Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
YR H ELY NT DWYREINIOL
YR H ELY NT DWYREINIOL Nid oes dim ryn neillduol'wedi troi i fyny mewn cysylltiad a'r Pwnc Dwyrein- iol yn ystod yr wythnos; ond mor belled ag y mae pethau yn myned, ymdawelu y mae yr ystorm. Y mae gwaith ein Llyw- odraeth yn galw allan filwyr brodorol India, a hyny heb ganiatad y Senedd, yn debyg o achosi gofid iddynt. Y mae hyny yn doriad uniongyrchol o gyfraith filwrol y wlad, a thrwy hyny y mae amryw ofyn- ladau wedi cael eu rhoddi yn y Senedd o barthed iddo, a diwrnod wedi ei benodi er dwyn y weithred i sylw. Y mae yn fwy na thebyg y bydd y ddadl yn un bwysig, ac y bydd safle y Llywoclraeth yn cael ei roddi i brawf yn yr ymraniad arno. Cyrhaeddodd Count Schouvaloff i St. Petersburg brydnawn dydd Sul diweddaf, a chafodd ymgynghoriad a'r Y mherawdwr ddydd Llun. Bernir nad oes gan y Count unrhyw gynygion ffifriol, ond ei fod yn esbonio i'r Czar y pethau y mae eisieu cael dealldwriaeth arnynt rhwng y ddwy lyw- odraeth yn flaenorol i gynaliad y Gynadl- edd. Y mae yn fwy na thebyg na cheir dim neillduol am rai dyddiau eto.
TT GWEITIIFAOL A MASNACHOL.
TT GWEITIIFAOL A MASNACHOL. LLYNfi, ToNDU.—Y mae rhybydd wedi ei osod i fyriy yn ngweithiau haiarn cwmni Pynfi, Tondu, ac,Ogmore y bydd pob cyttmdeb rhyngddynt a'u gweithwyr (oddieithr y glowyr) yn darfod yn mhen pedair wythnos o'r dyddiad hwn, Mai lleg, 18.78. RYMNI.—Gwnawd cryn lawer o waith yn ngweithiau dur Rymni yr wythnos ddiweddaf, ac y mae parotoadau yn cael eu gwneUd at allu troi ychwaneg eto. Y mae amryw ffwrnesi pudlo wedi eu goleuo yr wythnos hon, tra y mae archeb dda am reiliau haiarn wedi ei dderbyn yno. F GWKITHIAU, DUB PANTTEG.— Y mae annealldwriaeth <* gryn bwys rhwng gweithwyr a meistri y gwaith hwn, a hyny o herwydd gostyngiad cyflogau mewn rhai adranau o'r gwaith. CAERDYDD. — Y mae ychydig mwy o fasnach wedi cael ei wneud yn mhorth- ladd Caerdydd yn ystod yr wythnos ddi- weddaf. Er fod cryn lawer o lo wedi ei allforio, eto nid oes ond ychydig archeb- ion ar law, ond y mae pawb yn ymdda- ngos ac yn siarad yn obeithiol, a hyny o herwydd y gobeithion y terfynir yr an- nealldwriaeth Dwyreiniol yn heddychol. ABERDAR. — Araf iawn y try olwyion masnach y dyffryn hwn, a'r rhyfeddod yw fod ami i deulu Iluosog yn gallu byw ar yr enillion bycham. Y mae yn dda genym ddeall fod glofa Nantmelyn yn gweithio yn gysonach, tra y mae glo- wyr Abernant yn rhyw obeithio y bydd i'r cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle'gyda golwg ar berchenogaeth a gweithiad y glofeydd hyn yn tueddu i'w llesoli.
., HYN A'R LLALL YR WYTHNOS.
HYN A'R LLALL YR WYTHNOS. Y mae arwyddion amaethyddol y wlad hyd yma yn bob peth y gellir eu dy- muno, a phob math o gynyrch yn ym- ddangos yn rhagorol. Ni chymerodd na chodiad na gostyngiad gwerth ei nodi le yn marchnadoedd ydawl y wlad yn ystod yr wythnos. Y mae dyn o'r eriw Richard Powell, Cwmparc, wedi cael ei ddedfrydu i sefyll ei brawf yn y Cwarter Session nesaf, ar y cyhuddiad o ymosodiad ar yr heddgeidwad, ac o dori ei goes wrth ei gicio. Boreu dydd Llun diweddaf bu farw Mrs. John Bright y dra disymwth yn Rochdale. Yr oedd yn mwynhau ei hiechyd arferol dydd Sul, a phresenolodd ei hun yn nghapel y Crynwyr. Prydnawn dydd Llun diweddaf torodd rhaff un o byllau cwmni y Glamorgan, yn Llwynypia, a thrwy hyny torwyd y cysylltiad rhwng rhyw 340 o ddynion a'r lan. Nis gallai un o'r glowyr ddyfod i'r lan nes gosod i fyny raff newydd. Yn Nowlais, nos Sadwrn diweddaf bu farw yn hynod ddisymwth, Mrs. Blanche Hughes, New Inn, Meuntpleasant-street. Yr oedd hyd yn nod y diwrnod hwnw wedi bod ar hyd y ty. Nos Iau, yr wythnos ddiweddaf, syrth- ioad bachgenyn pedair oed, o'r enw Mm. Shipton, i nant fechan yn agos i Pont- newynydd, a chariwyd ef gan y dwfr drwy felin cyfagos. Cafwyd y corff wedi hyny yn agos i Forge yr Osborne, ac un gr traed yn eisiau. Cymerodd tan dychrynllyd le yn Tenby nos Sadwrn diweddaf, trwy yr hwn y dinystrwyd y rhan fwyaf o'r Belgrave House. Cytrifir fod y golled yn agos i f4,000. Pan yn ceisio achub ei gelfi gweithio o'r tan, collodd saer o'r enw Jones ei fywyd. Dywed hysbysiad o Alexandria fod y Llywodraeth Prydeinig wedi prynu deg erw o dir yn nghymydogaeth Port Said i fod yn arosfa lo i'w llongaft. Y mae genym y gorchwyl pruddaidd yr' wythnos hon o hysbysu darllenwyr y DARIAN am farwolaeth a chladdedigaeth y bardd enwog, loan Madog. Bu farw nos Sul, Mai 5ed, am haner awr wedi deg o'r gloch, yn Porthmadog, yn 66 mlwydd oed. Byr-iawn fu ei gystudd, a bu farw yn hynoa o dawel. Dydd 3,au, Mai 9fed, daeth tlna. fawr o feirdd, lien orion, a chyfeillioji yn nghyd i hebrwng yr hyn oedi farwol i. dy ei hir gartref, yn myn- went helufol eglwys Ynyscynhaiarn, lie gorphwys -yn dawel weddillion, marwol Dafydd y Gareg Wen, Ellis Owen,;Cefn- ymeusy^W, a lluaws ereill o enwogion Cymru.. f mae yn llawenydd genym ddeall fod bwriad i ddwyn allan ei weith- iau ardderchog, pa rai fydd yn drysor Rwerthfawr i'w meddu, ac yn addurn i'r llyfrgell mwyaf coeth. Pe na cbyhoeddid ond ei awdl benigamp ar Yr lawn.1 yn yr hon X-,des ifia y codwm erchyll a'r creithiaolg^fwyd trwy bechod, a'r feddyg- iniaethlwyxa bendigedig geir yn yr lawn, Gutted y groes a gvyd y graith N% welir mo'ni eilwaith byddaij yn werth i bob Cymro wneud ymdrech i gael gafael arni. Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, syrthiodd dyn o'r enw William Thomas dros glawdd uchel yn ymyl gorsaf reil- ffordd Noptymool. Gyrwyd asgwrn ei wddf o'i fe gan y cwymp, a bu tarw yn jVfercher'yf'j Tredegar, wythnos ddiweddaf, collodd glowr ieuanc o'r enw Richard Jones ei fywyd, trwy i gwymp o rubbish ddyfod arno. Bernid i 40 tynell syrthio, a buwyd dwy awr yn dyfod o hyd i'w gorff. Bernir ei fod wedi marw ar unwaith.
— ABERDAR - HUN ANLADDIAD.
— ABERDAR HUN ANLADDIAD. Boreu dydd Mawrth diweddaf, taflodd hen wr o'r enw John Burrows, masiwn, 70 oed, ei hun i lawr oddiar bont Cwmdar, yr hon sydd o uchder anferth, trwy yr hyn y collodd ei fywyd yn y man.
.--:0:---YMGAIS AT FRADLOERUDDIO…
-0: YMGAIS AT FRADLOERUDDIO YMHERAWDWR GERMANI. Dydd Sadwrn diweddaf, pan yr oedd Ymherawdwr Germani yn gyru allan yn ei gerbyd, darfu i of alcan, o'r enw Hadel, yr hwn y dywedir a berthyna i Leipzig, danio amryw ergydion o lawddryll at ei Fawr- hydi, ond yr oil yn ddieffaith. Cymerwyd y drwgweithredwr i fyny ar unwaith, yn nghyd a pherson arall o labrwr perthynol i Berlin, ar y drwgdybiaeth ei fod yn cyduno yn y weithred.
« RHYFEDDODAU Y CHWYDD-WYDR.
« RHYFEDDODAU Y CHWYDD- WYDR. Trwy gymorth yr offeryn rbyfedd hwn, gwelir fod llwydni (molcl) yn elltydd o goed mawrion, heirdd, yn llawn cangen- au, dail, a ffrwythau. Fod butterflies wedi ell gorchuddio gan blu fel ieir, neu hwyaid. Pibellau mawrion ydyw gwallt ein pen, ac y mae arwynebedd ein cyrff yn genog (scaly) fel pysgod. Mae 'y scales hyn mor fan fely cuddia un gronyn o dywod 150 o honynt, ac mae un scale yn gorchuddio 500 o chwysdyllau, drwy y rhai y mae y chwys ynymdwyallt tel dwfr trwy ogr. Mae pob dyferyn o ddwir llonydd yn cynwys miloedd o greaduriaid byw yn uofio gyda chymaint o ryddid a'r mor- fil yn yr eigion mawr. Mae ar bob dalen drefedigaeth o drychfilod yn pori fel gwartheg ar y ddol. Mae dyferyn o furym (yeast) yn fyd cyfan ynddo ei hun ar raddfa feehan, a gellir grweled ynddo y mor a'i donau geirwon yn llawn o bysgod byw, y weirglodd yn y 0 cael ei britho gan bedwarcarnoliaid, coedwigoedd mawrion yn tyfu, blodeuo a ffrwytho, ac adar as^e.log yn cann a nythu yn y llwyni.
PRAWF PWYSIG YN NGWM RHONDDA.
PRAWF PWYSIG YN NGWM RHONDDA. Dydd Llun diweddaf, o flaen Gwilym Williams, Ysw., dygwyd rhyw 25 o bersonau, y rhan fwyaf o ba rai oeddynt yn arferol o weithio yn Blaenclydach, ond yn awr sydd ar strike, ar y cyhuddiad o gyflawni amryw weithredoedd a duedd- ent i geisio rhwystro yr ychydig a weith- iant yno yn bresenol, i beidio myned at eu gwaith. Galwyd amryw dystion yn mlaen i brofi y cybuddiad. Yi bedd gan y gweithwyr hefyd gyfrcithiwr rhagorol yn mherson Mr, Woodward, Abertawe otd ar, ddiWecld y prawf, yr hwn a bar- haoedd am amryw oriau, dedfrydvvyd Edward Qibbon, i dalu 5p.;a'r costau, neu ei gareharu am fis gyda llafur caled. Oedwyd "rlioddi dedfryd ar y gweddill, a hyny ar gais cyfreithiwr yf 'erlynwyr, yr hwn a awgryinodd, os bycld jft cyfryw ymddwyn yn deilwng, ei bod yA fwy na thebyg y gofynant am ganialiad i dynu y cyhuddiad y$ol. (Janiatoe^d y fainc hyny, ac. y mae Mr. W. Abraha|| (Mabon) wedi myned yn bersonol gyfrifol am ym- ddatigosiad y 24 yn mheri mis.
..' AELOD SENEDDOL NEWYDD…
AELOD SENEDDOL NEWYDD BWRDEISDREFI CAERF^DDIN. c Y mae Mr. B. T. Williams, barffyfreith- Wr, Wedi ei ddychwelyd ynddi wrinwyneb- iad dro3 fwrdeisdrefi Caerfyrddin, a dywedir mai efe ydyw yr anghydffurfwr cyntaf *a'u cynrychiolodd eriaed yn y Senedd. Y mae dychweliad Mr. Williams yn brawt, o allu anwrthwyneboiRlivdd- frydiaeth ac anghydll'urfiaeth ood iddynt fod yn ohest tuag atynt eu hunain. Ganwyd' Mr. Benjamin Thomas Wil- liams ar y 9fed o Dachwedd, 1833, yn Merryvale,. yn agos i Narbeim, swydd frydwr o'r rhyddfrydwyr. Y mae ei lwyddiant fel bargyfreithwr wedi bod yn em, ac nid oes amheuaeth, os caiff efe d, nad oes dyfodol gorwych yn ei aros. »
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Yn mhlith lluaws o bethau da perthyn- ol i chwarelwyr Festiniog, y mae un peth ag sydd yn dra rhagorol, sef eu hoffder o lenyddiaeth a chyfarfodydcl llenyddol. Nos Wener diweddaf cefais y fraint o weled yr hoffder hwn yn caul ei ddad- biygu mewn modd effeithiol iawn, trwy fod yn bresenol yn y nawfecl gystadleu- aeth lenyddol a cherddorol chwarelwyr y Welsh Slate, yn yr Assembly Rooms, Blaenau, Ffestiniog. Cynelir y cyfar- fodydd hyn yn flynyddol (dealler hefyd fod cyffelyb gyfarfodydd mewn cysylltiad a'r oil o'r prif chwarelydd). Metbasom a chyrhaedd erbyn y cyfa:fod nos Iau, ac am hyny ni wnawn sylw arno rhag ofn camgymeradau. Llywydd y cyfarfod nos Wener ydoedd Mr. Robert Owen, Rhiw House, arolygydd Chwarel y Welsh Slate, a Mr. G. Griffiths (Gwilym Ebrill) yn arweinydd a beirniad y farddoniaeth, a Mr. J. Thomas, Llanwrtyd, yn feirniad ar y rhan gerddorol. IANTO.
. NANT/MOEL,-
NANT/MOEL, Traddodwyd darlith yn y lie uchod nos Fercher, Ebrill 8fed, ar'Spurgeon a'i Lufur,' gan y Parch. J. A. Morris, Aberystwyth. Llywyddwyd gan Mr. D. Pryce, Ocean Colliery. Yr oedd y ddar- lith yn un bwrpasol ac addysgiadol iawn, a bu y d iriithydd yn alluog i gadw y cynulleidfa yn hapus a chysurus am dros ddwy awr. Cafwyd sylwadau dy ddorot iawn gan y llywydd. Yr oedd elw y cvfa fod tuag at leihau y draul o adeiladu capel y Bedyddwyr yn y lie Nos lau caw.)om y pleser a'r hyfryd- wch o glywed y patriarch o Donyrefail yn pregethu am y tro cyntaf yn nghapel y Methodistiaid Calfiaaidd yn y lie. G illern feddwl i bawb gael gwledd yn y cyfar fod awn. Yr oedd yr efengyl yn ei llawn flas, ac arabedd a hyawdledd yr hen batriach parchus mor ddysglaer ac erioed. UN OEDD YNO.
(, CWMAFON.
( CWMAFON. TANYSGRIFIADAU.—Yr ydym ni, glo- wyr Cwmafon, yn ueisyf am ychydig le yn eich newyddiadur i hysbysu am y symiau a dderbyniasom oddiwrth y lle- oedd a'r personau canlynol, gyda diolch- garwch Pontarddulais, 16s. St. David's Pit, Llangenech, 4s. 7c. Cefn- cnbwr slant, 8s. 4c. Tewgoed c., 19s. 9c.; Meadow Pit, 14->. Msir^m Tinwork puddlers, 5s. Oakwood slant, 1p. 10s.; Taibach Copp-rworks, 8s. Finery slant, Cwmafon, 17s. 6c.; 34 level 0., 6s. 6c. 28 level, 3s. 25 level, 4s. 31 level, lp. 4s. 6c.; William Owen, C.J., Nantymoel Inn, Aberafon, 14s. 5c.; Elins Williams, 2s.,¡ B. Davies, G., Aber- afon, 3s. Enoch Davies, 2s. William Rees, R.L., 3s. John J< nes, drape*, 2s. 6c. Parch. Richard Williams, 2s. Parch. John Evans, 5s. Patch. Jet kin Jenkin, 2s. 6c.; D. M. Davies, 0., 2s. 6s.; Thomas Thomas. 2s. cyfaill, 10s.; man symiau, lp. Is. Hef)id yr ydym un gyd- nabod y Parch. Mr. Hughes, curate, Cwmafon, am ei ymddygiad gwrol a'i deimlad dyngarol yn ymgymeiyd a chyf- ryngu rhyngom pan yr oeddem mewn ryfel yn erbyn trait, yn yr hyn y llwydd- odd i raddau am. amser, beth bynag; ond yr ydym yn gydwybodol yn dweyd iddo ef wneud ei oreu, ac nid yn fynych y"gwelwn foneddigion fel efe In ymgy- meryd a phethauo'r fath. Yr ydym yn dra diolchgar iddo am ei ewyllys da.- Dros y pwyllgor, THOMAS WILLIAMS, Trysorydd. ELIAS ELIAS, Ysgrifenydd.
BLENCLYDACH, CWM RHONDDA.
BLENCLYDACH, CWM RHONDDA. A ganlyn ydyw cofres o'r tanysgrifiad- au a dderbyniwyd o Mai y 4ydd, hyd MaiyrSfed :-Glofa 1 laenclydach,lis.3c.; glofa Cwmclydach, 2p.; glofa Marine Hhondda, Pontypridd, 2p. 2s. 9c.; glofa Great Western, 5p, 17s.; glofa Cwoapa. c, 2p. 2s.; glofa Gelli, 1 p. 10s. 10c.; gan y Cynrycliu.lwyr, Is. :3c.; Miskin Hotel, 2p. 6c.; glofa Penrhywfer, 15s. 10Jc,; masnachwyr Tonypandy, Ip. 14s. 6c.; glofa, No. 3 Llwynypia, 4p. 10s.; glofa, 'iynybedwj gan Of, 2s.6c._ Xcyf-. answm ydyw 22p 5s. 5|c. Derbynix pob arian yn ddiolchgar gan T. D. WIL- liairs, Ysg.; Henry Walton, Trys., Tony- pandy, ger Pontypridd.
GLOFA Y DAR, CWMPARC.
GLOFA Y DAR, CWMPARC. Yr ydym ni sydd a'n henwau isod, fel personau cyfrifol, ac wedi ein dewis gan ein cydweithwyr yn gydfynedol a Rheol Gyffredinol 30ain o ddeddf Rheoleiddiad Mwngloddiau 1872, i archwilio yr holl waith newydd a hen yn y lofa uchod, wedi gwneud ymchwiliad manwl y 7fed o Fai, ac yr ydym ni, y rhai fu oddiam- gylch y wythien uchaf, wedi cael yr holl waith newydd a'r hen yn hollol rydd oddiwrth nwy, oddigerth rhyw ychydig o nwy a gawsom ar ben cwymp yn hen heading Thos. Griffiths yn y North, Gallwn ninau y rhai fu oddiamgylch y wythien isef ardystio fod yr holl waith newydd a hen yn hollol rydd oddiwrth nwy ac y mae yn dda genym allu hys- bysu fod sefyllfa y gwaith yn bresenol y cyfryw ag sydd yn siarad yn uchel am allu a medrusrwydd Mr. R. Reynolds y goruchwyliwr a'i swyddogion yn awyru y gwaith eang hwn mor dda, yn nghyd a'u gofal mawr i'w gadw mor ddiberygl oddiwrth y gelyn dinystriol hwnw sydd wedi hyrddio miloedd o'n cydweithwyr i dragwyddoideb, a hyny yn anamserol. Arwyddwyd dros y wythien uchaf, THOMAS RICHARDS, DANIEL EDWARDS. Dros y wythien isaf, JOHN EDWARDS, MORGAN RRRS.
GLOFA TYLAUCOCH.
GLOFA TYLAUCOCH. Yr ydym ni sydd a'n enwau isod wedi archwilio y lofa uchod, ac yr ydym wedi ei chael yn hollol rydd oddiwrth un crynhofa o nwy—yr hen waith yn iachus —returns yn dda—m-mhol s yn lan—peir- ianau mewn cyflwr da. Y mae y cyfan yn ddyogel ac yn eithaf dymunol. Arwyddwyd, LEWIS WILLIAMS, THOMAS. JONES.
RHYBUDD.
RHYBUDD. Cynelir cyfarfod gyffredinol o holl aelodau perthynol i 11111 Lefel yr Afon, Abernant, yn y LORD NELSON, prydnawn dydd Sadwrn, Mai 18fed, 1878, am bump o'r gloch. Dysgwylir l bawb sydd yn dal cysylltiad a'r uchod i bresenoli ei hunain, gan fod materion pwysig dan sylw. Ar ran y Gymdeithas, R. ASHTON, Ysg.
.. IDAMWAIN GLOFA Y MIDDLE…
DAMWAIN GLOFA Y MIDDLE DYFFRYN. Mewn cysylltiad a'r ddamwain angeuol a gymerodd le yn ddiweddar yn y lofa hon, hanes pa un a ymddangosodd yn ein colofnau, yn yr hanes hwnw yr oedd gair neu eiriau nad oeddynt yn eistedd yn hapus ar feddyliau rhai, o ba herwydd y gwnaeth pwyllgor y gwaith, neu ran o hono, sef Thos. Thomas, Jonathan Rees, W. Griffiths, W. Rosser, David Evans. Evan Richards, John Bowen, a David Jones, ymchwiliad pellach. Galwasant am un o fechgyn y DARIAN, yr hwn, er eu boddloni nad oedd un 'amcan drv, g gan awdwr yr ysgrif, a ddarllenodd y wreiddiol, a gwelsant ar unwaith nad oedd yr hyn a ymddangosodd yn y D> IAN ond talfyriad, ac nad oedd y geiriaa yr achwynent arnynt ond geiriau o eiddo y cysodydd yn y talfyriad, ac felly K.d ysgrifenydd y cyfryw ysgrif yn rhydd. Dywedodd Thomas Thomas a Jonathan Rees nad oedd dim yn yr ysgrif ond oed s yn iawn, a'u bod yn cymeradwyo yr oil: os oedd bai yn bod, mai arnom ni yn y swyddfa yr oedd,. ac yr ydym yn ei gymeryd ond yn nghylch y gair ..vr tach, nad oedd i'w olygu wrth hyny fod awyr y weithfa yn afiach ond fe v/yr pawb fod awyr pen y pwll yn lanach });l dim a geir mewn unrhyw lofa. Gyda rhoddi yr ychydig esboniad uchod, fe ddymunwn ddweyd fy mod wedi cael prawf o'r anfoneddigeiddrwydd fileiddiaf ag y bum yn dystion o hono erioed, yn yr helynt hwn, ac na fydd i mi ran na chyf- ran ag v» o'r wyth mwyach o dan uiiri y w amgylcbiad, tra na charwn ychwaith ym ddiried bywyd na chymeriad 11Yboden eglwys i ddyn mor ddifoes.
.4 ,. V . GLANDWR A'I HELYNTION.…
4 V GLANDWR A'I HELYNTION. Cafodd cymdeithas adeiladu Glandwr golled fawryn ddiweddar trwy farwol, mth n 7Sgrifmydd;^»^a^ ymddirtfea, gair da iddo gan bawb, a chaa y gwirionedd ei hun ond bu yr aelodau yn gall yn eu cenedlaeth wrth ethol Mr. Elias Hughes i'r swydd. Yr hen ddiareb ydyw 'New broom sweep clean;' felly yma. Y peth cyntaf a ddaeth dan sylw ydoedd fod y trysorydd, (Mr. R. Jenkins o Frynpistyll) er yn y swydd bwysig hon .am fiynyddau, eto heb roddi s>r.uvit'i yn unol a'r rheolau, a mawr y syrdod a barodd y newydd i'n clustiau ni fel aelodau, fod y fath esgeulusdra wedi bodoli cyhyd. Penderfynwy. ar unwaith fod y swyddog gwiwlan i enwi y mechni. on yr wythnss ddiweddaf ag yn siwr i chwi nid oes yn awr achos ofni mymrin, dim ond cael y bonds wedi eu cwbihau, ag cr mwyn tawelwch i fy hun a rhai o fy nghydaelodau i.e/ms, hysbysai trwy gyfrwng eich papyt poblogaidd, nad oes gwell personau yn y sir nag a enwcdd y trysorydd i'w fechniu ef, sef Mr. William Williams, ^er^, Millbrook Tin Works; a \>r. John Humphrey, architect i Fwrdd Ysgol Abertawe. WIL RHYDYFRO.
0 TRIOEDD 0 BIRCHGROVE.:
0 TRIOEDD 0 BIRCHGROVE. Tri pheth yn y lie Darllen y DARIAN nos Fercher, ymladd a gormeswyr, a di- aconiaid dirwestol yn prynu bottled porter b The dozen. Tri pheth hysbys yn y lie: Gobaith elw rhai dynion yn myned i golii, teilwr- iaid yn cadw mwstwr, a gwneuthurwyr coffinau yn myned yn gyfoethog. Tri pheth yn eisiau yn y lie: Co-rpe-a- live stuie>, mwy o ddarllen y DARIAN, a llonyddwch i wneud daioni. GITTO NYTH BRAN.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Mai 12fed, priod Mr. David liees, coedwr, Cwmaman, Aberdar, ar lerch. Mai 12fed, priod Mr. Henry John, IV tardawe, ar lerch, a gelwir ei bonw Dinan. Ebrill 19eg, priod Mr. James Morgans^ Hhydodyn, ger Mynyddygareg, Cy iwelij ar ferrh, Ebrill 21ain, priod Mr. Dame: C-I 'vell, Goitre Isaf, Mynvddygareg- C.> dvvoli, ar tab a gelwir ef Dal dd MARWOLAETH 1 U. Ebrill 21ain, ar ol hir gystudd, iNir- Williams, priod Mr. D. Williams. rfa. Go h, Cydweli. Talwyd y gym^ ynas olal i'w gweddillion marwul cid, d4, Gwener canlynol, pryd y caeth tyrfa luosog yn nghyd i ddangos eu parch c,'u cydymdeimlad a'r teulu galaruv.