Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
[No title]
trywanodd yn ei ysgwydd, ei fynwes, a'i ben. Cymerwyd y Gwyddel i fyny, a chafwyd meddyg at yr archolledig. Gohiriwyd y prawf am wythnos, a hyny o herwydd fod Jones jn analluog i fod yn bresenol.
TRYTH Y SCLEMIN.
TRYTH Y SCLEMIN. Boreu heddyw, pan oeddwn ar fyned i'm gwely dan fargod ty engine gwaith glo y Cymer, gwelais olygfa dra thorcalonus, sef corff marw dyn yn dyfod i fyny o'r pwll, yr hwn gyfarfyddodd a'i ddiwedd trwy i'r top syrthio arno &'i ladd yn y fan. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Llwynypia. Buyno yddoe, a chafodd lythyr cymeradwy- aeth i fyned i eglwys y Cymer ond, druan o hono, cyri i'r llythyr dd'od i'r eglwys galwyd ef i ymddangos get bron brawdle lie inad yw llythyron yn gallu gwneud dim drofcto. Gobeithio fod y trysor ynddo.' Holi mawr sydd yma pwy all y Sclemin fed? Cwestiwn pwysig iawn. 0 byn allan, Mri. Gol, bydd llvraws o honom yn cyfarfod a'n gilydd mewn cynadledd unwaith bob mis o leiaf. Byddwn yno yn gosodi lawr y gwabanol faterion y bydd ein hysgrifeuydd i draethu ei Ion arnytt o bryd i bryd. Gofaled pobl y gwahanol gymydogaethau But y byddont yn ymddwyn o hyn allan, oblegyd bydd Sdemiri pob cymydogaeth drwy y cwm yn d'od i'r gynadledd i rtport-o dull y preswylwyr o fyw ac o ymdiwyn at en gilydd-yn gyfctal boneddig a gwreng, cpregethwyr a diaconmd, crefyddwyr a di- grefydH—pawb yn eu tro. Y report cyntef )r vyth::o< ar ol y neaaf. SCLEMIN.
LLYTHYR 0 BATAGONIA.
LLYTHYR 0 BATAGONIA. MRI. GOL.Derbyniais y llythyr hwn oddiwrth fy mrawd o'r Wiadfa, a chan fod cynifer yn ymholi a mi am dano yma a man- au ereill, dymunaf arnoch ei roddi yn y DARIAN, fel y gillo ei gyfeillion a cbyfeillion y Wladfa ei waled er n-id oes ynddo ddim yn neillduol am y lie. Maesteg. Rnys EvAlia. Drofafawr. Cbupat, via Buenos Ayres, Ebrill 16eg, 1878. t ANWYL FnA WD, Y n y mwynbad o'n h'ejhyd arferol, gyda gobaith eich bod chwithau yna oil fel perthynasau yr un modd, yr wyf yn arfon atoch y nodyn hwn trwy law J. G. Lewis, stamp office, Caer- iyrddin, yr hwn sydd wedi bod yn aros gyda ni am ddwy flynedd a tri mis, sc yn dychwelyd adref yr wythnos hon. Nid wyf yn mYDPd i ioddi dim o'n helyntion teuluol a gwlat f iol yn y nodyn yma, am ei fod ef yn bwriadu mor fuan ag y bydd iddo gael gwaied hollol o glefyd y mor dalu ymweliad peiionol gyda. chwi yn Maesteg, a phan y daw, holwch ef yn iawn, fel y byddo i chwi gael llon'd bol o helyntion Patagonaidd am unwaith beth bynag. Credaf nas gall ddweyd dim drwg, fel y mae arfer rhai, am y rhanbarth yma o iywodraeth y Brenin Mtwr. Yr oedd yn ddrwg ganyf weled fod masnach lo y Deheudir wedi bod mor wael y flwyddyn ddiweddaf, ac os yw yn parhau i fygwth cysuron tymorol, da enwi ceisiwch fyned i ryw wlaa lie gellwch godi angen- rheidiau bywyd eich hunain, serch myncd i wlad fel Patagonia. Yr ydym ni yn gwneud yn iawn yma beb godi yr un dynell o 10 yn ystod y flwyddyn. Y mae yr hwn sydd yn' berchen llo, fel rheol, yn llawer mwy sicr e angenrheidiau bywyd na'r hwn sydd yn berchcn glo, er fod TAR IAN Y GWEITHIWR yn taeru nad yw yn werth myned mor bell a Phatagonia er bod yn berchen llo. Yn Bier y mae yn werth cryn dipyn, ac i fyned cryn dipyn o ffordd er cael ei ddiwallu ag angen- rheidiau y bywyd piesenol; ac yn ol yr hanes a ddaeth yma, diameu y buaeai yn dda gan lawer yn Neheudir Cymru y flwydd- yn ddiweddaf i fod llo rhynddo a dyoddef eisiau angenrheidiau bywyd. Cawsom ni yma wledd iawn o fwynhad cyn ymadawiad ein cyfaill am Gymru. Aeth rhyw un ar ddeg o honom, ac yntau hefyd yn ein plitb, i'r ucheldir er canu yn iach iddo ac or rhoddi bendith Patagonaidd ar ei ben cyn ei ym. adawiad, trwy gael diwmod neu ddau o hela iawn yn ei gyfeillach. Cychwyn vsom am ddau o'r gloch prydifawn dydd Mercher diweddaf, a llwyddasom i ddal dwy yagy- farnog iawn cyn machlyd haul, a gwnawd swper ardderchcg o honynt yn yr awyr agored ac ar ol i bawb ddweyd eu profiad- aua'u teimladau mewn cysylltiad a'rbon- wr Lewie, awd i gysgu er deffro yn foreu, a bod yn barod i'r hynt helwriaethol gyda chodiad haul; ac yr oeddem adref erbyn i freniny dydd roddi nos da i goryn euraidd yr Andef, wedi dal wyth ysgyfarnog, dau lwynog, tri estrys, a un Hew, a phenderfyn- ■wyd ein bod wed'yn, yn ngnyd ag ereill, i gyfarfod yn llety y bonwr Lewis, er i bob un gael chwareuteg i ganmol ei gi a'i eeffyl yn yr helfa, ac i ganu O! tyred yn ol.' Yn awr, fe ga ef pan daw yaa ddweyd sut a beth oe^d yr areithiau a gafwyd, a aut hwyl a gafwyd. i. Tenyuaf yn awr rhag l mi syrthio i'r amryfusedd i fethu gorphen hyn o lith ar derfyn y ddalen. Em cofion oil fel teula at ein perthynasau a phawb a fydd yn holi am danom yn Maesteg.—Dy frawd, j0HN O.Y.—Dywed wrth Mr. Morgan, Saron, fy mod yn ddiolchgar iddo am ei lyfr. Yr wyf wedi ei ddarllen, ac y mae yn dda. Well dene, Gwilym o'r Berth.—J. C. E.
NODION 0 FFOREST FACH.
NODION 0 FFOREST FACH. MRI. GOL.,—Dlolch am helaethiad y DAR- IAN, ac y mae yn dda genym weled eich am can wedi ei sylweddoli. Hawyr bach, dyma le i'r Llwynog! Nis gallaf eich anerch yn mhellach heb ei wahodd. Anwyl Syr,—Ar ol darllen amrywiol o dy lyth% rau campus a dyddorol, yr ydym bell- ach yn dysgwyl i ti gyflawni dy addewidion i ddarllenwyr y DARTAN. Braidd nad yw amynedd glowvr Fforest Fach wedi ei dreulio wrth dy hir d dysgwyl i dalu ymweliad a'r ardal; rhoddaf iti ycbydig o gyfarwyddiad- au. Ar ol cyrhaedd gorsaf y Cockett, tro dy drwyn i'r gogledd dros heol y plwyf, hyd nes y cyrhaeddi gwesty o'r enw Marquis Arms, ac yna tro ar y llaw chwitb, a cbadw yn y blaen byd yr Heatbfield Inn, a thro dy drwyn i fewn, a chei yma Lar E s bodau ag iddynt neillduolrwydd mawr, nid amgen un a gaiuenwir yn Ddoctor R Shoni'i' Wen o Letty Siencyn, a'r Hen Fuwch Goch o wlad Defon. Clywais yr wytbncs hon fod yfuwch fechan wedi cael myned yn swyddog tan- ddaearol yn y pwll newydd. Rhoddaf hanes yr uchod yn llawn yn fy llithiau dyfodol. DEWI GARN GOCH.
Y NHW YN NGHLYDACH.
Y NHW YN NGHLYDACH. Mae nhw yn dweyd y buasai yn well i Berllanog godi i fyny gantorion yr ardallle y mae yn byw na chodi estroniaid i fyny i'r safle a wnaeth. Mae nhw yn dweyd na fu eisteddfod y Fardre ddim mor llwyddianus eleni a'r flwyddyn ddiweddaf, a hyny o herwydd marweidd-dra masnach. Mae nhw yn dweyd fod eisiau i fenywod clecog yr ardal i atal eu tafodau, a meindio eu busnes eu hunain-fod gwobr am hyny. Mae nhw yn dweyd fod contract i fod yn Nghraigycwm yn y dyfodol; cs felly, fe newyna lawer sydd1 yn byw yn Nghlydach a'r cylchoedd. Mae nhw yn dweyd fod y ceffyl sydd yn y icwniwedi codi ei drwyn yn uchel iawn er pan aeth yn swyddog. Mae nhw yn dweyd fed mwy o drais a gormes yn Nghwmlon o dan y c&ibraetore nag a fu erioed. Mae nhw yn dweyd y bydd yn rhaid i lawer orfod gadael eu tai a'u dcdrefn i ereill os cymerir contract ar ol yr un presenol. Yr wyf yo gobeithio na wneir, er lies y gweith- wyr a'r maanaebwyr. Mae nhw yn dweyd fod y contract yn taro badwyr, ceflylan, poachers, ffermwyr, tafarn- wyr, clercwyr, ao ysgolfeietri yn dda. Mae nhw yn dweyd fod dirwebt yn dechreu agor ei llygaid yn yr ardal hon. Mae nhwyn dweyd i gyfarfod drrwestol gael ei gynal yn yr Ysgoldy Prydeinig yma, a Chadben Davies yn gadeirydd. SHOBBY.
.GWYL GERDDOROL TONYPANDYl…
GWYL GERDDOROL TONYPANDYl A DARLLEN CERDDORIAETH. Yr oedd yn flin genyf oblegyd yr amryfus- edd ddygwyddodd o barth i'r eight singing tests' oedd i gael eu rhoi i'r cor yn nghyfar- fodydd yr wyl uchod. Yr oeddwn wedi anfon am danynt yn brydlcn, a chan eu bod i gael eu gyru i ofal personau tu allan i neb i'r cor, nid oeddwn: wedi cael lie i ddychy- mygu nad oeddynt wedi cyrhaedd mewn amser dyladwy; ond erbyn y dydd, cafwyd allan na wydddai yr un o'r boneddigion apwyntiedig i'w derbyn ddim o'u helynt. Mae y llythyr canlynol yn egluro But y bu "Plaistow London, E., I June 13th, 1878. "DEAD SIR,-I am very sorry that the sight tests were &ent too late. It was pure- ly accidental. They were done up and ready to go in' time, but put aside, and by oversight they were quite forgotten until Tuesday morning, and I sent them then. I can enly express my extreme regret at the oversight. Yours, &c., "ROBERT GRIFFITHS. "Mr. D.* Boallt Jones." Trwy hyn fe welir iddynt gael eu postio dranoeth i'r dydd apwyntiedig iddynt gael eu defnyddio. Daeth y ddau sypvn i law, mae'n debyg, y naill i ofal Mr. Williams, Grovefield House, a'r llall i Dr. Jones, Ton- ypandy, ac y maent yn aros heb eu hagor. i r oedd y prawf rhoddwyd i'r cor yn nghy- ngherdd yr hwyr yn un rhwydd iawn ond yr wyf yn aicr na welwyd scrap o hono gan yr un o honynt cyn hyny. Ond rhag i neb dybied fod rhywbeth tebyg i gamchwareu wedi cymeryd lie, yr ydym wedi penderfynu OWtdd nos Wener, yr 28ain cyfisol, yn Ebenezer, Tonypsndy, i fyned drwy' neu 'dro! os mynwch, y darnau genuine, 80 yr ydym yn gwahodd y sawl a lyno o'r cyhoedd ifod yn bresenol, a byddai yn bleser mawr genyf weled llawer o gyfeillion cei ddgar o fanau ereill—arweinydtlion corau ac ereill yn bresenol, nid er mwyn gwneud rhyw ar- ddangosiad yn eu gwydd, pe byddem yn sicr y gallem wneud hyny, ond er mwyn galw syiw arbenig at a rhoi mwy o bwys ar ddysgu darllen cerddoriaetb, yr hwn bwnc, i'm tyb ostyegedig i, sydd yn cael ei esgeu- luso yn onnodol yn mhlith ein corau.—Yr eiddoch yn ffyddlon, D. BUALLT JONES.
ART UNION BRYNFFERWS.
ART UNION BRYNFFERWS. MRI. GOL.,—Crefaf am ychydig o'ch gofod er rhoddi atebiad i'r hyn a ymddangosodd yn eich newyddiadur yr wythnoB ddiweddaf gan ua "Gwyliwr." Y mae yn ddrwg genyf ddweyd nad yw y Gwyliwr" hwn yn llanw ei enw, onite ni fuasai eisiau iddo ysgrifenu eglurhad yn nghylch y drawing o gwbl, gan iddogymeryd lie ar y dydd penodedig, sef y 18fed o Fai, ac hefyd i'r winning numbers i ymddangos yn y Western Mail ar y 25ain. Carwn i "Gwyliwr" fed yn fwy gwyliad- wrus o hyn allan; ac cs bydd cystal ag edrycb yn y seithfed colofn ar dudalen gyntaf o'r We8tern Mail am y 25ain, tebyg y caiff ei siomi YSGRIFENYDD.
Y NHW O'R HAFOD, CWM RHONDDA.
Y NHW O'R HAFOD, CWM RHONDDA. Mae nhw yn dweyd fod masnachwyr hen gount yn ddig am fod siop arian parod newydd wedi ei hagor yn y Ile. Mae nhw yn dweyd fed rhai o honynt wedi bod yn dweyd wrth y trafaelwyr ei bod yn gwerthu ar y cost price, ac na phrynant nwyddau ganddynt os ceddynt yn gwerthu i berchenog y siop newydd. Mae nhw yn dweyd fod plant rhai o'r mas- nachwyr yn gwylied pwy ydoedd yn prynu yn y siop newydd, am eu bod hwy wedi colli rbai o'u cwsmeriaid. Mae nhw yn dweyd y bydd y siop newydd yn sicr o wneud daiom yn y lie am ei bod yn gwerthu yn rhad, ac am ei bod yn amser m<Mae nhw yn dweyd fod ysgol Bethel yn bwriadu myned i Penarth ryw ddiwrnod yn yr haf yma, ac y byddant yn cael eu cludo am haner pr,is. l\ £ ae nhw yn dwey d fod rhai dynion cyf- rifol yn y lie yn tori y ddegfed orchymyn. Mae nhw yn dweyd fod un o honynt wedi rhoddi a>mryw foteli o frandi am gadw y secret, ond methwyd. dal. Mae nhw yn dweyd fod hehethiad y DAR- IAN yn sicr o wneud cynydd yn ei gwarth- iant. IFFG&L UN o HONOM Ni.
GWRAGEDD YN VFED.
GWRAGEDD YN VFED. MRI. GOL.Onid yw penawd fy llythyr yn swnio yn gas 1 Eto y mae yn rhaid cyfadd- eF fod yr arferiad o yfed yn amlhau yn ein plith ni y menywod. Nis gwn yn iawn beth i'w ddweyd na i wneud mewn cysylltiad a'r arferiad aflan, ac eto yr wyf yn teimlo y dylwn i ac ereill o'm cydwragedd godi eia lleisiau yn ei erbyn. Y mae canoedd o hon- om yn yfed heb yn wybod i'n gwyr, ac yn ymgynull at ein gilydd yn gyplau ac yn rhagor er cael glasiaia 0 short yn nghyd. Mae huriau y gweithwyr yn awr yn ddigon bach heb eu gwario am ddiod, ac eto yr ydwyf yn gwybod am fenywod sydd yn gwario sylltau bob wythnos am ddiodydd meddwol. Ouid yw 3 n drueni fod masnachwyr ac ereill yn gorfod dyoddef collodion trymion o herwydd meddwi gwyr a gwragedd diegwyddor 1 A'n syniad i arypwnc ydyw, naddylai y cyfryw sydd yn nglyn a'r arferiad hwn—yn wryw na benyw—gael dim gan un masuachwr heb dalu am dano. Gwn am luaws sydd yn drwm ar lyfrau y siopwr, ao yn ymwnend gryn lawer ar yr un pryd a'r ddioden, ac yn talu hefyd am hono cyn ei chael. Yr unig beth yr wyf fi yn meidwl ei wneud mewn cysylltiad a'r drwg hwn sydd yn ein plith, ao erfyniaf hefyd am gynorthwy menywod ereill at hyny, ydyw rhoddi rhestr o enwau y menywod sydd yn yfed, a aylwadau arnynt yn eich colofnau. Nid enwau gwragedd yr ardal yr wyf fi ya byw, cofier, Ond yr wyf yn meddwi teitbio yma a thraw mor amled ag y medtaf i edrych am y dosbarth hwn, a cheisio codi cywilydd arnynt ttwy wneud darlun teg o honynt. Y mae Uuaws o hon- ynt yn greaduriaid afiach, yn ami i'w cael yn gorwedd am oriau ar eu gwelyau yn dost, ao yn Uwyddo i dwyllo bobl am amser. Un peth yr wyf waeud wrth ddeohreu ar y gwaith ydyw, peidio gwneud dim a'r gorphenol, end yn unig a'r presenol, fel ag i roddi eithaf chwareuteg i fenywod adael yr arferiad yn dctison cyhoeddus am danynt: ond os d'ont o dan sylw, y mae yn rhaid wrth wneud v darlun gymeryd y gorphen- ol yn gystal a r presenol i mewn. Bydd yn dda genyf gael unrhyw awgrym- iadau mewn cysyUtiad a'r gwaitb, a chyr- baeddant fi yn ddyogel trwy ddwylaw cy- hoeddwyr y DARIAN, wedi eu cyfeirio at yr eiddoch yn ddifrifol. JANE.
"h CWMAFON.
h CWMAFON. Mri. Gol.,—Gwelais yn eich TARIAN am yr wythnos ddiweddaf Drioedd o Cwmafon," gan ryw hen wr yn dwyn y ffagenw Cadell, a thua diwedd ei lith gwelaf ei fod vn cyf- eirio ei saeth ataf fi yn bersonol, gan ddweyd, Tri pheth yr wyf yn eu mawr anghymer- adwyo Y cytundeb diweddar a Mr. Shaw, ysgrif anwireddus J. M. yn ei gylch yn y DARIAN am y l7eg cynfisol, a dull Uechwr- aidd ein 'bechgyn ni' yn ei gysyHtiad a gwaith y Tewgoed.' Nid wyf yn synu cymaint eich bod yn anghymeradwyo y cytundebau diweddar a Mr. Shaw, o-herwydd eu bod yn gytundebau treisiol a gormesol i'r eithaf ondyr wyf yn synu yn fawr eich bod yn udganu fod ysgrif J. M. yn eu cylch yn anwireddus. Caraswn yn fawr pe buasech yn esbonio neu yn profi pa beth cedd yn fy ysgrif yn anwireddus 1 Nid wyf yn credu i mi ddweyd dim anwir- edd ar y pwnc y crybwyllwch am dano; ac os oeddech yn gweled rhyw beth allan o le yn fy ysgrif, neu ynte yn canfad fy mod wedi dweyd anwiredd, paham na fuasech yn ysgrifenu, ac yn tystio i m herbyn y pryd hwnw, yn lie cadw y wlad am gyhyd 0 amser o dan y fath dwyll caddugawl ac an- wireddus ? Eisiau dynoethu pob twyll ac anwiredd sydd, ac fe gaiff ei ddynoethu rhyw ddydd a ddaw; ac yn awr CadeU, neu Hen Wr, rhoddaf her i chwi i brofi fy mod wedi dweyd anwiredd yn yr ysgrif a soniweh am dani, yn lie pwffio eicn Trioedd i'r DAR- IAN gan ddweyd fy mod wedi dweyd anwir- edd, ac heb yr utl rhith o sail genych i'ch haeriadau anmhrofedig. 'Profwch bob peth,' medd yr hen lyfr; ie, ac yn awr profwch chwithau fy mod inau wedi dweyd anwiredd, a pheth oedd yr anwiredd a ddywedais, yna byddwn yn gwvbod amean ar bwy air y byddwn yn sefyll. Fy mhrif bwne yn was- tadol ydyw parchu hen bobl, ond nis gallaf ar un cyfrif droi heibio hyd yn nod i hen bobl heb wrthdystio yn eu herbyn, os gwelaf eu bod ar gam. Er fod llawer o hen febl yn fwy profiadol na mi, eto i gyd nid yw hyny yn ddigon o brawf mai hwy sydd ar y tir iawn bob amser na, y mae llawer o gam- syniadau dybryd yn perthyn i hen bobl lawer pryd, ac felly chwithau. Os mae hen wr ydycb, (ond y mae yn amheus ar yr un Sryd,) profweh eich gosodiadau, ac os wyddwch yw profi, yna dywedwch fy mod wedi dweyd anwiredd. Credaf fod rhyw swn yn ngwersyll eich ysgrif yn dweyd eich bod chwi yn ferthyr i'r blaid ddarfu fyned i mewn heb yn wybod bron i'r blaid arall; os felly, nid i'w yn syndod eich bod wedi ffromi cymaint wrth J. M. Gorphwysaf yn awr gan obeithio na fydd i'ch heniant a'ch methiant fod yn graig rhwystr ar eich ffordd i brofi eich gosodiadau, set pa a pheth oedd yr anwiredd a ddywedais. J. MORGAN.
SWYDDFA'R GWIRIONEDD.!
SWYDDFA'R GWIRIONEDD. Dinas, Pontypridd, Meb. 18, 1878. Yn ol fymwriad. aethum i lys y Pentre ddydd Llun diweddaf, ond ni ddaeth case gan y LIwynog yn mlaen, yn ol y dysgwyliad. Y mae'n debyg iddo gael swm go dda am setlo'r mater. Er hyny, eisteddais dipyn yno i orphwys fy hen gorpws, a chlywais ca?e yn mlaen gan ryw wraig ddigon prydferth yr olwg ami. Cyhuddai wraig arall oedd yn byw yn agos iddi o ymosod mewn modd blagardaidd arni. Y mae'n debyg fod gwr y wraig ar y mor, ac i'r erlynyddes gymeryd mantais o hyny, a myned i'w thy hi a rhoddi golchfa iawn iddi, er boddio ei thueddiadau maleisus a drygionus, am yr hyn y cafodd y fraint o estyn ugain swUt tuag at gynorthwyo i dalu treuliau'r Hys, &c. Aethum am dro wedi hyny i un o hoff drig- fanau'r Llwynog, heibio i dy machgen i," ac i ben mynydd cyfagos. Yr oedd golwg brydferth ar y lleoedd wrth droed y mynydd. Ondyn mysg y ceinion, dyna anbardd i'r olwg oedd y onygraig B-jection sydd yn ymyl y ffordd rhwng ty y "tafarnwr tew' a thy Mr. V. Wed'yn cyfeiriais fy ngolygon tua godrau'r mynydd. Gwelwn res o adeil- adau unlloriog, a cheffylau yn cyrchu tuag atynt. Deallais wed'yn mai ystabl oedd yno. Yn ymyl yr ystabl yma yr oedd ychydig o dai hen ffasiwn; ond tynwyd fy sylw yn neillduol at un ty ar ei ben ei hun, gyda choed talfrigog yn tyfu yn eiymyl, Yr oedd mwy o fusnes yn cael ei gario yn mlaen yno nag yn un o'r lleill, er mai efe oedd yr an- nhebycaf o fod yn dy busnes o'r lotigyd. Bon- eddigesau a gyrchai fwyaf yno, ac ambell i ddyn barfog. Tynodd un barfog fy sylw yn neillduol. Trwy gymorth fy yspien- ddrych gwelais mai dyn o olwg fawreddog ydoedd, ac hunanol, drwgdybus, erlidgar. Wedi aros tipyn fan hono, es am dro ir ystabl, ac holais am y ceffyl gwyn; ac yn mysg pethau ereill, gofynais pwy oedd yn C, byw yn y ty a dynodd fy sylw. Dywed- wyd wrthyf mai mam a'i merch gwybodus oedd yn byw yno, yr h n oeid wedi ei breintio ag ysbryd proffwydoliiethol. JJeall ais mewn mynyd wed'yn beth oedd negeseu- on y boneddigesau ac ereill yno, sef cael elywed eu ffortiwn. Clywais enwi rhai bon- eddigesau heirdd yr olwg arnynt a fuont yuo. Ffei! ffei! ferched yr Y sgol Sul, yn cefnogi'r fath ysbwrial budreddus. Da-th thai gwyr i'r ystabl, a bum yno yn eistedd ar yr hen goffr ceirch am amser yn gwrando ar ymddi- ddan a fu rhyngddynt. Siarad am y gwaith y buont, a tbyma yr ymddiddan yn agos air am air. Shadrach.—Dyma alteration sy'n y gwaith yma 'nawr, onte fa, bachan? Mesach.—Ie'n wir; y mae unpeth da iawn ragor oedd yma o'r blaen. :MM'r dyn cy- mwysaf o'r hen weithwyr yn cael y siawna o gael jobo rhyw dipyn bach yn well na'r cyff- redin. Twmi.—Ydynt, ydynt; nid dyma fel 'roedd hi o'r blaen. Yr oedd dyn dy eithr yn mhob peth o'r blaen, amser 'roedd y ceffyl gwyn a'i farchogwr yma. Mae'n dda gen 1 wel'd fod pethau yn gwella. Shadrach.—A fina' hefyd; mi wn i fod ein manager ni yn awr yn l<co gwel'd bechgynach ar eu heithaf i ddyfod y'imaen. Twmi.-Oti, oti, ma' fa wedi stico yn fawr i dd'od i'r man lie ma' fa, ac ma' fa yn llanw 'i le yn dd^ iawn hyd yma; w' i'ngobeitho y pariff e' fel yna, ond wedi'r cwbl 'does dim posib pleso piwb. Ar hynyna o siarad, dyma wraig a dau o blant bachain ganddi yn dyfod i mewn i'r 'stabl; tybiais ar unwaith fy mod wedi ei gweled hi yn rhywle o'r blaen. Aeth yr vmddidd m yn mlaen yr un modd wedi iddi hi ddyfod i mewn. Shad.—Clywaist ti fod rhywun wedi re- portio i Mr. Wales fod tan .mawr yo y pwll isaf ? Twmi.—Do; dyna dro brwnt, onide? Gwn am y fan, fuo i yn y pwll ddoe yn gwel'd y lie. Y Wraig.-Gen i rwpath i 'wed os ca i, fi'n gallu guso'n net pwy sy' wedi hula fe. Holws rhai lythyr yn ym erbyn hi ddydd Llun, a chlywas taw mewn hen dy a gwisg newydd am dano y cyfansoddwyd y llythyr, ar brydnawn dyda Sul gan borti bach o dri; i chi'n eu 'nabod nhw'n net, ond enwa i mo honi nhw ac ma' gen i beth arall i wêd, ma' nhw yn fond iawn o repor tio. Ar hyn 'nabyddais y wra'g taw hi oedd yn mlaen dydd Llun yn erbyn y wraig hono yn y Pentre. Meowh.-Man mamgu ni wedi myned am walk i weled Mr. Wales, iddo gael dweyd y gwir wrthi, welwch ch'i. Twmi.-Dyna walk nice iawn, walho ar fusnee hefyd; ond gwjfddoch ch'i beth, y mae pobl ddrwg yn gaUu gwneud llawer iawn o drafferth 1 ddynion, onid ydynt I Shad.—Otin, otin, ond gaUa nhw ddim cynllwyno'r drwg heb dipyn o drafferth, a r brati amser nhw 'u hunain hefyd. Twmi.—Clwast ti iddi nhw gael twil yn y pwll isa ? 0 nhw yn dwll pan y bus i yno, ac fi wclas bryd hyny na allsa nhw ddim gwneud ragor tuag at glirio'r gas, Buas yn siarad ar gweithwyr, ae o'n nliw'n gwed ei bod hi'n dwym iawn yno Crown ni yn ei theimlo hi felly hefyd). Nhw wetson hefyd gyda llaw fod pob peth yn cael ei wneud yno tuag at glirio'r gas. Fi welas i ddyn yn troi fan fach gymaint alia fe, a 'doedd y manager yn edrych dim ar yr expense. Ma' gas yn arfer bod, ch'i wddoch, mewn ffyrdd air pan ma' nhw yn cael ei heado (?). Os, 6s, yn wastad. Wei, dyivar unig man yr oedd oas yn y pwU iaaf pan y reporhiwyd ef i Mr. Wales. Bellach fe fydd gwell awyr yn y ddau bwll, ac o ganlyni»d nhw fyddant yn ddiogelach i'r canoedd sydd yn gweithio ynddynt, ac fe gaiff llawer o ddynion waith yn y pwil isa, a bydd hyny yn ddaioni cyff- redmol i'r ardaloedd yma. Clywais lawer iawn o bethau ereill cyn symud oddiar yr hen goffr; ondlzhag blino eich darllenwyr a meithder, terfynaf y tro yma.—Yr eiddoch yn gywir, BRAWD TWM DWEYD Y GWIR.
ABERTAWE.
ABERTAWE. Parry a'i Gor, neu yn hytrach a'r C6r Cy- mreig, oedd testyn yr wythnos yma. Bwr- iadai, yn ol yr hysbysiadau cyntaf, i gael cyngherdd nawnol, er mai boreuol daywedai yr hysbysleni am dri o'r gloch y nawn, ac un hwyrol am saith; ond ni enwai'r ail hysbys- leni, y rhai oedd fwyaf eu maint o ddigon, ond am yr hwyrol, ac feUy ychydig ddaetn yn nghyd, a gorfuwyd ei gohirio hyd yr hwyr. Sa un a drodd allan yn dda iawn—cynuUiaa a, canu da, a phawb yn synu at gymeriad y dernyn. Talodd Cymry y dref Seisnigaidd hon warogaeth i Parry ar ei ddychweliad, wedi derbyn gwarogaeth uchaf y Brif Ysgol yn Nghaergrawnt. Y mae. achos tram cars yr heolydd yn cael ei wrthwynebu yn mhob agwedd gan awdur- dodau a phersonau unigol yn y dref yma yn y naill lys a'r Hall. Bu yr achos am ddefn- yddio ager ar gangen y Mumbles o flaen y Chancery yr wythnos hon. Dadleuai rhai personau fod y peirianau yn dychrynu y ceffylau ar yr heolydd, ac felly yn peryglu bywydau y teithwyr. Dyfarniaa y Hys oedd, "Fod perygl," ac felly nas gallasent, ddefn- yddio y peirianau yn hwy. Ar ocldefiad. y maent yn awr hyd nes gallant droi y peir- ianau i ffwrdd, a rhoddi y ceffylau yn ol yn eu lie.
BRITON FERRY.
BRITON FERRY. Tawel ryfeddol ydyw* pob peth yma yr wythnos non—masnach yn angliyffredin o farwaidd—dim newydd da o un cyfeiriad— pawb yn sychedu am newyddion oddiwrth yr luddew sydd wrth lyw ein llywodraeth. Gobeithio y tyr y wawr yn fuan, ac y cawn ddyddiau hafaidd eto mewn masnach. Clywais fod Iarll Jersey yn bwriadu dyfod i fyw i'r lie yma am tua thri mis bob blwydd- yn gobeithio mai gwir yw y newydd, ac y bydd iddo deimlo dyddordeb yn y He a'r porthladd fel ag i roddi ychydig fywyd new- ydd i'r ardal. Byddai yn dda hefyd pe gwnelai arolygydd y Hywodraeth dalu ym- weliad a chymydogaeth yr Ysgoldy Genedl- aethol, er cael golwg ar yr hen fur uchel foel sydd rhwng y play-ground a'r ffordd fawr, pa un y mae ei phen yn level a'r play-ground, heb ddim i atal y plant i gwympo neu daflu eu gilydd drosodd i'r ffordd fawr. Cwymp- odd plentyn drosti y dydd o'r blaen, a choll- odd un o'i lygaid, ac anafodd ei hun yn ddir- fawr. Daeth y son iddo farw, ond deallwyf ei fod yn gweUa. BRYTHON.
6œ}ltt'bon}lbtr. it
6œ}ltt'bon}lbtr. it Yr ydym wedi bwriadu i'n cyffles newydd -sef cyfres helaethiad y DARIAN—i fod yn addysgiadol ar bethau o bwys; ac yr ydym yn dechreu yr wythnos hon yn yr hyn a ganlyn.
PETHAU DEDDFYDDOL.
PETHAU DEDDFYDDOL. EWYLLYS.—Byddai yn dda gan lawer o'r Cymru wybod pa fodd i wneud ewyllys ar eu meddianau. I'r diben o wybod beth i'w wneud, y mae yn angenrhcidiol edrych i ffeithiau. Y mae un c se go hynod wedi cael ei benderfynu gan Ju^ge Waneo, yn Dublin, yn ddiweddar. Yr oedd dyn, yr hwn oedd am wneud ei ewyllys, yn glaf yn y Typhus f-ver. Anfon odd i mofyn dau ddyn i fod yn Execiitorv i gario allan ei ewyllys ef. Nid aent i'w dy ef o herwydd y dwymyn. Gosodwyd bwrdd, ac ystolion tu allan i ffenestr ystafell y dyn claf, mewn man lie y gallai efe weled y rhai a eisteddent yn ymyl y bwrdd. Appwyntiwyd bachgenyn oedd wedi cael y dwymyn i fod yn genad rhwng y dyn claf a'r rhai oedd yn gwneud ei ewyllys ef. Wedi gwneud yr ewyllys, rhoddodd yr ewyllysiwr ei fare wrtho yn ngolwg y rhai a eisteddent wrth y bwrdd. Wedi hyny sy- mudwyd y dyn claf i'r hospital, lie y bu farw. Gwrthwynebwyd rh< ddi yr ewyllys mewn gweithrediad o herwydd y dull uchod o'i wneud; ond dywedodd Judge Warren yn y Hys, nad oedd efe yn ystyried ei bod yn beta angenrheidiol i'r rhai a ysgrifenent ac a roddent eu henwau wrth yr ewyllys fel tyst- ion i osod eu bywydau mewn perygl trwy fyned i ystafell y dyn claf, a rhoddodd fam fod yr ewyHys yn un cyfreithlon.
PETHAU MEDDYGOL.
PETHAU MEDDYGOL. Y Tclmtodd.- Y mae doctor yn America wedi tystio ei fod ef wedi cael Hysieuyn y Plantdgo Me-jor, yr hwn sydd yn effeithiol i wolla y ddanoddd. Chopir y dail a gosodir hwy mewn potel yn llawn alcohol am wyth- nos. Yna gosodir ef yn y dant ar lint. Jtfa'en.—Y mae halen yn gwella doluriau. Gwellodd gwraig abcess yn y breast mewn un case trwy roddi ymenyn hallt ar y clwyf. Y mae rhoddi bys mewn dwfr ac yn yr halen, a rhoddi hwnw ar glwyf ar y llaw yn gwella y clwyf. Y mae ring worm, wedi cael ei wella fel hyn. Cynyrcha boen am ychydig fynydau, ond sicrha welliant.
PETHAU YSTADEGOL
PETHAU YSTADEGOL Ymosodiadait or Benau Cowboy.—Y mae 28 o ymosodiadau wedi bod ar fywydau per- sonau perthynol i deuluoedd brenhinol, yn ystod y 30 mlynedd diweddaf. Ymosodwyd ar Due Modenayn 1848; ar Dywysog Prws- ia(yr Ymherawdwr presenol, sydd ynd»dd- ef yn awr) yn Mehefin 1848; ar y Brenin Prwsia blaenorol yn 1852; ar Ymherawdwr Awstria yn 1853; ar Victor Emanuel yn 11853; ar Napoleon III, yn 1854; ar Due Parma yn 1854; ar Napoleon III, yn 1855; ar Isabella Spain 1856; ar Frenin Naples yn 1856; bradfwriadwyd yn erbyn Napoleon III, yn 1857 lluniwyd yr Orsine Plot yn erbyn Napoleon III, yn 1858; saethwyd at Frenin Prwsia yn 1861; saethwyd at Fren- hines Groeg yn 1862; bradfwriadwyd tri Italiad yn erbyn Napoleon III, yn Llundain yn 1862. Lladdwyd yr Arlywydd Lincoln yn 1865. Ymosodwyd ar Ymherawdwr Rwsia yn St. Petersburg yn 1866, ac wedi hyny arno yn Paris yn 1867. Lladdwyd Tywysc-g Servia yn 1868. Ymosodwyd ar Frenin Spain, sef Amadeus, yn 1871. Lladdwyd Arlywydd Peru yn 1872; a Llywydd Bolivia yn 1873; a Llywydd Ecuador yn 1875 a Llywydd Paragway yn 1877. A gwnawd ymosodiad ar fywyd Ym- herawdwr Germani ddwy waith yn 1878, aef ychydig amser yn ol, y flwyddyn hon. Parhad Seneddau.—Ar adeg ag y mae cryn lawer o son am doriad 1 fyny y Senedd, nid anfuddiol fyddai cymeryd t cipdrem ar barhad y deg Senedd sydd wedi ymgynull a thori i fyny er pasiad y Rejyrm Act. Cyfartaledd eu hyd fu oddeu- tu tair blynedd a deg mis. Y Senedd hwyaf ydoedd yr un a ymgynullodd yn Tachwedd, 1859, Jac Arglwydd Palmerston yn Brif Weinidog, ac a dorwyd i fyny wedi parhau chwe' mlynedd un mis a chwe' niwrnod, yn Gorphenaf 1865, a hyny mewn [canlyniad i ymddiswyddiad yr Arglwydd Ganghellydd (Arglwydd Westbury,) wedi pasio bleidlais o anghymeradwyaeth arno gan Dy y Cyffred- in. Senedd hir arail a ymgyfarfyddodd yn 1841, ac a dorwyd i fyny yn Gorphenaf, 1847, wedi parhau bum' mlynedd un-mis-ar- ddeg a phedwar diwrnod. Y Senedd dan Brif Weinidogaeth Mr. Gladstone, a ym- gyfarfyddodd Ionawr 26ain, 1874. 'Y byraf or deg a ymgynuHodd Ionawr 29ain, 1833, ac a dorwyd i fyny Rhagfyr 30ain, 1834. Ymgyfarfyddodd y Senedd presenol am y m tro cyntaf Mawrth 5ed, 1874, ac wedi parhau felly am bedair mlynedd a thros dri mis, neu bum' mis yn hwy na chyfartaledd ei flaenor- iaid.
LLENYDDOL.
LLENYDDOL. Y mae erthyglau ar amaethyddiaeth yn ymddangos yn y Cambrian New8. Dywedir y bydd rr erthyglau hyn crael eu cyfieithu i'r Gymraeg a'u cyhoeddi yn llyfryn wedi iddynt gael eu gorphen.
Y NI YN NGHWMAFON.
Y NI YN NGHWMAFON. 'Ry'm ni yn dweyd fod mwy o anghyf- iawnder yn cael ei arter at weithwyr y lie hwn yn bresenol nag a welwyd erioed, a llyfeitheiri&u trais a gormes yn cael eu gwneyd yn dynach yn feunyddiol. 'Ry'm ni yn dweyd mai ofer yw gweithio am gyfiawnder trayn gweithredu yn anghyf- iawn en hunaio., trwy grQpio37 y cant ar lowyr, pan nad oedd ond yohydig bwysi o in Wish yn en glo. Auwyl gydweithwyr, pa hyd y goddefir i neb ormesu arnom ? Omd dymunol fyddai gweled galw y cyfryw di- egwyddor oddiwrth eu gwaith at eu gwobr ? 'Ry'm ni yn dweyd mai gwell yw golchi defaid heb gwrw, na bod tad a mab yn ym- ladd ac yn cernodio eu gilydd a ffyn wrth ei gael. Cywilyddied y cyfryw ddynion difoas ac ymrysongar. 'Ry'm ni yn dweyd mai balchder ydyw prif bechod y lie bychan hwn. Da chwithau, gyd-ddynion, rhoddweh ffrwyn yn mhen yr angenhenfil dinystriol, fel yr atalier ychydig ar ei ystranciau. 'R'ym ni yn dweyd fod 'saint pen flyrdd a diaftiaid pen pentan' yn y lIe hwn, y rhai y byddai yn dda iddynt gofio y gorchymyn hwnw Na ddwg gamdyistiolaeth yn erbyn dy gymydog,' ac edliw iddo ei fod wedi Uadrata ei eiddo. 'R'ym ni yn dweyd fed rhai o wyr y 'neis- ied wen' yn fwy eu gofd am y game nag am eu praidd, a'u bod yn ymhyfrydu mwy yn y dryll a'r c,vn nag yn achubiaeth pecnadur- iaid. Gwell ganddynt hwy rodiana ar hyd y mynyddoedd, gan beri colled i"ni, yr am- aethwyr, na cheisio troi annuwiolion o gyf- eiliom eu ffyrdd. 'Ry'm ni yn dweyd mai araf iawn y try olwynion masnach yn y lle, ao fod llawer oedd yn brin o fara beunyddiol. Gresyn, onide, fod y gweithiwr caled yna yn methu cael yr hyn ddylai pan y mae ystorfeydd ein gwlad ar dori gan lawnder ? Gobeithio y gwelir haul Uwyddiant yn tywynu arnom eto cvn hir, yn ei wres a'i danbeidrwydd oyntefig. Y Ni.
iY GWEITHIAU TANDDAEAROL.'
Y GWEITHIAU TANDDAEAROL.' Nis gaUwn ni y tanddaearolion, (ac ni ddylem chwaith) lai na chyfodi ein lleisiau mewn Uefau o ddiolchgarwch i olygyddion parchus y DARIAN, nid yn unig am helaeth- iad a gwelliantau y DARIAN ddigymharhon, (yr hyn a fawr obeithiwn a goronir a Uwydd- iant toreithiog,) eithr am eu gofal parchus o honom. Eglur yw nad oes yr un swyddog cyflogedig yn perthyn i'r t&nddaearolion ag sydd yn talu filfed ran 6'r sylw iddynt ag a dalai berchenogion y DARIAN. Y maent, nid yn unig yn cyfodi yr oil a welont yn »fuddiol i'r Cymry uniaith eu gwybod o'r papyrau Seisnig, eithr y maent hefyd yn gwneud llawer o sylwadau ac egluriadau ar ddyledswyddau a phethau aneglur ag sydd yn perthyn i reoleiddiad a dyogelwch y cyf- ryw weithiau a'r gweithwyr. Gobeithio y cant gefnogaeth eithaf holl Gymry y byd. Wedi darllen eu sylwadau diweddar ar inspectv n y Llywodraeth, nis galJaf lai na theiailo ychydig awydd ynwyf i egluro sylw- adau doeth a miniog un o brif mining engin- eers Cymru. Yn mblith pethau ereill dywed- odd wrthyf fod camsynied dybryd yn per- thyn i ddosbarth o weithwyr a dosbarth o feistri parthed y gweithiau tanddaearol, ac fed hyny yn esgor ar ganlyniadau erchyll, dinystriol, ac ofnadwy yn y pen draw, sef oolli miloedd o fywydau a meddianau. Dy- wedai ei fod ef nid yn unig yn rheoleiddio fweithiau glo, eithr ei fod yn berchenog efyd, ac fod cryn dipyn o lwyddiant yn dilyn ei lafur yn y naill ffordd a'r llall, ac fod hyny yn unig i'w briodoli i gadw'r gweithiau mewn repairs da. Dywedai, A stich in time not only saves nine but nine times nine." Dywedai fod gadael dau b&r o goed heb ei dodi pan fyddo eu hangen ya adael 200p. i ofal lleidr a gadael dau fywyd i ofal lleidr llidiog !—fod canlyniadau mawr- ion i bethau bychain llawer o'r perchenog- ion yn credu mai wrtn gadw eu gweithiau yn ddirepairs y mae eu gweithio rataf, a gweithwyr yn credu yr un pethau; ond ifolineb i gyd yw'r fath syniad. Gal'ai, ebe fe, y byddweh yn hwyrfrydig i gyfaddef y ffaith hon, sef fod pump o bob ogiin o'r man ddamweinian yma yn hun-in- laddiadau, h.y., y mae dynion yn rnyued i'w diwedd drwy esgaulnsdra, diofalwcb, byr- j bwylldra, a rhyfyg. Y top o bob geh n, yw gelyn gwaethaf y tanddaearolion. Me idai, 'tybiallawer mii y nwy, oad camsynied yw hyny y tcp sydd yn lladd ei fwyaf, ac efe mewn rhan luoaocaf o amgylchiadau yw'r achos fod y nwy yn lladd cyniiier drwy syrthio ar rai 0 prif ffyrdd yr awyr. Y mae y petli,:Lu hyn yn ffeithiau, gyfaill, a ffeith- iau gofidus a dinystriol fyddant hyd nea y byddo i'r gweithwyr deimlo fod a fyno hwy a'u bywydau eu hunain, a gweled eu bod yn dyfetha ac yn llcfruddio eu hunain a hyny yn wirfoddol!' Dyna dystiolaeth gref ac anwrthwynebol, onide ddarllenydd ? Oni ddylai y glowyr agor eu llygaid a mynu inspections manwl a didnedd i bob glofa drwy'r deyrna", gan fud hyny yn eu dwylaw. Credwyf y byd i pob calon yn barod i gyduuo i ffurfio pwyUgorau i'r perwyl ar ol darllen yr uchod. Y mae hyn yn wrthun, eitbr vn ffaith fod chwilgrots yr ysgolion yn deall gweithiau tanddaearol (?) yn well nig hen lowyr prof: iadol, pe heb fod yn deall dim os wedi llwyddo i ateb digon o gwestiynau i gael license. Gobeithio fod yr olwyn ar droi eto fel y gellir cael tipyn o reswm ar bethau yn Ue sham, Cofion lawer at fechgyn yr awen o Fryn- aman i Fryn CwmllynfelJ, ac oddiyno drwy Gwmtawe benbwygilydd. Cofiol) at y Caethwas Du, Dewi Glari Twrcb. Yr Hen Coedwr, os byw, Cofnodydd y Chwiff, a Uu o feib lien ac aweayddion ylle. Gobeithio y bydd y DARIAN yn cael ei handlo ychydig yn ddeheuig genych ar y pwne dan sylw, fel ag y byddo i feniith ddeill aw oddiwrth y cyfryngau a ymddiriedwyd i ddwylaw y tanddaearolion. E. J. TIRCONYDD.
i IPETHAU MASNACHOL.
PETHAU MASNACHOL. Camlas Suez. Y r oedd yr elw ar y gamlas hon y flwyddyn ddiweddaf yu £187,500, a bydd £133,125 i'w rhanu rhwng y rhandal- vyr.
»■♦ LLANFABON.
»■ ♦ LLANFABON. Cynaliodd Ysgolion Sabbothol Ebenezer (M U) Salem (M.C.), Peniiel (A.), Berth- Iwyd (B.), Libanus (A.), a Ebenezer (B.), eu cymanfa flynyddol dydd Llun, Mehefin 17eg. Ar eu gwaith yn troi aUan dechreuodd y nen a duo a'r cymylau ymarilwys, y mellt wae, a'r taranau ruo, nes y tybiem fod y nefoedd yn ymollwg ar ein penau. Penderfynodd yr ysgolion yn awr fyned yn 01 i'w gwahanol gapeli er mwynau y trugar- eddau darpariedig. Aethom ni gydag ysgol .Libanus o'r hon yr ydym yn aelod. Caf- wyd pryd odea theisen ragorol ac y mae clod yn deilwngi'rhen famau a'r boceddiges- au am eu hymdrech gyda'r te er rhoi digonedd i bawb. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod ad- roddiadol dan lywyddiaeth Mr. W. Jones, Bryn. Cafwyd cyfarfod da iawn.
[No title]
Yn Sydney, ddydd Gwener diweddaf, lladdwyd hen wr agos 70 mlwydd oed wrth dori darn o gasting. Pan y llwyddodd i ddarnio yir haiam, tarawodd un darn yrahea wr fel yr achosedd ei farwolaeth.