai y Due, gan gymeryd lle'r ferch, y mae tu hwnt i allu iaith i mi ddweyd wrthych pa faint wyf yn eich dyled. Cymerweh gyda chwi gyfeillgar- wch parhaol fy merch a minau, a dichon y gallaf wneud rhywb-th sylweddol i chwi yn y dyfodol. Yn y cyfamser, peidiwch a bod yn ol o alw ar y Dnc o Rennes am unrhyw gynorthwy fydd yn eisien arnoch. Ffarjrell am y presenol.' Cymerodd Alfred law y Due, a diolch- odd iddo am ei garedigrwydd. Yna trodd i ffarwelio a Rosaline, ac yn faan wedi hyny yr oedd ar y cyfrwy. Nid oedd y pellder i Mauron yn rhagor na deng milldir-ar-hugain, a chyrhaeddwyd y lie mewn pryd i'r ceffvlau gael gorph- wys awr cyn ciniaw. Ymadawai Alfred a'i gymdeithion yn awr. Cofiwch,' ebai wrth y cadben, C eich bod wedi addaw talu ymweliad a mi.' Byddaf gyda chwi, peidiweh ag ofni,' ebai Nicolas. 'Ac yn awr, cynghoraf chwi i edrych atoch eich hun. Y mae genych elynion. Nid oes neb a wyr pa bryd y tarawa y tywysog drygionus. Di- chon y clywaf rhywbeth yn Vannes ag y bydd eich dyogelwch chwi yn angenrheid- ol i chwi gael ei glywed ac os felly, byddaf yn sior o alw, gan mai hyny oedd gorchymyn caeth y Due.' I Os deuwch, cewch groesaw gwresog- chwi a'ch cymdeithion.' Ymadawsant ar hyn. Nicolas a'i gan- Iynwyr yn cadw ar y ffordd i Vannes, ac Alfred yn troi tua'r gogledd, i gyfeiriad y mynyddoedd. Tra y brysiai ein harwr yn mlaen, yr oedd ei feddwl yn ddiwyd gydag amgylch- iadau y dyddiau "hyny oddiar pan y cych- wynodd o'i gartref yn arweinydd. Siarad- ai yn fynych, a'i destyn ydoedd y fonedd- iges o Rennes. Meddyliai hefyd am y gelyn galluog oedd wedi ei wneud. Erbyn ei fod wedi cyrhaedd gwaelod y dyffryn, lie yr oedd ei gartref, yr oedd yr haul yn myned i lawr yn gyflym, a phan ddaeth yn mlaen at y bwthyn, synwyd ychydig arno wrth weled haner dwsin o geffylau wedi eu cylymu wrth y coedydd gerllaw. Daeth ychydig yn nes, a "gwelodd olygfa arall. Llusgid hen wr ac hen wraig allan o'r bwthyn gan nifer o wyr arfog. Y wraig, oedd ei fam, a gallai ei chlywed yn llefain am drugaredd. Y dyn oedd Fran- cesco, ac yr oedd ei ddwylaw wedi en rhwymo y tu ol iddo. Am eiliad, nis gwyddai Alfred beth oedd i'w wnend, ond ni fu felly yn hir.

. UTAH A'R MORMONIAI'D,

+ YNYS CYPRUS.

0 CYMWYSDERAU GWRAIG Y GWEITHIWR.

[No title]