Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
FFUGCHWEPL Y LLWYJsOG.
FFUGCHWEPL Y LLWYJsOG. Dyn help fy mherthynad yn nghymyd- ogsfcth Penygraig, Djrbyniusydydd o'r {fea (fe/cr-.m yn hysv a fod hwnw OL^wn ail dr.ifferth eto. Pwy ryferi-d os ««^d efe wedi digio ac ara yinddveithro J oA^wrthwyry cwils. B:1 tswnyngwneud ijnay fyhun pe wedi caei y fatti daos j *W--M. Ond dyna, gwell cael cwmni gyfreithwyr respectable na chwmni yr ym- welwyr dyeithr a ddaethant ar ymweliad er ceisio gwneud yr annealldwriaeth i fyny. Dydd Mercher i'w gofio yn hir fydd dydd Mercher y Waredigaeth olaf hon,-a chredwyf y dylem ni, holl epil y llwynogod, gadw y dydd yn wyl cenedl- aethol dros holl ddyddiau y ddaear. Byddaf yn dysgwyl gwahoddiad i'r wyl gyntaf yn 1879. Os ydyw tafod hir yn costio mor ddrud, mae'n hen bryd i minau feddwl am hyd fy un inau.. Wn i ddim pwy dywydd yw hi yna tua swyddfa yDARIAN ond yma, yn ardal y gloren, rhyw dywydd ddigon bocsog yw hi. Y mae wedi bod yn rhy ofnadwy i feddwl am dramp, a mmau yn tynu ar fy oed, a'm gwisg felyngoch wedi myned braidd yn llwm. Mor wired a bod cyn- ffon ar fy mhen ol, a'm bod inau wedi cael profiad o dair oes derwen, welais i y fath amser erioed ar weithwyr a llwyn- ogod, ac heb ddim lie i nesu hwnt. Meddyliais unwaith y cawswn dipyn 0 waith lied dda tuag ardal Tipperery yma, ond heblaw colli ffortiwn yn y ddwy-a- naw, y mae'r swamp wedi gostwng dair troedfedd y llath o fod yn lefel a'r pyllau cylchynol. Wrth ei gweled felly medd- yliais mai goreu pa gyntaf y rhoddwn fy nhraed a m trwyn yn y tir. Eisteddais ar fy nghwt am ychydig er bwrw y draul, gan dremio mor belled ag y gallaswn i'r dyfodol; ond gyda fy mod yn gwlychu un pen, cododd syched ar y pen arall, ac i mewn a fi i'r Inn cyfagos am botelaid 0 bop. Aethum ar fy uniawn, fel pob bon- eddwr arall, i'r private room, ond er fy syndod, beth oedd yno ond cynadledd bwysig neu senedd. Yno yr oedd y Rws- ian mawr yn eistedd ar y sach, y Callod, y Salachielod, &c., oil o'igwmpas, a phob un o honynt a mesur pwysig i osod o flaen y Ty. Eisteddais inau yn eu plith, gan obeithio y buasent yn fy nghymeryd am yr aelod newydd dros Caerfyrddin a Llanelli; ond nid hir y bum yno cyn i un o'r tylwyth holi pwy ceddwn, a beth oedi fy negesyno-nad oeddhen bregeth- wyr i eistedd ar y pwnc oedd i fod dan sylw, am nad oeddynt yn gyfarwydd yn yr iaith glasurol oedd yn cael ei siarad ganddynt; mai eisiau pasio bill pwys- ig oedd arnynt, sef bill er dal y d--l (y Llwynog). Syndod! dymale! Son am House of Lords! dyma Ie! Beth bynag, cefais y ffafr o eistedd ond nid i voto, nes oedd y mesur wedi cael ei basio. Cynwys yprif adranau oeddynt—1. Un- rhyw un a ddywedo air am yr unlath-ar- bymtheg dwr, a gaiff grynhoi ei dwls. 2. Nid oes neb i gael tramwy drwy'r pwll, nos na dydd, heb fyned o dan arholiaa manwl gan y prif swyddog, ac felly mai anmhosibl oedd peidio dal y Pan glywais yr ail adran bum bron a llewygu, a gorfu arnaf gael ail botelaid, adyferyn o win hefyd yn gymysgedig ag ef, o her- wydd yr oedd y chwys yn tori allan fel gwlaw taranau, a minau mewn gwaeth picil na phan y bum dros fy mhen a'm clustiau yn y swamp. Son am Home Rulers Tipereraidd! Dyma nythaid o honynt. Yn mhen ychydig deallais fod fy nerth yn dychwelyd, a buau y cym- hwysais fy nhraed er myned allan, ond mor gynted ag yr aethum at y drws, cef- ais ail arswyd, gan waith Bjth nad 0 Brycheiniog Hero di here, hero di hpre, Yn gwaeddi I dymalr Llwynog,' Hero di here; Tn awr am wobr i mi, Dal Llwynog Tipperery, Ni welwyd fath wrhydri, Hero di here, be -c di here. Ond druan o'r bytheaad, Byr ei bwff, byr ei bwff; Waeth iddo beidio gwingad, Byr ei bwff; Nid dafa-A sydd yn brefa I wneuthnr gwledd o honi, Ti elli roddi fyny Byr dy bwff, byr dy brio Trwy fod yr haul erbyn hyn wedi my- ned i wely'r heli, edrychais am y lleuad deg yn gwmni i fyned tua thref; ond hawyr bach, deallais oddiwrth ei gwedd hithau ei bod wedi derbyn rhybydd o senedd Salachielyn y Cyntaf, nad yw i ymddangos ar ol y mis hwn. Mae'r lleu- ad a'r Llwynog yn debyg iawn i'w gilydd mewn llawer ystyrheblaweu bodynnewid yn ami. Y mae y dyfodol mor dywyll a bol morfil Jonah gynt, ond dof i'r Ian yn rhywle erbyn wythnos i heddyw os bydd- af byw hefvd. Y LLWYNOG.
EISTEDDFOD GADEIRIOL CAERFFILI,…
EISTEDDFOD GADEIRIOL CAER- FFILI, LLUN GWYN, 1878. i Y mae y cyfansoddiadau a dderbyn- wyd ar gyfer yr eisteddfod uchod yn dwyn y ffugenwau canlynol:- 'Awdl yr Haul.'—Appolo, Addolwr, Dionysius, Hedyn yr un o'i fydoedd, Onon, Selene, Gwyddno, Eryr. 'Pryddest ar Drugaredd.'—Publican, Timotheus, E gwnaf am drugaredd, Dí- olch, Annheilwng, Hen dduwinydd awen- ol, Dorcas, Credadyn, (yn rhy ddiweddar). Beddargraff i Mr. Wm. Llewyllyn. Ivor Bach, Sant Cenydd, Canilius, Oba- diah, Ad waenydd, Collwyn, Twyn Gamil, Ymdeithydd, Essylliog, Awen yr Ywen, Edgar, ErCof, Llais o'r Llwch, Y Garl, Tonyfelin, Chrismas Evans, Dim ond y Gwir, Adgof uwch Anghof, a Philomath. 'Engiyn i'r Cleopatra Needle.'—Iwl Caesar, Jupiter, Pharaoh, Alexander, Cleopatra, Artaxer, Hen Grefftwr, Saer Maen, Tan yr Allt, Trafaelwr, Melancthon, Aifftiwr, Saul mab Cis, Iestyn, Dixon, Hanesiwr, Moses, Caercenydd, Teiliwr, Prydeiniwr, a Dwyreiniwr. Can ar Ymdrech.'—Trecha o'm math dri chan mil. Traethawd ar Gysylltiad Cymdeithas, neu ddibyniad ei gwahanol ddosbeirth ar eu gilydd.'—Anthropos. 'Cerddoriaeth—Tonau wedi ei Derbyn.' -Tom, De Morgan, Jack Frost, Dona Nobis, Ida Farfog, Dafydd, Gwladgarwr, Philomel, Cletiwr, Dewi ap lolo, An- thropas, Agathon, J. I. Bach, Med, Alaw Gwent (meddyliwyf), Orlando de Layo, John Hershell, Gersion Bach, Bourdon, Ap Myrddin, Cymro, Pathos, Joseph, loan Alaw, Mozart, Croft, John Sulivan, Jubal, Talus, S. Bismarck, Perdonydd, Protheus, Arthur, Jerimiah, Lade Avolo, Cleopatra, Galileo, Auber, A. L. E., F Sharp, Mediart, Mab Llafur, Gwerihwr, Samuel Webbe, Goudimel, Ambrosius, Talus Rhyny, Palestina, Osman Pacha, Glyndwr, Frank Shubart, H. C. Works, Winner, John Goss, Fellow, Beneroh, Belline, Doh, Alawydd, Vemall, Dr. Croft Clements, Michael Watson, Christ- ian Hor, Taliesyn, Bachgen, Tom 2, T. Crampton, Croft 2, P. Linpainter, Ap Grugor, Vivicl, Ramean, Jacob, Ashelred, Ala Breve, Manders, Alawydd 2, Ystyriol, Myfyriwr, Idwal, Myfrriwr Ieuanc, a John Day. 'Bariton Song.'—Syr H. R. Bishop, Or- ganist, Caradog ab Bran, Alphonus, De- chreuwr, Dewi, Palestina, Dafydd, Pryd- einwr, Spontine, Nil Desperandum, Moses, Adam Ringer, Frank Shubert, Don Giovanne, a Goriog lolo. Felly, gwelwch oddiwrth yr holl gyfan- soddiadau hyn fod argoel am eisteddfod poblogaidd yn hen Gastell Caerffile uu- waith eto. Bydded hysbys i bawb a fwriadent gystadlu ar y canu yn yr eisteddfod uchod fod yr holl o'r enwau i ddyfod i law yr Ysgrifenydd Lleol ar neu cyn y 27ain cyfisol. John Thomas, checkweujher, Ener- glyn Colliery, Pwllypant, Caerdydd.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Yn ol v rhaglen, wele i chwi hanes ychydig or gweithiau sydd wedi bod dan fy sylw yn ddiweddar. Dechreuwn gar- tref yn Cwmbwrla. Y mae yma lawer mwy o sylw yn cael ei dalu yr wythnos ddiweddaf i Ddeddf y Llaw-weithfeydd nag sydd wedi bod am rai blynyddau; eto y mae yma lawer o le i wella. Nid yw yr amser a gymerir i gael lluniaeth ond ychydig, pan mae y gyfraith yn can- iatau digon. Yr wyf yn ddiweddar wedi cael cryn lawer o ddadleu a gweithwyr am y priddoldeb o gadw yr amser llawn. Y mae bell arfer wedi argyhoeddi rhai, a thrachwant wedi llyncu llawer; a meddw- dod a slafeidd-dra wedi meddianu ereill, nes peri iddynt fod dipyn yn ystyfnig at ddarpariaethau y gyfraith hon. Ond ni waeth beth a ddywedir, mae sefyllfa farw- aidd y fasnach, isel bris y gweithwyr, pesychiad sych-"a gruddiau llwydion ein meibion fn merched, blynyddoedd o nychdod, ie, a beddau anamserol ugein- iau o honoch chwi yn uchel-uchel alw am fwy 0 fyw mewn awyr pur. Derbyniasom lythyr y dydd o'r blaen oddiwrth oruch- wyliwr ag y mae genym lawer 0 barch iddo, yn gotyn i mi am ysgrifenu llythyr arall i'r papyrau Seisnig ar anmhuredd y nwyau aT awyr a anadlir genych chwi. O! weithwyr O! alcanwyr, a fyddwch chwi mor ddali a sefyll yn erbyn eich lies eich hunain drwy beidio cymeryd yr hyn mae y gyfraithyn ei hawbo i chwi? Credwn fod dydd i wawrio ag y bydd yr alcanwyr yn bendithio enwau y dynion hyny a fu yn foddioh i enill iddynt hyn o ryddid. Cwmlelin.—Mae y gwaith yma yn nes i mi na'r un arall, a chysylltiad agosach wedi bodrhyngwyf a hwn nacun o'r lleill. Yma y treuliais ddeg o flynyddau goreu fy mywyd; yma y gorfuwyd fi i gy- meryd i fyay achos fy nghydweithwyr, ac oddiyma y trowyd fi allan i gardota fy mara o ran y meistri, wedi iddynt ddeall fod steam y jolly fellows wedi myn- ed dan low pressure; ac y mae yn wir flin genym nad allwn ddywedyd rhyw- beth swell am hwn na'r Uall, ond y mae mor debyg fel yr ofnaf nad all Mostyn, yr arolygydd ei hun, dynu llinell wahan- laethol rhyngddynt. Llwchwr yn nesaf. Y mae y gweith- wyr yma yn debycach i ddynion yn eu Ewyll na'r cyffredin, ond bodola yr un ai i raddau'helaeth iawn; wel, a dweyd yn llawn, i taddau nas goddefir mo hono yn hwy heb ei gofnodi Pontard,ulais gaiff fod yn olaf. Y i$ae yma bedwah yn ngolwg eu gilydd o weith- iau alcan, onm y mae yma un ag y bydd yn rhaid i'r goruchwyliwr edrych ati. Yr wyf yn hwyrwydig iawn i ysgrifenu dim yrigroes ii hen gyfeillion a ddynion ag sydd mor ■jddiweddar wedi cychwyn o blith y gw^thwyr: eto, pan glywaf fod meibion a merched yn cael eu gorfodi i fyned i'r gwaith am hanet awr wedi ped- war a phtop o'r gloch y bore, ac yn par- hau yn flfiaen hyd saith yn yr fiwyr, y mae y gyfraith yn ei gwaed yn gwaeddi am eu hanrhydeddu. Nis gallaf fyned heibio i'r stori ramantus o fod alcanwr yn cael ei ddanfon adref am dd'od yn rhy hwyr at ei waith — am ddeg mynyd i chwech yn y bore; Os na rydd Mr. Mos- tyn derfyn ar hyn, ni fynwn ei gyhoeddi drwy uchel-swyddfaoedd y deyrnas, a mynwn weled pa hyd y bydd swyddogion y 'Labour League' cyn mynu gweled diwedd y pethau hyn. Dywedir nad yw J y tri, arall cynddrwg, ond fod yr oriau bwyd yn hynod brin yn mhob un 0 hon- ynt. Dichon fod llawer yn credu nad ydym yn meddwl yr hyn a ddywedir gen- ym ni wnawn ond dywedyd wrth y rhai hyny am edrych yn ol dros yr oil ag sydd wedi ei wneuthur genym er cael gweled ai chwareu yr ydym ai peidio. Ni or- phwyswn ni nes mynu mwy o ryddid i'r alcanwyr nag a gawsant er ys llawer o flynynoedd ie, mwy nag a gawsant er- ioed o'r blaen. Safed perchenogion, gor- uchwylwyr, a gweithwyr ar ein ffordd, ni thyciant. Ein harwyddair yw, t vm- drechu nes gorchfygu.' Dichon y dylas- wn fod wedi cofnodi am y dirwyon trym- ion a gedwir ar y gweithwyr, yn enwedig yn Cwmfelin, ond caiff hyn wasanaethu y waith hon. 0 ba le nesaf, wys LEWYS AFAN.
HELYNTION CAERFFILI A'R CYLCHOEDD.
HELYNTION CAERFFILI A'R CYLCHOEDD. MRI. GOL.Ar ol dod i derfyn a'r Biarad yn nhy Mr. A. One, cychwynais am "fy llety; codi yn fore' dranoeth, myn'd tua'r Wernddu i edrych am waith; cwrdd a'r goruchwyliwr, Mr. Begg, cael gwaith ya y Rock Fawr, lie da feddyliwn, ac yn fy nharo i'r dim. Penderfynu anfon bryshysbysiad at fy frynd goreu, Gwenifred; gofyn i'm mistress, 'Where is the Telegraph Office?' 'Dear me!' oedd yr ateb, there is not one in Caer- ffili!' Wel, wel,' meddwn wrthi, it is a great shame, a prominent place like this with no telegraph accommodation.' Myn'd at y barter, am shave, clywed yno fod rehearsal ga:ft y bydenwog, Gwilym Thomas, yn Tonyfelin. Bendith a'r dy goryn, meddwn inau, a ffwrdd a mi at y capel; tair ceinion am fyned i mewn, boddlon iawn mynte fl. 'Roedd Gwilym yn y best of trim. Canu 'Then shall your light' yn cfda iawn ac ystyried yr anfan- teision, merched a bechgyn bach, eu haner, heb weled llyfr notes erioed o'r blaen. Gyda hyn gweled handbill mawr yn hysbysu fod concert i fod ar yr 17eg, er cynorthwyo'r cor i fyned iGaerdydd turn out go wych. Galw rhyw hoswaith wedi'r gyngherdd yn y gwesty nesaf i'r Fuwch Goch, cael clec fach yno, hanes rhyw second Tichborne, neu y f nawfed rhan o ddyn fel y dywedir, wedi bod yn gwledda ar ddau hamperaid ofottleporter heb yn wybod i wr a gwraig y ty. Yr oedd my lord wedi bod yn gloddesta yn bur hael ar y trugareddau angenrheidiol, ond pan ddaethpwyd i ddeall fod y ddau hamper o'r bottle porter wedi diflanu, gor- fod 1 my lord newid ei dent. Y mae y si ar led ei fod yn bur gyfarwydd a'r ystranciau uchod, ac yn cerdded o dy i dy, ac yn bostio ei hun, ac yn dweyd am y croesaw y mae yn eigael ble byna» yr a. Fe allai dyn dyeithr feddwl wrth ei gorporaMon mai efe yw y Marques of Lome, ei fosa ha*, a'i overcoat fawr, ac oddeutu saith llatn o guard yn hongian ar ei gorpwa ond dyna well ei adael yn llonydd, rhag ofn i'r cymydogion golli eu 'cabbage' i gyd, oblegyd rhyw giwed rhyfedd yw y tylwyth hyn am fresych gleision, a byddai yn ormod o beth i golli'r cabbage a'r porter. 0 ie, Mri. Gol., mae gwyr y ewyr wedi codi eu gwrych yn y gwrthwyneb, ac yn bygwth rhoddi blaen y mynawyd i'r sawl a ddywedo air yn 'chwaneg am eu urddas- olrwydd hwy. Yr wyf wedi bod yn hapus iawn i gael ymgom fach ddyddorol gyda'r beirdd wedi ysgrifenu y llith diweddaf, megys Cenydd a Elian, ac y mae pethau yn dysgwyl yn llewyrchus anghyffredin erbyn eisteddfod y Sulgwyn sydd ar y drws, ac mae wmbredd o gyfansoddiad- au, meddai'r cyfeillion, wedi eu hanfon i fewn. Gobeithio eu bod yn dda ac yn newydd spon. Nid oes dadl na fydd y canu yn rhagorol yn yr hen gastell, oher- wydd mae digon o'r penau llwydion yma'n barod i ganu'r alto beth bynag, ac y mae arweinydd cor Caerffili yn dweyd ei fod ef yn gallu eu condmto yn go wych ac yatyried. Yr oedd rhywun a fiddle yn rhygnu'n ofnadwy (chwedl Llew Llwyfo) pryd- nawn y Pasg yn y castell i rhyw barti o ymwelwyr, ac yr oedd y penau llwydion wedi ranco eu hunain ar y tyrau o am- gylch y bailiglas, ac yr oeddynt yn dys- gwyl yn hamadenol iawn beth bynag. Y mae Mr. Tar y haeru na fu e' ddim yn yr ysgib wenith. Fi wna i i'r hen foy Wybod gwell os bydd iddo ef wadu eto; mi ysgrifena i ei eiriau fo i lawr air yn ngair, ac" hefyd fi ddangosa pa ffordd yr oedd ef yn trafod y brwsh a r tar hefyd. Y rheilffordd newydd, o Gasnewydd-ar- ?wvsg trwy Caerffili ac i Bontypridd, lywr topic of the day yma'n bresenol. mae eisieu mwy o gyfleusderau rhwng Caerffili a Phontypridd yn neill- duol, heb son dim am Gasnewydd. 'Does un ffordd o Gaerffili i'r, Bont gyda'r tren, heb ddod drwy Caerdydd ;—ugain milldir o ffordd-neu ynte trwy Fynwent y Cryn wyr; ac fe allai y byddai y gwr 0 Poet's Cottage am stopio y tren ddod y ffordd hono os byddai yn deall fod rhai 0 clic y Bont yn dygwydd bod vn y cerbyd dosbarth cyntaf.—Yr eiddoch yn ffiamllyd, A. ONE.
Advertising
Aberdar—Rhybndd Cyhoeddaa. B^Uul £ Ubyeb>ai t>»wb ma».. Achwy r ac ereill na fyddai fi, William M. Beee, alias W. Meredith. Oxford-street, Aberdar, yn gyfrifol am ddim a roddir i fy ngwraig, Ann Reea. wedi dydd- iad y rhybndd proeeool.—W. M. &B £ 8. Pyddiedig I3eg 0 Fai, 1878. JAMES BISHOP, Coach Builder and Wheelwright, GADLYS YARD, BBlDGBBD, ABERDARE, BEGS to inform the Public generally that he intends carryir g on the above bus ness in all its branches, also Horse Shoeing, &e. Any Orders entrusted to him will be executed punctually and on very mode- rate Terms! Coffinau Rhad Coffiaau Rhad DYMUNA ME. WIILIAM HOWELLS, builder ac undertaker, 11, Pembroke Etreet, a 3, Little Wind Street, Aberdar, tra yn cyflwypo ei ddiolchgarch gwrea- ocaf i'w gyfeillion am ea cefnogaeth am gynifer o flynyddau, eu hysbysu ei fod yn pMhan i wneud Coffioau yn hynod rbad; a'i fod ya ymgvmeryd ag edryoh ar ol angladdaa, arolygo, gwalioy bedd- au, Ac., ei hnn. MB. WILLIAM HOWELLS, Builder & Undertaker, 11, Pembroke St.^& 3, Little Wind St., Aberdare. SIOP DDILLAD BRAD Y GWEITH- WYB. YMAE ROBERT JONIS, Dilledydd, am JL hysb reu ei fod ya gwerthu Edlan iot dda o Ddillad Parod, Hebiau, a Chap- lau am brisoedd ag y bydd yn hawdd i bawb leu cael or fod yr amser yn dlawd. Rhoddwch dro er gweled beth ellif gael am yohydig arian. 1 zo- Yn agos i Farchnad Aberdar. SALEM, FARDRA, GÊB. CLYDAGH CYNELIR Eisteddfod yn y lie nehod dydd Badwrn, Mai 25ain, 1878. Y PBIE DDABNAU COBAWL. 1. Y mae gorphwysfa eto'n ol,' gan J. H. Roberts 8 0 0 A chadair gwerth £ 1 5s. 2. Pebyll yr Arglwydd,' gan Dr. Parry 3 0 0 Y Beirniad: MB. SILAS EVAHS. M Y Programme, yn cynwys yr boll ylion, i'w cael am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd. DANIEL D. DAVIES, Buildings, Olydach, Swansea Valley. Eisteddfod Gadeiriol Caerffili. eXNSLlR yr Eisteddfod aobod Dydd Llan Salgwro, 1878, pryd y gwobrwyir mewn traethodan, bardd jniaeth, osrddoriaeth, oaaiad- aeth, &o. Arweinydd y dydd: Thomas G. Evana, Taw., Sirwaon. Beimiad y traethodan, barddoniaeth, &0.; farch. W. Thomas (Islwyn.) Beirniaid y GtoddoriaethDa, R. SOOBBS, Bangor; ao ALAW DDU, Llanelli. Cyfeilydd y dydd: Mr. D. Bowen, Dowiait. Y Programme i'w gael am y pris arferol. JOHN THOMAS, Cheokweigher, Pwllvpant, Bed- waa, noar Caerphilly, Ysgrifenydd Lleol. EDWARD PSQLLITS, Esq., Caerphilly, Tryaot- ydd. GWYL GERDDOROL TONYPANDY, Otlaft nawdd prifJonedtJtøgr y cylehoedd. DHODDIR Dan Berfformiad 0 Oerddotiaeth- XA; aruchel yn Ebenezer, Tonypandy, Lloa Snlfrwyn, Uehefin lOfed, 1878. Rhan I. I Judas Maoabseua' (Handel); detMl- iad helaeth. Rhan II. Amrywiaeth. SOPRANO: Miss MARY DAVIES, Llundain. TBNOB: Mr. JAMES SAUVAGE, Llundain. BA.S8: Mr. J. L. WILLIAMS, R.A.M. CYDOANAU: Y TON TP ANDY CHORAL UNION a'r MALE VOICE PARTY. PIANO: Miss BELL MORGAN, Treherbart. HABMONITTH Mr. C. C. CAIRD, Tredegar. AawBimrDD: Mr. D. BUALLT JONES. Bydd prawf mewn darllen cerddoriaeth ftigIA singing test) i ddysgyblion y Tonic Sot-Ca yn f oyfwng ar y Programme. I ddeohrea am 2 yn y prydnawn a 7 yn JrlnrJrè Tocynau—(on oyfarfod), Blaanseddan (wedi eft rhifeodi), 3s. 60.¡ ail seddao, 2a.; ol-aeddau, Ith; neu un tooyn ir ddaw gyfttfod—MaonMadM, 41.; ail seddau, 38.. Gan y bydd y Programme am y prydnawn air hwyr yr na lath, a'r priaian yr nn, oymhellfr y ihai y byddo yn gyflena iddynt roddi ea preMoof* deb yn y prydnawn, rhag iddynt fethu oael mya« ediai i mewn yn yr hwyr. Tocynau, programmes, copian o JndaS,' f geirlan, See., ar werth gan Mr. Wm, WtLuijc^ Stationer, Tonypandy. AT DRIGOLION OWMBAOH A'K J>. CYLOHOMDD. TVYMUNWYF yn garedig hyabyn tf U mod y» ba'od, ar y rhybydd llelaf, i derbyn aicbebion (orders) am GoflBin- an (a phob ^*erwaith), a storhaf waMt. da am y pris edi rhrtaf. JOHJT OwBirs, 29, Bcse BOIL OwmoectL Gymry, Gymry, of ra'rweh galon, Bbodawch her i tension; Mae cyflawnder o feadithipn Ya y Qaeensland dir! Tmibdiaeth i'r lie ncbod «e yr 31tin o Fai. MOSWYNION a Gwewion Fiemi- JUOL wyr am ddim; Oolliers a OhreCt^ wyr, £ 5 yr un, a £ 3 am ea gwragsdd. Am fanylion pellaoh, anfonsr, gas amgau staasp, at- MORON. Pontypridd.
CWMAFON.
CWMAFON. MRI. GOL.Yn ystod strike y glowyr yn Nghwmafon, yr oeddwn yn teimlo awydd i ysgrifenu ychydig o hanes a ffeithiau yn nglyn a'r lie ond er cvmaint id ein hawydd, deun rhyw rwystr ar y ffordd yn barhaus, yr hwn a'n lianalluogai i gyflawni y dymiiniad oedd yn [ein medp- lanu. Ond yn awr dyma ni wedi cael ychydig o hamdden, ac yn meddwl dalar y cyfle. Marwaidd ydyw sefyllfa pethau wedi bod ya y lie yn ystod y misoedd diweddaf, a Uawer iawn o annealldwr- iaeth rhwng y glowyr a Mr. Shaw-rhai gweithwyr wedi cytuno i fyned i weithio fieddyw ar un amod, a hyny heb yn wybod i'r rhai ereill, a'r diwrnod arall yn dyfod allan ac yn gwrthod gweithio ar yr amod- au. y cytunwyd arnynt yn flaenorol, a hyny ar wahan i'r glowyr ereill, a'r di- wrnod arall yn cael eu gorfodi gan Mr. Shaw i fyned i mewn ar yr amodau cy- tunedig neu ynte eu cospi, a gorfu iddynt ufyddhau i'r cynygiad. Yna rhoddasant fis o rybudd i Mr. Shaw, am nad oeddynt yn eydweled a'r amodau, a hwythau eu hunain wedi dewis y cyfryw. Cyn eu bod hwy yn terfynu eu rhybudd, cytunodd y rhan arall o'r glowyr a Mr. Shaw eu bod i roddi dau durn y mis cyntaf ac un yr ail yn rhydd i Mr. Shaw, a'u bod i gael y gostyngiad yn ol, a dim ond am y ddau fis cyntaf yr oeddynt i "roddi y llafur crybwylledig am ddim, tra yr oedd y rhai eedd yn gweithio yn Haenorolwedi cy- tuno i roddi tri thurn yn y mis (neu ddau, Did wyf yn sicr), a hyny yn rheolaidd, am faint o amser nis gwn. Mae y glowyr a safasant allan yn gyfangwbl nes dyfod i amodau rhesymol, fel y crybwyllwyd eisioes, yn haeddu canmoliaeth uchal am ddangos y fath wrhydri ar amser mor dylawd, ac am beidio cvmeryd y gostyng- iad yn y cyflogau. Ond erbyn hyn y laaent oil yn gweithio, ac y mae hyny yn X ergyd hapus iyr lie yn gyffredinol. Trueni fod cymydogaeth mor boblog ac enwog a tEhwmafon wedi myned i'r fath sefyllfa ng y mae wedi myned, ac i raddau helaeth V jraddi yn bresenol. Gresyn gweled cynifer O deuluoedd crefyddol yn cael eu gwas- garu oddiyma ar hyd a lied y wlad, a hyny yn unig o herwydd marweidd-dra mas- .nach yn y lie. Yr ydym yn cael ar ddeall fod Eglwyswyr y Cwm yn gorfod teimlo y golled. Gresyn, onite, fod crefydd yn gorfod teimlo o herwydd hyn? Ond yn fwy felly pan yn meddwl ei fod ar law rhai dynion i atal hynyyny lie. Gobeithio y daw y cyfryw i weled eu colled, a cheisio dyfod i fwyo gyd weithrediad a'r gweith- wyr tylodion sydd y dyddiau presenol o dan faich, ie, trais a gormes. Ond peid- iwn digaloni, weithwyr; gobeithiwn y goreu, ac y daw sefyllfa pethau o'r lie y maentyn bresenol, ac y gallwn ninau dalu y pwyth yn ol rhyw ddydd. Daeth i'm clustiau y dydd o'r blaen •' ryw sibrwd eu bod yn myned i atal wyth- nos OJ bob tair yn y gweithiau alcan, o herwydd fod y farchnad yn rhy lawn i dderbyn yr hyn mae y gweithwyr yn ei gyflawni: ond hyd yn hyn y mae pawb yn gweithio fel arferol. Yr wyf yn can- iod un bai mawr yn y gweithwyr alcan, def gweithio a'u holl egni, a hyny yn ddi- fcaid. Clywsom fod rhai yn gweithio yn •1 y rate o ddeugain box yr wyth awr. Yn awr, gyfeillion, ystyriwch y peth yn ddif- rifol, a gweithiwch y dydd, fel y byddoch ar ol gorphen eich turn yn teimlo yn barod i weithio un arall, yn He gweithio trwy'r dydd, nes eich bod ar ol gorphen yn methu braidd a cherdded tuag adref. re byddai y meistr yn atal wythnos o bob tair, byddwn o'r farn yn hollol mai y gweithwyr eu hunain a fyddai yr achos o hyny, ac yr wyf yn sicr na fyddai neb wedi hyny yn fwy parod i achwyn na hwy ea hunain. Byddal yn well, gydweithwyr, gosod rheol i Jawr, a chadw at hono, sef V: gweithio hyn a hyn y dydd. Ond y mae trachwant am arian ar y bobl, fel y mae Jleyflogau yn fwy cysegredig yn eu golwg na bywyd, ac wedi hyny yn myned i'r dafarn i'w gwawrio. Nid wyf yn cyfeirio hyn at weithwyr Cwmafon yn unig, ond at holl weithwyr Cymru. Gofidus genym gofnodi marwolaeth a ckladdedigaeth Mr. Thos. Hughes. Wood- land Row, Cwmafon. Tua blwyddyn yn .1 tarawyd y brawd hwn a'r clefyd poenus fcwnw, y cancer, ond ni feddyliodd neb y byddai hyn yn achos o'i farwolaeth. Bu gydag amryw feddygon yn ceisjo gwell- j had, ond dim yn tycio. Yr oedd yn ddyn caredig a chrefyddwr selog. Bu farw y laf • Fai, a'r Sadwrn canlynol daeth torf luosog i hebrwng ei weddillion marwol i fyawent Mihangel. Gweinyddwyd wrth X tj gan y Parch. E. Roberts. Seion, lie ,011. ein brawd yn aelod ffyddlon am flyn- yddau. Gadawodd d<"ilu galarus ar ei ol. J.M.