Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

OWAIN GLYNDWR.

News
Cite
Share

OWAIN GLYNDWR. PEN 0 D VIII. AR Y MYNYDD. Wedi iddynt fyned trwy y mnr, aeth y mur yn ol i'w le drachefn, a'r eiliad yr aeth, dywedodd y foneddiges, Yr ydym bellach yn ddyogel—nis gall neb ein eanlyn-Bymudwch yn mlaen." Symudodd y ddau yn mlaen ar hyd y rodfa am tua chant neu gant a haner o latheni, ac yn y fan hono yr aethant yn erbyn mur neu graig gadarn. Nid oedd dim arwyddion fod nebwedi tram- wy y ffordd hono wedi y dilaw. Gdlid meddwl wrth edrych ar y graig nad oedd dim wedi eyffwrdd a hi wedi y cread. Aeth y foneddiges yn mIaen at ymur, ac wedi eyllu a gwrando am ychydig, gosododd ei throed fechan ar spring oedd yn rhedeg gy3a y llawr, ac agorodd y mur yn ddwy rhan, a chawsant ffordd rydd i fyned yn mlaen ar hyd y rodfa. Wedi iddynt basio, trodi y foneddiges a gosododd ei throed ar spring ar311, a chacodd y graig i fyny fel jr ydoedd In y dechreuad. 0 "Nid oes ond un yn y castell hwn," ebe hi, yn gwybod am y fjnedfa hon, a myfi ydyw yr un hwnw. Myr edfa ddirgelaidd ydyw ac nidun gyhoeddus." "Nid wyfyn h, dio rhyw lawer," oedd yr ateb, "pa beth ydyw os gwna ein harwain ni allan yn ddyogel." Nid wyfyn gwybod pa un a wna ein harwain al'an yn ddyogel ai peidio, ond gwnawn ei chynyg." .1 Aethant yn mlaen drachefn am ychydig, pryd y safodd y foneddiges yn sydyn gan droi ei chlust st y mur nen ochr y fynedfa, ac wedi gwrando yn astnd am rai mynydau, dywedodd, Awn yn groes ffordd yma," a'r eil- iad nesaf yr oedd y graig yn ymagor fel y tro blaecorol, a hwythan yn cael lie rhydd i fyned rhagddynt. Tu fewn i'r mur hwn yr oedd ystarell eang ac addurniedig, yn cael ei goleuo gan ddeg o lampau mawrion yn crogi yn y nen. Aeth bi yn mlaen ar ei chyfer yn agos i'r gongl bellaf, a chanlynodd yntau hi. "Eisteddwch yn y fan yna," ebe hi gan gyfeirio ai bys at rhyw beth tebyg i gadair farnol. Gafaelodd mewn cloch fechan oddiar y bwrdd, ac ysgydwodd hi ddwy neu dair gwaith, a chyn pen haner mynyd yroedd chwech o fonedd- igesau a chwech o foneddwyr yn gwneud eu hymddangosiad. "Pa beth a geisia y Dywysoges Elianor ?" ebe un o'r dynion. "Arlwyo y bwrdd hwn," oedd yr eteb a chyda Haw y mae genyf yr anrhydedd o gyflwyno i'ch sylw Cad- ifor, prif swyddog Owain Glyndwr, sef nn o ryfelwyr blaenaf yr ynys. Daeth yr oil foneddigasan a bonedd- igion yn mlaen, ao ysgydwasant ddwy- law a'r Cymro, a dywedodd pob un witho, Bendith y Forwyn fyddo ar eich ben." Cyn pen pum mynyd yr oedd y bwrdd wedi cael ei orchuddio a dan- teithion penaf natur, a phob un yo cyfranogi ar ei oren. Wedi i bawb gael eudiwallu, gafaelodd y dynion yn eu hofferynan cerdd, a chwareuasant amryw donan yn swynol dros ben, tra yr ydoedd y boneddigesau yn dawnsio. Yr oedd yco le rhagorol. Yn mhen tnag awr neu awr a haner dywedodd y fon- eddiges Yr wyf yn rhwym o symnd y bon- eddwr hwn allan, ond dychwelaf cyn y boreu. Pan dychwelaf, byddaf yn got- yn am eich cymhorth," Gyda hyny yr oedd yn cyfodi oddiar ei sedd Be yn cychwyn tua'r prif borth, yn cael ei chanlyn gan y swyddog Cymreig. Wedi myned allan i'r brif fynedfa,' gosododd ei throed ar y spring, a chawsant ffordd rydd i fyned rhagddynt. Wedi myned yn mlaen ar hyd y fyEedfa am tua dau cant o lath- eni, dsethant at far eilwaitb, a safodd y foneddiges fel y troion blaenorol. Wedi sefyll am ryw fynyd neu fynyd a haner, dywedodd y foneddiges, A welwch chwi y pecyn yna sydd wrth y mur ?" "Wrth y mur-yn mba le?" oedd yr ateb. Dyna ef ar eich cyfer." Pw!—gwelaf." "A gotweh ef a gosodwch ei gyn- wysiad am danoch." Gafaelodd ein gwron yn y bwrn, ac wedi ei agor, cafodd ei fod yn cynwys gwisg chwaer drngaredd. Taflodd y dillad am dano mor rhwydd ag y medrai, ac wedi gorphen dy wee odd, Yr wyf yn edrych yn noble yn awr. "Gosodwch eichdwyfraichynmhleth areich mynwes eto," ebe y foneddig- Es, "a thynwch y gorchudd sydd ar eich gwyneb yehydig yn nes i lawr. Dyna ef yn awr. Wedi i ni fyned allan, cerddwcb yn araf a phwyllog ar fy ol hi, a gofalwch na ddywedwch air wrth neb. Os dywed rhyw un ryw beth wrthych chwi, peidiweh a'i ateb—peidiwch a chymeryd arnoch eich bod yn ei glyw- ed. Yn awr dyma fi yn agor y porth, a chofiweh fy nghyfarwyddyd." Yna gosododd ei throed ar y spring, ac yn fuan yr oeddent yn syllu ar y ser yn chwareu uwch eu penau, a'r lleuad yn myned i'w gwely yn y gorllewyn pell. Wedi i'r eneth sefyll a gwrando am ychydig, cyehwynodd rhag ei blaen. Yr oeddent yn awr tu allan i ffiniau y dref, ac yn yrrfyl cornant fechan, a darfu iddyntddilyn hono i fyny hyd nes idd- ynt gyrhaeddyd y brif ffordd. Croes- iasant y brif ffordd, a dilvnasant lesh- wedd y mynyddifynyibwyntyr Wydd- fa. Wedi iddynt fyned can belled a Chroes Arthur, gosododd y foneddiges ei phwys i law rar gaieg o gryn faint, a dvwedodd. Dyna chwi bellach. yn ddyogel ac allan o berygl." le," oedd yr ateb, ac i chwi yr wyf yn ddyledus, nid am fy rhyddyd, ond hefyd am fy mywyd. Pa beth a dalaf i chwi ?" Dim--nid wyf yn gofyn dim." "Bendith y Forwyn fyddo ar eich pen ond y mae rhyw ddirgelwch rhy. teddol yn eich holl ymwneud mewn cysylltiad a mi nas gallaf ei ganfod na ei ddehongli." "Wel?" Pa beth yw yr achos eich bod yn teimlo y fath ddyddordeb ynwyf ?" Plygodd y foneddiges ei phen i'lawr, ac yn y cjflwr hwnw y bu am rai myn- ydan, ond yn sydyn cyfododd ei phen i fyny a dywedodd, Y mae calon merch yn dra gwahan- ol i eiddo boneddwr ieaanc fel chwi. Nis gall merch lywodraethu cynhyrf- iadau ei chalon, ond gellwch chwi wneud hyny, er fe ddichon mai gor- chwyl poenus fydd hyny lawer pryd. Os bydd i ferch ollwng ei serch i afael- yd mewn boneddwr ieuanc, nis, gall lywodraethu ei nwyd-y mae yn rhwym o redeg ar ol gwrthddrych ei serch, bydded y canlyniadau y peth a fydd- ont."

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.

IARLL BEACONSFIELD

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD GADEIRIOL…