Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

.FFUGCHWEDL Y LLWYNOG.

News
Cite
Share

FFUGCHWEDL Y LLWYNOG. 'MR. GOL.Y r wyf yn glynu o hyd gyda'r Owyllt, ac yn cael lie capus yma. Ni bum yn well fy myd erioed. Bywioliaeth yw hi ar y Llwynog yn awr." Rhyfedd y gwahan- iaeth yr wyf yn weled rhwng rhai lleoedd a'u gilydd. Tra yn y Cap ni chefais ond iS^rn a chynffonwyr i fy erliõ-yr oedd rhyw gorgi yn cyfarth amaf byth a hefyd, ond yma, fi yw top y tepot. Y mae pawb yn y cylchoedd hyn yn talu gwarogaeth i mi, ac m arbedir na thraul na. thrafferth i fy ngwneuthur yn gysurus. Credaf y telir mwy o sylw a gwarogaeth i mi yn y lie hwn nag a delir i Arglwydd Beaconsfield yn y Qynadledd yn Berlin. Mae rhyw si fed y Gynadledd yn dyoddef o'i herwydd ef, am Joad yw yn deall y Ffrancaeg; ond 'does neb yn gweled yr un diffyg ynof fi, gan mor dda yr wyf yn llanw fy lie. Dywedais na arbedir yr un draul i fy jugwneud yn gysurus. Yr wyf yn cael y danteithinn goreu y mae Mr. Cap Blewng yn allu fforddio, ac heblaw hyny gwahoddir fi gan rhywrai yn barhaus atynt i wledda. Yr oeddwn gyda Rhysyn y Crvdd y ddoe ar f'niaw, ac yr wyf yn myned at Twm yr un wydd yfory i gaei yr un anrhydedd. Heblaw fy mod yn cael y croesaw mwyaf gan y cwmni yma, gwahoddir fi gan berson- au y tu allan i'r lie hwn i ddvfod i dreulio ychydig amser atynt. Derbyniais lythyr' y ddoe o'r cwm nesaf, oddiwrth un Mr. Scram, Black Prince Terrace, yn gofyn a wnawn ddyfod i dreulio wythnos ato ef, fod dys- gwyliad mawr am i mi dilu ymweliad a'r cwm hwnw, a bod yno barotoadau mawrion ar fy nghyfer. Mae wedi newid dau fyd yn hollol arnaf, ac y mae y t>yd da yr wyf yn gael y dvddiau hyn yn gwneuthur mwy drusof nag a dybiwch chwi tua'r swyddfa yna. Nid y creadur tenau cyflym hwnw pan o flaen cwn y Cap gynt wyf yn awr, ond lwmp o fadyn tew, a bola mawr, tebyg i'r gaffers yma yn y cyffredin. Os bydd fy myd barhau am ychydig bach fel y mae yn awr, tyddaf ar fyr yn gymaint a Tichborne (Arthur Orton feddyliaf, cofiwch, ac nid Tichbonre y lIe hwn). Mi ddywedais yn fy Hith yr wythnos o'r blaen i mi gael cryn ddifyrwch gyda'r cwmri yn nhy Mr. Cap Blewog, ac y buaswn yn rhoddi y manylion yn y dyfodol. Yr wyf wedi arfer bod yn un a fy ngair, felly af yn mlaen yn awr i adrodd yr helynt. Yr oeddwn wedi penderfynu y mynwn allan hanes yr etholiad y cyfeiriai Cap Blewog mor fynych ato, a phan yn siarad am ei whydri rhyw dro, gofynais iddo pa beth oddem i ddeallwrth y gair canfaso, yr oedd yn ei arferid yn barhaus < Dywedais fy mod yn gwybod am fath o ddefnydd o'r enw cmvas, ond nad oedd genyf yr un syniad beth allai ystyr y gair canfaso fod. Y dyn,' meddai, ai nid ydych yn gwybod beth yw canfaso I Rhyfel mor anwybodus y mae bechgyn y gweithfeydd mewn mateyion 'gwladol. Ystyr y gair canfaso ydyw twyllo vo'*s lyny yw, myned o amgylch y tai ar amser etholiad, gan arfer pob twyll a dichell er sicrhau pleidleisiau dynion. Diolch yn fawr i chwi Mr. Cap Blewog, meddwn, am eich eglurhad ar y gair canfaso. Yr wyf yn deall bellach beth yw ei ystyr—twyllo vots, ond y mae un peth eto ag y carwn gael goleu arno, hyny yw, sut ydych yn gallu dallu dyn- dynion i gaei eu pleidieiaxau oddiarnynt. Wel, meddai, Cap Blewog, mae eich gofyn- iad yn eithaf priodol. Nid yw pawb yn deall y pwnc hwn, ond gwnaf fy ngoreu i ddangos i chwi y modd y cerir. y fusnes yn mlaen yn y lIe yma. Yr ydym yn gorfod defnyddio amryw foddion cyn y gellir sicrhau pleidleisiau dyn- ion. Nid yr un peth sydd yn ateb pawb. Y mae cynmnt o amrywiaeth yn mysg plant Adda. Y pwnc pwysig yn nghlyn a chan- yago ydyw adnabod y dyn, a deall beth yw y moddion gorau i'w ddefnyddio er sicrhau ei Heidlais. Chwi welwch yn awr fod y gwaith 0 qanvtso yn gofyn dynion call i'w gyflawni yn llwyddianus, ac yr oedd gyda ni fechgyn campus y tro diweddaf. Dyma Mr. Llais Mawr, ein blaenor; nid oes gwell canvaser yn y deyrnas y mae fel pe wedi ei ddonio mewn modd arbenig at gyflawni y gwaith hwn. Os bydd dyn i'w gael drwy ei ddenu, aid oes gwell nag ef i'w anfon ato; y mae yn meddu ar hudoliaeth y sarff. Os mai oygythion fydd yn debyg o brofi yn llwydd- ianus, y mae yn meddu cymhwysderau ar- beoig i gyhoeddi gwaeau. Y mae rhywbeth yn fawreddog yn ei edrychiad, ac y mae ei lais taranllyd yn ddigon i ddychrynu cedyrn. Bhiirwedd arbenig arall ynddo ydyw, eihyf dra. Nid yw yn prisio y peth lleiaf am neb na dim. Y mae mor dditater ag un o foch Sir Benfro. Nid yw fel pe yn gwybod dim am hawliau yr etholwyr, ond gwna ei ffordd dros ben pob peth i gyrhaedd ei amcan. Mewn gwirionedd, y mae yn ganvaswr diad, a. gwnaeth anfarwoli ei enw y tro diweddaf. Bachgen campus arall o'n hochr ni yw Dai Elba. Y mae yn ddiail i'w anfon at un dos- barth o'n hetholwyr i ymofyn eu pleidleis- iau. Byddai yn anhawdd i chwi feddwl am neb gwell i'w anfon at y dcsbarth mwyaf tlawd o'r etholwyr na Dai Elba. Dychrynu tlodion yw y ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau -eu pleidleisiau, ac njd oes neb gwell a £ hyny 11a Dai. Y mae Elba yn elyn anghymod- lawn i'r tlodion gwna bob peth yn ei allu i'w drygu Y mae yn gwybod am bob dimai a dderbyn pob tlawd trwy y plwyf. Y mae y tlodion gydag ef bob amser, ac y mae pob caniog a roddir iddynt tuag at eu cynal- iaeth yn peri dolur calon iddo. Afrad a gwastraff yn ei dyb ef yw y tal tlawd, a'i gredo yw y dylai pob dyn nad alio i|ttiil ei fywioliaeth gael ei adael i newynu. yw cyfranu i'r tlodion yn ei gyffes ffydd ac nid wyf yn gwybod am neb tebyg iddo et: dyddiau Nabal. Y mae tlodion y plwyf hwn yn dychrynu rhagddo; ac er nad ydynt yn ei garu, nac yn cael dim ynddo yn deilwng o'u jceinogaeth, tto gwnant roddi eu pleid- leisiau iddo 11m y cyntaf rhag ei ofn. Bu ef fel ein cyfaill Mr. Llais Mawr, o gryn was-' amaeth i'n plaid ni yr etholiad diweddaf, a ba^i rhai o fechgyn llygad?raff ein pi-tid yw, y buasem wedi colli y dydd filii buaaai am weithredoedd nerthol y brodyr hyn. Y mile Dai Mba, meddwn, yn rhvyym o fod yn ys- golor da, ac yc ddyn o wybodaeth gyffredir 01 helaetli cyn ei iod ui j' feiatrulgar nLVdl busnss npIwyfoL Camsynied i gyd, meddai Cap Blewog; y mae mor amddifad o ddysg a gwybodaeth ag un o hyrddod y Mynydd Mawr. Nid yw yn feddianol ar dalentau na dysgeidiaeth, ac nid dim o'r natur hyny sydd yn ei wneud mor ddefnyddiDl a gwasanaethgar i'w blaid, ond yn hytrach ei greulondeb a'i waseidd-dra. Bachgen rhagorol ydyw; nid oes t-byg iddo am ei ffyddlondeb. Pa mor gythreulig bynag y dichon cynllwynion ystrywgar rhai o fech- gyn mwyaf dyfeisgar ein plaid fod, bydd Elba yn barod i'w cario allan, a hyny mor hamddenol a didrwst a phe byddent orchwyl- ion arferol. Pan ydoedd Cap Blewog yn canmol Dai Elba, yr oedd golwg gynhyrfus ar Rhysyn Crydd, a gwnaeth amryw gynygion i godi siarad, ond yr oedd Twm yr un swydd yn ei dynu yn ol, a thrwy hynr cafodd Mr. Blewog lonydd i orphen ei ystoii. Mor fuan ag y terfynodd, dyma Rhysyn ar ei draed, a thra- ddododd araeth ardderchog ar yr etholiad diweddar a'i ystranciau; ond nid yw yn b sibl cyhoeddi ei sylwadau hyd yr wythnos nesaf. LLWYNOG.

BWRDD YSGOL LLANGIWC.

YR ALCANWYR.

Y NHW 0 GWMAFON.

AI GWIR Y SI?

YSTALYFERA—VERA A'I " SIOP…

TRIMS ARAN. ';;

PETHAU - CHWITHIG YN CLYDACH.

TRIOEDD BRITON FERRY.

AROLYGIAD GLOFEYDD.

Advertising