Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GLYNDW B.

News
Cite
Share

GLYNDW B. NOD XIIL YELGYRCH ARALL. WEDI cael gwared o Harri a'i fyddiu- oedd, dechreuodd Glyndwr feddwl am ei brif elyn yr hwn, oedd ganddo bell- ach yn y carchar er ys misoedd. Yn mhen tri diwrnod wedi yr helyntion a nodwyd yn y benod flaenoroi fyned heibio, galwyd Arglwydd Grey ger broD. Yr oedd petbau yn dra gwahan- ol y tro hwn i'r tro blaenorol. Yr oedd y prif gaban wedi cael ei addurno yn ardderchog, a digonedd o wirodydd ar y byrddau. Yr oedd yn hwyr—yn tynn yn mlaen ar wyth o r gloch pan arweiniwyd Grey i mewn, ac yr oedd holl sityddogion milwrol Glyndwr yno yn barod i'w dderbyn. Tarawodd y cyfuewidiad rhyfedd hwn y boneddwr a syndod. Nis gallai ddyfaln p3 beth oedd yn bod. Wedi iddo ddyfod i mewn, rhoddodd Glyndwr orchymyn am dynn ei gadwynau ymaith, a'i osod i eistedd ar fainc yn ei ymyl ef. Gyr- odd hyn rhai o'r swyddogion yn fwy na haner hurt, ond yr oedd y lleill yn deall y fnsnes i drwch y blewyn. Wedi i'r ddati foneddwr eistedd yn ymyl ea gilydd am ychydig, trodd Glyndwr ei wyneb at ei brif elyn gan ddywedyd, Yr wyf yn deall eich bod wedi cael digon ar y carchar, a'ch bod yn awydd- ns i anadla awyr iachns mynyddoedd Cymrn." Yr ydych yn deall yn iawn," oedd yr ateb, gan edrych yn samg a difater. Pa beth ydyw yr iawn a delwch am eich ryddhad ?" Gostyrgodd Grey, ei ben gan edrych yn fjfyrgar ar y ddaear, ac yn y cyflwr hwnw y bu am rai mynydau. Yn mhen ychydig cyfododd ei ben i fyny, ac wedi sylln yn myw llygaid ei elyn gof- ynodd, Pa faint ydyw eich gofyn ?" Ugain mil o farciau anr," oedd yr ateb. Os ydych yn barod i dala y swm yna, byddwch at eich ryddid boreu yfory i fyned tna eich gwlad.' Yr oedd y swm yma yn rhyfeddol o fawr, ond er cymaint ydoedd yr oedd Grey yn barod i'w data, ac felly gofyn- pdd, "Pa faint o amser a roddwch ?" Tair wythnos," oedd yr ateb. Pnrion-byddant yma cyn hyny." Y mynyd y delont yma byddwch chwithau at eich ryddid, a dim cyn hyny." "DioL'h am wawr gobaith," eblo Grey yn ddystaw. Ar yr adeg hon dyma rhyw gyffro a symud rhyfeddol o gwmpas y porth, a chyn pen eiliad yr oedd pob un a'i lygaid yn y cyfeiriad hwnw. Yn faan dyma, Sane, merch Glyndwr yn gwneud ei hymddangosiad, yn cael ei chanlyn gan ei saith morwyn. Yr oedd wedi gwisgo yn ardderchog, gyda chadwen o berlau gwerthfawr am ei gwddf. Yr oedd yrolwgarniyn rhyfeddol o swyja,, ol. Daeth yn mlaen ar ei chyfer at ei thad, ac wedi iddi ei gusanu amryw weithiau, eisteddodd yn ei ymyl a gwenodd yn serchus ar y gwyddfodol- ion. Parodd yr olwg arni i'r Sais fyned yn fwy na haner gwallgof. Syll ai arni cauai ei lygaid; syllai dra- chefn, symndai yn ol ac yn ml ten ar ei gadair; ac weithiau ocheneidiau yn uchel fel pe buasai ei galon yn ddolur- us. Yr 03dd ei holl agweddion yn eglar ddangos fod ei feddwl yn terfysgn fel mor aflonydd. Pan aeth yn mlaen taa chymydogaeth deg o'r gloch, estyn- odd Grey ei ben yn mlaen a sisialodd yn nghlust Glyndwr, A ydyw yn bosibl i mi gael siarad gair a chwi yn gyfrinacbol ?" Ydyw," oedd yr ateb. A ydych chwi yn mofyn siarad heno ?" Yn awr os ydyw yn gyfleus." Pnrion caslynwch fl." Cychwyncdd y ddau allan ac i mewn i gaban oedd yn sefyll tna chanol y gwersyll, yr hwn oedd yn wag. Yr oedd Glyndwr wedi arogli y lygoden. Erbyn eu bod i mewn ac eistedd, dy- wedodd Grey. "Yryd-cli yn gofyn ugaia mil 0 farciiu aur oddiwrthyf?" Ydwyf," oedd yr ateb. A ydyw yn ormod i minau ofyn un cais oddiwrthvch chwithau ?" Nodwch ef." "Cael eich merch yn wraig." Wei, y mae yn naturiol i ddynion ienainc i ymserchu yn eu gilydd-y mae natur yn eu dysgu felly." ,If Eithaf gwir, ac y mae yr olwg ar eich merch chwi wedi rhwygo ilinynan fynghalon. Nis gallaf byth fod yn ddedwydd hebddi." Nid oes genyf nn gwrthwynebiad i ebwi ei chael ar yr amod eich bod yn ei pharchu fel gwraig." Caiff fy nghyfoeth a fy nylanwad ei hanrhydeddu. Ni wel eisiau dim daearol byth." "Da genyf glywecL Estynwch eich Haw. Gallaf edrych arnech mwyfel cyfaill ac nid fel gelyn." Gellwch, a byddaf bob amser yn ddidwyll." Gadewch i ni ddychwelyd at ein cyfeillion-y maent yn dysgwyl am danom." Beliach yr oedd Glyndwr wedi cyr- haeddyd ei amcan. Amean y cynull- iad yma y noson hon, yn benaf, ydoedd edrych os gellid enill Arglwydd Grey yn fab-yn-nghyiraith, ac yr ydym wedi gweled y llwyddiant. Yr oedd Grey yn gyfoethog iawn: yn nn o'r rhai mwyaf eyfoethog yn Lloegr, os nid y eyfoethoeaf oll, ac hefyd yr oedd yn bri gyfaill i'r brenin. Yn mhen tair wythnos ar ol hyn unodd y par ienainc mewn glan briodas yn eglwys gadeiriol Bangor, ac wedi tain y swmarian i'w dad-yn-nghyfraith, ymadawodd Grey a'i briod ieaane i'w gaste'l yn swydd Henffordd. Yn awr yr oedd Glyndwr a'i wyr yn barod am rytelgyreh arall. Yr oedd ei fyddin yn awr yn rhifo dros chwech mil ar hngain o wyr, ac yn eu mysg yr oedd rhai milwyr rhagorol. Cymerodd ef ac Ifor dair mil gyda hwynt, a gwynebas- ant tna Thrallwm a Threfaldwyn, pa gastelli a losgasant yn llndw i'r llawr.

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.

MANSEL, FRANCIS, D.D.,

IARLL BEACONSFIELD

PIGION AMERICANAIDD.

HUNAKLADDIAD TRWY WEN-WYN.