Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
r.' — YSTRAD, RHONDDA.
r. — YSTRAD, RHONDDA. Dymunwyf gael gofod fechan o'ch newydd- iadnr poblogaidd i adrodd ychydig o hanes gwethrediadau y Ile hwn. Anaml iawn y gwelir dim o'r He hwn yn eich newyddiadur, jMii am nad oes yma lawer o bethau gwerth eu hadrodd, ond am fed y naill yn dysgwyl wrth yllall. Bethbynag, rhoddaf ycbydig o hanes y lie am dydd Llun, Mehefin 17eg. Y mae yn ddealledig i lawer mai ar y dydd uchod y cynelir Fair Gwagedd yn Treoci, ac y mae pobl dda yr ardal hon wedi cael ar eu meddyliaa er ys rhai blynyddosdd bellach i wnend rhyw beth er cadw ieuengtyd yr ardal rhag myned yno; ac er cyrhaedd yr amcau, penderfynwyd gan y tri enwad Cymreig yn y He i gynal gwyl de yn y pryd- mwn, a cbyfarfod adloniadol yn yr hwyr. Bu yma ddau gyfarfod poblogaidd a dydd- orol, un yn N ebo (capel y Bedyddwyr), ar llall yn Bethel (M.C.) Yr oedd hwn yn un- debol rhwng yr Anmbynwyr a'r Methodist- iaid. Etholwyd y Parch. A. Roberts i'r gadair. Wedi cael anercbiad gan y llywydd, awd yn mlaen yn y drefn a ganlyn :—Canu, Yn y man,' gan yioll gynufleidfa, dan ar- weiniad James Davies a Miss Edwards yn chwaren yr harmonhim. Adroddiad gan Hywel Williams. Can gan Mary Williams. Ton gan obeithlu Bodringallt, dan arweiniad Jamas Davies. Dadl, Rhyfel a Heddwcb,' gan T. Thomas, H. Williams, a D. Lloyd. Dangosodd y dorf yn unfrydot trwy arwydd an bod o blaid beddwcb. Can gan David Evans. Adroddiad gan David Morgans. Canu 'Ffarwel i ti Gymru fad,' gan David Evans a'i barti. Adrodd, 'Yr Ymfudlong,' Si Morgan L. Williams, yn dda iawn. uu 'Ti wyddost beth ddywed fy nghalon,' gan Williams a'i bartL Deuawd gan Eos Hafod a David Evans. Anerchiad gan Wro. Lloyd. Cann, 'Comrades in Arms,' gan David Evans a'i barti. Adrodd 'Mab y Meddwyn,' gan Mary Evans. Can gan Eos Hafod. Adrodd 'Pa beth sydd ddewr,' gan John Morgans. Ton gau obeithu Bod- ringallt yn rhagorol. Y mae yn debyg fod- y daniau a ganwyd gan obeithlu Bodrinf- illt yn rhan o gantata Motet a Jotuah, yr Jron y maent yn meddwl ei beiffoimio cyn hir. Felly terfynwyd y cyfarfod goreu y 1Jv.m ynddo erioed. CAKWK UNDEB. Nos Fercber y 17eg, traddodwyd dailith yn nghapel Bodringallt ar "Fertnyr Arom- ango, gan y Parch. D. Thomas, Tonypandv. ilywyadwyd gan Dr. Idris Davies. Yr eedd yn ddarlith ddyddorol ac addysgiadol iawn, a'r cynulliad yn barchus a lluosog. Deallwn fod yr elw deilliedig yn myned i gynorthwyo hen wr methiedig o'r enw John Jenkins. GOHEBYDD..
GWAITH DUB GLANDWR.
GWAITH DUB GLANDWR. Dydd Sadwro, yr 8fed cyfisol, cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y gwaith uchod. Cy- merwyd y gadair gan Mr. John Bennet, Ran yr hwn y cafwyd araeth hyawdl iawn. Yna aethpwyd yn mlaen yn y drefn ganlynol:— cHen Wlad fy Nhadau, gan Thomas Mor- ons. 'Gwroniaid Gwlad y Gan,' gan John Richards. Adrodd 'Cyflafan Morfa Rhudd- lan,' gan Daniel Richards. Deuawd, 'Dring, dring i fyny,' gan John Burfatt a William Wallet. X Bachgen Dewr,' gan James jEvacs. 4Pla3 Gogerddan,' gan Samuel Cole- BMUI. Anerchiad gan John Davies, yr hwn a nododd allan amryw betbau gwir fuddiol i'w hefelychu. Triawd, Fair Flora Decks, Han William J ones, Wm. Morris, a Charles Pitts. Mae'n Gymro Byth,' gan David Tho- mas. Adroddiad, 'Cartref y Meddwyn,gan Thomas Richards. 'Wyt ti'n cofio'r Lloer yn codi,' gan Henry Evans. Deuawd, Y Teilivn* a'r Crydd/ gan William Dix a James Gillard. Araeth ar feddwdod gan L. Lott, yr hwn a nodrdd amryw wirioneadau pwysig « difrifol. If with all your Hearts,' gan David J ones. Y Gard otes Fach,' gan Evan Richards. Cafwyd cyfarfod rhagorol. ac yr oedd pawb yn teimlo wrth eu bodd.-DIEGo.
CLYDACH. R-
CLYDACH. R- Cynaliodd Ysgol Sabbothol y Badyddwyr ytry lie uchod gyfarfod adroddiadol a chan- iadol prydnawn ac hwyr Sul, 16eg cyfisol. Caaodd y gangen-ysgol o'r Buildings amryw ddarnau yn dda, dan arweiniad Mr. J. Jones. Adroddwyd penodau o'r Beibl ar ddechreu cu yr oedfaon, yn Dghyd ag amryw ddarnau I buddiol ereill, gan y plant bychain a phobl yn amrywio mevn oedran. Yr oedd rhai 0'1 cyfryw yn cael eu parablu gyda'r manyl- weh a'r gofal mvyaf, ac yn effeithio yn lymus ar y gwrandawyr. Canwyd Pebyll yr Arglwydd," &c., yn rhagorol gan gor Calfaria. Ar y diwedd cafwyd rugwm o dri phenill awen barod gan Mr. C. Jones yn atebyramgylchiad i'r dim.—GLAN CLYDACH.
PEN YEGAFN.
PEN YEGAFN. Aeth hen bysgotwr o 'Berdar i bysgata i afon Towy, ger Llmdilo, a thtwy ryw an- ffawd, cwympodd i'r afoD, ond nid dros ei ben, a daeth i'r lan yn ddyogel. Y rheswm iddo achub rhag boddi, mae'n debyg, oedd am fod ei ben yn rhy ysgafn i fynea o dan y dwfr. Y peth cyntaf a wnaeth wedi cael ei draed ar dir sych oedd edrych beth oedd o'r gloch wrth ei oriawr; ac er ei fawr syndod, canfyddodd fod olwynion ei oriawr yn chwyrnellu ac yn tafla y dwfr trochionog *11 an o'i cholyddion, yn debyg i pod-lie vteamer ar ystorm ar y mof; ac yn ei fawr ddychryn aeth a'r hen oriawr at y meddyg yn Llandilo, a buan y canfyddodd hwnw fod y dwfr wedi cyrhaedd rhai o ystafelloedd n«haf yr oriawr, nes yr oedd y a bur debyg i'w pherchenog, a gorfu idd« ei dadgymalu yn hollol. Wedi ei gosod yn ol yn drefnus, cymal with gymal, ac olwyn WI th olwyn, a dweyd yn arw wrthi am beidio myned dan y fath driniaeth byth mwy, rhoddodd hi yn ddyogel i'r hen byagotwr, ei pherchenog. Erbyn hyn y mae yr hen bysgotwr yn tystio ei bod wedi pwdi a phallu cerdded yn ol a blaeB, ac o gaslyniad y mae wedi an ion y Uinellau canlynol at y meddyg i Landilo, end na fydded i bawb eu credu, o herwydd y mae yr hen bysgotwr yn gryn dipyn o fardd yn ei olwg ei hun, ac yna y mae yn credu tod gancldo fel bardd hawl i ddweyd yr hyn a fyno, am fod rhyddid gan y cyfryw i ddilyn yr awen, pa un ai gwir ai peidio. Onddyna, fel hyn y canodd Jr ÍJen bysgotwr jam yr oriawr;- 4 Mae r oriawr wedi pwdi Fel pleit/a are! torn, ♦ Bhyw a /> II mae ;tn 11 nyd 7, A phailu cerdded cam Betb -ntlf rr hen officer ? Ai th-aa droa v beith P 0.. para wns i selfH, f hi o werth. Filmsilwn mewn gwialvn A ihoddi i bleutyn gUtc^. Ownai hyny y t-o ï. p entyr>, Ond beth Wl!s'r tro i'r wotch ? W61 hyn » wnaf yn fuf-n A'r hen grecdur. F, g-s, Sef aaor ei cholyddion, A thTira ei phetfedd R1'1"P. A'u tfefla rhwnp y gwyd i, a, A'r twrcia btn h a'r gieir, A anfon i Llandiio Am 'fptenydd oriawr pur; Cwnewch chwittiaa 'i hanfoa fyny I AberdMyna-th, A tninau wnsf ofelu I beidio ta!a b] th. HEN BYSGOTWR.
T LLYWODRAETH A PHRIFYSGOL…
T LLYWODRAETH A PHRIFYSGOL CYMRU. Mewn cyfarfod cyhoeddns a gynaliwyd ddydd Iau diweddaf yn Uyfrgell y Brif. ysgol, dywedodd yr ysgrifenydfl ei fod wedi derbyn hysbjsrwydd oddiwrth y Llywodraeth eu bod wedi gomedd cais y pwyllgor, set y swm blynyddol 2,500p. a 5,000p. taag at orpbeniad yr adeilad.
MR. B. T. WILLIAMS, A.S..
MR. B. T. WILLIAMS, A.S.. Y mae Mr. B. T. Williams, Aelod Seneddol newydd-etholedig bwrdeisdrefi Caerfyrddin a L'.anelli, yn dechreu troi allan yn aelod llafurus, ac yn debyg o fod yn anrhydedd i'w etholwyr. Y mae wedi siarad ddwy waith yn ystod yr ychydig ddyddiau y mae wedi bod yno, ac y mae lie i gredu y daw yn allu a deimlir cyn hir.
[No title]
Dydd Gwener diweddaf, yn Mynwy, bodd- odd bachgen o'r enw Charles Llewellyn tra yn ymdrochi. Y mae rhieni y trancedig yn cadw tafam yn St. Fagan's, Caerdydd, tra yr oedd y bachgenyn yn yr ysgol yn Mynwy.
A DDOI DI, GWEN?
A DDOI DI, GWEN? A ddoi di, Gweno, gyda mi, 0 si a gwychder trefydd, Gan adael gwisgoodd sid-m teg, A'r gemau chweg yn ufydd, I fyw mewn bwthyn isel bach, Ac yfed iach aw elon, I gwisgo gwlanen gynes gu, A bod i mi yn :tfyddlon 11 A oes mewn dyffryn tawel swyn A fedr dy ddwyn, fy Ngweno, I dreulio d' oes ac uno can Yr adar wan sydd yno, Neu ymddifyru d'hnn yn si Y nant a'i lli' risialog, HAb ofn gwynebu pcethder haf, Na'r gauaf oaJ tymhestlog? o 1 dywed, Gwen, a wyt yn wir Mor gy" ir yn dy gariad, Fel na chwenychu droi yn ol, Ond byw yn unol wastad 1 Can's diau daw ystormydd blin, Nid hyfryd hin gawn beunydd; Yn ngwyneb hyn, a elli dweyd Y ceisi'm gwneud vn ddedwydd? Cendl. GWILYM RISIART.
Y BEIBL.
Y BEIBL. 0 lys Duw yn wiwlwys y daeth-y Beibl Yn bur i ddynoliaeth; Ceir o'i fewn i'r llesg gwir faetb, A diliau ysbrydoliaeth. I'w favradd oil myfyriwn,—a'i eiriau I'n harwain gymerwn; Yna'n glyd, er bvd a'i bwn, Gwir ryddid nef gyrhaeddwn. Gilfach Goch. W. DAVIES.
--YR HAUL.
YR HAUL. Gwr y lloer, hygar ei lliw,—yw yr haul, Cawr hylaw mireinliw, A thad y ser geinder gwiw, Mewn gwenawl wawl mae'n geinwiw. Irfwyn fywyd gynhyrfa-drwy natur Hynotawl'rol pr a'; Ei bwyntyl hefyd baentia Yn bur iawn wyneb yr ha'. 'I Caf fwyndeg Haul Cyfiawnder-yn Ei wiwlon wedd loewder, Ac ardeb mewn purdeb per 0 ganaidd nef ein gwiw Ner. Llanelli. Ap ELLI.
HUNANLADDIAD MASNACHWR YN…
HUNANLADDIAD MASNACHWR YN ABERTEIFI. Bnreu dydd Gwenerdiweddaf cafwyd Mr. J. S. Williams, masnachwr, Aberteifi, yn farw ar lawr ei barlwr. Ceisiwyd cynorthwy mfddygol ar ucwaitb, ond nid oecd o un lleshad, canys yr oedd y trancedig wedi saethu ei hun trwy ei galon.
COLLIAD LLONG BORTUGUAIDD-170…
COLLIAD LLONG BORTUGUAIDD- 170 WEDI BODDI. Oddiwrth hysbysiad sydd wedi cyrbsedd y wlad hon, yr ydym yn cael fod y aong Bortuguaidd, y 'Laura,' wedi myijed yn ddrylbau yn Salamis, ar dueddau Brazil. Dywedir fod ar fwrdd y llestr 300 o deith- wyr, y rhai oeddynt wedi gadapl eu cartrefi o berwydd y tylodi mawr. ac i 170 o honynt golli eu bywydau trwy y ddamwain hen.
ALLFORION GLO AM MAI.
ALLFORION GLO AM MAI. Yr oedd allforiad gloTo'r wlad hen am y mis diweddaf yn dangos Ileibf-d ar y cyfan- swm a allforiwyd yn Mai, 1877; ac erbyn cymeryd i ystyriaeth fod yr allforiad wedi lleihau am Ebrill hefyd, y mae i'w gasglu fod y galwad yn lleihau am lo y wlad hon, er fod ei bris bron yn afresymol o isel. Y cyf- answm a allforiwyd yn Mai diweddaf oedd 1,501,979 o dynelli, tra yr allforiwyd yn 1877 1,562,265 o dynelli. ) Y mae y cyfanswm a allforiwyd am y pum'mis cyntaf o'r flwyddyn yn dangos yehydig gynydd ar allforion y pum, is cyntaf yn 1877, sef 5,986,332 yn erbyn 5,871.774 o dynelli. Yr oedd yr all- forion haiarn hefyd yn dangos lleibad am y mis diwedd af, tra yr ceddyr allforion trym- ion a gymerasant le y misoedd blaenorol wedi eadw y cyfanswm am y pum' mm yn gytiydd ar allforion y pum' mis cyntaf yn 1877.
MAM YN YMCHWIL AM EI PHLANT.
MAM YN YMCHWIL AM EI PHLANT. Y mae hanes hynod newydd ddyfod allan yn rbai o newyddiaduron America gyda golwg ar deulu o Barnsley, yn y wlad non. Er ys wyth a naw mlynedd yn ol yr oedd yn Barnsley ddyn o'r enw Haigb, yn arwerth- ydd, a chanddo.wraig a thn o blant. Yn 1871, yr ydym yn cael fod Haigh wedi ym- adael yn ddisymwtb, gan gymeryd ei blant gydag ef, a gadael ei wraig ar ol. Yn mben ychydig ddyddiau cafwyd allan fod merch ieuanc o'r enw Miss Polly Riehardson wedi myned ymaith ar yr un adeg, a'r hon yr oedd Haigh yn lied gyfeillgar. Yr oedd gwraig Haigh ar yr adeg y gadawodd efe Barnsley ar ymweliad a'i theulu yn Holmfirth, ac ar gais ei gwr wedi gadael y plentyn ieuengaf ar ei hoi. Erbyn iddi gyrhaedd adref, a chael nad oedd ei gwr nac un o'r plant i'w cael, anfonodd at ei perthynasau i geisio y Elentyn oedd yno, ond yn lie y plentyn der- yniodd lythyr ynei hysbysu fod y tad wedi palw am y plentyn ac wedi ei gymeryd. Yn mhen ychydig amser, wedi dysgwyl yn ofer am eu dychweliad, deallodd y fenyw, druan, ou bod wedi ei gadael yn hollol am- ddifad, ac nad oedd ganddi wr na phlentyn. Gadawodd Barnsley ac aeth i wasanaeth. Wadi bod mewn gwasanaeth am gryn amser ac enill ychydig bunoedd o arian, pender- fynodd fyned i'r America, lie yr oedd, erbyn byn, wedi deall fod ei gwr a'i phlant wedi myned. Wedi cyrhaedd gwlad y Gorllewin, a chael lie i enill ei thamaid, rhoddodd hys- bysiadau allan mewn amryw newyddiaduron yn gofyn am ryw hysbysrwydd am ei phlant, gan eu desgrifio, &c. Ffurfiodd hefyd gyfeillgarwch ag amryw bersonau, y rhai a'i cynorthwyai i ddyiod o hyd i'w phlant colledig. Daeth i hysbysrwydd mai yn Paterson, New Jersey, y rhoddodd efe i fyny gyntafwedi cyrhaedd America; ond ° herwydd fod yno amryw yn ei adnabod yn y cymydogaethu yno, symudodd i ddinas Kansas, lie y dechreuodd efe fasnachu fel cigydd. Y mis diweddaf derbyniwyd llyth- yr oddiwrth y fam yn y wlad hon yn rhoddi axfddeall ei bod wedi dyfod o hyd i'r lie yr oedd ei gwr a'i phlant. Wedi cael allan drefn i anfon llythyr yn ddyogel at y plant (canýs y rhai hyny yr oedd hi am eu cael ac nid ei gwr), gofynodd iddynt am ei cbyfarfod yn ngor^at Leavenworth, ar ddyddirtd neill- duol. Cadwodd y plant, lleg a I5eg oed (canys cafodd allan, er ei gofid, fod y ieuengaf wedi marw) yr oil yn ddirgel, a chodasant yn forea ar y dyddiad penodedig, can wneud eu ffordd i gyfarfod a'u mam. Y mae y fam a'r plant erbyn byn wedi cyf- arfod a'u gilydd, a chyfarfyddiad effeithiol ydoedd, ac y maent yn byw yn nghyd, y bachgen wedi myned i weithio er cynorth- wyo ei fom, a'r ferch fechan wedi myned i'r ysgol, a'r fam yn d.ebyg o fyw yn nghariad eu gilydd, heb fod yn mhell o dngle y gwr a'r tad, yr hwn sydd yn wr i wraig aralJ, ac yn dad i blant ereill.
TRECYNON-ARHOLIAD LLWYDDIANUS.
TRECYNON-ARHOLIAD LLWYDD- IANUS. Y mae yn dda genym gael ar ddeall fod Mr. William Davies, chemist 8 assistant gyda Mr. Thomas o'r lie hwn, wedi bod yn llwydd- lamuynei arholiad i fyned yn efrvdwr i Goleg Undoda'dd Manchester. Bu yn assistant i Mr. Thomas am dair blynedd ac yr oedd yn treulio ei horiau bamddenol o dan ddysgejdiaeth y Parcb. Wm. James, B.A. Gobeitbio y bydd y brawd ieuanc yn llwyddianus i ddyfod allan yn enwog yw dymuniad CYFAILL.
[No title]
Mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Manches ter ddydd Gwener diweddaf tanysgrifiwyd in agos i bum' cant o bur3.t1 at drysorfa gweddw oil ac amddifaid tanchwa Hay dock.
TERFYNIAD STRIKE Y GWEITH.…
TERFYNIAD STRIKE Y GWEITH. WYR COTWM. Wedi naw wythnos o sefyll allan, geliir dweyd bellach fod strike fawr y gweithwyr cotwm wedi terfynu. Yn ystod yr wytbnos a aeth fceibio cynaliwyd cyfarfodydd gan weithwyr y gwahanol weithfaoedd, ac yn y rhan amlaf o kwer o honynt, yr oedd y mwyafrif droa ail ddechreu gweithio ar delerau y meistri. Y mae yn ddealla iwy yn mhlith y meistri ea bod i gynortbwyo eu gilydd yn erbyn nnrhyw ymdrech o eiddo y gweithwyr i lethu un nen rai o honynt ar wahan oddi- wrth y llall, tra nad yw ond braidd yn afresymol y bydd i nDrhyw nifer o weith- wvr gynoi tbwyo ereill i sefyll allan yn erbyn yr hyn y maent fel cyfangorff wedi ei dderbyn Canlyniai yr annealidwriaeth ydvw fod y gweithwyr yn llawer tlotach. Y mae amryw o honynt wedi dyoddef yn fawr, tra y mae ereill wedi derbyn cryn gynorthwy o wahanol fiynonellau. Y maeut naill ai wedi rbedeg i ddyled, wedi byw ar elusengarwcb, neu ynte wedi gwario yr hyn oedd ganddynt wedi ei roddi o'r neilldu eibyn adeg o'r fath. Nid C5 oes amhenaeth nad yw y gweithwyr wedi colli cymaint yn y naw wythnos sydd wedi myned heibio ag a gollasant trwy y gostyngiad cynygiedig am flwyddyn o amser; ond pe baasent wedi gallu osgoi y gostyngiar.t buasai ganddynt reswm dros! ei safiad allan; ond yn lie hyny, y maent wedi colli raw wythnos o gyflog, ac hefyd wedi gorfod myned i mewn ar delerau y meistri yn y diwedd. Y mae pwyllgorau y gweithwyr yn awr oil yn crefu ar y Llywodraeth i sefydlu Bwrdd Cyflafaredd- otGorfodol rhwyng meistr a gweithiwr, mewn achosion o annealldwriaeth, 80 y mae yr un pwyllgorau hefyd yn bygwth ymladdfa eto mor gynted ag y bydd i'r fasnach adfywio.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfanaoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol 1). W. JONES (Dafydd Morganwg), Hirwaun,
GOLEUNI.
GOLEUNI. Cyn gosod cedyrn seiliau'r byd amserol, Na chrogi'r set o fewn eu cylchdro nefoi, Pan oedd tywyllwch trwy'r eangder helaeth Yn dal y cyfan dan ei gaeth lywodraeth, Y "Bydded" cryf o sautaidd enaur Dawdod A wnaeth ew orsedd grynu gan ddychryn- dod; A'i ddysglaer drem wrth dramwy'r llwybrau nefol Yn eglur ddangos gallier Duw anfeidrol; Y gwych oleuni ar ei Ddwyfol amnaid A dreiddiai i bob ewr o'r nef fendigaid, Nes peri i'r t'wyllwch gilio draw mewn dy- chryn 0 flaen tanbeidrwydd ei belydrau claerwyn. Hhyw for dihysbydd ydyw y goleuni, A'r nef eangfaith yw ei ddysglaer wely; Ymledu wna yn genllif mawr ymchwyddol, A'i donau'olchant lanau'r byd daearol; Mewn rhwysg uwch ben mae santaidd lu y neifion Yn morio beunydd ar ei donau gloowon; A thybiwn fod angylion claetf y wynfa, Wrth syn fyfyrio uwch y bur olygfa. Yn cael eu denu o'u trigfanau euraidd I ymbleseru ar ei li"grisialaidd; Yr elfon hon a'i mwyn belydrau Ilachar Bub boreu ddaw i loni gwedd ein daear; Pan gwyd y wawr dros gaerau'r dwyrain pel), Gan yru'r uos o'i blaen i'w hoerllyd gell, Ein bronau oil ymchwyddant o lawenydd Gan Ino)r nefolaidd yw ei gwedd ysblenydd; 0 dan ddylanwad swynol ei goleuni Mae natur oil o'i chwsg yn ymddadebru, A'r adar mftn mewn hwyl ddechreuant ganu Eu hanthem ber i Awdwr y goleuni; A phan ifdaw'r haul o'i ddysglaer wely arian Dros belmynt llyfnion y ffurfafen lydin, Ymdaena gwiid dros wyneb serchog anian Wrth dremio ar ei wedd a'i wisg ddysgleir- lan; Fel gwyryf dlos dan fywiog drem ei chariad, 'Rol noson hir o bryder a dysgwyliad, Y dagrau gloewon dreiglent dros ei grudd- iau Yn awr a sychir ymaith gan ei wenau, Nes y canfyddir ieuenctyd par a hoeuder Fel pe yn dawn&io sr ei dwyrudd dyner. Athrylith yw! Pa Ie mae'r doniau hyny A feiddiant ddilyn llwybrau y goleuni ? Pwy fedr ddirnad rhif ei fan ronynau A phwy rydd fesur ar ei faith derfvnau Wrth geisio &ylweddoli'r ffrwd liftiriol Ddylifa'n gyson o'i ffynonell ddwyfol, Dirnal aeth ddynol saif yn fud mewn syndod, A hithau'r awen lecha dan pi cbypgod. Yixiffroitied celf yn rhwysg ei goleudai A welir yn addurno'i gwych balasau, Gwell genyf finau'n ngwmni hoff dyataw- rwydd, Gael esgyn i ryw fan o neillduolrwydd I syllu ar brydferthwch, lampau anicn Yn hongian fry ar ael y wybren lydan, A'r iloer fendigaid fel rhyw nef forwynig Yn myned allan ar ei thaith bellenig; Yn nghanol swyn diderfyn ei goleuni, Pob tristwch gilia ac a dry yn ganu. O! elfen bur, pa le mae'r galon hono Na ddyry fawl i'r Crewr fu'n ei llunio? Pa hyd y bydd tywyllwch anghrediniaeth Yn cuddio Duw o wyddfod y ddynoliaeth ? Prysu red dydd pan fo'r goleuni Dwyfol Yn deffro'r byd o'i gyflwr auystyriol; Anffyddiaeth ar ei gwely oer yn trengu, A phob anaheuaeth wedi llwyr ddiflanu; Pan fydd pob un a'i lin ar lawr yn plygu 0 barch i'r Hwn a greodd y goleuni. Ystrad, Rhondda. BRYTHONFAB.
Advertising
C. 8CHWERER, Watchmaker, Jeweller, Silversmith, Optician, &c., &c., 18, Commercial Street, Aberdare. SCH WERER'8 "Watchta to suit ull clRsng^gof pnrnh«8*rs. HflflHIk SCH WEKEK'8 Watches of tba but Engl Forties qiake. ) SCBWEREKS Gold Pater. t Liws from BIO Ion t 80HWEREK S Silver Patent Livers at Z4 4s. tb 6f up to 1.7 7s. t SCHWEKEtCB aold Geneves At 4s, £ 6 5s., up } to £ 1" I's SCHWERER S "Watches are always ready for use. beiotr ekilfnlly timed and adjasted. Pai chasers cannot do bettor than send to me for a Watch, which will be supplied or forwarded to any addws on receipt of P.O.O. SCH WERER S Eight-Day Clocks, Ordinary Clocks, Tim-piecea. &o., of the but and newest designs. SflnWERRR S Silver Goods In greet va-iety, SCH WERERS Electro-Plate of the newest and b°st description. SCHWERaR'S great stock of Spectacles, com- prises all kinls on Gold Steel, and Siell Frstroes SCH WERER repairs all kinds of Watohes, Clocks, Jeweller% Plato, to.. in the beat st.18. SOHWERER bags respectfully to thank the Publio for their past patronage, tiusting a contiuuance of the same. Os ydych am Oriadur o'r fath orc-tl, ewch at C. SCHWERER, Commercial Street, Aberdare, Y mae Cymdeithas Adeiladu XCerthyr a Dowlais. YN barod i roddi b nthycr, or Mortgage, ary Rhybjdd Btruf, symiau o .£100 i £ 10,009, rw talu yn ol vn Gyfranaa Misol neu Chwartoro1. Y m-a i fenthjewjr yn y GymdqitbBs hon fttteia- ion arbenig na ohfir mevin Cymdeithasau ereill, neu gan bersorsu unigol. Telir y treuliau c,trelthlol gan y Gymdeithas, a dyogelir annibyniseth y Btn- thycydd, cybyd ag y puhefr i cJa.u yr ad-daliad&u adde,wedig. ean y Oofrestrydd d»n Gyfraith y Cym- deithssau Cyfeillgar. Cedwlr y dirgslwch manylaf. Dymnna y Cyfirwyddwyr hysbysu eu bod yn bM. d i dderbyn symiau o arian fel fUhn benthyg ar v telerau canlynol o elw: -04 y cant i w g-alw ar ddau fis £ 4J y cant ar bedwr mis; a £ 5 y cact ar ehwtch mis. Am hysbesrwydd polincli ymofyner Mr. E. ROBBSTM, yn Swyddfa y Gymdeithas, 34, Victoria Street, Merthyr. CYHOEDDIADAU CYNALIW. YFFRAETHEBVDD neu Gtmhorth i Chwer- thin: ehf cafgliad o Ff aethebau ao YstoriBU difyrus. Pris, mewn amlen hardd, la lliiin, lB. ic. Y Tymhorth' hwn o: merth o—ni i dir Nad oes bosibl peidio Chwerthin! wedi'r trin tro, tro I'n h&tal4 Gymhorth' eto.- WatcynWyn. All «rgr»ffi*d. pris 6c, yn y ddau nodiant, CMRXJ. GWLAD EIN TADaU: CanaChydgon, gyda geir. iau Cjmraev a Seisnawg. Derbynia y Gan hon gan- moliaeth uohaf efn prif gflfddnrion. Can H Chydgan, pris 4c.. HEN WALIA. GWLAD Y GAN. Dywed un bardd-gerddor am hon, < Pa le bynag v clywaf oi chanu, y mae 1 n awyno fy nghalon yn ian Y trydjdd argraffl-id, LLA.WENYDD Y GWAN- WTN BbtD-^n i T.T B.B prÏs 4c.; So!-CA. 2c. Gan Proff. W. A. WiJJiamo (Gwilym Gwect).— < Y mae d"myn hwn yn un rhagorol tit wasanaeth cyn2herdd >u ac eistfiddfolau. Pob aichetion i'w h^nfon t D. L- JONES (Gvnalaw), Argratfydii a Llyfrvorthydd, liiitoD Ferry. P S — Argrcffir pob math o wsith am LnEoedd gwir resj'it.ol. j t;Ij tot Q 0 < 0 p tjj < Z 1-4 t:1 > q o o I. COFFINAU BHAD! BTinrsA ISAAC THOMAS, UNDERTAKER, 24 a 25, Seymovr Street, Aberdar, HYSBYSU y oyhoedfl ei fod yn pMhau i gario jLl yn mlsen yr alwedigaoth uchod fel arfer, set Gwneud Coffinau yn Bhatach na neb yn I' y Dywysogaeth, o'r quality goren, yn nghydag ymgyroeryd a chladd- edigaitnau yn gyfangwbl, sef rhoddi Kwasanaeth ei HEARSES A MOURNING COACHES YS- BLENYDO- Y GOBEUON YN NGHYMBU. Y m89 yn barod i r dfli gwnsanaeth y cyfryw yr> rhatach yn mhnb m>ln ag y byddo yn ciel y contract o wneud y C< maxu. Hefyd, v wo- wdi d\fod i'r penderfyniad y gkll Walio Btddau (Brick Gravea) wedi eu (rwyngulchu a'u mournio vn hardd am y 8wm iffcl o 7p. 10s. Y mte Mr. Thomas wedi spwreud 16,C0» o gtflBnau yn yttod y 16 mlynedd a basiodd, -r hyn sydd )n siarad yn nchel a'm ei gymeriad fel Undertaker. Cwmtwrch, Ystalyfera, Swansea, ART UNION PRIZE DRAWING, W, HICH w.11 tf-ke place at the Co-op. W erative Storrs. Owmtwroh, on the 15th day of August, 1878, in the prtsence of several gentlemen of the neighbourhood, when Mr. David Mathia., Bookseller, will put down the fallowing Pr.'zos, v z VALUE. a. d. 1. Peter Williams' Piototial Family Bible 4 0 e 2. Y P<Mth«y!hdd (8 Welsh Gxzottee^. of the World, two Vol* 2 2 0 3. Deonglydd Beirnladol Idrfsyn 0 11 0 4. Damegion a Gwyrtblau Crist 0 7 0 5. Meddyg Anifeillaid 060 6. Yolnma of Sermons, by the v. B. Evans, Pembroy 03 6 7, Gramadeg Te/ai 0 2 6 8. Llwybrau Moliatt 026 9. A Pair of Excellent Pictarca 0 18 0 10. & Handsome Flam 1 Gown .1 4 0 11. A Grand Turnover o 4 0 ,TTCKET3, SIXPENCE EACH. The Winning Numbers will be publisbed in the I Ts?,ian y Gwe-thiwr* for the fol- lowing week. Tickets may be had w'th Mr Bees Powell, Secretary, Cwmtwrch, Yttalyfera, Swansea, and Mr. Dvrfd Ma- thiss, Bookseller, Owmtwrcb, Ystalyfera, Swansea. Teimla Mr. Mt th'M yn ddiolchgar i bawb a anfono am Dooyn. THE ABEBDAB3 Harmonium & Cheffionere Organ WORKS. ESTABLISHED 1868. Øif4' o 0 o 8 z 1% 0 B. H. PHILLIPS, Harmonium Manufacturer and Inventor of the Cheffionere Organ, WISHES to inform the Public that he Hires Harmoniums, Pianos, and Cheffionere Or- gans. All lovers of Musio CIln new easily have an Instru- nant in their possesion. Harmoniums from 44 4s. to JE30. Chcffionera Organs from £ 10 10s. to J650. Pianos from £ 15 to JE66. Hiring Systew, List of Pries, and Testimonials on appli ation. Note the Address- 5, CANO. STEEBT, and 6 & 7, GADLYS ROAD, ASXKDAKC. GYMRU, 15EWCH AT Y: CYMBOI Peth Newydd yn Aberdir J DYMUNA B. II. PHILLIPS HYSBYSU v Cyho«id el fod yn barod i hurio DODREFN TAl O bob math, o w&eathur- iad cartrefoi, trwy dalu Deg Swllt y Mis. Dyma gvfle i bob un i 1!18el ei dy wedi ei ddodrefnu yn hardd, hab weled eisiau ei arian. Dxmuna B. H. PHILLIPS hysbysu i'r Cyhoedd ei fod wedi prynn bTOC newydd a helntth o DDEFNYDDIAU COFFINAU, rtof Trimmings, am Brisoedd Rbad, a thrwy hiny GALL WNEUTRURCOFIIINAU IN RHATACH NA NEB YN Y LLE. Cyterrfad- B H. PHI L L IPS, 5, Canon Street, and 6 and 7, Gadlys BOM, Aber day e. LLINELL YR ALLAN. Agerlongau Llythyrgodol Breiniol. Y MAE y linell bon n crtyg manteision neill- Y duol, a dylai ymfudwyr i uurh w ran o Ganada neu yr Unol Dalaethau, os yoyit yn awyddus am Rchnban%nacamaer,ymcfyna r* Times< Abndar; f!?' l\ kjlledjdd, &o., 67, Oxford Strtet, Mountain Ash OWEN MORGAN, Siberia VitIa, Llanwyno ROid, Pontypridd neu H ALLAN BROTHERS AND CO., James Street, Liverpool. IBA!!SAMOFHON?YI Gwellhad mewn pum mynyd oddi- wrth Beswch ac Anwyd. OS ydych yn dyoddef nos a dydd oddiwrth beswch poenus, ac o'r braidd yn analluog i siarad, cerdded, neu anadlu, dylech ddefn- yddio WiLLiAMs' BALSAM OF HONEY at Bes- wch, hen Anwyd, Byrder Anadl, Crygni, Poeri Gwaed, Croup, Influenza, Darfodedigaeth, &c. Y mae rhagoriaethau neillduol y Balsam yn ei effeithiau iachaol yn rhyddbau cryn- hoad yn y llwnc, yn galluogi y claf i boeri yn rhydd, ac i anadlu gyda rhwyddineb, tra yn gorwedd. Y mae yn gwellhau y doluriau a deimlir bob amser yn y fynwes oddiwrth beswch parhaus a thrwm, ac wedi ei gymeryd bydd i'r dyoddefydd fwynbau bendithion cwsg esmwyth. Y mae yn rhoi gwaredigaeth lwyr o dditfyg anadl, a rhyddhad o'r pesweh sydd yn ei ganlyn. Rhag pesweh, anwyd, &c., y mae y feddyginiaeth. oreu, yn hawdd ei gymeryd, ac yn nynod am ei effeithiau iach- aol a buan. I blant yn dyoddef oddiwrth y PAS, nid oes ei gyffelyb; y mae yn rhoddi gwellhad uniongyrchol. Ily GWELLHAD RHYFEDDOL I BLSNTYN. Gwnaeth un botelaid deh Balsam of Honey les mawr i fy mhlentyn chwe' mis oed, yr hwn oedd yn grug o'i enedigaetb, ac yn rhy wan braidd i anadlu. Y mae yn awr yn holl iach. CHARLES MATHEWS. Cwmdows, Colly, near Newbridge. GWELLHAD HYNOD O'R CROUP. Garedig Syr,-Da genyf allu dweyd i'ch Balsam of Honey achnb bywyd fy mhlentyn, yrhon oedd ar y pryd yn dyoddef oddiwrth y Croup. Cafodd lawer o esmwythder drwy y ddos gyntaf, ac y mae eich meddyginiaeth wedi ei hollol iachau.—Yr eiddocb, &C., Llanelli. JOHN SHIPTON. GWELLHAD PWYSIG O'R PESWCH, HEN ANWYD, A CHRYGNI. Cefais lwyr wellhad o'r dolurian blaenorol trwy gymeryd eich meddyginiaeth werthfawr a rhiuweddol, a adnabyddir wrth yr enw 'Williams' Balsam of Honey.' Dywedaf wrth ereill fyddo yn dyoddef felly, 'Dos a gwna yr un modd.'—Yr eiddoch yn serchog, Trealaw, Rhondda. PARCH. J. EVANS. Ar werth mewn costrelau Is. lie., a 2s. 9c., gan bob Fferyllydd. Y mae cryn ar- bediad wrth brynu y costrelau mwyaf. Darparemg yn unig gan— D. WILLIAMS, Fferyllydd, GADLYS, ABEEDAP^ NEWYDD DA I GLEIFION CWM- ABERDAR A RHONDDA. Anfona D. Williams, Chemist, Gadlys, Aberdar, ddwfr cleifiion i'w alalysio yn ddyddiol i T. Davies, M.Y.C.S., Conwil, Car- marthen. AT DB.IGOLIOS CWMBA.CH A'R OYLOHOSDD. DYMUNWYF yn gKrelig hysbysu fy mod yn barod, ar y rbvbadd lleiaf, i dderbyn arcbeb- ion (orders) am Goffiatu (a phob Z-aerweith), a siorhol waith (1* am j prig, eid h. t&L JOHN OWENS, 29, Rose Bow, Cwmbach. .dI Impurity of the Blood, Unless the blood be kept in a pure state tha sust be weakened and disease supervene. These wonderful Pills possess the power of removing or neutralizing all con- taminationa of the blood and system generally. They quietly. Jut certainly, overcome all obstructi ons tending to produce ui Health, and institute regular action in organs that are faulty trom irritation or debility. The dyspeptic, weak, and nervoua may rely on these Pills as their best friend and comforter, as ?hey act upon the main springs of life, and thus save thonsancU from a premature grave. Complaints of Women & Children. The very mild and painless action of these invaluable Pflk cecominonds them to every household as a remedy for the flrsi departure from health. Any mother, nurse, oryoung person guided by the directions which accompany each box of Hollo way's Pills, has at once available mean3 for checking itiinnnn. purifying the blood, and expelling from the system all gross humours. They are indeed, at all ages, the female's tried friend. Disorders of the Liver with Flatu- lency and Indigestion. Loss of appetite and flatulency are usually the forerunners of stomachic disease. These famous Pills exercise the most lalutary power in all affections of the liver, and all irregularities 4 the stomach and bowels; they restore a healthy function to f-ery internal organ, overcome an obstructions, and out out .J1 impurities. Weak Stomachs.-Impaired Digestion. The wisest cannot enumerate one tithe of the distressing symptoms arising from enfeebled digestion, all of which may be readily dispelled by these admirable Pills, as they rouse the itomoch, liver, and every other organ of digestion to that Wealthy tone which fully enables them to convert all food and i-ink to the nourishment of the body-hence, these Pills are th& < irest strengthened, and the safest restorative in nervousness, i "ting, and chronic debility. The Pills and Ointment are sold at professor TIOLLOWATIS Establishment, 533, Oxford Street, London, also by nearly every respectable Vendor of Medicine throughout the Civilised World, in Boxes and Pots, at Is. lid-, 2s. 9d., 4s. 6d., 11s., 22s, and 33s. each. The smallest Box of Pills contains four dozen; and the smallest Pot of- Ointment one ounce. Full printed directions are affiled to each Box and Pot, and can be had in any language, even in Turkish, Arabic, Armenian, Persian, or Chinese. No. 16-4.