Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

o BLAENLLECHAU.

News
Cite
Share

o BLAENLLECHAU. NosFercher, 26ain cynfisol, ynyr Assembly Hall, cafwyd datganiad ardderchog o'r < 41 Twelfth Mass (Mozart) gan gor Libanus, TTreherbert, dan arweiniad Mr. T. Phillips, yn cael ei gynorthwyo gan y Treherbert String Band, d&narolygiaeth Caradog, Aeth pawb trwy eu gwaith yn ganmoladwy. Dat- ganwyd y chortisei; yn chwaethus drcs ben. Chwareuai y string band yn rhyfeddol o dda o'r dechreu i'r diwedd. Cynrychiolwyd y cor yn y quai tetts, duete, a'r solos, gan Miss Jones (LEnos Rhondda), Mr. Evans (Eos Dar), Rachel Evans, ac K. Thomas, Treher- bert. Cafwyd datganiad pur chwaethus gan y pedwar hyn. Teimlem fod y soprano yn dyoddef i raddau dan effeithiau anwyd l ond hawdd ydyw genym gydymddwyn a hi pan yr ystyriom nad oedd ond newydd ddychwel- yd o res gyngherddau Dr. Parry, pan yr oedd cyngherdd yn cael ei chynalbobnos; nid hawdd oedd cadw o fewn terfynau tonydd- iaeth pan, yr oedd y llais yn cael ei or- lwytho fel yma mor ami. Cymerwyd y tenor solo gan Eos Dar yn dda iawn, yn en- wedig yn yr unawd, "Bow down here," Ac. Datganodd hwn yn chwaethus iawn. Da genym weled y cyfaill hwn yn esgyn grisiau enwogrwydd mor gyflym. Pob llwydd iddo, medd bechgyn y Maerdy a Blaenllechaa. Ar derfyniad y canu, cynygiodd Mr. Thomas, arplygydd, fod diolchgarwchgwresocaf y gyn- nlleidfa i'w roddi i'r cor am ymweled a Blaen- Uechau, er nad oedd y gwraudawyr mor lluosog ag y dymunasid. Awgrymai Mr. Thomas fod dyledswydd arnom fel Cymry i gefnogi mwy o ddatganiadau fel yma, ac i godi ein harchwaeth i safon yn uwch. Eil- iwyd y cynygiad gan Mr. Bevan, yr hwn a ddywedodd fod y perfformiad yn dreat i drigolion Blaenllechau, ac yn anrhydedd i'r eantorion; dywedai hefyd nad oedd haner digon o sylw yn cael ei dalu i weithiau fel y "Twelfth Mass." Cafwyd anerchiad byr gan Caradog fel cynrychiolydd i'r cor dy- wedai fod yn hapus ganddo glywed fod y gynulleidfa wedi cael eu boddlom mor dda. Dywedai fod Cymru, Gwlad y Gan, yn ol yn mhell iawn o gefnogi offerynau chwareu gyda oratorios, ac y dylem ni fel Cymry godi safon yn uwch mewn cerddoriaeth. Hefyd i gael y string band yn fwy ymarferol yn ein plith. Dywedodd fod y Treherbert String Band yn cael ei wneud i fyny o weithwyr i gyd, ac nad oedd arno, gywilydd fod yn eu plith: eu bod wedi chwareu y Twelfth Mass yn ddiwall o'r dechreu i'r diwedd, er o dan anfanteision lawer. Cynghorai bech- gyn Ferndale i ymaflyd yn y gwaith hwn yn ddiymaros. Diweddwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. ELFEDYDD.

EISTEDDFOD LLANGADOC.

SALEM, ABERDAR.

TREBOETH.

EISTEDDFOD MYNYDDISLWYN.

CWMBACH.

YR AMDDIFAD DIGARTREF. A

- CLIQUE Y BONT.,

NWYFIANT.

YMWELIAD A LLANSTEPHAN.

Y CWRW.

Advertising

TREDELARCH, GER CAERDYDD.

CWMPARC.

PONTRYDYFEN.

AT Y BEIRDD.