Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
EISTEDDFOD YR ONLLWYN. ffYNELIR yr Eisteddfod uchod Mehefin y V 27.in, 1878, rhwhg yr Onllwyn a Coelbren, pryd y riodifr JEM mewn gwobrwyon. DARNA.tr CEHDDOBOL. £ s. d. 1. I'r cor, beb fod d 6 mewn rhif, tgano yn oreu Y B o eayn 01af' (J. B. Lloyd), o r 4 Cerddor Cymreig" ..800 2. l'r o r, heb f id dan 40 mewn rh'f, • gano yn oreu Ffynon gar fy Mwth' (Alaw Ddu 2 10 0 3. I'r cor a gino ya oreu y don gyn- all,-idf.ol,Trefor (Stephens a Jones) 1 0 0 4 l'r patti o 16 a gano yn oren Gwecau y Gwanwyn (gan Gwilym Owent) 0 16 0 Rhoddir 93 yn wob-wyon am y farddoniaeth T wobr am y Traetbawd f .-dd £ 1. Bydd y Programmes i w oael am y prieoedd Orierol, trwy y p"st, g»n yr Ysgrifenydd, D H.JEFFREYS, Carnant Rousa, Onllwyn, Nr. Neath. All Eisteddfod Flvnyddol Deri BTDDED hysbva i holl Gymrn penbiladr jr oynelfr Eisteddfod fawreddoj? ar ddydd Un Awst ofed, 1878, pryd y gwobrwyir yr ym- •obwyr llwyddianue mewn Caniidaeth, Bardd- HWfbf Ac. Uywydd: WALTER HOGG. Yav,, PJasycoed. lleimiald-y Gaoiadaeth. Mr. R"EI EVANS, Aberdar; y Farddoniaetfc, Mr. R. SMITH (Homo Dh), Tonyptndy. Am y gwedlil) o'r testynau, yn nghyda threfn J dydd, gwel y program, yr bwn eydd yn awr jnbarod, ao i'w gael oddiwrth yr ysgrifenyddion na t pris arferol Uywycd yPwyllgor: WALTBB HOGG, YSW. la-lywydd WM. JBBEMUH, YSW. Trrsopddion MB. JOHN MOBGAN, Darran Hotel, a Mr. JOHN EVANS, Jenkin's Row. Ysgrifenydd Mygedol: JrlB. JOHN JOHN, Deri Board Sobool Ysgrifenydd Gohebol: Ma. JOHN LEWIS, 6, Jenkin's Row, Deri, Caerdydd. D.S.—Y mae yr Eisteddfod hon wedi ei gohirio hyd Awst. ftOROc,Jf| CAMBRIAN ° L A I I + ar gar 17: v -0 LOZENGES, [UCISTKASD] M Sigers ud Public Speakers. 000 Thtu Lounges render the Voice NELODIOU8 AND CLEAR AS A BELL Patronised by eminent Magical Celebrities ft Public Speakers. Prkt Ji., tdami it. per BOM. ntOPRIBTOB. J. GEORGE, M.R.P.S. HIBWAIN, GLAMORGANSHIRE Gh/da'r Post 4c, 8c, a 18 2o. ABERDARE-TO LET, WITH immediate possession, the EAGLE INN, Commercial-street, double-licensed free house. M Apply to T. W. EVANS, Chemist, Aber- dare. HEDDWCH NEU RYFEL. At Weithwyr Mynwy a Deheudir Cymru. AR gais nifer o weithwyr cyfrifol, yr ydym wedi cyduno i alw Cyfarfod Qyffredinol o gynrychiolwyr o bob cangen o lafurwaith yn Mynwy a r Deheudir, er rhoddi mantais i bawb gweithwyr a ewyll- ysiant ddatgan eu barn ar y cwestiwn pwysig hwn, pa un sydd yn dal cysylltiad pwysicach a ni fel dosbarth nag ag un dosbarth arall yn y wlad. Bydded i bob glofa, morthwylfa, llaw- weithfa, Ac., ddewis cynrychiolwy* yn ol y drefn a welant yn oreu, ac anfon gyda jiwy y rhif a gynrychiolant dros neu yn llydd y cyfarfod i'w gynal yn y Temper- ance Hall, Aberdar, dydd Mawrth, 21ain eyfisol, i ddechren am 11 o'r gloch y boreu. Jjysgwylir y bydd amryw foneddigion cyf- rifol yn bresenol. Yr ydys wedi ysgrifenu at H. Richard, Ysw., A.S., i ofyn am ei fcresenoldeb. Gan hyderu y bydd i'r lief hon gael gwran^awiad cyffredinol, Y gorphwvswn, yr eiddech, D. MORGAN, Mountain Ash. J. PROSSER. Nantmelyn. S. DAYIES, Aberdar. W. ABRAHAM. W. LEWIS (Lewys Afan.) To Carpenters and Undertakers. TSNDERB are invited to- the supply o* Coffiaa to the different Friendly Societies wftbln the radfu8 of three wilm of Llanxamlet Ghvrdfa, Each Tender should give a full list of prices of diflftrent qnalities and description of tribnmings, So., and also a list to:answer all agsa Tae Tenders moat bs In the hand of Jatikin Rowland, Birchgrove, Dot later than the let of Jaae., 1978. The Committee do not bind tbemselvee to ao. its lowest or any Tender. BWRDD Y GOLYGYDD. GWYLIEDYDD—FegaiSeich ysgrif rha- gorol o blaid Dr. H. H. Dayies, Cymer, fyned i mewn, a hyny o hervrjrdd ein gwrthwynebiad i bob peth sydd yn an- Jiheg & gormesol. Nid oes genym ni, y mae yn rhaid addef, rhyv ystumog iach iawn at eich parchus teddyg, am y gorfu i ni dalu TAIR GINI o gostau cyfreithiol yn adeg fFrwgwd meddygol Treorci gynt, a hyny pan yr oedd enw ysgrifenydd y llythyr wrtho. Tanysgrifiadau Blaenclydach, Tonypan- dy.-Deallwn fod ychydig gamgymer- iad wedi cymeryd lie yn y ffigyrau sydd wedi ymddangos yn y ddwy DARIAN ddiweddaf mewn cysylltiad a'r tanys- grifiadau uchod, sef yn y swm oddiwrth y Great Western ac hefyd yn y swm o waith y Scotch, Llwynypia, ond y mae y cwbl yn iawn yn y rhestr tanysgrif- iadau y trysorydd. Wedi eu derbyn:—Leo o'r Llan, Barcut (yn ein nesaf yn sicr), Ivor, Penderyn, Giraldus, Dafydd Jones (yn ein nesaf), Vox Populi, Un sy'n dweyd y gwir, loan Elli, CawcLLlansamlet,Beirniad- aeth Deuawdau Eisteddfod Sion,Wain- arlwydd, &c., Pentre Ystrada'r Llwyn- ol—moes fwy. Pob Gohebiaeth i'w chyfeirio, "Editor of theTAMAN, Aberdare, (Glam.) Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills a Lynch, TARUN Office, Abedar.
MR. GLADSTONE AR DDADL Y RHYFEL,
MR. GLADSTONE AR DDADL Y RHYFEL, Y mae y gwron gwleidiadol, Mr* Gladstone, wedi bod yn areithioar ddadl y rhyfel, wrth ddirprwyaeth o Gymry ac ereill, mewn ysgoldy yn agos i'w balas, sef Hawarden. Yr oedd ar y Cymry eisian iddo ef addaw dyfod i le yn Nghymru, i dderbyn cofeb oddi- wrth y Dywysogaeth yn gyffredinol, yn eydnabod ei ymdrechion clodwiw ac eff,aithiol ef i gadw y wlad hon allan o ryfel, ac i wnead sylwadau condemniol ar y blaid Doriaidd am geisio tynu y wlad hon i ryfel, na wyddis yn iawn pa le y dibena efe, heb un achos yn y byd yn galw am hyny. Yr oedd ateb- iad Mr. Gladstone yn fanwl, helaeth, ac eglur. Aeth i mewn i hanes y dra fodaeth sydd wedi bod rhwng Lloegr a galluoedd ereill Ewrop yn nghylch Twrci. Ond nn o'r pethau mwyaf pwysig yn ei araeth ef oedd, y cyhudd- iad yn erbyn Gweinyddiaeth Beacons- fieli o droseddu deddf cyfansoddiad y wlad mewn cysylltiad a Thy y Cyffredin, yn ei gwaith yn gorchymyn i filwyr India ddyfod i Ewrop, ar draul y wlad hon, heb ymgynghori yn gyntaf a Thy y Cyffredin yn nghyleh y priodoldeb o wneud hyny. Gan nas gall y goron neu yr orsedd wneud dim ag sydd yn gofyn arian y deyrnas i'w gyflawni, heb ymgynghori a Thy y Cyffredin, yn ol cyfansoddiad cyfreithiol y deyrnas, dangosodd Mr. Gladstone fod gweision yr orsedd wedi ei rboddi hi uwchlaw Ty y Cyffredin, ac yn annibynol arno, ar draws oyfansoddiad cyfreithiol y deyrnas. Os gellir cadarnhan byn nid oes dim mwy pwysig wedi eymeryd lie er amser Cromwell. Hwn oedd trosedd mawr Siarls I. am yrhwn y cafodd efe yn y diwedd golli ei ben, ac ereill gydag ef. Os gellir profi cyhuddiad Mr. Gladstone trwy gyfraith, gallai y deyrnas osod erlyniad ar waith i ddwyn cyhnddgwyn cjhoeddus yn erbyn Beaconsfiftld a'i Weinyddiaeth, am fradwriaeth yn erbyn awdurdod teyrn- asol y wlad. Gwnawd hyn yn amser Cromwell. Ty y bobl yw Ty y Cyffredin. Ac y mae unrhyw weithred a due Ida i am- ddifadu Ty y Cyffredtn o'i awdnrdod, yn ol cyfansoddiad y wlad, yn ysbeil- iad o hawlfreintian pobl y wlad. Trwy y Ty hwn y mae y bobl yn cael gwy- bod beth y mae y Jlywodraeth yn ei wneud a'n harian hwy, cyn iddynt dalu yr arian. Eu harian hwy yw yr arian a delir yn y trethi. Dywedodd Argl- wydd Burleigh gynt' Nis gellir dyfetha Lloegr ond gan ei Senedd.' Dywed- odd oyr Mathew Hale Gan mai y Seaeddywy Ilys uwchaf, dros yr hwn Did oes un awdurdod arall yn y deyrnas yn meddu llywodraeth, os bydd y Senedd yn eaog o ddrwglywodraeth, nid oes awdurdod arall i amddiffyn y bobi., Pan y gofyhodd y Senedd i Ohief Justice, Syr John Fortescue, yn amser Harri VI.j gwestiwn yn nghyleh yr hyn a allai y Senedd wneud, atebodd y barnwr hwnw, yn enw ei frodyr ar y faine, nad oedd yn perthyn iddynt hwy i ateb y cwestiwn hwnw, oblegyd nad oedd wedi bod yn arferiad o'r blaen i farnwyr benderfynu beth ydyw hawlfreintian uchel-lys y Senedd.' Y mae y Senedd yn meddu awdurdod mor uchel yn ei natur fel y gall wneud cyfraith, a dileu cyfraith o fodolaeth.' Dywed yr JEncyclopoedia Britanica, 'Privilege of Parliament was princi- pally established in order to protect its members, not only from being molested by their fellow subjects, but also more especially from being op- pressed by the power of the crown. One privilege is that of speech. The free- dom of speech and debates in Parlia- ment ought not to be impeached or questioned in any court or place out of Parliament according to the statute of William III. and Mary.' Y mae ymadroddion Mr. Gladstone yn ddifrifol iawn gyda golwg ar y tros- edd y mae y llywodraeth Doriaidd wedi ei gyflawni yn erbyn hawliau Ty y Cyffredin a hawliau trethdalwyr y deyrnas hon, y rhai a etholant Dy y Cyffredin. Ni byddem yn gwneud chwarae te.; a'r mater, gan ei fQd yn bwysig iawn, a chan y dichon iddo arffain i ganlyniadau fel yn amser Cromwell, heb roddi geiriau Mr. Glad- stone fel y mae it o flaen, y darl'enydd. Dywea ele yn nghylch gwaifh y llywodr- aeth yn gorchymyn i filwyr ddyfod o India, 'It was a mesure of a most sur- prising and astonishing description, with no sort of precedent to support or suggest it. The question is, how the movementis reconciled with that section of the Act of 1858, which absolutely forbids, except in certain cagsf$which have not occurred, the use of Her Majesty's East Indian forces beyond the Indian frontier, at the charges of the Indian revenue. The language of the clause is, that the revenues of India shall not be applicable to defray the expenses of any military operations carried on beyond the external frontier of such possessions by Her Majesty's forces, charged upon such revenues, without the consent of both Houses of Parliament. That is the law. Sir S. Northcote says, that there is a financial control reserved to Parliament. Suppose the House of Commons says— we will not vote the money for those forces from India.' I want to know how the Government are to be excused for having broken the clause of the Act of Parliament. Bnt then what is the use of the financial control of the House of Commons if it is not free to refuse the money ? But that is not all. What is the effect upon our liberties ? When your forefathers in other times stood gallantly for their liberties, and took to the subject of a standing army, did they rest satisfied with financial control ? Over and above that control the House of Commons votes the num- ber of men who alone can be legally employed in ihe British army. And it has thus been carefully provided for, that Parliament should have a restraint upon the foreign policy, and especially upon the war policy of the Executive Governmeat. But it is now proposed to carry on that war policy with the aid of troops whom Parliament does not vote, and whom the Government can multiply to any extent without the will of Parliament. I frankly own to you that, in my opinion, to use very mild words, either Mr forefathers were a set of simpletons, or the control of Parliament is utterly gone-provided the Indian army is to be at the disposal of the Government, for operations in Europe, or in any other part of the world, that they may please, subject to no control at all, exoept the necessity of going to Parliament after the money is spent and then saying'It is for you to judge whether you will pay the bill or repudiate it.'Recollect that the power of making war down to this deplorable case of what in mtickery is called a Conservative Government, you cannot show me an instance in the whole of your history where the executive power abused its trust. There is a crafty arti- cle in the Quarterly Review which is disloyal to the Crown and dangerous to tne public interest. It confounds the Sovereign and the Crown. It tries to establish the doctrine that the sove- reign personally has a right virtually to direct the foreign policy of the Minister in his going to peace or war. The direct tendency of this article is to bring the Sovereign personally into the arena of politics. Therefore it merits the denomination of being a most disloyal production, as well as one of the most dangerous to the public interests." Dywed Daily If ems, Llundain, ya ei sylwadau ar araeth Mr, Gladstone, 0 Lord Beaconsfield and his colleagues have violated precedent, surprised the House of Commons, and struck a blow at constitutional principles." Dyna sydd yn bynod fod y bobl sydd yn dwyn i mewn bethau newydd, ar draws hen egwyddorion a chyfreithiau y Cyfansoddiad Prydeinig, yn galw eu hunain yn I Geidwadwyr Ni bu un enw yn fwy anghymwys ar ddynion. Gwir Geidwadwyr y deyrnas hon yw Rhyddfrydwyr. Newyddwyr chwil- droadol peryglus yw y Toriaid. Gwnant eu goreu yn erbyn hen egwyddorion cyfiawnder, gwirionedd, a rhyddid cyd- wybod, a cheisiant ddwyn yn ol deyrn- asiad gorthrwm, tyraniaeth, a melldith oesoedd mwyaf paganaidd y byd. Da i ni fod y fath ddynion galluog a Mr. Gladstone a Mr. Bright yn sefyll ar ben twr gwyliadwriaeth i rybyddio eu cydwladwyr.
LLANELLI.
LLANELLI. MARWOLAETH SYDYN.—Dywed yr hen bobl pan y deuent i gyffyrdddiad a phletyn tlws, hardd, ac henaidd o ran ei arferiadau, nad oes bywyd hir i'r cyfryw yn y byd hwn a thystia gweinidogaeth angeu y dyddiau hyn fod llawer o wir- ionedd yn y cyfryw dybiaeth. Dydd Mawrth diweddaf bu farw un o'r plant mwyaf ffraeth, dengar, a hoffus ag a ad- waenasom erioed; mewn gair, yr oedd yn alluog i actio pob difyrwch a chwareu- waith ag a ellid ddychymygu am dano. Yr oedd yn uwch mewn gwybodaeth a medr na llawer gwr triugain oed, er nad oedd wedi cyrhaedd ond pedair blwydd. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Thomas.- ARAETH MR. B. T. WILLIAMS.-Nos Sadwrn, am saith o'r gloch, Uanwyd capel Seion gan ddynion a u eatonau yn hir- aethu am glywed B. T. Williams, Ysw., yr ymgeisydd Rhyddfrydol, yn areithio. Daeth ef a lluaws o foneddigion urddasol gydag ef i'r addoldy uchod yn brydlon, pryd y cymerwyd y gadair gan Faer Caerfyrddin. Gwnaeth y cadeirydd rai sylwadau rhagorol yn ei anerchiad agor- iadol, yna galwodd ar Mr. Williams i siarad, a gwnaeth hyny yn benigamp. Rhoddodd foddlonrwydd neillduol i'r gynulleidfa o berthynas i'w egwyddorion mewn cysylltiad a r wladwriaeth. Ym- ddengys mai Undodwr yw o ran ei opin- iynau crefyddol; ond nid oes gwahan- iaeth am hyny tuag at iddo fod yn aelod Seneddol da. Nid oes neb hyd yn hyn o'r blaid Doriaidd wedi cynyg codi yn ei erbyn; felly, diameu mai hwn yw y dyn. IOAN GWYLLT.
^ HELYNTION TREFORIS A'R CYLCHOEDD.
HELYNTION TREFORIS A'R CYLCHOEDD. Y mae erthygl odidog Dai Rhydderch pi y rhifyn diweddaf wedi peri cyn- hwrf anarferol trwy y cymydogaethau hyn. Y mae wedi bod yn foddion i ddyfod a phethau dirgelaidd o barthed i erledigaeth y lecsiwn i'r amlwg-y cyth- reuldeb gafodd ei gynllunio yn ddystaw yn mharlwr un o gaastelli Shon y Cawr, gan y trio melldigedig, sef y saer gwen- laethus, yr infant bach dilun, Robyn rheibus, a ddangoswyd yn ei liw priodol En nhudalenau y DARIAN cafodd y cy- oedd trwy hyny fantais i weled fod y personau uchod, er yn gyfeillion trwyadl, yn gymydogion caredig, ac yn frodyr cref- yddol dros ben nad oeddynt, mewn gwirionedd, ond bleiddiaid mewn crwyn defaid, beddau wedi eu gwyngalchu, a Judasiaid yn bradychu. O am weled y dydd yn gwawrio pryd y byddo y fath gymeriadau atgas wedi cael eu halltudio o Gymru, a'ugosod yn ei Ueoedd ei hunain. Pwnc arall sydd yn cael sylw i'w ryfeddu ydyw hanes y cyfarfod llenyddol a gynaliwyd yn ddiweddar yn Abertawe, gan rai o'r Morriston boy*. Yr oedd program da anarferol wedi ei barotoi gydag eithaf good taste, a chynulleidfa bardhus wedi d'od yn nghyd: y mae hyn, fe allai, i'w briodoli i raddeu i'r ttreet tram'vay. Bechgyn Treforis yn cael eu cludo yn awr am ddwy geiniog i'r brif- ddinas, heb un perygl i'r cabman eu drivo i'r gamlas wrth ddychwelyd fel cynt. Ond at y pwnc. Dechreuwyd trwy araeth bwrpasol iawn gan Mr. Ben. Dis., ar y daiom deilliedig i'r rhadd weithgar wrth ymuno a chymdeithasau dyngarol. Wedi hyn, Shon y Cawr, yn ei hwyliau foreu, yn canu unawd, 'Can o Glod i Jousen.' Adroddiad,' Y Own Hela,' gan Twm Bach, yn dda rhagorol. Cyrhaedd odd y cyfarfod ei glimctx yn Y ddadl fu rhwng mab rhyw grydd a T- yr an- nghredadyn, ar Domestic Economy; dangoswyd gallu mawr, medrusrwydd campus, a thalentau ysblenydd o bob tu wrth ymdrin a'r pwnc dydaorol dan sylw. Canodd rr angredadyn yr hen gan ddi- grifol, 'The Sham Wife,' gydag effaith dda, yr hyn fli yn foddion i gyffwrdd a thanau telyn mab y crydd; a chanodd yntau yn deimladwy fw ryfeddu 'Oh! I am newly married.' Felly, terfynwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf adeiladol a phles- erus y buom ynddo erioed; ac er buddi'r personau hyny na chafodd y fraint o fod yn bresenol, yr wyf yn cael ar ddeall fod r ddadl a'r ddwy gan ddiweddaf wedi cael eu hargraffu yn swyddfa Mri. Sniith & Co., ac i w cael yno wrth appiieafcn, jwria, 3c.; neu oddiwrth eich ufudd was, NFFRA GILTWNWR.
ALtULi 1 (JIjbAMUU' 1.N ol.…
ALtULi 1 (JIjbAMUU' 1.N ol. JAMES' HALL, LLUNDAIN. Y mae yn Llundain ddigon o amryw- iaeth cyfarfodydd yn ystod tymor mis Mai; ond yr amgylchiad mawr at ba un yr oedd Cymry y Brifddinas yn edrych yn mlaen er ys wythoosau oedd cyng- herdd fawreddog y Cor Mawr Cymreig yn St. James' Hall, er rhoddi dadganiad o gantawd fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf, sef 'Arch y Cyfamod.' gan Mr. D. Jenkins, Mus. Bac. Yr wyf o'r blaen wedi rhoddi braslun o weithrediadau y pwyllgor a'r cor. Yr oedd yr anturiaeth yn un gostfawr a phwysig-y mwyaf felly a ymgymerwyd gan Gymry Llundain; ond yr oedd yn hyfrydwch mawr gweled yr egni a'r cyd- weithrediad oedd yn bodoli rhwng aelod- au y cor, a phawb cedd yn dal cysylltiad a'r gwaith—yr oedd pob enwadaeth, &c., wedi ei lwyr golli, ac awydd pawb oeda cael perfformiad anrhydeddus. Y mae clod mawr yn ddyledus i aelodau y cor am eu hymdrech diflino i ddysga y darn, ac i Mr. Jenkins am y drafferth fawr a gy- merodd i'w harwain. Cynaliwyd y gyng- herdd nos Fercher, yr 8fed eyfisol, a da genym allu hysbysu eich darllenwyr ei bod wedi troi allan yn llwyddiant per- ffaith yn mhob ystyr, yn mhell tuhwnt i ddysgwyliadau y cyfeillion mwyaf ffydd- iog. Yr oedd y neuadd emg yn llawn, ac amryw o brif foneddigion ein gwlad yn bresenol; ac yr oedd y derbyniad gwresog gafodd pob rhan o'r datganiad, a'r banUefau 0 gymeradwyaeth a gafodd Mr. Jenkins pan yr ail-alwyd arno i'r esgynlawr, yn arddangosiad eglur fod y dorf wedi ei boddloni, a'r perfformiad yn deilwng 0 vsbryd cerddorol Cymru. Yr oedd y cor yn rhifo tua 260, yn cael eu cynorthwyo gan orchestral band y Crystal Palace; cyfeiliwyd ar yr organ gan Mr. R. S. Hughes. Cynrychiolwyd y Broffwydes gan Miss Mary Da vies Dafydd, gan Eos Morlais; a'r archoffeir- iad gan Mr. Lucas Williams. Y mae y ddau flaenaf yn ddigon adnabyddais i'ch darllenwyr, fel nad oes braidd angen crybwyll iddynt fyned drwy eu gwaith yn anrhydeddus. Efallii nad yw Mr. Williams mor adnabyddlfs yn Nghymru eto, ond y mae arwyddion eglur y bydd yn fuan yn dra adnabyddus ac enwog yma yn Llundain. Y mae .yr effaith gafodd ei ddatganiad nos Fercher yn brawf digonol o hyn, ac hefyd y maa- wedi cael yr anrhydedd mawr 0 ganu yn lie Mr. Santley heddyw (Sadwrn) yn nghyngherdd fawreddog y Crystal Palace. Cewch chwi tua Chwm Rhondda y fraint o'i glywed tua'r Sulgwyn yn Tonypandy Nid wyf yn ddigon o gerddor i rodai beirniadaeth ar bob rhan o'r datganiad, felly ni wnaf ond rhoddi i chwi drefn y gyngherdd, ac os caf gyfleusdra cewch farn y wasg Saesoneg arni eto. Dechreuwyd drwy i'r band chwareu ov rfwe loan Fedyddiwr,' dan arwein- iad Mr. Manns yna awd yn mlaen gyda y rhan gyntaf o'r Cantawd Pan y cy- fodid yr Arch ar ysgwyddau y Lefiaid Cydgan, 4 Cyfodei Duw,' gan y cor; tenor solo, Molieiiwch Dduw,' gan Eoe Morlais Cydgan y Gwragedd, Duw a farna'r wediw.' Pdn oedd yr orymdiith yn cychwyn' -Becif. ac (!riJ, 0 Arglwydd,' gan Mr. LUCíiS Williims a,-ia, 'Pan roddaist y giir,' gan Eos Morlais recit. a chydgan, Mawr yw yr Ion,' gin Eos Morlais a'r cor. Cafodd y datganiad hwn dderbyn- iad ardderchog. Yr ail rhlD.Pan ddaeth yr orym- daith i olwg Mynydd Saion '-Aria a chydgan,' Paham y sylla'r bryniau hyo,' gan Mary Davies a'r cor recit. a chyd- gan, 'Angelion a cherbydau'r nef,' gan Mary Davies a'r cor. "Pan oedd yr Arch wedi eagyn i Seion, ac wedi ei gosod yn Nhabernacl Dafydd I —Becit. ac aria, Dyrchefaist i'r uchel- der,' gan Eos Morlais; recit., triawd, a chydgan,' Dywedodd yr Arglwydd,' gan Mary Davies, Lucas Williams, Eos Morlais, a'r cor. 'Pan yr offrymid yr aberthau, yr hyn a derfynai yr Uwch wasanaeth'—Cydgan y Lefiaid,' Y bobloedd,' gan y gwrywod: pedwarawd a chydgan, 'Yr offeiriaid/ gan Eos Morlais, B. Davies, R.A.M., Lucas Williams, T. Davies, London Road, a'f cor; cydgan, Halleluiah,. Amen.' Yroeddy gvmeradwyaeth ar derfyn- iad y cydgan olif yn fyddarol, ac yr oedd y derbyniad gafodd Mr. Jenkins gan y dorf yn iechyd i galon Cymro. Gwasanaethwyd yn v rhan olaf o'r gyngherdd gan Miss Mary Davies, Marian Williams, Lizzie Evans, Martha Harries, ac Eos Morlais. Mqe yn deilwng o sylw mai gweithiau jpyfansoddwyr Cymreig ddutganwyd drwy y rhan hon o'r gyog- herdd, sef eiddo Dr. Parry, R. S. Hughes* Emlyn Erans, Brinley Richards, a John Thomas. Y mae y gantawd hon yn sicr o ddyfod yn boblogaidd iawn. Da genym gael ar ddeall fod amryw gorau yn Nghymru yn bwriidu ei dysgu, bydd yn sicr o fod yn dderbynioL Y mae sibrwd cryf yma St Llundain am gael ail berfforiaa yn an. Hyderaf mat felly y bydd. Yr wyf wedi clywed gan amryw Saesoa • ddysg y byddai yn drueni o'r mwyaf i got o'r fath hwn i sythio i'r ll»wr. Gobeithio y ceir rhyw lwybr i'w gadw yn fyw, a« y bydd yn anrhydedd i'n ceaadl. Np.